Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban
Mae gan gyflogwyr yr hawl i fonitro eich gweithgareddau yn y gwaith mewn nifer o sefyllfaoedd. Mae monitro yn y gweithle yn cynnwys:-
Mae pob un o'r dulliau uchod o fonitro yn dod o dan gyfraith diogelu data. Nid yw cyfraith diogelu data yn atal monitro yn y gwaith, ond mae'n gosod rheolau ynghylch yr amgylchiadau ar gyfer monitro a'r ffordd y dylid monitro.
Cyn penderfynu a ydyw'n mynd i fonitro ei staff, dylai eich cyflogwr:
Ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn, rhaid i gyflogwyr gymryd camau rhesymol i ddweud wrth staff fod y monitro'n digwydd beth sy'n cael ei fonitro a pham mae angen monitro.
Fel arfer, ni fydd angen i gyflogwyr gael caniatâd aelodau unigol o staff os ydynt yn medru cyfiawnhau'r monitro ac wedi cynnal asesiad effaith iawn.
Mae'n gyfreithlon i'ch cyflogwr fonitro eich defnydd o'r ffôn, rhyngrwyd, e-bost neu ffacs yn y gweithle:
Dylech gofio bod yr amgylchiadau hyn yn ymdrin â bron pob sefyllfa ble gallai eich cyflogwr fod eisiau monitro eich negeseuon electronig, heblaw am achosion ble mae'n eich monitro am resymau preifat neu sbeitlyd yn unig.
Tra bod eich cyflogwr yn cadw at y rheolau hyn, nid oes angen eich caniatâd chi i fonitro'ch cyfathrebu electronig os ydyw'n monitro am un o'r rhesymau canlynol:
Mae rhai cyflogwyr yn monitro eu gweithwyr heb ddweud wrthyn nhw bod hyn yn digwydd, er enghraifft trwy ddefnyddio camerâu cudd neu ddyfeisiadau clywedol. Anaml iawn y bydd hyn yn gyfreithlon. Yn ôl canllawiau cyfraith diogelu data, ni ddylid caniatáu monitro cyfrinachol mewn mannau preifat yn y gwaith, er enghraifft toiledau staff, onid oes trosedd ddifrifol ar waith, er enghraifft delio mewn cyffuriau.
Yn ddelfrydol, dylai fod gan y cyflogwr gôd ymarfer neu bolisi sy'n cwmpasu monitro yn y gweithle. Os cytunwyd ar gôd neu bolisi yna fel arfer fe fydd yn rhan o'ch cytundeb cyflogaeth. Os oes hawl gan gyflogwr i fonitro'ch gweithgareddau, felly, fe allai'r gweithgareddau hyn olygu camau disgyblu os ydych yn defnyddio offer y gweithle mewn ffyrdd sydd heb eu caniatau yn eich cytundeb cyflogaeth. Mae ACAS wedi cynhyrchu canllawiau byr ar bolisïau rhyngrwyd ac e-bost ac mae ar gael ar www.acas.org.uk/index.aspx?articleid=808.
Os ydych yn teimlo bod eich cyflogwr wedi bod yn eich monitro mewn modd anghywir, fe fydd angen cyngor arbenigol arnoch.
Efallai y byddwch yn medru:
Am fwy o wybodaeth ynghylch codi achwyniad, yng Nghymru, Lloegr a’r Alban gweler Datrys anghydfod yn y gwaith ac yng Ngogledd Iwerddon, gweler, Delio gydag achwyniadau, diswyddo a chamau disgyblu yn y gwaith.
Os ydych yn credu nad yw'ch cyflogwr yn cadw at y gyfraith, fe fyddwch yn medru gofyn i'r Comisiynydd Gwybodaeth gynnal asesiad i weld os yw'ch cyflogwr yn cwrdd â'i rhwymedigaethau o dan gyfraith diogelu data.
Mae'r Comisiynydd Gwybodaeth yn goruchwylio ac yn gorfodi'r gyfraith ar ddiogelu data, ac mae'n medru cynghori gweithwyr a chyflogwyr ar eu hawliau a'u dyletswyddau o dan y Ddeddf Diogelu Data. Nid does tâl am hyn.
Os yw'r Comisiynydd yn penderfynu nad yw'ch cyflogwr yn dilyn y gyfraith, mae'n medru cynnig argymhellion iddo neu rybudd gorfodi. Nid yw'r Comisiynydd Gwybodaeth yn medru rhoi iawndal i chi.
Dyma'r manylion cyswllt ar gyfer y Comisiynydd Gwybodaeth: -
Information Commissioner’s Officer
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF
Rhif ffôn: 01625 545 745
Ffacs: 01625 524 510
Gwefan: www.ico.gov.uk
Fe fydd Canolfan Cyngor ar Bopeth hefyd yn medru helpu os oes gennych ymholiad ynglyn â monitro yn y gweithle. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor trwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae mwy o wybodaeth ynghylch monitro yn y gwaith ar wefan Worksmart y TUC yn: www.worksmart.org.uk/rights/monitoring_at_work.
Mae'r Comisiynydd yn cyhoeddi Côd Ymarfer a elwir yn Gôd Diogelu Data Arferion Cyflogaeth (Employment Practices Data Protection Code) sy'n cynnwys canllawiau ar sut y dylid defnyddio'r Ddeddf Diogelu Data yn y gweithle. Mae'r côd ar gael ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth, mewn dogfen o'r enw The Employment practices Code.