Pam mae hyn yn bwysig?
Sefydlu clwb olew a'i rhedeg
| Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon |
Ar y dudalen hon, cewch help a chyngor ar yr hyn ddylech chi ei wneud os ydych chi am sefydlu clwb olew. Mae clybiau olew yn grwpiau o bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig yn bennaf, ac sy’n cyfuno’u harchebion wrth brynu olew i wresogi’u cartrefi. Maen nhw’n amrywio o ran maint, o ychydig aelodau i sawl cant.
Trwy ddod at ei gilydd i brynu swmp o olew, mae clybiau olew yn medru cael gwell dêl gan gwmnïau sy’n dosbarthu olew. Mae aelodau wedi gweld arbedion o 10 y cant neu fwy. Trwy gyfuno archebion, mae’r amgylchedd yn elwa hefyd, oherwydd mae’n golygu llai o siwrneiau i ddosbarthu’r olew, gan ostwng tagfeydd ar yr heolydd.
Sefydlu clwb olew
Os ydych chi am sefydlu clwb olew, dilynwch y camau canlynol:
- Cam un: holwch os oes clwb eisoes yn bodoli yn eich ardal. Os oes clwb yn bodoli, ystyriwch ymuno ag ef. Dylai fod gan y clwb gyfres sylfaenol o reolau, a elwir yn amodau gorchwyl, ac mae’r rhain yn esbonio’r hyn fedrwch chi ei ddisgwyl ganddynt. Gofynnwch am gael gweld yr amodau gorchwyl a phenderfynwch p’un ai eich bod yn hapus â hwy ai peidio, cyn ymuno.
- Cam dau: os nad oes clwb yn eich ardal, galwch gyfarfod i ddarganfod os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn sefydlu clwb o’r fath. Fe fyddwch yn medru hysbysebu’r dyddiad trwy gylchgrawn y plwyf, mewn ffenestri siop, ar hysbysfwrdd y pentref a thrwy ledu’r gair.
- Cam tri: yn ystod y cyfarfod, cytunwch ar eich amodau gorchwyl eich hun, gan esbonio beth all bobl ei ddisgwyl gan y clwb. Fe fydd angen i chi eu cofnodi’n ysgrifenedig a sicrhau bod pawb yn cael copi.
Byddwch yn realistig ynghylch yr amser fedrwch chi ei roi i’r clwb. Weithiau, mae clybiau mwy o faint yn medru cael mwy o arbedion, ond mae angen mwy o waith cydlynu. Efallai y byddai’n haws cadw pethau’n fach i ddechrau, ac yna dod o hyd i wirfoddolwyr eraill i’ch helpu.
I ddarganfod os oes clwb olew gerllaw, yng Nghymru a Lloegr, rhowch glic ar wefan Cyngor ar Bopeth a rhowch eich cod post. Fe allwch gofrestru’ch clwb ar y wefan hon hefyd, ble bynnag yr ydych chi’n byw yn y Deyrnas Unedig.
Rhedeg clwb olew
Unwaith fyddwch chi wedi sefydlu clwb olew, gwnewch yn siwr ei fod yn rhedeg yn hwylus. Fe fydd angen i chi ystyried:
Amseriad
- cytunwch ymlaen llaw ar y dyddiadau ar gyfer y flwyddyn, er mwyn i bobl fedru cynllunio ymlaen llaw
- ceisiwch archebu’n gynnar yn yr Hydref ar gyfer y Gaeaf, pan fydd cwmnïau cyflenwi yn llai prysur ac weithiau’n medru cynnig gwell gostyngiadau
Dewis eich cwmni cyflenwi ac archebu
- cadwch ar ben y prisiau olew trwy ddarllen y papurau newydd cenedlaethol, i fod yn siwr eich bod yn cael dêl dda
- pan fyddwch chi’n dewis cwmni cyflenwi, cofiwch ffactorau fel ansawdd y gwasanaeth a pha mor ddibynadwy ydyw, yn ogystal â’r pris
- lluniwch restr o gwmnïau cyflenwi olew, eu prisiau, a chofnod o’u gwasanaeth, ac yna fe fyddwch yn medru ei diweddaru a’i hadolygu’n rheolaidd
- sicrhewch eich bod yn cadw copïau ysgrifenedig o bob archeb a chytundeb, gan sicrhau eich bod yn cadw cofnod papur o unrhyw wybodaeth gyfrifiadurol
- meddyliwch am lunio taenlen sy’n cynnwys holl fanylion yr archebion a gwybodaeth ynglyn â mynediad, ar gyfer pob ty, gan gynnwys lleoliad y tanc.
Cyfathrebu
- cysylltwch ag aelodau mewn da bryd, cyn bod angen archebu, er mwyn rhoi digon o amser iddynt i ymateb
- os ydych chi’n bwriadu codi tâl ar aelodau am y gwasanaeth, sicrhewch eich bod yn egluro hyn
- sicrhewch fod rheolau’r clwb yn egluro mai cyfrifoldeb aelodau yw talu’r cwmni cyflenwi, ac nid y trefnydd
- meddyliwch am ddefnyddio e-bost neu neges testun i gyflymu’r broses, ond cofiwch na fydd pob un ar-lein nac yn berchen ar ffôn symudol
- cofiwch hyrwyddo’r clwb yn nigwyddiadau’r pentref a gwahodd pobl newydd sy’n symud i’r ardal i ymuno â’r clwb
Cadw llygad ar eraill
- cofiwch gadw llygad ar aelodau mwy bregus y gymuned a meddyliwch sut fedrwch chi eu helpu nhw i archebu
- diweddarwch aelodau ynghylch cynlluniau eraill a fedrai eu helpu i arbed arian ar eu costau tanwydd, er enghraifft grantiau inswleiddio’r cartref
- Am fwy o wybodaeth ar arfer gorau i glybiau sy’n prynu olew, gweler Canllawiau arfer gorau i grwpiau sy’n prynu olew
Camau nesaf
- Am fwy o wybodaeth ynglyn â chlybiau olew a ffyrdd eraill o arbed arian ar olew i wresogi’ch cartref, gweler Arbed arian ar filiau olew wrth wresogi’ch cartref
- I gael help gyda phroblemau gyda’r cwmni sy’n cyflenwi’r olew i wresogi’ch cartref, gweler Problemau gyda’r cwmni sy’n cyflenwi’r olew i wresogi’ch cartref
Mwy o wybodaeth am ddosbarthu olew
- I gael rhestr o’r wybodaeth y bydd cwmnïau cyflenwi olew ei hangen gennych er mwyn dosbarthu’r olew, gweler gwefan Ffederasiwn Cyflenwyr Petrolewm











