Chwilio am canolfan leol

Chwilio am canolfan leol

Diweddarwyd y safle:

Mawrth 21 af 2010

Rheoli arian - Yng Nghymru

Sut i wario llai

Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon



Sut i wario llai

Os ydych ar incwm isel, yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd neu mewn dyled, mae yna ddigon o bethau y gallwch eu gwneud i dorri nôl ar eich gwariant ac arbed arian.

Ar y tudalennau canlynol, rydym yn edrych ar y pethau y gallech eu gwneud i arbed ar eich costau byw bob dydd. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • holi i weld os oes angen i chi dalu’r dreth gyngor (trethi yng Ngogledd Iwerddon), neu os ydych yn cael unrhyw ostyngiadau y medrwch eu cael
  • sicrhau nad ydych yn talu gormod o dreth neu yswiriant gwladol
  • torri cymaint â phosib ar gostau tanwydd, dŵr a biliau eraill
  • siopa, teithio a phleserau fel bwyta allan mor rhad â phosib.

Nôl i’r brig



Arbed arian ar y dreth gyngor

Os ydych yn talu’r dreth gyngor, dylech holi i weld os oes rhaid i chi dalu’r dreth gyngor, sicrhau bod y swm ar eich bil yn gywir a holi i weld os fedrwch chi gael unrhyw ostyngiadau.

Mewn rhai amgylchiadau, nid oes rhaid i rai pobl dalu unrhyw dreth gyngor o gwbl.

Os oes rhywun yn byw yn eich cartref sy’n ddifrifol anabl, efallai y byddwch yn medru cael gostyngiad ar y dreth gyngor.

Os ydych yn byw ar eich pen eich hun, dylech gael gostyngiad o 25 y cant ar eich treth gyngor. Hyd yn oed os ydych yn byw gyda phobl eraill, efallai na fydd rhai ohonynt yn cael eu cyfrif fel rhai sy’n byw gyda chi. Er enghraifft, ni fydd rhywun sy’n iau na 17 neu sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol, yn cael eu cyfrif fel rhai sy’n byw gyda chi pan fydd adran y dreth gyngor yn penderfynu os ydych yn byw ar eich pen eich hun.

Os yw’ch incwm yn ddigon isel, efallai y byddwch yn medru cael Budd-dal Treth Gyngor.

Os oes rhywun yn byw gyda chi sydd ddim yn gorfod talu’r dreth gyngor, efallai y byddwch yn medru cael Ad-daliad Ail Oedolyn.

Am fwy o wybodaeth ynghylch pryd mae’n rhaid i chi dalu’r dreth gyngor ac unrhyw ostyngiadau fedrwch chi eu cael, gweler Treth gyngor.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dal Treth Gyngor ac Ad-daliad Ail Oedolyn, gweler Help gyda’ch Treth Gyngor – Budd-dal Treth Gyngor.

Gogledd Iwerddon

Yng Ngogledd Iwerddon dylech holi os oes hawl gennych i unrhyw ostyngiadau ar eich bil trethi.

Mae pobl dros 70 oed sy’n byw ar eu pen eu hun yn medru cael gostyngiad o 20%. Efallai y byddwch yn dal i fedru cael y gostyngiad hwn hyd yn oed os ydych yn byw gyda rhai pobl eraill, fel eich cynhaliwr neu blentyn dan 18.

Rydych hefyd yn medru cael gostyngiad os oes addasiadau penodol wedi eu gwneud i’ch cartref oherwydd anabledd.

Os ydych ar incwm isel, efallai y byddwch yn medru cael help gyda’ch ardrethi trwy Fudd-dal Tai neu Ryddhad Ardrethi.

Am fwy o wybodaeth ynghylch help gyda’ch ardrethi yng Ngogledd Iwerddon, gweler Help gyda’ch ardrethi.

Nôl i’r brig



Gostwng costau biliau’r cartref

Edrychwch yn ofalus ar eich gwariant i weld os oes unrhyw beth fedrwch chi dorri yn ôl arno. Er enghraifft, fe allwch chwilio am ddarparwr nwy neu drydan rhatach, neu chwilio am ddarparwr morgais neu yswiriant rhatach.

Costau dŵr

Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban.

Os nad ydych yn defnyddio llawer o ddŵr, efallai y byddwch yn medru arbed arian trwy gael mesurydd dŵr wedi ei osod.

Os oes mesurydd dŵr gennych yn barod ac mae rhywun yn eich cartref yn cael budd-daliadau, efallai y bydd yn bosib gosod terfyn ar y swm fyddwch chi’n ei dalu. Er mwyn i chi fod yn gymwys i derfyn ar eich taliadau dŵr, mae angen i chi fod yn cael budd-daliadau a hefyd naill ai:

  • bod gennych dri o blant, neu fwy, o dan 19 oed, neu
  • mae’n rhaid bod gan rywun yn eich cartref gyflwr meddygol sy’n golygu eu bod yn defnyddio llawer o ddŵr ychwanegol.

Os cewch eich derbyn, fe fydd eich costau’n cael eu cyfyngu i fil cyfartalog cartrefi sy’n cael cyflenwad gan eich cwmni dŵr, waeth faint o ddŵr fyddwch chi’n ei ddefnyddio. Cysylltwch â’ch cwmni dŵr am ffurflen gais.

Yn yr Alban, mae eich awdurdod lleol yn casglu taliadau dŵr ar yr un adeg â’ch treth gyngor. Os ydych yn ystyried cael mesurydd dŵr wedi’i osod, dylech holi Scottish Water i weld os fyddai’n opsiwn rhatach i chi na thalu taliadau i’ch awdurdod lleol.

Mae yna sawl ffordd o arbed dŵr. Am fwy o wybodaeth, rhowch glic ar wefan Cyngor Defnyddwyr Dŵr yn: (New window) www.ccwater.org.uk.

Rydych hefyd yn medru defnyddio cyfrifydd ar-lein i’ch helpu i gyfrifo i weld os fedrech chi arbed arian trwy gael mesurydd dŵr wedi’i osod. Rhowch glic ar wefan Cyngor Defnyddwyr Dŵr yn: (New window) www.ccwater.org.uk, neu rhowch glic ar wefan uSwitch yn: (New window) www.uswitch.com/water.

Efallai y byddwch yn medru cael grant i’ch helpu i dalu am eich biliau dŵr.

Am fwy o wybodaeth ynghylch grantiau i’ch helpu i dalu am eich dŵr a biliau eraill y cartref, gweler Cynyddu eich incwm.

Costau ynni

Mae yna sawl ffordd o arbed arian ar gostau tanwydd. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • gwella effeithlonrwydd ynni yn eich cartref, er enghraifft, gosod inswleiddio. Efallai y byddwch yn medru cael grant i’ch helpu i wella effeithlonrwydd ynni yn eich cartref
  • cael grant i’ch helpu i dalu eich dyledion tanwydd (Cymru, Lloegr a’r Alban yn unig)
  • talu llai i’r cwmni sy’n cyflenwi eich ynni os ydych ar incwm isel neu’n gwsmer bregus fel person hŷn neu rywun sydd â phroblemau iechyd hir dymor (Cymru, Lloegr a’r Alban yn unig)
  • newid y cwmni sy’n cyflenwi eich tanwydd (Cymru, Lloegr a’r Alban yn unig).

Am fwy o wybodaeth ynghylch grantiau i helpu gyda chostau tanwydd a thalu llai o drethi, gweler Costau tanwydd ac arbed arian.

Am fwy o wybodaeth ar sut i arbed ynni yn eich cartref, rhowch glic ar wefan y cwmni sy’n eich cyflenwi neu'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn: (New window) www.energysavingtrust.org.uk.

Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, mae mwy o wybodaeth ynghylch newid y cwmni sy’n cyflenwi eich tanwydd ar wefan y gwylgi defnyddwyr, Llais Defnyddwyr yn (New window) www.consumerfocus.org.uk.

Morgeisi ac Yswiriant

I ddarganfod mwy am sut i arbed arian ar gynnyrch ariannol fel morgeisi ac yswiriant, rhowch glic ar wefan y gwylgi ariannol, Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol yn: (New window) www.moneymadeclear.fsa.gov.uk.

Nôl i’r brig



Help ariannol ar gyfer plant oed ysgol

Os oes plant oed ysgol gennych, efallai y byddwch yn medru cael help ariannol gyda phethau fel cinio ysgol, dillad a chostau teithio. Fe fydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau ariannol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch help gyda chostau ysgol, gweler Help gyda chostau ysgol.

I gael syniadau ynghylch help ariannol gyda phlant, pobl ifanc a myfyrwyr, gweler Cynyddu eich incwm.

Nôl i’r brig



Help gyda chostau iechyd

Os nad oes llawer o arian gennych yn dod i mewn, rydych yn sâl neu’n anabl neu dros 60, efallai y byddwch yn medru cael help gyda chostau iechyd. Mae hyn yn help tuag at gostau pethau fel presgripsiynau, taliadau deintyddol, profion llygaid a theithio i’r ysbyty.

Am fwy o wybodaeth ynghylch help gyda chostau iechyd, gweler Help gyda chostau iechyd.

Nôl i’r brig



Treth ac yswiriant gwladol

Gwnewch yn siŵr eich bod yn talu’r swm cywir o dreth ac yswiriant gwladol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch talu’r swm cywir o dreth, gweler Codau treth.

Am fwy o wybodaeth ynghylch yswiriant gwladol, gweler Yswiriant gwladol – cyfraniadau a budd-daliadau.

Rydych yn medru cael help cynghorydd profiadol i weld os ydych yn talu’r swm cywir o dreth neu yswiriant gwladol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I ddod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, rhowch glic ar (New window) CAB agosaf.

Mae gwybodaeth ar hawlio ad-daliad treth incwm yr ydych wedi ei ordalu ar wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn: (New window) www.hmrc.gov.uk.

Nôl i’r brig



Cynilion

Llog di-dreth

Fel arfer, mae llog ar gynilion yn cael ei drethi. Nid oes rhaid i rai pobl dalu unrhyw dreth. Os ydych yn un o’r bobl hyn, dylech holi’ch banc neu gymdeithas adeiladu am ffurflen R85. Byddwch yn medru llenwi’r ffurflen a’i dychwelyd at eich cangen. Mae hyn yn osgoi’r angen i dalu treth ar eich cynilion. Efallai hefyd y byddwch yn medru hawlio ad-daliad am dreth yr ydych wedi ei thalu yn barod.

I ddarganfod mwy am sut i gael llog di-dreth ar gynilion a phwy sy’n medru ei gael, rhowch glic ar wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar: (New window) www.hmrc.gov.uk.

Cael y gyfradd llog orau

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y gyfradd llog orau ar eich cynilion. Darllenwch unrhyw amodau a thelerau’n ofalus i sicrhau mai dyma beth ydych chi ei eisiau. Os nad ydych yn siŵr am unrhyw beth, holwch ddarparwr y cynilion neu mynnwch gyngor ariannol annibynnol.

Efallai y byddwch yn medru cael gwybodaeth ddefnyddiol gan linell gymorth MoneyMadeClear Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol ar: 0300 500 5000, neu Typetalk – 18001 0300 500 5000. Am fwy o wybodaeth ynghylch y llinell gymorth, rhowch glic ar wefan MoneyMadeClear yn: (New window) www.moneymadeclear.fsa.gov.uk.

Rydych hefyd yn medru defnyddio tablau cymharu cynilion a buddsoddiadau MoneyMadeClear i chwilio am y fargen orau ar gynilion a buddsoddiadau. Rhowch glic ar: (New window) www.moneymadeclear.fsa.gov.uk.

Nôl i’r brig



Byw ar un car

I rai pobl, mae cael dau gar yn hanfodol. Efallai y bydd eraill yn medru ymdopi gydag un car gydag ychydig o gynllunio. Meddyliwch a oes unrhyw opsiynau eraill a faint fyddai’r gost. Ydych chi wir angen dau gar? Mae’r pethau i’w hystyried yn cynnwys:

  • a yw’r ysgol i un cyfeiriad a’r gwaith i gyfeiriad arall?
  • a oes unrhyw faterion penodol ynghylch plant neu berson gydag anabledd?
  • ydych chi angen car ar gyfer eich gwaith?
  • ydych chi wedi prynu un o’ch ceir ar gredyd sy’n cyfyngu ar eich hawl i’w werthu?

Nôl i’r brig



Siopa

Yn aml, rydych yn medru prynu pethau’n rhatach dros y rhyngrwyd nag ar y stryd fawr ond dylech fod yn ofalus iawn cyn prynu rhywbeth fel hyn. Darllenwch amodau a thelerau’r safle’n iawn i sicrhau ei fod yn cwrdd â’ch anghenion a’ch bod yn deall pa amddiffyniad sydd gennych, os oes amddiffyniad gennych, os fydd rhywbeth yn mynd o’i le.

Efallai y byddwch hefyd yn medru:

  • chwilio mewn siopau elusen a gwerthiannau ocsiwn ail law am ddodrefn a nwyddau rhatach ar gyfer y cartref
  • chwiliwch am sêl neu ffair mewn neuaddau eglwys.

Nôl i’r brig



Pobl hŷn

Trwyddedau teledu

Efallai y bydd rhai pobl hŷn yn medru cael gostyngiad ar drwydded deledu, neu drwydded deledu rhad ac am ddim.

I ddarganfod os fedrwch chi gael help gyda chost trwydded deledu, gweler Trwyddedau Teledu.

Help gyda biliau gwres

Os ydych dros 60, efallai y byddwch yn medru cael help gyda chostau biliau tanwydd dros y gaeaf.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cael help gyda chostau biliau tanwydd dros y gaeaf, gweler Costau tanwydd ac arbed arian.

Mae gan rai cwmnïau cyflenwi eu cynlluniau ad-dalu tanwydd eu hunain dros y gaeaf. Cysylltwch â’ch cwmni i weld os ydyw’n cynnig yr help hwn.

Help gyda chostau cludiant

Os ydych dros 60, efallai y byddwch yn medru cael help gyda chostau cludiant.

Am fwy o wybodaeth ynghylch help gyda chostau cludiant os ydych dros 60, gweler Trafnidiaeth gyhoeddus. Yng Ngogledd Iwerddon, rhowch glic ar: (New window) ww.nidirect.gov.uk.

Nôl i’r brig



Arbed ar gostau mynd allan

Efallai y bydd yna sawl ffordd i chi dorri yn ôl ar gostau mynd allan yn eich ardal leol. Dyma rai syniadau i roi peth ysbrydoliaeth i chi:

  • chwiliwch yn y wasg leol a chenedlaethol am gynigion arbennig ar fwyta allan, fel dau am bris un, talebau a gostyngiadau ar gyfer grwpiau penodol o bobl. Rydych hefyd yn medru tanysgrifio i (New window) www.vouchercodes.co.uk ac fe fyddwch yn cael gwybod bob wythnos am y cynigion diweddaraf
  • chwiliwch mewn amgueddfeydd, llyfrgelloedd, parciau a chanolfannau bywyd gwyllt lleol am weithgareddau rhad ac am ddim i blant a theuluoedd
  • chwiliwch yn y sinemâu, canolfannau hamdden a theatrau am brisiau gostyngol ar ddiwrnodau penodol
  • chwiliwch yng Nghanolfan Addysg Oedolion eich cyngor lleol am fanylion dosbarthiadau addysg oedolion cost isel
  • chwiliwch yn y wasg leol a chenedlaethol ac ar wefan eich awdurdod lleol am gynlluniau gostyngiad fel cardiau hamdden yr awdurdod lleol
  • os ydych ar incwm isel, yn anabl neu’n berson hŷn, efallai y byddwch yn medru teithio am bris gostyngol ar drafnidiaeth gyhoeddus yn lleol - am wybodaeth bellach gweler Trafnidiaeth gyhoeddus
  • chwiliwch i weld os fedrwch chi deithio’n rhatach drwy brynu tocyn tymor neu archebu tocynnau ymlaen llaw
  • efallai y byddwch yn medru rhannu ceir i fynd i’r gwaith – chwiliwch ar y rhyngrwyd am gynllun o’r enw ‘car share scheme’ i weld os oes unrhyw gynlluniau yn eich ardal chi
  • os ydych yn anabl, efallai y byddwch yn medru arbed ar gostau parcio trwy ymuno â chynllun bathodyn glas – am fwy o wybodaeth, gweler Trafnidiaeth gyhoeddus yn Dewisiadau trafnidiaeth ar gyfer pobl anabl
  • cymharu cost petrol mewn gorsafoedd petrol i sicrhau eich bod yn prynu’r rhataf.

Nôl i’r brig



Arbed ar gostau bwyd

Mae rhai syniadau ar gyfer arbed ar gostau bwyd yn cynnwys:

  • tyfu eich ffrwythau a’ch llysiau eich hun, naill ai yn eich gardd gefn neu mewn rhandir. Am wybodaeth ynghylch rhandiroedd, rhowch glic ar (New window) www.nsalg.org.uk. Am wybodaeth ynghylch rhandiroedd yn eich ardal chi, cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn: <http://mycouncil.direct.gov.uk/index.html>
  • cyfnewid planhigion a hadau gyda rhywun arall yn lle eu prynu. Mae yna sawl gwefan ble fedrwch chi ddarganfod sut i wneud hyn. Un enghraifft yw (New window) www.gardenswapshop.co.uk. Rhowch 'swap seeds' mewn blwch chwilio ar y rhyngrwyd i ddod o hyd i eraill
  • chwiliwch i sicrhau eich bod yn talu’r prisiau rhataf mewn siopau ac archfarchnadoedd. Chwiliwch am gynigion arbennig a bargeinion dau am bris un.

Nôl i’r brig



Help pellach

Os ydych yn ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd, mae yna sawl ffordd o gynyddu eich incwm a chael help ychwanegol. Am fwy o wybodaeth, gweler Cynyddu eich incwm.

Os ydych mewn dyled ac angen help i’w sortio, gweler Help gyda dyled.

Mae mwy o help ar gael gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol i chwilio am ffyrdd o gynyddu eich incwm, gan gynnwys sut i hawlio budd-daliadau a chredydau treth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Cyngor ariannol annibynnol

Efallai y bydd cynghorydd ariannol annibynnol yn medru eich helpu i gael mwy o’ch arian neu arbed ar gostau. Er enghraifft, efallai y bydd yn medru rhoi cyngor i chi ynghylch cael y fargen orau ar eich cynilion neu forgais. Mae’r sefydliadau canlynol yn medru eich helpu i ddod o hyd i gynghorydd ariannol annibynnol:

Independent Financial Promotions (IFAP)

Gwefan: (New window) www.unbiased.co.uk

Institute of Financial Planning (IFP)

Ffôn: 0117 945 2470
E-bost: enquiries@financialplanning.org.uk
Gwefan: (New window) www.financialplanning.org.uk

Personal Finance Society (PFS)

E-bost: customer.serv@thepfs.org
Gwefan: (New window) www.findanadviser.org

Nôl i’r brig



Nationwide logo