Pam mae hyn yn bwysig?
Termau a ddefnyddir mewn gwybodaeth ynglyn â threth
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Buddion ymarferol
Mae buddion ymarferol yn fuddion anariannol megis ceir y cwmni a roddir i weithwyr. Roedden nhw’n arfer cael eu galw’n fanteision ymylol. Mae’r mwyafrif o fuddion ymarferol yn drethadwy. Mae yna reolau gwahanol os yw gweithiwr yn ennill llai na swm arbennig bob blwyddyn.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â buddion ymarferol, ewch i Buddion ymarferol.
Treth Enillion Cyfalaf
Treth Enillion Cyfalaf (CGT) yw treth ar y cynnydd yng ngwerth asedau megis eiddo neu gyfranddaliadau, dros y cyfnod maen nhw’n eiddo i chi. Yr ydych yn talu TEC pan fyddwch chi’n gwerthu’r asedau neu’n eu rhoi i ffwrdd. Nid oes rhaid i chi dalu CGT ar eich car, eich prif gartref (cyhyd â bod amodau arbennig yn cael eu hateb) ISAs neu eiddo personol sy’n werth £6,000 neu lai pan werthwch chi nhw.
Bob blwyddyn, mae gennych hawl i swm o enillion cyfalaf sy’n rhydd o dreth.
Manteision ymylol
Mae Cyllid a Thollau EM bellach yn defnyddio’r term buddion ymarferol.
Cymorth Rhodd
Mae Cymorth Rhodd yn ffordd o roi swm rheolaidd neu swm un-tro o incwm wedi’i drethu i elusennau. Gall yr elusen wedyn hawlio’r dreth yn ôl.
Cyllid a Thollau EM (HMRC)
Adran y llywodraeth ydyw Cyllid a Thollau EM sydd â chyfrifoldeb am asesu a chasglu y rhan fwyaf o fathau o drethi, yn cynnwys TAW. Mae HMRC hefyd yn gyfrifol am dalu credydau treth a budd-daliadau plant.
Treth Incwm
Treth incwm ydyw’r dreth ar incwm. Mae’n rhaid i chi dalu treth incwm ar y mathau canlynol o incwm:
- incwm cyflogaeth
- incwm pensiwn
- incwm nawdd cymdeithasol
- incwm hunan gyflogaeth
- incwm o eiddo
- incwm o gynilion a buddsoddiadau
- incwm amrywiol.
Lwfansau treth incwm
Mae pawb sydd fel arfer yn byw ym Mhrydain yn gymwys i dderbyn rhywfaint o incwm bob blwyddyn cyn bod rhaid iddyn nhw ddechrau talu treth. Gelwir yr incwm hwn yn lwfans personol. Mae yna hefyd lwfansau ychwanegol eraill all leihau’r dreth y mae’n rhaid i chi ei dalu. Fel arfer cyhoeddir swm y lwfansau bob blwyddyn.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â lwfansau treth incwm, gweler Symiau a Lwfansau treth incwm.
Cod treth incwm
Cod treth incwm ydyw’r cod a roddir gan Gyllid a Thollau EM, sy’n dangos pa lwfansau mae gweithiwr yn eu cael o dan system Talu wrth Ennill (TWE/PAYE). Fel arfer mae’r cod yn rhif tri ffigwr a’i ddilyn gan lythyren.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chodau treth a TWE, gweler System Talu wrth Ennill (TWE/PAYE).
Cyfraddau treth incwm
Cyfraddau treth incwm ydyw’r cyfraddau canrannol yn ôl yr hyn y telir treth. Gall mwy nag un cyfradd canrannol fod yn berthnasol ar y tro, yn dibynnu ar lefel eich incwm a’r math o incwm gaiff ei drethu. Cyhoeddir cyfraddau treth incwm a bandiau incwm bob blwyddyn yn y gyllideb a gellir dod o hyd iddynt ar wefan Cyllid a Thollau EM yn: www.hmrc.gov.uk.
Gostyngiadau treth incwm
Fel trethdalwr, os ydych chi’n gwario arian ar dreuliau arbennig, gall y swm yr ydych yn ei wario gael ei ddidynnu o’ch cyfanswm incwm. Mae hyn yn golygu y byddwch yn talu llai o dreth. Gelwir y symiau hyn yn ostyngiadau treth.
Mae’n rhaid i chi hawlio rhai gostyngiadau trwy ysgrifennu at eich swyddfa dreth, er bod y mwyafrif yn awtomatig. Nid oes rhaid i chi gymryd camau i hawlio gostyngiadau awtomatig.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gostyngiadau treth incwm, gweler, Gostyngiadau Treth.
Trethiad annibynnol
Arferid trin parau priod fel un uned i bwrpas treth incwm, ond ers 6 Ebrill 1990, trethir pob priod yn annibynnol o’i gilydd.
Treth Etifeddu
Treth etifeddu ydyw’r dreth a delir ar ystâd person ar ôl ei farw. Arferai gael ei alw’n dreth stad neu’n dreth trosglwyddo cyfalaf. Gall treth etifeddu fod yn daladwy hefyd ar rai rhoddion a wneir yn ystod bywyd person. Mae rhai rhoddion yn gwbl rydd o dreth etifeddu pa un ai ydych chi’n eu rhoi yn ystod eich bywyd neu ar eich marwolaeth ac mae rhai’n rhydd o dreth etifeddu os gwnewch chi nhw yn ystod eich bywyd. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â threth etifeddu, ewch i wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar http://www.hmrc.gov.uk/inheritancetax/.
Cyllid y Wlad
Arferai Cyllid y Wlad fod yn adran y llywodraeth ar gyfer asesu a chasglu y rhan fwyaf o drethi. Fe’i gelwir bellach yn Gyllid a Thollau EM (HMRC).
ISA
Ystyr ISA yw Cyfrifon Cynilo Unigol (Individual Savings Account). Fe allwch chi gynilo arian i fyny hyd at swm arbennig bob blwyddyn mewn ISA heb orfod talu treth ar yr incwm o’ch cynilion. Am fwy o wybodaeth am ISAs, ewch i wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar http://www.hmrc.gov.uk/isa/index.htm.
TWE
Ystyr hwn yw Talu wrth Ennill (PAYE). Dyma system y DU o gasglu treth a chyfraniadau yswiriant gwladol o daliadau a chyflogau gweithwyr a’r dreth o rai pensiynau. Mae’r cyflogwr neu’r darparwr pensiwn yn didynnu treth o gyflog y gweithiwr neu o bensiwn ac yn ei anfon at Gyllid a Thollau EM.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â TWE (PAYE), gweler System Talu Wrth Ennill (PAYE).
Rhoi drwy’r Gyflogres
Os ydych chi’n talu treth trwy TWE (Talu Wrth Ennill), mae Rhoi drwy’r Gyflogres yn ffordd o leihau’r gost i chi o roi rhoddion rheolaidd i elusennau’r DU. Mae’n caniatáu i chi awdurdodi eich cyflogwr neu gwmni/darparwr pensiwn personol i roi cyfraniad o’ch cyflog neu bensiwn cyn didynnu unrhyw dreth.
Lwfansau Treth Personol
Gweler Lwfansau Treth Incwm.
Dileu ôl-ddyledion treth
Os ydych chi’n drethdalwr sydd ag ôl-ddyledion treth, efallai y cewch chi beth ohonynt neu’r cyfan ohonynt wedi’u ‘dileu’. Mae hyn yn golygu na fydd yn rhaid i chi dalu’r holl ôl-ddyledion os fyddwch chi’n ateb rhai amodau arbennig.
Hunan Asesiad
Os ydych chi’n drethdalwr, yr ydych yn gyfrifol am hysbysu’r HMRC am unrhyw incwm neu enillion sy’n drethadwy. Mae gofyn i rai trethdalwyr lenwi ffurflen bob blwyddyn a elwir yn ffurflen dreth Hunan Asesiad, sy’n dweud wrth HMRC am unrhyw incwm neu enillion cyfalaf yn ystod y flwyddyn honno. Mae HMRC yn defnyddio’r ffigurau sydd ar y ffurflen dreth i weithio allan faint o dreth sy’n daladwy. Mae Hunan Asesiad hefyd yn caniatáu i chi hawlio lwfansau treth neu ostyngiadau yn erbyn eich bil treth a HMRC i gasglu rhai cyfraniadau yswiriant gwladol arbennig ac ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr. Mae yna derfynau amser caeth ar gyfer ffurflenni treth a gwneud taliadau o dan Hunan Asesiad.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â ffurflenni treth, gweler Ffurflenni Treth.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag Hunan Asesiad ewch i wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar http://www.hmrc.gov.uk/sa/index.htm.
Treth Stamp ar Dir
Mae Treth Stamp ar Dir yn dreth yr ydych yn ei dalu ar drafodion eiddo a thir, er enghraifft, prynu tŷ neu gael les ar eiddo. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Threth Stamp ar Dir, ewch i wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar http://www.hmrc.gov.uk/sdlt/intro/basics.htm ac am fwy o wybodaeth ynglŷn â Threth Stamp ar Dir yng Ngogledd Iwerddon ewch i wefan NI Direct yn www.nidirect.gov.uk.
Treth Stamp Wrth gefn
Treth Stamp Wrth gefn ydyw’r dreth stamp sy’n daladwy pan fyddwch chi’n prynu cyfranddaliadau.
Incwm Trethadwy
Incwm Trethadwy ydyw’r rhan o’r incwm yr ydych yn talu treth arno. Er mwyn gweithio allan eich incwm trethadwy, yr ydych yn anwybyddu unrhyw incwm nad yw’n drethadwy ac yn tynnu i ffwrdd unrhyw lwfansau a gostyngiadau eraill y gallwch eu hawlio.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag Incwm Trethadwy, gweler Incwm Trethadwy ac incwm anrhethadwy.
Ôl-ddyledion Treth
Mae Ôl-ddyledion treth yn ddyled i Gyllid a Thollau EM am dreth sy’n ddyledus ac fel arfer yn ddyled flaenoriaethol.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â dyledion blaenoriaethol, see Cymorth gyda dyled.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn âg ol-ddyledion treth, gweler Ol-ddyledion treth yn y daflen ffeithiau Credyd a Dyled.
Asesiad Treth
Asesiad Treth ydyw’r swm o dreth y mae’n rhaid i rywun dalu. Gweler Hunan Asesiad.
Incwm Anrhethadwy
Incwm Anrhethadwy yw’r incwm nad yw treth byth yn daladwy arno, er enghraifft, incwm o dystysgrifau Cynilion Cenedlaethol neu enillion ar y loteri.
Ad-daliadau treth
Mae ad-daliadau treth yn daliadau oddi wrth Gyllid a Thollau EM i rywun sydd wedi talu gormod o dreth yn ystod unrhyw flwyddyn benodol. Arferid eu galw’n ostyngiadau treth.
Rhyddhad treth
Gweler Rhyddhad Treth Incwm.
Ffurflen dreth
Ffurflen dreth ydyw’r ffurflen y mae angen i chi ei chwblhau, yn dibynnu ar y math o incwm a swm yr incwm sydd gennych. Adwaenir hi hefyd fel ffurflen dreth hunan asesiad.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â ffurflenni treth, gweler Ffurflenni Treth.
Blynyddoedd treth
Mae blwyddyn dreth yn cychwyn ar 6 Ebrill yn un blwyddyn ac yn gorffen ar 5 o Ebrill yn y flwyddyn galendr nesaf.
TAW
Ystyr TAW yw Treth ar Werth, sef y dreth ar nwyddau a gwasanaethau. Mae’n daladwy ar ganran arbennig a gyhoeddir gan y llywodraeth yn y gyllideb bob blwyddyn. Fe’i gweinyddir ac fe’i cesglir gan Gyllid a Thollau EM.
<











