Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae gan bob gweithiwr yr hawl i dderbyn cyflog am y gwaith y mae ef/hi wedi'i wneud. Maen nhw hefyd â hawl i gael eu talu os ydynt yn barod i weithio ond bod eu cyflogwr heb ddarparu unrhyw waith ar eu cyfer, ac eithrio ble mae eich cytundeb cyflogaeth yn dweud fel arall.
Mae hawl gan weithwyr gael eu talu hefyd os nad ydynt yn medru gweithio am eu bod i ffwrdd o’r gwaith yn sâl, ar gyfnod mamolaeth, cyfnod tadolaeth neu fabwysiadu, neu absenoldeb rhiant. Yn ogystal, caniateir nifer penodol o ddiwrnodau o wyliau gyda thâl yn ystod y flwyddyn.
Yn y mwyafrif o'r amgylchiadau yma, bydd hawl gan y gweithiwr i dderbyn y cyflog arferol tra i ffwrdd o'r gwaith. Mae yna rai eithriadau i’r rheol yma. Er enghraifft, mae gan rieni sydd ar gyfnod mamolaeth, cyfnod tadolaeth, cyfnod mabwysiadu neu absenoldeb rhiant yr hawl i gyfnod penodol i ffwrdd o’r gwaith gyda thâl ond mae'r gyfraith yn gosod y gyfradd ar gyfer y tâl yma ac efallai nad ydyw cymaint â’r cyflog arferol
Os rydych yn weithiwr ar gyflog salwch, gallai eich cytundeb ddynodi llai o gyflog na'r cyflog arferol. Yn ôl y gyfraith, mae gan y mwyafrif o weithwyr yr hawl i'r isafswm tâl salwch statudol. Gallai eich cytundeb roi mwy o gyflog na hyn i chi.
Mae’n bosib bod gennych yr hawl i amser i ffwrdd o’r gwaith heb dâl mewn amgylchiadau eraill, er enghraifft, argyfwng teuluol neu wasanaeth reithgor.
Am restr gyflawn o sefyllfaoedd lle mae gan weithwyr yr hawl i dderbyn cyflog am amser i ffwrdd o'r gwaith, a pha fath o amser i ffwrdd o'r gwaith y mae hawl ganddynt i dderbyn tâl, gweler Hawliau sylfaenol yn y gwaith.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â thâl mamolaeth a chyfnod mamolaeth, gweler Hawliau rhiant yn y gwaith.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â thâl salwch statudol, gweler I ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch.
Am fwy o wybodaeth am gyflog gwyliau, gweler Gwyliau a thâl gwyliau.
Fe all cyflogwr gynnig cymorth i weithwyr gyda gofal plant o dan gynllun 'aberthu cyflog'. Dyma gynllun sy'n galluogi gweithiwr i ildio rhan o'i g/chyflog yn gyfnewid am dalebau i dalu am ofal plant. Mae yna fanteision i'r cynlluniau hyn o ran treth, ond fe allai derbyn taleb gofal plant yn lle cyflog ostwng eich cyflog fel ei fod yn llai na'r terfyn enillion is ac fe allai effeithio ar eich hawl i rai budd-daliadau.
Am fwy o wybodaeth am dalebau gofal plant, gweler Budd-daliadau ar gyfer teuluoedd a phlant.
Mae gan bron pob gweithiwr yr hawl i'r isafswm cyflog cenedlaethol - gweler y pennawd Isafswm cyflog cenedlaethol (ICC) am fwy o wybodaeth. Efallai bod gan y gweithiwr yr hawl i fwy o gyflog na o hyn o dan ei g/chytundeb.
Mae unrhyw gyflog sy’n fwy na'r isafswm cenedlaethol a osodir gan y gyfraith ar gyfer gweithwyr nad ydyw'n dod o dan yr isafswm cyflog cenedlaethol, yn dibynnu ar gytundeb cyflogaeth unigol y gweithiwr.
Ni ddylai cyflogwyr wahaniaethu o ran faint maen nhw'n talu eu gweithwyr, er enghraifft, drwy dalu llai i weithwyr croenddu na gweithwyr gwyn sy'n gwneud yr un swydd, neu trwy dalu llai i ferched na dynion pan fyddan nhw'n gwneud gwaith o'r un gwerth. Gelwir hyn yn ‘gyflog teg’.
Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef anffafriaeth o ran eich cyflog, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nid oes unrhyw hawl cyfreithiol i gael eich cyflog wedi'i dalu mewn modd benodol, er enghraifft, i gyflogwr i gael ei g/chyflog wedi'i dalu'n uniongyrchol i'r cyfrif banc.
Bydd y ffordd y telir cyflog gweithiwr yn dibynnu ar yr hyn y mae'r cytundeb cyflogaeth yn ei ddweud ynghylch sut dylid talu'r cyflog. Os nad oes ganddyn nhw gytundeb ysgrifenedig, mae ganddyn nhw gytundeb cyflogaeth, ond bydd yn un llafar. Mewn achosion lle mae yna gytundeb llafar yn hytrach na chytundeb ysgrifenedig, dylai'r ffordd o dalu cyflog fod wedi ei gytuno rhwng y cyflogwr a'r person cyflogedig, neu os na, bydd yn dibynnu ar sut mae'r cyflogwr fel arfer yn talu cyflog gweithwyr yn y gweithle yna.
Mae gan bob gweithiwr sydd wedi gweithio i gyflogwr am o leiaf deufis yr hawl i 'ddatganiad ysgrifenedig o amodau a thelerau'r gyflogaeth’. Dylai'r datganiad yma gynnwys, ymhlith gwybodaeth arall, fanylion ynglyn â pha mor aml y dylid talu cyflog, er enghraifft yn wythnosol neu'n fisol.
Dylai cytundeb y gweithiwr roi'r manylion canlynol ynglyn â'r cyflog:-
Os nad ydych yn siwr a yw eich cytundeb yn rhoi'r wybodaeth uchod ynglyn â'ch cyflog, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â phwy sydd â hawl i ddatganiad ysgrifenedig o amodau a thelerau cyflogaeth a beth ddylai ei gynnwys, gweler Hawl gweithiwr i fanylion ysgrifenedig ynglyn â'r cytundeb cyflogaeth yn Cytundebau cyflogaeth.
Mae gan bob gweithiwr yr hawl i slip cyflog ysgrifenedig unigol ar yr adeg y caiff ei d/thalu neu cyn hynny. Mae'n rhaid i'r slip cyflog ddangos:-
Dim ond didyniadau penodol y gall gyflogwr eu tynnu o gyflog gweithiwr - gweler y pennawd A oes hawl gan y cyflogwr i wneud didyniadau o gyflog gweithiwr.
Erbyn hyn, mae hawl cyfreithiol gan weithwyr y DU sy'n 16 (ac yn hyn nag oed gadael ysgol) neu'n hyn, i isafswm cyflog cenedlaethol yr awr. Nid oes gwahaniaeth ble maen nhw'n gweithio, maint y cwmni neu alwedigaeth y gweithwyr. Mae hyn yn cynnwys labrwyr achlysurol, gweithwyr asiantaeth, y rheiny sy'n gweithio o gartref, gweithwyr sydd ar gytundebau tymor byr a gweithwyr a gyflogir gan isgontractwyr.
Mae yna rai gweithwyr sydd ddim yn dod o dan y isafswm cyflog cenedlaethol, sef:
Am wybodaeth ynghylch p'un ai fod person yn wirioneddol hunangyflogedig, gweler 'Sut i ddweud y gwahaniaeth rhwng gweithiwr a pherson hunangyflogedig yn Cytundebau Cyflogaeth.
Am fanylion ynghylch pa rai sydd o dan hyfforddiant sydd ddim â hawl i'r ICC, cysylltwch â llinell gymorth y ICC neu gynghorydd profiadol. Gweler isod am fanylion ynglyn â linell gymorth ICC.
Nid yw prentisiaid yn gymwys i’r isafswm cyflog cenedlaethol os ydynt:
Ond, mae gan y prentisiaid hyn yr hawl i ennill swm sydd ddim yn llai nag £95 yr wythnos. Nid yw hyn yn berthnasol os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.
Unwaith fyddwch chi wedi gweithio fel prentis am flwyddyn, os ydych wedi cyrraedd 19 oed ac yn dal i fod yn gweithio i’r un cyflogwr, fe fydd hawl gennych i’r isafswm cyflog arferol ar gyfer eich oedran chi.
Ar gyfer y mwyafrif o weithwyr sy'n 22 ac yn hyn, mae cyfradd safonol yr awr yr ICC wedi'i restru isod. Mae yna rai gweithwyr sydd ddim â hawl i ICC o gwbl - gweler y pennawd Isafswm cyflog cenedlaethol (ICC). Mae rhai gweithwyr ond â hawl i gael eu talu ar gyfradd is, gan eu bod rhwng 18 a 21 oed, gweler isod. Mae yna gyfraddau arbennig o gyflog ar gyfer gweithwyr amaethyddol - gweler y pennawd Cyflog i weithwyr amaethyddol.
| Math o ICC | Cyfradd ICC yr awr: O 1.10.07 | Cyfradd ICC yr awr: O 1.10.08 | Cyfradd ICC yr awr: O 1.10.09 |
| Cyfradd Safonol ICC ar gyfer gweithwyr sy'n 22 ac yn hŷn | £5.52 | £5.73 | £5.80 |
| Gweithwyr rhwng 18 a 21 oed – cyfradd ICC gostyngol | £4.60 | £4.77 | £4.83 |
| Gweithwyr sy'n 16-17 oed | £3.40 | £3.53 | £3.57 |
Mae'r rheolau ynglyn â pha elfennau o gyflog gweithiwr, a pha oriau o amser gwaith, sy'n cyfrif tuag at gyfrifo'r ICC yn gymhleth iawn.
Os nad ydych yn credu eich bod yn cael yr isafswm cyflog cenedlaethol neu os ydych am ddarganfod os oes hawl gennych i’r isafswm cyflog cenedlaethol, dylech gysylltu â llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith ar 0800 917 2368, neu dylech fynd at gynghorydd profiadol, er enghraifft, canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor.
Os ydych am ddarganfod a oes hawl gennych i’r ICC, dylech gysylltu â Llinell Gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith ar 0800 917 2368. Rydych hefyd yn medru defnyddio cyfrifydd rhyngweithiol i weld os ydych yn gymwys i'r ICC. Rhowch glic ar: www.worksmart.org.uk.
Mae gan y llywodraeth ganllawiau ynghylch yr isafswm cyflog cenedlaethol mewn amrywiaeth o ieithoedd cymunedol gwahanol, er enghraifft, Pwyleg, Slofac a Lithwanaidd. Rhowch glic ar: www.direct.gov.uk.
Am fwy o wybodaeth am yr isafswm cyflog cenedlaethol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, gweler Yr isafswm cyflog cenedlaethol yn y Taflenni ffeithiau ar gyflogaeth. Cyfieithwyd y daflen ffeithiau hon i nifer o ieithoedd cymunedol, gan gynnwys Pwyleg, Tsiec a Slofac.
Mae gan weithwyr amaethyddol yr hawl i leiafswm cyfradd yr awr benodol gan ddibynnu ar eu hoed a'r math o waith y maen nhw'n ei wneud. Mae yna gyfradd penodol ar gyfer cyflog safonol a chyfradd penodol ar gyfer goramser.
Os yw'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn is na'r isafswm cyflog amaethyddol sy'n berthnasol i chi, mae gennych yr hawl i gael y gyfradd uwch.
Os ydych chi'n credu eich bod yn weithiwr amaethyddol a bod hawl gennych i lefel penodol o gyflog dylech gysylltu â Llinell Gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith ar 0800 917 2368.
Yn ôl y gyfraith, dim ond pethau penodol y gall cyflogwr eu tynnu o gyflog gweithiwr. Os nad yw'r cyflogwr yn talu'r gweithiwr o gwbl, mae hyn yn cyfrif fel didyniad 100%. Mae yna reolau ynghylch beth sy'n cyfrif fel cyflog at ddiben nodi pryd y gall cyflogwr dynnu symiau o'r cyflog, gweler isod.
Yn y mwyafrif o achosion, gall cyflogwr ond wneud didyniadau cyfreithiol o gyflog gweithiwr os yw'r didyniad:-
Mae yna ddidyniadau penodol y gall cyflogwr eu gwneud sydd ddim yn gorfod syrthio i'r categorïau uchod, sef:-
Mae yna reolau arbennig ynghylch tynnu arian o gyflog gweithwyr siop.
Mae cyflogwr gweithiwr siop yn medru tynnu arian ar gyfer prinder arian neu stoc sydd wedi mynd ar goll. Mae hyn yn medru bod, er enghraifft, am fod y gweithiwr siop wedi bod yn anonest neu am fod cwsmer wedi dwyn.
Rhaid i'r cyflogwr roi manylion ysgrifenedig am y swm a dynnwyd, i'r gweithiwr, ar ddiwrnod cyflog. Rhaid tynnu unrhyw symiau am arian neu stoc sydd wedi mynd ar goll, o fewn 12 mis i'r dyddiad y darganfu'r cyflogwr y prinder.
Ni ddylai'r swm a dynnwyd fod yn fwy na 10% o gyflog gros y gweithiwr siop ar unrhyw un diwrnod cyflog. Gellir tynnu'r swm yma yn ychwanegol at unrhyw symiau eraill y mae hawl cyfreithiol gan y cyflogwr i'w cymryd.
Nid oes terfyn ar y cyfanswm y mae cyflogwr yn medru ei dynnu ar gyfer arian neu stoc sydd wedi mynd ar goll. Yr unig derfyn yw'r swm y mae'n cael ei dynnu ar bob diwrnod cyflog.
Am fwy o wybodaeth yng Nghymru, Lloegr a'r Alban am eich hawliau pan fydd eich cyflogwr yn tynnu arian o'ch cyflog, gweler Mae'r cyflogwr yn dal eich cyflog yn ôl yn Taflenni Ffeithiau ar Gyflogaeth.
Os aethpwyd ag arian o'ch cyflog chi a chithau ddim yn cytuno â hyn, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, a Canolfan Cynghori.I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Pan yn ystyried a yw cyflogwr yn medru tynnu arian o gyflog gweithiwr, mae'r canlynol yn cyfrif fel cyflog:-
Mae arian parod a roddir yn wirfoddol i weithwyr, fel gweinyddion, gan gwsmer (tip), yn cyfrif fel rhodd gan y cwsmer i'r gweithiwr. Nid ydyw felly'n rhan o dâl y gweithiwr. Hyd yn oed os yw'r arian yn cael ei gronni gan yr holl weithwyr, a'i rannu rhyngddynt, mae'n dal i fod yn rhodd i'r gweithwyr ac felly nid yw'n rhan o'r cyflog.
Os yw tâl gwasanaeth yn orfodol, hynny yw, wedi ei ychwanegu at bob bil yn awtomatig, mae'n eiddo i 'r cyflogwr. Gall y cyflogwr ei rannu rhwng y gweithwyr yn ôl dymuniad y cyflogwr. Os oes cymal yng nghytundeb y gweithiwr yn dweud bod hawl ganddo i gyfran o'r tâl gwasanaeth, fe ddylai gael hyn yn ychwanegol at ei gyflog.
Os yw cwsmer yn gadael tip yn wirfoddol, gan ychwanegu swm i daliad cerdyn credyd neu siec, mae'r tip yn eiddo i'r cyflogwr. Gall y cyflogwr ei rannu rhwng y gweithwyr yn ôl dymuniad y cyflogwr. Ond, os yw gweithiwr yn derbyn rhan o'r taliad ychwanegol gwirfoddol yma, dylai gael ei dalu yn ychwanegol at ei gyflog.