Jump to the Adviceguide home page
Adviceguide, advice that makes a difference
skip navigation
Jump to the Adviceguide home page
 England   Northern Ireland   Scotland   Wales   Cymru 
Eich arian
Eich teulu
Eich byd chi
Eich hawliau chi

:

 

(New window) Dod o hyd i'ch CAB agosaf

(New window) Ydyn ni wedi bod o gymorth? Plîs, cefnogwch ni

(New window) Gwirfoddolwch

 

Y tro diwethaf y diweddarwyd y safle oedd Ionawr 6 af 2009.

Fe fydd pob dolen gyswllt at wefannau eraill yn agor mewn ffenestr newydd.

Cymru    Cyflogaeth    Gwahaniaethu ar sail oed yn y gwaith  

Cyflogaeth - Yng Nghymru

 

 


Gwahaniaethu ar sail oed yn y gwaith

Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon



Gwahaniaethu ar sail oed

Mae yn erbyn y gyfraith i’ch trin yn annheg (gwahaniaethu yn eich erbyn) yn y gwaith oherwydd eich oed. Mae yn erbyn y gyfraith i wahaniaethu yn eich erbyn am fod yn rhy ifanc neu’n rhy hen.

Mae'r gyfraith newydd ynghylch gwahaniaethu ar sail oed ond yn cwmpasu cyflogaeth, addysg oedolion a hyfforddiant. Nid oes unrhyw gyfraith i gwmpasu gwahaniaethu ar sail oed mewn meysydd eraill. Mae hyn yn golygu bod cwmnïau fel cwmnïau yswiriant a chwmnïau sy’n cynnig gwasanaethau ariannol yn dal i fedru gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich oed.

Nôl i’r Brig



I bwy mae'r gyfraith newydd yn berthnasol

Mae'r gyfraith newydd yn berthnasol i chi os ydych yn gweithio neu os ydych yn ceisio am swydd newydd. Mae'n berthnasol i chi os ydych yn weithiwr asiantaeth. Mae hefyd yn berthnasol i chi os ydych chi angen cael geirda gan gwmni yr oeddech yn arfer gweithio iddynt. Nid yw eich cyflogwr yn medru gwrthod rhoi geirda i chi pan fyddwch chi’n gadael swydd ar sail eich oed yn unig.

Mae'r gyfraith yn berthnasol i chi, waeth sawl person sy’n gweithio yn eich cwmni neu ba mor hir yr ydych wedi bod yn gweithio iddynt.

Ni fydd y gyfraith newydd yn berthnasol i chi os ydych yn y lluoedd arfog neu os ydych yn wirfoddolwr sydd ddim yn cael eich talu.

Nôl i’r Brig



Beth mae'r gyfraith newydd yn ei olygu

Mae'r gyfraith newydd yn golygu:

Nôl i’r Brig



Triniaeth annheg yn y gwaith

Nid yw eich cyflogwr yn cael eich trin yn annheg oherwydd eich oed. Nid yw'n medru cael rheolau neu arferion sydd, er nad ydynt wedi eu hanelu atoch chi’n bersonol, yn dal i olygu eich bod o dan anfantais oherwydd eich oed. Er enghraifft, nid yw'n medru dweud bod angen i chi gael 12 mlynedd o brofiad ar ôl ennill eich cymhwyster cyn ceisio am swydd. Mae hyn yn golygu bod pobl iau o dan anfantais ac fe fydd yn erbyn y gyfraith.

Hefyd, nid yw cyflogwyr yn cael eich bwlio neu bigo arnoch oherwydd eich oed. Er enghraifft, ni ddylent ganiatáu i bobl ddweud jôcs sarhaus am eich oed yn y gweithle.

Mae yna rai eithriadau i’r rheolau cyffredinol. Mae’r rhain yn cynnwys y ffaith fod hawl gan gyflogwr i wahaniaethu yn erbyn rhywun weithiau oherwydd eu hoed os allant ddangos bod hyn wedi ei gyfiawnhau. Er enghraifft, fe allai cyflogwr ddadlau nad ydyw’n gwneud synnwyr busnes recriwtio pobl dros 60 pan mae yna gyfnod hyfforddi hir a drud ar gyfer y swydd. Ni fyddai’r person yn y swydd am gyfnod rhesymol cyn ymddeol. Os nad ydych yn derbyn y cyfiawnhad, rydych yn medru mynd â’ch cwyn at dribiwnlys cyflogaeth ac fe fyddan nhw’n edrych ar bob achos yn unigol. Ni fydd llawer o gyflogwyr yn medru cyfiawnhau gwahaniaethu.

Nôl i’r Brig



Ymddeoliad a gwahaniaethu ar sail oed

(Example box starts)

Byddaf yn 60 fis Rhagfyr nesaf. Mae fy nghytundeb yn dweud bod yn rhaid i mi ymddeol yn 60 ond dydw i ddim am ymddeol bryd hynny. A yw'r gyfraith newydd yn berthnasol i mi?

Nid yw'r rhan fwyaf o gwmnïau yn medru gwneud i chi ymddeol hyd nes i chi gyrraedd 65. Os ydynt yn eich gorfodi i ymddeol, mae hyn yn wahaniaethu ar sail oed ac yn erbyn y gyfraith. Os ydych yn aelod o undeb llafur, siaradwch â’ch undeb llafur ynghylch sut i drafod gyda’ch cwmni.

(Example box ends)

Yr oed ymddeol arferol ar gyfer dynion a menywod yw 65, onid yw eich cytundeb cyflogaeth yn dweud ei fod yn uwch. Hyd yn oed os yw eich cytundeb presennol yn dweud bod yn rhaid i chi ymddeol yn 60, nid yw eich cyflogwr yn debygol o fod yn medru eich gorfodi i ymddeol cyn 65 onid oes ganddynt reswm da iawn dros gael oed ymddeol ifancach.

Mae eich cyflogwr yn medru eich gorfodi chi i ymddeol ar yr oed ymddeol arferol, sef 65 neu’n hŷn, gan ddibynnu ar yr hyn sydd yn eich cytundeb. Ond, mae’r rheol hon yn cael ei herio mewn achos yn y Llys Cyfiawnder Ewropeaidd, ac nid yw'r penderfyniad yn wybyddus eto. Nid oes disgwyl penderfyniad ynghylch yr achos hyd nes 2009. Os yw’ch cyflogwr yn eich gorfodi chi i ymddeol ar yr oed ymddeol arferol ar gyfer eich cwmni, efallai y byddwch yn medru cyflwyno cais gerbron tribiwnlys cyflogaeth. Rydych yn medru gofyn am ohirio eich cais hyd nes ceir penderfyniad yn yr achos sydd gerbron y Llys Cyfiawnder Ewropeaidd.

Os yw’ch cyflogwr yn eich gorfodi chi i ymddeol ar yr oed ymddeol arferol ac rydych am gyflwyno cais gerbron tribiwnlys cyflogaeth, dylech gael help cynghorydd arbenigol ar gyflogaeth. Dylai eich CAB lleol fod yn medru helpu. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Mae yna reolau ynghylch sut mae eich cyflogwr yn medru eich gorfodi chi i ymddeol. Mae'r rhain yn cynnwys rhoi rhybudd ysgrifenedig i chi ynghylch y dyddiad y byddwch yn ymddeol.

Os nad yw'ch cyflowr yn dilyn y rheolau hyn, fe fyddwch yn medru hawlio gerbron tribiwnlys cyflogaeth ac mae'n bosib y cewch hyd at wyth wythnos o gyflog – gweler y pennawd Beth fedrwch chi ei wneud ynghylch gwahaniaethu ar sail oed.

Os ydych yn gofyn i'ch cyflogwr weithio tu hwnt i'r oed ymddeol arferol, mae'n rhaid iddo ystyried eich cais ond nid oes yn rhaid iddo gytuno.

Os ydych chi eisiau ymddeol cyn 65, cewch wneud hynny os yw'ch cyflogwr yn cytuno.

Nid yw'r gyfraith yn effeithio ar yr oed y gallwch gael pensiwn ymddeol y wladwriaeth. Mae hwn yn 60 i fenywod a 65 i ddynion ar hyn o bryd.

Nôl i’r Brig



Ceisiadau am swydd a gwahaniaethu ar sail oed

(Example box starts)

Rydw i newydd geisio am swydd ac mae'r ffurflen yn gofyn am fy nyddiad geni. A oes rhaid i mi ei roi? Rwy'n 62 ac yn ofni na fydd y cwmni yn edrych ar fy nghais os ydynt yn sylweddoli faint yw fy oed.

Nid oes unrhyw beth i atal cwmni rhag gofyn am eich dyddiad geni ar ffurflen gais. Ond os nad ydych yn cael y swydd ac rydych yn credu mai’r rheswm yw eich oed, fe allwch ddefnyddio’r ffaith eu bod wedi gofyn am eich dyddiad geni fel tystiolaeth posib o wahaniaethu ar sail oed a fydd yn erbyn y gyfraith.

(Example box ends)

Mae yn erbyn y gyfraith yn gyffredinol i gyflogwyr wrthod eich cyflogi neu eich dyrchafu oherwydd eich oed.

Mae hyn yn golygu, yn y mwyafrif o achosion, na ddylai cyflogwyr hysbysebu swyddi sydd wedi eu hanelu at grwpiau oed penodol.

Fodd bynnag, mae yn rai eithriadau i’r rheol hon. Mae'r rhain yn berthnasol ble mae cyflogwr yn medru cyfiawnhau ei bod yn angenrheidiol gwrthod cyflogi pobl dros oed penodol neu o dan oed penodol.

Mae cyflogwr yn medru gwrthod eich cyflogi:

  • Pan fyddwch yn cyrraedd 65 oed (neu beth bynnag yw’r oed ymddeol arferol yn eich cwmni os yw’n fwy na 65); neu
  • Pan fyddwch yn cyrraedd 65 oed (neu beth bynnag yw’r oed ymddeol arferol yn eich cwmni os ydyw’n fwy na 65) o fewn chwe mis i’r adeg y ceisioch am y swydd.

Hefyd, mae yna rai cyfreithiau yn ymwneud â’r oed sy’n rhaid i chi fod i wneud gwaith penodol. Er enghraifft, mae’n rhaid bod staff bar sy’n gweini alcohol yn 18, o leiaf. Yn amlwg, nid ydyw yn erbyn y gyfraith i hysbysebu am staff bar dros 18 oed.

Mae cyflogwr yn dal i fedru gofyn am wybodaeth am eich oed mewn cais am swydd. Ond, os ydych yn credu bod cyflogwr wedi defnyddio'r wybodaeth hon i wahaniaethu yn eich erbyn, rydych yn medru cwyno at dribiwnlys cyflogaeth - gweler y pennawd Beth fedrwch chi ei wneud am wahaniaethu ar sail oed.

Nôl i’r Brig



Diswyddiad annheg

(Example box starts)

Dim ond 42 ydw i ond mae'r bos yn dweud ei fod yn gorfod cael fy ngwared oherwydd fy oed – mae'n dweud nad ydyw fy nelwedd i'n iawn i'w gwmni. Ydyw e'n gallu gwneud hyn?

Na, ni all eich diswyddo, onid oes rheswm da ganddo dros eich diswyddo. Yn syml, nid yw bod yn 42 yn rheswm da. Os cewch eich diswyddo, efallai bod gennych le i hawlio Diswyddiad annheg. Mynnwch gyngor cyn cynted â phosib.

(Example box ends)

Os cewch eich diswyddo'n annheg, rydych yn medru hawlio diswyddiad annheg gerbron tribiwnlys cyflogaeth, waeth beth yw eich oed. Mae'n annheg eich diswyddo oherwydd eich oed.

Ond, tra bod eich cyflogwyr wedi dilyn gweithdrefnau penodol, mae'n medru eich gorfodi i ymddeol yn 65. Ni fyddai hyn yn ddiswyddiad annheg. Ond, os ydych wedi gofyn am gael gweithio ar ôl cyrraedd 65, mae’n rhaid i’ch cyflogwr ystyried eich cais. Os nad ydyw’n gwneud hyn, fe fydd eich diswyddiad yn cyfrif fel un annheg ac efallai y cewch iawndal. Ni fyddai'n cyfrif fel diswyddiad annheg os yw eich cyflogwr wedi ystyried eich cais ond wedi ei wrthod.

Am fwy o wybodaeth ynghylch y gweithdrefnau y mae'n rhaid i'ch cyflogwr eu dilyn pan fyddwch yn ymddeol o'r gwaith, gweler y pennawd Ymddeol a gwahaniaethu ar sail oed.

Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich diswyddo'n annheg, dylech gael cyngor mor fuan â phosib, oherwydd mae yna derfynau amser ar gyfer hawlio. Dylai eich canolfan Cyngor ar Bopeth lleol fod yn medru helpu. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r Brig



Tâl am golli swydd a gwahaniaethu ar sail oed

Os cewch eich diswyddo o’ch gwaith, rydych yn medru cael tâl am golli eich gwaith waeth faint yw eich oed. Mae'n rhaid eich bod wedi gweithio i'ch cyflogwr ers o leiaf dwy flynedd.

Wrth ddiswyddo staff, ni chaiff cylflogwyr wahaniaethu yn erbyn gweithwyr hŷn neu ifancach. Ond maen nhw'n cael dewis pobl i'w diswyddo ar sail y cyfnod y maent wedi gweithio iddynt.

Nôl i’r Brig



Beth fedrwch chi ei wneud am wahaniaethu ar sail oed

Os ydych yn cael eich trin yn annheg neu eich bwlio yn y gwaith oherwydd eich oed, gwnewch rywbeth cyn gynted â phosib.

Siarad â rhywun

Ceisiwch ddweud wrth y person sy'n aflonyddu arnoch neu'n eich trin yn annheg i stopio, ond dim ond os ydych yn teimlo y byddai'n ddiogel gwneud hynny. Efallai y byddai'n ddefnyddiol cael cydweithiwr neu gynrychiolydd undeb llafur gyda chi pan fyddwch yn gwneud hyn.

Dylech ddweud wrth eich rheolwr beth sy'n digwydd ac hefyd siarad â'ch adran personél neu undeb llafur, os oes un gennych. Cofnodwch y cyfan yn ysgrifenedig a chadwch gopi. Mae gofyn i'ch cyflogwr, yn ôl y gyfraith, i geisio atal bwlio a gwahaniaethu yn y gweithle. Os mai'r person dan sylw yw eich rheolwr, dylech ddweud wrth rywun uwch yn y sefydliad.

Casglu tystiolaeth

Efallai y byddai'n ddefnyddiol casglu tystiolaeth ynghylch y gwahaniaethu yr ydych yn ei ddioddef. Me hyn yn medru cynnwys cadw dyddiadur neu gofnodi'r amser, y dyddiad a'r lleoliad ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau, Yr hyn a gafodd ei ddweud neu ei wneud, a oedd unrhyw dystion, a thystiolaeth o unrhyw ddigwyddiadau tebyg yn erbyn cydweithwyr. Efallai y byddwch am gofnodi enwau a swyddi'r rheiny sydd, yn eich barn chi, yn cael eu trin yn fwy ffafriol na chi, neu ynghylch y rheol neu bolisi sy'n eich gosod o dan anfantais, ac esbonio pam.

Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i'ch cyflogwr ddarparu gwybodaeth trwy weithdrefn holiadur. Mae hyn yn medru helpu cael gwybodaeth i gefnogi eich achos. Mynnwch gyngor yn gynnar oherwydd mae yna derfynau amser llym ar gyfer y weithdrefn hon.

Rydych yn medru cael cyngor ar wahaniaethu ar sail oed gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth lleol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Codi achwyniad

Os nad yw siarad â rhywun wedi stopio'r aflonyddu neu driniaeth annheg, rydych yn medru codi achwyniad ysgrifenedig gyda'ch cyflogwr. Mae disgwyl i bob gweithle, yn ôl y gyfraith, gael gweithdrefn achwyniad mewn lle.

Am wybodaeth bellach ynghylch codi achwyniad ysgrifenedig gyda'ch cyflogwr, gweler Delio gydag achwyniad, diswyddiad a chamau disgyblu yn y gwaith.

Hawlio gerbron tribiwnlys cyflogaeth

Os nad ydych wedi medru datrys eich problem trwy godi achwyniad, efallai y bydd yn rhaid i chi gwyno gerbron tribiwnlys cyflogaeth. Rhaid eich bod wedi codi achwyniad ysgrifenedig gyda'ch cyflogwr cyn gwneud hyn. Mae gennych dri mis o'r dyddiad y dioddefwyd y gwahaniaethu cyntaf er mwyn cyflwyno cais.

Mae tribiwnlys cyflogaeth yn medru:

  • penderfynu ar eich hawliau
  • rhoi iawndal. Nid oes unrhyw derfyn uchaf ar gyfer yr iawndal y medrwch ei gael oherwydd gwahaniaethu ar sail oed.
  • Awgrymu i'r cyflogwr unioni'r broblem.

Os ydych yn ystyried hawlio gerbron tribiwnlys cyflogaeth, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft gan ganolfan Cyngor ar Bopeth leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r Brig



Cynlluniau pensiwn gwaith a gwahaniaethu ar sail oed

Mae cyflogwyr yn cael cynnwys rheolau am oedran yn eu cynlluniau pensiwn gwaith. Nid yw hyn yn cyfrif fel gwahaniaethu ar sail oed.

Ni fydd newid yn y mathau hyn o reolau o fis Hydref. Fe fydd cyflogwyr yn dal i gael cynnwys rheolau ynglyn ag oed yn eu cynlluniau pensiwn gwaith.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cynlluniau pensiwn gwaith, gweler Pensiynau.

Nôl i’r Brig



Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a gwahaniaethu ar sail oed

Mae yna gyfraddau cyflog gwahanol ar gyfer yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, gan ddibynnu ar eich oed. Rydych yn cael llai o arian os ydych yn iau na 22 ac nid yw hyn yn erbyn y gyfraith.

Am fwy o wybodaeth ynghylch yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, gweler Hawliau i gyflog.

Nôl i’r Brig



Mathau eraill o wahaniaethu

Yn ogystal â gwahaniaethu ar sail oed, mae'n bosib i chi gael eich trin yn annheg am resymau eraill, er enghraifft, am eich bod yn fenyw, yn hoyw neu'n anabl.

Er enghraifft, rydych yn fenyw 60 oed ac yn cael eich diswyddo am eu bod yn dweud eich bod wedi cyrraedd oed ymddeol. Mae dynion yn y cwmni'n ymddeol yn 65. Efallai y medrwch gyflwyno honiad o wahaniaethu ar sail rhyw yn ogystal â gwahaniaethu ar sail oed. Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich trin y annheg yn y gwaith oherwydd eich oed ac oherwydd eich bod yn fenyw, gwnewch yn siŵr eich bod yn codi'r ddau fater os ydych yn cwyno.

Am wybodaeth bellach ynghylch gwahaniaethu ar sail rhyw, gweler Cymryd camau ynghylch gwahaniaethu ar sail rhyw.

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, am wybodaeth bellach ynghylch gwahaniaethu yn y gwaith am eich bod yn lesbiaidd, yn hoyw neu'n ddeurywiol, gweler Beth fedrai wneud os yw fy nghyflogwr yn fy nhrin yn annheg oherwydd fy rhywioldeb? yn y Taflenni ffeithiau ar wahaniaethu.

Am wybodaeth bellach ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd, gweler Gwahaniaethu ar sail anabledd.

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, am wybodaeth bellach ynghylch gwahaniaethu oherwydd eich crefydd neu gred, gweler Gwahaniaethu oherwydd crefydd neu gred, a Beth fedrai wneud os yw fy nghyflogwr yn fy nhrin yn annheg oherwydd fy nghrefydd neu gred yn y taflenni ffeithiau ar Wahaniaethu.

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, am wybodaeth bellach ynghylch gwahaniaethu yn y gwaith oherwydd eich hil, gweler Beth fedrai wneud os yw fy nghyflogwr yn fy nhrin yn annheg oherwydd fy hil? Yn y Taflenni ffeithiau ar wahaniaethu.

Nôl i’r Brig



Gwybodaeth bellach

Mae mwy o wybodaeth am wahaniaethu ar sail oed yng Nghymru a Lloegr ar gael oddi ar wefan Age Positive yn (New window) www.agepositive.gov.uk a gan Age Concern yn (New window) www.ace.org.uk. Yn yr Alban, ewch i wefan Age Concern yr Alban, (New window) www.ageconcernscotland.org.uk.

Mae'r Rhwydwaith Oed a Chyflogaeth (Age and Employment Network) yn gweithio gyda phobl hŷn i hybu cyfleoedd gwaith iddyn nhw. Mae hefyd yn rhedeg gwefan Agebusters sy'n rhoi gwybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail oed: (New window) www.agebusters.org.uk.

Mae Is that discrimination? yn wefan a gynhyrchwyd gan Advicenow. Mae'n cynnwys gwybodaeth ar sut i daclo gwahaniaethu yn y gweithle. Mae hefyd yn cynnwys tudalen broblemau ac astudiaethau achos ynghylch gwahaniaethu. Rhowch glic ar (New window) www.isthatdiscrimination.org.uk.

Nôl i’r Brig



Testun Blaenorol Testun Nesaf
 
   
 

Disclaimer, Copyright and Privacy Policy. Copyright © 2002-2009 (New window) Citizens Advice. All rights reserved.
Cyngor Ar Bopeth Cymru is an operating name of the National Association of Citizens Advice Bureaux, Charity registration number 279057, VAT number 726 0202 76, Company limited by guarantee, Registered number 1436945 England, Registered office: Myddelton House, 115-123 Pentonville Road, London N1 9LZ