Chwilio am canolfan leol

Chwilio am canolfan leol

Diweddarwyd y safle:

Mawrth 21 af 2010

Cyfnod mamolaeth - Yng Nghymru

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon



Ynglŷn â'r wybodaeth hon

Mae’r wybodaeth hon yn dweud wrthych am eich hawliau i gyfnod mamolaeth. Mae'n berthnasol i bob menyw yr oedd disgwyl i'w babi gyrraedd ar 1 Ebrill 2007, neu ar ôl y dyddiad yma.

Nid yw'r wybodaeth hon yn berthnasol i chi os oedd disgwyl i'ch babi gyrraedd cyn 1 April 2007, hyd yn oed os cafodd ei (g)eni ar y dyddiad hwn, neu ar ôl y dyddiad hwn.

Fodd bynnag, fe fydd yr wybodaeth yn berthnasol i chi os ganed eich babi cyn 1 Ebrill 2007 er bod disgwyl iddo/i gyrraedd ar ôl y dyddiad yma.

Os ydych am ddarganfod beth yw eich hawliau mamolaeth ar gyfer babi yr oedd disgwyl iddo/i gyrraedd cyn 1 Ebrill 2007, neu os nad ydych yn siŵr os yw'r wybodaeth hon yn berthnasol i chi, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig



Pryd mae'ch cyfnod mamolaeth yn medru dechrau

Rydych yn medru dewis pryd i ddechrau eich cyfnod mamolaeth. Mae'n medru bod ar unrhyw adeg yn ystod, neu ar ôl, yr 11eg wythnos cyn y disgwylir i'ch babi gyrraedd. Ond, fe fydd eich cyfnod mamolaeth yn dechrau'n awtomatig os ydych i ffwrdd o'r gwaith am unrhyw reswm yn ymwneud â'ch beichiogrwydd o'r bedwaredd wythnos cyn bod disgwyl i'ch babi gyrraedd.

Nôl i’r brig



Dweud wrth eich cyflogwr eich bod am gymryd cyfnod mamolaeth

Mae’n rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr, yn ysgrifenedig fyddai orau, erbyn diwedd y 15fed wythnos cyn bod disgwyl i’ch babi gyrraedd:

  • eich bod yn feichiog
  • y dyddiad y mae disgwyl i’ch babi gyrraedd
  • y dyddiad yr ydych chi am i’ch cyfnod mamolaeth ddechrau.

Rhaid i chi gyflwyno tystysgrif feddygol (MATB1), os yw’ch cyflogwr yn gofyn am un, yn dangos pryd mae disgwyl i’ch babi gyrraedd. Rydych yn medru cael eich MATB1 gan eich bydwraig neu Feddyg Teulu.

Unwaith y bydd eich cyflogwr wedi derbyn eich rhybudd eich bod am gymryd cyfnod mamolaeth, rhaid iddynt ysgrifennu atoch o fewn 28 diwrnod a dweud wrthych y dyddiad y bydd eich cyfnod mamolaeth yn dod i ben ac felly'r dyddiad y disgwylir i chi ddychwelyd i’r gwaith o’ch cyfnod mamolaeth.

Nôl i’r brig



Faint o gyfnod mamolaeth fyddwch chi'n ei gael

Mae gan y rhan fwyaf o weithwyr benywaidd hawl i gymryd hyd at un flwyddyn (52 wythnos) o gyfnod mamolaeth. Nid yw hyn yn dibynnu am faint yr ydych chi wedi gweithio i’ch cyflogwr. Yr unig weithwyr sydd ddim â'r hawl hwn yw:

  • pysgodwragedd cyfran
  • menywod a gyflogir dramor fel arfer (onid oes cysylltiad gwaith ganddynt gyda’r Deyrnas Unedig)
  • menywod hunangyflogedig
  • heddwragedd a menywod sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog.

Os nad ydych yn siŵr os ydych yn cyfrif fel gweithiwr, gweler Cytundebau cyflogaeth.

Rydych yn medru dewis faint o amser i'w gymryd i ffwrdd o'r gwaith ar gyfnod mamolaeth, hyd at uchafswm o 52 wythnos. Ond, yn ôl y gyfraith, rhaid i chi gymryd o leiaf pythefnos yn syth ar ôl geni'r babi. Os ydych yn gweithio mewn ffatri, rhaid i chi gymryd o leiaf pedair wythnos.

Nôl i’r brig



Beth yw eich hawliau cyflogaeth pan fyddwch chi ar gyfnod mamolaeth

Gelwir 26 wythnos gyntaf cyfnod mamolaeth yn Gyfnod Mamolaeth Arferol (CMA). Yn ystod CMA, fe fyddwch chi'n dal i gael yr un hawliau o dan eich cytundeb cyflogaeth â phetaech yn dal i weithio. Yr unig eithriad yw na fyddwch yn cael eich cyflog arferol onid yw'ch cytundeb yn nodi'n wahanol. Ond fe fyddwch, er enghraifft, yn dal i fod â hawl i grynhoi gwyliau a chael unrhyw godiad cyflog.

Er nad ydych â hawl i'ch cyflog arferol, mae mwyafrif gweithwyr benywaidd â hawl i Dâl Mamolaeth Statudol neu Lwfans Mamolaeth.

Am fwy o wybodaeth ynghylch tâl mamolaeth, gweler Hawliau rhieni yn y gwaith.

Am fwy o wybodaeth ynghylch hawliau cytundebol, gweler Cytundebau cyflogaeth.

Yn ogystal â Chyfnod Mamolaeth Arferol (CMA), rydych hefyd yn medru cymryd 26 wythnos ychwanegol o gyfnod mamolaeth. Gelwir hyn yn Gyfnod Mamolaeth Ychwanegol (CMY). Mae hyn yn rhoi cyfanswm o hyd at 52 wythnos o gyfnod mamolaeth i chi. Os ydych yn cymryd CMY, rhaid iddo ddilyn ymlaen yn syth ar ôl CMA ac ni ellir cael unrhyw gyfnod rhyngddynt.

Fe fydd eich cytundeb cyflogaeth hefyd yn parhau trwy gydol y CMY onid ydych chi neu'ch cyflogwr yn ei ddiweddu, neu ei fod yn rhedeg allan. Ond, os disgwylir i'ch baban gyrraedd yn ystod yr wythnos cyn 5 Hydref 2008, ni fyddwch yn cadw'ch holl hawliau o dan eich cytundeb cyflogaeth yn ystod eich CMY.

Mae rhai o'r amodau a thelerau yn eich cytundeb cyflogaeth sy'n dal i fod yn berthnasol yn ystod CMY yn cynnwys:

  • mae gennych hawl i gael y cyfnod rhybudd a nodir yn eich cytundeb os daw eich cyflogaeth i ben
  • rhaid i chi roi'r rhybudd a nodir yn eich cytundeb i'ch cyflogwr os ydych am ddiweddu'r cytundeb
  • mae gennych hawl i unrhyw dâl am golli eich swydd os ydych yn colli eich swydd
  • fe fydd unrhyw amodau a thelerau yn eich cytundeb cyflogaeth ynghylch gweithdrefnau disgyblu neu achwyniad yn dal i fod yn berthnasol.

Mae yna amodau a thelerau eraill nad ydynt yn berthnasol onid yw'ch cyflogwr yn cytuno fel arall. Er enghraifft, ni fydd hawl gennych i gyflog arferol nac i dâl gwyliau cytundebol (er eich bod yn dal i fedru crynhoi gwyliau statudol) nac i godiad cyflog, onid yw'ch cytundeb cyflogaeth yn rhoi'r hawliau hyn i chi.

Os disgwylir i'ch baban gyrraedd yn ystod yr wythnos cyn 5 Hydref 2008, mae'n medru bod yn gymhleth ceisio gwybod pa amodau a thelerau yn eich cytundeb cyflogaeth sy'n dal i fod yn berthnasol pan fyddwch chi ar CMY. Am fwy o wybodaeth, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor trwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Os disgwylir i'ch baban gyrraedd yn ystod yr wythnos ar neu ar ôl 5 Hydref 2008, mae eich amodau a thelerau cyflogaeth yn parhau yn ystod eich CMY fel y byddant yn ystod eich CMA. Mae hyn yn cynnwys eich holl hawliau ond ni fyddwch yn cael eich cyflog arferol onid yw eich cytundeb yn darparu ar gyfer hyn.

Nôl i’r brig



Dychwelyd i'r gwaith ar ôl eich cyfnod mamolaeth

Os ydych yn penderfynu eich bod am ddychwelyd i'r gwaith yn gynharach na'r dyddiad y mae disgwyl i'ch cyfnod mamolaeth ddod i ben, mae'n rhaid i chi roi rhybudd o wyth wythnos ynghylch y dyddiad newydd yr ydych am ddychwelyd i'r gwaith. Am fwy o wybodaeth ynghylch dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod mamolaeth, gweler y pennawd Eich hawl i ddychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod mamolaeth.

Nôl i’r brig



Cadw mewn cysylltiad â'ch cyflogwr yn ystod eich cyfnod mamolaeth

Pan fyddwch chi ar gyfnod mamolaeth, dylai'ch cyflogwr eich diweddaru chi ynghylch materion a allai effeithio arnoch. Er enghraifft, dylech gael gwybod am unrhyw gyfleoedd perthnasol ar gyfer dyrchafiad neu swyddi gwag sy'n codi yn ystod eich cyfnod mamolaeth.

Rhaid bod amlder y cysylltiad, â'r math o gysylltiad, rhyngoch chi a’ch cyflogwr yn rhesymol. Gellir cysylltu mewn unrhyw ffordd sy'n addas i'r naill ohonoch neu'r ddau ohonoch. Er enghraifft, rydych yn medru cysylltu dros y ffôn, drwy'r e-bost, trwy lythyr, trwy ymweld â'r gweithle neu mewn ffyrdd eraill.

Mae gennych hawl hefyd i weithio am hyd at ddeng niwrnod yn ystod eich cyfnod mamolaeth heb iddo effeithio ar eich tâl mamolaeth. Gelwir y rhain yn 'Ddiwrnodau Cadw Cysylltiad'.

Rhaid i chi a'ch cyflogwr gytuno a ydych chi'n gweithio unrhyw Ddiwrnodau Cadw Cysylltiad, faint fyddwch chi'n eu gweithio, pryd fyddwch chi'n eu gweithio a faint y cewch eich talu amdanynt. Nid oes unrhyw orfodaeth arnoch i'w gweithio ac nid oes unrhyw orfodaeth ar eich cyflogwr i'w cynnig i chi.

Rhaid i chi hefyd gytuno rhyngoch y math o waith y byddwch yn ei wneud. Mae Diwrnodau Cadw Cysylltiad yn medru bod yn arbennig o ddefnyddiol i'ch galluogi chi i fynychu cynhadledd, dilyn gweithgaredd hyfforddiant neu fynychu cyfarfod tîm.

Mae'r gyfradd a delir i chi yn fater i chi a'ch cyflogwr gytuno arno. Gellir ei nodi yn eich cytundeb cyflogaeth neu gellir cytuno fesul achos. Ond, rhaid eich bod yn cael eich talu ar gyfradd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, o leiaf.

Nôl i’r brig



Cyfnod mamolaeth a chyflogaeth barhaus

Mae rhai hawliau cyflogaeth, fel yr hawl i hawlio tâl colli swydd statudol, yn dibynnu pa mor hir yr ydych wedi gweithio i'ch cyflogwr. Y cyfnod yr ydych wedi gweithio i'ch cyflogwr yw eich cyfnod o ‘gyflogaeth barhaus’. Mae'n bwysig, felly, nodi bod amser a dreulir ar gyfnod mamolaeth yn cyfrif wrth gyfrifo'r cyfnod yr ydych wedi bod gyda'ch cyflogwr.

Nôl i’r brig



Eich hawl i ddychwelyd i'r gwaith ar ôl eich cyfnod mamolaeth

Eich hawl i ddychwelyd i'r gwaith ar ôl eich Cyfnod Mamolaeth Arferol

Mae gan bob menyw hawl i ddychwelyd i'w hen swydd ar ôl 26 wythnos o CMA.

Ar ôl 26 wythnos o CMA, nid oes rhaid i chi roi rhybudd i'ch cyflogwr eich bod yn dychwelyd i'r gwaith. Gallwch fynd yn ôl i'r gwaith ar y diwrnod y mae'ch disgwyl yn ôl.

Os yw’ch cyflogwr yn gwrthod gadael i chi ddychwelyd ar ôl eich Cyfnod Mamolaeth Arferol

Os na chewch ddychwelyd i'r gwaith ar ôl eich Cyfnod Mamolaeth Arferol, rydych yn medru cyflwyno honiad fod eich diswyddiad yn annheg yn awtomatig am reswm yn ymwneud â'ch beichiogrwydd neu gyfnod mamolaeth. Rydych hefyd yn medru honni gwahaniaethu ar sail rhyw. Gellir honni'r ddau beth yma waeth am faint yr ydych wedi gweithio i'r cyflogwr a waeth sawl awr yr wythnos yr ydych yn eu gweithio.

Os ydych am honni diswyddiad annheg awtomatig a/neu wahaniaethu ar sail rhyw, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Os ydych yn sâl ar ddiwedd eich Cyfnod Mamolaeth Arferol

Os ydych yn sâl pan fydd disgwyl i chi ddechrau yn ôl yn y gwaith ar ddiwedd eich Cyfnod Mamolaeth Arferol (CMA), rhaid i chi gael tystysgrif feddygol i'w hanfon at eich cyflogwr. Fe fydd eich CMA yn dod i ben ar ddiwedd y 26ain wythnos ac, o hyn ymlaen, byddwch ar gyfnod salwch. Fe fyddwch yn cael eich amddiffyn rhag cael eich diswyddo'n annheg am bedair wythnos ychwanegol ar ôl eich 26 wythnos o CMA os ydych yn sâl am y cyfnod hwn.

Os oes cyflogwr yn ceisio diswyddo menyw sy'n sâl ar ddiwedd ei chyfnod mamolaeth ac yn methu dychwelyd i'r gwaith, mae hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu ar sail rhyw. Os ydych yn y sefyllfa hon, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Eich hawl i ddychwelyd i’r gwaith ar ôl eich Cyfnod Mamolaeth Ychwanegol

Os ydych am ddychwelyd i'r gwaith ar ôl CMY, dylech gael cynnig eich hen swydd yn ôl, onid yw hyn yn rhesymol anymarferol. Os nad yw'n rhesymol ymarferol cynnig eich hen swydd yn ôl i chi, rhaid cynnig swydd i chi sy'n addas ar eich cyfer ac yn addas o dan yr amgylchiadau, ar yr un amodau a thelerau â'ch hen swydd. Er enghraifft, rhaid bod eich cyflog o leiaf yr un faint â'ch hen swydd.

Os na chynigiwyd eich hen swydd yn ôl i chi, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nid oes rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr pa ddyddiad yr ydych yn bwriadu dychwelyd ar ôl eich CMY, oherwydd disgwylir eich bod yn dychwelyd ar ddiwedd eich CMY. Dyma'r dyddiad y dywedodd eich cyflogwr wrthych y byddai'ch cyfnod mamolaeth yn dod i ben. Os ydych am ddychwelyd i'r gwaith yn gynharach na'r dyddiad hwn, rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr, yn ysgrifenedig, o leiaf wyth wythnos cyn y dyddiad yr ydych am ddychwelyd.

Nôl i’r brig



Yr hawl i ddychwelyd yn rhan amser

Nid oes hawl awtomatig gennych i ddychwelyd i'r gwaith yn rhan amser ar ôl cyfnod mamolaeth. Ond, efallai bod gennych yr hawl i ofyn am weithio'n hyblyg a rhaid i'ch cyflogwr roi ystyriaeth ddifrifol i'r cais hwn. Os nad yw'n rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r cais, gallai hyn fod yn wahaniaethu ar sail rhyw.

Am fwy o wybodaeth ynghylch honiad o wahaniaethu ar sail rhyw, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig



Tâl mamolaeth

Tra'ch bod ar gyfnod mamolaeth, efallai bod hawl gennych i dâl mamolaeth naill ai o dan eich cytundeb cyflogaeth neu o dan y gyfraith trwy Dâl Mamolaeth Statudol neu Lwfans Mamolaeth, y gellir ei dalu i chi am hyd at 39 wythnos. Mae'r rheolau ynghylch tâl mamolaeth yn dibynnu pa mor hir yr ydych wedi gweithio i'ch cyflogwr, faint yr ydych yn ei ennill a'r hyn sydd yn eich cytundeb.

Am fwy o wybodaeth ynghylch tâl mamolaeth, gweler Hawliau rhieni yn y gwaith.

Nôl i’r brig



Eich hawliau eraill fel rhiant

Os ydych yn feichiog neu newydd gael babi, efallai bod hawliau eraill gennych hefyd. Mae'r hawliau hyn yn cynnwys:

  • hawl pob menyw feichiog i gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith â thâl ar gyfer gofal cyn-geni
  • hawl pob menyw feichiog i weithio mewn amgylchedd diogel
  • hawl pob menyw feichiog i honni diswyddiad annheg os caiff ei diswyddo oherwydd beichiogrwydd.

Am fwy o wybodaeth ynghylch hawliau eraill os ydych yn feichiog, newydd gael babi neu yn rhiant sy'n gweithio, gweler Hawliau rhieni yn y gwaith.

Nôl i’r brig