Chwilio am canolfan leol

Chwilio am canolfan leol

Diweddarwyd y safle:

Mawrth 20 af 2010

Cyflogaeth - Yng Nghymru

Datrys anghydfod yn y gwaith

Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban

Mae’r wybodaeth hon i gyflogedigion sydd ag anghydfod gyda’u cyflogwr a ddechreuodd ar 6 Ebrill 2009 neu ar ôl y dyddiad yma.

Ni ddylech ddefnyddio’r wybodaeth hon os oedd eich anghydfod gyda’ch cyflogwr wedi dechrau cyn y dyddiad yma, hyd yn oed os yw’r anghydfod ar y gweill o hyd. Mae hyn am fod rheolau gwahanol yn berthnasol.

Os ydych yn y sefyllfa hon, neu os nad ydych yn siŵr a ddylech ddefnyddio’r wybodaeth ar y tudalennau hyn, dylech gael help gan gynghorydd profiadol cyn gynted â phosib, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I ddod o hyd i fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Os oes anghydfod gyda’ch cyflogwr, efallai ei fod oherwydd:

Dylech chi a’ch cyflogwr geisio datrys anghydfod yn y gweithle bob tro, os yn bosib. Weithiau, mae’n help defnyddio trydydd person annibynnol i helpu sortio pethau.

Mae gennych gwyn ynghylch eich cyflogwr

Os oes cwyn gennych ynghylch gwaith ac rydych am godi’r peth gyda’ch cyflogwr, gelwir hyn yn godi achwyniad.

Efallai y bydd yn bosib datrys eich cwyn trwy siarad â’ch cyflogwr yn anffurfiol. Dylech geisio gwneud hyn yn gyntaf cyn cymryd unrhyw gamau pellach.

Fodd bynnag, nid yw’n bosib datrys eich cwyn fel hyn bob tro, ac efallai y bydd angen i chi godi achwyniad ffurfiol. Os ydych yn penderfynu codi achwyniad, mae gan Acas God Ymarfer ac fe’ch cynghorir i’w ddilyn.

Nid oes rhaid i chi ddilyn y Cod Ymarfer. Ond, os na fydd codi achwyniad ffurfiol yn datrys eich problem, efallai y bydd angen i chi feddwl am hawlio gerbron tribiwnlys cyflogaeth. Mae’r tribiwnlys cyflogaeth yn medru ystyried p’un ai ei fod yn rhesymol i chi ddilyn y Cod ai peidio wrth benderfynu faint o iawndal ddylech chi ei gael, os o gwbl.

Dylech ond feddwl am fynd i dribiwnlys cyflogaeth os ydych wedi ceisio datrys pethau’n anffurfiol yn gyntaf. Os oes angen i chi fynd i dribiwnlys, mae yna derfyn amser llym ar gyfer hawlio. Fel arfer, mae’n dri mis o’r digwyddiad a ddigwyddodd yn eich gweithle, yr ydych yn cwyno yn ei gylch.

Mae Cod Ymarfer Acas yn nodi safonau tegwch ac ymddygiad rhesymol y disgwylir i gyflogwyr a chyflogedigion eu dilyn yn y rhan fwyaf o achosion wrth godi achwyniad neu gymryd camau disgyblu.

I ddarganfod mwy am godi achwyniad gyda’ch cyflogwr, gweler Datrys anghydfod yn y gwaith – delio gydag achwyniadau.

Mae gan eich cyflogwr gwyn amdanoch chi

Efallai bod gan eich cyflogwr gwyn ynghylch eich gwaith, er enghraifft, mae’n anhapus ynghylch safon eich gwaith neu’r ffordd yr ydych yn cadw’ch amser. Gelwir y mathau hyn o gwynion yn faterion disgyblu.

Dylai’ch cyflogwr geisio datrys ei bryderon yn gyntaf drwy siarad â chi’n anffurfiol.

Ond, efallai na fydd cyflogwr yn ceisio datrys y mater yn anffurfiol yn gyntaf ac efallai y bydd yn penderfynu’ch disgyblu chi’n ffurfiol. Mewn rhai achosion, efallai y bydd y camau disgyblu hyn yn arwain at eich diswyddo.

Os yw’ch cyflogwr yn cymryd camau disgyblu ffurfiol neu’n eich diswyddo, dylai ddilyn Cod Ymarfer Acas yn gyntaf.

Ni does rhaid i’ch cyflogwr ddilyn y Cod, ond, os ydych yn penderfynu mynd â’ch cyflogwr i dribiwnlys cyflogaeth, gellir gorchymyn eich cyflogwr i dalu mwy o iawndal i chi os nad oes rheswm da ganddo dros beidio â dilyn y Cod.

I ddarganfod mwy am y gweithdrefnau, dylai’ch cyflogwr eu dilyn os yw’n cymryd camau disgyblu yn eich erbyn neu’n eich disgyblu, gweler Datrys anghydfod yn y gwaith - camau disgyblu a diswyddo.

Nôl i’r brig