Diweddarwyd y safle:

Chwefror 10 af 2012

Treth etifeddu

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon

Telir y dreth etifeddu ar y pethau gwerthfawr yr ydych yn eu gadael ar eich hôl pan ydych yn marw. Gelwir hyn eich ystâd.

Bydd angen talu’r dreth etifeddu os yw gwerth eich ystâd yn fwy na £325,000. Mae yna rai eithriadau i’r rheol, er enghraifft, os ydych yn gadael eich ystâd i’ch gŵr, gwraig neu bartner sifil.

Cewch wybodaeth am y dreth etifeddu ar wefan Directgov.

Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys:

  • sut a phryd bydd angen i chi dalu’r dreth etifeddu
  • eithriadau’r dreth etifeddu
  • cynllunio etifeddiaeth.

Cewch hyd i’r wybodaeth ar wefan Directgov: (New window) www.direct.gov.uk.

Cewch hefyd wybodaeth ychwanegol gydag enghreifftiau defnyddiol ar wefan Grŵp Diwygio Trethi Incymau Isel yn (New window) www.litrg.org.uk.

Yn Lloegr a Chymru, cewch wybodaeth am y dreth etifeddu a chydfyw os ydych yn byw gyda’ch partner heb fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil yn: (New window) www.advicenow.org.uk.