Chwilio am canolfan leol

Chwilio am canolfan leol

Diweddarwyd y safle:

Mawrth 21 af 2010

Rheoli arian - Yng Nghymru

Mae eich benthyciwr morgeisi’n mynd â chi i’r llys – sut i baratoi ar gyfer y gwrandawiad yn y llys

Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban



Ynglŷn â’r dudalen hon

Os oes ôl-ddyledion gennych gyda’ch morgais, efallai y bydd eich benthyciwr morgeisi yn dechrau achos llys. Gelwir hyn yn gamau meddiannaeth.

Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych sut i baratoi ar gyfer gwrandawiad llys gyda’ch benthyciwr morgeisi.

Mae’n dweud wrthych:

  • yr hyn ddylech chi ei wneud cyn y gwrandawiad
  • yr wybodaeth y gallai fod angen i chi ei chael gyda chi
  • pwy sy’n medru mynd i’r gwrandawiad gyda chi
  • beth ddylech chi ei wneud wedi cyrraedd y llys
  • beth sy’n digwydd pan fydd yr achos yn cael ei alw
  • sut brofiad fydd y gwrandawiad.

Yr hyn nad yw’r dudalen hon yn dweud wrthych yw’r math o benderfyniadau y mae’r llys yn medru eu gwneud, a pha effaith y mae’r rhain yn medru ei gael ar yr arian sy’n ddyledus ar eich morgais ac ar eich cartref. I gael gwybodaeth am y pethau hyn, gweler Beth sy’n digwydd pan fydd eich benthyciwr morgeisi’n mynd â chi i’r llys ac Eich troi chi allan o’ch cartref oherwydd ôl-ddyledion morgais.

Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i ddelio gyda’ch benthyciwr morgeisi os oes ôl-ddyledion morgais gennych, gweler Delio gyda’ch benthyciwr morgeisi.

Nôl i’r brig



Rhybudd ynghylch y gwrandawiad llys

Os yw’ch benthyciwr yn dechrau cymryd camau yn y llys, fe fyddwch yn cael cais i feddiannu’r eiddo gan y llys sirol. Fe fydd hyn yn rhoi manylion i chi ynghylch gwrandawiad llys a manylion llawn yr achos yn eich erbyn.

Am fwy o wybodaeth ynghylch y ffurflen hawlio a sut i lenwi amddiffyniad yn erbyn y cais, gweler Beth sy’n digwydd pan fydd eich benthyciwr morgeisi’n mynd â chi i’r llys.

Yn ogystal â’r cais am feddiant gan y llys sirol, dylech hefyd gael rhybudd gan eich benthyciwr yn dweud bod achos llys ar y gweill. Ni fydd eich enw na’ch cyfeiriad arno ac fe fydd wedi’i gyfeirio at ‘y preswylwyr’.

Byddwch yn cael rhwng pedair ac wyth wythnos o rybudd ynghylch y gwrandawiad, felly mae digon o amser o hyd i geisio dod i gytundeb gyda’r benthyciwr morgeisi.

Mae’n hanfodol eich bod yn mynd i’r gwrandawiad hyd yn oed os yw’r benthycir yn dweud wrthych nad oes angen i chi fynd. Os nad ydych yn mynd, efallai y bydd y llys yn

dal i roi gorchymyn meddiannaeth llwyr sy’n golygu y gallech gael eich troi allan o’ch cartref.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gorchmynion ildio meddiant llawn, gweler Eich troi chi allan o’ch cartref oherwydd ôl-ddyledion morgais.

Nôl i’r brig



Cyn y gwrandawiad

Cyn i chi fynd i’r gwrandawiad, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod ble mae’r llys ac yn gadael digon o amser i gyrraedd.

Os oes unrhyw anghenion arbennig gennych, efallai y byddai’n ddoeth ymweld â’r llys, neu ei ffonio, ymlaen llaw, i ddarganfod os ydyn nhw’n medru eich helpu, a sut. Os fyddwch chi angen i’r llys ddarparu cyfieithydd ar y pryd i ddod i’r gwrandawiad gyda chi, holwch os ydynt yn cynnig y gwasanaeth hwn.

Cymerwch amser i ymbaratoi cyn y gwrandawiad a meddyliwch am yr wybodaeth y gallai’r llys fod ei hangen. Fe allai hyn gynnwys:

  • y ffurflen amdiffyniad,
  • datganiad ariannol. Mae’n cynnwys gwybodaeth ynghylch yr arian sydd gennych yn dod i mewn, ac yn mynd allan, o’ch cartref. Rydych yn medru ei ddefnyddio i brofi eich bod yn medru fforddio unrhyw gynnig a wnewch i ad-dalu eich ôl-ddyledion
  • unrhyw lythyron rhyngoch chi a’r benthyciwr yn dangos sut rydych chi wedi ceisio trafod talu eich ôl-ddyledion morgais
  • os ydych yn gwerthu eich eiddo i ad-dalu’r ôl-ddyledion, manylion eich cwmni gwerthu tai
  • prawf o unrhyw daliadau yr ydych wedi eu gwneud ers cyhoeddi’r cais ildio meddiant
  • prawf o unrhyw gais yr ydych wedi ei wneud am fudd-daliadau’r wladwriaeth neu gredydau treth yr ydych yn dal i aros i glywed amdano
  • cadarnhad ysgrifenedig ynghylch unrhyw daliadau yr ydych yn aros amdanynt, fel arian sy’n ddyledus i chi mewn ewyllys neu am waith yr ydych wedi ei wneud i rywun
  • prawf o unrhyw daliadau o dan bolisi yswiriant diogelu taliadau morgais sy’n ddyledus i chi.

Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi nodi’r pethau yr ydych am eu dweud wrth y barnwr wedi i chi fynd i’r llys.

Am fwy o wybodaeth ynghylch polisïau yswiriant i ddiogelu taliadau, gweler Yswiriant Diogelu Taliadau yn y Taflenni ffeithiau ar gredyd.

Am fwy o wybodaeth ynghylch trafod ad-dalu eich ôl-ddyledion gyda benthyciwr morgeisi, gweler Delio gyda’ch benthyciwr morgeisi.

Am fwy o wybodaeth ynghylch budd-daliadau’r wladwriaeth a chredydau treth, gweler Budd-daliadau.

Nôl i’r brig



Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n cyrraedd y llys

Fe fydd y cais am feddiannu eiddo yn rhoi amser i chi ar gyfer y gwrandawiad llys. Dylech wneud yn siwr eich bod yn cyrraedd cyn yr amser hwn.

Ond, unwaith fyddwch chi’n mynd i’r llys, mae oedi’n bosib ac efallai y bydd yn rhaid i chi aros am dipyn o amser cyn i’ch achos gael ei alw.

Wedi i chi gyrraedd y llys, chwiliwch am yr ystafell aros a dywedwch wrth y tywysydd eich bod chi yno. Fe fydd y tywysydd yn dweud wrthych ble i fynd a beth i’w wneud.

Fel arfer, fe fydd eich benthyciwr morgeisi yn anfon cyfreithiwr i’w cynrychioli yn y gwrandawiad. Efallai y bydd y cyfreithiwr yn dod atoch yn yr ystafell aros i geisio cytuno ar drefniant i chi ad-dalu’r ôl-ddyledion.

Nid yw fyth yn rhyw hwyr i geisio dod i gytundeb gyda’ch benthyciwr, hyd yn oed yn yr ystafell aros. Ond peidiwch â chael eich temtio i gynnig dêl na fedrwch chi ei fforddio. Os yn bosib, ceisiwch gael cyngor cyn i chi gytuno i unrhyw beth. Os oes amheuaeth, dylech aros hyd nes y gwrandawiad ble bydd y barnwr yn penderfynu faint fedrwch chi fforddio ei ad-dalu.

Nôl i’r brig



Pwy sy’n medru mynd i’r gwrandawiad gyda chi

Rydych yn medru mynd i’r gwrandawiad ar eich pen eich hun, neu efallai y byddwch yn teimlo fel cael rhywun yno yn gefnogaeth i chi. Fe allai’r person yma fod yn:

  • rhywun y mae gennych forgais ar y cyd gyda nhw. Os oes morgais ar y cyd gennych, dylai’r ddau/ddwy ohonoch geisio mynd i’r gwrandawiad. Os oes plant gennych, ceisiwch drefnu i rywun ofalu amdanynt tra’ch bod yn y llys
  • eich cynghorydd, os ydych wedi cael cyngor gan asiantaeth cynghori. Efallai eu bod nhw’n medru mynd i’r gwrandawiad gyda chi a chyflwyno eich achos. Rydych yn fwy tebygol o osgoi colli eich cartref os ydych yn mynd a chynghorydd neu gyfreithiwr gyda chi
  • cynghorydd o’r Cynllun Cynrychiolaeth ar Ddyletswydd yn eich llys sirol lleol. Mae gan rai llysoedd gynlluniau sy’n cael eu staffio gan gynghorwyr sydd yno i’ch helpu chi. Yn Lloegr, rhowch glic ar (New window) www.nhas.org.uk i ddarganfod os oes cynllun gan eich llys lleol, neu fe fydd yr ystlyswr yn dweud wrthych os oes un ar gael. Yn aml, fe fydd cynghorydd yn medru dod i mewn i’r gwrandawiad gyda chi i’ch helpu i gyflwyno eich achos
  • tyst, os fyddwch chi angen un
  • os nad oes cynghorydd gennych, fe fyddwch yn medru mynd a ffrind i’r gwrandawiad gyda chi. Ond, os ydych am iddynt siarad yn y gwrandawiad, fe fydd yn rhaid i chi ofyn i’r barnwr am ganiatâd.

Os fyddwch chi angen help i amddiffyn achos o ôl-ddyledion morgais, mae cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim ar gael, er enghraifft, gan ganolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, rhowch glic ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig



Pan fyddan nhw’n galw eich achos chi

Pan fyddan nhw’n galw eich achos chi, fe fydd y tywysydd yn dweud wrthych ble i fynd a beth i’w wneud.

Cynhelir y rhan fwyaf o wrandawiadau meddiannaeth yn breifat yn swyddfa’r barnwr. Gelwir y swyddfa yn ‘siambrau’r barnwr’. Fel arfer, nid yw’r barnwr yn gwisgo gŵn na wig.

Os yw’r achos llys yn debygol o fod yn gymhleth, efallai y bydd barnwr uwch yn medru delio gydag ef yn ystafell y llys, ond fe fydd yn dal i fod yn breifat.

Nôl i’r brig



Yn y gwrandawiad

Fe fydd y barnwr yn cynnal y gwrandawiad yn y ffordd sydd fwyaf teg i’r ddwy ochr, ym marn y barnwr.

Os nad oes cynghorydd cyfreithiol gyda chi, fel arfer fe fydd y barnwr yn eich helpu i drafod gweithdrefn y gwrandawiad a’r math o dystiolaeth fedrwch chi ei rhoi.

Fel arfer eich benthyciwr morgeisi, neu’r person sy’n gweithredu drostynt, sy’n siarad yn gyntaf. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi gymryd nodiadau ynghylch unrhyw beth y maen nhw’n ei ddweud nad ydych yn cytuno gydag ef.

Fe fydd y barnwr am fod yn siŵr bod y ddwy ochr wedi dilyn y Protocol Cyn Gweithredu ar gyfer Ôl-ddyledion Morgais. Mae’r rhain yn weithdrefnau y disgwylir i chi a’ch benthyciwr morgeisi eu dilyn cyn i’r achos fynd i’r llys.

Am fwy o wybodaeth ynghylch y gweithdrefnau hyn, gweler Beth sy’n digwydd pan fydd eich benthyciwr morgeisi yn dechrau cymryd camau yn y llys.

Fe fydd y barnwr hefyd am fod yn siŵr mai rhoi gorchymyn ildio meddiant i’ch benthyciwr morgeisi, a allai arwain at eich troi chi allan o’ch cartref, yw’r cam olaf un.

Os nad oes unrhyw faterion cyfreithiol cymhleth i benderfynu arnynt, fel arfer fe fydd y barnwr yn gwneud penderfyniad yn y fan a’r lle, tra bod digon o wybodaeth ganddynt. Gelwir penderfyniad y barnwr yn ddyfarniad.

Os yw’ch achos yn fwy cymhleth, efallai na fydd y barnwr yn medru dod i unrhyw benderfyniad ar unwaith. Yn y sefyllfa hon, efallai y bydd y barnwr yn gohirio’r achos ac yn rhoi cyfarwyddiadau ynghylch yr hyn fydd yn digwydd nesaf. Fe fydd y llys yn cadarnhau’r cyfarwyddiadau hyn yn ysgrifenedig yn nes ymlaen.

Am fwy o wybodaeth ynghylch y penderfyniadau y mae barnwr yn medru eu gwneud mewn gwrandawiad ynghylch ôl-ddyledion morgais, gweler Beth sy’n digwydd pan fydd eich benthyciwr morgeisi’n mynd â chi i’r llys.

Nôl i’r brig



Help pellach

Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i ddelio gyda phroblemau gyda’ch morgais, gweler:

Ar Adviceguide

Ar wefan y Gwasanaeth Cyngor Cenedlaethol ar Ddigartrefedd

Rhowch glic ar (New window) www.nhas.org.uk.

Ar wefan Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol

Rhoch glic ar (New window) www.moneymadeclear.fsa.gov.uk.

Ar wefan Directgov

Rhowch glic ar (New window) www.direct.gov.uk i weld fideo a ôl-ddyledion morgais.

Nôl i’r brig



Nationwide logo