Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru a Lloegr
Os ydych yn cael trafferth talu’ch morgais efallai mai un o’r opsiynau y byddwch am ei ystyried yw cynllun achub morgeisi. Enw arall ar hyn yw cynllun prynu yn ôl, gwerthu a rhentu yn ôl neu werthu a phrydlesu yn ôl.
Mae’r rhain yn gynlluniau sy’ cynnig prynu eich eiddo a’i rhentu yn ôl i chi.
Efallai bod hyn yn edrych yn ffordd dda o ddianc rhag eich problemau gyda’ch morgais, oherwydd mae’n gyfle i chi dalu eich dyled tra’ch bod yn aros yn eich cartref.
Ond, mae angen i chi fod yn ofalus iawn os ydych am ymuno â chynllun achub morgeisi oherwydd, mewn rhai achosion, efallai y byddwch yn talu rhent uchel iawn neu’n cael eich troi allan yn y pendraw.
Efallai mai cynllun achub morgeisi fydd yr opsiwn iawn i chi, tra’ch bod yn darllen amodau a thelerau’r cynllun yn ofalus iawn. Mae angen i chi ddeall beth yn union yr ydych yn cytuno iddo, a sut fydd hyn yn effeithio ar eich sefyllfa ariannol a’ch sefyllfa o ran tai yn y tymor hir.
Ar y dudalen hon, fe fyddwn yn dweud wrthych am:
Os ydych yn ei chael yn anodd iawn talu eich morgais, er enghraifft, os ydych wedi dechrau cael llythyron gan eich benthyciwr morgeisi yn bygwth cymryd camau yn y llys, dylech gael help gan gynghorydd dyled profiadol ar unwaith.
Mae cyngor ar ddyled ar gael mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Efallai y bydd hefyd yn ddefnyddiol i chi edrych ar Beth sy’n digwydd os yw’ch benthyciwr morgeisi yn mynd â chi i’r llys.
Os ydych yn ystyried ymuno â chynllun achub morgeisi, mae yna rai pethau y dylech eu hystyried, gan gynnwys:
Dylech gofio, hefyd, os ydych yn gwerthu eich cartref ond yn parhau i fyw yno a thalu rhent, efallai na fyddwch yn medru hawlio Budd-dal Tai.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dal Tai, gweler Help gyda’ch rhent - Budd-dal Tai.
Os ydych yn ystyried ymuno â chynllun achub morgeisi, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor trwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Efallai, hefyd, y byddwch am ystyried cael cyngor ariannol annibynnol. Fe fydd hyn yn helpu sicrhau eich bod wedi meddwl yn ofalus ynghylch sut fydd ymuno â chynllun achub morgeisi yn effeithio ar eich sefyllfa ariannol a’ch sefyllfa o ran tai yn y tymor hirach.
Dylech fod yn arbennig o ofalus cyn ymuno â chynllun achub morgeisi sy’n cael ei rhedeg gan gwmni preifat neu unigolyn.
Mae’r pethau y mae angen i chi eu gwybod ynghylch cynlluniau achub morgeisi preifat yn cynnwys:
Os ydych yn ystyried ymuno â chynllun achub morgeisi gyda chwmni preifat neu unigolyn, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor trwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Efallai y byddwch hefyd am ystyried cael cyngor ariannol annibynnol. Fe fydd hyn yn helpu sicrhau eich bod wedi ystyried yn ofalus sut fydd ymuno â chynllun achub morgeisi yn effeithio ar eich sefyllfa ariannol a’ch sefyllfa o ran tai yn y tymor hirach.
Am fwy o wybodaeth ynghylch eich hawliau fel tenant preifat, gweler Tenantiaethau’r sector preifat.
Mae rhai awdurdodau lleol a chymdeithasau tai hefyd yn rhedeg cynlluniau achub morgeisi, er, nid oes llawer ohonynt ar gael. Yn aml, mae ganddyn nhw reolau llym ynghylch pwy sy’n medru ceisio, felly efallai na fyddwch yn gymwys.
Fe fydd y cynlluniau hyn yn rhoi cyfle i chi aros yn eich cartref naill ai fel:
Pan fydd eich eiddo’n cael ei werthu i landlord cymdeithasol, mae’r arian yn cael ei ddefnyddio i ad-dalu eich morgais presennol a’r ôl-ddyledion. Os nad oes digon o arian i dalu am yr holl ôl-ddyledion, fe fydd yn rhaid i chi wneud trefniadau eraill i ad-dalu’r gwahaniaeth.
I ddarganfod mwy am gynlluniau achub morgeisi sy’n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, holwch eich awdurdod lleol.
Os ydych yn ystyried ymuno â chynllun achub morgeisi sy’n cael ei rhedeg gan landlord cymdeithasol, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor trwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Efallai hefyd y byddwch am feddwl am gael cyngor ariannol annibynnol. Fe fydd hyn yn helpu sicrhau eich bod wedi meddwl yn ofalus ynghylch sut fydd ymuno â chynllun achub morgeisi yn effeithio ar eich sefyllfa ariannol a’ch sefyllfa o ran tai yn y tymor hirach.
Yn Lloegr, mae’r Llywodraeth wedi lansio cynllun achub morgeisi i helpu perchnogion tai bregus i aros yn eu cartref. Mae gan y cynllun ddwy ran ar wahân - Cynllun Rhannu Ecwiti a Chynllun Morgais i Rentu.
O dan y Cynllun Rhannu Ecwiti, fe fydd cymdeithas tai yn rhoi benthyciad i chi a fydd yn cael ei ddefnyddio i ostwng eich ad-daliadau morgais misol. Fe fydd angen i chi ad-dalu’r benthyciad i’r gymdeithas tai ond fe fyddwch yn dal i fod yn berchen ar eich cartref.
O dan y Cynllun Morgais i Rentu, mae cymdeithas tai yn prynu eich cartref ac yn eich caniatáu chi i barhau i fyw yno fel tenant. Mae’n golygu na fyddwch chi’n berchen ar eich cartref eich hun mwyach. Fe fydd yn rhaid i chi dalu rhent bob wythnos neu fis i’r gymdeithas tai.
Er mwyn i chi fedru ymuno ag un o’r cynlluniau hyn, fe fydd angen i chi ddangos eich bod mewn perygl o ddod yn ddigartref yn y dyfodol agos am fod yna berygl i’ch benthyciwr morgeisi ailfeddiannu eich cartref. Fe fydd angen i chi ddangos hefyd eich bod chi angen aros yn yr un ardal ble rydych chi’n byw, ac:
Ni fyddwch yn medru ceisio ymuno ag un o’r cynlluniau yn yr achosion canlynol:
Yn ogystal â chwrdd â’r amodau hyn, sy’n berthnasol i’r ddau gynllun, fe fydd angen i chi gwrdd â rhai amodau ychwanegol hefyd, gan ddibynnu pa gynllun yr ydych yn ceisio ymuno ag ef. Caiff y rhain eu disgrifio isod.
Er mwyn i chi fedru ymuno â’r Cynllun Rhannu Ecwiti, rhaid bod y canlynol yn wir:
Os teimlir eich bod yn addas i rannu ecwiti:
Fe fydd yr eiddo yn dal i fod yn eiddo i chi, tra’ch bod yn medru cadw i fyny gyda’r taliadau ar eich morgais ac ar y benthyciad. Os nad ydych yn medru cadw i fyny gyda’ch ad-daliadau, fe fydd eich benthyciwr morgais yn dal i fedru cymryd camau i geisio ailfeddiannu eich cartref.
Os teimlir eich bod yn addas ar gyfer y cynllun:
Am fwy o wybodaeth ynghylch Landlordiaid Cymdeithasol, gweler Tenantiaethau’r sector cyhoeddus.
Am fwy o wybodaeth ynghylch tenantiaethau byrddaliad sicr, gweler Tenantiaethau’r sector preifat.
Unwaith fyddwch chi wedi cytuno i werthu eich cartref i’r gymdeithas tai, ni fydd hawl awtomatig gennych i brynu’r eiddo yn ôl unwaith eto, er, efallai y bydd hyn yn bosib o dan rai amgylchiadau.
I geisio ymuno â’r Cynllun Rhannu Ecwiti neu’r Cynllun Morgais i Rentu, fe fydd angen i chi:
Efallai na fyddwch yn medru parhau gyda’r cynllun os yw prisiad yn dangos bod eich eiddo angen llawer o waith
Mae mwy o wybodaeth am y Cynllun Achub Morgeisi a gefnogir gan y Llywodraeth ar gael oddi ar wefan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yn: www.communities.gov.uk.
Unwaith fyddwch chi wedi cael cynnig gan gymdeithas tai i ymuno â’r Cynllun Achub Morgeisi, dylent drefnu i chi gael cyngor ariannol annibynnol rhad ac am ddim.
Fodd bynnag, efallai y byddwch chi am gael cyngor ariannol annibynnol cyn i chi gael cynnig, i sicrhau eich bod yn gwneud y penderfyniad ariannol iawn. Os fyddwch chi am gael cyngor ariannol ar gam cynharach, fe fydd yn rhaid i chi dalu amdano.
I geisio ymuno â Chynllun achub morgeisi'r Llywodraeth, cysylltwch â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol. Fe fyddan nhw’n medru dweud wrthych p’un ai eich bod yn gymwys ai peidio. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi sefydlu cynllun achub morgeisi gyda chymdeithasau tai yng Nghymru. Mae mwy o wybodaeth am y cynllun ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn: www.new.wales.gov.uk.
Mae gwybodaeth am y Cynllun achub morgeisi a gefnogir gan y Llywodraeth ar gael oddi ar wefan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yn: www.communities.gov.uk.
Am fwy o wybodaeth ar ddelio gydag ôl-ddyledion morgais gweler:
Rhowch glic ar www.nhas.org.uk.
Rhowch glic ar www.moneymadeclear.fsa.gov.uk.
Os ydych yn ystyried ymuno â chynllun achub morgeisi, dylech gael cyngor ariannol annibynnol. Mae’r mudiadau canlynol yn medru eich helpu i ddod o hyd i gynghorydd ariannol annibynnol:
Independent Financial Promotions (IFAP)
Gwefan: www.unbiased.co.uk
Institute of Financial Planning (IFP)
Rhif Ffôn: 0117 945 2470
E-bost: enquiries@financialplanning.org.uk
Gwefan: www.financialplanning.org.uk
Personal Finance Society (PFS)
E-bost: customer.serv@thepfs.org
Gwefan: www.findanadviser.org
