Diweddarwyd y safle:

Chwefror 10 af 2012

Y Dreth Gyngor

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru



Beth yw’r dreth gyngor

System treth lleol yw’r dreth gyngor a gesglir gan awdurdodau lleol. Treth a godir ar eiddo domestig ydyw. Yn gyffredinol, y mwyaf yw’r eiddo, y mwyaf o dreth y bydd angen i chi ei thalu. Mae rhai eiddo wedi’u heithrio o’r dreth gyngor.

Rhestri a bandiau prisio

Mae pob awdurdod lleol yn cadw rhestr o bob eiddo domestig yn ei ardal. Fe’i gelwir yn y rhestr brisio. Caiff pob eiddo ei brisio a’i roi mewn band prisio. Codir swm gwahanol o’r dreth gyngor ar bob band.

Ail-werthuso ac ailfandio

Cyn Ebrill 2005, prisiwyd pob eiddo domestig yn ôl prisiau Ebrill 1991 a’u rhoi mewn rhestr brisio a elwir yn rhestr brisio 1993. O Ebrill 2005, ail-werthuswyd pob eiddo domestig ar brisiau Ebrill 2003 ac maen nhw wedi cael eu rhoi mewn bandiau prisio newydd ar restr brisio 2005.

Bydd rhai eiddo domestig wedi symud i fyny un neu fwy o fandiau ar ôl cael eu hail-werthuso, er enghraifft, o Fand A ar restr brisio 1993 i Fand B ar restr brisio 2005.

Bydd hyd at dair blynedd o gymorth yn cael ei gynnig o Ebrill 2005 i’r mwyafrif o bobl y mae eu heiddio wedi symud dau neu fwy o fandiau. Ni fydd yn rhaid i chi dalu mwy na un band o gynnydd ar gyfer y flwyddyn 2005/06, dim mwy na dau fand o gynnydd ar gyfer y flwyddyn 2006/07 a dim mwy na tri band o gynnydd ar gyfer y flwyddyn 2007/08. I fod yn gymwys ar gyfer yr help hwn, mae’n rhaid eich bod yn atebol i dalu’r dreth gyngor ar yr eiddo ar Fawrth 31 2005 ac Ebrill 1 2005, ac mae’n rhaid i’r eiddo fod eich prif neu unig breswylfa.

Nid oes yn rhaid i chi geisio am y cymorth hwn. Fe’i cynhwysir yn awtomatig ym mil eich treth gyngor.

Mae’r bandiau prisio fel y canlyn:

Bandiau prisio ar ôl Ebrill 2005

Band prisio Ystod gwerthoedd
A Hyd at £30,000
B Dros £30,000 hyd at £39,000
C Dros £39,000 hyd at £51,000
D Dros £51,000 hyd at £66,000
E Dros £66,000 hyd at £90,000
F Dros £90,000 hyd at £120,000
G Dros £120,000 hyd at £240,000
H Dros £240,000

Bandiau prisio ar ôl Ebrill 2005

Band prisio Ystod gwerthoedd
A Hyd at £44,000
B Dros £44,000 hyd at £65,000
C Dros £65,000 hyd at £91,000
D Dros £91,000 hyd at £123,000
E Dros £123,000 hyd at £162,000
F Dros £162,000 hyd at £223,000
G Dros £223,000 hyd at £324,000
H Dros £324,000 hyd at £424,000
I Dros £424,000

Darganfod band eiddo domestig

I ddarganfod band eiddo domestig, gallwch:

  • archwilio copi o restr brisio eich awdurdod lleol – gweler isod
  • edrych ar restrau prisio’r dreth gyngor a gyhoeddwyd ar-lein gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA): (New window) www.voa.gov.uk
  • wirio gyda’ch awdurdod lleol
  • os mai chi sy’n gyfrifol am dalu’r dreth gyngor, wirio bil eich treth gyngor. Os hoffech fwy o wybodaeth am bwy yw’r person atebol, gweler dan y pennawd Pwy sy’n gorfod talu’r dreth gyngor.

Cedwir copi o’r rhestr brisio gan brif swyddfeydd yr awdurdod lleol ac mae ar gael i unrhyw aelod o’r cyhoedd a hoffai ei gweld. Mae rhai awdurdodau lleol yn sicrhau bod y rhestr ar gael mewn swyddfeydd eraill, gan gynnwys llyfrgelloedd. Mae’n bosib y codir tâl bach i’w gweld.

Os yw’r rhestr brisio yn newid, gan gynnwys ychwanegu eiddo domestig newydd at y rhestr, bydd y swyddog rhestru yn hysbysu’r person atebol.

Nôl i’r brig


Eiddo sydd wedi’u heithrio o’r dreth gyngor

Mae rhai eiddo wedi’u heithrio o’r dreth gyngor yn gyfan gwbl. Gallant fod wedi’u heithrio am gyfnod byr, er enghraifft, chwe mis neu am gyfnod amhendant.

Mae’r eiddo y gellir ei eithrio pan nad yw wedi’i meddiannu yn cynnwys:

  • eiddo nad yw wedi’i feddiannu ac sy’n sylweddol ddi-gelfi
  • eiddo sy’n cael ei atgyweirio neu ei addasu’n helaeth
  • eiddo wedi’i gondemnio
  • eiddo sydd wedi’i ailfeddiannu’n gyfreithiol gan fenthyciwr morgeisi
  • eiddo heb ei feddiannu oherwydd bod y person oedd yn byw yno yn byw rhywle arall oherwydd bod angen gofal arno, er enghraifft, yn yr ysbyty (neu gyda pherthnasau)
  • eiddo heb ei feddiannu oherwydd bod y person oedd yn byw yno wedi symud er mwyn gofalu am rywun arall
  • mewn rhai achosion, eiddo nad yw wedi’i feddiannu oherwydd bod y person sy’n byw yno yn awr yn y carchar neu fewn hostel mechnïaeth neu hostel y gwasanaeth prawf
  • unrhyw eiddo y mae myfyrwyr neu Gynorthwywyr Iaith Dramor sy’n rhan o raglen swyddogol y Cyngor Prydeinig yn byw ynddo. Gallai fod yn neuadd breswyl neu dŷ. Os oes myfyrwyr a phobl nad ydynt yn fyfyrwyr yn byw yn yr eiddo, nid yw’r eiddo wedi’i eithrio ond diystyrir unrhyw fyfyrwyr yn y tŷ
  • carafán neu gwch sydd wedi ei leoli ar eiddo sy’n atebol i dalu’r dreth gyngor
  • eiddo lle mai pob person sy’n byw ynddo o dan 18 oed
  • eiddo lle mai dim ond pobl sydd â nam meddyliol difrifol sy’n byw yno
  • ‘fflat nain’ hunangynhaliol lle mae’r person sy’n byw ynddo yn berthynas dibynnol i berchennog y prif eiddo
  • eiddo a reolir gan ymddiriedolwr mewn methdaliad
  • eiddo ar gyfer gweinidog crefyddol
  • eiddo nad yw profiant eto wedi’i ganiatáu. Gall eithriad cyfyngedig barhau ar ôl i brofiant gael ei ganiatáu
  • eiddo a berchnogir gan elusen mewn rhai amgylchiadau.

Os credwch chi y dylid eithrio eich eiddo, dylech gysylltu ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Pwy sy'n gorfod talu'r dreth gyngor

Fel arfer un person, a elwir yn y person atebol, sy’n gyfrifol am dalu’r dreth gyngor. Ni all unrhyw un o dan 18 oed fod y person sy’n gyfrifol am y dreth gyngor. Mae parau sy’n byw gyda’i gilydd yn atebol, hyd yn oed os mai dim ond un enw sydd ar y bil. Mae hyn yn gymwys p’un ai bod y pâr yn briod, yn cydfyw neu mewn partneriaeth sifil.

Fel arfer, y person sy’n byw yn yr eiddo yw’r person atebol, ond weithiau gallai fod y person sy’n berchen ar yr eiddo sy’n gyfrifol am dalu’r dreth gyngor.

Bydd y perchennog yn atebol os:

  • yw sawl person yn meddiannu’r eiddo, er enghraifft, tŷ a rennir gan nifer o bobl sydd i gyd yn talu rhent, ond nid oes un person yn gyfrifol am dalu’r rhent i gyd
  • yw’r bobl sy’n byw yn yr eiddo i gyd o dan 18 oed
  • yw’r eiddo yn lety ar gyfer ymofynwyr noddfa ac nid ydynt yn gallu hawlio budd-daliadau gan gynnwys budd-dal y dreth gyngor
  • yw’r bobl sy’n aros yn yr eiddo yn byw yno dros dro a bod eu prif gartrefi rhywle arall
  • yw’r eiddo yn gartref gofal neu rai mathau o hosteli.

Os ydych yn meddwl mai perchennog yr eiddo ddylai fod yn talu’r dreth gyngor, cysylltwch ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Os mai dim ond un person sy’n byw yn yr eiddo, ef neu hi yw’r person atebol. Os oes mwy nag un person yn byw yno, defnyddir system o’r enw hierarchaeth atebolrwydd er mwyn darganfod pwy yw’r person cyfrifol. Y person ar frig yr hierarchaeth, neu’r agosaf i’r brig yw’r person atebol. Os bydd dau berson ar frig yr hierarchaeth, bydd y ddau yn atebol.

Yr hierarchaeth atebolrwydd yw:

  1. preswyliwr sy’n byw yn yr eiddo sy’n berchen ar y rhydd-ddaliad
  2. preswyliwr sy’n byw yn yr eiddo sydd â phrydles
  3. denant sicr neu denant fyrddaliad sicr
  4. preswyliwr sy’n byw yn yr eiddo sy’n denant gwarchodedig, statudol neu sicr
  5. preswyliwr sy’n byw yn yr eiddo ac ef yw’r trwyddedai. Mae hyn yn golygu nad tenant ydyw, ond caniateir iddo fyw yno
  6. unrhyw breswyliwr sy’n byw yn yr eiddo, er enghraifft, sgwatiwr
  7. perchennog eiddo lle nad oes unrhyw un yn byw ynddo.

Nôl i’r brig


Faint yw'r dreth gyngor

Bob blwyddyn mae awdurdodau lleol yn gosod cyfradd y dreth gyngor ar gyfer pob band prisio. Ni fydd yn rhaid i bawb dalu swm llawn y dreth gyngor. Mae yna dair ffordd o leihau bil eich treth gyngor megis trwy:

  • gynllun gostyngiad ar gyfer pobl anabl
  • ddisgowntiau
  • fudd-dal y dreth gyngor ac ad-daliad ail oedolyn.

Cynllun gostyngiad ar gyfer pobl anabl

Os oes rhywun (oedolyn neu blentyn) sydd ag anabledd yn byw yn eich cartref, gellir gostwng y dreth gyngor ar yr eiddo. Gwneir hyn drwy godi treth band prisio is nag un yr eiddo. Er enghraifft, os yw’r eiddo ym mand D, cyfrifir y bil fel petai’r eiddo ym mand C. O Ebrill 1 2000, mae’r gostyngiad hwn hefyd yn gymwys i eiddo ym mand A. Bydd y gostyngiad yn gyfwerth â’r gostyngiadau ar gyfer eiddo ym mandiau uwch.

I hawlio gostyngiad, mae’n rhaid i chi ddangos bod person anabl yn byw yn yr eiddo a bod yr eiddo hwn yn ateb anghenion y person hwnnw.

Mae’n rhaid i’r cais hwn am ostyngiad gael ei wneud yn ysgrifenedig i’r awdurdod lleol. Mae gan lawer o awdurdodau lleol ffurflen gais arbennig. Bydd rhai yn gofyn am dystiolaeth ategol, er enghraifft, llythyr doctor.

Os credwch chi fod hawl gennych i dderbyn gostyngiad oherwydd bod rhywun yn eich cartref yn anabl, cysylltwch ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Disgowntiau

Os oes un oedolyn yn unig yn byw yn yr eiddo, fe fydd yn derbyn 25 y cant o ddisgownt ar ei Dreth Gyngor. Pan gyfrifir faint o bobl sy’n byw mewn eiddo, nid oes pob person yn cyfrif. Gelwir y rhain yn bobl a ddiystyrir. Cewch eich diystyru os ydych:

  • yn 17 oed neu iau
  • yn garcharor
  • yn aros am alltudiaeth os ydych yn cael eich cadw o dan ddeddfwriaeth iechyd meddwl
  • â ‘nam meddyliol difrifol’
  • yn fyfyriwr llawn amser ar gwrs addysg cymwys, gan gynnwys myfyrwyr nyrsio. Caiff Cynorthwywyr Iaith Dramor sy’n rhan o raglen y Cyngor Prydeinig hefyd eu hystyried fel myfyrwyr at ddibenion y dreth gyngor. Os mai myfyrwyr yn unig sy’n byw yn yr eiddo, yna mae wedi’i eithrio rhag y dreth gyngor yn gyfangwbl.
  • yn briod i fyfyriwr, yn bartner sifil i fyfyriwr neu’n ddibynnol ar fyfyriwr heb fod yn Ddinesydd Prydeinig ac na fedrwch gael gwaith yn y DU na hawlio budd-daliadau yn unol â rheolau mewnfudo
  • yn fyfyriwr nyrsio/Prosiect 2000 myfyrwyr nyrsio
  • ydych yn berson ifanc ar gynllun hyfforddi’r llywodraeth, prentis neu gynorthwywr iaith dramor
  • yn glaf sy’n byw mewn ysbyty
  • yn byw mewn cartref gofal, cartref nyrsio, neu gartref ymgeledd nyrsio lle rydych yn derbyn gofal neu driniaeth
  • yn byw mewn hostel sy’n darparu gofal neu driniaeth oherwydd eich henaint, anabledd corfforol neu feddyliol, am eich bod yn camddefnyddio alcohol neu gyffuriau neu wedi gwneud yn y gorffennol neu am fod gennych salwch meddwl neu wedi dioddef ohono yn y gorffennol neu, yn Lloegr a Chymru, os ydych yn byw mewn hostel mechnïaeth neu hostel y gwasanaeth prawf
  • yn ofalwr
  • yn weithiwr gofal
  • yn byw mewn hostel neu lety dros nos, er enghraifft, hostel Byddin yr Iachawdwriaeth neu Fyddin yr Eglwys
  • yn gadael yr ysgol neu’r coleg ar ôl Ebrill 30 a’ch bod dan 20 oed. Cewch eich diystyru tan Dachwedd 1 o’r un flwyddyn p’un ai eich bod yn gweithio neu beidio
  • yn 18 oed a bod rhywun yn derbyn Budd-dal plant ar eich cyfer. Mae hyn yn cynnwys rhywun sy’n gadael yr ysgol neu’r coleg ac sy’n gweithio am dâl, neu berson yng ngofal yr awdurdod lleol
  • yn aelod o gymuned grefyddol
  • yn aelod o lu arfog ymweliadol. Ni chaiff eich dibynyddion eu hystyried chwaith.

Os diystyrir pawb sy’n byw yn yr eiddo, bydd bil yn cael ei gyhoeddi ond fe fyddwch yn derbyn 50 y cant o ddisgownt ar y Dreth Gyngor.

Testun newydd: Os ydych yn aros mewn llety ond nid eich prif preswylfan ydyw, fe gewch eich diystyru. Os mai chi yw’r unig berson sy’n byw yno a bod eich prif gartref rhywle arall, ystyrir yr eiddo hwn fel eich ail gartref a gallai rheolau arbennig leihau’r disgownt a roddir.

Gallai awdurdod lleol anfon bil y dreth gyngor sy’n cynnwys disgownt yn awtomatig atoch. Dangosir y disgownt ar y bil.

Os credwch chi fod hawl gennych i ddisgownt ac os nad yw eich bil yn dangos hynny, dylech wneud cais i’w awdurdod lleol am ddisgownt cyn gynted â phosibl.

Os yw’r bil yn dangos bod yr awdurdod lleol wedi cynnwys disgownt nad ydych chi yn credu y gallwch ei hawlio, mae’n rhaid i chi ddweud wrth yr awdurdod lleol o fewn 21 diwrnod. Os na wnewch hyn, mae’n bosib y gall yr awdurdod eich cosbi nes ymlaen.

Cartrefi gwyliau ac ail gartrefi

Gall awdurdodau lleol roi 50 y cant neu 25 y cant o ddisgownt, neu dim disgownt o gwbl ar gartrefi gwyliau neu ail gartrefi.

Budd-dal y Dreth Gyngor ac ad-daliad ail oedolyn

Mae’n bosib y gall y person sy’n gyfrifol am dalu’r dreth gyngor hawlio Budd-dal y Dreth Gyngor. Bydd swm y budd-dal yn dibynnu ar ei incwm a’i gyfalaf.

Os oes rhywun yn byw gyda chi nad yw’n atebol i dalu’r dreth gyngor ar eich eiddo, mae’n bosib y gallwch hawlio budd-dal o’r enw ‘ad-daliad ail oedolyn’. Ni fyddwch yn gallu hawlio ad-daliad ail oedolyn yn ogystal â Budd-dal y Dreth Gyngor. Os fedrwch chi hawlio’r ddau, byddwch yn derbyn pa bynnag un sy’n uwch.

Os hoffech fwy o wybodaeth am Fudd-dal y Dreth Gyngor ac ad-daliad ail oedolyn, gweler Help gyda’ch Treth Gyngor – Budd-dal y Dreth Gyngor.

Am fwy o wybodaeth am gymorth ychwanegol gyda’ch Treth Gyngor os ydych dros 65, gweler Budd-daliadau ar gyfer pobl dros chwedeg.

Nôl i’r brig


Sut i dalu’r dreth gyngor

Dylid anfon biliau’r dreth gyngor allan yn Ebrill. Mae gennych yr hawl i dalu mewn 10 rhandaliad. Gallai awdurdodau lleol dderbyn taliadau bob wythnos neu bythefnos. Gallai rhai hefyd gynnig gostyngiad ar gyfanswm y bil os caiff ei dalu i gyd ar unwaith ar ddechrau’r flwyddyn.

Nôl i’r brig


Ôl-ddyledion

Os nad ydych wedi talu rhandaliad o’r dreth gyngor ar y dyddiad y mae’n ddyledus, mae’n rhaid i’ch awdurdod lleol gyhoeddi hysbysiad atgoffa gan ofyn am daliad o fewn saith diwrnod. Os nad ydych yn talu o fewn y cyfnod hwn, rydych yn colli’r hawl i dalu mewn rhandaliadau a bydd angen i chi dalu blwyddyn lawn o’r dreth gyngor mewn un taliad.

Os nad ydych wedi talu’r swm cyfan ar ôl saith diwrnod arall, gall eich awdurdod lleol ofyn i’r llys ynadon gyhoeddi gorchymyn atebolrwydd.

Mae gorchymyn atebolrwydd yn caniatáu awdurdod lleol i wneud trefniadau i dalu’r ôl-ddyledion drwy ddidynnu o’ch Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith neu gyflog, neu fod y beilïaid yn atafaelu eich nwyddau sy’n gyfwerth â’r swm sy’n ddyledus. Fel arall, gallech gael eich anfon i’r carchar gan y llys ynadon os nad ydych yn talu.

Os yw eich awdurdod lleol yn cyhoeddi dau hysbysiad atgoffa ar gyfer talu rhandaliadau yn hwyr o fewn yr un flwyddyn ariannol, byddwch yn colli eich hawl i dalu mewn rhandaliadau a bydd angen i chi dalu blwyddyn lawn o’r dreth gyngor. Fodd bynnag, yn ymarferol, gallai eich awdurdod lleol barhau i dderbyn taliad mewn rhandaliadau.

Os ydych ar ei hôl hi gyda’ch treth gyngor, dylech gysylltu ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. Os hoffech fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Apeliadau

Gellir apelio yn erbyn ystod o faterion sy’n ymwneud â’r dreth gyngor. Mae’n rhaid i chi apelio i’r Swyddfa Brisio neu’r awdurdod lleol yn dibynnu ar natur eich apel.

Gallwch apelio i’r Swyddfa Brisio ynglŷn â:

  • ph’un ai dylai’r eiddo fod ar y rhestr brisio neu beidio
  • band prisio eiddo (gweler dan Restri a bandiau prisio)
  • pha ganran o’r eiddo sy’n cael ei ddefnyddio at ddibenion domestig mewn eiddo sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer busnes hefyd.

Gall y bobl ganlynol apelio yn erbyn penderfyniad y Swyddfa Brisio:

  • perchennog yr eiddo
  • y person atebol, gan gynnwys y person sy’n atebol ar y cyd. Mae yna reolau arbennig ynglyn â phryd gall berson atebol apelio yn erbyn band prisio eiddo (gweler dan Derfynau amser ar gyfer apelio yn erbyn band prisio eiddo)
  • y person a fyddai’n atebol os nad oedd yr eiddo wedi’i eithrio
  • yr awdurdod lleol.

Gallwch apelio i’r awdurdod lleol ynglyn â:

  • phwy yw’r person atebol. Mae hyn yn cynnwys rhywun sy’n atebol ar y cyd oherwydd bod dau neu fwy o bobl ar yr un lefel o’r hierarchaeth neu berson sy’n atebol ar y cyd oherwydd ei fod yn un o bâr
  • ph’un ai bod eiddo wedi’i eithrio neu beidio
  • ph’un ai bod disgownt yn gymwys a faint ydyw
  • ph’un ai bod y cynllun gostyngiad ar gyfer pobl anabl yn gymwys neu beidio.

Ni ellir apelio yn erbyn lefel y dreth gyngor a osodwyd neu bob band prisio ar gyfer yr ardal.

Gall y bobl ganlynol apelio yn erbyn penderfyniad yr awdurdod lleol:

  • y person atebol, gan gynnwys y person sy’n atebol ar y cyd
  • y person tramgwyddedig sef rhywun sydd wedi’i effeithio’n uniongyrchol gan y penderfyniad, er enghraifft, gweinyddydd ystâd y person atebol a fu farw.

Ni ellir apelio yn erbyn lefel y dreth gyngor a osodwyd neu bob band prisio ar gyfer yr ardal.

Apeliadau i newid band prisio eiddo

Gellir newid y rhestr brisio er mwyn gosod eiddo mewn band prisio gwahanol os:

  • gwnaed gwall pan ffurfiwyd y rhestr, neu
  • prisiwyd yr eiddo yn anghywir, er enghraifft, oherwydd nid oedd y swyddog prisio yn ymwybodol o nodweddion mewnol yr eiddo a wnaeth leihau ei werth, neu
  • mewn eiddo sy’n cael ei ddefnyddio yn rhannol ar gyfer dibenion domestig ac yn rhannol ar gyfer busnes, cynyddwyd neu lleihawyd y gyfran busnes, neu os yw’r eiddo yn awr yn cael ei ddefnyddio yn llwyr ar gyfer dibenion domestig neu yn llwyr ar gyfer busnes, neu
  • gwnaed newidiadau i’r eiddo sydd wedi lleihau ei werth, neu
  • gwnaed newidiadau i’r eiddo sydd wedi cynyddu ei werth ac mae’r eiddo ers hynny wedi’i werthu.

Mae yna reolau arbennig ynglŷn â phryd gall berson apelio yn erbyn band prisio eiddo - gweler isod.

Terfynau amser ar gyfer apelio yn erbyn band prisio eiddo

Mae yna rai amgylchiadau arbennig lle gellir apelio yn erbyn rhestr brisio 1993.

Os hoffech fwy o wybodaeth am hyn, dylech gysylltu ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Terfynnau amser ar gyfer apelio i newid band prisio ar restr brisio 2005

Os yw eiddo domestig ar restr brisio 2005 ar Ebrill 1 2005, yna gall y person sy’n atebol i dalu’r dreth gyngor ar Ebrill 1 2005 apelio i newid y band prisio rhwng Ebrill 1 2005 a Medi 30 2006.

Os yw’r person sy’n atebol i dalu’r dreth gyngor yn newid, bydd gan y person(nau) chwe mis o’r dyddiad a ddaw’n atebol i geisio newid y band prisio. Felly, er enghraifft, os mai chi yw’r person atebol ar Fai 1 2008, bydd gennych chwe mis o Fai 1 2008 i geisio newid y rhestr. Cewch wneud hyn ar yr amod nad yw eich rhesymau eisoes wedi cael eu hystyried a’u gwrthod gan dribiwnlys prisio neu’r Uchel Lys.

Os ychwanegwyd eiddo i’r rhestr brisio ers Ebrill 1 2005, mae gan y person chwe mis o’r dyddiad a ddaw’n atebol i geisio newid y rhestr. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu chwe mis o ddyddiad rhoi’r eiddo ar y rhestr brisio.

Y weithdrefn

Apelio i’r Swyddfa Brisio

I apelio, mae’n rhaid i chi ysgrifennu cais at y Swyddfa Brisio gan ddweud yr hyn yr ydych chi’n ei gredu y dylid ei newid a’ch rhesymau.

Dim ond mewn amgylchiadau arbennig y gellir rhoi eiddo mewn band gwahanol, er enghraifft, os yw rhywbeth wedi digwydd i leihau gwerth yr eiddo yn sylweddol.

Os nad yw’r Swyddfa Brisio yn cytuno â’ch cais, caiff ei drin fel apel yn awtomatig a’i glywed gan Dribiwnlys Prisio.

Apelio i’r awdurdod lleol

Mae cam cyntaf apel i’r awdurdod lleol yn cynnwys ysgrifennu cwyn am y broblem i’r awdurdod lleol.

Os nad yw’r awdurdod lleol yn datrys y broblem, gellir apelio i’r Tribiwnlys Prisio.

Y tribiwnlys prisio

Ym mhob achos, bydd y tribiwnlys prisio yn ystyried yr holl wybodaeth am yr achos a phennu’r camau nesaf. Gallai benderfynu ar sail y cynrychioliadau ysgrifenedig neu wahodd pawb sy’n gysylltiedig â’r achos i gyfarfod er mwyn clywed eu tystiolaeth.

Cewch fwy o wybodaeth am y tribiwnlys gwerthuso yng Nghymru ar y wefan: (New window) www.valuation-tribunals-wales.org.uk.

Os hoffech wneud apêl yn erbyn y dreth gyngor, dylech gysylltu ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig