Jump to the Adviceguide home page
Adviceguide, advice that makes a difference
skip navigation
Jump to the Adviceguide home page
 England   Northern Ireland   Scotland   Wales   Cymru 
Eich arian
Eich teulu
Eich byd chi
Eich hawliau chi

:

 

(New window) Dod o hyd i'ch CAB agosaf

(New window) Ydyn ni wedi bod o gymorth? Plîs, cefnogwch ni

(New window) Gwirfoddolwch

 

Y tro diwethaf y diweddarwyd y safle oedd Tachwedd 21 af 2008.

Fe fydd pob dolen gyswllt at wefannau eraill yn agor mewn ffenestr newydd.

Cymru   

- Yng Nghymru

 

 


Budd-dal newydd i bobl sydd ddim yn medru gweithio

Mae'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn fudd-dal newydd i bobl sydd â gallu cyfyngedig i weithio oherwydd afiechyd neu anabledd.

Daw'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth i gymryd lle Budd-dal Analluogrwydd a Lwfans Anabledd Difrifol, ond dim ond ar gyfer ceisiadau newydd a gyflwynwyd ar neu ar ôl 27 Hydref 2008. Mae hefyd yn cymryd lle ceisiadau newydd am Gymhorthdal Incwm a gyflwynwyd ar sail analluedd i weithio.

Os ydych yn hawlio Budd-dal Analluogrwydd, Lwfans Anabledd Difrifol neu Gymhorthdal Incwm oherwydd analluedd i weithio cyn 27 Hydref 2008, fe fyddwch yn parhau i gael y budd-daliadau hyn am y tro. Ond, fe fydd disgwyl i chi drosglwyddo at y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn nes ymlaen. Ni phenderfynwyd ar y dyddiad ar gyfer gwneud hyn eto.

Fe fydd y rhan fwyaf o bobl sy'n hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn cael nifer o asesiadau i benderfynu a ydynt yn medru gweithio. Fe fydd un neu fwy o gyfweliadau â ffocws gwaith hefyd.

Fe fyddwch yn medru cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth am gyfnod cychwynnol o hyd at 13 wythnos. Yn ystod y cyfnod hwn, fe fyddwch yn cael asesiad i benderfynu beth ddylai ddigwydd i'ch cais ar ddiwedd y 13 wythnos. Os nad ydych yn bodloni'r asesiad, ni fyddwch yn medru aros ar Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ac fe fydd angen i chi hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yn lle.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dal Analluogrwydd a Lwfans Anabledd Difrifol, gweler Budd-daliadau i bobl sy'n sâl neu'n anabl.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Cymhorthdal Incwm, gweler Help i bobl ar incwm isel – Cymhorthdal Incwm.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Lwfans Ceisio Gwaith, gweler Budd-daliadau i bobl sy'n chwilio am waith.

Am fwy o wybodaeth ynghylch y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, gweler gwefan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn: (New window) www.jobcentreplus.gov.uk.

Os nad ydych yn medru gweithio oherwydd afiechyd neu anabledd, efallai y bydd angen i chi gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

 
   
 

Disclaimer, Copyright and Privacy Policy. Copyright © 2002-2008 (New window) Citizens Advice. All rights reserved.
Cyngor Ar Bopeth Cymru is an operating name of the National Association of Citizens Advice Bureaux, Charity registration number 279057, VAT number 726 0202 76, Company limited by guarantee, Registered number 1436945 England, Registered office: Myddelton House, 115-123 Pentonville Road, London N1 9LZ