Pam mae hyn yn bwysig?
Prynu gwasanaethau – eich hawliau
Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Ynglyn â'r wybodaeth honYn bennaf, mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i broblemau gyda gwasanaethau a brynwyd gan fasnachwyr busnes sydd wedi eu lleoli yn y Deyrnas Gyfunol. Os ydych yn prynu gwasanaethau gan fasnachwr tramor, er enghraifft pan fyddwch chi ar eich gwyliau, yna fel arfer bydd eich hawliau'n dibynnu ar gyfraith y wlad ble prynwyd y gwasanaethau.
Os ydych chi'ch chwilio am wybodaeth ar brynu gwasanaethau yng ngwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd (UE), ewch at wefan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Unedig yn www.ukecc.net. Mae Canolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Unedig hefyd yn medru eich helpu i gwyno am wasanaethau a brynwyd mewn gwlad arall yn yr UE. Mae gwybodaeth ynglyn â hyn ar eu gwefan.
Yng Nghymru a Lloegr, gellir cael gwybodaeth am wasanaethau a brynwyd mewn gwlad arall yn yr UE o dan y pennawd Prynu nwyddau a gwasanaethau yn Ewrop yn y Taflenni ffeithiau i ddefnyddwyr.
<
Beth yw gwasanaethauMae yna sawl gwahanol fath o wasanaeth. Gellir darparu gwasanaethau ar eu pen eu hun heb nwyddau, neu gyda nwyddau.
Dyma enghreifftiau o wasanaethau a ddarperir heb nwyddau:
- sychlanhau
- adloniant
- gwaith a wneir gan weithwyr proffesiynol, fel cyfreithwyr, cwmnïau gwerthu tai a chyfrifwyr
- gadael cot mewn ystafell gotiau, yn gyfnewid am daliad
- defnyddio gofod parcio yn gyfnewid am daliad
- triniaeth iechyd preifat, gan gynnwys llawdriniaeth gosmetig.
Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth ar broblemau gyda sychlanhau, gweler Sychlanhau yn y Taflenni ffeithiau i ddefnyddwyr.
Dyma enghreifftiau o wasanaethau a ddarperir gyda nwyddau:
- atgyweirio nwyddau ble rydych chi'n cael cydrannau newydd yn lle hen rai, fel atgyweirio ceir
- ceginau wedi eu gosod
- gwaith adeiladu ac addurno
- gwydr dwbl.
Os yw eich problem yn ymwneud â rhywbeth yr ydych wedi ei brynu sydd ddim yn gysylltiedig â gwasanaeth, gweler Prynu nwyddau - eich hawliau.
<
Eich hawliau cyfreithiol pan fyddwch chi'n prynu gwasanaethauPan fyddwch chi’n prynu gwasanaethau, yna fel defnyddiwr mae gennych rai hawliau penodol.
Cyn i chi brynuCyn i chi brynu gwasanaeth, mae’n rhaid i ddarparwr y gwasanaeth roi gwybodaeth benodol i chi am eu hunain a’r gwasanaeth y maen nhw’n ei ddarparu. Rhaid iddynt ddweud wrthych:
- eu henw, statws cyfreithiol, cyfeiriad ac unrhyw gyfeiriad e-bost neu rif ffôn symudol
- prif nodweddion y gwasanaeth a’r pris, neu sut cafodd y pris ei gyfrifo
- eu hamodau a thelerau cyffredinol
- manylion unrhyw gorff proffesiynol neu gymdeithas fasnach y maen nhw’n perthyn iddo/i ac unrhyw godau ymddygiad neu gynlluniau cyflafareddiad sy’n berthnasol iddynt
- manylion cyswllt ar gyfer cwyno, gan gynnwys rhif ffôn a chyfeiriad e-bost neu post
- a oes unrhyw warantau ar ôl y gwerthiant.
Mae gennych hawl hefyd i ddisgwyl y bydd gwasanaeth yn:
- cael ei gyflawni gyda gofal a sgil rhesymol
- cael ei orffen erbyn y dyddiad a gytunwyd gyda’r person sy’n darparu’r gwasanaeth, neu o fewn amser rhesymol os nad ydych wedi cael dyddiad penodol
- cael ei ddarparu am y gost a gytunwyd ymlaen llaw, neu am gost resymol os nad ydych wedi cytuno ar gost.
Fe all fod yn anodd gwybod beth sy'n 'rhesymol'. Dyma rai ffyrdd y gallwch chi gael gwybod.
I gael canllawiau ar safonau gwaith rhesymol, cysylltwch â chymdeithas fasnach neu broffesiynol. Os ydych yn cael nwyddau wedi eu gosod fel rhan o'r gwasanaeth, mae'n bosib i chi gysylltu â'r gwneuthurwyr. Mae'n bosib hefyd i chi ofyn i arbenigwr annibynnol am farn ar y gwaith, neu i brofi atgyweiriad. Ond cofiwch fod hyn yn medru bod yn ddrud ac efallai na fyddwch yn cael eich arian yn ôl gan y masnachwr bob tro, hyd yn oed os yw'r arbenigwr yn cefnogi eich achos.
I gael canllawiau ar faint o amser y dylai gymryd i wneud y gwaith, holwch fasnachwyr eraill.
Os nad ydych wedi cytuno ar bris ac mae'n ymddangos bod y masnachwr yn codi gormod, gofynnwch i fasnachwyr eraill faint fydden nhw'n codi i wneud y gwaith.
Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth ar sut i gael barn arbenigol, gweler Gwasanaethau, yn y Taflenni ffeithiau i ddefnyddwyr.
Os ydych angen mwy o help i benderfynu os yw gwasanaeth yn rhesymol, neu i gael barn arbenigol, dylech holi cynghorydd arbenigol, er enghraifft mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
<
Nid yw'r gwasanaeth yn cael ei gyflawni gyda gofal neu sgil rhesymolOs nad ydych yn credu y cyflawnwyd y gwasanaeth gyda gofal neu sgil rhesymol, dylech ddweud wrth y masnachwr ar unwaith. Dylai masnachwr weithredu gyda gofal a sgiliau o safon rhesymol, gan ystyried arferion y farchnad ym maes y masnachwr. Efallai y bydd angen tystiolaeth o'r baeau arnoch os nad yw'r masnachwr yn cytuno - gweler yr adran ar Beth sy'n rhesymol o dan y pennawd Eich hawliau cyfreithiol pan fyddwch chi'n prynu gwasanaethau.
Efallai y bydd gennych sawl opsiwn ar gyfer delio gyda'r broblem:
Cael y masnachwr i unioni'r camFel arfer, dylech roi cyfle i'r masnachwr i unioni'r cam. Dylai hyn gael ei wneud yn rhad ac am ddim. Os yw'r achos yn dod gerbron y llys, efallai y bydd disgwyl eich bod wedi gwneud hyn. Mae'n well peidio â gadael i unrhyw un arall wneud unrhyw waith atgyweirio os nad yw'n argyfwng llwyr ac na ellir osgoi hynny.
Os nad yw'r gwasanaeth wedi ei gwblhau pan rydych chi'n sylweddoli bod yna broblem, gofynnwch i'r masnachwr stopio gweithio a siaradwch â nhw am y peth.
Cael rhywun arall i orffen y gwaithOs nad yw'r masnachwr yn unioni'r cam, neu os ydyw'n gwrthod gwneud hynny, dylech dalu swm rhesymol iddynt am y gwaith y maen nhw wedi ei wneud yn barod a chael rhywun arall i orffen y gwaith. Fe allwch ofyn am iawndal i gynnwys y gost o gael rhywun arall i wneud y gwaith. Efallai hefyd y byddwch yn medru hawlio iawndal am golledion eraill fel arian a gollwyd trwy amser i ffwrdd o'r gwaith neu ddifrod a achoswyd gan y masnachwr y bu'n rhaid i chi dalu amdano. Ond, efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i'r llys i geisio cael iawndal - gweler y pennawd Sut i ddelio â phroblem gyda gwasanaethau.
Gwrthod talu'r masnachwrOs oes yna broblemau difrifol iawn gyda'r gwasanaeth a gawsoch, yna mae'n bosib i chi wrthod talu'r masnachwr yn gyfan gwbl. Efallai hefyd y bydd yn bosib i chi hawlio iawndal am unrhyw golledion ychwanegol. Mae'r rhain yn medru cynnwys cost clirio safle cyn i waith adeiladu neu dirlunio ddechrau eto neu iawndal am gost unrhyw ddifrod i'r eiddo neu anaf personol.
Am fwy o wybodaeth ar hawlio iawndal am anaf personol, yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gweler Anafiadau personol, ac yn yr Alban, gweler Anafiadau personol.
Cael gostyngiadOs mai problemau bach ydynt, fe allech ofyn i'r masnachwr am ostyngiad ar gost y gwasanaeth.
<
Nid yw'r gwasanaeth yn cael ei gyflawni o fewn amser rhesymolOs nad ydych wedi cael dyddiad cychwyn neu orffen pendant ar gyfer y gwaith, fe fydd angen i chi sortio hyn cyn y medrwch chi gymryd unrhyw gamau pellach.
Ysgrifennwch at y masnachwr, yn rhoi'r dyddiadau yr ydych am iddynt gychwyn a gorffen y gwaith, a 'dywedwch fod amser yn hanfodol' neu, yn Saesneg, 'making time of the essence'. Mae'n rhaid bod y dyddiadau yr ydych yn eu rhoi i'r masnachwr yn rhesymol. Fe fydd yr hyn sy'n rhesymol yn dibynnu ar yr amgylchiadau, ond dylech ystyried y math o wasanaeth yr ydych yn ei gael, amodau'r fasnach, ac a yw'r oedi yn y gwasanaeth yn ganlyniad i amgylchiadau sydd y tu hwnt i reolaeth y masnachwr.
Unwaith y byddwch wedi cael dyddiadau pendant, os nad yw'r masnachwr yn cadw atynt, fe fyddwch yn medru:
- trafod gyda'r masnachwr i dalu pris is fel iawndal am yr oedi
- gofyn i'r masnachwr dalu iawndal i chi am bethau fel apwyntiadau na chadwyd atynt ble yr ydych chi wedi colli cyflog
- canslo'r gwaith a gofyn am eich arian yn ôl
- os oedd y gwaith eisoes wedi dechrau, cael rhywun arall i'w orffen a gofyn i'r masnachwr cyntaf dalu iawndal i chi am gost gwneud hyn.
Os oeddech wedi archebu eich gwasanaeth heb gyswllt wyneb-yn-wyneb gyda'r person a werthodd y gwasanaeth, efallai y bydd gennych hawliau ychwanegol- gweler y pennawd Gwasanaethau a brynwyd o bell. Efallai hefyd y bydd gennych hawliau ychwanegol os ydych wedi archebu eich gwasanaeth i ffwrdd oddi wrth y safle masnachu - gweler y pennawd Gwasanaethau a brynwyd ar stepen eich drws.
Dylech gofio, os ydych am ganslo gwaith yr ydych eisoes wedi talu amdano, efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i'r llys i geisio cael eich arian yn ôl - gweler y pennawd Sut i ddelio â phroblem gyda gwasanaethau.
Nid yw'n debygol y bydd y llys yn gorchymyn i fasnachwr orffen gwaith nad ydynt wedi ei wneud. Ond, efallai y byddan nhw'n gorchymyn i'r masnachwr dalu iawndal i chi.
<
Ceir nwyddau gyda'r gwasanaethOs ydych yn cael gwasanaeth sy'n cynnwys nwyddau (gweler y pennawd Beth yw gwasanaethau), mae'n rhaid bod y nwyddau:
- o ansawdd boddhaol, er enghraifft, yn rhydd o unrhyw namau gan gynnwys namau bach, ac
- yn cyfateb â'u disgrifiad, ac
- yn addas at y diben yr archebwyd hwy.
Pan fydd masnachwr yn gwerthu nwyddau i chi fel rhan o wasanaeth, mae yna nifer o bethau nad ydynt yn cael eu gwneud. Mae'r rhain yn cynnwys:
- gwerthu nwyddau sy'n beryglus neu'n anniogel i chi
- gwneud datganiad ffals am y nwyddau
- eich camarwain chi am y pris, naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig
- rhoi gwybodaeth gamarweiniol i chi sy'n dylanwadu ar eich penderfyniad ynghylch prynu'r nwyddau neu'r gwasanaethau, neu beidio â'u prynu.
Am fwy o wybodaeth ar eich hawliau cyfreithiol pan fyddwch chi'n prynu nwyddau, gweler Prynu nwyddau - eich hawliau.
Mae'r hawliau hyn yn berthnasol pan fyddwch chi'n prynu gwasanaeth gan fasnachwr. Os ydych yn prynu gwasanaeth gan unigolyn preifat, fwy na thebyg y bydd gennych lai o hawliau.
Os ydych yn prynu gwasanaeth gan unigolyn preifat, efallai y bydd angen cyngor arbenigol arnoch. Fe fydd eich canolfan Cyngor ar Bopeth yn medru eich helpu i ddod o hyd i gynghorydd arbenigol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae gennych yr hawl i archwilio'r nwyddau a geir gyda gwasanaeth. Os welwch chi fod rhywbeth o'i le gyda nhw, mae'n rhaid i chi ddweud wrth y masnachwr ar unwaith. Rydych chi'n medru gwrthod derbyn y nwyddau, canslo'r gwasanaeth a gofyn am eich arian yn ôl, ond dim ond os wnewch chi hyn o fewn cyfnod byr iawn ar ôl i'r nwyddau gyrraedd. Os nad yw'r masnachwr yn cytuno bod rhywbeth o'i le, fe fydd i fyny i chi i brofi hyn.
Os nad oes hawl gennych i ad-daliad llawn, neu os nad ydych am ganslo'r gwasanaeth, efallai y byddwch yn medru cael peth o'ch arian yn ôl, neu gael atgyweiriad rhad ac am ddim neu nwyddau eraill yn lle'r nwyddau gwreiddiol. Fe fydd yr opsiynau hyn gennych dim ond os prynwyd y nwyddau gan y person a'u gosododd. Ni fydd gennych yr opsiynau hyn os prynwyd y nwyddau gan un person ac mae person arall wedi eu gosod.
Am fwy o wybodaeth ar eich hawliau pan fyddwch chi'n prynu nwyddau fel rhan o wasanaeth, gweler Prynu nwyddau - eich hawliau.
<
Gwahaniaethu wrth gyflenwi gwasanaethauMae’n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn rhywun pan fyddan nhw’n prynu gwasanaethau. Mae gwahaniaethu yn medru bod, er enghraifft, oherwydd eich rhyw, rhywioldeb, crefydd, hil neu anabledd
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu, gweler ein tudalennau gwahaniaethu.
Os ydych yn credu bod rhywun sy'n gwerthu gwasanaeth wedi gwahaniaethu yn eich erbyn, dylech ofyn am help cynghorydd profiadol, er enghraifft mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf. Fe allwch hefyd gwyno i Cyswllt Defnyddwyr Cymru – gweler y pennawd Help pellach am fanylion.
<
Gwasanaethau a brynwyd o bellOs ydych yn prynu gwasanaethau gan fasnachwr heb gael cyswllt wyneb-yn-wyneb gyda hwy, gelwir hyn yn 'gwerthu o bell'. Mae enghreifftiau o werthu o bell yn cynnwys gwasanaethau a brynir:
- dros y ffôn neu'r ffacs, gan gynnwys negeseuon testun a ffonau symudol
- trwy archebu drwy'r post
- yn electronig trwy'r rhyngrwyd, e-bost neu deledu digidol
- trwy sianel siopa, neu deletestun
- o gatalog
- trwy ffurflen archebu mewn hysbyseb mewn papur newydd neu gylchgrawn.
Os ydych yn prynu gwasanaethau trwy unrhyw un o'r dulliau hyn, mae gennych hawliau yn ychwanegol at y rhai sydd gennych pan fyddwch chi'n prynu gwasanaethau mewn siop. Y pwysicaf o'r rhain yw'r hawl i 'gyfnod oeri'. Mae hyn yn rhoi'r hawl i chi i ganslo'r archeb o fewn saith niwrnod gwaith, heb orfod talu unrhyw beth. Mae'n rhaid i'r masnachwr ddweud wrthych am yr hawl hwn wrth i chi archebu. Efallai na fydd gennych yr hawl hwn i ganslo os ydych wedi cytuno bod y gwasanaeth yn dechrau o fewn saith niwrnod i ddyddiad yr archeb.
Mae hawliau ychwanegol eraill sydd gennych wrth brynu o bell yn cynnwys yr hawl:
- i gael enw a chyfeiriad y person sy'n darparu'r gwasanaeth
- i gael pris y gwasanaeth, gan gynnwys trethi a chostau cludo
- i gael y gwasanaeth i ddechrau o fewn 30 diwrnod i ddyddiad yr archeb, os nad ydych chi a'r masnachwr yn dod i drefniant gwahanol
Os ydych yn defnyddio cerdyn credyd i brynu gwasanaeth yn unrhyw un o'r ffyrdd hyn, rydych hefyd yn medru cael sicrwydd ychwanegol yn erbyn y defnydd twyllodrus o fanylion eich cerdyn credyd.
Am fwy o wybodaeth ar brynu gwasanaethau ar gredyd, gweler Credyd.
Os nad yw masnachwr yn gadael llonydd i chi ac mae'n parhau i gysylltu â chi wedi i chi egluro nad ydych am iddo wneud hynny, efallai y bydd yn troseddu. Dylech ddweud wrth Cyswllt Defnyddwyr amdano – gweler y pennawd Help pellach am fanylion.
Gwasanaethau sy'n cael eu prynu trwy e-fasnachMae E-fasnach yn golygu eich bod yn prynu rhywbeth yn electronig. Mae prynu rhywbeth dros y rhyngrwyd, trwy neges testun neu ffôn symudol yn enghreifftiau o e-fasnach. Pan fyddwch chi'n prynu gwasanaethau gan ddefnyddio e-fasnach, mae gennych yr un hawliau â phan fyddwch chi'n prynu mewn siop neu o bellter, ond mae'n rhaid i'r masnachwr hefyd roi peth gwybodaeth ychwanegol i chi. Mae hyn yn berthnasol os ydych yn defnyddio e-fasnach i brynu nwyddau yn y Deyrnas Gyfunol neu yn unrhyw le arall yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n rhaid i'r masnachwr:
- roi cyfarwyddiadau manwl i chi ar gyfer cwblhau eich archeb
- dweud wrthych sut i gywiro unrhyw gamgymeriadau yr ydych wedi eu gwneud wrth archebu
- roi unrhyw amodau a thelerau ar gyfer y gwerthiant ar ffurf y gellir eu harbed neu eu hargraffu yn hawdd
- dweud wrthych a fyddan nhw'n cadw ffeil o'r gwerthiant i chi gael mynediad ato
- dweud wrthych am unrhyw god ymarfer sy'n berthnasol i'r gwerthiant a sut yr ydych chi'n medru eu darllen yn electronig
- anfon cydnabyddiaeth eu bod wedi derbyn eich archeb.
Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth am eich hawliau pan fyddwch chi'n prynu gwasanaethau o bell, gweler Siopa o'ch cartref, a Prynu dros y rhyngrwyd yn y Taflenni ffeithiau i ddefnyddwyr.
Os ydych chi angen cyngor ynghylch pwrcas yr ydych wedi ei wneud o bell, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
<
Gwasanaethau a brynwyd ar stepen eich drwsMae gwerthu ar stepen eich drws yn golygu eich bod yn prynu rhywbeth gan rywun wyneb-yn-wyneb ond i ffwrdd o’r safle masnachu, er enghraifft, gartref neu gan berson gwerthu yn eich gweithle. Os ydych chi’n prynu rhywbeth ar stepen eich drws, yna yn ogystal â’r hawliau arferol sydd gennych pan fyddwch chi’n prynu o siop, mae gennych yr hawl hefyd i ‘gyfnod oeri’ o saith niwrnod. Er mwyn cael yr hawl hwn, mae’n rhaid i’r nwyddau neu’r gwasanaeth yr ydych yn eu prynu gostio dros £35. Nid oes gwahaniaeth a ydych wedi gwahodd y person sy'n gwerthu i alw yn eich cartref neu weithle ai peidio.
Mae'r cyfnod oeri yn rhoi saith niwrnod i chi ble fyddwch chi'n medru newid eich meddwl a chanslo eich archeb, heb orfod talu unrhyw beth. Mae'n rhaid i'r person gwerthu ddweud wrthych fod yr hawl hwn gennych, yn ysgrifenedig, pan fyddwch chi'n gosod eich archeb. Os nad ydyn nhw'n gwneud hyn, fe fyddwch chi'n medru canslo eich archeb ar unrhyw adeg a chael eich arian yn ôl - hyd yn oed os yw hyn ar ôl saith niwrnod. Os nad yw masnachwr yn dweud wrthych am eich hawl i ganslo archeb a wneir mewn gwerthiant stepen ddrws, dylech gwyno i Cyswllt Defnyddwyr Cymru– gweler y pennawd Help pellach.
Os ydych wedi gofyn yn ysgrifenedig am gael derbyn y gwasanaethau cyn diwedd y cyfnod oeri, fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu swm rhesymol amdanynt. Mae hyn yn wir hyd yn oed os ydych yn canslo'r cytundeb yn nes ymlaen yn ystod y cyfnod oeri.
Os yw masnachwr yn dod i'ch cartref ac yn anwybyddu eich cais iddo adael, efallai y bydd yn troseddu. Mae hyn hefyd yn wir os ydyw'n dod yn ôl neu'n cysylltu â chi dros y ffôn neu drwy'r e-bost a chithau wedi gofyn iddynt am beidio â gwneud hyn. Dylech ddweud wrth Cyswllt Defnyddwyr am y masnachwyr hyn - gweler y pennawd Help pellach am fanylion.
Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth ar eich hawliau i ganslo cytundeb a wneir mewn gwerthiant ar eich stepen drws, gweler Prynu ar y stepen drws yn y Taflenni ffeithiau i ddefnyddwyr.
Hyd yn oed os nad oes hawl gennych i ganslo eich archeb, neu os ydych chi am ganslo ar ôl saith niwrnod, efallai y bydd y masnachwr yn dal i gytuno i'w ganslo. Ond, fe fyddai hawl ganddo i godi tâl canslo, neu i gadw eich blaendal.
Canslo cytundeb credyd i brynu gwasanaeth mewn gwerthiant ar stepen eich drwsOs ydych chi’n cofrestru i gael credyd i brynu nwyddau neu wasanaethau yn eich cartref eich hun, mae hawl gennych i ganslo'r cytundeb. Mae enghreifftiau o wasanaeth y mae’n bosib i chi ei brynu ar gredyd yn eich cartref eich hun yn cynnwys gosod gwydr dwbl a gwelliannau eraill i’r cartref.
Ar ôl llofnodi'r cytundeb, dylech gael copi o'r cytundeb credyd yn nodi eich hawliau canslo yn glir. Dylech hefyd gael ail hysbysiad drwy'r post yn dweud wrthych am eich hawliau canslo. Mae gennych hawl i gyfnod oeri sy'n dechrau ar y diwrnod yr ydych yn llofnodi'r cytundeb ac yn diweddu bum niwrnod ar ôl i chi dderbyn yr ail hysbysiad am eich hawliau canslo.
Mae gennych yr hawl hwn, waeth a ydych chi wedi gwahodd y person gwerthu i alw ai peidio.
Mae'n rhaid eich bod chi wedi trafod y ddêl wyneb-yn-wyneb gyda'r person gwerthu a rhaid bod y gwasanaeth yr ydych wedi ei brynu ar gredyd yn costio fwy na £35.
Mae'r hawl hwn yn berthnasol pan fyddwch chi'n prynu gwasanaethau ar gredyd yn unrhyw le i ffwrdd oddi wrth safle busnes y masnachwr neu swyddfeydd y cwmni credyd.
Am fwy o wybodaeth ar brynu gwasanaethau ar gredyd, gweler Credyd.
Os ydych angen cyngor ar sut i ganslo cytundeb am wasanaeth a brynwyd i ffwrdd oddi wrth safle masnach, dylech ofyn am help cynghorydd profiadol, fel canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
<
Talebau neu nodiadau credydOs yw ansawdd gwasanaeth yn wael, er enghraifft, mewn bwyty neu siop drin gwallt, efallai y cewch gynnig taleb neu nodyn credyd, a gwahoddiad i ddod yn ôl. Nid oes rhaid i chi ei dderbyn, ond os ydych yn derbyn nodyn credyd, ni fedrwch chi newid eich meddwl yn nes ymlaen a chael ad-daliad llawn, neu iawndal, hyd yn oed os oedd hawl gennych i wneud hyn yn wreiddiol.
Nid oes rhaid i nodyn credyd neu daleb fod ar unrhyw ffurf arbennig ac efallai hefyd y bydd amodau ynghlwm wrtho. Efallai y bydd yn rhaid i chi ei ddefnyddio o fewn terfyn amser penodol.
Efallai eich bod chi'n ystyried derbyn nodyn credyd neu daleb. Cofiwch edrych ar yr amodau ar ei gyfer a gwnewch yn siwr eich bod chi am fynd yn ôl at y masnachwr.
<
Gwarantau, warantïau a chytundebau cynnal a chadwPan fydd masnachwr yn gwerthu nwyddau i chi, efallai y bydd hefyd yn cynnig gwarant neu waranti i chi. Fe allai hyn fod yn rhad ac am ddim, neu efallai y byddan nhw'n codi tâl arnoch amdano. Fel rheol gyffredinol, mae gwarantau fel arfer yn cael eu rhoi yn rhad ac am ddim, ond fel arfer mae'n rhaid i chi dalu am waranti.
Nid oes gofyn i fasnachwyr gynnig gwarant neu waranti i chi yn ôl y gyfraith.
Yn aml, mae gan warantau neu warantïau amodau a thelerau ynghlwm wrthynt ac mae'r hyn y maen nhw'n ei gynnig i chi yn gyfyngedig. Ond, efallai y byddan nhw'n cynnig sicrwydd ychwanegol i chi yn ychwanegol at eich hawliau defnyddiwr eraill. Maen nhw'n medru gadael i chi gael nwyddau eraill yn lle'r nwyddau diffygiol a ddarparwyd gyda gwasanaeth neu eu hatgyweirio, neu i gael gwaith diffygiol wedi ei unioni pan fydd eich hawliau defnyddiwr eraill ddim yn berthnasol mwyach. Ond, gyda rhai gwarantau, efallai y byddwch yn cael nwyddau newydd yn rhad ac am ddim, ond fe fydd yn rhaid i chi dalu i rywun ddod i wneud y gwaith eich hun. Er enghraifft, efallai y cewch chi ffenestri gwydr dwbl newydd yn lle'r rhai diffygiol, ond efallai y bydd yn rhaid i chi dalu i gael rhywun i'w gosod.
Efallai y bydd yn haws i chi hawlio ar warant neu waranti yn yr achosion canlynol:
- mae'r masnachwr yn gwrthod rhoi'r hyn yr ydych chi'n gofyn amdano
- rydych wedi prynu nwyddau o bell (dros y rhyngrwyd neu dros y ffôn, er enghraifft)
- mae'r masnachwr wedi mynd allan o fusnes.
yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth ar warantau, gweler Gwarantau yn y Taflenni ffeithiau i ddefnyddwyr.
<
Sut i ddelio â phroblem gyda gwasanaethau Trafod gyda'r masnachwrOs ydych yn cael trafferth gyda gwasanaeth, efallai eich bod yn cael trafferth gyda'r nwyddau a gawsoch gan y masnachwr fel rhan o'r gwasanaeth, neu gyda'r gwasanaeth ei hun.
Yn gyntaf, dylech ymchwilio i weld pa hawliau sydd gennych a phenderfynu beth yr ydych chi am i'r gwerthwr wneud am y peth. Efallai y byddwch chi eisiau ad-daliad, atgyweiriad, nwyddau eraill yn lle'r rhai gwreiddiol, ail-wneud y gwasanaeth neu orffen y gwaith. Neu efallai y byddwch chi eisiau iawndal, nodyn credyd neu hawlio ar waranti gwneuthurwr.
Yna, fe fydd angen i chi gysylltu â'r masnachwr i gyflwyno eich achos. Os ydych yn cysylltu â'r gwerthwr yn gynnar yn y broses ac yn paratoi eich achos yn dda, mae eich trafodaethau yn fwy tebygol o lwyddo. Os ydych yn gofyn am ad-daliad llawn, rhaid i chi gysylltu â'r masnachwr ar unwaith, neu efallai y byddwch yn colli eich hawl i gael eich arian yn ôl (gweler y pennawd Eich hawliau cyfreithiol pan fyddwch chi'n prynu gwasanaethau).
Dylech gasglu'r holl wybodaeth sydd angen arnoch ar gyfer eich cwyn at ei gilydd. Fe allai hyn gynnwys:
- unrhyw hawliau sydd gennych - gweler y pennawd Eich hawliau cyfreithiol pan fyddwch chi'n prynu gwasanaethau
- disgrifiad o'r nwyddau. Mae hyn yn cynnwys unrhyw beth a ddywedwyd wrthych am y nwyddau, unrhyw beth mewn hysbyseb neu unrhyw beth ysgrifenedig a gawsoch
- manylion y broblem, gan gynnwys unrhyw ddifrod a wnaed i'r eiddo neu anaf personol
- faint o amser sydd wedi bod ers i chi gael y gwasanaeth a phryd y sylwoch chi ar y broblem am y tro cyntaf
- manylion am yr hyn yr ydych wedi ei wneud am y broblem, os o gwbl
- os ydych eisoes wedi siarad â'r masnachwr am y broblem, manylion yr hyn a ddywedwyd
- copïau o unrhyw ddogfennau, er enghraifft, ffurflen archebu cytundeb credyd, llyfryn cyfarwyddiadau, cytundeb cynnal a chadw neu warant
- faint daloch chi, ac unrhyw dderbynebau neu brawf pwrcasu arall.
Pan fyddwch chi wedi casglu cymaint o wybodaeth ag y gallwch, cysylltwch â'r masnachwr. Os ydych yn ymweld yn bersonol neu'n cysylltu dros y ffôn, gofynnwch am gael siarad â'r rheolwr neu'r perchennog. Esboniwch eich problem yn dawel ond yn gadarn, a dywedwch beth yr ydych chi am iddyn nhw wneud am y peth. Rhowch derfyn amser ar gyfer sortio'r broblem. Os ydych yn ymweld yn bersonol, ewch â'r holl ddogfennau gyda chi, gan gynnwys y prawf pwrcasu.
Dylech ysgrifennu at y masnachwr bob tro, hyd yn oed os ydych wedi ffonio neu ymweld â nhw yn gyntaf ac nid yw eich trafodaethau wedi dwyn ffrwyth.
Anfonwch lythyr neu e-bost at reolwr neu berchennog y cwmni, a chadwch gopi. Os oes cyfeiriad prif swyddfa gan y masnachwr, anfonwch gopi o'ch llythyr yno. Os ydych wedi prynu'r nwyddau ar gredyd, anfonwch gopi o'ch llythyr at y cwmni credyd.
Am fwy o wybodaeth ar sut i ddatrys problem gyda nwyddau a brynwyd ar gredyd, gweler Credyd.
Dylai'ch llythyr neu e-bost gynnwys cymaint o wybodaeth ag sy'n bosib, a chopïau o unrhyw waith papur perthnasol gan gynnwys prawf pwrcasu, os oes gennych brawf o'r fath. Dylai hefyd nodi beth yr ydych chi am i'r masnachwr ei wneud am y broblem.
Dylech roi dyddiad cadarn i'r masnachwr ar gyfer derbyn ymateb. Fel arfer, dylai'r dyddiad yr ydych yn ei roi fod yn saith i bedwar-diwrnod-ar-ddeg ar ôl i chi anfon y llythyr.
Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i fasnachwyr ymateb i gwynion cyn gynted â phosib. Ond nid oes unrhyw derfyn amser cyfreithiol penodol y mae’n rhaid iddynt ymateb o’i fewn.
Os yw'r masnachwr yn gwrthod sortio'ch problem, ysgrifennwch atynt eto, gan ailddatgan eich cwyn a sôn am unrhyw gamau gweithredu sydd wedi eu cymryd yn barod. Os ydych wedi prynu'r nwyddau ar gredyd, dylech anfon copi o'r llythyr hwn at y cwmni credyd. Dywedwch eich bod yn mynd i roi pedwar diwrnod ar ddeg iddynt i sortio'r broblem ac yna y byddwch yn ystyried cymryd camau cyfreithiol. Anfonwch eich llythyr gyda phost wedi'i gofnodi ac anfonwch gopi at y brif swyddfa. Gwnewch yn siwr eich bod yn cadw copi o unrhyw ohebiaeth.
Efallai na fydd y masnachwr yn sortio'ch problem yn y ffordd yr ydych wedi gofyn iddo, ond efallai y bydd yn cynnig ateb arall i chi yn lle. Rydych chi hefyd yn medru awgrymu opsiynau eraill eich hun. Dylech feddwl yn ofalus a oes yna ateb arall sy'n dderbyniol i'r ddau ohonoch. Byddwch yn realistig ynghylch yr hyn yr ydych yn fodlon ei dderbyn. Os nad oes dewis gennych ond mynd i'r llys yn y pendraw i geisio cael yr hyn yr ydych ei eisiau neu'r hyn y mae gennych hawl iddo, nid oes unrhyw warant y byddwch yn medru ennill eich achos, na chael gwell cynnig.
Efallai hefyd y byddwch yn medru gweld a yw'r masnachwr yn perthyn i gymdeithas fasnach. Os felly, efallai y bydd yn rhaid i'r masnachwr ddilyn cod ymarfer ar gyfer safonau uwch o ofal cwsmer. Os nad yw'r masnachwr yn dilyn y cod ymarfer, efallai y bydd y gymdeithas yn medru rhoi pwysau arnynt i sortio'ch problem.
Hefyd, efallai y bydd y gymdeithas fasnach yn cynnig gwasanaeth cymodi neu gyflafareddiad ac efallai y bydd hyn yn eich helpu chi a'r masnachwr i ddod o hyd i ateb derbyniol. Fel arfer, mae cymodi yn rhad ac am ddim ac fel arfer, os nad ydych yn fodlon gyda'r canlyniad, ni fydd yn eich atal rhag cymryd camau cyfreithiol. Fel arfer, rhaid talu am gyflafareddiad ac mae'n rhwymo'n gyfreithiol ar y ddwy ochr. Dylech ofyn i'ch masnachwr os yw'n perthyn i gymdeithas ac, os ydyw, i roi'r manylion cyswllt i chi. Am fanylion rhai cymdeithasau masnach, gweler y pennawd Help pellach.
Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth ar ddefnyddio gwasanaeth cymodi neu gyflafareddiad i ddatrys eich problem, gweler Ffyrdd eraill o ddatrys dadleuon yn y Taflenni ffeithiau i ddefnyddwyr. Yn yr Alban, gweler Ffyrdd eraill o ddatrys dadleuon yn y Ffaith-daflenni i ddefnyddwyr.
Os nad yw'r trafodaethau gyda'r masnachwr yn gweithio, efallai y bydd opsiynau eraill ar gael i chi. Mae rhai o'r rhain wedi eu disgrifio isod.
Hawlio yn erbyn cwmni credyd neu fancOs ydych wedi talu am eich gwasanaeth ar gredyd, efallai y byddwch yn medru hawlio yn erbyn y cwmni credyd, yn lle’r masnachwr. Rhaid bod y nwyddau wedi costio dros £100 a llai na £30,000. Fe all hyn fod yn ddefnyddiol ble mae’r masnachwr wedi mynd allan o fusnes neu nid oes arian ganddo i dalu iawndal i chi.
Os ydych wedi talu am eich gwasanaethau gan ddefnyddio cerdyn debyd a weithredir gan VISA, efallai y byddwch yn medru defnyddio cynllun 'chargeback' VISA. Nid oes isafswm neu uchafswm ond rhaid i chi hawlio o fewn 120 diwrnod i'r trafodion. Dylech holi'ch banc sut fedrwch chi hawlio o dan y cynllun.
Am fwy o wybodaeth ar sut i ddatrys problemau gyda gwasanaethau a brynwyd ar gredyd, gweler Credyd.
Mynd â'r masnachwr i'r llysOs ydych wedi rhoi tro ar bopeth arall ond heb wneud unrhyw gynnydd o hyd, yr unig opsiwn arall sydd gennych yw mynd i'r llys. Dylai mynd i'r llys fod yn opsiwn olaf. Os nad ydych wedi gwneud ymdrech go iawn i sortio'ch problem cyn dechrau camau yn y llys, hyd yn oed os ydych yn ennill eich achos, efallai y bydd y llys yn gostwng eich iawndal.
Cyn i chi fynd i’r llys, mae angen i chi feddwl a oes digon o dystiolaeth gennych. Fe fydd i fyny i chi i brofi eich achos. Er mwyn i chi fedru gwneud hyn, efallai y bydd angen i chi gael barn arbenigwr annibynnol. Fe allai arbenigwr annibynnol fod yn unrhyw berson sydd heb gysylltiad â’r ddadl, sydd â chymwysterau addas, ac sy’n barod i nodi eu canfyddiadau yn ysgrifenedig. Fel arfer, mae’n rhaid talu am adroddiadau o’r fath. Efallai y byddwch yn medru cael y masnachwr i dalu am hanner cost yr adroddiad. Os ydych yn gorfod talu'r cyfan o gost yr adroddiad neu ran ohoni, dylech gytuno gyda’r masnachwr ymlaen llaw ar y dewis o arbenigwr a chadarnhau y bydd y ddau ohonoch yn rhwym i ganfyddiadau’r arbenigwr. Yna, dylech fod yn medru cael eich cyfraniad yn ôl os ydych yn ennill eich achos. Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, rhaid i chi gael caniatâd gan y llys yn gyntaf cyn hurio arbenigwr annibynnol. Os na wnewch chi hyn, efallai y bydd y llys yn diystyru eu hadroddiad ac efallai na fyddwch chi’n medru cael y gost yn ôl, hyd yn oed os ydych yn ennill eich achos.
Cyn mynd i'r llys, mae angen i chi ddarganfod hefyd a oes gan y gwerthwr ddigon o arian i dalu am eich cais. Nid yw'n werth erlyn rhywun sydd â dim arian.
Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth ar fynd i'r llys i ddatrys cwyn defnyddiwr, gweler Dechrau camau yn y llys yn y Taflenni ffeithiau i ddefnyddwyr.
<
Sut i ddod o hyd i fasnachwr yr ydych yn medru ymddiried ynddoMae yna sawl cynllun a gefnogir gan y llywodraeth a’r awdurdod lleol, sy’n medru eich helpu i ddod o hyd i fasnachwr yr ydych yn medru ymddiried ynddo yn eich ardal chi, gan gynnwys:
- Cynllun Cymeradwyo Codau Defnyddwyr
- Cynlluniau masnachwyr sicr yr awdurdod lleol
- Trustmark.
Mae yna wybodaeth sylfaenol am y cynlluniau hyn isod. Am wybodaeth fwy manwl, rhowch glic ar wefan Consumer Direct yn: www.consumerdirect.gov.uk.
Cynllun Cymeradwyo Codau DefnyddwyrOs oes gan fasnachwr logo Cymeradwyo Codau Defnyddwyr, mae’n golygu ei fod wedi cofrestru ar gyfer cod ymarfer a gymeradwywyd gan y Swyddfa Masnachu Teg (OFT). Mae hyn yn golygu bod y masnachwr wedi cytuno i ddarparu:
- gwasanaeth da i gwsmeriaid
- gweithdrefnau effeithiol ar gyfer delio gyda chwynion
- cynllun annibynnol, cost isel ar gyfer datrys cwynion nad oeddech yn medru eu datrys gyda’r masnachwr.
Mae masnachau sy’n medru gwneud cais am logo Cymeradwyo Codau Ymarfer yn cynnwys:
- cwmnïau gwerthu tai
- dodrefnu’r cartref, er enghraifft cyflenwyr carpedi
- atgyweirio a gwasanaethu ceir
- y fasnach moduro.
Mae llawer o awdurdodau lleol yn rhedeg cynlluniau masnachwyr sicr. Eu nod yw rhoi ffordd ddibynadwy i ddefnyddwyr o ddod o hyd i fasnachwyr y maent yn medru ymddiried ynddynt. Fel arfer, mae’r rhain yn fusnesau a masnachwyr bach, annibynnol lleol.
Mae masnachwyr sy’n cofrestru gyda’r cynllun yn addo y byddant yn cwrdd â’u rhwymedigaethau cyfreithiol at eu cwsmeriaid ac yn trin eu cwsmeriaid yn deg.
Mae cynlluniau masnachwyr sicr rhai awdurdodau lleol yn rhan o rwydwaith ehangach o gynlluniau o’r enw Rhwydwaith Cynllun Masnachwyr Sicr yr Awdurdodau Lleol (LAATSN). Mae rhai o’r masnachwyr - ond nid pob un - sy’n perthyn i LAATSN yn rhoi mwy o amddiffyniad i’w cwsmeriaid, fel amddiffyn blaendaliadau neu gynnig ffordd annibynnol o ddatrys cwynion.
TrustmarkMae Trustmark yn gynllun a gefnogir gan y Llywodraeth, grwpiau defnyddwyr a’r diwydiant adeiladu i’ch helpu i ddod o hyd i gwmni y gallwch ymddiried ynddo i wneud gwaith atgyweirio, cynnal a chadw neu welliannau i’ch cartref neu’ch gardd.
Ar wefan Trustmark, mae yna ddolenni cyswllt at wefannau nifer o gymdeithasau masnach sy’n aelodau, ac rydych yn medru chwilio am fasnachwr yn eich ardal chi sydd wedi’i gymeradwyo gan Trustmark.
Mae masnachwyr sydd wedi cofrestru gyda’r cynllun Trustmark yn cynnwys:
- adeiladwyr cyffredinol
- trydanwyr
- gosodwyr ffensys
- gosodwyr gwydr
- plymwyr
- gweithwyr to.
Efallai y bydd masnachwr yn torri'r gyfraith os ydyw'n:
- dweud ei fod wedi llofnodi i god ymarfer pan nad yw hyn yn wir
- dangos nod ansawdd ac yntau heb gael ei awdurdodi i wneud hynny
- honni'n gelwyddog ei fod wedi ei gymeradwyo neu ardystio gan Trustmark neu gynllun arall
- camarwain defnyddiwr trwy gytuno i gael ei rhwymo gan god ymddygiad ac yna methu â chadw at y cytundeb.
Os ydych yn credu bod masnachwr yn gweithredu mewn ffordd anghyfreithlon yng Nghymru a Lloegr, dylech ddweud wrth Cyswllt Defnyddwyr amdanynt neu, yng Ngogledd Iwerddon, Consumerline - gweler y pennawd Help pellach am fanylion. Efallai y cymerir camau yn erbyn y masnachwr i'w hatal rhag parhau i ymddwyn yn y ffordd yma.
<
Help pellach Mudiadau cyffredinol Cyswllt Defnyddwyr CymruFfôn: 08454 04 05 05
Gwefan: www.cyswlltdefnyddwyr.gov.uk
Mae Cyswllt Defnyddwyr Cymru yn wasanaeth cyngor i ddefnyddwyr dros y ffôn ac ar-lein, a gefnogir gan yr Adran Masnach a Diwydiant. Mae'r cyngor a'r wybodaeth yn rhad ac am ddim, ond codir tâl am alwadau ffôn i Cyswllt Defnyddwyr Cymru ar sail prisiau 0845. Mae Cyswllt Defnyddwyr Cymru ar gael yng Nghymru ac yn Lloegr a'r Alban (fel Consumer Direct).
Mae Cyswllt Defnyddwyr Cymru yn medru helpu sortio problem gyda masnachwr neu wneud cwyn. Mae hefyd yn medru esbonio eich hawliau defnyddwyr a'ch cyfeirio chi at gyrff eraill fel cymdeithasau masnach neu Safonau Masnach os fuasai'r rhain yn medru datrys eich problem defnyddiwr yn well.
Consumerline (Gogledd Iwerddon yn unig)Ffôn: 0300 123 6262
Gwefan: www.consumerline.org
Mae Consumerline yn wasanaeth cyngor i ddefnyddwyr dros y ffôn ac ar-lein a gefnogir gan yr Adran Menter, Masnach a Buddsoddiad.
Mae'r cyngor a'r gwybodaeth yn rhad ac am ddim ond codir tâl am alwadau ffôn i Consumerline ar gyfraddau 0300.
Office of Fair Trading (OFT)Fleetbank House
2-6 Salisbury Square
London
EC4Y 8JX
Ffôn: 0845 722 4499
Ffacs: 020 7211 8877
E-bost: enquiries@oft.gsi.gov.uk
Gwefan: www.oft.gov.uk
Mae'r OFT yn adran o'r llywodraeth sy'n goruchwylio arferion masnachu i sicrhau eu bod nhw'n deg a bod cwsmeriaid wedi eu diogelu. Mae'r OFT yn cyhoeddi trwyddedau i fasnachwyr sy'n rhoi credyd, ac yn cadw cofrestr o ddelwyr credyd trwyddedig.
Nid yw'r OFT yn medru helpu cwsmer unigol gyda phroblem defnyddiwr, ond mae'n cynhyrchu taflenni defnyddiol sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor.
Which?2 Marylebone Road
London
NW1 4DF
Ffôn: 020 7770 7000
Ymholiadau: 08453 074000
Ffacs: 020 7770 7600
E-bost: which@which.co.uk
Gwefan: www.which.net
Mae Which? yn fudiad annibynnol sy'n ymgyrchu tros hawliau defnyddwyr. Ni fydd Which? yn helpu cwsmer gyda phroblem, onid yw'r cwsmer yn aelod o'r mudiad.
Mae Which? yn cyhoeddi cylchgrawn misol diddordeb cyffredinol i ddefnyddwyr, sef Which?, a chylchgronau eraill ar destunau amrywiol, pob un ar gael ar danysgrifiad i'w aelodau. Mae Which? yn cyhoeddi amrywiaeth o lyfrau, sydd hefyd ar gael i'r rheiny sydd ddim yn aelodau. Mae llawer o lyfrgelloedd cyhoeddus yn cadw'r cylchgronau a'r llyfrau.
Canolfannau Defnyddwyr EwropeaiddOs ydych chi’n ystyried prynu gwasanaeth gan fasnachwr mewn gwlad arall yn yr Undeb Ewropeaidd (UE) mae Canolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Unedig yn medru dweud wrthych am unrhyw drwyddedau neu dystysgrifau a ddylai fod gan ddarparwr gwasanaeth.
Mae hefyd yn medru eich cynghori ynghylch yr hyn ddylech chi ei wneud os oes cwyn gennych. Efallai y bydd hefyd yn medru cyfeirio eich cwyn at fudiad yng ngwlad y masnachwr a fydd yn medru eich helpu i drafod ateb. Gelwir y math hwn o fudiad yn gorff Datrys Dadl Amgen neu ADR.
Mae cyngor ar gael gan Ganolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Unedig ar eu llinell gymorth rad ac am ddim ar 0845 608 9494 (Llun-Gwener 10yb-3yp), neu ar-lein yn www.ukecc-services.net.
Yr Awdurdod Safonau Hysbysebu (yr ASA)Mid City Place
71 High Holborn
London WC1V 6QT
Ffôn: 020 7492 2222 neu ffôn testun 020 7242 8159
Ffacs: 020 7242 3696
E-bost: enquiries@asa.org.uk
Gwefan: www.asa.org.uk
Mae'r ASA yn goruchwylio Codau Prydeinig Hysbysebu, Hybu Gwerthiant a marchnata uniongyrchol ac mae'n delio gydag unrhyw achosion o dorri'r cod. Fe fydd yn dilyn cwynion am bob math o hysbysebu yn ysgrifenedig.
Gwasanaeth yr Ombwdsman AriannolThe Financial Ombudsman Service
South Quay Plaza
183 Marsh Wall
London
E14 9SR
Ffôn: 0845 080 1800
Ffacs: 020 7964 1001
E-bost: complaint.info@financial-ombudsman.org.uk
Gwefan: www.financial-ombudsman.org.uk
Mae Gwasanaeth yr Ombwdsman Ariannol yn medru delio gyda chwynion defnyddwyr am y rhan fwyaf o faterion ariannol personol gan gynnwys cyngor ariannol a chyngor ar wasanaethau bancio a chymdeithas adeiladu, morgeisi, polisïau gwaddol, yswiriant, a phensiynau personol. Mae Gwasanaeth yr Ombwdsman Ariannol ond yn medru archwilio cwynion os nad yw’r broblem wedi ei datrys ar ôl mynd trwy weithdrefn gwyno ffurfiol y cwmni ei hun.
Am fwy o wybodaeth, yn Lloegr gweler Sut i ddefnyddio Ombwdsman yn Lloegr, yng Nghymru, gweler Sut i ddefnyddio Ombwdsman yng Nghymru, yng Ngogledd Iwerddon, gweler Sut i ddefnyddio Ombwdsman yng Ngogledd Iwerddon neu yn yr Alban, gweler Sut i ddefnyddio Ombwdsman yn yr Alban.
Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian
Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar y wefan, mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch cynnyrch ariannol, er enghraifft cyfrifon banc, gan gynnwys tablau cymharu ar gyfer cyfrifon cynilo gwahanol. Mae eu Llinell Cyngor Am Arian yn medru ateb cwestiynau cyffredinol ynghylch cynnyrch a gwasanaethau ariannol.
Rhif ffôn y Llinell Gymorth Cyngor Am Arian yw 0300 500 5000.
Dyma eu gwefan: www.moneyadviceservice.org.uk.
Awdurdod Gwasanaethau Ariannol
Yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yw’r corff sy’n gyfrifol am reoleiddio banciau a chymdeithasau adeiladu. Nid ydynt yn cael bod ynghlwm â chwynion unigol, argymell cwmnïau na rhoi cyngor cyfreithiol nac ariannol. Ond, mae gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol ddiddordeb mewn clywed am achosion ble mae banc neu gymdeithas adeiladu yn ymddangos fel petai’n torri ei rwymedigaethau. Ble’n briodol, fe all yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol ddirwyo’r banc neu’r gymdeithas adeiladu. Rhowch glic ar: www.fsa.gov.uk.
Direct Selling Associationc/o Enterprise House
30 Billing Road
Northampton
NN1 5DQ
Ffôn: 01604 625700
E-bost: info@dsa.org.uk
Gwefan: www.dsa.org.uk
Mae'r DSA yn cynrychioli masnachwyr sy'n gwerthu o ddrws i ddrws a'r rheiny sy'n gwerthu mewn partïon yn nhy'r cwsmer. Mae gan y Gymdeithas God Ymarfer y mae'n rhaid i'w aelodau gydymffurfio ag ef. Mae gan y Gymdeithas weithdrefn gwyno fewnol i ddelio gyda chwynion yn erbyn ei aelodau. Mae yna restr o aelodau ar gael trwy wefan y DSA.
Mailing Preference ServiceDMA House
70 Margaret Street
London
W1W 8SS
Neu
Mailing Preference Service
MPS Freepost LON20771
London
W1E 0ZT
Ffôn: 020 7291 3310
Llinell Gofrestru'r MPS: 0845 703 4599
Ffacs: 020 7323 4226
E-bost: mps@dma.org.uk
Gwefan: www.mpsonline.org.uk
Dylech nodi y bydd defnyddio'r cyfeiriad rhadbost yn oedi'r ymateb sy'n cael ei anfon atoch.
Mae'r MPS yn delio gyda hysbysebu nad ydych wedi gofyn amdano, sydd wedi ei gyfeirio'n bersonol at ddefnyddwyr. Fe fyddan nhw'n tynnu enwau oddi ar restrau postio fel nad ydych chi'n cael unrhyw hysbysebion gan unrhyw gwmni.
Direct Marketing Association (DMA)DMA House
70 Margaret Street
London
W1W 8SS
Ffôn: 020 7291 3300
Ffacs: 020 7323 4165
E-bost: dma@dma.org.uk
Gwefan: www.dma.org.uk
Mae'r DMA yn gymdeithas fasnach ar gyfer cwmnïau, sy'n gwerthu trwy'r post neu'n marchnata'n uniongyrchol. Mae gan y DMA God Ymarfer, y mae'n rhaid i'w aelodau ei ddilyn. Mae gan y DMA gynllun cymodi mewnol a chynllun cyflafareddiad annibynnol i ddelio gyda chwynion yn erbyn ei aelodau.
Cymdeithasau masnach a chyrff proffesiynol Sefydliad Brenhinol Syrfewyr Siartredig (RICS)Lloegr:
RICS Contact Centre
RICS HQ
Parliament Square
London
SW1P 3AD
Ffôn: 0870 333 1600
Ffacs: 0207 334 3811
E-bost: contactrics@rics.org
Gwefan: www.rics.org
Cymru:
7 Plas Sant Andreas
Caerdydd
CF10 3BE
Ffôn: 029 2022 4414
E-bost: wales@rics.org
Gwefan: www.rics.org
Yr Alban:
9 Manor Place
Edinburgh
EH3 7DN
Ffôn: 0131 225 7078
Ffacs: 0131 240 0830
E-bost: contactrics@rics.org
Gogledd Iwerddon:
9-11 Corporation Square
Belfast
BT1 3AJ
Ffôn: 028 9032 2877
Ffacs: 028 9023 3465
E-bost: ricsni@rics.org
Sefydliad Brenhinol Syrfewyr Siartredig (RICS) yw un o'r cyrff proffesiynol ar gyfer syrfewyr siartredig. Mae'n rhaid i aelodau RICS ddilyn cyfres o reolau ar gyfer ymddygiad proffesiynol. Mae'r rhain wedi eu nodi yn Llyfr Rheolau i Syrfewyr Siartredig. Fe fydd RICS yn ymchwilio os yw aelod yn torri unrhyw un o'r rheolau hyn.
Gwasanaethau’r Ombwdsman: EiddoOmbudsman Services: Property
PO Box 1021
Warrington
WA4 9FE
Ffôn: 0330 440 1634 neu 01925 530270
Gwefan: www.os-property.org
Os ydych yn cael trafferth sortio cwyn gyda chwmni syrfewyr siartredig, ac mae'r cwmni'n aelod o Wasanaethau’r Ombwdsman: Eiddo, efallai y byddan nhw'n medru helpu.
Mae'n rhaid i bob cwmni gwerthu tai ymuno â chynllun unioni a gymeradwywyd gan y Swyddfa Masnachu Teg. Mae Gwasanaethau’r Ombwdsman: Eiddo yn un o'r cynlluniau unioni a gymeradwywyd, ac felly os oes cwmni gwerthu tai wedi ymuno â'r cynllun, fe fyddwch yn medru ei ddefnyddio i geisio datrys problemau gyda'r cwmni gwerthu tai.
Cymdeithas Genedlaethol Cwmnïau Gwerthu Tai yr NAEAArbon House
21 Jury Street
Warwick
CV34 4EH
Ffôn: 01926 496800
E-bost: info@naea.co.uk
Gwefan: www.tpos.co.uk
Mae Cymdeithas Genedlaethol Cwmnïau Gwerthu Tai'r NAEA yn archwilio i gwynion yn erbyn aelodau, ac mae hefyd yn medru cynnig cyngor ar gwynion yn erbyn y rheiny sydd ddim yn aelodau. Mae pob aelod wedi'i rhwymo i'r Rheolau Ymddygiad ac mae'r Gymdeithas yn medru cymryd camau disgyblu yn erbyn aelodau sydd ddim yn eu parchu. Mae aelodau sy'n gysylltiedig â gwerthu cartrefi yn dod o dan gynllun o eiddo'r gymdeithas o'r enw Guarantee Bonding Scheme, sy'n diogelu arian gwerthwyr sydd yn nwylo ei aelodau. Mae'n rhaid bod gan aelodau sy'n gysylltiedig â gosod a rheoli yswiriant digolledu.
Yr Ombwdsman EiddoBeckett House
4 Bridge Street
Salisbury
Wilts
SP1 2LX
Ffôn: 01722 333 306
Gwefan: www.tpos.co.uk
Mae'n rhaid i bob cwmni gwerthu tai ymuno â chynllun unioni a gymeradwywyd gan y Swyddfa Masnachu Teg. Mae Cynllun yr Ombwdsman Eiddo yn un o'r cynlluniau unioni a gymeradwywyd, ac felly os oes cwmni gwerthu tai wedi ymuno â'r cynllun, fe fyddwch yn medru ei ddefnyddio i geisio datrys problemau gyda'r cwmni gwerthu tai.
Am fwy o wybodaeth ynghylch yr Ombwdsman Eido, yn Lloegr, gweler Sut i ddefnyddio ombwdsman yn Lloegr, yng Nghymru, gweler Sut i ddefnyddio ombwdsman yng Nghymru neu yng Ngogledd Iwerddon, gweler Sut i ddefnyddio ombwdsman yng Ngogledd Iwerddon neu yn yr Alban, gweler Sut i ddefnyddio ombwdsman yn yr Alban.
Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (yr NHBC)Ymholiadau Cyffredinol yng Nghymru a Lloegr:
Customer Services
NHBC House
Davy Avenue
Knowlhill
Milton Keynes
MK5 8FP
Ffôn: 0844 633 1000
Ffacs: 01908 747255
E-bost: cusupport@nhbc.co.uk
Gwefan: www.nhbc.co.uk
Yr Alban:
NHBC Suite 4
5 New Mart Place
Edinburgh
EH14 1RW
Ffôn: 0844 633 1000
Ffacs: 0870 850 4495
Gwefan: www.nhbc.co.uk
Gogledd Iwerddon:
Holyrood Court
59 Malone Road
Belfast
BT9 6SA
Ffôn: 0844 633 1000
Ffacs: 0844 633 0022
Gwefan: www.nhbc.co.uk
Hawliadau yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon:
NHBC House
Davy Avenue
Knowlhill
Milton Keynes
Bucks
MK5 8FP
Ffôn: 0844 633 1000
Ffacs: 0870 241 4759
Gwefan: www.nhbc.co.uk
Mae'r NHBC yn fudiad annibynnol gyda dros 20,000 o adeiladwyr ar ei gofrestr. Cyn cael eu derbyn ar gofrestr yr NHBC, mae'n rhaid i adeiladwyr gytuno i lynu at Reolau a Safonau'r NHBC.
Mae'r NHBC hefyd yn rhedeg cynllun Buildmark, sy'n cynnwys tai a adeiladwyd gan adeiladwyr sydd wedi eu cofrestru gyda'r NHBC unwaith y maen nhw wedi eu cwblhau ac yn cydymffurfio â safonau'r NHBC. Mae'r cynllun Buildmark yn amddiffyn eich arian os yw'r adeiladwr yn mynd yn fethdalwr ar ôl cyfnewid cytundebau, ond cyn cwblhau. Mae hefyd yn cynnwys diffygion sy'n codi am nad yw'r adeiladwr wedi cydymffurfio â Rheolau a Safonau'r NHBC. Mae diffygion bach wedi eu cynnwys os ydynt yn ymddangos o fewn y ddwy flynedd gyntaf.
Federation of Master BuildersCymru:
96 Heol Caerdydd
Caerdydd
CF5 2DT
Ffôn: 029 2057 7711
Ffacs: 029 2057 7722
E-bost: ar gael trwy ffurflen ar y wefan
Gwefan: www.fmb.org.uk
Lloegr:
14-15 Great James Street
London WC1N 3DP
Ffôn: 020 7242 7583
Ffacs: 020 7404 0296
E-bost: ar gael trwy ffurflen ar y wefan
Gwefan: www.fmb.org.uk
Yr Alban:
5 New Mart Place
Edinburgh
EH14 1RW
Ffôn: 0131 442 8830
Ffacs: 0131 442 8833
E-bost: ar gael trwy ffurflen ar y wefan
Gwefan: www.fmb.org.uk
Gogledd Iwerddon:
39 Malone Road
Belfast
BT9 6RX
Ffôn: 028 9068 4260
Ffacs: 028 9066 9724
E-bost: ar gael trwy ffurflen ar y wefan
Gwrfan: www.fmb.org.uk
Mae tua 10% o adeiladwyr yn aelodau o'r Federation of Master Builders. Mae'r Ffederasiwn yn rhoi cyngor ar sut i ddewis adeiladwr a manylion cwmnïau sy'n aelodau yn ardal y cwsmer.
Mae gan y Ffederasiwn weithdrefn gwyno i ddelio gyda dadleuon gyda'i aelodau. Mae yna gynllun cyflafareddiad sy'n cael ei rhedeg yn annibynnol.
Painting and Decorating Association32 Coton Road
Nuneaton
Warwickshire
CV11 5TW
Ffôn: 02476 353776
Ffacs: 02476 354513
E-bost: info@paintingdecoratingassociation.co.uk
Gwefan: www.paintingdecoratingassociation.co.uk
Mae'n rhaid i addurnwyr sy'n aelodau o'r PDA gydymffurfio gyda'i Chod Ymarfer. Mae'r PDA yn gweithredu cynllun cwynion a chyflafareddiad mewnol i ddelio gyda chwynion yn erbyn aelodau.
Scottish Decorator's FederationCastlecraig Business Park
Players Road
Stirling
FK7 7SH
Ffôn: 01786 448838
Ffacs: 01786 450541
E-bost: info@scottishdecorators.co.uk
Gwefan: www.scottishdecorators.co.uk
Mae'n rhaid i addurnwyr yn yr Alban sy'n aelodau o'r SDF gydymffurfio gyda'i God Ymarfer. Mae'r SDF yn gweithredu cynllun cwynion a chyflafareddiad mewnol i ddelio gyda chwynion yn erbyn aelodau
Northern Ireland Master Painters Association16 The Square
Ballygowan
Newtownards
County Down
BT23 6HU
Ffôn: 028 9752 8384
Ffacs: 028 9752 8384
Warwick House
Houghton Hall Park
Houghton Regis
Dunstable
LU5 5ZX
Ffôn: 0870 013 0382
Ffacs: 01582 556024
E-bost: enquiries@niceic.com
Gwefan: www.niceic.com
Mae'r NICEIC yn fudiad diogelwch defnyddwyr annibynnol sy'n cyhoeddi Cofrestr o Gontractwyr Cyfarpar Trydanol sydd wedi eu Cymeradwyo.
Mae NICEIC yn gweithredu gweithdrefn gwyno fewnol i ddatrys dadleuon tros safon dechnegol gwaith a wneir gan aelodau o NICEIC.
Ni fydd NICEIC yn ymchwilio i'r gwyn os nad oes cytundeb ysgrifenedig rhwng y cleient a'r contractwr, neu os yw'r gwyn yn ymwneud â chost y gwaith neu'r amser a gymerwyd i'w gwblhau.
National Association of Professional Inspectors & Testers (NAPIT)4th floor, Mill 3
Pleasley Vale Business Park
Mansfield
Nottinghamshire
NG 19 8LR
Ffôn: 0845 543 0330
Ffacs: 0845 543 0332
E-bost: info@napit.org.uk
Gwefan: www.napit.org.uk
Mae NAPIT yn fudiad a gymeradwywyd gan y llywodraeth sy'n cadw cofrestr o gontractwyr yn y sectorau trydan, plymio, gwresogi ac awyru.
Mae NAPIT yn gweithredu gweithdrefn gwyno fewnol i ddatrys dadleuon ynghylch safon dechnegol gwaith a wnaed gan aelod o NAPIT.
Ni fydd NAPIT yn ymchwilio i'r gwyn os nad oes cytundeb ysgrifenedig rhwng y cleient a'r contractwr, neu os yw'r gwyn yn ymwneud â chost y gwaith neu'r amser a gymerwyd i'w gwblhau.
Association of Plumbing and Heating Contractors12 The Pavilions
Cranmore Drive
Solihull
B90 4SB
Ffôn: 0121 711 5030
Ffacs: 0121 705 7871
E-bost: ar gael trwy ffurflen ar y wefan
Gwefan: www.aphc.co.uk
Mae'n rhaid i aelodau'r APHC ddilyn Siartr Cwsmeriaid yr APHC.
Mae'r APHC yn medru rhoi manylion cwmnïau sy'n aelodau yn eich ardal chi, ac mae'n gweithredu cynlluniau cymodi a chyflafareddiad mewnol i ddelio gyda chwynion yn erbyn aelodau. Mae yna ffi am ddefnyddio'r cynllun cyflafareddiad, a gellir ei ad-dalu os ydych yn ennill eich achos. Fe all y person sy'n cyflafareddu orchymyn y cwmni sy'n aelod i dalu iawndal i chi neu i chi dalu iawndal i'r cwmni, neu orchymyn i'r cwmni sy'n aelod i unioni'r gwaith. Nid yw'r Gymdeithas yn cynnwys yr Alban na Gogledd Iwerddon - gweler isod.
Scottish and Northern Ireland Plumbing Employers' FederationBellevue House
22 Hopetoun Street
Edinburgh
EH7 4GH
Ffôn: 0131 556 0600
Ffacs: 0131 557 8409
E-bost ar gyfer cwynion: enquiry@pilb.org
E-bost: info@snipef.org
Gwefan: www.snipef.org.uk
Ar agor i bobl sydd am alw i mewn: Llun-Iau, 9yb-5yp; Gwe, 9yb-4.30yp.
Mae'r SNIPEF yn cynrychioli cwmnïau sy'n aelodau ac sy'n gysylltiedig â'r diwydiant plymio a gwresogi yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae'n rhaid i aelodau'r SNIPEF ddilyn y Cod Masnachu Teg.
Mae’r SNIPEF yn medru rhoi manylion cwmnïau sy’n aelodau yn eich ardal chi, ac os oes cwyn gennych yn erbyn cwmni sy’n aelod, fe fyddwch yn medru defnyddio gweithdrefn gwyno Cynllun Trwyddedu’r Diwydiant Plymio i ddatrys yr anghydfod. Os nad yw cwmni sy’n aelod yn cwblhau cytundeb, er enghraifft am iddo fynd yn fethdalwr, fe fydd SNIPEF yn eich helpu i ddod o hyd i gwmni arall i orffen y gwaith am bris tebyg.
The Chartered Institute of Plumbing and Heating Engineering64 Station Lane
Hornchurch
Essex
RM12 6NB
Ffôn: 01708 472791
Cwynion: 01708 463111
Ffacs: 01708 448987
E-bost: info@ciphe.org.uk
Gwefan: www.ciphe.org.uk
Ar agor i bobl sydd am alw i mewn: Llun-Gwe, 9yb-5yp.
Rhaid i aelodau CIPHE ddilyn Cod CIPHE.
Mae CIPHE yn cadw cofrestr o blymwyr cymwys ac yn medru rhoi manylion aelodau sydd yn eich ardal chi. Fe fydd CIPHE yn ymchwilio i gwynion yn erbyn ei aelodau ac efallai y bydd yn tynnu aelod oddi ar ei gofrestr.
Glass and Glazing Federation54 Ayres Street
London SE1 1EU
Ffôn: 020 7939 9101
Ffacs: 020 7357 7458
E-bost: info@ggf.org.uk
Gwefan: www.ggf.org.uk
Mae'n rhaid i aelodau'r GGF gydymffurfio gyda'r Cod Arfer Moesegol.
Mae'r GGF yn cynhyrchu taflenni rhad ac am ddim sy'n rhoi cyngor ar ddewis ffenestri, drysau a thai haul newydd, rhestr o gwmnïau sy'n aelodau a'r Siartr Cwsmeriaid. Mae'r Siartr yn amlinellu gwaith y GGF a'r safon gwasanaeth y mae cwsmeriaid yn medru ei ddisgwyl gan gwmnïau sy'n aelodau.
Scottish Motor Trade AssociationPalmerston House
10 The Loan
South Queensferry
EH30 9NS
Ffôn: 0131 331 5510
Ffacs: 0131 331 4296
E-bost: info@smta.co.uk
Gwefan: www.smta.co.uk
Mae aelodau'r SMTA yn dilyn Cod Ymarfer y Diwydiant Moduro. Mae'r SMTA yn gweithredu gwasanaeth cymodi mewnol a chynllun cyflafareddiad annibynnol.
Motor Codes LimitedPO Box 44755
London
SW1X 7WU
Llinell Gyngor i Ddefnyddwyr: 0800 692 0825
E-bost: consumer@motorcodes.co.uk
Gwefan: www.motorcodes.co.uk
Mae Motor Codes Limited yn is-gwmni i SMMT (Society of Motor Manufacturers and Traders) sy’n gymdeithas fasnach ar gyfer gwneuthurwyr moduron a chwmnïau yswiriant methiant mecanyddol. Mae Motor Codes Limited yn gweithredu nifer o godau ymarfer y mae’n rhaid i’w danysgrifwyr gydymffurfio â nhw. Dyma’r codau:
Cod Ymarfer y Diwydiant Moduro ar gyfer Ceir Newydd – Mae hwn yn cwmpasu gwerthu ceir newydd, warantïau ceir newydd, argaeledd rhannau newydd ar gyfer y ceir a hysbysebu;
Cod Ymarfer y Diwydiant Moduro ar gyfer ar gyfer Gwasanaethu ac Atgyweirio – Mae hwn yn ymrwymo garej i ddelio’n deg gyda chwsmeriaid. Gwahoddir cleientiaid sy’n cael gwasanaeth gwael gan unrhyw garej i ddweud wrth Motor Codes Limited am y mater, waeth a yw’r garej wedi cofrestru gyda’r cod ai peidio. Fe fydd y garejys hyn yn cael gwahoddiad i gofrestru gyda’r cod gyda’r nod o wella’u gwasanaethau;
Cod Ymarfer y Diwydiant Moduro ar gyfer Cynnyrch Waranti Cerbydau – Mae hwn yn cynnwys yswiriant methiant mecanyddol, gwarantau a warantïau estynedig, cymorth wrth ochr yr heol, yswiriant MOT, yswiriant teiars, yswiriant allweddi, GAP (gwarant diogelu asedau), yswiriant i rhoi cerbyd newydd yn lle cerbyd diffygiol ac yswiriant dychwelyd i anfonebu.
Mae’r codau’n gosod y safonau lleiaf y mae’n rhaid i danysgrifwyr gydymffurfio â nhw a’r broses ar gyfer trafod cwynion, ac mae hefyd yn darparu cyngor rhad ac am ddim i ddefnyddwyr a gwasanaeth cymodi.
Os nad ydych yn medru datrys problem yn syth gyda’r tanysgrifiwr, dylech gysylltu â’r Llinell Gyngor i Ddefnyddwyr am gyngor a chymorth. Os nad ydych yn medru ei datrys, efallai y cewch eich cyfeirio at Wasanaethau Cynghori a Chymodi Motor Codes.
Os nad ydych yn medru datrys y broblem drwy gymodi, efallai y bydd eich cwyn yn cael ei chyfeirio at gynllun cyflafareddiad annibynnol. Mewn rhai achosion, er enghraifft, ynghylch cynnyrch wedi’i yswirio, rydych yn medru dwyn eich cwyn gerbron Ombwdsmon y Gwasanaethau Ariannol. Mae canllawiau manwl ar sut i gwyno ar gael ymhob cod.
Cymdeithas Bancwyr Prydain (y BBA)Y BBA yw'r brif gymdeithas fasnachu ar gyfer banciau sy'n gweithredu yn y Deyrnas Gyfunol. Mae'n un o'r mudiadau sy'n cynhyrchu'r Cod Bancio.
Mae'r BBA yn cynhyrchu taflenni gwybodaeth rhad ac am ddim o'r enw Bankfacts sy'n delio gyda'r mwyafrif o agweddau ar arferion bancio. Maen nhw ar gael trwy ffonio llinell archebu BBA Bankfacts (020 7216 8801) neu trwy wefan y BBA yn www.bba.org.uk Ni fydd y BBA yn rhoi cyngor nac yn mynd ar drywydd problem unigol gyda banc.
Bwrdd Safonau'r Cod Bancio (y BCSB)Y BCSB yw'r corff sy'n sicrhau bod banciau a chymdeithasau adeiladu sy'n tanysgrifio i'r Cod Bancio yn parchu eu hymrwymiadau iddo. Os yw'r BCSB yn cael cwyn bod banc neu gymdeithas adeiladu wedi methu â chydymffurfio gyda'r Cod Bancio, fe fydd yn gofyn i'r banc neu gymdeithas adeiladu am esboniad ac yn mynnu eu bod yn cydymffurfio.
Nid yw'r BCSB yn medru delio gyda cheisiadau am iawndal. Nid yw'r BCSB yn medru ymyrryd mewn dadl rhyngoch chi'r cwsmer a'r banc neu gymdeithas adeiladu. Ond, mae gan y BCSB ddiddordeb mewn clywed am achosion ble mae'n ymddangos fod banc neu gymdeithas adeiladu wedi torri'r Cod Bancio.
Mae gan y BCSB wefan y gellir ei defnyddio i ddarganfod mwy am ei rôl, ac i weld pa fanciau a chymdeithasau adeiladu sy'n tanysgrifio i'r Cod Bancio. Fe allwch ddarllen y cod bancio ar y wefan neu roi manylion i'r BCSB am y banc neu'r gymdeithas adeiladu sy'n edrych fel petai wedi torri'r Cod Bancio.
Gellir cysylltu â'r BCSB yn:-
The Banking Code Standards Board
6 Frederick's Place
London
EC2R 8BT
Ffôn: 0845 230 9694
Ffacs: 020 7600 6914
E-bost: helpline@bcsb.org.uk
Gwefan: www.bankingcode.org.uk
5 Portland Place
London
W1B 1PW
Ffôn: 020 8863 7755 (ymholiadau cyffredinol)
Biwro gwybodaeth ar sychlanhau: 020 8863 8658
Ffacs: 020 8861 2115
E-bost: tsa@tsa-uk.org
Gwefan: www.tsa-uk.org
Mae'r TSA yn cynrychioli'r rhan fwyaf o dai golchi a sychlanhawyr. Mae'n rhaid i aelodau gydymffurfio gyda'r Cod Ymarfer ar gyfer Gwasanaethau Glanhau a Golchi Dillad Domestig.
Mae gan y TSA wasanaeth cymodi y gellir ei ddefnyddio i ddatrys dadl rhwng cwsmer ac aelod o'r TSA.
Fe allwch hefyd ffonio biwro gwybodaeth ar sychlanhau'r TSA am fanylion cwmnïau sy'n aelodau yn eich ardal chi. Mae'r TSA hefyd yn medru rhoi gwybodaeth chi ar yr aelodau hynny o'r TSA sy'n arbenigo mewn glanhau eitemau penodol, er enghraifft, hen ddefnydd.
Domestic Appliance Services Association2nd Floor
145-157 St John Street
London
EC1V 4PY
E-bost: trwy ffurflen ar eu gwefan www.dasanet.org.uk.
Gwefan: www.dasanet.org.uk
Mae'r DASA yn cynrychioli cwmnïau sy'n gwasanaethu ac yn trwsio offer trydanol ar gyfer y cartref. Mae'n rhaid i aelodau'r DASA gydymffurfio gyda'r Cod Ymarfer ar gyfer Gwasanaethu a Thrwsio Offer Trydanol ar gyfer y Cartref.
Fe fydd achosion ble mae aelod wedi torri'r Cod Ymarfer yn cael eu harchwilio gan y DASA, unwaith y bydd y person wedi dilyn pob opsiwn yng ngweithdrefn gwyno'r cwmni ei hun. Dylid anfon cwynion at y DASA yn ysgrifenedig. Mae gan DASA gynllun cyflafareddiad annibynnol hefyd.
Radio, Electrical and Television Retailers Association (RETRA)RETRA House
St John Terrace
1 Ampthill Street
Bedford MK42 9EY
Ffôn: 01234 269110
Ffacs: 01234 269609
E-bost: retra@retra.co.uk
Gwefan: www.retra.co.uk
Mae RETRA'n cynrychioli siopau sy'n gwerthu cyfarpar trydanol domestig gan gynnwys setiau teledu, radio ac offer stereo. Mae'n rhaid i aelodau RETRA ddilyn y Cod Ymarfer ar gyfer Gwerthu a Gwasanaethu Cyfarpar Trydanol ac Electronig. Mae gan RETRA weithdrefn gymodi ar gyfer dadleuon sy'n gysylltiedig â'i aelodau.
<