Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban
Mae’r wybodaeth yma’n disgrifio prif gynlluniau cyflogaeth y Llywodraeth. Darperir mwyafrif y cynlluniau trwy swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith, ble gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth. Mae rhai cynlluniau cyflogaeth yn orfodol ar gyfer pobl sy’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) tra bod eraill yn wirfoddol. Hefyd, mae mwy o wybodaeth yma ynglyn â chynlluniau cyflogaeth ar gyfer yr hunan-gyflogedig, cynlluniau hyfforddi, y Fargen Newydd a mathau eraill o gymorth sydd ar gael.
Mae gan bob un o swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith Gynghorydd Cyflogaeth yr Anabl (YCA) sy'n ran o Dîm Gwasanaeth ar gyfer yr Anabl (TGA), ac sy'n darparu cyngor arbenigol ar gyfer pobl anabl a chyflogwyr neu gyflogwyr potensial. Gall yr YCA gynghori ar help ymarferol drwy gynllun Mynediad i Waith, Cynllun Cyflwyno Swydd a chyflogaeth wedi'i gefnogi.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Mynediad i Waith, gweler Gwahaniaethu ar sail anabledd yn y gwaith.
Os ydych yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, mae'n rhaid i chi gymryd rhan mewn cynlluniau penodol os cewch eich cynghori i wneud hynny gan gynghorydd personol. Efallai y caiff eich budd-dâl ei effeithio os ydych yn gwrthod gwneud hyn neu'n gadael cynllun cyn ei gwblhau.
Os ydych yn gwrthod cymryd rhan mewn cynllun neu'n gadael cynllun cyn ei gwblhau, gellir cosbi eich budd-dâl. Mae hyn yn golygu y bydd eich Lwfans Ceisio Gwaith yn cael ei atal am bythefnos yn y man cyntaf.
Os ydych yn mynd i swyddfa’r Ganolfan Byd Gwaith i ddod o hyd i waith, byddwch yn cael cyfweliad gan gynghorydd personol a fydd yn eich helpu i lunio cytundeb ceisio gwaith. Mae hyn yn restru'r camau y dylech eu cymryd er mwyn dod o hyd i waith ac mae'n ffurfio sylfaen eich cyfweliadau gyda’r cynghorydd personol.
Os nad ydych wedi dod o hyd i waith wedi 13 wythnos, bydd eich cynghorydd personol yn adolygu'r sefyllfa gyda chi. Gallai'r cyfweliad gymryd lle ar ddiwrnod heblaw'r diwrnod arferol y mae'r person di-waith yn mynychu'r ganolfan waith. Mae'n rhaid i chi fynychu'r cyfweliad.
Fel canlyniad i'r adolygiad 13-wythnos, efallai y cewch:
Os nad ydych yn mynychu'r adolygiad 13-wythnos, neu os nad ydych yn gweithredu ar awgrymiadau eich cynghorydd personol, gellir cosbi eich budd-dâl.
Os ydych yn dal i fod yn ddi-waith wedi 26 wythnos, gofynnir i chi fynychu Cyfweliad Ail-gychwyn gyda chynghorydd personol Swyddfa’r Ganolfan Byd Gwaith. Mae'n rhaid mynychu'r cyfweliad, a gallai methu â mynychu'r cyfweliad effeithio'ch budd-dâl.
Mai rhai o gynlluniau'r llywodraeth yn rai gwirfoddol a gallwch ofyn i’ch cynghorydd personol am gyngor ynglyn ag ymuno ag un.
Mewn rhai achosion, fodd bynnag, gallai fod yn rhaid i chi fynychu'r cynllun os yw’r cynghorydd personol yn teimlo y byddech yn elwa ohono. Yn yr achos yma, byddwch yn cael eich cyfeirio trwy gyfarwyddyd ceisio gwaith. Os ydych yn cael cyfarwyddyd ceisio gwaith i fynychu unrhyw rai 'r cynlluniau isod, byddai methu ag ufuddhau neu adael cyn cwblhau'r cynllun yn gallu arwain at sancsiynu eich budd-dâl.
Mae Training for Work yn raglen hyfforddiant ar gyfer oedolion yn yr Alban sy’n 25 neu’n hŷn, ac sydd wedi bod yn ddiwaith am gyfnod hir. Cysylltwch â’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith am fwy o wybodaeth. Mae yna wybodaeth ynghylch Training for Work ar wefan Scottish Enterprise hefyd, sef: www.scottish-enterprise.com.
Mae Dysgu yn Seiliedig ar Waith i Oedolion yng Nghymru wedi’i hanelu at bobl 25-63 oed sydd wedi bod yn ddiwaith ers 6 mis neu fwy. Mae rhai grwpiau o bobl yn cael ymuno’n gynnar, er enghraifft rhieni sengl, pobl ag anableddau a’r rheiny sydd yn y mwyaf o berygl o beidio â gallu cael swydd, neu gadw swydd, er enghraifft cyn-droseddwyr.
Mae Dysgu yn Seiliedig ar Waith i Oedolion yng Nghymru yn darparu rhaglen sydd wedi’i theilwra i gwrdd â’ch anghenion unigol chi, sy’n medru cynnwys arweiniad, profiad gwaith, hyfforddiant a chymwysterau.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol. Mae gwybodaeth bellach hefyd ar gael yn: www.elwa.org.uk.
Caiff Canolfannau Rhaglen eu gweithredu ar ran y Ganolfan Byd Gwaith gan amrywiaeth o ddarparwyr o'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Mae gan bob Canolfan Raglen gytundeb gyda'r Ganolfan Byd Gwaith i ddarparu rhaglenni chwilio am waith a rhaglenni arweiniad penodol, a elwir weithiau'n Glybiau Gwaith. Maen nhw'n gallu helpu gyda thechnegau cyfweld, er enghraifft, a pharatoi CV.
Mae Canolfannau Rhaglen yn rhoi cymorth i bobl di-waith sy'n 25 neu'n hyn ac sydd wedi bod allan o waith ac yn hawlio budd-daliadau am chwech mis neu fwy. Rydych yn gymwys fel person sydd wedi hawlio budd-daliadau os bu eich partner yn derbyn budd-daliadau ar eich rhan. Mewn rhai ardaloedd, mae gan geiswyr gwaith sydd rhwng 18 a 24 mlwydd oed fynediad at y rhaglen. Mae staff y Ganolfan Byd Gwaith yn medru dweud wrthych os yw hyn ar gael yn eich hardal chi.
Efallai bod rhai categorïau arbennig o geiswyr gwaith yn medru cael mynediad at Ganolfannau Rhaglen ar unwaith. Mae'r rhain yn cynnwys, er enghraifft, pobl sydd ag anableddau, pobl sydd â phroblemau llythrennedd/rhifedd, y rheiny sy'n ddi-gartref, yn gyn-droseddwyr neu bobl sy'n dychwelyd i'r gwaith ar ôl bod yn gofalu am deulu.
Os ydych yn dymuno ymuno â Chanolfan Rhaglen, mae'n rhaid i chi:
Mae Canolfannau Rhaglen yn cynnig help ar ffurf sesiynau hyfforddiant sy'n ceisio gwella technegau chwilio am waith a, lle bod angen, adfer hunan-hyder. Bydd yna gyfleusterau ar gael i chi hefyd i'ch helpu i ddod o hyd i swydd, fel y defnydd o ddesg, ffôn, prosesydd geiriau, papurau newydd, llyfrau ffôn, stampiau, papurach a chyfleusterau llungopïo.
Efallai y bydd yn rhaid i chi gytuno gyda'r Ganolfan sawl trywydd swydd y byddwch yn eu dilyn bob diwrnod.
Tra'n mynychu'r Ganolfan Rhaglen, byddwch yn derbyn eich budd-daliadau arferol, a thelir am eich costau. Mae mwy o fanylion ar gael o swyddfa leol eich Canolfan Byd Gwaith.
Mewn rhai ardaloedd, mae yna ddarpariaeth ar gyfer pobl sydd ag anawsterau llythrennedd difrifol neu bobl nad eu hiaith gyntaf yw Saesneg. Mae mwy o wybodaeth ynglyn â chyfleusterau arbennig ar gael o’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.
Os ydych yn anabl, rydych yn gymwys i wneud cais am gymorth arbenigol i'ch helpu i ddefnyddio cyfleusterau Canolfannau Rhaglen. Gall hyn gynnwys cymhorthion ffôn, dyfeisiadau braille, cadeiriau arbennig, darllenydd os ydych yn ddall neu'n rhannol ddall, neu gyfathrebydd os oes gennych anawsterau gyda'ch clyw. Mewn rhai ardaloedd, efallai bod yna Ganolfan sydd a chyfleusterau arbennig ar gyfer pobl sydd â phroblemau anabledd neu un sy'n darparu cyfleusterau, er enghraifft, ar gyfer grwp o bobl sydd â nam ar eu clyw. Mae gwybodaeth bellach ynglyn â chyfleusterau arbennig ar gyfer pobl anabl ar gael o’r Ganolfan Byd Gwaith.
Mae Treialon Gwaith yn galluogi cyflogwyr i roi pobl di-waith ar brawf mewn swydd benodol am hyd at 30 diwrnod gwaith tra bod y person yn dal i fedru hawlio budd-daliadau. Nod Treialon Gwaith yw annog cyflogwyr i ystyried pobl sydd wedi bod yn ddi-waith am dymor hir ar gyfer swyddi gwag a gweld sut maen nhw'n datblygu yn y swydd cyn penderfynu a ydynt am eu cyflogi'n barhaol ai peidio.
Os ydych yn 25 neu'n hyn ac wedi bod yn ddi-waith am chwech mis neu fwy, efallai eich bod yn gymwys i wneud cais am Dreial Gwaith. Mae'n rhaid eich bod yn derbyn Lwfans Ceisio Gwaith yn uniongyrchol neu'n an-uniongyrchol neu'n cofrestru ar gyfer credydau yswiriant gwladol. Byddwch yn derbyn budd-dâl yn an-uniongyrchol os yw eich partner yn hawlio budd-dâl ar eich rhan. Gallwch hefyd wneud cais os ydych yn derbyn Budd-dâl Analluogrwdd neu Lwfans Anabledd Difrifol.
Os ydych rhwng 18-24, gellir cynnig Treial Gwaith i chi os ydych ar y Fargen Newydd a bod y Rheolwr Rhanbarthol yn penderfynu bod Treialon Gwaith ar gael.
Nid oes yn rhaid i chi aros chwech mis cyn eich bod yn gymwys i wneud cais os ydych yn cymryd rhan yn y Fargen Newydd i Rieni Sengl, yn anabl neu'n gyn-droseddwr, neu os ydych yn gyn aelod o'r Lluoedd Arfog neu'n dychwelyd i'r farchnad waith wedi gofod o ddwy flynedd.
Mae treial gwaith yn medru parhau hyd at 30 diwrnod. Mae'n rhaid i'r swydd fod dros 16 awr yr wythnos ac yn debygol o barhau am o leiaf tri mis. Bydd cyflogwr yn gwarantu eich hystyried ar gyfer cyflogaeth barhaol os ydych yn profi'n addas ond gall y cyflogwr derfynu'r treial ar unrhyw adeg. Ni fydd eich budd-dâl yn dioddef os byddwch chi neu'ch cyflogwr yn penderfynu peidio â pharhau gyda'r treial.
Ar dreial gwaith, byddwch yn parhau i dderbyn eich budd-dâl arferol ac hefyd yn medru hawlio costau teithio hyd at £10 y dydd a lwfans bwyd canol dydd hyd at £3.00 y dydd.
Os cewch gyfweliad a chynnig swydd ar ddiwedd treial gwaith ond eich bod yn penderfynu peidio â'i dderbyn, ni fyddwch yn dioddef cosb i'ch budd-dâl. Os nad ydych yn cael cynnig y swydd, mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn medru gofyn i'r cyflogwr am adborth ysgrifenedig ar eich perfformiad. Mae eich cynghorydd personol yn medru defnyddio'r wybodaeth yn yr adborth wrth ystyried sut dylech barhau i chwilio am waith.
Weithiau, mae Canolfannau Byd Gwaith yn hysbysebu manylion ynglyn â phosibiliadau hunan-gyflogaeth ar gyfer pobl di-waith, gan gynnwys gwaith contract a swyddi comisiwn-yn-unig gwag. Efallai y byddant hefyd yn medru rhoi gwybodaeth i chi ar gychwyn busnes bach neu drefnu etholfraint. Os ydych am gael gwybodaeth, dylech siarad â'ch cynghorydd personol.
Mae help ar gyfer pobl di-waith sydd am gychwyn busnes hefyd ar gael trwy eu Dolen Busnes leol. Rhif ffôn eu llinell gymorth yw 0845 600 9 006 a chyfeiriad eu gwefan yn: www.businesslink.gov.uk.
Os ydych rhwng 18 a 30 a bod gennych syniad busnes, efallai gall Prince's Trust helpu gyda chyngor a nawdd. Dyma'r wefan: www.princes-trust.org.uk.
Mae Cymorth Hyblyg i Fusnes yn raglen gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a gynlluniwyd i helpu pobl sydd am ddechrau, cynnal neu ymestyn busnes yng Nghymru. Dyma'r wefan: www.business-support-wales.gov.uk.
Am wybodaeth gyffredinol ynglyn â dod yn hunan-gyflogedig, gweler Hunan-gyflogaeth: rhestr wirio.
Dysgu yn y Gwaith i bobl ifainc (DYG) yw'r enw cyffredinol am gynlluniau a ariennir gan y llywodraeth sy'n rhoi hyfforddiant i bobl ifainc 16-18 mlwydd oed. Mae'n cynnwys:
Gan nad yw'r rhan fwyaf o bobl ifainc 16 ac 17 mlwydd oed yn gymwys i dderbyn Lwfans Ceisio Gwaith neu Gymhorthdal Incwm, efallai mai DYG yw eu hunig ffordd o gael unrhyw incwm, gan y byddant yn derbyn lwfans hyfforddiant (neu gyflog os ydynt yn gyflogedig).
Efallai y bydd rhaglenni hyfforddiant yn gyfuniad o brofiad gwaith, hyfforddiant yn y gwaith neu hyfforddiant tu allan i'r gwaith. Nid oes uchafswm neu leiafswm amser ar gyfer hyd y rhaglen a gall fod yn llawn amser neu'n ran amser. Fodd bynnag, mae'n rhaid i berson ifanc ar raglen DYG gael y cyfle i ennill cymhwyster sy'n gyfwerth â lefel 2 y Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) neu Gymhwyster Galwedigaethol yr Alban (SVQ).
Yn Lloegr, mae DYG yn cael ei rhedeg gan y Cynghorau Sgiliau a Dysgu. Yng Nghymru, mae’n cael ei rhedeg gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac yn yr Alban gan Scottish Enterprise a Highlands and Islands Enterprise.
Am fwy o wybodaeth am DYG yn Lloegr, gweler Help ariannol i fyfyrwyr 16-19 oed.
Mae prentisiaethau’n darparu hyfforddiant yn y gwaith i bobl ifanc ac oedolion sydd am ddysgu sgiliau newydd ac ennill cymwysterau tra’n gweithio.
Am fwy o wybodaeth ar raglenni prentisiaeth yn Lloegr, ewch at: www.apprenticeships.org.uk.
Am fwy o wybodaeth ar raglenni prentisiaeth yng Nghymru, ewch at www.careerswales.com, neu ffoniwch Learn Direct ar 0800 100 900.
Am fwy o wybodaeth ar brentisiaethau yn yr Alban, ewch at www.skillsdevelopmentscotland.co.uk, neu ffoniwch y llinell gymorth ar 0845 8 502 502.
Mae'r Fargen Newydd yn cynnwys nifer o gynlluniau ar gyfer gwahanol grwpiau o bobl sy'n ddi-waith ac sy'n hawlio budd-dâl.
Mae’r Fargen Newydd Hyblyg yn gynllun cyflogaeth sy’n ceisio eich helpu i ddod o hyd i swydd os ydych wedi bod yn ddiwaith ac yn hawlio Lwfans Ceiso Gwaith am 12 mis. Nod y Fargen Newydd Hyblyg yw eich helpu i ddod o hyd i swydd, neu gael yr hyfforddiant neu’r profiad gwaith sydd ei angen arnoch i’ch helpu i ddod o hyd i swydd.
Mae mudiadau a elwir yn ddarparwyr yn rhedeg y Fargen Newydd Hyblyg ar ran Y Ganolfan Byd Gwaith. Mae’r rhain yn medru bod yn sefydliadau fel awdurdodau lleol ac yn gwmniau preifat.
Ar hyn o bryd, mae’r Fargen Newydd Hyblyg ond yn berthnasol mewn rhai ardaloedd yn Lloegr a’r Alban ond mae’n berthnasol yng Nghymru gyfan. Fe fydd y Fargen Newydd Hyblyg yn cael ei hymestyn i gynnwys Prydain gyfan yn Hydref 2010. I ddarganfod os yw’r Fargen Newydd Hyblyg yn berthnasol i’ch ardal chi, rhowch glic ar wefan Directgov yn www.direct.gov.uk.
Yn yr ardaloedd ble mae’n berthnasol ar hyn o bryd, mae’r Fargen Newydd Hyblyg yn cymryd lle’r Fargen Newydd: 18-24 oed, y Fargen Newydd 25 oed a throsodd a’r Fargen Newydd 50 oed a throsodd. Fe fydd y Fargen Newydd ar gyfer Rhieni Unigol a’r Fargen Newydd ar gyfer Partneriaid yn parhau.
Mae’r Fargen Newydd Hyblyg yn berthnasol i bobl sy’n hawlio o’r newydd a phobl sy’n hawlio yn barod.
Mae’r Fargen Newydd Hyblyg yn medru para hyd at 78 wythnos. Fel rhan o’r cynllun, fe fyddwch yn:
Efallai hefyd y byddwch yn cael hyfforddiant arall a chymorth arall i’ch helpu i ddod o hyd i swydd.
Mae’r Fargen Newydd Hyblyg yn gynllun gorfodol. Mae’n golygu eich bod yn gorfod cymryd rhan ynddo os yw’n berthnasol i chi. Tra’ch bod chi ar y cynllun, rydych yn dal i fod yn gwsmer i’r Ganolfan Byd Gwaith hefyd. Mae hyn yn golygu eich bod yn dal i fedru hawlio costau teithio i gyfweliadau am swyddi, ond mae gennych gyfrifoldebau hefyd, sef:
Os nad ydych yn cymryd rhan yn y cynllun, ac nid oes gennych reswm da dros beidio â chymryd rhan, neu os ydych yn colli’ch lle ar y rhaglen oherwydd camymddwyn, efallai y bydd yn effeithio ar eich budd-daliadau.
Os yw’ch Lwfans Ceisio Gwaith yn dod i ben neu’n gostwng, efallai y byddwch yn medru cael taliad caledi neu herio’r penderfyniad i stopio neu ostwng eich budd-dal.
Mae mwy o wybodaeth ar y Fargen Newydd Hyblyg ar wefan Directgov yn www.direct.gov.uk.
Os ydych yn 18-24 oed ac rydych wedi bod yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith am chwe mis, mae’n rhaid i chi gymryd rhan yn y Fargen Newydd: 18-24 oed. Ond, os ydych yn byw mewn ardal ble mae’r Fargen Newydd Hyblyg yn berthnasol [link to heading Flexible New Deal, Y Fargen Newydd Hyblyg], fe fydd yn rhaid i chi gymryd rhan yn y cynllun hwn yn lle. Bydd rhai pobl ifainc yn medru cychwyn ar y Fargen Newydd yn gynnar, cyn iddynt fod wedi bod yn hawlio budd-dâl am chwech mis.
O dan y Fargen Newydd, byddwch yn cael mynediad i'r 'Porth', i gychwyn am rhwng un mis a phedwar mis. Mae'r cyfnod yma yn gyfnod o help a chefnogaeth drylwyr gyda dod o hyd i waith, dan arweiniad ymgynghorydd personol a fydd fel arfer yn cynnwys cwrs pythefnos o'r enw ‘Porth Gwaith’. Os nad ydych yn llwyddo i ddod o hyd i gyflogaeth sydd heb ei sybsideiddio, byddwch yn cael eich cyfeirio at un o bedwar opsiwn. Dyma'r opsiynau:
Os ydych yn gwrthod mynd ar drywydd un o'r opsiynau yma, ddim yn cymryd rhan yn Porth Gwaith neu ddim yn cymryd camau a gytunwyd gyda'r ymgynghorydd personol, gallwch gael eich sancsiynu.
Os ydych yn 25 neu’n hŷn ond yn iau na 60 oed, ac rydych wedi bod yn ddi-waith ers 18 mis neu fwy, mae’n rhaid i chi gymryd rhan yn y Fargen Newydd i bobl sy'n 25 oed neu'n hŷn (a elwir yn Fargen Newydd 25 oed a throsodd). Ond, os ydych yn byw mewn ardal ble mae’r Fargen Newydd Hyblyg yn berthnasol, fe fydd yn rhaid i chi gymryd rhan yn y cynllun hwn yn lle.
Mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn ceisio helpu pobl i ddod o hyd i waith a, ble'n berthnasol, yn rhoi helo ychwanegol i wella eu cyfleoedd o gael swydd. Fe allai'r cymorth a gynigir gynnwys profiad gwaith, hyfforddiant galwedigaethol, help gyda sgiliau'r gweithle. Efallai na fyddwch yn parhau i dderbyn Lwfans Ceisio Gwaith os byddwch yn gadael, yn cael eich troi i ffwrdd o'r gwaith neu'n methu â mynychu swydd, neu ddim yn cymryd rhan neu'n cael eich gwahardd oherwydd camymddwyn o weithgareddau'r Fargen Newydd.
Os ydych yn 50 neu'n hyn, rydych yn medru dewis a ydych am gymryd rhan yng ngweithgareddau'r Fargen Newydd o dan gynllun y Fargen Newydd 50 oed a throsodd (gweler y pennawd y Fargen Newydd: 50 oed a throsodd). Ond, os ydych yn iau na 60, bydd yn rhaid i chi gymryd rhan mewn rhai gweithgareddau penodol o dan y Fargen Newydd 25 oed a throsodd.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â'r Fargen Newydd ar gyfer pobl sy'n ddi-waith yn y tymor hir, cysylltwch â chynghorydd profiadol, er enghraifft Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae'r Fargen Newydd ar gyfer partneriaid pobl di-waith yn rhaglen wirfoddol sydd ar gael i bartneriaid pobl sydd wedi bod yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm, Budd-dâl Analluogrwydd, Lwfans Cynhaliwr neu Lwfans Anabledd Difrifol am chwech mis neu fwy. Mae partneriaid sydd rhwng 18 a 24 oed sydd heb blant yn medru cael mynediad i'r Fargen Newydd ar gyfer pobl sy'n 18 - 24 oed (gweler uchod), ar sail gwirfoddol. Caiff partneriaid sydd â phlant, a phob partner sy'n 25 neu'n hyn, gynnig help gan gynnwys cymorth ac arweiniad ar hyfforddiant, dod o hyd i waith a gofal plant, ac efallai gallant gymryd rhan mewn cynlluniau eraill sydd gan y llywodraeth.
Ni chaiff budd-dâl ei effeithio os bydd partner yn penderfynu peidio â chymryd rhan yn y Fargen Newydd ar gyfer partneriaid. Fodd bynnag, o Fawrth 2001, mae'n rhaid i rai partneriaid pobl sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith gwrdd â'r amodau ceisio gwaith a gwneud cais ar y cyd am Lwfans Ceisio Gwaith fel pâr. Os yw hyn yn berthnasol, bydd pob partner yn ddarostyngedig i'r Fargen Newydd gorfodol ar gyfer ei grwp oedran.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â pharau sy'n gorfod gwneud cais ar y cyd am Lwfans Ceisio Gwaith, gweler Budd-daliadau i bobl sy'n chwilio am waith.
Dyma raglen wirfoddol ar gyfer rhieni unigol sydd â phlant yn iau nag oed gadael ysgol. Os ydych yn hawlio Cymhorthdal Incwm gyda phlentyn sy'n dair mlwydd oed neu'n hyn, fe'ch gwahoddir i'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol, a rhoddir help a chyngor i chi ar ddod o hyd i waith, hyfforddiant a gofal plant. Os nad ydych yn gweithio neu os ydych yn gweithio llai nag 16 awr yr wythnos, rydych hefyd yn medru cymryd rhan os ofynnwch chi. Ni fydd eich budd-dâl yn cael ei effeithio os penderfynwch nad ydych am gymryd yr help nac yn dilyn y cyngor a roddir.
Os ydych yn riant unigol ac eisiau hawlio Cymhorthdal Incwm, efallai y bydd yn rhaid i chi gael cyfweliad gydag ymgynghorydd personol. Am fwy o wybodaeth ynglyn â rhieni unigol a Chymhorthdal Incwm, gweler Help i bobl sydd ar incwm isel – Cymhorthdal Incwm.
Mae hwn yn anelu at helpu pobl anabl sy’n cael rhai budd-daliadau anabledd neu rai budd-daliadau sy’n gysylltiedig ag iechyd i ddod o hyd i waith ac aros mewn cyflogaeth. Mae'n rhaglen wirfoddol ac ni chaiff budd-daliadau eu heffeithio os ydych yn penderfynu peidio â chymryd rhan. Os byddwch yn gwneud cais am rai budd-daliadau cymwys, byddwch yn cael cyfweliad porth gydag ymgynghorydd. Bydd yr ymgynghorydd yn dweud wrthoch ynglyn â swyddi gwag addas.
Mae rhwydwaith cenedlaethol o Froceriaid Swyddi yn medru helpu pobl anabl i ddod i hyd i swyddi. Bydd gwybodaeth ynglyn â Broceriaid Swyddi ar gael o swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith.
Am wybodaeth a chyngor gan Frocer Swydd lleol, ffoniwch 0800 137 177; ffôn testun 0800 43 5550.
Mae hwn yn anelu at helpu pobl sy'n 50 neu'n hyn i gael gwaith (gan gynnwys hunan-gyflogaeth). Ond, nid yw’r Fargen Newydd: 50 oed a throsodd yn berthnasol os ydych yn byw mewn ardal ble mae’r Fargen Newydd Hyblyg yn berthnasol yn lle. Os ydych ar y Fargen Newydd 50 oed a throsodd, efallai y gallwch gael cymorth ariannol ychwanegol trwy Gredyd Treth Gwaith. Mae grantiau hyfforddi hefyd ar gael ar gyfer cyrsiau hyfforddiant sy'n ymwneud â gwaith.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â Chredyd Treth Gwaith, gweler Budd-daliadau a chredydau treth i bobl sy’n gweithio.
Mae mathau eraill o help ar gael ar gyfer pobl di-waith sy'n chwilio am waith neu sydd wedi dod o hyd i waith ond sydd angen help i gychwyn.
Efallai eich bod yn medru gwneud cais am help o dan y Cynllun Teithio i Gyfweliad os ydych yn ddi-waith ac yn derbyn budd-dâl (yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol) neu'n cofrestru am gredydau yswiriant gwladol. Mae lwfans hyfforddi'n cyfrif fel derbyn budd-dâl. Byddwch yn derbyn budd-dâl yn anuniongyrchol os yw eich partner yn hawlio budd-dâl ar eich rhan. Os ydych yn hawlio Budd-dâl Analluogrwydd ni fyddwch yn gymwys. Fodd bynnag, os ydych yn derbyn Lwfans Cynhaliwr, rydych yn gymwys.
Mae'n rhaid i'r cyfweliad fod y tu hwnt i'r pellter teithio arferol (fel a ddifniwyd gan swyddfa’r Ganolfan Byd Gwaith) o'ch cartref, a gall y taliad gynnwys costau aros dros nos, am uchafswm o ddwy noson. Mae'n rhaid i'r cyfweliad fod ar gyfer swydd sydd:
Rydych ond yn medru gwneud cais am gyfweliad a drefnwyd ymlaen llaw ac mae'n rhaid cyflwyno'r cais cyn i'r cyfweliad gymryd lle. Bydd y taliad yn ystyried cost y drafnidiaeth rhataf posib sydd ar gael, ac, o dan rai amgylchiadau, costau aros dros nos. Gellir gwneud tâl am ail-gyfweliad, neu gyfweliadau dilynol.
Nid oes rhaid i'r Ganolfan Byd Gwaith dalu, ond mae'n rhaid rhoi esboniad os cewch eich gwrthod. Os caiff eich cais ei wrthod, gallwch apelio at y rheolwr neu'r swyddog sydd â chyfrifoldeb yn swyddfa’r Ganolfan Byd Gwaith.
Os ydych yn ceisio gwaith ar y Fargen Newydd, efallai y byddwch yn medru cael gostyngiad wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus pan yn chwilio am waith. Efallai y byddwch hefyd yn medru cael yr help yma gyda'ch costau yn ystod misoedd cyntaf teithio i swydd newydd. Mae'r gostyngiadau sydd ar gael a'r amodau sy'n berthnasol yn amrywio o gwmni i gwmni. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol. Bydd angen cerdyn llun arnoch – ar gael o'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol – pan fyddwch yn prynu tocyn â gostyngiad.
O dan y cynllun Gwaith ar Brawf, os oeddech yn arfer bod yn ddi-waith, fe fyddwch yn medru trïo swydd heb y perygl o golli budd-dâl os ydych yn gadael, tra'ch bod chi'n gadael y swydd o'ch gwirfodd a ddim yn colli'r swydd am i chi gamymddwyn. Os ydych yn gwrthod cymryd swydd addas, gallai hyn effeithio ar eich Lwfans Ceisio Gwaith.
Ni fydd hyn yn effeithio ar eich Lwfans Ceisio Gwaith os:
Ni fyddwch yn gymwys ar gyfer Gwaith ar Brawf, hyd yn oed os ydych yn ddi-waith, os buoch yn gweithio'n rhan-amser ar unrhyw rai o'r 13-wythnos. Mae yna rai eithriadau ar gyfer gwaith a wneir ar gyfer y gwasanaethau brys.
Mae'r canlynol yn cyfrif tuag at y cyfnod cymhwyso o 13-wythnos:
Os ydych am ddychwelyd at fudd-daliadau neu hawlio budd-daliadau wedi Gwaith ar Brawf, sicrhewch a ydych yn bodloni'r holl amodau cyn eich bod yn gadael y swydd.
Mae Grant Gwaith yn un taliad di-dreth i annog rhywun sydd wedi bod yn ddi-waith i ystyried neu dderbyn gwaith y byddai fel arall heb fedru ei ystyried oherwydd costau dychwelyd i'r gwaith. Mae Grant Gwaith yn £100 i bob sengl a chyplau heb blant ac yn £250 i rieni unigol a chyplau sydd â phlant.
Bwriedir Grant Gwaith i fynd tuag at gostau dychwelyd i'r gwaith. Rydych yn medru ei wario yn ôl eich dymuniad, ond fel arfer, er enghraifft, bydd yn mynd tuag at ddillad newydd neu drafnidiaeth.
Er mwyn bod yn gymwys, mae'n rhaid eich bod wedi bod yn derbyn budd-dâl dros y 26 wythnos diwethaf. Hefyd, mae'n rhaid i'r gwaith gwrdd ag amodau penodol.
Er mwyn cael Grant Gwaith, mae'n rhaid eich bod wedi bod yn cael un o'r budd-daliadau canlynol neu gyfuniad o unrhyw rai ohonynt, am 26 wythnos yn ddi-dor:
Rhai pobl eraill sy’n cael lwfansau gan y Ganolfan Byd Gwaith, er enghraifft efallai y bydd pobl sydd ar y Fargen Newydd hefyd yn medru cael Grant Gwaith. Holwch yn eich Canolfan Byd Gwaith leol i fod yn siwr.
Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn Grant Gwaith, mae'n rhaid i'r swydd yr ydych yn ei gymryd fod:
Byddwch hefyd yn gymwys i dderbyn Grant Gwaith os ydych yn dod yn hunan-gyflogedig ac mae'r gwaith yr ydych yn ei gymryd yn cwrdd â'r meini prawf uchod.
Efallai y byddwch chi'n medru cael Grant Gwaith os yw'ch partner yn dechrau gweithio am 24 awr yr wythnos neu fwy, ac mae hyn yn golygu bod eich Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm yn dod i ben.
Telir Grant Gwaith yn awtomatig. Ond, dylech ddweud wrth eich Canolfan Byd Gwaith leol pan fyddwch yn dechrau swydd newydd neu os yw eich oriau gwaith yn cynyddu.
Os ydych yn hawlio Budd-dal Analluogrwydd, Cymhorthdal Incwm oherwydd analluedd neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, ac rydych yn cymryd swydd ble rydych yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos, efallai y byddwch yn medru cael credyd dychwelyd i'r gwaith gwerth £40 yr wythnos. Rydych ond yn ei gael os yw'ch enillion yn llai na £15,000 y flwyddyn ac mae disgwyl i'ch swydd barhau am o leiaf pum wythnos. Holwch yn eich Canolfan Byd Gwaith am fanylion pellach.
Os ydych wedi bod yn cael Lwfans Ceisio Gwaith am o leiaf chwe mis ac rydych yn dod yn hunangyflogedig ac yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos, efallai y byddwch yn medru cael credyd hunangyflogaeth sy’n werth £50 yr wythnos. Byddwch ond yn medru ei gael os ydych yn stopio hawlio Lwfans Ceisio Gwaith ac rydych yn disgwyl i’r gwaith bara o leiaf 5 wythnos. Holwch yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol am fwy o fanylion.
Os ydych yn rhiant unigol sy'n hawlio Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith ac yn derbyn swydd ble rydych yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos, efallai y byddwch yn medru cael credyd mewn gwaith sy'n werth £40 yr wythnos, neu £60 os ydych yn byw yn Llundain. Mewn rhai rhannau o'r wlad, mae credyd mewn gwaith ar gael i bob rhiant sy'n gyfrifol am blentyn dan 16, nid dim ond rhieni unigol. Rydych yn medru ei gael am hyd at 52 wythnos. Holwch yn eich Canolfan Byd Gwaith leol am fanylion pellach.
Efallai y bydd rhieni sengl sy’n dod oddi ar fudd-daliadau ac yn mynd i weithio angen arian i ynmdopi gyda thrafferthion ariannol annisgwyl sy’n medru eu stopio rhag parhau i weithio. Os ydych yn y sefyllfa yma, rydych yn medru cyflwyno cais i gronfa o’r enw In-work Emergency Discretion Fund. Mewn rhai ardaliedd, mae pob rhiant yn gymwys. Rhaid bod plentyn dibynnol gennych yn byw yn eich cartref a rhaid eich bod yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos. Rhaid bod disgwyl i’ch swydd bara o leiaf 26 wythnos a rhaid eich bod wedi bod yn y swydd am lai na 26 wythnos. Rydych yn medru cael taliad o hyd at £300. Mae’r gronfa hon ond yn gwneud taliadau dewisol, a’ch cynghorydd personol yn y Ganolfan Byd Gwaith sy’n penderfynu a ddylech chi gael yr arian. Holwch yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol am fanylion pellach.
Mae Connexions yn rhoi cyngor ynglyn â gyrfaoedd i bobl ifainc rhwng 13 ac 19 mlwydd oed sy'n mynychu'r coleg neu'r ysgol neu sy'n gweithio.
Mae Connexions yn clutsnodi ymgynghorydd personol i roi cyngor ar yrfaoedd gyda'r nod o gadw pobl ifainc mewn addysg/hyfforddiant nes eu bod yn 18 neu'n hyn. Mae ymgynghorwyr personol wedi eu lleoli mewn ysgolion, colegau a mudiadau gwirfoddol.
Fe fydd cynghorwyr personol hefyd yn cefnogi grwpiau bach o bobl ifanc, gan roi mwy o help i'r rheiny sydd ag anawsterau dysgu ac i bobl ifanc gydag anableddau. Maen nhw hefyd yn meithrin cysylltiadau gyda chyflogwyr lleol er mwyn eu perswadio nhw i gynnig hyfforddiant i bobl ifanc, ac i roi amser i ffwrdd i bobl ifanc 1617 oed er mwyn iddynt fedru cael hyfforddiant.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Connexions, ewch at www.connexions.gov.uk, neu ffoniwch nhw ar 080 800 13219.
Mae'r UFI yn hybu hyfforddiant ymhlith busnesau ac unigolion mewn sectorau galwedigaethol lle mae yna brinder sgiliau, ac yn annog oedolion sydd â sgiliau llythrennedd neu rifedd isel i gael hyfforddiant i wella'r sgiliau yma.
Mae busnesau sy'n ymuno â'r cynllun aelodaeth gorfforaethol gyda'r UFI yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol gan yr UFI fel y gallant ddarparu hyfforddiant ar gyfer eu staff. Ni fydd UFI yn darparu hyfforddiant yn uniongyrchol i'r busnes neu'r unigolyn ond bydd yn cyfeirio pobl at hyfforddiant sydd eisoes ar gael neu'n annog creu darpariaethau hyfforddiant newydd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cael hyfforddiant drwy'r UFI, cysylltwch â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol neu wefan cyswllt dysgu, sef: www.learndirect.co.uk.
Mae Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru (ILA Cymru) yn helpu i dalu am hyfforddiant ar gyfer pobl sy’n 18 oed a throsodd. Mae’n rhaid eich bod yn byw yng Nghymru a bod gennych gymwysterau ar NQF Lefel 2 neu'n is i fod yn gymwys am gymorth. Efallai hefyd y byddwch yn gymwys os ydych yn cael budd-daliadau lles, neu’n byw gyda rhywun sy’n cael y budd-daliadau hyn. Mae ILA Cymru yn medru rhoi hyd at 100% o gostau eich cwrs mewn rhai amgylchiadau ac nid yw’n gyfyngedig i bobl ddi-waith. Mae mwy o wybodaeth a ffurflenni cais ar gael oddi wrth Learn Direct ar www.ila-wales.org.uk neu rhadffôn 0800 100 900.
Mae Individual Learning Accounts Scotland (ILA Scotland) yn gynllun gan Lywodraeth yr Alban ar gyfer unrhyw un sy'n 16 neu'n hŷn ac yn byw yn yr Alban. Os ydych yn ennill £22,000 y flwyddyn, neu lai, neu ar fudd-daliadau, fe fyddwch yn medru ceisio am gyfrif ILA a fydd yn rhoi hyd at £200 y flwyddyn i chi tuag at amrywiaeth eang o gyrsiau gan ddarparwyr addysg ledled yr Alban.
Os ydych ar incwm isel neu fudd-daliadau ac eisiau astudio'n rhan amser yn y coleg neu'r brifysgol, efallai y byddwch yn medru cael dyfarniad o hyd at £500 y flwyddyn.
Gellir cael mwy o wybodaeth am gynllun ILA Scotland oddi ar wefan ILA Scotland yn: www.ilascotland.org.uk neu ar radffôn 0800 100 1090.
Mae'r cynllun yma'n gynllun peilot i gefnogi rhieni ifainc i dderbyn addysg neu gyflogaeth. Ar hyn o bryd, mae'n weithredol mewn nifer o Fannau Gweithredu Iechyd, gan gynnig cyngor i rieni sy'n iau na 18 ynglyn ag addysg, gwaith, gofal iechyd, tai a budd-daliadau. Mae'r ardaloedd peilot yn hysbysebu'r cynllun yn lleol drwy, er enghraifft, meddygfeydd teulu, ymwelwyr iechyd a chlybiau ieuenctid.
Am fwy o wybodaeth ar y mannau peilot ac ar fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, cysylltwch â'ch Meddyg Teulu neu ymwelydd iechyd, neu ewch at y wefan, sef: www.surestart.gov.uk.
Mae Worktrain yn wefan swyddi a dysgu ar-lein genedlaethol a ddarperir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae’n rhoi manylion diweddaraf dros 300,000 o swyddi, yn ogystal â gwybodaeth ar wahanol fathau o swyddi, cyfleoedd hyfforddiant, gofal plant (gan gynnwys darpariaeth leol) a gwasanaeth newyddion. Am fwy o wybodaeth, rhowch glic ar eu gwefan yn: www.worktrain.gov.uk.
Mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn perthyn i fudiadau Gwasanaethau Cyflogi Ewropeaidd (sef EURES), mudiad o gyrff llywodraethol yr UE sy'n delio â materion yn ymwneud â chyflogaeth. Mae'n caniatau hysbysebu swyddi gwag a gwybodaeth ar amodau byw a gweithio ar draws Ewrop yn holl wledydd yr UE.
Caiff swyddi gwag ar system EURES eu derbyn gan y Ganolfan Byd Gwaith ac maent weithiau'n cael eu hysbysebu yn swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith. Os oes diddordeb gennych mewn gweithio yn yr UE, dylech ofyn i'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol am chwiliad am swyddi gwag dramor.
Efallai eich bod yn gymwys i dderbyn help ariannol o fath arall o ganlyniad i gychwyn gwaith a dod oddi ar fudd-daliadau, er enghraifft:-
Am fwy o wybodaeth ar unrhyw un o'r uchod, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft eich Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.