|
Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Hawliau Rhieni sy’n gweithio
Mae gan rieni sy’n gweithio yr hawliau canlynol o dan y gyfraith:-
- cyfnod mamolaeth gyda thâl a heb dâl
- cyfnod tadolaeth gyda thâl
- cyfnod mabwysiadu gyda thâl a heb dâl
- gwneud cais am oriau gweithio hyblyg
- cyfnod rhiant heb dâl ar gyfer rhieni plant o dan bump (18 os ydy eich plentyn yn anabl)
- amser i ffwrdd heb dâl i ddelio gyda phroblemau annisgwyl gyda gofal dibynyddion.
Mae’n bosib y bydd yr hawliau yma’n ddilys i rieni sy’ mewn perthynas gyda pherson o’r un rhyw, yn ogystal ag i rieni sydd mewn perthynas gyda pherson o’r rhyw arall.
Am wybodaeth ynglyn â cyfnod rhiant ac amser i ffwrdd o’r gwaith i ofalu am ddibynyddion, gweler Hawliau Sylfaenol yn y Gwaith.
Nôl i’r Brig
Cyfnod Tadolaeth
Os ydych yn dad sy’n gweithio, mae gennych hawl i wythnos neu ddwy o gyfnod tadolaeth pan fyddwch chi a'ch partner yn cael plentyn. Mae rhai pobl eraill â hawl i gyfnod tadolaeth – gweler isod. Byddwch hefyd yn gymwys i dderbyn cyfnod tadolaeth pan fyddwch yn mabwysiadu plentyn Byddwch hefyd yn gymwys i dderbyn cyfnod tadolaeth pan fyddwch yn mabwysiadu plentyn. Bydd hawl gan y mwyafrif o dadau i dâl tadolaeth statudol am eu cyfnod tadolaeth. Telir tâl tadolaeth statudol ar yr un gyfradd a thâl mamolaeth statudol (gweler y pennawd Tâl mamolaeth).
Er mwyn bod yn gymwys i gymryd cyfnod tadolaeth adeg genedigaeth, mae'n rhaid eich bod:-
- wedi eich cyflogi gan yr un cyflogwr am o leiaf 26 wythnos erbyn diwedd y 15fed wythnos cyn yr wythnos y mae disgwyl i'r babi gael ei (g)eni; ac
- yn dad biolegol y plentyn, neu fod yn briod neu fod yn bartner i fam y plentyn (mae hyn yn cynnwys partneriaid o'r un rhyw, waeth a ydyn nhw'n bartneriaid sifil cofrestredig ai peidio); ac
- â pheth cyfrifoldeb dros fagwraeth y plentyn; ac
- wedi rhoi'r cyfnod cywir o rybudd i'r cyflogwr i gymryd y cyfnod tadolaeth.
Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn cyfnod tadolaeth adeg mabwysiadu, mae'n rhaid eich bod:-
- wedi eich cyflogi am o leiaf 26 wythnos erbyn yr amser y cewch eich cyfateb i'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu. (Ni fydd hawl gennych i gyfnod na thâl tadolaeth os ydych eisoes yn adnabod y plentyn, er enghraifft, eich llys-ferch neu'ch llys-fab)
- heb fod yn cymryd cyfnod mabwysiadu (lle rydych chi a'ch partner yn mabwysiadu plentyn, mae un ohonoch yn medru cymryd cyfnod mabwysiadu, ac mae'r llall yn medru cymryd cyfnod tadolaeth)
- â pheth cyfrifoldeb dros fagwraeth y plentyn
- wedi rhoi'r cyfnod cywir o rybudd i'r cyflogwr i gymryd y cyfnod tadolaeth
Pryd fedrwch chi gymryd cyfnod tadolaeth
Os ydych yn cymryd cyfnod tadolaeth ar gyfer genedigaeth, mae'r cyfnod yn medru cychwyn naill ai ar y diwrnod y caiff y baban ei (g)eni neu ar ddyddiad a gytunwyd ymlaen llaw gyda'ch cyflogwr. Nid yw'ch cyfnod tadolaeth yn medru cychwyn cyn geni'r baban ac, os ydych yn cytuno ar ddyddiad sy'n hwyrach na genedigaeth eich baban, mae'n rhaid ei gwblhau o fewn 56 diwrnod i'r enedigaeth.
Os ydych yn cymryd cyfnod tadolaeth ar gyfer mabwysiadu, mae'r cyfnod yn medru cychwyn naill ai ar y diwrnod y caiff y plentyn ei leoli gyda chi, neu ar ddyddiad a gytunwyd ymlaen llaw gyda'ch cyflogwr. Os ydych yn cytuno ar ddyddiad sy'n hwyrach na'r dyddiad y caiff y plentyn ei leoli gyda chi, yna mae'n rhaid ei gwblhau o fewn 56 diwrnod i ddyddiad y mabwysiadu
Dweud wrth eich cyflogwr am eich cyfnod tadolaeth
Mae angen i chi fedru dangos i'ch cyflogwr bod hawl gennych i gyfnod tadolaeth. Er mwyn gwneud hyn, mae'n rhaid i chi roi'r wybodaeth ganlynol i'ch cyflogwr:-
- eich enw
- y dyddiad y disgwylir i'r plentyn gyrraedd, neu ddyddiad yr enedigaeth. Os ydych yn mabwysiadu plentyn, dylech roi’r dyddiad y cawsoch eich cyfateb gyda’ch plentyn neu’r dyddiad y caiff y plentyn ei roi yn eich gofal
- y dyddiad yr hoffech i’ch cyfnod (a thâl) tadolaeth gychwyn
- p'un ai eich bod yn cymryd un wythnos neu ddwy o gyfnod tadolaeth
- datganiad eich bod yn gymwys i gyfnod tadolaeth
- datganiad eich bod yn cymryd cyfnod i ffwrdd i gefnogi’r fam neu i ofalu am y plentyn.
Rydych yn medru defnyddio hunan-dystysgrifau i roi’r wybodaeth hon i’ch cyflogwr. Mae’r hunan-dystysgrifau hyn ar gael ar wefan Cyllid a Thollau EM yn: www.hmrc.gov.uk ar gyfer genedigaeth plentyn a www.hmrc.gov.uk ar gyfer plentyn wedi’i fabwysiadu.
Hefyd, mae’n rhaid i chi roi rhybudd i’ch cyflogwr eich bod am gymryd cyfnod tadolaeth. Rhaid i’r rhybudd fod yn ysgrifenedig os yw eich cyflogwr yn gofyn am rybudd ysgrifenedig. Mae’n rhaid i chi roi rhybudd 15 wythnos cyn genedigaeth y plentyn neu, os nad yw hyn yn ymarferol, cyn gynted ag sy’n bosib unwaith y byddwch yn gwybod pryd fyddwch chi am gymryd eich cyfnod tadolaeth. Os ydych yn mabwysiadu plentyn, mae’n rhaid i chi roi rhybudd heb fod yn hwyrach na saith diwrnod wedi’r dyddiad y cawsoch eich cyfateb i'ch plentn i’w fabwysiadu. Os nad yw hyn yn ymarferol mae’n rhaid i chi roi rhybudd cyn gynted ag sy’n bosib unwaith eich bod yn gwybod eich bod chi am gymryd cyfnod tadolaeth.
Os byddwch yn newid eich meddwl ynglyn â phryd yr ydych am gymryd cyfnod tadolaeth gallwch wneud hynny, ond dylech roi rhybudd o 28 diwrnod i’ch cyflogwr ynghylch y dyddiad newydd.
Gwybodaeth bellach ynghylch cyfnod tadolaeth
Ar wefan yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio mae yna fwy o wybodaeth ynghylch cyfnod tadolaeth. Rhowch glic ar www.berr.gov.uk. Mae gwefan Directgov TIGER yn www.directgov.gov.uk yn medru eich helpu i gyfrifo cyfnod a thâl tadolaeth.
Mae gan fudiad o'r enw Working Families wasanaeth neges testun ac e-bost ar gyfer tadau, sy'n rhoi mwy o wybodaeth ynghylch eu hawliau yn y gwaith. Y rhif ar gyfer negeseuon testun yw 0780 000 4722 a'r cyfeiriad e-bost yw edads@workingfamilies.org.uk.
Am fwy o wybodaeth yng Nghymru, Lloegr a'r Alban ynghylch cyfnod tadolaeth a thâl tadolaeth, gweler Hawliau tadau sy'n gweithio yn y Taflenni ffeithiau ar gyflogaeth.
Nôl i’r Brig
Cyfnod Mabwysiadu
Os ydych yn riant sy’n gweithio ac wedi cael eich cyfateb i blentyn i’w fabwysiadu, neu os gosodwyd plentyn yn eich gofal i’w fabwysiadu, efallai y byddwch yn gymwys i gyfnod mabwysiadu. Mae’n rhaid eich bod wedi bod yn gweithio i’ch cyflogwr am o leiaf 26 wythnos gan ddiweddu gyda’r wythnos y cawsoch eich hysbysu eich bod wedi cael eich cyfateb gyda phlentyn i'w fabwysiadu.
Os ydych yn mabwysiadu plentyn o dramor mae yna reolau gwahanol. Yn yr achos hwn, mae’n rhaid eich bod wedi bod yn gweithio i’ch cyflogwr am o leiaf 26 wythnos erbyn diwedd yr wythnos y byddwch yn derbyn yr hysbysiad swyddogol, neu o’r diwrnod y dechreuoch weithio i’ch cyflogwr.
Mae gan rieni sy'n mabwysiadu hawl i hyd at 52 wythnos o gyfnod mabwysiadu.
Bydd y mwyafrif o rieni’n gymwys i dderbyn Tâl Mabwysiadu Statudol (TMS). Telir hwn ar gyfradd safonol o £117.18 yr wythnos, neu 90 y cant o’ch enillion wythnosol arferol, pa bynnag yw’r isaf. Mae'r ffigwr yma'n gywir os ydych yn dechrau'ch cyfnod mabwysiadu ar 1 Ebrill 2008, neu ar ôl y dyddiad yma. Mae'r swm yn wahanol os ydych wedi dechrau eich cyfnod mabwysiadu cyn y dyddiad yma. Rydych yn cael TMS am 39 wythnos.
Efallai hefyd y bydd hawl gennych i beth tâl mabsyiadu o dan eich cytundeb cyflogaeth.
Pan fydd pâr yn mabwysiadu plentyn, dim ond un o’r rhieni sydd â’r hawl i gyfnod mabwysiadu. Mae’n bosib y bydd y rhiant arall yn gallu cymryd cyfnod tadolaeth (gweler o dan y pennawd Cyfnod Tadolaeth). Mae hyn yn cynnwys parau o’r un rhyw.
Dweud wrth eich cyflogwr am eich cyfnod mabwysiadu
Mae’n rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr eich bod am gymryd cyfnod mabwysiadu heb fod yn hwyrach na saith diwrnod wedi i chi gael eich hysbysu eich bod wedi cael eich cyfateb i blentyn i’w fabwysiadu, neu cyn gynted ag sy’n ymarferol wedi hynny. Mae’n rhaid i chi hysbysu'ch cyflogwr o'r dyddiad yr ydych yn disgwyl i’r plentyn i gael ei osod yn eich gofal a’r dyddiad yr ydych am i’ch cyfnod mabwysiadu statudol i gychwyn.
Efallai y bydd partner y sawl sy’n mabwysiadu, neu mewn cwpl y person sydd ddim yn cymryd cyfnod mabwysiadu, yn gymwys i dderbyn cyfnod a thâl tadolaeth.
Ar wefan yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio mae yna fwy o wybodaeth ynghylch cyfnod mabwysiadu. Rhowch glic ar www.berr.gov.uk. Mae gwefan Directgov TIGER yn www.directgov.gov.uk yn medru'ch helpu i gyfrifo eich cyfnod a thâl mabwysiadu.
Nôl i’r Brig
Yr hawl i ofyn am gael gweithio’n hyblyg
Os ydych chi’n rhiant i blentyn dan chwech oed (dan 18 os yw’ch plentyn yn anabl) neu’n gofalu am oedolyn, mae gennych yr hawl i ofyn i’ch cyflogwr am gael gweithio’n hyblyg. Rhaid i chi hefyd fod wedi gweithio i’ch cyflogwr am o leiaf 26 wythnos a rhaid eich bod chi’n gyfrifol am eich plentyn o ddydd i ddydd.
Os ydych yn gofalu am oedolyn, mae gennych chi’r hawl hefyd i ofyn am gael gweithio’n hyblyg.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gofalu am oedolyn a gweithio’n hyblyg, gweler Hawliau sylfaenol yn y gwaith.
Mae gweithio hyblyg yn gallu cynnwys gweithio’n rhan amser, gweithio oriau ysgol, gweithio amser hyblyg, gweithio o gartref, rhannu swydd, gweithio shifftiau, oriau graddedig a chywasgu oriau (ble rydych chi’n gweithio cyfanswm o oriau a gytunwyd dros gyfnod byrrach).
Er bod hawl gennych i ofyn am gael gweithio’n hyblyg, nid oes rhaid i’ch cyflogwr gytuno. Ond, mae’n rhaid iddynt roi ystyriaeth ddifrifol i’ch cais a chael rheswm busnes da os ydynt yn penderfynu peidio â chytuno.
Rydych yn medru cyflwyno un cais am gael gweithio’n hyblyg bob blwyddyn. Rhaid iddo fod yn ysgrifenedig. Dylech ddweud sut yr ydych yn credu y bydd y newid yn eich patrwm gweithio yn effeithio ar fusnes eich cyflogwr a sut fyddai hyn yn medru gweithio, yn ymarferol.
Rhaid i’ch cyflogwr hefyd ddilyn gweithdrefn safonol ar gyfer ystyried eich cais. Mae hyn yn cynnwys cael cyfarfod gyda chi. Os yw’ch cyflogwr yn bwriadu gwrthod eich cais am gael gweithio’n hyblyg, rhaid iddo nodi ei rhesymau’n ysgrifenedig. Mae gennych yr hawl i apelio os digwydd i’ch cais gael ei wrthod. Rhaid i chi wneud hyn yn ysgrifenedig, o fewn o leiaf 14 diwrnod i’r dyddiad y derbynioch benderfyniad eich cyflogwr. Dylech nodi eich rhesymau dros apelio a sicrhau bod y dyddiad ar eich apêl.
Os yw eich apêl am gael gweithio’n hyblyg yn cael ei wrthod, efallai y byddwch yn medru:
- gofyn i ACAS helpu sortio eich anghydfod gyda’ch cyflogwr (yng Ngogledd Iwerddon Labour Relations Agency yw’r corff). Mae ACAS wedi sefydlu cynllun cyflafareddiad ar gyfer gweithio’n hyblyg i ddelio gyda’r math hwn o anghydfod. Mae mwy o wybodaeth ar wefan ACAS yn
www.acas.org.uk.
- cwyno gerbron tribiwnlys cyflogaeth.
Rydych chi ond yn medru cwyno gerbron tribiwnlys cyflogaeth mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft, ble nad ydyw’ch cyflogwr wedi dilyn y weithdrefn er mwyn ystyried eich cais yn iawn, neu ble nad ydyw wedi ystyried yr wybodaeth gywir wrth ddod i’w benderfyniad.
Efallai y byddwch hefyd yn medru cyflwyno honiad o wahaniaethu ar sail rhyw gerbron y tribiwnlys cyflogaeth. Er enghraifft, rydych yn medru cyflwyno honiad o’r fath os ydych yn ddyn ac mae eich cais i weithio’n rhan amser er mwyn i chi fedru gofalu am eich plant yn cael ei wrthod er y byddai cais gan weithiwr benywaidd yn cael ei dderbyn. Os ydych yn fenyw, efallai y byddwch yn medru cyflwyno honiad o’r fath ar y sail bod gwrthod eich caniatáu chi i weithio’n hyblyg yn ‘wahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw’. Y rheswm tu ôl i hyn yw fod gan fwy o fenywod gyfrifoldebau gofal plant na dynion.
Dyma faes cymhleth iawn. Os ydych am gyflwyno honiad gerbron tribiwnlys cyflogaeth am fod eich cyflogwr wedi gwrthod eich cais am gael gweithio’n hyblyg, mae yna weithdrefnau a therfynau amser llym i’w dilyn. Dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Dylech gofio, hefyd, efallai na fydd tribiwnlys cyflogaeth yn medru newid penderfyniad eich cyflogwr. Ond, efallai y bydd yn medru gorfodi’ch cyflogwr i ailystyried eich cais neu i roi iawndal i chi.
Am fwy o wybodaeth ynghylch yr hawl i weithio’n hyblyg, rhowch glic ar wefan Directgov yn: www.direct.gov.uk/en/Employment. Mae gan Directgov offeryn rhyngweithiol sy’n medru eich helpu chi i gyfrifo’r hawliau a’r opsiynau ar gyfer eich amgylchiadau penodol chi.
Nôl i’r Brig
Hawliau mamolaeth
Mae yna nifer o hawliau ar gyfer merched beichiog yn ôl y gyfraith. Caiff y rhain eu hadnabod fel hawliau statudol:-
Os oedd disgwyl i'ch babi gyrraedd cyn 1 Ebrill 2007, fe fydd rhai o'ch hawliau mamolaeth yn wahanol. Fe fydd gennych hawliau gwahanol o ran y
Os ydych am ddarganfod beth yw eich hawliau mamolaeth ar gyfer babi yr oedd disgwyl iddo gyrraedd cyn 1 Ebrill 2007, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cyfnod mamolaeth a'ch hawl i ddychwelyd i'r gwaith gweler Cyfnod mamolaeth.
Nôl i’r Brig
Hawliau ychwanegol yn y cytundeb cyflogaeth
Mae'r hawliau statudol a amlinellwyd yn hawliau sylfaenol. Bydd gan nifer o weithwyr well hawliau yn eu Cytundeb cyflogaeth.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â Chytundebau cyflogaeth, gweler Cytundebau cyflogaeth.
Nôl i’r Brig
Gweithwyr sydd ddim â hawliau mamolaeth statudol
Nid oes gan rai gweithwyr unrhyw hawliau mamolaeth sylfaenol. Dyma nhw:-
- pysgotwragedd cyfrannol
- gwragedd a gyflogir dramor fel arfer (oni bai fod ganddynt gyswllt gwaith yn y D.U)
- gwragedd hunan - gyflogedig
- heddwragedd a merched sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog, sydd â hawl i dderbyn Tâl Mamolaeth Statudol ac yn medru hawlio gwahaniaethu ar sail rhyw, ond nid ydynt â hawl i hawliau eraill gweithwyr beichiog.
Nôl i’r Brig
Amser i ffwrdd ar gyfer gofal cyn-enedigaeth
Pwy sy'n gymwys
Bydd pob menyw (ond am ferched sy'n gweithio mewn rhai meysydd arbennig, gweler y pennawd Gweithwyr sydd ddim â hawliau mamolaeth statudol) sy'n gweithio ac yn feichiog yn gymwys, heb ystyried pa mor hir y buont yn gweithio i'w cyflogwr presennol a heb ystyried sawl awr yr wythnos fyddant yn gweithio.
Yr hawl i gael amser i ffwrdd o'r gwaith â thâl
Gallwch gael amser i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer apwyntiadau gofal cyn-enedigol os yw eich meddyg, bydwraig neu gynghorydd iechyd yn eich cynghori bod angen. Dylai'ch cyflogwr dalu eich cyflog arferol am yr amser i ffwrdd, cyhyd â'ch bod yn cymryd cyfnod rhesymol o amser i ffwrdd. Er hyn, os byddwch yn cymryd llawer, gellir eich trîn fel petaech i ffwrdd o'r gwaith oherwydd salwch, a chewch eich talu os yw eich Cytundeb cyflogaeth yn caniatáu i chi dderbyn cyflog salwch yn unig. Os ydych i ffwrdd o'r gwaith yn sâl, gallwch fod yn gymwys i dderbyn Tâl Salwch Statudol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â Thâl Salwch Statudol a Lwfans Cyflogaeth a Cymorth, gweler Budd-daliadau i bobl sy'n sâl neu'n anabl.
Wedi'r apwyntiad cyn-enedigol cyntaf, bydd yn rhaid, ar gais eich cyflogwr, i chi ddangos tystysgrif feddygol yn nodi eich bod yn feichiog, a cherdyn apwyntiad ar gyfer y gofal cyn-enedigol.
Am fwy o wybodaeth, gweler taflen BERR , Fathers-to-be and ante-natal appointments – a good practice guide, ar wefan yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio (BERR) yn: www.berr.gov.uk.
Os bydd eich cyflogwr yn gwrthod caniatáu amser i ffwrdd o'r gwaith neu'n gwrthod talu am amser i ffwrdd
Os bydd eich cyflogwr yn gwrthod caniatáu i chi gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer apwyntiad gofal cyn-enedigol, gallwch osod cwyn gerbron tribiwnlys o fewn tri mis i'r apwyntiad. Gall y tribiwnlys orchymyn i'ch cyflogwr dalu'r taliadau a ddaliwyd yn ôl.
Os ydych yn dymuno gosod cwyn gerbron tribiwnlys, dylech gysylltu â'ch cynrychiolydd undeb, neu, os nad ydych yn aelod o undeb, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru darparu cyngor drwy'r ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nôl i’r Brig
Yr hawl i weithio mewn amgylchedd diogel
Mae gan gyflogwyr ddyletswydd cyfreithiol i sicrhau bod yr amgylchedd gwaith yn ddiogel i bob cyflogwr, ac yn enwedig i ferched sydd mewn oed beichiogi. Golyga hyn ei bod yn ofynnol i'r cyflogwr asesu'r peryglon iechyd a diogelwch sydd yn y gweithle, ac yn enwedig, pa beryglon a fyddai i ferched beichiog, merched sy'n bwydo o'r frest a gwragedd a roddodd enedigaeth yn y chwe mis diwethaf.
Lle mae perygl iechyd a diogelwch yn y gweithle, mae'n rhaid i'r cyflogwr gymryd camau i leihau'r risg drwy:-
- gymryd unrhyw gamau cyfreithlon sy'n angenrheidiol, er enghraifft, sicrhau nad yw merched beichiog yn dod i gysylltiad â chemegau peryglus
- newid eich amodau neu oriau gwaith fel na fyddwch mewn perygl, er enghraifft, gellid rhoi cadair i weithiwr siop fel nad yw'n orfodol ei bod yn sefyll am gyfnodau hir. Enghreifftiau eraill fyddai darparu cadair sy'n fwy cysurus i berson sy'n gweithio wrth gyfrifiadur neu roi mwy o seibiannau. Mewn sefyllfa lle byddai swydd y ferch yn ymwneud â pheth gwaith codi, gellid cael person arall i wneud y gwaith codi iddi
- os yw newid eich amodau neu'ch oriau gwaith yn amhosib, mae'n rhaid i'r cyflogwr ystyried cynnig gwaith gwahanol i chi ar yr un cyflog
- os nad oes modd cynnig math arall o waith i chi, mae'n rhaid i’r cyflogwr eich hatal rhag gweithio ar sail rhesymau meddygol a thalu cyflog llawn i chi
Os ydych yn ddynes feichiog sydd wedi rhoi genedigaeth yn ddiweddar neu'n bwydo o'r frest, ac yn tybio eich bod mewn perygl oherwydd problemau iechyd a diogelwch yn eich gweithle, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru darparu cyngor drwy'r ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nôl i’r Brig
Diswyddiad neu driniaeth annheg oherwydd beichiogrwydd
Diswyddo annheg
Os cewch eich diswyddo oherwydd beichiogrwydd, fe allwch hawlio diswyddiad annheg a gwahaniaethu ar sail rhyw mewn tribiwnlys cyflogaeth (Tribiwnlys Diwydiannol yng Ngogledd Iwerddon).Nid yw'n berthnasol pa mor hir y buoch yn gweithio i'ch cyflogwr nac os ydych yn gweithio'n llawn neu'n ran amser. Y rheswm dros hyn yw oherwydd bod y gyfraith yn nodi ei bod yn annheg yn awtomatig os diswyddir menyw gan ei bod yn feichiog.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â diswyddo annheg, gweler Diswyddiad.
Triniaeth annheg a gwahaniaethu ar sail rhyw
Os cewch eich trin yn annheg (h.y. rydych yn dioddef anfantais) mewn cysylltiad â'ch beichiogrwydd neu famolaetjh, er enghraifft nid ydych yn cael eich hystyried ar gyfer dyrchafiad, dylech ddilyn y weithdrefn achwyn tri cham y mae'n rhaid i bob cyflogwr ei chael o dan y gyfraith. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi:
- anfon datganiad ysgrifenedig i'ch cyflogwr, yn nodi eich cwyn ac yn rhoi o leiaf 28 diwrnod iddynt i ymateb
- cynnal cyfarfod gyda'ch cyflogwr i drafod eich cwyn
- apelio yn erbyn penderfyniad eich cyflogwr os nad ydych yn hapus gyda'r penderfyniad
Os ydych wedi dilyn y weithdrefn hon ac nid ydych yn hapus gyda'r canlyniad, fe allwch fynd â'ch cais i dribiwnlys cyflogaeth (Tribiwnlys Diwydiannol yng Ngogledd Iwerddon). Dylech hawlio triniaeth annheg am eich beichiobrwydd/mamolaeth, a gwahaniaethu ar sail rhyw. Dylech gofio, os nad ydych wedi dilyn y weithdrefn achwyn yn iawn i ddechrau, y gallai'r tribiwnlys cyflogaeth benderfynu gostwng unrhyw iawndal a gewch.
Mae yna rai amgylchiadau lle nad oes yn rhaid i chi ddilyn y weithdrefn achwyn cyn mynd â'ch cais i dribiwnlys cyflogaeth. I ddarganfod beth yw'r rhain, ac am fwy o wybodaeth ynghylch codi achwyniad gyda'ch cyflogwr, gweler Delio gydag achwyniad, diswyddo a chamau disgyblu yn y gwaith.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwahaniaethu ar sail rhyw, gweler Cymryd camau ynglyn â gwahaniaethu ar sail rhyw.
Os ydych yn dymuno gwneud cais i dribiwnlys cyflogaeth, dylech gysylltu â'ch cynrychiolydd undeb. Os nad ydych yn aelod o undeb, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru darparu cyngor drwy'r ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Effaith diswyddiad oherwydd beichiogrwydd ar hawliau mamolaeth eraill
Nid yw diswyddiad oherwydd beichiogrwydd yn effeithio ar ba mor gymwys ydych i dderbyn unrhyw un o'r hawliau mamolaeth eraill. Os byddwch yn gymwys i dderbyn cyflog mamolaeth statudol a’r hawl i gael dychwelyd i’r gwaith, byddwch yn dal i fod yn gymwys os cewch eich diswyddo am eich bod yn feichiog.
Nôl i’r Brig
Cyfnod mamolaeth
Mae gan y rhan fwyaf o gyflogedigion yr hawl i gymryd hyd at flwyddyn (52 wythnos) o gyfnod mamolaeth. Nid yw hyn yn dibynnu ar y cyfnod yr ydych wedi bod yn gweithio i'ch cyflogwr.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cyfnod mamolaeth, gweler Cyfnod mamolaeth.
Os oedd digwyl i'ch babi gyrraedd cyn 1 Ebrill 2007, fe fydd hawliau gwahanol gennych o ran faint o gyfnod mamolaeth fedrwch chi ei gymryd.
Os ydych chi eisiau darganfod mwy am eich hawliau mamolaeth ar gyfer babi yr oedd disgwyl iddo gyrraedd cyn 1 Ebrill 2007, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nôl i’r Brig
Tâl mamolaeth
Tâl Mamolaeth Statudol (TMS)
Pwy sy'n medru hawlio
Rydych yn medru hawlio TMS os:
- ydych chi wedi gweithio i'r un cyflogwr ers 26 wythnos, yn ddi-dor, i mewn i'r 15fed wythnos cyn bod disgwyl i'ch babi gyrraedd. Nid oes gwahaniaeth sawl awr yr wythnos yr ydych yn gweithio. Er enghraifft, os oes disgwyl i'ch babi gyrraedd yn yr wythnos sy’n dechrau ar 5 Mai 2008 (wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth), 15 wythnos cyn yr wythnos yna yw'r wythnos sy'n dechrau ar 21 Ionawr 2008 (yr wythnos gymhwysol), a 26 wythnos cyn yr wythnos gymhwysol yw'r wythnos sy'n dechrau ar 23 Gorffennaf 2007. Felly byddai'n rhaid eich bod wedi dechrau gweithio ar 23 Gorffennaf 2007, neu cyn y dyddiad yma, er mwyn eich bod yn gymwys ar gyfer TMS os oes disgwyl i'ch babi gyrraedd yn ystod wythnos 5 Mai 2008. a
- eich bod yn feichiog ar, neu wedi cael y babi erbyn yr 11eg wythnos cyn y disgwylir i'r babi gael ei eni; a
- mae gennych gyflog wythnos gyfartalog o leiaf terfyn enillion isaf yswiriant gwladol. Caiff y swm yma ei gyfrifo ar eich enillion cyfartalog yn yr wyth wythnos hyd at y 14eg wythnos cyn y disgwlir i'ch babi gael ei eni.
Am fwy o wybodaeth ynghylch yswiriant gwladol a'r terfyn enillion isaf, gweler Yswiriant gwladol – cyfraniadau a budd-daliadau.
I weld faint yw'r terfyn enillion isaf, ewch at wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn www.hmrc.gov.uk.
Nid yw rhai merched yn medru hawlio Tâl Mamolaeth Statudol (TMS) gan eu cyflogwr oherwydd nid oes hawl ganddynt i gyfnod mamolaeth (gweler y pennawd Gweithwyr sydd ddim â hawliau mamolaeth statudol).
Efallai y bydd gan ferch sydd ddim â hawl i Dâl Mamolaeth Statudol hawl i Lwfans Mamolaeth a delir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (y DWP).
Am wybodaeth ynghylch Lwfans Mamolaeth, gweler Budd-daliadau i deuluoedd a phlant.
Pryd caiff TMS ei dalu
Telir TMS am hyd at 39 wythnos.
Ond, os oedd disgwyl i'r babi gyrraedd cyn 1 Ebrill 2007, fe fydd hawliau gwahanol gennych i TMS. Dylech holi cynghorydd profiadol.
Y cynharach y byddwch yn medru dechrau eich cyfnod mamolaeth ac felly dechrau cael TMS yw'r 11eg wythnos cyn bod disgwyl i'r babi gyrraedd. Yr hwyraf y byddwch yn medru dechrau eich cyfnod mamolaeth ac felly dechrau cael TMS w'r wythnos ar ôl yr wythnos pan fydd y babi'n cael ei eni. Rydych yn medru dewis pryd y byddwch chi am i'ch TMS ddechrau o fewn y cyfnod hwn, onid ydych yn sâl.
Os ydych yn sâl gyda salwch sy'n ymwneud â'r feichiogrwydd yn y chwech wythnos cyn bod disgwyl i'ch babi gyrraedd, fe fydd eich TMS yn dechrau yn yr wythnos ar ôl yr wythnos yr ydych yn mynd yn sâl. Os ydych yn sâl gyda salwch sydd ddim yn gysylltiedig â'r feichiogrwydd, fe fyddwch yn medru hawlio Tâl Salwch Statudol hyd nes yr wythnos y mae disgwyl i'r babi gyrraedd.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â thâl salwch statudol, gweler Budd-daliadau i bobl sy'n sâl neu'n anabl.
Faint yw TMS
Ar gyfer chwech wythnos cyntaf cyfnod mamolaeth mae TMS yn cael ei dalu ar gyfradd o 90% o'ch enillion cyfartalog wythnosol gros (hynny yw, cyn y caiff cyfraniadau treth ac Yswiriant Gwladol eu didynnu). Am yr wythnosau sy'n weddill, caiff ei dalu ar gyfradd o 90% o'ch enillion cyfartalog wythnosol gros neu £117.18 yr wythnos, pa un bynnag sydd isaf.
Sut i hawlio TMS
I hawlio'ch TMS mae'n rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr, 28 diwrnod cyn i chi benderfynu cychwyn cyfnod mamolaeth, eich bod yn feichiog ac y byddwch i ffwrdd o'r gwaith oherwydd yr enedigaeth. Bydd eich cyflogwr am weld tystysgrif feddygol (MATB1) ac mae'n rhaid i chi gael un i ddangos i'ch cyflogwr.
Sut caiff TMS ei dalu
Caiff TMS ei dalu gan eich cyflogwr yn yr un modd ac ar yr un pryd â'ch cyflog ac fel arfer cânt eu talu yn fisol neu'n wythnosol. Yna, mae'ch cyflogwr yn hawlio'r arian yn ôl gan y llywodraeth.
Os ydyw'ch cyflogwr yn gwrthod talu TMS
Os yw'ch cyflogwr yn gwrthod talu TMS, gallwch wneud cwyn i Gyllid a Thollau EM a fydd yn penderfynu a ddylech fod yn derbyn TMS.
Mae hyn yn gymhleth ac os ydych yn y sefyllfa yma, bydd angen cymorth cynghorydd profiadol arnoch, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cymngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
TMS a diswyddiad oherwydd beichiogrwydd
Os ydych yn gymwys i dderbyn TMS ond eich bod yn cael eich diswyddo oherwydd eich beichiogrwydd (gweler y pennawd Diswyddiad neu driniaeth annheg oherwydd beichiogrwydd ) cyn cychwyn y 14eg wythnos cyn y digwylir i'ch babi gael ei eni, bydd hawl gennych i TMS o hyd.
TMS a dychwelyd i'r gwaith
Nid yw'r hawl i TMS yn dibynnu ar ddychwelyd i'r gwaith. Byddwch yn dal i'w dderbyn, hyd yn oed os nad ydych yn dychwelyd. Ni fydd yn rhaid i chi ad-dalu unrhyw TMS os nad ydych yn dychwelyd i'r gwaith.
Tâl mamolaeth cytundebol
Efallai bod gennych hawliau cytundebol a hawliau statudol i dâl mamolaeth. Fel arfer, bydd hawliau cytundebol yn well na hawliau statudol. Os nad yw hyn yn wir, gallwch eu hanwybyddu a dibynnu ar eich hawliau statudol.
Bydd angen i chi edrych ar eich cytundeb cyflogaeth i ddarganfod beth yw eich hawliau cytundebol i gyfnod mamolaeth a thâl mamolaeth.
Os ydych yn un o'r grwpiau sydd ddim yn gymwys i dderbyn hawliau mamolaeth statudol, efallai y byddwch yn dal i fod yn gymwys i hawliau cytundebol (gweler y pennawd Gweithwyr sydd ddim â hawliau mamolaeth statudol am restr o ferched sydd ddim yn gymwys i dderbyn hawliau mamolaeth statudol).
Os ydych yn ferch sy'n credu bod ganddi hawliau mamolaeth cytundebol ond nad ydych yn sicr sut i'w defnyddio, neu os nad ydych yn siwr beth yw eich hawliau mamolaeth cytundebol, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru roi cyngor drwy'r ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nôl i’r Brig
Credydau treth
Gallwch hawlio Credyd Treth Gwaith neu Gredyd Treth Plant os ydych yn derbyn Tâl Mamolaeth Statudol neu Lwfans Mamolaeth. Gallwch hawlio Credyd Treth Plant os oes gennych blentyn yn barod, neu pan fydd y plentyn newydd wedi'i eni os mai dyma'ch plentyn cyntaf.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â chredydau treth, gweler Problemau gyda budd-daliadau a chredydau Treth.
Nôl i’r Brig
Budd-daliadau nawdd cymdeithasol
Lwfans Mamolaeth
Os nad ydych yn gymwys i dderbyn Tâl Mamolaeth Statudol, mae’n bosib y gallwch hawlio Lwfans Mamolaeth a delir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Am wybodaeth ynghylch Lwfans Mamolaeth, gweler Budd-daliadau i deuluoedd a phlant.
Cymhorthdal Incwm
Os ydych ar gyfnod mamolaeth, efallai y byddwch yn medru hawlio Cymhorthdal Incwm os yw eich hincwm yn is na lefel penodol. Mae’n bosib fod hyn yn gymwys hyd yn oed os ydych yn derbyn Tâl Mamolaeth Statudol neu Lwfans Mamolaeth.
Am fwy o wybodaeth, gweler Help i bobl ar incwm isel – Cymhorthdal Incwm.
Os oes hawl gennych i Gymhorthdal Incwm mae’n bosib eich bod yn gymwys i daliad unigol ar gyfer anghenion mamolaeth hefyd o’r Gronfa Gymdeithasol.
Am wybodaeth, gweler Help i bobl ar incwm isel – Y Gronfa Gymdeithasol.
Nôl i’r Brig
Gwybodaeth bellach
Mae taflenni defnyddiol ynghylch hawliau mamolaeth ar gael ar wefan yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio (DBERR). Y wefan yw www.berr.gov.uk [http://www.dti.gov.uk/files/file34285.pdf]. Mae rhai taflenni ar gael mewn rhai ieithoedd cymunedol. Mae yna fersiwn i gyflogwyr hefyd. Ewch at eu gwefan yn www.berr.gov.uk.
Mae gwefan Directgov TIGER yn www.directgov.gov.uk yn medru eich helpu i gyfrifo cyfnod mamolaeth a thadolaeth.
Mae gwybodaeth bellach ar feichiogrwydd a hawliau mamolaeth ar gael ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: www.equalityhumanrights.com.
Nôl i’r Brig
|