Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae ffurflen dreth yn ffurflen (papur neu ar-lein) ar yr hon y byddwch yn:
Gall Cyllid a Thollau EM (HMRC) roi ffurflen dreth i chi bob blwyddyn dreth. Mae’r flwyddyn dreth yn rhedeg o 6 Ebrill un flwyddyn tan 5 Ebrill y flwyddyn wedyn. Os ydych chi’n derbyn ffurflen dreth, mae’n rhaid i chi yn ôl y gyfraith ei llenwi.
Mae HMRC yn defnyddio’r wybodaeth ar eich ffurflen dreth i weithio allan eich bil treth neu i weithio allan os oes ad-daliad treth yn ddyledus i chi.
Nid oes rhaid i’r mwyafrif o drethdalwyr lenwi ffurflen dreth. Os yw HMRC yn credu eich bod yn talu’r swm iawn o dreth trwy system Talu Wrth Ennill (TWE/PAYE) ar eich cyflog, neu ar bensiwn galwedigaethol, wnân nhw ddim anfon ffurflen dreth atoch.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â TWE, gweler system Talu Wrth Ennill –TWE/PAYE.
Sut bynnag, bydd HMRC yn rhoi ffurflenni treth blynyddol os ydych chi:
Nid yw’r mwyafrif o bensiynwyr yn llenwi ffurflenni treth. Sut bynnag, mae lwfansau di-dreth i bobol sy’n 65 neu drosodd yn seiliedig ar incwm blynyddol ac felly bydd ffurflen dreth weithiau yn angenrheidiol.
Os ydych chi’n bensiynwr a’ch unig ffynhonnell o incwm trethadwy ydyw’ch Pensiwn Ymddeol Gwladol, mae’n rhaid i chi lenwi ffurflen dreth flynyddol os yw’r swm gewch chi yn uwch na’ch lwfansau personol di-dreth. Y rheswm am hyn yw nad yw Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) sy’n talu'r Pensiwn Ymddeol Gwladol yn didynnu unrhyw dreth cyn y telir y pensiwn.
Eich cyfrifoldeb chi yw hysbysu HMRC eich bod wedi derbyn incwm sy’n drethadwy. Fe ddylech wneud hyn erbyn 6 Hydref ar yr hwyraf yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth lle cododd eich incwm yn y lle cyntaf.
Os nad ydych wedi derbyn ffurflen dreth ond eich bod yn credu y dylech gwblhau un, ffoniwch neu ysgrifennwch at eich swyddfa dreth os ydych yn gwybod eu manylion cyswllt. Neu ffoniwch linell gymorth HMRC ar: 0845 9000 444 a gofynnwch iddynt am yrru ffurflen dreth atoch. Peidiwch ag aros i HMRC gysylltu â chi. Os fyddwch chi’n dychwelyd y ffurflen dreth yn hwyr, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu:
Os ydych yn credu eich bod wedi talu gormod o dreth, peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd HMRC yn darganfod hyn yn awtomatig. Cysylltwch â’ch swyddfa dreth os ydych yn gwybod eu manylion neu ffoniwch linell gymorth HMRC ar: 0845 9000 444 a gofynnwch iddynt am anfon ffurflen dreth atoch.
Os anfonwyd ffurflen dreth atoch ac nid ydych yn credu y dylech chi ei llenwi, peidiwch ag anwybyddu'r ffurflen dreth. Os na fydd HMRC yn derbyn y ffurflen dreth erbyn dyddiad ei dychwelyd, fe fyddan nhw’n rhoi cosb awtomatig.
Os ydych yn derbyn ffurflen dreth na ddylech chi orfod ei llenwi yn eich barn chi, cysylltwch ag HMRC. Bydd y rhif ffôn cywir wedi’i argraffu ar flaen y ffurflen. Os fyddan nhw’n cytuno na ddylech chi orfod llenwi’r ffurflen, fe fyddan nhw’n cadarnhau hyn yn ysgrifenedig.
Fe allwch chi gael mwy o wybodaeth ynglŷn â phryd mae angen ffurflen dreth ar wefan HMRC yn: www.hmrc.gov.uk.
Fe allwch chi gwblhau eich ffurflen dreth ar bapur neu ar-lein gan ddefnyddio meddalwedd HMRC neu feddalwedd masnachol.
Mae yna ddyddiadau gwahanol ar gyfer dychwelyd ffurflenni treth papur ac ar-lein. Gelwir y dyddiadau hyn yn ddyddiadau ffeilio. Rhaid i HMRC dderbyn ffurflen dreth bapur erbyn 31 Hydref yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth. Rhaid i HMRC dderbyn ffurflen dreth ar-lein erbyn 31 Ionawr yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth.
Mae yna gosbau llym os ydych yn hwyr yn anfon eich ffurflenni treth i mewn, fel a ganlyn:-
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu’r dirwyon hyn hyd yn oed os nad oes arnoch arian i CThEM, neu os oes arnyn nhw arian i chi. Fe allech orfod talu hyd at £1,600 mewn dirwyon, felly, waeth faint o dreth sydd angen i chi ei thalu.
Os ydych yn cael trafferth llenwi’ch ffurflenni treth, dylech gael help cyn gynted â phosib. Am wybodaeth bellach, gweler Help gyda phroblemau treth.
Fe fyddwch yn medru apelio yn erbyn y ddirwy i’w diddymu. Er mwyn bod yn llwyddiannus, fe fydd angen i chi ddangos bod gennych esgus rhesymol dros beidio â llenwi eich ffurflenni treth ar amser.
Cyhyd â’ch bod yn dychwelyd eich ffurflen bapur erbyn y dyddiad ffeilio, mae HMRC yn gwarantu cyfrifo eich bil treth a’ch gadael chi i wybod y canlyniad cyn y dyddiad talu ar 31 Ionawr yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth. Mae HMRC yn cyfrifo bil treth bob ffurflen dreth y maent yn eu prosesu. Sut bynnag, os fyddwch chi’n ffeilio ffurflen bapur ar ôl 31 Hydref, allan nhw ddim gwarantu i ddweud y canlyniad wrthych mewn pryd i’r taliad ar 31 Ionawr.
Os yw’ch ffurflen bapur yn hwyr, neu os ydych chi am gyfrifo eich bil treth eich hun, fe allwch ofyn i Linell Archebu HMRC ar 0845 9000 404 am y tudalennau a’r nodiadau atodol Crynodeb Cyfrifiad Treth i weithio allan eich bil treth. Nid oes rhaid i chi anfon y tudalennau hyn yn ôl fel rhan o’ch ffurflen dreth.
Er mwyn defnyddio gwasanaeth dychwelyd yr HMRC ar-lein, rhaid i chi’n gyntaf gofrestru. Ewch i wefan HMRC yn: www.hmrc.gov.uk a dilynwch y broses gofrestru. Bydd yn rhaid i chi aros am i fyny at saith diwrnod am Rif Adnabod Personol ac felly peidiwch â gadael cofrestru ar gyfer ffeilio ar-lein tan 31 Ionawr. Os fyddwch chi’n gwneud hyn, bydd eich ffurflen yn hwyr ac fe gewch chi gosb am ffeilio’n hwyr.
Bydd y ffurflen dreth ar-lein yn gofyn nifer o gwestiynau i chi er mwyn dwyn i sylw y rhannau perthnasol yn unig o’r ffurflen dreth. Bydd yn cyfrifo ar eich rhan a darparu cymorth ar y sgrin wrth i chi fynd yn eich blaen. Mae yna wiriadau eraill sy’n rhan o’r rhaglen i’ch helpu i’w gael yn iawn.
Caiff eich bil treth ei weithio allan yn awtomatig ac fe gewch chi gydnabyddiaeth fod eich ffurflen dreth wedi’i derbyn yn ddiogel.
Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i chi gadw’r cofnodion sydd eu hangen i chi lenwi ffurflen dreth gyflawn a chywir. Os yw’ch ffurflen yn anghyflawn ac yna fe welir fod treth yn ddyledus gennych, efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd dalu llog a chosb. Fe allwch ddod o hyd i wybodaeth bellach ynglŷn â’r cofnodion sydd eu hangen ar wefan Directgov yn: www.direct.gov.uk.
Os ydych chi’n aros am rywfaint o’r wybodaeth sydd ei angen arnoch ar gyfer y ffurflen dreth, fe allwch chi ddarparu ffigurau dros dro, er mwyn i chi osgoi ffeilio’ch ffurflen yn hwyr. Fe ddylech chi dynnu sylw at hyn yn y blwch Unrhyw wybodaeth arall ar y ffurflen dreth bapur neu yn y gofod gwyn ar y ffurflen ar-lein. Fe ddylech chi newid unrhyw ffigurau dros dro gyda’r rhai terfynol cyn gynted ag y byddwch yn eu gwybod.
Weithiau bydd yn rhaid i chi amcangyfrif swm, er enghraifft, cyfran breifat treuliau moduro neu gostau defnyddio’ch cartref ar gyfer busnes. Fydd dim angen newid y ffigurau hyn ac efallai fydd dim rhaid i chi dynnu sylw at y math hwn o amcangyfrif. Mae arweiniad ar gyfer hyn ar y ffurflen dreth.
Os fyddwch chi neu HMRC yn dod o hyd i fân wall ar eich ffurflen dreth, gellir ei gywiro’n aml trwy alwad ffôn.
Os cafodd eich cyflog ei or-ddweud a chwithau wedi talu mwy o dreth nag sy’n ddyledus, bydd HMRC yn ad-dalu’r gordaliad gyda swm priodol o log.
Os bu gwall arwyddocaol sy’n arwain at danddatganiad incwm, gall HMRC ystyried hyn yn sail i agor ymchwiliad. Os yw’r gwall yn ganlyniad esgeulustra neu dwyll, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb, yn ogystal â llog ar y dreth a dalwyd yn hwyr. Fe allwch chi gael mwy o wybodaeth am ymholiadau HMRC o wefan Grŵp Diwygio Treth ar gyfer pobol ar Incwm Isel yn: www.litrg.org.uk.
Os bydd HMRC yn agor ymchwiliad i’ch sefyllfa dreth, fe ddylech chi gysylltu ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am fanylion eich CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.