Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru a Lloegr
Os oes gennych ôl-ddyledion ar eich morgais, fe fydd benthyciwr morgeisi am i chi eu clirio. Os na wnewch hyn, fe fydd y benthyciwr morgeisi yn dechrau cymryd camau yn y llys. Gelwir y rhain yn gamau meddiannaeth ac maen nhw’n medru arwain at eich troi chi o’ch cartref.
Cofiwch, peidiwch â mynd i banig, oherwydd rydych yn medru atal hyn rhag digwydd. Ond rhaid i chi gymryd camau ar unwaith.
Efallai y byddwch yn medru stopio’r achos rhag mynd i’r llys trwy drafod trefniadau gyda’ch benthyciwr. Mae help rhad ac am ddim ar gael i’ch helpu i wneud hyn.
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i ddod i drefniant gyda’ch benthyciwr morgeisi, gweler Delio gyda’ch benthyciwr morgeisi.
Hyd yn oed os nad yw’n bosib stopio’r achos rhag mynd i’r llys, nid yw hyn yn golygu, o angenrheidrwydd, y byddwch yn colli eich cartref.
Efallai y bydd eich benthyciwr am i’r llys roi gorchymyn ildio meddiant ataliedig. Fe fydd hyn yn golygu eich bod yn medru aros yn eich cartref tra’ch bod yn dod i drefniant i ad-dalu’r ôl-ddyledion.
Efallai y byddwch yn medru dadlau bod benthyciwr morgeisi wedi gweithredu’n annheg neu’n afresymol, neu heb ddilyn y gweithdrefnau cywir. Mae hyn yn medru helpu gohirio’r camau yn y llys neu berswadio’r barnwr i gyhoeddi gorchymyn ildio meddiant ataliedig yn lle gorchymyn llawn a fedrai arwain at eich troi chi allan o’ch cartref.
Dyma’r pethau pwysig i’w cofio:
Ar y tudalennau canlynol, mae yna wybodaeth ynghylch y canlynol:
Mae’r wybodaeth ar y tudalennau hyn yn delio gyda’r hyn sy’n digwydd pan fyddwch chi’n gorfod mynd i’r llys oherwydd ôl-ddyledion ar forgais cyntaf ar eich eiddo.
Mae rhai pobl yn cymryd ail forgais ar eu cartref, i dalu am bethau fel gwelliannau i’r cartref, atgyweiriadau, car neu dalu dyledion eraill.
Efallai, hefyd, y byddwch wedi cymryd benthyciad gan fanc neu gwmni cyllid, gan ddefnyddio eich cartref fel sicrwydd. Gelwir hyn yn fenthyciad diogel.
Os oes ôl-ddyledion gennych ar ail forgais neu fenthyciad diogel, fe fydd y cwmni morgais yn medru dechrau cymryd camau yn y llys i geisio cael meddiant o’ch eiddo. Fe fydd am werthu eich cartref er mwyn talu’r benthyciad.
Os oes ôl-ddyledion gennych ar ail forgais neu fenthyciad diogel arall, dylech gael cyngor gan ymgynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Ni ddylai’ch benthyciwr morgeisi ddechrau cymryd camau yn eich erbyn yn y llys heb ddilyn rhai rheolau penodol a osodir gan Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol (yr FSA). Mae’r rheolau’n nodi bod yn rhaid i’ch benthyciwr morgeisi eich trin chi’n deg a rhoi cyfle rhesymol i chi wneud trefniadau i ad-dalu’r ôl-ddyledion, os ydych yn medru gwneud hynny. Rhaid iddynt ystyried unrhyw gais rhesymol gennych i newid pryd neu sut yr ydych yn talu. Dylai’ch benthyciwr morgeisi ddechrau cymryd camau yn y llys fel y cam olaf un, os nad yw pob ymgais arall i gasglu’r ôl-ddyledion wedi dwyn ffrwyth.
Os cawsoch eich morgais ar 31 Hydref 2004, neu ar ôl y dyddiad yma, mae’n rhaid i’ch benthyciwr morgeisi ddilyn rheolau’r FSA wrth ddelio gydag ôl-ddyledion morgais.
Os nad yw eich benthyciwr morgeisi yn dilyn y rheolau hyn, fe fyddwch yn medru cwyno i Wasanaeth yr Ombwdsman Ariannol,
Yn ogystal â dilyn rheolau’r FSA, dylai’ch benthyciwr morgeisi ddilyn gweithdrefnau penodol eraill cyn iddynt fedru dechrau cymryd camau yn y llys. Gelwir y rhain yn brotocolau cyn gweithredu. Os nad yw’r achos yn mynd i’r llys, fe fydd y barnwr yn ystyried p’un ai fod benthyciwr morgeisi wedi dilyn y protocol ai peidio. Mae hyn yn medru cael effaith ar ganlyniad yr achos. Er enghraifft, os nad yw eich benthyciwr morgeisi wedi dilyn y protocol, fe fyddwch yn medru defnyddio hyn i’ch helpu i berswadio’r barnwr i ddyfarnu gorchymyn meddiant wedi’i ohirio, yn hytrach na gorchymyn meddiant llwyr.
Mae yna rai pethau y mae’n rhaid i chi eu gwneud fel rhan o’r protocol hefyd. Dyma’r prif bethau y mae’n rhaid i chi eu gwneud:
O dan y protocol, dylai’ch benthyciwr morgeisi roi gwybodaeth i chi ynghylch eich hawliau cyfreithiol os ydych yn colli unrhyw daliadau. Dylent hefyd ddweud wrthych:
Mae’n rhaid i’ch benthyciwr morgeisi ystyried unrhyw geisiadau rhesymol gennych i newid y dyddiad yr ydych yn talu neu sut yr ydych yn talu.
Os ydych yn cynnig ad-dalu ôl-ddyledion, rhaid i’ch benthyciwr morgeisi ddod yn ôl atoch cyn gynted â phosib gydag ateb. Os ydynt yn gwrthod eich cynnig rhaid iddynt ddweud pam wrthych.
Ni ddylai’ch benthyciwr morgeisi ddechrau cymryd camau yn y llys tra’ch bod yn ceisio dod i gytundeb.
Am fwy o wybodaeth ynghylch ceisio dod i gytundeb gyda’ch benthyciwr morgeisi, gweler Delio gyda’ch benthyciwr morgeisi.
Rydych yn medru cael help i siarad â’ch benthyciwr morgeisi os fyddwch chi ei angen, er enghraifft, gan ganolfan Cyngor ar Bopeth. Rydych hefyd yn medru cael cyngor ynghylch p’un ai fod benthyciwr morgeisi wedi dilyn y protocol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych yn dod i gytundeb i ad-dalu’r ôl-ddyledion ond nid ydych yn cadw ato, fe fydd benthyciwr morgeisi’n dechrau cymryd camau yn y llys. Ond dylent ddweud wrthych yn ysgrifenedig eu bod yn bwriadu gwneud hyn, o leiaf 15 niwrnod gwaith ymlaen llaw.
Peidiwch ag anwybyddu unrhyw lythyron gan fenthyciwr morgeisi na’u cyfreithwyr. Rydych yn medru cael help i’w hateb, os fyddwch chi ei angen.
O dan y protocol cyn-gweithredu, dylai’r benthyciwr morgeisi ystyried peidio â dechrau camau yn y llys o dan amgylchiadau penodol, sef:
Os yw benthyciwr morgeisi yn penderfynu dechrau cymryd camau yn y llys beth bynnag, dylai ddweud hyn wrthych yn ysgrifenedig o leiaf 5 diwrnod ymlaen llaw.
Am fwy o wybodaeth ynghylch polisïau diogelu taliadau morgais, gweler Yswiriant diogelu taliadau yn y Taflenni ffeithiau ar gredyd a debyd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i gael help gyda’ch costau morgais gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, gweler Help gyda chostau’ch morgais os ydych chi allan o waith.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwerthu eich cartref i glirio’r ôl-ddyledion morgais, gweler Gwerthu’ch eiddo i glirio’r dyledion ar eich morgais.
Os yw eich benthyciwr morgeisi yn dechrau cymryd camau yn y llys, fe fyddwch yn cael cais am feddiant o’r eiddo gan y llys sirol. Fe fydd hyn yn rhoi manylion i chi ynghylch gwrandawiad llys a manylion llawn yr achos yn eich erbyn.
Dylai benthyciwr morgeisi fod wedi dilyn protocol cyn gweithredu yn gyntaf, cyn cymryd y camau hyn. Mewn rhai achosion, rhaid eu bod hefyd wedi dilyn canllawiau Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol. Dylai’ch benthyciwr fod wedi cysylltu â chi hefyd cyn bod yr achos llys yn dechrau.
Os nad yw’ch benthyciwr wedi cysylltu â chi cyn i’r achos llys ddechrau, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Yn ogystal â’r cais am feddiant gan y llys, dylech hefyd gael rhybudd gan y cwmni sy’n benthyg yn dweud ei fod wedi dechrau cymryd camau yn y llys. Ni fydd eich enw na’ch cyfeiriad arno, ac fe fydd wedi’i gyfeirio at ‘y tenant neu’r preswylwyr’.
Fe fydd manylion y cais yn nodi faint o arian sy’n ddyledus i’r benthyciwr morgeisi, faint ddylech chi fod yn ei dalu a pha gamau y mae’r benthyciwr wedi eu cymryd i gasglu’r ôl-ddyledion. Os oes unrhyw wybodaeth yn anghywir neu ar goll o’r ffurflen hon, dylech ddweud wrth y barnwr yn y gwrandawiad.
Law yn llaw gyda’r ffurflen hawlio, fe fydd ffurflen amddiffyniad. Fe fyddwch yn medru ei defnyddio i ddweud wrth y llys am eich amgylchiadau ariannol a phersonol, a’r ymgais yr ydych wedi ei wneud i ddelio gyda’r ôl-ddyledion. Mae yna restr o’r arian sy’n dod i mewn ac allan o’ch cartref hefyd, i chi ei llenwi. Mae hyn yn dangos i’r barnwr faint fedrwch chi fforddio ei dalu tuag at eich ôl-ddyledion.
Os ydych yn credu nad ydych yn gyfrifol yn gyfreithiol dros dalu’r morgais, neu nid ydych yn cytuno gydag phopeth y mae’r benthyciwr wedi ei ddweud ym manylion y cais, dylech ddefnyddio’r ffurflen amddiffyniad i ddweud pam. Dyma bethau eraill efallai y byddwch am eu dweud yn eich amddiffyniad:
Nid yw dweud nad ydych yn medru fforddio talu’r morgais yn ddigon o amddiffyniad.
Dylech anfon y ffurflen amddiffyn yn ôl i’r llys cyn y gwrandawiad, os yn bosib, ond peidiwch â phoeni os na fyddwch yn medru gwneud hynny - ewch a’r ffurflen gyda chi ar y diwrnod. Os yw’r benthyciwr wedi llenwi cais ar-lein, byddwch yn medru anfon eich amddiffyniad i’r llys ar-lein yn: www.possessionclaim.gov.uk/pcol.
Os ydych yn credu bod gennych amddiffyniad cyfreithiol, dylech gael help ar unwaith gan gynghorydd profiadol. Dylai canolfan Cyngor ar Bopeth fod yn gallu helpu. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, cliciwch ar [CAB agosaf].
Byddwch yn cael rhwng tair ac wyth wythnos o rybudd ynghylch y gwrandawiad, felly mae digon o amser o hyd i geisio dod i gytundeb gyda’r benthyciwr morgeisi.
Ond, hyd yn oed os ydych yn dod i gytundeb gyda’r benthyciwr morgeisi, efallai na fydd hyn yn ddigon i atal yr achos rhag mynd i’r llys. Efallai y bydd benthyciwr morgeisi am i’r llys roi gorchymyn ildio meddiant ataliedig. Fe fydd hyn yn eich galluogi chi i aros yn eich cartref tra’ch bod chi’n cadw at y cytundeb i ad-dalu’r ôl-ddyledion.
Mae’n hanfodol eich bod yn mynd i’r gwrandawiad, hyd yn oed os yw’r benthyciwr yn dweud wrthych nad oes angen i chi fynd. Os nad ydych yn mynd, efallai y bydd y llys yn dal i roi gorchymyn ildio meddiant llawn sy’n golygu y gallech gael eich troi allan o’ch cartref.
Mae yna rai pethau y byddwch yn medru eu gwneud i baratoi ar gyfer y gwrandawiad llys.
Am fwy o wybodaeth ynghylch yr hyn sy’n digwydd yn y gwrandawiad llys a sut i baratoi ar ei gyfer, gweler Mae benthyciwr morgeisi yn mynd â chi i’r llys – sut i baratoi ar gyfer y gwrandawiad llys.
Os nad oes unrhyw faterion cyfreithiol cymhleth i benderfynu arnynt, fel arfer fe fydd y barnwr yn gwneud penderfyniad yn y fan a’r lle, tra bod digon o wybodaeth ganddynt.
Os yw’ch achos yn fwy cymhleth, efallai na fydd y barnwr yn medru penderfynu yn y fan a’r lle. Yn y sefyllfa hon, efallai y bydd y barnwr yn gohirio’r achos ac yn rhoi cyfarwyddiadau ynghylch beth sy’n mynd i ddigwydd nesaf. Fe fydd y llys yn cadarnhau’r cyfarwyddiadau hyn yn ysgrifenedig yn nes ymlaen.
Gelwir y penderfyniad y mae’r barnwr yn ei wneud mewn gwrandawiad, neu ar ôl gwrandawiad, yn ddyfarniad. Mae’r barnwr yn medru gwneud un o’r dyfarniadau canlynol:
Mae achos yn cael ei ohirio o dan nifer o amgylchiadau gwahanol. Mae’r amgylchiadau hyn yn cynnwys:
Mae gohirio achos yn medru arwain at fwy o gostau i chi eu talu.
Ar ôl clywed yr holl dystiolaeth, os nad yw’r barnwr yn hapus fod benthyciwr morgeisi wedi profi bod hawl ganddo i gael meddiant o’ch cartref, mae’n medru gwrthod yr achos. Os caiff yr achos ei wrthod, fe fyddwch yn medru gofyn i’r barnwr orchymyn y dylai’r benthyciwr morgeisi dalu eu costau cyfreithiol eu hunain.
Os yw’r barnwr yn gwneud gorchymyn ildio meddiant llawn, mae hyn yn golygu bod y benthyciwr morgeisi wedi cael caniatâd i gymryd meddiant eich eiddo. Fe fydd yn rhaid i chi adael erbyn y dyddiad a nodwyd yn y gorchymyn.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gorchmynion ildio meddiant llawn, a’r hyn sy’n digwydd pan na fyddwch yn gadael erbyn dyddiad y gorchymyn, gweler Eich troi chi allan o’ch cartref oherwydd ôl-ddyledion morgais.
Os yw’r barnwr yn gwneud gorchymyn ildio meddiant ataliedig, mae hyn yn golygu y byddwch yn medru aros yn eich cartref tra’ch bod yn cadw at y trefniant i ad-dalu’r ôl-ddyledion. Fe fydd telerau’r cytundeb yn cael eu gosod yn y gorchymyn. Fe fydd angen i chi ad-dalu’r ôl-ddyledion fel swm wythnosol neu fisol ar ben eich taliadau morgais arferol. Rhaid eich bod chi’n medru ad-dalu’r holl ôl-ddyledion erbyn diwedd cyfnod y morgais.
Os nad ydych yn cadw at y trefniant, mae benthyciwr morgeisi’n medru gofyn i’r llys eich troi chi allan. Ni fyddwch yn cael gwybod ymlaen llaw os fyddan nhw’n gwneud hyn.
Am fwy o wybodaeth ynghylch yr hyn y mae benthyciwr morgeisi’n medru ei wneud os nad ydych yn cadw at delerau gorchymyn ildio meddiant ataliedig, gweler Eich troi chi allan o’ch cartref oherwydd ôl-ddyledion morgais.
Mewn rhai achosion, fe fydd y barnwr yn rhoi gorchymyn ildio meddiant ataliedig i roi amser i chi werthu’ch cartref. Fe fydd ond yn gwneud hyn os ydych yn medru gwneud digon ‘r gwerthiant i glirio’r cyfan sy’n ddyledus ar eich morgais. Mae hyn yn cynnwys yr holl arian yr oeddech chi wedi ei fenthyg yn ogystal â’ch ôl-ddyledion.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwerthu eich cartref i glirio’r ôl-ddyledion morgais, gweler Eich troi chi allan o’ch cartref oherwydd ôl-ddyledion morgais.
Yn ogystal â gorchymyn ildio meddiant, mae’r barnwr yn medru cyhoeddi dyfarniad arian ar yr un pryd.
Mae dyfarniad arian yn rhoi cyfle i fenthyciwr morgeisi gael yr holl arian sy’n ddyledus ar eich morgais yn ôl.
Mae hyn yn golygu, os yw benthyciwr morgeisi yn eich troi chi allan ac nid yw’n medru cael yr holl arian sy’n ddyledus gennych trwy werthu’r eiddo, mae’n medru eich gorfodi chi i dalu’r gwahaniaeth. Ni fydd yn rhaid iddo fynd i’r llys eto i wneud hyn.
Os caiff y gorchymyn ildio meddiant ei atal, fel arfer fe fydd y dyfarniad arian yn cael ei atal hefyd. Mae hyn yn golygu na fydd yn dod i rym os ydych yn cadw at delerau’r gorchymyn ildio meddiant ataliedig, ac mae’r benthyciwr morgeisi yn cael eich troi chi allan.
Ar ôl y gwrandawiad, efallai y byddwch yn medru newid y gorchymyn y mae’r barnwr yn ei wneud. Efallai y byddwch yn medru:
Os ydych yn credu bod y barnwr yn anghywir i wneud gorchymyn ildio meddiant, efallai y byddwch yn medru apelio i lys uwch. Efallai y byddwch yn medru gwneud hyn os nad ydych yn credu bod y gweithdrefnau cywir wedi cael eu dilyn, ni ddefnyddiwyd y gyfraith yn iawn neu roedd y ffeithiau a ddefnyddiwyd gan y barnwr i ddod i benderfyniad yn y gwrandawiad yn anghywir. Mae yna derfyn amser o 21 diwrnod i ymgeisio.
Os ydych yn credu bod rhesymau gennych dros apelio, dylech gael cyngor cyfreithiol arbenigol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cael cyngor cyfreithiol, gweler Defnyddio cyfreithiwr.
Efallai y byddwch yn medru cyflwyno cais i roi gorchymyn ildio meddiant i’r naill ochr. Er enghraifft, os oedd rheswm da gennych dros beidio â mynychu’r gwrandawiad ac mae gennych amddiffyniad yn erbyn y cais.
Os ydych yn credu bod rhesymau gennych dros roi’r gorchymyn i’r naill ochr, dylech gael cyngor cyfreithiol arbenigol.
Os yw’r llys wedi gwneud gorchymyn ildio meddiant ataliedig byddwch yn medru gwneud cais i newid (amrywio) telerau’r gorchymyn. Efallai y byddwch chi am amrywio’r telerau hyn os na fyddwch yn medru fforddio cadw i fyny gyda’r taliadau a orchmynnwyd mwyach, er enghraifft, neu mae’n cymryd mwy o amser i werthu’ch eiddo nag a ganiatawyd gan y llys.
Rydych yn medru gofyn am gael amrywio telerau’r gorchymyn ar ffurflen N244. Byddwch yn medru cael hwn o’r llys neu argraffu un oddi ar wefan Gwasanaeth Llysoedd EM yn: www.hmcourts-service.gov.uk.
Fe fydd gwrandawiad llys arall. Dylech fynd i’r gwrandawiad gyda thystiolaeth i gefnogi eich cais.
Am fwy o wybodaeth ynghylch y math o dystiolaeth efallai y bydd llys angen ei gweld, gweler Mae benthyciwr morgeisi yn mynd a chi i’r llys – sut i baratoi ar gyfer y gwrandawiad llys.
Am wybodaeth ynghylch gohirio gorchymyn ildio meddiant llawn, gweler Eich troi chi allan o’ch cartref oherwydd ôl-ddyledion morgais.
Mewn achosion yn ymwneud â morgais, fel arfer mae gan fenthyciwr yr hawl, o dan ei gytundeb, i drosglwyddo’i holl gostau adennill, atoch chi, y benthyciwr. Nid ydyw angen gorchymyn llys i wneud hyn.
Mae’r costau’n cynnwys:
Fe fydd costau’n cael eu hychwanegu at eich cyfrif morgais, am bob gwrandawiad.
Ond, efallai y bydd y llys yn medru gorchymyn bod rhai o’r costau, neu’r cyfan ohonynt, ddim yn cael eu hychwanegu. Er enghraifft, os yw’r llys yn credu eu bod yn afresymol, neu mae’r benthyciwr morgeisi wedi ymddwyn yn afresymol yn dechrau achos llys.
Efallai bod y sefyllfa’n wahanol os ydych yn cael cymorth cyfreithiol. Fe fydd eich cyfreithiwr yn gallu dweud mwy wrthych am hyn.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cymorth cyfreithiol, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch dod o hyd i gyfreithiwr, gweler Defnyddio cyfreithiwr.
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i ddelio gydag ôl-ddyledion morgais, gweler:
Ar wefan y Gwasanaeth Cyngor Cenedlaethol ar Ddigartrefedd
Rhoch glic ar www.nhas.org.uk.
Ewch at: www.moneymadeclear.fsa.gov.uk.
Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd y mae benthyciwr morgeisi wedi delio gyda’ch achos, fe fyddwch yn medru cwyno i Wasanaeth yr Ombwdsman Ariannol. Fe fydd angen i chi ddefnyddio gweithdrefn gwyno fewnol y benthyciwr morgeisi yn gyntaf.
Ombwdsman y Gwasanaethau Ariannol
South Quay Plaza
183 Marsh Wall
London
E14 9SR
Rhif Ffôn: 0845 080 1800
Ffacs: 020 7964 1001
E-bost: complaint.info@financial-ombudsman.org.uk
Gwefan: www.financial-ombudsman.org.uk
Os oes ôl-ddyledion morgais gennych ac rydych yn ystyried gwerthu eich cartref i’w had-dalu, dylech gael cyngor ariannol annibynnol. Mae’r mudiadau canlynol yn medru eich helpu i ddod o hyd i gynghorydd ariannol annibynnol:
Independent Financial Promotions (IFAP)
Gwefan: www.unbiased.co.uk
Institute of Financial Planning (IFP)
Rhif Ffôn: 0117 945 2470
E-bost: enquiries@financialplanning.org.uk
Gwefan: www.financialplanning.org.uk
Personal Finance Society (PFS)
E-bost: customer.serv@thepfs.org
Gwefan: www.findanadviser.org
