Jump to the Adviceguide home page
Adviceguide, advice that makes a difference
skip navigation
Jump to the Adviceguide home page
 England   Northern Ireland   Scotland   Wales   Cymru 
Eich arian
Eich teulu
Eich byd chi
Eich hawliau chi

:

 

(New window) Dod o hyd i'ch CAB agosaf

(New window) Ydyn ni wedi bod o gymorth? Plîs, cefnogwch ni

(New window) Gwirfoddolwch

 

Y tro diwethaf y diweddarwyd y safle oedd Ionawr 7 af 2009.

Fe fydd pob dolen gyswllt at wefannau eraill yn agor mewn ffenestr newydd.

Cymru    Cyflogaeth    Diswyddiad a budd-daliadau  

Cyflogaeth - Yng Nghymru

 

 


Diswyddiad a budd-daliadau

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon



Beth mae gweithiwr sydd wedi'i (d)diswyddo'n gallu ei hawlio

Os ydych wedi cael eich diswyddo o'ch gwaith, fe fydd hyn yn effeithio ar y budd-daliadau y gallwch eu hawlio. Efallai y byddwch yn medru hawlio lwfans ceisio gwaith sydd wedi'i seilio ar incwm neu ar gyfraniadau, budd-dâl tai neu budd-dâl treth gyngor ond mae yna reolau arbennig ynglyn â sut y bydd y rhain yn cael eu talu wedi i chi golli eich swydd.

Fel arfer, ni fyddwch yn medru hawlio cymhorthdal incwm wedi i chi gael eich diswyddo oherwydd eich bod yn gorfod bod ar gael i weithio. Fodd bynnag, dylech holi i weld a ydych chi neu'ch partner yn gymwys. Os ydych chi neu'ch partner dros 60 efallai y byddwch yn medru hawlio Credyd Pensiwn. Os ydych yn derbyn Cymhorthdal Incwm neu Gredyd Pensiwn ni fydd yn rhaid i chi fod ar gael i weithio.

Am wybodaeth ynglyn â'ch hawliau pan fyddwch chi wedi cael eich diswyddo o'ch gwaith, gweler Diswyddo.

Am fwy o wybodaeth ynghylch budd-daliadau pan fyddwch chi’n chwilio am waith, gweler Budd-daliadau i bobl sy'n chwilio am waith.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Cymhorthdal Incwm, gweler Help i bobl ar incwm isel – Cymhorthdal Incwm.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Credyd Pensiwn, gweler Budd-daliadau i bobl dros chwedeg.

Mae'r wybodaeth yma'n esbonio sut mae cael eich diswyddo yn gallu effeithio'r budd-daliadau yr ydych yn gallu eu hawlio.

Os ydych yn weithiwr sydd wedi cael eich diswyddo o swydd lle roeddech yn gweithio llai nag 16 awr yr wythnos, mae'r rheolau'n wahanol. Dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r Brig



Lwfans ceisio gwaith sy'n seiliedig ar gyfraniadau (LCG)

Os cawsoch eich diswyddo am gamymddwyn, mae'n bosib na fydd LCG sy'n seiliedig ar gyfraniadau yn cael ei dalu am hyd at 26 wythnos. Mae camymddwyn yn golygu eich bod, ym marn eich cyflogwr, wedi gwneud rhywbeth o'i le. Gallwch apelio yn erbyn y sancsiwn 26 wythnos.

Ni ellir talu LCG sy'n seiliedig ar gyfraniadau am wythnos yr ydych yn cael eich talu amdani yn lle cyfnod rhybudd.

Gall iawndal am ddiswyddiad annheg gwmpasu cyfnod lle rydych wedi bod yn derbyn LCG sy'n seiliedig ar gyfraniadau. Os bydd hyn yn digwydd, mae'n bosib y bydd yn rhaid ad-dalu'r LCG allan o arian yr iawndal. Os ydyw'r iawndal wedi'i dalu yn barod pan fyddwch yn hawlio LCG, mae'n bosib y bydd yn eich hatal rhag ei dderbyn am gyfnod.

Nid yw tâl am i chi gael eich gwneud yn ddi-waith (redundancy) yn effeithio LCG sy'n seiliedig ar gyfraniadau. Fodd bynnag, os byddwch yn derbyn y fath dâl yn fwy na'r swm statudol, ni fyddwch yn derbyn LCG sy'n seiliedig ar gyfraniadau am y cyfnod sy'n cael ei drin fel petai'n dod o dan y tâl ychwanegol. Os ydych wedi derbyn tâl gwyliau fel rhan o'ch cyflog terfynol, ni allwch dderbyn LCG sy'n seiliedig ar gyfraniadau am hyd at bedair wythnos wedi i'ch swydd ddod i ben.

Am wybodaeth ynglyn â'ch hawliau pan fyddwch chi wedi cael eich diswyddo o'ch gwaith, gweler Diswyddo.

Mae'r rheolau ynglyn â lwfans ceisio gwaith sy'n seiliedig ar gyfraniadau a thaliadau ar derfyn swydd yn gymhleth. Dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch CAB agosaf, gan gynnwys yn rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r Brig



Lwfans ceisio gwaith sydd wedi'i seilio ar incwm (LCG)

Os ydych yn cael eich diswyddo am gamymddwyn, mae'n bosib na fydd eich LCG sydd wedi'i seilio ar incwm yn cael ei dalu am hyd at 26 wythnos. Caiff hyn ei alw'n sancsiwn. Gallwch apelio yn erbyn yn sancsiwn, neu mae'n bosib y byddwch yn gallu hawlio tâl am galedi.

Caiff taliad yn lle rhybudd ei gyfrif fel enillion. Mae tâl gwyliau yn y bedair wythnos gyntaf wedi gadael eich swydd yn cyfrif fel enillion pan yn cyfrifo hawl i LCG sydd wedi'i seilio ar incwm. Yn dilyn y bedair wythnos gyntaf, caiff ei drin fel cyfalaf. Ni fydd gennych hawl i unrhyw LCG am yr wythnos sy'n dod o dan daliadau a gaiff eu trin fel enillion.

Yn y mwyafrif o achosion, mae tâl am gael eich gwneud yn ddi-waith (redundancy) yn cyfrif fel cyfalaf pan yn cyfrifo eich hawl i LCG sydd wedi'i seilio ar incwm. Fodd bynnag, mae'r fath dâl sy'n fwy na'r swm statudol yn gallu eich hatal rhag cael unrhyw LCG ar gyfer unrhyw gyfnod. Os ydych yn derbyn y fath daliadau yn achlysurol, mae'r rhain yn cyfrif fel incwm, ond maent yn brin iawn.

Mae'n bosib y bydd iawndal am ddiswyddo annheg yn cwmpasu cyfnod lle rydych wedi bod yn derbyn LCG sydd wedi'i seilio ar incwm. Os yw hyn yn digwydd, mae'n bosib y bydd yn rhaid ad-dalu'r LCG allan o arian yr iawndal. Os ydych wedi derbyn iawndal yn barod pan fyddwch yn hawlio LCG, mae'n bosib y gall hyn eich hatal rhag ei dderbyn am gyfnod.

Am wybodaeth ynglyn â'ch hawliau pan fyddwch chi wedi cael eich diswyddo o'ch gwaith, gweler Diswyddo.

Mae'r rheolau ynglyn â lwfans ceisio gwaith wedi'i seilio ar incwm a thaliadau ar ddiwedd unrhyw swydd yn gymhleth iawn. Dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch CAB agosaf, gan gynnwys yn rhai sy'n gallu cynnig cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r Brig



Budd-dâl tai a budd-dâl treth gyngor

Pan yn cyfrifo eich hawl i fudd-dâl tai ac (yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn unig), budd-dâl treth gyngor, fel arfer caiff tâl am gael eich gwneud yn ddi-waith ei drin fel cyfalaf. Fel arfer, caiff taliadau eraill (er enghraifft tâl gwyliau) eu diystyrru os nad ydych yn derbyn budd-dâl tai a budd-dâl treth gyngor yn barod pan fyddwch yn cael eich diswyddo.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Tai, gweler Help gyda'ch rhent – Budd-dâl Tai.

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn unig, am wybodaeth ynglyn â budd-dâl treth gyngor, gweler Help gyda'ch Treth Gyngor – Budd-dâl Treth Gyngor.

Os ydych am wybod faint o fudd-dâl tai a/neu, yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn unig, budd-dâl treth gyngor y gallwch ei hawlio, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r Brig



Budd-daliadau a thaliadau methdaliad

s ydych yn cael eich diswyddo am fod eich cyflogwr yn fethdalwr, mae'n bosib y byddwch yn derbyn tâl gan wasanaeth taliadau methdaliad (GTM) yr Adran dros Fasnach a Diwydiant i wneud iawn am gyflog sy'n ddyledus i chi, tâl yn lle rhybudd, ac ati. Os ydych hefyd yn hawlio LCG, ni fyddwch yn derbyn unrhyw fudd-dâl am yr wythnosau sy'n dod o dan y tâl methdaliad yma. Neu, os ydych wedi cael rhywfaint o LCG yn barod pan fydd y taliad methdalu ar fin cael ei dalu, bydd y budd-dâl yn cael ei dynnu allan o'r tâl methdaliad. Os ydych wedi cael tâl methdaliad ac mae'n dod tua diwedd y cyfnod yr ydych yn gallu hawlio LCG, fe fydd wythnosau ychwnaegol yn cael eu hychwanegu at eich cyfnod hawlio i wneud iawn am yr wythnosau o fudd-dâl a gollwyd gennych ar ddechrau eich cais.

Nôl i’r Brig



Testun Blaenorol Testun Nesaf
 
   
 

Disclaimer, Copyright and Privacy Policy. Copyright © 2002-2009 (New window) Citizens Advice. All rights reserved.
Cyngor Ar Bopeth Cymru is an operating name of the National Association of Citizens Advice Bureaux, Charity registration number 279057, VAT number 726 0202 76, Company limited by guarantee, Registered number 1436945 England, Registered office: Myddelton House, 115-123 Pentonville Road, London N1 9LZ