Chwilio am canolfan leol

Chwilio am canolfan leol

Diweddarwyd y safle:

Mawrth 18 af 2010

Cyflogaeth - Yng Nghymru

Dileu swyddi

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Ar y tudalennau canlynol, rydym yn esbonio’ch hawliau os yw’ch swydd yn cael ei dileu:

Rydyn ni’n esbonio beth mae dileu eich swydd yn ei olygu, ym mha sefyllfaoedd y gellir dileu eich swydd ac ym mha sefyllfaoedd y mae’n bosib nad yw’ch swydd wedi’i dileu, er bod eich cyflogwr yn dweud ei bod wedi. Mae’n cynnwys eich sefyllfa os yw’ch swydd wedi ei dileu am fod busnes eich cyflogwr wedi mynd i’r wal.

Rydyn ni’n trafod y rheolau ynghylch dewis swyddi i’w dileu, y weithdrefn ddiswyddo dri cham y mae’n rhaid i’ch cyflogwr ei dilyn, eich hawl i gael cyfnod o rybudd, eich hawl i gael cynnig swydd addas arall a’ch hawl i chwilio am waith arall yn ystod eich cyfnod o rybudd.

Rydyn ni’n esbonio pethau fel eich hawl i dal dileu swydd, faint fedrwch chi ei gael a beth sy’n digwydd os nad yw’ch cyflogwr yn eich talu.

Rydyn ni’n trafod eich sefyllfa ariannol ar ôl i’ch swydd gael ei dileu ac yn rhoi cyngor ar yrfaoedd, hyfforddiant a dod o hyd i waith.

Os cawsoch eich diswyddo, bydd y daflen hon yn eich helpu i ddysgu am eich hawliau, pa fudd-daliadau y mae gennych yr hawl iddynt, ac o ble y cewch ragor o help a gwybodaeth.