Jump to the Adviceguide home page
Adviceguide, advice that makes a difference
skip navigation
Jump to the Adviceguide home page
 England   Northern Ireland   Scotland   Wales   Cymru 
Eich arian
Eich teulu
Eich byd chi
Eich hawliau chi

:

 

(New window) Dod o hyd i'ch CAB agosaf

(New window) Ydyn ni wedi bod o gymorth? Plîs, cefnogwch ni

(New window) Gwirfoddolwch

 

Y tro diwethaf y diweddarwyd y safle oedd Ionawr 7 af 2009.

Fe fydd pob dolen gyswllt at wefannau eraill yn agor mewn ffenestr newydd.

Cymru    Cyflogaeth    Delio gydag achwyniad, diswyddo a chamau disgyblu yn y gwaith  

Cyflogaeth - Yng Nghymru

 

 


Delio gydag achwyniad, diswyddo a chamau disgyblu yn y gwaith

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon



Cyflwyniad

Os ydych chi'n weithiwr cyflogedig, mae gennych yr hawl i ddisgwyl fod gan eich cyflogwr - boed fawr neu fach - weithdrefnau cyfreithiol lleiaf ar gyfer delio gydag achwyniadau (grievances), diswyddo a chamau disgyblu. Yn yr un modd, mae'r gyfraith yn rhoi dyletswydd ar bob gweithiwr cyflogedig i ddilyn y gweithdrefnau os oes ganddynt achwyniad i'w godi'n ffurfiol gyda'u cyflogwr.

Mae angen i weithwyr cyflogedig a chyflogwyr ddeall yr hawliau a'r cyfrifoldebau hyn. Fe fyddan nhw'n helpu sicrhau bod y gweithle'n lle mwy teg, ond maen nhw'n medru mynd yn eich erbyn os nad ydych yn eu dilyn.

Os ydych yn aelod o undeb, ewch at eich undeb am gyngor a chefnogaeth. Os nad ydych yn aelod o undeb, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf. I weld pa fudiadau eraill sy'n medru helpu, gweler y pennawd Help a gwybodaeth bellach.

Mae yna gyfreithiau sy'n gosod y gweithdrefnau lleiaf y mae'n rhaid i gyflogwyr a gweithwyr cyflogedig eu dilyn.

Os nad ydych yn dilyn y gweithdrefnau hyn, mae'n bosib y bydd yn cael effaith ddifrifol ar eich hawliau os ydych am hawlio yn nes ymlaen. Er enghraifft, efallai na fyddwch yn medru dechrau ar gais i'r tribiwnlys cyflogaeth os nad ydych yn dilyn y gweithdrefnau. Neu, os ydych yn dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth ac maen nhw'n penderfynu mai chi oedd ar fai na ddilynwyd y gweithdrefnau yn iawn, fe fydd unrhyw iawndal a roddir i chi yn cael ei ostwng o leiaf 10 y cant ac, o bosib, hyd at 50 y cant.

Os nad yw'ch cyflogwr yn dilyn y gweithdrefnau, gellir cynyddu eich iawndal yn yr un ffordd. Ac os yw'ch cyflogwr yn eich diswyddo heb ddilyn y weithdrefn ddiswyddo a disgyblu statudol yn llawn, mae tribiwnlys cyflogaeth yn medru penderfynu bod eich diswyddiad yn annheg yn awtomatig os ydych wedi bod yn gyflogedig ers dros blwyddyn.

Mae'n bwysig sylweddoli na fydd tribiwnlys cyflogaeth fel arfer yn derbyn cais ar sail achwyniad os nad ydych wedi ysgrifennu at eich cyflogwr ynglŷn â'r achwyniad ac wedi aros am o leiaf 28 diwrnod cyn cyflwyno eich cais.

Mae'r gweithdrefnau hyn yn berthnasol i weithwyr cyflogedig yn unig, ac nid i 'weithwyr'. Os ydych yn is-gontractwr, yn weithiwr llawrydd neu'n weithiwr achlysurol, fwy na thebyg nad ydych chi'n weithiwr cyflogedig. Weithiau, nid yw'n amlwg fod person yn weithiwr cyflogedig - efallai eich bod chi'n weithiwr cyflogedig, hyd yn oed os yw'r person yr ydych yn gweithio iddo'n cyfeirio atoch fel arall. Os oes unrhyw amheuaeth gennych ynglŷn â'ch statws, dylech ofyn am gyngor.

Mae'r ddogfen hon yn esbonio prif bwyntiau'r gweithdrefnau. Os ydych chi angen mwy o help, neu os nad ydych yn siŵr a ydych chi'n weithiwr cyflogedig ai peidio, dylech ofyn am gyngor gan gynrychiolydd eich undeb, os ydych mewn undeb. Rydych hefyd yn medru cael cyngor gan ACAS neu'r TUC (gweler y pennawd Help a gwybodaeth bellach). Efallai hefyd y byddwch am siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r Brig



Sut i godi achwyniad

Mae gweithdrefnau achwyn yn eich galluogi chi i godi unrhyw bryderon sydd gennych gyda'ch rheolwyr, er enghraifft ynghylch eich swydd, eich amodau a thelerau neu'r ffordd y mae'ch cyflogwr neu'r bobl sy'n gweithio gyda chi yn eich trin chi.

Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i'ch cyflogwr fod â gweithdrefn achwyn ac mae'n rhaid iddo ddweud wrthych beth ydyw. O fewn deufis i ddechrau yn eich gwaith, mae'n rhaid i gyflogwr newydd roi manylion ysgrifenedig ynglŷn â'r swydd i chi, er enghraifft cyflog ac oriau, ac mae'n rhaid i'r datganiad hwn gynnwys nodyn ynghylch gweithdrefnau disgyblu ac achwyniad y cyflogwr. Rhaid iddo hefyd ddweud wrthych at bwy y dylech fynd os oes achwyniad gennych.

Os oes achwyniad gennych yn erbyn eich cyflogwr, fel arfer, dylech geisio datrys y mater yn anffurfiol i ddechrau. Codwch y mater gyda'r person a nodwyd yn y gweithdrefnau achwyn, fel arfer eich rheolwr llinell. Os nad yw hynny'n bosib, neu os yw'r broblem yn ymwneud â'r person yna, dylech fynd at y person uchaf nesaf ato/ati.

Dylech nodi unrhyw gyfathrebu gyda'r rheolwyr ynghylch problem yn ymwneud â gwaith, bob tro. Cadwch gopi o bob gohebiaeth a nodwch unrhyw gyfarfod, gan gynnwys y dyddiad, gyda phwy oedd y cyfarfod a'r prif bwyntiau a drafodwyd. Efallai y bydd hyn yn ddefnyddiol yn nes ymlaen.

Gweithdrefnau achwyn ffurfiol

Os oes rhaid i chi fynd â'r mater ymhellach, mae'n rhaid i chi ddilyn y weithdrefn achwyn leiaf statudol, sydd â thri cham. Efallai bod gan eich cyflogwr weithdrefn sy'n cynnwys mwy o gamau, ac os yw hyn yn wir dylech ddilyn y weithdrefn honno, ond sicrhewch fod y weithdrefn hon yn cynnwys y tri cham lleiaf a nodwyd isod.

Dyma'r tri cham lleiaf y mae'n rhaid eu dilyn:

  • cam un: y datganiad ysgrifenedig
  • cam dau: y cyfarfod
  • cam tri: y cyfarfod apêl.

Cam un: y datganiad ysgrifenedig

Rhaid i chi anfon datganiad ysgrifenedig neu lythyr at eich cyflogwr gyda manylion eich achwyniad, gan gynnwys dyddiadau ac amserau os oed angen. Ceisiwch sicrhau bod eich achwyniad mor glir a chryno â phosib a sicrhewch eich bod yn cadw copi ohono. Dylai'r llythyr gynnwys y dyddiad yr ydych yn ei anfon. Yn gyffredinol, ni fyddwch yn medru honni gerbron tribiwnlys cyflogaeth ar sail achwyniad os nad ydych wedi cyflwyno eich achwyniad i'r cyflogwr yn ysgrifenedig ac wedi aros o leiaf 28 diwrnod.

Weithiau, efallai y bydd eich cyflogwr yn cwestiynu'r ffaith eich bod wedi cyflwyno'ch achwyniad yn ysgrifenedig. Er enghraifft, efallai y byddwch yn dweud eich bod wedi cyflwyno eich achwyniad mewn llythyr ymddiswyddo, ond mae'ch cyflogwr yn anghytuno. Os ydych chi yn y sefyllfa hon, dylech gael cyngor arbenigol.

Os oes sawl achwyniad gennych, rhowch bob un o dan bennawd ar wahân, a'u gosod nhw allan fel bod eich cwyn ar bob un yn glir. Cofiwch, efallai na fydd y person sy'n penderfynu ar eich achwyniad yn gwybod y cyfan am eich cwyn, ac mae angen iddynt fod yn glir.

Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi nodi yn yr achwyniad ysgrifenedig sut yr hoffech weld y mater yn cael ei ddatrys. Byddwch yn bositif - awgrymwch opsiynau os ydych yn credu bod yna ffyrdd gwahanol o ddatrys y broblem y byddech yn hapus gyda nhw. Ewch at (New window) www.berr.gov.uk.

Os ydych yn cael trafferth ysgrifennu, fe fyddwch yn medru gofyn am help cynrychiolydd eich undeb, os ydych mewn undeb. Rydych hefyd yn medru siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Cam dau: y cyfarfod

Yna, mae'n rhaid i'ch cyflogwr drefnu cyfarfod cychwynnol i drafod eich achwyniad. Maen nhw'n medru clustnodi amser i ymchwilio i'ch cwyn, ond ni ddylent oedi am gyfnod afresymol o amser.

Mae gennych yr hawl i ddod â rhywun gyda chi i gyfarfod yr achwyniad. Rydych yn medru dewis rhywun sy'n gweithio gyda chi neu swyddog o'r undeb llafur i ddod gyda chi.

Mae'n ddyletswydd arnoch i fynd i'r cyfarfod, a rhaid bod y cyfarfod yn cael ei gynnal ar adeg sy'n rhesymol i chi ac i unrhyw un sy'n dod gyda chi, ac mewn lleoliad rhesymol. Os yw un ohonoch yn anabl, mae'n rhaid i'r cyflogwr gymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad ydych yn cael unrhyw drafferth wrth geisio cyrraedd y cyfarfod neu gymryd rhan lawn yn y cyfarfod.

Os nad ydych yn mynd i'r cyfarfod, efallai y bydd tribiwnlys yn gweld bai arnoch yn nes ymlaen am beidio â chwblhau'r gweithdrefnau, ac yn gostwng eich iawndal. Os nad ydych chi, neu'r person sy'n dod gyda chi, yn medru mynd i'r cyfarfod, am reswm nad oedd modd ei rhagweld, mae'n rhaid i'r cyflogwr drefnu cyfarfod arall, a rhaid i chi fynychu. Os oes rhaid canslo'r cyfarfod hwn, hefyd, am reswm nad oedd modd ei rhagweld, nid oes angen cynnal unrhyw gyfarfod arall ac ystyrir bod eich cyflogwr wedi dilyn y gweithdrefnau.

Paratowch yn ofalus ar gyfer y cyfarfod a thrafodwch y mater yn llawn gydag unrhyw un sy'n dod gyda chi. Os oes unrhyw un yn bresennol yn y cyfarfod nad ydych yn ei 'nabod, gofynnwch i'ch cyflogwr eu cyflwyno. Gosodwch eich achos yn amyneddgar ac yn glir ac esboniwch yr hyn yr ydych wedi ei wneud i geisio datrys y broblem yn anffurfiol.

Mae'n bosib i chi gynnig awgrymiadau pellach ynghylch sut i ddatrys y broblem. Ceisiwch gadw'r drafodaeth at bwynt eich achwyniad.

Ar ôl y cyfarfod, mae'n rhaid i'r cyflogwr ddweud wrthych beth mae wedi'i benderfynu. Mae gennych yr hawl i apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad. Mae'n rhaid i chi ddefnyddio eich hawl i apelio cyn i chi ddwyn honiad gerbron tribiwnlys cyflogaeth. Os nad ydych yn gwneud hyn, fe fydd unrhyw iawndal a gewch yn cael ei ostwng.

Cam tri: y cyfarfod apêl

Dylech ddweud wrth eich cyflogwr, yn ysgrifenedig, eich bod yn mynd i apelio. Mae yna lythyr enghreifftiol ar gael i chi ar wefan yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio (DBERR). Ewch at (New window) www.berr.gov.uk.

Mae'n rhaid i'ch cyflogwr drefnu cyfarfod pellach i drafod eich apêl. Eto, mae'n rhaid ei fod ar amser rhesymol ac mewn lleoliad rhesymol ac mae gennych yr hawl i fynd â rhywun gyda chi.

Mae'n ddyletswydd arnoch i fynd i'r cyfarfod. Os nad ydych yn mynd, efallai y bydd tribiwnlys yn gweld bai arnoch yn nes ymlaen am beidio â chwblhau'r gweithdrefnau ac yn gostwng eich iawndal.

Ble'n bosib, dylai rheolwr uwch ddelio gyda'r apêl.

Ar ôl y cyfarfod apêl hwn, mae'n rhaid i'r cyflogwr ddweud wrthych beth yw ei benderfyniad terfynol. Os nad ydych yn fodlon o hyd ac rydych yn teimlo y torrwyd eich hawliau cyflogaeth, efallai y byddwch yn medru cwyno i dribiwnlys cyflogaeth.

Fe fyddwch yn medru cael cyngor ynglŷn â chwyno gan gynrychiolydd eich undeb, os ydych mewn undeb. Mae'n bosib hefyd i chi siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Codi achwyniad wedi i chi ymddiswyddo

Yn gyffredinol, fe fydd angen i chi ddefnyddio gweithdrefn achwyn os oes achwyniad heb ei ddatrys wedi i chi ymddiswyddo. Ond, os ydych wedi cael eich diswyddo, dylech apelio o dan y weithdrefn ddiswyddo a disgyblu – gweler y pennawd Gweithdrefnau diswyddo a disgyblu. Mae'n bwysig cofio, os nad ydych yn dilyn y weithdrefn gywir, eich bod yn medru bod ar eich colled mewn tribiwnlys cyflogaeth.

Mewn rhai achosion, rydych yn medru defnyddio gweithdrefn fyrrach sydd â dau gam, ar ôl i chi ymddiswyddo. Mae hyn ond yn medru digwydd os nad ydych wedi cwblhau'r weithdrefn achwyn tri cham arferol cyn i chi adael, ac rydych chi a'ch cyn-gyflogwr yn cytuno'n ysgrifenedig i ddefnyddio'r weithdrefn ddau gam.

Yn yr amgylchiadau hyn:

  • rhaid i chi anfon datganiad ysgrifenedig o achwyniad at eich cyn-gyflogwr
  • rhaid iddyn nhw ysgrifennu yn ôl yn ateb y pwyntiau a godwyd gennych.

Yn yr achos hwn, fe fydd angen i chi aros 28 diwrnod o ddyddiad eich llythyr cyn i chi gyflwyno honiad gerbron y tribiwnlys cyflogaeth, hyd yn oed os yw'ch cyflogwr yn ateb yn gynharach.

Fe fydd angen i chi ddilyn naill ai'r weithdrefn achwyn leiaf statudol tri cham, neu'r weithdrefn ddau gam fyrrach, os ydych yn cyflwyno honiad o ddiswyddo deongliadol (ble rydych chi'n ymddiswyddo am fod eich cyflogwr wedi torri eich cytundeb mewn ffordd ddifrifol).

Nôl i’r Brig



Pryd nad oes angen i chi ddilyn y weithdrefn achwyn ffurfiol

Dyma restr o sefyllfaoedd ble nad oes angen i chi ddilyn y weithdrefn achwyn ffurfiol:

  • os ydych wedi cael eich diswyddo, onid ydych yn honni diswyddiad deongliadol (ble rydych chi wedi ymddiswyddo am fod eich cyflogwr wedi torri'r cytundeb mewn ffordd ddifrifol)
  • os yw'r un achwyniad yn effeithio ar fwy nag un person cyflogedig ac mae swyddog undeb llafur cydnabyddedig yn ei godi gyda'r cyflogwr. Mewn gweithleoedd ble na chydnabyddir undeb, mae cynrychiolydd undeb, neu gynrychiolydd gweithwyr cyflogedig a etholwyd neu a benodwyd gan weithwyr cyflogedig i ddelio gydag achwyniadau o'r fath, yn medru trafod achwyniad ar y cyd. Mae'n rhaid bod y cyflogwr wedi cytuno i ddefnyddio'r weithdrefn gyfunol hon
  • os oes sail resymol tros gredu y byddai bygythiad difrifol o drais neu ddifrod i eiddo, gan un o'r ochrau
  • os ydych wedi dioddef aflonyddu ac yn credu'n rhesymol y byddech yn dioddef aflonyddu pellach petaech yn dilyn y gweithdrefnau. Mae aflonyddu'n golygu y gwelwyd ymddygiad sy'n sarhaus, yn bychanu, yn dychryn neu'n niweidio eich urddas
  • os nad yw'n ymarferol dechrau neu gwblhau'r weithdrefn o fewn cyfnod rhesymol, er enghraifft, os yw un ochr yn mynd yn ddifrifol sâl
  • os ydych wedi gadael eich swydd ac nid yw'n rhesymol ymarferol i chi anfon achwyniad ysgrifenedig at eich cyn-gyflogwr, er enghraifft, am eu bod yn byw dramor, nid oes modd dod o hyd iddynt neu maen nhw wedi marw.

Ble'n bosib, fe'ch cynghorir i ddefnyddio'r gweithdrefnau achwyn. Ble nad ydych yn gwneud hyn, fe fydd i fyny i chi i brofi i dribiwnlys cyflogaeth bod un o'r amgylchiadau uchod yn berthnasol, os ydych am ddibynnu arnynt. Cadwch dystiolaeth, er enghraifft, llythyron doctor sy'n medru helpu esbonio eich sefyllfa.

Nôl i’r Brig



Gweithdrefnau diswyddo a disgyblu

Mae gweithdrefn ddiswyddo a disgyblu yn gyfres o reolau sy'n:

  • galluogi cyflogwyr i gyhoeddi rhybuddion neu osod sancsiynau (gan gynnwys darostwng i swydd yn is neu ddiswyddo), ar staff sydd, yn eu barn nhw, wedi torri rheolau ynghylch ymddygiad neu sydd ddim â digon o allu i wneud eu gwaith yn iawn
  • helpu sicrhau bod staff yn cael eu trin yn deg ac yn gyson.

Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i'ch cyflogwr gael gweithdrefn ddiswyddo a disgyblu a rhaid iddo ddweud wrthych beth yw'r weithdrefn honno. O fewn deufis i ddechrau gwaith, mae'n rhaid i gyflogwr newydd roi manylion ysgrifenedig i chi am y swydd, er enghraifft eich oriau gwaith a'ch cyflog, ac mae'n rhaid i'r datganiad hwn esbonio gweithdrefn ddiswyddo a disgyblu'r cyflogwr neu'ch cyfeirio chi at ddogfen sy'n esbonio'r weithdrefn honno.

Yn ôl y gyfraith, os yw'ch cyflogwr yn ystyried cymryd camau disgyblu neu'ch diswyddo, mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â'r weithdrefn gwyno leiaf statudol tri cham isod. Efallai y bydd gweithdrefn ddiswyddo a disgyblu eich cyflogwr yn cynnwys mwy o gamau na'r weithdrefn leiaf statudol. Os yw hyn yn wir, dylai eich cyflogwr ddilyn y weithdrefn lawnach hon, ond sicrhewch ei fod yn cynnwys y tri cham lleiaf - gweler isod.

Os yw'ch cyflogwr yn eich diswyddo heb ddilyn y weithdrefn ddiswyddo a disgyblu statudol yn llawn ac rydych wedi cael eich cyflogi ers dros flwyddyn, mae tribiwnlys cyflogaeth yn medru penderfynu bod eich diswyddiad yn annheg yn awtomatig.

Rhybuddion

Yn aml, mae cyflogwyr yn defnyddio system o rybuddion llafar ac ysgrifenedig mewn camau disgyblu, a fydd yn mynd yn fwy a mwy difrifol gan arwain at rybudd ysgrifenedig terfynol neu ddiswyddiad. Nid yw'r gyfraith yn mynnu bod cyflogwyr yn dilyn y weithdrefn dri cham os mai'r cyfan y maen nhw am ei wneud yw rhoi rhybudd i chi - hyd yn oed rhybudd ysgrifenedig terfynol. Ond, os yw'ch cyflogwr yn ystyried cymryd unrhyw gamau eraill, fel cwtogi eich cyflog neu eich darostwng i swydd yn is, mae'n rhaid iddynt ddilyn y gweithdrefnau.

Ataliadau

Mae cyflogwr yn medru atal gweithiwr cyflogedig ar gyflog llawn heb orfod mynd trwy'r gweithdrefnau. Ond, os yw'r cyflog yn gostwng, fe fydd yn rhaid dilyn y gweithdrefnau. Er nad yw'r gweithdrefnau disgyblu'n berthnasol o dan yr amgylchiadau hyn, rydych yn medru codi achwyniad ynghylch y rhybudd neu'r ataliad o dan y weithdrefn achwyn arferol.

Os nad ydych yn siŵr sut i fynd ati, mynnwch gyngor gan ACAS neu gynrychiolydd eich undeb, os ydych mewn undeb. Mae'n bosib hefyd i chi siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Y weithdrefn ddiswyddo a disgyblu statudol leiaf

Dyma'r weithdrefn ddiswyddo a disgyblu tri cham safonol:

  • cam un: y datganiad ysgrifenedig
  • cam dau: y cyfarfod
  • cam tri: y cyfarfod apêl.

Cam un: y datganiad ysgrifenedig

Os yw'ch cyflogwr yn ystyried cymryd camau disgyblu neu eich diswyddo, y cam cyntaf y dylent ei gymryd yw anfon datganiad ysgrifenedig atoch, yn nodi'n union y gwyn yn eich erbyn. Nid yw'r datganiad, o angenrheidrwydd, yn gorfod dweud eu bod yn ystyried eich diswyddo. Os ydych yn credu bod gwybodaeth ar goll, er enghraifft, dyddiad y camymddwyn, gofynnwch i'ch cyflogwr ei ddarparu mewn da bryd, cyn y gwrandawiad.

Fel arfer, byddai'n rhesymol i'ch cyflogwr roi tystiolaeth i chi o unrhyw ymchwiliad a gynhaliwyd, fel bod cyfle i chi ystyried yr wybodaeth yma.

Darllenwch y datganiad, ac unrhyw ddogfennau eraill, yn ofalus.

Os ydych yn cael trafferth deall y datganiad, trafodwch hyn gyda chynrychiolydd eich undeb, os ydych mewn undeb, neu gyfaill yn y gwaith. Mae'n bosib hefyd i chi siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Cam dau: y cyfarfod

Unwaith y byddan nhw wedi anfon y datganiad atoch, mae'n rhaid i'ch cyflogwr drefnu cyfarfod gyda chi i drafod y mater. Dylent roi digon o amser i chi feddwl am yr hyn y maen nhw wedi'i ddweud, ond ni ddylai olygu oedi afresymol cyn y cyfarfod. Ni ddylai'r cyflogwr gymryd unrhyw gamau disgyblu cyn y cyfarfod.

Mae gennych yr hawl i ddod â rhywun sy'n gweithio gyda chi, neu swyddog undeb llafur, gyda chi i'r cyfarfod. Mae'n ddyletswydd arnoch i fynd i'r cyfarfod, ac mae'n rhaid cynnal y cyfarfod ar adeg sy'n rhesymol i chi ac i unrhyw un sy'n dod gyda chi, ac mewn lleoliad rhesymol. Os yw un ohonoch yn anabl, mae'n rhaid i'r cyflogwr gymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad ydych yn cael unrhyw drafferth wrth geisio cyrraedd y cyfarfod neu gymryd rhan lawn yn y cyfarfod.

Os nad ydych yn mynd i'r cyfarfod, efallai y bydd tribiwnlys yn gweld bai arnoch yn nes ymlaen am beidio â chwblhau'r gweithdrefnau, ac yn gostwng eich iawndal.

Os nad ydych chi, neu'r person sy'n dod gyda chi, yn medru mynd i'r cyfarfod, am reswm nad oedd modd ei rhagweld, mae'n rhaid i'r cyflogwr drefnu cyfarfod arall, a rhaid i chi fynychu. Os oes rhaid canslo'r cyfarfod hwn hefyd am reswm nad oedd modd ei rhagweld, nid oes angen cynnal unrhyw gyfarfod arall ac ystyrir bod y cyflogwr wedi dilyn y gweithdrefnau.

Paratowch yn ofalus ar gyfer y cyfarfod, a thrafodwch y mater yn llawn gydag unrhyw un sy'n dod gyda chi. Os oes unrhyw un yn bresennol yn y cyfarfod nad ydych yn ei 'nabod, gofynnwch i'ch cyflogwr eu cyflwyno. Dylai'ch cyflogwr esbonio sut fydd y cyfarfod yn cael ei gynnal, pwy fydd yn siarad a phryd. Yna, dylent osod yr honiadau a wnaed yn eich erbyn a'r dystiolaeth sy'n eu cefnogi. Gwrandewch ar yr hyn sydd gan eich cyflogwr i'w ddweud a rhowch eich ochr chi o'r achos, yn amyneddgar ac yn glir, pan ofynnir i chi wneud hynny. Rhaid i'r cyflogwr roi cyfle i chi gyflwyno eich achos yn y cyfarfod.

Mae paratoi nodyn ysgrifenedig cyn y gwrandawiad yn medru helpu - mae eich cyfaill neu ganolfan Cyngor ar Bopeth yn medru eich helpu gyda hyn.

Gwnewch nodiadau am yr hyn sy'n cael ei ddweud a'i wneud - ni fydd eich cyflogwr yn eu cadw bob tro ac efallai y bydd eu hangen yn nes ymlaen.

Ar ôl y cyfarfod, fe fydd eich cyflogwr yn dweud wrthych am eu penderfyniad a'r camau y maen nhw'n mynd i'w cymryd.

Dylai'ch cyflogwr ddweud wrthych am eich hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad. Rhaid i chi ddefnyddio eich hawl i apelio cyn i chi gyflwyno honiad i dribiwnlys cyflogaeth. Os nad ydych yn gwneud hyn, fe fydd unrhyw iawndal a gewch yn gostwng.

Cam tri: y cyfarfod apêl

Os ydych yn penderfynu apelio, rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr. Fe'ch cynghorir i wneud hyn yn ysgrifenedig. Cadwch gopi o'r llythyr, oherwydd efallai y byddwch ei angen os yw'ch achos yn mynd at dribiwnlys cyflogaeth. Rhaid i'ch cyflogwr drefnu cyfarfod pellach i drafod eich apêl. Eto, rhaid ei fod ar adeg resymol ac mewn lle rhesymol, ac mae gennych yr hawl i fynd â rhywun gyda chi.

Os nad ydych yn mynd i'r cyfarfod, efallai y bydd y tribiwnlys cyflogaeth yn gweld bai arnoch yn nes ymlaen am beidio â chwblhau'r gweithdrefnau, ac yn gostwng eich iawndal.

Os nad ydych chi, neu'r person sy'n dod gyda chi, yn medru mynd i'r cyfarfod, am reswm nad oedd modd ei rhagweld, mae'n rhaid i'r cyflogwr drefnu cyfarfod arall, a rhaid i chi fynychu. Os oes rhaid canslo'r cyfarfod hwn hefyd am reswm nad oedd modd ei rhagweld, nid oes angen cynnal unrhyw gyfarfod arall ac ystyrir bod y cyflogwr wedi dilyn y gweithdrefnau. Paratowch yn ofalus ar gyfer y cyfarfod, a thrafodwch y mater yn llawn gyda'r person sy'n dod gyda chi. Cymerwch nodiadau yn y cyfarfod.

Ar ôl y cyfarfod, mae'n rhaid i'r cyflogwr benderfynu beth maen nhw'n mynd i'w wneud a dweud wrthych beth yw hynny. Dyma eu penderfyniad terfynol ac, os nad ydych yn hapus gyda'r penderfyniad yma ac rydych yn credu eu bod wedi torri eich hawliau, efallai y byddwch yn medru dwyn eich achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth - gweler y pennawd Cyflwyno cais gerbron tribiwnlys cyflogaeth.

Am fwy o wybodaeth ynghylch dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth, siaradwch â chynrychiolydd eich undeb, os ydych mewn undeb. Mae'n bosib hefyd i chi siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Achwyniadau sy'n codi yn ystod trefniadau disgyblu

Mae yna reolau arbennig os ydych chi eisiau codi achwyniad tra'ch bod yn ddarostyngedig i drefniadau disgyblu. Fel arfer, fe fydd unrhyw ddadl sydd gennych ynghylch y broses ddisgyblu yn cael ei thrafod gan y broses honno ac nid oes angen codi achwyniad.

Ond, efallai eich bod yn teimlo bod y camau disgyblu yn cael eu dilyn am resymau eraill neu eu bod yn gwahaniaethu. Yn yr achos hwn, dylech ysgrifennu llythyr o achwyniad at eich cyflogwr. Os ydych yn gwneud hyn ar unrhyw gam cyn gwrandawiad yr apêl disgyblu, mae'n bosib trafod y mater yn y gwrandawiadau disgyblu. Os ydych yn cyflwyno'r achwyniad ar ôl yr apêl, rhaid dilyn y weithdrefn achwyn lawn.

Os oes achwyniad yn codi tra'ch bod yn mynd trwy weithdrefn ddisgyblu neu ddiswyddo, dylech gael cyngor arbenigol.

Diswyddo ar unwaith

Mae diswyddo ar unwaith, ble nad yw'r cyflogwr wedi cynnal unrhyw ymchwiliad i'r amgylchiadau, yn annheg, bron bob tro. Yn yr achosion eithriadol, ble byddai gan gyflogwr yr hawl i ddiswyddo gweithiwr cyflogedig heb ymchwiliad, mae'n rhaid i'r cyflogwr ysgrifennu atoch yn esbonio'r rhesymau dros eich diswyddo ac yn dweud wrthych am eich hawl i apelio. Os ydych yn dewis apelio, mae'n rhaid i'r cyflogwr drefnu cyfarfod a bydd gennych yr hawl i fynd â rhywun gyda chi. Mae'n rhaid i chi fynychu'r cyfarfod apêl.

Nôl i’r Brig



Pryd nad oes angen i'r cyflogwr ddilyn y weithdrefn ddiswyddo a disgyblu leiaf

Mae yna amgylchiadau ble mae cyflogwr yn cael diswyddo rhywun, neu gymryd camau disgyblu, heb fynd trwy'r gweithdrefnau am na fyddai'n ymarferol gwneud hynny, sef:

  • diswyddiad cyfunol, ble mae'r cyflogwr yn cynnig diswyddo mwy nag 20 gweithiwr cyflogedig ac yn ymgynghori gyda swyddogion undeb llafur cydnabyddedig neu gynrychiolydd gweithwyr cyflogedig etholedig
  • pan fydd cyflogwr yn diswyddo grŵp o staff ac yn eu hail-hurio ar unwaith o dan amodau a thelerau gwahanol
  • pan fydd gweithwyr cyflogedig yn cael eu diswyddo am gymryd camau diwydiannol. Gyda chamau gweithredu cyfreithlon, sydd wedi eu trefnu'n swyddogol, mae yna drefniadau arbennig
  • ble byddai'n anghyfreithlon parhau gyda'r gyflogaeth
  • mae busnes y cyflogwr yn stopio yn sydyn ac mewn ffordd nad oedd modd ei rhagweld, er enghraifft, pan fydd ffatri yn llosgi i'r llawr.

Yn ychwanegol at hyn, mae yna rai amgylchiadau ble nad oes rhaid i'r cyflogwr na'r gweithiwr cyflogedig ddilyn y gweithdrefnau:

  • os oes yna sail resymol tros gredu y byddai bygythiad difrifol o drais neu ddifrod i eiddo, gan y naill ochr neu'r llall
  • os ydych wedi dioddef aflonyddu ac yn credu'n rhesymol y byddech yn dioddef aflonyddu pellach petaech yn dilyn y gweithdrefnau. Mae aflonyddu'n golygu y gwelwyd ymddygiad sy'n sarhaus, yn bychanu, yn dychryn neu'n niweidio eich urddas
  • os nad yw'n ymarferol dechrau neu gwblhau'r weithdrefn o fewn cyfnod rhesymol, er enghraifft, os yw un ochr yn mynd yn ddifrifol sâl. Cadwch dystiolaeth, er enghraifft, llythyron doctor, i helpu esbonio eich sefyllfa.

Nôl i’r Brig



Cyflwyno cais gerbron tribiwnlys cyflogaeth

Mae tribiwnlysoedd cyflogaeth yn datrys dadleuon rhwng cyflogwyr a gweithwyr cyflogedig tros hawliau cyflogaeth. Maen nhw'n gwrando ar geisiadau, a elwir weithiau yn honiadau neu'n gwynion, ynghylch materion fel diswyddo annheg.

Os ydych chi am gyflwyno cais i dribiwnlys cyflogaeth, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen o'r enw ET1. Mae ffurflenni ET1 ar gael

  • drwy ffonio Gwasanaeth y Tribiwnlys Cyflogaeth ar 0845 795 9775
  • oddi ar wefan Gwasanaeth y Tribiwnlys Cyflogaeth yn: (New window) www.employmenttribunals.gov.uk
  • trwy gysylltu â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol.

I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch linell ymholiadau cyhoeddus Office of Industrial Tribunals and Fair Employment Tribunals ar 028 9032766.

Cyfyngiadau amser

Yn y rhan fwyaf o achosion, rhaid i chi gyflwyno cais i dribiwnlys cyflogaeth o fewn tri mis i'r dyddiad y digwyddodd y mater yr ydych yn cwyno yn ei gylch. Os derbynnir eich cais ar ôl y terfyn amser, fel arfer ni fydd y tribiwnlys yn ei dderbyn. Mae'r rheoliadau'n caniatáu rhai estyniadau i'r cyfyngiadau amser arferol. Mewn mathau penodol o achosion, mae'r cyfyngiadau amser yn wahanol. Er enghraifft, os yw'ch cais yn ymwneud â chyflog cyfartal, y terfyn amser yw chwe mis.

Fel arfer, fe fydd colli eich terfyn amser yn golygu nad ydych yn medru parhau gyda'ch achos. Dylech ofyn am gyngor ar y terfyn amser sy'n berthnasol cyn gynted ag y byddwch yn tybio bod cwyn gennych.

Os ydych yn ceisio cael tâl diswyddiad, mae yna gyfyngiadau amser arbennig. Mae'r rhain yn gymhleth a dylech ofyn am gyngor gan y Llinell Gymorth Taliadau Diswyddo ar 0845 145 0004.

Os yw'ch cwyn yn ymwneud â'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, dylech ofyn am gyngor gan Llinell Gymorth yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar 0845 600 0678 (yng Ngogledd Iwerddon, 0845 6500207).

Honiadau gerbron y tribiwnlys cyflogaeth sy'n seiliedig ar weithdrefnau diswyddo a disgyblu

Yn gyffredinol, wedi i'r weithdrefn ddiswyddo neu ddisgyblu lawn ddod i ben (gan gynnwys yr apêl) ac os ydych yn dal i gredu bod eich hawliau cyflogaeth wedi cael eu torri, rydych yn medru cyflwyno cais i dribiwnlys cyflogaeth heb gymryd unrhyw gamau pellach.

Ond, mae yna rai sefyllfaoedd ble bydd angen i chi godi achwyniad cyn cyflwyno cais i dribiwnlys cyflogaeth:

  • pan fyddwch yn cwyno am ddiswyddo deongliadol (ble rydych wedi ymddiswyddo am i'ch cyflogwr dorri eich cytundeb mewn ffordd ddifrifol) neu
  • ble rydych wedi cael eich disgyblu ond nid eich diswyddo ac rydych yn credu bod y camau disgyblu yn gwahaniaethu neu rydych yn credu bod eich cyflogwr wedi cymryd y camau disgyblu am resymau gwahanol i'r rheiny a nodwyd ganddynt.

Honiadau gerbron y tribiwnlys cyflogaeth sy'n seiliedig ar achwyniadau

Os yw'ch cais yn seiliedig ar achwyniad (am rywbeth heblaw diswyddo) gyda'ch cyflogwr neu gyn-gyflogwr, ni fydd yn cael ei dderbyn os nad ydych naill ai:

  • wedi cyflwyno eich achwyniad yn ysgrifenedig, ac yna wedi aros o leiaf 28 diwrnod cyn cyflwyno cais gerbron tribiwnlys cyflogaeth. Os oes unrhyw anghytundeb ynghylch p'un eich bod wedi codi achwyniad yn ysgrifenedig ai peidio, er enghraifft os ydych yn dweud eich bod wedi cyflwyno eich achwyniad mewn llythyr o ymddiswyddiad ond mae'ch cyflogwr yn anghytuno, dylech gael cyngor arbenigol; neu
  • wedi rhoi rheswm dilys ar y ffurflen gais pan fyddwch yn credu nad yw'r gofyniad cyfreithiol hwn yn berthnasol yn eich achos chi.

Ceir rhestr o resymau dilys isod. Mae rhai ohonynt yn cynnwys materion cyfreithiol cymhleth. Os nad ydych yn siŵr a yw'r rhesymau'n berthnasol yn eich achos chi, dylech gael cyngor gan gynrychiolydd gweithwyr cyflogedig neu CAB.

Mae'r rhesymau dilys tros beidio â chodi achwyniad ysgrifenedig gyda'ch cyflogwr yn cynnwys:

  • nid ydych yn weithiwr cyflogedig
  • mae eich cais yn dod o dan gyfraith nad ydyw wedi ei chynnwys gan y gweithdrefnau hyn, er enghraifft, nid yw eich hawl i ofyn am weithio hyblyg wedi cael ei dderbyn
  • nid oedd yn ymarferol i chi gyflwyno'r achwyniad yn ysgrifenedig i'ch cyflogwr na chymryd camau pellach o fewn amser rhesymol, er enghraifft, os ydynt wedi mynd dramor
  • nid ydych yn weithiwr cyflogedig mwyach ac nid yw'n rhesymol ymarferol i chi ysgrifennu'r llythyr o achwyniad, er enghraifft, am fod eich cyn-gyflogwr yn byw dramor, nid oes modd dod o hyd iddo neu mae wedi marw
  • mae gennych reswm rhesymol tros gredu y byddai cyflwyno eich achwyniad yn ysgrifenedig i'ch cyflogwr yn golygu bygythiad sylweddol i chi neu eich eiddo, neu i rywun arall neu eu heiddo
  • os ydych wedi dioddef aflonyddu ac yn credu'n rhesymol y byddech yn dioddef aflonyddu pellach petaech yn dilyn y gweithdrefnau.
  • cyflwynwyd yr achwyniad i'ch cyflogwr yn ysgrifenedig gan gynrychiolydd priodol, fel swyddog undeb llafur cydnabyddedig, ar eich rhan chi ac o leiaf un gweithiwr cyflogedig arall
  • rydych chi wedi codi'r achwyniad o dan weithdrefn achwyn lefel diwydiant a gytunwyd rhwng o leiaf dau gyflogwr neu gymdeithas cyflogwyr ac un undeb llafur annibynnol neu fwy
  • rydych wedi codi'r mater sy'n destun i'r achwyniad fel “datgeliad wedi'i amddiffyn” o dan y darpariaethau datgelu er lles y cyhoedd (‘chwythu’r chwiban’) yn Neddf Hawliau Cyflogaeth 1996.

Ymestyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno cais i'r tribiwnlys cyflogaeth

Mewn rhai amgylchiadau, mae'r terfyn amser ar gyfer cyflwyno cais i dribiwnlys cyflogaeth yn medru cael ei ymestyn dri mis i'ch galluogi chi a'ch cyflogwr i gael cyfle i ddatrys y ddadl heb gynnwys y tribiwnlys.

Dyma'r amgylchiadau hynny:

  • rydych wedi cyflwyno eich achwyniad yn ysgrifenedig i'ch cyflogwr ac wedi gwneud hynny o fewn y terfyn amser arferol; neu
  • rydych wedi cyflwyno cais i'r tribiwnlys o fewn y terfyn amser ond cawsoch eich gwrthod am fod angen i chi gyflwyno eich achwyniad yn ysgrifenedig i'ch cyflogwr ac ni wnaethoch hynny, neu nid oeddech wedi aros am 28 diwrnod cyn cyflwyno eich cais. Yn y sefyllfa yma, mae'n rhaid eich bod wedi cyflwyno eich achwyniad yn ysgrifenedig i'ch cyflogwr heb fod yn hwyrach nag un mis ar ôl i'r terfyn amser arferol ddod i ben. Os nad ydych yn gwneud hyn, ni fydd eich cais yn cael ei dderbyn o dan unrhyw amgylchiadau; neu
  • mae eich cais yn ymwneud â chamau disgyblu neu ddiswyddo y mae eich cyflogwr yn dweud eu bod ar sail eich ymddygiad neu'ch gallu ac, ar yr adeg y daeth y terfyn amser arferol i ben, roedd gennych reswm tros gredu bod y weithdrefn ddiswyddo neu ddisgyblu ar waith o hyd.

Nid oes modd ymestyn y terfyn amser ble mae'r holl weithdrefnau disgyblu wedi eu cwblhau o fewn y terfyn amser arferol. Dylech gadw llygad gofalus ar yr amser sydd wedi mynd heibio o'r dyddiad y cymerwyd y camau yr ydych yn cwyno yn eu cylch. Os oes amheuaeth, mynnwch gyngor ar unwaith, er enghraifft, gan ganolfan CAB leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Costau mewn honiadau gerbron y tribiwnlys cyflogaeth

Os ydych yn cyflwyno honiad gerbron tribiwnlys cyflogaeth, efallai y bydd eich cyflogwyr yn ceisio newid eich meddwl trwy ddweud y bydd yn gofyn i'r llys orchymyn eich bod yn talu ei gostau cyfreithiol. Mae tribiwnlys cyflogaeth yn cael dyfarnu costau yn yr achosion canlynol yn unig:

  • nid oes tebygrwydd y bydd honiad yn llwyddo (nid fod yr honiad wedi methu yn unig); neu
  • roedd eich ymddygiad yn ystod yr achos yn afresymol.

Yn ymarferol, prin y bydd tribiwnlysoedd cyflogaeth yn gorchymyn i weithwyr cyflogedig dalu costau. Hyd yn oed os ydynt yn gorchymyn ynghylch costau, rhaid iddynt ystyried eich gallu i dalu.

Nôl i’r Brig



Help a gwybodaeth bellach

Efallai y bydd y sefydliadau canlynol yn medru rhoi help a gwybodaeth bellach i chi

Yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio (DBERR): (New window) www.berr.gov.uk

Cyngres yr Undebau Llafur: Rhif ffôn llinell gymorth Gwybod eich hawliau yw 0870 600 4 882. Mae'r llinellau ar agor bob dydd o 8yb i 10yh. Cyfeiriad eu gwefan yw (New window) www.worksmart.org.uk

Llinell Gymorth Gwasanaeth y Tribiwnlys Cyflogaeth: 0845 795 9775

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: (New window) www.equalityhumanrights.com

Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS): 08457 47 47 47. Cyfeiriad eu gwefan yw (New window) www.acas.org.uk.

Labour Relations Agency (Gogledd Iwerddon yn unig): 028 90321442
Gwefan: (New window) www.lra.org.uk

Llinell Gymorth yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol: 0845 600 0678.

Llinell Gymorth yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (Gogledd Iwerddon) 0845 6500 207

Llinell Gymorth Taliadau Diswyddo: 0845 145 0004.

Nôl i’r Brig



Testun Blaenorol Testun Nesaf
 
   
 

Disclaimer, Copyright and Privacy Policy. Copyright © 2002-2009 (New window) Citizens Advice. All rights reserved.
Cyngor Ar Bopeth Cymru is an operating name of the National Association of Citizens Advice Bureaux, Charity registration number 279057, VAT number 726 0202 76, Company limited by guarantee, Registered number 1436945 England, Registered office: Myddelton House, 115-123 Pentonville Road, London N1 9LZ