Diweddarwyd y safle:

Chwefror 11 af 2012

  • Cymru
  • Rhestr wirio hunan-gyflogaeth

Rhestr wirio hunan-gyflogaeth

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon



Pam dod yn hunan-gyflogedig

Mae'r llywodraeth yn annog pobl i ddod yn hunan-gyflogedig ac, ar yr olwg gyntaf, mae'n ymddangos yn opsiwn deniadol, yn enwedig os ydych newydd golli eich swydd neu eich bod newydd gael eich gwneud yn ddi-waith. Er mai un o brif atyniadau dod yn hunan-gyflogedig yw peidio â gorfod gweithio i rywun arall, mae yna nifer o anfanteision y dylech eu hystyried. Mae'r rhain yn cynnwys diffyg sicrwydd incwm rheolaidd, gorfod trefnu eich tâl salwch a'ch pensiwn eich hun, ac, mae'n debygol y byddwch yn gorfod gweithio oriau hir.

Nôl i’r brig


Pa fath o fusnes

Os ydych yn ystyried hunan-gyflogaeth a does gennych ddim syniad ynglyn â beth rydych am ei wneud, gallech ystyried rhywbeth sy'n defnyddio'ch profiad neu sgiliau neu rywbeth yr ydych wedi ei wneud ynghynt fel diddordeb. Yn ogystal â'r cymdeithasau a restrir o fewn y wybodaeth yma (gweler y pennawd Pwy sy'n gallu rhoi cyngor pellach), mae'n bosib y byddwch yn medru cael syniadau wrth edrych ar lyfrau neu daflenni yn y llyfrgell leol neu'r ganolfan waith.

Nôl i’r brig


Hyfforddiant

Mae'n bosib y bydd angen hyfforddiant mewn naill ai sgiliau ymarferol neu sgiliau rheoli. Mae hyfforddiant ar gael o amrywiaeth o ffynonellau fel cyrsiau sy'n cael eu rhedeg gan gymdeithasau a restrir o fewn y wybodaeth yma (gweler y pennawd Pwy sy'n gallu rhoi cyngor pellach), dosbarthiadau nos mewn colegau lleol, llyfrau.

Gweler Cunlluniau cyflogaeth y llywodraeth.

Nôl i’r brig


Sut i fasnachu

Os ydych yn ystyried hunan-gyflogaeth, bydd angen i chi siarad ag un o'r cymdeithasau a restrir o dan y pennawd Pwy sy'n gallu rhoi cyngor pellach ynglyn â gwahanol ffyrdd o fasnachu a pha un fyddai'n fwyaf addas ar gyfer eich busnes chi. Gallai'r busnes gymryd un o dri ffurf cyfreithiol:-

  • masnachwr unigol. Dyma'r dull mwyaf syml o gychwyn busnes
  • partneriaeth. Mae'r dull yma'n debyg i fasnachwr unigol ond mae dau neu fwy o bobl yn rhedeg y busnes.
  • cwmni cyfyngedig. Mae'r dull yma yn rhoi hunaniaeth hollol ar wahân i'r cwmni oddi wrth y bobl sy'n rhedeg y busnes. Mae'n fwy cymhleth i'w sefydlu.

Yn ychwanegol at un o'r ffurflenni cyfreithiol uchod, gall hunan-gyflogaeth gynnwys un o'r arferion masnachu canlynol hefyd:-

  • cwmnni cydweithredol, sef busnes sydd yn eiddo i'r bobl sy'n gweithio ynddo, ac sy'n cael ei reoli ganddynt. Mae'n rhaid i o leiaf dau berson fod ynghlwm â'r cwmni
  • etholfraint (franchise). Mae etholfraint yn gytundeb sy'n galluogi'r person sy'n prynu'r etholfraint i redeg cangen o fusnes y mae rhywun arall wedi'i sefydlu.

Nôl i’r brig


Cyllid

Fel person hunan-gyflogedig, bydd angen digon o arian arnoch i fyw arno yn ogystal ag arian i gychwyn y busnes a'i gadw i redeg. Mae'n bosib y byddwch yn medru cael arian o'r ffynonellau canlynol:-

  • teulu neu ffrindiau
  • grantiau gan elusennau neu ymddiriedolaethau
  • benthyciadau gan fanciau neu gymdeithasau adeiladu

Nôl i’r brig


Cadw cyfrifon mewn trefn a chyfrifo

Mae'n holl bwysig eich bod yn cadw cofnod cywir a manwl o'r busnes. Mae'n bosib y byddwch yn medru cadw eich cyfrifon eich hunan neu gyflogi cyfrifydd, ond os ydych yn masnachu fel cwmni cyfyngedig byddwch angen cymorth cyfrifydd.

Nôl i’r brig


Treth incwm

Fel person hunan-gyflogedig, fe fyddwch yn gyfrifol am dalu treth incwm ar eich enillion ac, fel arfer, fe fyddwch angen cymorth cyfrifydd. Mae yna ostyngiadau a lwfansau treth arbennig y gall pobl hunan-gyflogedig eu hawlio. Os ydych newydd ddod yn hunan-gyflogedig, dylech gofrestru gydag Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CAThEM) trwy ffonio'r llinell gymorth ar gyfer y Rheiny sydd Newydd Ddod yn Hunan-gyflogedig. Rhif ffôn y llinell gymorth yw: 08459 154515.

Mae mwy o wybodaeth ynghylch treth incwm i bobl hunan-gyflogedig ar wefan CATHEM yn: (New window) www.hmrc.gov.uk.

Nôl i’r brig


Treth Ar Werth

Mae Treth Ar Werth (TAW) yn dreth ar nwyddau a gwasanaethau a delir i Gyllid a Thollau EM. Mae p'un ai fod person hunan-gyflogedig yn gorfod talu, ac mewn rhai achosion fod ganddo/i'r hawl i ddewis talu, TAW yn dibynnu ar y math o fusnes a faint mae'r busnes yn ei werthu.

Mae mwy o wybodaeth ynghylch TAW ar wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn: (New window) www.hmrc.gov.uk.

Nôl i’r brig


Adeiladau a swyddfeydd

Gallech ystyried masnachu gan ddefnyddio un o'r dulliau canlynol:-

  • o'ch cartref. Mae gan yr opsiwn yma y fantais o gostau isel, ond bydd yn rhaid i chi sicrhau nad yw'r cytundeb tenantiaeth, cytundeb morgais neu drafodion y ty (deeds) yn gosod unrhyw gyfyngiadau ar ei ddefnyddio ar gyfer busnes. Efallai, hefyd, y bydd angen caniatâd cynllunio yr awdurdod lleol arnoch.
  • o adeilad(au) yr ydych wedi'i brynu neu ei rentu. Dylech ystyried faint o le sydd angen arnoch yn ogystal â gwres, golau a gwyntyllu. Mae angen i chi wneud yn siwr fod yr adeilad wedi'i gymeradwyo at ddefnydd busnes. Mae'n bosib y bydd caniatâd cynllunio yn angenrheidiol hefyd. Os ydych yn ystyried prynu neu rentu adeilad, dylech weld cyfreithiwr
  • o stondin marchnad. Bydd gan yr awdurdod lleol fanylion ynglyn â phryd a ble mae'r rhain ar gael a faint mae marchnadoedd lleol yn eu codi.
  • mewn ffeiriau crefft. Bydd yr awdurdod lleol yn gallu rhoi manylion ynglyn â phryd a ble mae'r ffeiriau yma yn cael eu cynnal.

Nôl i’r brig


Trethi busnes

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru a Lloegr yn unig.

Mae'n rhaid talu treth fusnes i'r awdurdod lleol ar y rhan fwyaf o leoliadau. Mae'r rhain yn cynnwys siopau, swyddfeydd, storfeydd a ffatrioedd. Mewn rhai achosion, er enghraifft gydag eiddo sy'n cynnwys siop a fflat, neu os ydych chi'n gweithio o gartref, fe fydd yn rhaid i chi talu treth fusnes a threth gyngor. Mae rhai mathau o leoliadau busnes wedi eu heithrio rhag dreth, er enghraifft, tir amaethyddol. Am fwy o wybodaeth ynghylch treth fusnes yn Lloegr, gweler gwefan Business Link y llywodraeth (New window) www.businesslink.gov.uk.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â threthi busnes yng Nghymru, gweler y wefan a gynhyrchwyd ar y cyd gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn: (New window) www.mybusinessrates.gov.uk.

Am fwy o wybodaeth ynghylch trethi busnes yng Ngogledd Iwerddon, gweler gwefan sefydliad o'r enw Land and Property Services yn: (New window) www.lpsni.gov.uk.

Am fwy o wybodaeth ynghylch treth fusnes yn yr Alban, gweler Canllawiau Llywodraeth yr Alban ar drethi annomestig

Am fwy o wybodaeth yng Nghymru, Lloegr a'r Alban ynglyn â threth gyngor, gweler Treth gyngor.

Nôl i’r brig


Iechyd a diogelwch

Fel person hunan-gyflogedig, mae'n ddyletswydd arnoch i sicrhau bod eich hadeiladau busnes a'ch hamgylchedd weithio yn cwrdd ag anghenion iechyd a diogelwch. Gellir cael gwybodaeth bellach ynglyn â gofynion iechyd a diogelwch o'r gyfarwyddiaeth iechyd a diogelwch lleol neu adran iechyd yr amgylchedd yr awdurdod lleol. Yn yr Alban, mae awdurdod lleol yn cyfeirio at Gyngor y Dosbarth a'r Ynysoedd.

Nôl i’r brig


Yswiriant

Yn ddibynnol ar y busnes, a sut fyddwch chi'n masnachu, bydd gofyn cyfreithiol i chi gymryd mathau arbennig o yswiriant. Nid yw pob math o yswiriant yn orfodol ond mae'n bwysig ystyried pa rai sy'n addas. Dyma'r math o yswiriant y mae'n bosib y byddwch ei angen:-

  • yswiriant atebolrwydd cyflogwr. Os ydych yn cyflogi pobl eraill, mae'n rhaid i chi gael yr yswiriant yma. Mae'n darparu ar gyfer achosion lle mae cyflogedigion yn cael niwed neu'n mynd yn sâl o ganlyniad i'r gyflogaeth
  • yswiriant cerbydau. Mae'n rhaid i gerbydau a ddefnyddir at ddibenion busnes gael eu hyswirio hyd yn oed os ydynt wedi eu hyswirio at ddefnydd preifat
  • yswiriant atebolrwydd cyhoeddus. Mae hwn yn darparu ar gyfer achosion lle mae aelodau o'r cyhoedd sydd wedi cael niwed neu wedi cael eu heiddio wedi'i niweidio o ganlyniad i esgeulustod yn y gwaith gennych chi neu eich cyflogedigion
  • yswiriant adeiladau. Bydd angen yswiriant ar gyfer yr adeilad lle rydych yn gweithio, hyd yn oed os ydych yn gweithio o'ch cartref a bod gennych bolisi yn barod. Mae hyn oherwydd bydd yr yswiriant at ddefnydd preswyl yn unig fel arfer
  • yswiriant cynnwys, stoc a defnyddiau. Bydd angen yr yswiriant yma ar gyfer cost ailgyflenwi stoc, defnyddiau a chynnwys yr adeiladau hyd yn oed os yw'r gwaith yn cael ei wneud o'ch cartref, a bod polisi yswiriant cynnwys y cartref gennych yn barod
  • yswiriant iechyd a damwain. Bydd yr yswiriant yma yn talu incwm rheolaidd neu un swm os nad ydych yn medru gweithio oherwydd damwain neu afiechyd.

Nôl i’r brig


Pensiynau

Fel person hunan-gyflogedig, byddwch yn derbyn pensiwn ymddeol y wladwriaeth os ydych wedi cwrdd ag amodau cyfraniadau.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â Phensiwn Ymddeol, gweler Budd-dalidau i bobl dros chwedeg.

Gallech hefyd ystyried cael pensiwn personol preifat.

Nôl i’r brig


Statws mewnfudo

Gallai cychwyn busnes effeithio ar eich statws mewnfudo a dylech, felly, ofyn am farn cynghorydd profiadol cyn gwneud hynny. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Cyflogi pobl eraill

Os ydych yn cyflogi pobl eraill, fe fyddwch yn gyfrifol am dalu cyflog, treth a chyfraniadau yswiriant gwladol ble’n berthnasol. Bydd yn rhaid i chi gwrdd â gofynion cyfraith cyflogi a rheoliadau iechyd a diogelwch.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â chyfrifoldebau cyflogwyr, gweler Hawliau sylfaenol yn y gwaith.

Nôl i’r brig


Cyfraniadau yswiriant gwladol

Fel person hunan-gyflogedig, mae'n bosib y byddwch yn gorfod talu cyfraniadau yswiriant gwladol ar eich cyfer chi'ch hun ac unrhyw gyflogedigion. Mae p'un ai y byddwch yn gorfod talu cyfraniadau ar eich cyfer chi'ch hun, ac os felly, pa fath, yn dibynnu ar faint yr ydych yn ei ennill. Mae p'un ai fydd yn rhaid talu cyfraniadau ar gyfer cyflogedigion yn dibynnu ar eu cyflog. Bydd talu cyfraniadau yn effeithio ar y budd-daliadau y gall person eu hawlio yn y dyfodol.

Mae mwy o wybodaeth ynghylch cyfraniadau yswiriant gwladol i bobl hunangyflogedig ar wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CAThEM) yn [(New window) http://www.hmrc.gov.uk/working/intro/selfemployed.htm]. Mae CAThEM hefyd yn darparu Llinell Gymorth Yswiriant Gwladol i Bobl Hunangyflogedig ar gyfer ymholiadau dros y ffôn, ar 0845 915 4655.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â chyfraniadau yswiriant gwladol, gweler Cyfraniadau yswiriant gwladol – cyfraniadau a budd-daliadau.

Nôl i’r brig


Budd-daliadau a chredydau treth

Fel person hunan-gyflogedig, mae'n bosib y byddwch yn medru hawlio budd-daliadau neu gredydau treth, yn dibynnu ar eich incwm ac amgylchiadau eraill.

I weld pa fudd-daliadau neu gredydau treth a allai fod ar gael, gweler Budd-daliadau a chredydau treth i bobl sy'n gweithio.

Os ydych yn hunan-gyflogedig, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft Canolfan Cynghori, am help gyda chyfrifo faint o fudd-dâl neu gredyd treth y mae gennych yr hawl iddo. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Enwau masnachu a thrwyddedau

Mae angen i chi ystyried a ydych am ddefnyddio enw masnachu ar gyfer y busnes. Os felly, mae yna gyfyngiadau ar yr enwau y gall busnesau eu defnyddio. Mae'n bosib y bydd angen i chi gael trwydded hefyd, yn dibynnu ar y math o fusnes. Ar gyfer cymdeithasau sy'n gallu rhoi cyngor ar enwau masnachu a thrwyddedau, gweler y pennawd Pwy sy'n gallu rhoi cyngor pellach.

Nôl i’r brig


Pwy sy'n medru rhoi cyngor pellach

Banciau

Mae’r gwasanaethau a gynigir gan fanciau yn amrywio’n sylweddol, yn ogystal â’r ffioedd y maen nhw’n eu codi. Mae gan rai banciau dimau arbennig sy’n trafod cyfrifon busnes. Efallai hefyd y bydd ganddyn nhw wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer busnesau sy’n dechrau o’r newydd. Mae’n syniad da siopa am wasanaethau banciau busnes, er enghraifft, trwy ddefnyddio gwefan gymharu ariannol.

Mae gan Gymdeithas Bancwyr Prydain wefan sy’n medru eich helpu i ddod o hyd i gyfrif busnes sy’n addas i chi. Am fwy o wybodaeth, rhowch glic ar: (New window) www.bba.org.uk.

Siambrau Masnach

Mae Siambr Fasnach yn rhwydaith lleol o fusnesau. Mae’n medru darparu gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant i fusnesau yn eich ardal. Mae'r mwyafrif yn rhoi cyngor rhad ac am ddim i aelodau, ond yn codi tâl am wasanaethau i'r rheiny nad ydynt yn aelodau. Mae rhai Siambrau Masnach yn gwasanaethu lleiafrifoedd ethnig penodol.

Business Link (Lloegr yn unig)

Mae Business Link yn wasanaeth cyngor a chymorth busnes rhad ac am ddim a ariennir gan y llywodraeth, i fusnesau yn Lloegr, sydd ar gael ar-lein. Mae ar gael ar-lein a thrwy rwydwaith o gynghorwyr lleol. Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth fanwl ynghylch sefydlu a rhedeg busnes. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth ynglŷn â ffynonellau cymorth lleol ar gyfer cyngor ar fusnes yn (New window) www.businesslink.gov.uk/contacts.

Ffôn: 0845 600 9006
Minicom: 0845 606 2666
Gwefan: (New window) www.businesslink.org

busnes.cymru.gov.uk (Cymru yn unig)

Mae gwasanaeth busnes.cymru.gov.uk Llywodraeth Cynulliad Cymru yn helpu ac yn cefnogi pobl sydd eisiau dechrau, cynnal neu ymestyn busnes yng Nghymru.

Ffôn: 0300 060 3000
Gwefan: (New window) http://business.wales.gov.uk/bdotg/action/home?site=230&domain=fs4b.wales.gov.uk&target=http://fs4b.wales.gov.uk/

Business Gateway (Yr Alban yn unig)

Mae Business Gateway yn wasanaeth a ddarperir gan Scottish Enterprise. Mae’n rhoi cymorth, cyngor a chefnogaeth ymarferol i fusnesau newydd a busnesau sy’n tyfu yn yr Alban.

Ffôn: 0845 609 6611
Gwefan: (New window) www.bgateway.com

Nibusinessinfo.co.uk (Gogledd Iwerddon yn unig)

Mae Nibusinessinfo.co.uk yn wasanaeth  cymorth a chyngor i fusnesau yng Ngogledd Iwerddon.
Ffôn: 0800 181 4422

Gwefan: (New window) www.nibusinessinfo.co.uk

Invest NI (Gogledd Iwerddon yn unig)

Bedford Square
Bedford Street
Belfast
BT2 7ES
Ffôn: 028 9023 9090
Ffacs: 028 9043 6536
E-bost: info@investni.com
Gwefan: (New window) www.investni.com

Mae Invest NI yn asiantaeth datblygu economaidd. Mae’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau i gwnmniau sy’n gleientiaid, gan gynnwys cymorth ariannol i gwmniau sy’n gymwys, gyda ffocws ar y potensial i allforio.

Inbiz (Lloegr yn unig)

Enterprise House
8 Yarm Road
Stockton-on-Tees
TS18 3NA
Ffôn: 01642 610610
Ffacs: 01642 610611
Llinell Gymorth: 0800 0321 001
E-bost: info@inbiz.co.uk
Gwefan: (New window) www.inbizonline.co.uk

Mae Inbiz yn rhoi help a chefnogaeth i bobl sydd wedi bod allan o waith am gyfnod hir ac sydd am fod yn hunan-gyflogedig.

Asiantaethau menter lleol (Cymru a Lloegr yn unig)

Mae asiantaethau menter lleol yn rhoi cefnogaeth a chyngor cyffredinol rhad ac am ddim i fusnesau bach. Mae cyrsiau hyfforddi ar gael hefyd, sy'n aml yn rhad ac am ddim. Mae manylion asiantaethau menter lleol ar gael gan Ffederasiwn Cenedlaethol Asiantaethau Menter (gweler isod).

Federasiwn Cenedlaethol Asiantaethau Menter (National Federation of Enterprise Agencies) (Cymru a Lloegr yn unig)

12 Stephenson Court
Fraser Road
Priory Business Park
Bedford
MK44 3WH
Ffôn: 01234 831 623
Ffacs: 01234 831 625
E-bost: enquiries@nfea.com
Gwefan (cyffredinol): (New window) www.nfea.com

Mae FCAM yn rwydwaith o asiantaethau menter lleol yng Nghymru a Lloegr. Ar y wefan gyffredinol, mae yna fanylion ynglyn â sut i ddod o hyd i'ch asiantaeth fenter lleol agosaf.

Scottish Enterprise

Mae Scottish Enterprise yn rhwydwaith o swyddfeydd rhanbarthol a mudiad cenedlaethol Scottish Enterprise.  Mae llinell gymorth y rhwydwaith a’r wefan yn rhoi manylion swyddfeydd rhanbarthol a chymorth a gynigir.

Atrium Court
50 Waterloo Street
Glasgow
G2 6HQ

Llinell Gymorth: 0845 607 8787 (o fewn yr Alban)
Llinell Gymorth: 0141 228 2000 (o unrhyw le yn y Deyrnas Unedig)
E-bost y Llinell Gymorth: network.helpline@scotent.co.uk neu enquiries@scotent.co.uk
Gwefan: (New window) www.scottish-enterprise.com

Firstport (yr Alban yn unig)

Mae Firstport yn cynnig cymorth rhad ac am ddim i bobl sydd am sefydlu busnes a fydd â manteision cymdeithasol neu amgylcheddol uniongyrchol. Mae hefyd yn gweinuddi Cronfa Menter Llywodraeth yr Alban.

Cornerstone House
2 Melville Street
Edinburgh
EH3 7NS
Ffôn: 0131 220 0511 or 0845 478 6336
E-bost: info@firstport.org.uk
Gwefan: (New window) www.firstport.org.uk

Unedau datblygu economaidd yr awdurdod lleol

Mae rhai cynghorau lleol wedi sefydlu unedau syn rhoi cyngor a help i fusnesau yn eu hardaloedd. Mae gan rai cynghorwyr dwyieithog ac maent wedi eu hanelu yn benodol at helpu busnesau bach lleiafrifoedd ethnig. Maent yn dueddol o fod mewn ardaloedd tu mewn i ddinasoedd. Caiff y cynghorwyr eu cyflogu gan y cyngor ac fel arfer bydd ganddynt gefndir mewn busnes neu sgiliau perthnasol, fel bancio neu gyfrifo.

Federasiwn Cenedlaethol Busnesau Bach / National Federation of Small Businesses

Cymru a Lloegr

Sir Frank Whittle Way
Blackpool Business Park
Blackpool
Lancs
FY4 2FE
Ffôn: 01253 336 000
Ffacs: 01253 348 046
Gwefan: (New window) www.fsb.org.uk

Yr Alban

74 Berkeley Street
Glasgow G3 7DS
Ffôn: 0141 221 0775
Ffacs: 0141 221 5954
E-bost: scotland.policy@fsb.org.uk
Gwefan: (New window) www.fsb.org.uk/scotland

Gogledd Iwerddon

Cathedral Chambers
143 Royal Avenue
Belfast
BT1 1FH

Mae Federasiwn Cenedlaethol Busnesau Bach yn grwp pwysedd sy'n hybu buddiannau'r holl bobl hunan-gyflogedig. Mae yna nifer o swyddfeydd rhanbarthol a nifer o ganghennau lleol. Me yna dâl tanysgrifio.

Mae'r federasiwn yn cyhoeddi cylchgrawn rhad ac am ddim ac yn rhedeg cynllun ffïoedd proffesiynol ac ymgynghorol, sy'n darparu cyngor cyfreithiol 24 awr y dydd, a chynlluniau yswiriant amrywiol.

Cymdeithas Etholfraint Prydain / British Franchise Association

A2 Danebrook Court
Oxford Office Village
Langford Lane
Oxford
OX5 1LQ
Ffôn: 01865 379892
Ffacs: 01865 379946
E-bost: mailroom@thebfa.org
Gwefan: (New window) www.thebfa.org

Cymdeithas Etholfraint Prydain (y BFA) yw'r gymdeithas fasnach ar gyfer cwmnïau etholfraint. Fe'i sefydlwyd i hybu etholfreintiau a sefydlu safonau. I ymuno, mae'n rhaid i gwmnïau etholfraint ddangos bod yr etholfraint yn gweithio a'u bod wedi cytuno i lynu at gôd moesegol a ddyluniwyd i warchod etholfreintiau.

Mae’r BFA yn cynhyrchu pecyn gwybodaeth (£29 yn cynnwys costau postio a phecynnu) i ddarpar-gwmnïau etholfraint, sy’n cynnwys rhestr o bethau i’w gwirio cyn prynu etholfraint.

Prince’s Trust

Cymru a Lloegr
18 Park Square East
London NW1 4LH
Ffôn: 020 7543 1234
Llinell Gymorth Rhadffôn: 0800 842 842
Ffacs: 020 7543 1200
Gwefan: (New window) www.princes-trust.org.uk

Yr Alban

Prince’s Scottish Trust
1st Floor
The Guildhall
57 Queen Street
Glasgow G1 3EN
Ffôn: 0141 204 4409
Ffacs: 0141 221 8221
e-bost: webinfosc@princes-trust.org.uk
Gwefan: (New window) www.princes-trust.org.uk

Gogledd Iwerddon

Midland Building
Whitla Street
Belfast
BT15 1JP
Ffôn: 028 9074 5454
Ffacs: 028 9074 4666

Mae'r Prince’s Trust yn helpu pobl ifainc di-waith rhwng 18-30 mlwydd oed i sefydlu eu busnesau eu hunain. Yn yr Alban, y terfyn oedran yw 18-25 yn unig. Gall yr Ymddiredolaeth roi benthyciadau, cyngor busnes parhaus a help gyda marchnata. Mae gan Prince's Trust ddiddordeb penodol mewn helpu pobl o leiafrifoedd ethnig, pobl anabl a chyn-droseddwyr.

Clwb Busnes PRIME

Mae PRIME yn elusen genedlaethol sydd wedi ymrwymo i helpu pobl hyn (dros 50) i ddechrau a rhedeg eu busnesau eu hunain. Mae PRIME yn sefyll am Prince's Initiative for Mature Enterprise. Os ydych yn ystyried dod yn hunangyflogedig, fe fydd yn darparu pecyn dechrau busnes rhad ac am ddim i chi a gwybodaeth ynghylch mudiadau lleol sy’n medru helpu. Gellir cysylltu â PRIME trwy ei wefan yn  (New window) www.primebusinessclub.com/.

LiveWIRE

Cymru a Lloegr

Livewire
Hawthorn House
Forth Banks
Newcastle-upon-Tyne NE1 5JG
Ffôn: 0191 261 5584
Ffacs: 0191 261 1910
Gwefan: (New window) www.shell-livewire.org

Yr Alban

Shell LiveWIRE UK
Design Works
William Street
Felling
Gateshead
NE10 0JP
Ffôn:0845 757 3252 (Lo-call)| 0191 423 6229 |
E-bost: enquiries@shell-livewire.org
Gwefan: (New window) www.shell-livewire.org
Facebook: (New window) www.facebook.com/ShellLiveWIREUK
YouTube: (New window) www.youtube.com/ShellLivewireUK

Gogledd Iwerddon

Gerry Ford
Shell LiveWIRE Northern Ireland
Belfast
BT3 9EU
Ffôn: 028 9055 3802
E-bost: gerry.ford@shell-livewire.ie

Mae Livewire yn gynllun cenedlaethol a noddir gan Shell, i helpu pobl ifainc rhwng 16-30 i sefydlu busnes. Gall pobl ifanc sydd â phrosiectau drafod eu syniadau gyda chynghorwyr lleol a gellir cael dyfarniadau ariannol. Fel arfer, mae yna ddyddiad cau ar gyfer y cynllun bob blwyddyn. Bydd pob un sy'n ymuno â'r cynllun yn cael ei gysylltu gyda chynghorydd a fydd yn ei g/chynorthwyo ar sail unigol i gynllunio a datblygu eu syniad busnes.

Co-operatives UK

Hollyoake House
Hanover Street
Manchester
N60 OAS
Ffôn: 0161 246 2900
Ffacs: 0161 831 7684
E-bost: info@cooperatives-uk.coop
Gwefan: (New window) www.cooperatives-uk.coop

Co-operatives UK yw'r mudiad canolog ar gyfer mentrau cydweithredol yn y Deyrnas Gyfunol. Yr aelodau sy'n berchen arno ac yn ei arwain, ac mae'n gweithio i gynrychioli buddiannau y cydweithredfeydd sy'n aelodau ohono. Mae'n rhoi amrywiaeth eang o wasanaethau cymorth i'w aelodau.

NORIBIC Business Innovation Centre (Gogledd Iwerddon yn unig)

Northland Building
NWIFHE
Strand Road
Derry
BT48 7AL
Ffôn: 028 7126 4242 (24 awr)
Ffacs: 028 7137 2294
E-bost: info@noribic.com
Gwefan: (New window) www.noribic.com

Mae'r NORIBIC Business Innovation Centre yn darparu help ar gyfer busnesau newydd ar draws Gogledd Iwerddon gyda gwerthuso prosiectau, paratoi cynlluniau busnes ar gyfer busnesau bach, dod o hyd i adeiladau/swyddfeydd, trefnu cyllid, grantiau a sybsidïau, a dod o hyd i syniadau busnes newydd. Gall hefyd roi cyngor ar dechnoleg newydd.

Canolfan Fusnes Aberhonddu (Cymru yn unig)

61 Canolfan Fusnes Aberhonddu
Ffordd y Farchnad
Aberhonddu
Powys
LD3 7DA
Ffôn: 01874 610 054
Ffacs: 01874 610 794

Mae Canolfan Fusnes Aberhonddu yn gyfrifol am ddatblygiad economaidd a chymdeithasol Canolbarth Cymru. Mae'n darparu cyngor a chefnogaeth i fusnesau bach, gan gynnwys cyngor ynglyn â sefydlu busnes, paratoi cynllun busnes, cyngor ar ba mor ymarferol yw'r syniad busnes a gall helpu gydag archwilio ffynonellau cyllid posib, dod o hyd i adeiladau/swyddfeydd addas a sefydlu systemau rheoli ariannol, er enghraifft cadw cyfrifon. Mae'n rhedeg cyrsiau hyfforddiant, ac yn darparu cyngor yn lleol trwy nifer o Ganolfannau Busnes.

Rural Development Council (Gogledd Iwerddon yn unig)

17 Loy Street
Cookstown
County Tyrone
BT80 8PZ
Ffôn: 028 8676 6980
Ffacs: 028 8676 6922
E-bost: info@rdc.org.uk
Gwefan: (New window) www.rdc.org.uk

Acas (Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) (Cymru, Lloegr a’r Alban yn unig)

Os ydych yn gyflogwr, fe fyddwch yn medru cael cyngor rhad ac am ddim ar faterion cyflogaeth, oddi ar wefan Acas yn (New window) www.acas.org.uk ac ar ei llinell gymorth, 0845 747 4747. Mae Acas hefyd yn darparu cyrsiau hyfforddiant ar destunau cyflogaeth a allai fod yn ddefnyddiol i fusnesau bach. Mae llinell gymorth Equality Direct Acas, ar 0845 600 3444, yn darparu gwasanaeth cyngor cyfrinachol ar faterion gwahaniaethu a chydraddoldeb.

Skills Development Scotland (Yr Alban yn unig)

Skills Development Scotland
Alhambra House
45 Waterloo Street
Glasgow
G2 6HS
Ffôn: 0141 285 6000
E-bost: info@skillsdevelopmentscotland.co.uk
Gwefan: www.skillsdevelopmentscotland.co.uk

Mae Skills Development Scotland yn wasanaeth sy'n rhoi’r hyfforddiant, y sgiliau a’r cyngor priodol ar nawdd i fusnesau, darparwyr addysg ac unigolion.

Disabled Entrepreneurs Network (Lloegr a'r Alban yn unig)

Gwefan: (New window) www.disabled-entrepreneurs.net

Mae Disabled Entrepreneurs Network yn wasanaeth rhwydweithio rhanbarthol ar gyfer pobl anabl. Mae cynnig cyngor a chefnogaeth ar gyfer pobl anabl sy'n rhedeg eu busnes eu hun neu sydd am ddechrau busnes.

Nôl i’r brig