Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon
Mae’r wybodaeth hon yn cynnig cyngor sylfaenol ynghlyn â dyled a chanllawiau syml ar sut i ddelio gyda phroblemau ariannol. Mae’n bwysig i beidio mynd i banig pan fod trafferthion dyled yn codi, ond hefyd mae’n bwysig nad ydych yn eu hanwybyddu – ni fydd y problemau’n diflannu.
Os rydych yn poeni am sut i ddelio gyda’ch dyledion, mae na gyngor cyfrinachol ar gael heb gost.
Gall eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol gynnig cyngor i chi ar broblemau dyled. I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar
CAB agosaf.
Mae na bedwar cam y gallwch eu dilyn i’ch helpu i ddelio â dyled:
Cyn eich bod yn mynd ati i daclo problem dyled, rhaid i chi gasglu ynghyd yr holl wybodaeth am eich materion ariannol. Gwnewch restr o bawb y mae arno chi arian iddyn nhw (eich credydwyr). Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch chi ar gyfer pob dyled:
Mae’n syniad da cadw’r llythr neu’r datganiad diweddaraf am bob dyled gyda’i gilydd mewn un man fel y byddwch yn gallu dod o hyd iddynt yn hawdd pan fydd angen gwneud hynny.
Efallai y bydd rhaid i chi weithredu’n weddol gyflym os rydych wedi derbyn unrhyw bapurau neu lythyron brys o’r llys. Os nad ydych yn siwr, wrth ddarllen y papurau, beth yw eich cam nesaf, dylech sicrhau cyngor ar unwaith oddiwrth ymgynghorydd profiadaol.
Bydd eich Canolfan Cyngor ar Bopeth yn gallu eich cynghori ar broblem dyled. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar
CAB agosaf.
Unwaith eich bod chi wedi gwneud rhestr o’ch holl gredydwyr, rhaid i chi benderfynu pa rai i ddelio â gyntaf. Mae’n bwysig eich bod yn blaenoriaethu talu rhai o’ch dyledion cyn rhai eraill, gan fod y canlyniadau o beidio talu’r dyledion hyn yn fwy difrifol na pheidio â thalu dyledion eraill. Gelwir y dyledion y byddwch yn delio â nhw gyntaf yn ‘ddyledion o flaenoriaeth. Gelwir y dyledion y byddwch yn delio â nhw wedi i chi ddelio â’ch dyledion o flaenoriaeth yn ‘ddyledion di-flaenoriaeth’.
Mae dyledion sy’n flaenoriaeth yn cynnwys:
Efallai bod dyledion eraill gennych ac rydych yn credo ei bod yn arbennig o bwysig eu talu. Er enghraifft, rydych yn anabl ac yn dibynnu ar eich car i fynd o le i le, efallai y bydd yn rhaid i chi ddweud bod talu am eich car yn ddyled sy’n flaenoriaeth.
Mae angen i chi feddwl yn ofalus iawn ynghylch pa ddyledion sy’n cael blaenoriaeth. Rhaid i chi gael rhesymau da iawn, oherwdd efallai y bydd yn rhaid i chi geisio argyhoeddi llys neu eich credydwyr eraill fod y rhain yn fwy pwysig nag erail.
Mae dyledion di-flaenoriaeth yn cynnwys:
Nid yw’n bosib eich anfon i’r carchar am beidio â thalu dyledion di-flaenoriaeth. Ond os na fyddwch yn cynnig talu heb esbonio pam, gall eich credydwyr fynd â chi i’r llys. Os fyddwch yn dal i beidio â thalu wedi i’r llys eich gorchymyn i wneud, gall eich credydwyr gymryd camau pellach. Er enghraifft, gallant gael gorchymyn llys arall sy’n rhoi caniatad i feilïod ddod i’ch tŷ a mynd â’ch eiddo. Bydd yr eiddo hyn yn cael ei werthu i dalu eich dyledion.
Am ragor o wybodaeth am feilïod yng Nghymru a Lloegr, gweler Beilïod yn y ffaith-daflenni Credyd a Dyled.
Rhestrwch holl incwm a threuliau eich tŷ. Byddwch yn onest a gwnewch yn siwr bod y symiau yn rhai realistig.
O dan incwm, dylech restri:
Meddyliwch am ffyrdd y gallech ennill arian ychwanegol neu wneud eich incwm yn fwy. Efallai y gallech hawlio budd-daliadau neu gredydau treth. Mae yna wefan ddefnyddiol sy’n rhestru mudiadau sy’n rhoi grantiau i bobl sydd mewn angen. Er enghraifft, mae’n rhestru rhai elusennau sy’n rhoi grantiau i bobl i’w helpu i dalu eu biliau neu brynu eitemau hanfodol. Dyma gyfeiriad y wefan:
www.turn2us.org.uk.
O dan treuliau dylech restri:
Pan fyddwch wedi adio’r holl ffigyrau, cewch weld os oes gennych unrhyw arian ar ôl i dalu’ch dyledion. Efallai y byddwch hyd yn oed yn gallu arbed tipyn o arain. Gall asiantaeth gynghori eich helpu chi i lunio cyllideb, ac i wella’ch incwm pe bai hynny’n bosib.
Gall eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol eich helpu i lunio cyllideb ac i hawlio budd-daliadau a chredydau treth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar
CAB agosaf.
Yng Nghymru a Lloegr, gallwch brintio taflen gyllideb a fydd o gymorth i chi wrth i chi lunio cyllideb. Edrychwch ar Taflen gyllideb ar y ffaith-daflenni Credyd a Dyled.
Peidiwch ag anwybyddu llythyron neu alwadau ffôn oddiwrth eich credydwyr o flaenoriaeth. Cysylltwch â nhw cyn gynted â phosib i esbonio pam rydych mewn dyled. Os fyddwch yn eu ffonio, dylech gadarnhau mewn llythr yr hyn a ddwedwyd ar y ffôn. Cadwch gopïau o unrhyw lythyron y byddwch yn anfon atyn nhw.
Gall canolfan gynghori fel eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol eich helpu i ysgrifennu at eich credydwyr. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar
CAB agosaf.
Os fydd eich credydwyr o flaenoriaeth yn bygwth mynd â chi o flaen llys neu wedi dechrau achos llys yn eich erbyn a bod angen tipyn o amser arnoch chi i drefnu eich sefyllfa ariannol, anfonwch lythr atynt i esbonio’ch problemau. Dwedwch y byddwch yn cysylltu â nhw unwaith eto o fewn pythefnos neu dair wythnos. Gofynnwch iddynt i beidio â gwneud dim pellach yn ystod y cyfnod hwn. Am fwy ynghlyn â thrafod telerau gyda’ch credydwyr, gweler o dan y pennawd Dod i delerau â’ch credydwyr.
Pan fyddwch wedi gweithio allan faint sydd ar ôl gennych wedi i chi dalu eich costau, cysylltwch â phob un o’ch credydwyr o flaenoriaeth a cheisiwch lunio trefniant i dalu’n ôl yr arian sydd arnoch chi iddyn mhw. Er enghraifft, efallai y byddwch yn gallu talu tipyn bach yn ychwanegol bob mis tan fod y dyledion wedi eu talu’n ôl, neu efallai nad oes arian ychwanegol ar gael gyda chi ar hyn o bryd ond fe fyddwch yn derbyn taliad talp-swm mewn tri mis, ac fe fyddwch yn gallu clirio’r ddyled yn gyfangwbl.
Os nad oes modd i chi dalu dim i’ch credydwyr o flaenoriaeth a nid yw eich sefyllfa’n debyg o wella, gallai’r sefyllfa fod yn un ddifrifol iawn. Ceisiwch help ar unwaith.
Gall eich Canolfan Cyngor ar Bopeth gynnig cyngor dyled yn yr achosion yma. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar
CAB agosaf.
Ar ôl delio â’ch dyledion o flaenoriaeth, bydd angen i chi benderfynu sut i ddelio â’ch dyledion di-flaenoriaeth. Bydd sut y wnewch ddelio â’ch dyledion di-flaenoriaeth yn dibynnu ar p’un ai oes na unrhyw arian ar ôl gyda chi wedi i chi dalu eich dyledion o flaenoriaeth a’ch costau hanfodol fel costau’r tŷ a bwyd.
Os oes arian gyda chi dros ben, efallai y bydd sawl opsiwn gyda chi i ddelio â’ch dyledion di-flaenoriaeth.
Dylech bwyso a mesur manteision ac anfanteision pob un o’r opsiynau yma’n ofalus. Chwiliwch am gymaint o wybodaeth â phosib cyn eich bod yn dod i benderfyniad, a pheidiwch â llofnodi dim nes eich bod yn siwr taw dyna’r dewis gorau i chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, dylech gael cyngor.
Gall eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol helpu gyda chyngor ynghlyn â’r opsiynau hyn. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar
CAB agosaf.
Efallai bod gennych yr opsiynau hyn:
Os nad oes gennych lawer o arian, neu unrhyw arian o gwbl yn weddill wedi i chi lunio’ch cyllideb, does gennych ddim byd gwerthfawr i’w werthu a dydych chi ddim yn rhagweld bod eich amgylchiadau’n debyg o newid yn y dyfodol agos, mae eich dewis o sut i ddelio â’ch dyledion di-flaenoriaeth yn un cyfyng.
Dyma’r opsiynau sy’n agored i chi:
Gelwir unrhyw arian sydd yn weddill ar ôl i chi dalu eich treuliau a’ch credydwyr o flaenoriaeth yn incwm sydd ar gael. Gallwch ddefnyddio hwn i dalu’ch credydwyr di-flaenoriaeth.
Dylech rannu’r incwm sydd ar gael rhwng eich credydwyr di-flaenoriaeth mewn ffordd deg. Golyga hyn y dylech gynnig canran o’r incwm sydd ar gael i bob credydwr, yn seiliedig ar y swm sy’n ddyledus iddynt. Gelwir cynigion o’r math hyn yn gynigion pro-rata.
Er mwyn gweithio allan eich cynigion pro-rata, dechreuwch wrth luosi pob dyled unigol wrth eich incwm sydd ar gael. Yna, rhannwch y swm hwn gyda’r cyfanswm sy’n ddyledus i’ch holl gredydwyr di – flaenoriaeth.
Esiampl:
Mae cyfanswm eich dyledion yn £15,000. Mae’r incwm sydd ar gael yn £200 y mis. Mae arnoch chi £10,000 i gwmni cerdyn credyd A a £5,000 i gwmni cerdyn credyd B.
Cwmni credyd A
Lluoswch £10,000 (y ddyled i gwmni A) gyda £200 (yr incwm sydd ar gael). Mae hyn yn dod i £2,000,000.
Rhannwch hyn gyda £15,000 (cyfanswm eich dyled). Mae hyn yn rhoi i chi’r swm o £133 y mis i gynnig i gwmni A.
Cwmni credyd B
Lluoswch £5,000 (y ddyled i gwmni A) gyda £200 (yr incwm sydd ar gael). Mae hyn yn dod i £1,000,000.
Rhannwch hyn gyda £15,000 (cyfanswm eich dyled). Mae hyn yn rhoi i chi’r swm o £66 y mis i gynnig i gwmni B.
Dyma’r system sy’n cael ei ddefnyddio gan y llysoedd i weithio allan faint y gallwch yn resymol fforddio ei dalu, ac y mae’r rhan fwyaf o gredydwyr yn ei dderbyn.
Bydd angen i chi ysgrifennu at pob credydwr. Anfonwch gopi o’ch cyllideb bersonol atynt, ynghyd â rhestr o’ch credydwyr eraill i ddangos iddynt sut rydych wedi gweithio allan eich cynigion. Gwnewch yn siwr eich bod yn cadw copi o bopeth y byddwch yn anfon at eich credydwyr.
Does dim rhaid i gredydwyr dderbyn eich cynigion ond fel arfer byddant yn eu derbyn os fydd y swm sydd yn cael ei gynnig yn ymddangos yn un teg. Yn aml, bydd credydwyr am edrych ar eich cynnig unwaith eto ar ddiwedd cyfnod penodol, er enghraifft chwe mis, i weld os fydd eich sefyllfa wedi gwella.
Os na fydd credydwyr yn cytuno ar eich cynnig, a rydych ddim yn gallu eu perswadio i wneud, gallant gymryd camau pellach.
Am fwy ynghlyn â thrafod telerau gyda’ch credydwyr, gweler y pennawd Trafod telerau gyda Chredydwyr.
Os oes angen mwy o help arnoch chi i wneud cynigion i gredydwyr, dyllech ofyn am gyngor oddiwrth ymgynghorydd profiadol.
Gall eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol helpu chi pan fyddwch yn trafod telerau gyda’ch credydwyr. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar
CAB agosaf.
Os oes gennych ddigon o arian ar ôl wedi i chi dalu’ch credydwyr o flaenoriaeth a’ch treuliau hanfodol, mae’n bosib y byddwch yn gallu trefnu cynllun reoli dyled.
Trefniant gyda’ch credydwyr i dalu’ch dyled yn ôl mewn rhan-daliadau cyson yw cynllun reoli dyled. Bydd Cwmni Reoli Dyled (DMC) yn trefnu’r cynllun ar eich rhan, fel nad oes rhaid i chi siarad yn uniongyrchol gyda’ch credydwyr. Fel arfer, fydd rhaid i chi dalu am y gwasanaeth yma er bod rhai cwmnïau DMC yn gwneud y gwaith am ddim.
Dyma fanteision defnyddio DMC:
Fodd bynnag, mae na anfanteision o ddefnyddio DMC:
Os fyddwch yn defnyddio DMC, gwiriwch y cytundeb yn ofalus cyn i chi lofnodi dim. Gwiriwch:
Os fyddwch yn ystyried defnyddio gwasanaeth DMC, dylech gael cyngor oddiwrth cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar
CAB agosaf.
Os oes digon o arian gyda chi dros ben ar ôl i chi dalu’ch dyledion o flaenoriaeth a’ch treuliau hanfodol, efallai y gallwch wneud cais i’r llys i gyfuno’ch holl ddyledion di-flaenoriaeth mewn un taliad misol fforddadwy. Gelwir hyn yn Orchymyn Gweinyddu.
Gallwch wneud cais am Orchymyn Gweinyddu os fydd swm eich dyledion yn is na £5,000 a bod gennych Ddyfarniadau y Llys Sirol (CCJ) yn eich erbyn.Y llys fydd yn penderfynu ar faint sy'n swm teg a fydd hyn yn dibynnu ar eich incwm. Mae'r llys yn gallu cytuno eich bod yn talu ond rhan o'r ddyled. Gelwir hyn yn Orchymyn Cyfrandalu.
Unwaith bod y llys wedi cytuno i’r gorchymyn, byddwch yn gwneud taliadau cyson i’r llys, a thra eich bod yn cadw at y taliadau, ni all eich credydwyr gymryd unrhyw gam arall i gael yr arian yn ôl.
Gallwch gael ffurflen gais Gorchymyn Gweinyddu o’ch Llys Sirol lleol. Does dim rhaid i chi dalu ffî i wneud cais am Orchymyn Gweinyddu. Bydd y llys yn tynnu’r ffî gweinyddu o bob taliad.
Os fyddwch yn ystyried gwneud cais am Orchymyn Gweinyddu, dylech gael cyngor oddiwrth cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar
CAB agosaf.
Os oes digon o arian gyda chi dros ben ar ôl i chi dalu’ch dyledion o flaenoriaeth a’ch treuliau hanfodol, efallai y gallwch drefnu Trefniant Gwirfoddol Unigol (IVA).
Cytundeb Cyfreithiol gyda chredydwyr (fel arfer credydwyr di-flaenoriaeth) i ad-dalu’ch dyledion yw IVA. Gall hwn fod yn ad-daliad llawn neu’n rhan ad-daliad. Cyfreithiwr neu gyfrifydd annibynnol a elwir yn Weithredwr Ansolfedd sy’n gyfrifol am drafod telerau’r cytundeb, ei ysgrifennu a’i wirio’n gyson. Does dim rhaid i’ch holl gredydwyr gytuno i IVA tra bod 75% o’r credydwyr rydych yn dyledus iddynt gytuno.
Esiampl:
Mae gennych gyfanswm o £100,000 o ddyled. Rydych yn ddyledus i dri chredydwr:
Credydwr A (£6,000)
Credydwr B (£70,000)
Credydwr C (£20,000)
Nid yw Credydwr C yn cytuno ar IVA ond does dim gwahaniaeth gan fod Credydwyr A a B yn cytuno, a mae ganddynt fwy na 75% o’r ddyled. Bydd rhaid i Gredydwr C gadw at dermau’r IVA.
Gall costau trefnu IVA fod yn uchel ac efallai y bydd rhaid i chi dalu ffî ymlaen llaw. Os nad ydych yn cadw at eich taliadau, mae’n bosib eich gwneud yn fethdalwr.
Os rydych yn credu bod gwneud cais am Drefniant Gwirfoddol unigol (IVA) yn opsiwn i chi, dylech gael cyngor oddiwrth cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar
CAB agosaf.
Os oes digon o arian gyda chi dros ben ar ôl i chi dalu’ch dyledion o flaenoriaeth a’ch treuliau hanfodol, gallech ystyried codi benthyciad i dalu’ch dyledion di-flaenoriaeth. Gelwir hyn yn fenthyciad cydgyfnerthu. Gallwch ddefnyddio benthyciad cydgyfnerthu i dalu pethau fel dyledion a benthyciadau ar gardiau credyd.
Nid yw’n syniad da fel arfer i fenthyg mwy o arian i ad-dalu eich dyledion presennol gan fod hyn yn gallu gwneud y sefyllfa’n waeth a chostio mwy yn yr tymor hir. Bydd llawer o gredydwyr yn disgwyl i’r benthyciad newydd gael ei sicrhau yn erbyn eich tŷ. Golyga hyn y gallech golli’ch tŷ pe na fyddech yn cadw at eich taliadau.
Fodd bynnag, os rydych yn gallu fforddio’r ad-daliadau, mae gennych gyllid cyson a rydych yn medru rheoli eich gwario, gallai’r opsiwn yma fod yn un i’ch siwtio chi.
Os rydych yn ystyried benthyg arian i dalu’ch dyledion:
Os fyddwch yn codi benthyciad cydgyfnerthu, byddwch yn ofalus nad ydych yn gorffen gyda mwy o ddyled nag yr oedd gennych i ddechrau.
Mynnwch gyngor oddiwrth ymgynghorydd cyllid annibynnol cyn llofnodi cytundeb am fenthyciad newydd. Gwnewch yn siwr bod yr ymgynghorydd cyllid wedi’i reoli gan Awdurdod y Gwasanaethau Cyllidol (FSA). Gallwch wirio hyn drwy edrych ar wefan y FSA yn
www.moneymadeclear.fsa.gov.uk.
Mae’r sefydliadau canlynol yn medru eich helpu i ddod o hyd i gynghorydd ariannol annibynnol:
Independent Financial Promotions (IFAP)
Gwefan:
www.unbiased.co.uk
Institute of Financial Planning (IFP)
Ffôn: 0117 945 2470
E-bost: enquiries@financialplanning.org.uk
Gwefan:
www.financialplanning.org.uk
Personal Finance Society (PFS)
E-bost: customer.serv@thepfs.org
Gwefan:
www.findanadviser.org
Mewn achosion eithriadol, gall eich credydwyr gytuno i ddileu eich dyled neu stopio unrhyw weithredu. Mae hyn yn fwyaf tebygol o ddigwydd os rydych ar incwm isel ac mae eich sefyllfa’n un arbennig o anodd ac yn annhebygol o wella. Er engraifft, efallai bod gennych broblemau iechyd difrifol hirdymor, neu rydych yn oedrannus iawn.
Fel arfer, bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth sy’n profi’ch sefyllfa, er enghraifft, tystiolaeth feddygol, cyn y bydd credydwyr yn cytuno. Os fydd eich credydwyr yn cytuno, gofynnwch iddynt am gofnod ysgrifenedig o hyn.
Efallai bydd rhai credydwyr am i ymgynghorydd wneud y cais hwn ar eich rhan. Gall eich Canolfan Cyngor ar Bopeth wneud y cais ar eich rhan.I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar
CAB agosaf.
Mae Gorchmynio Gostwng Dyled ar gael yng Nghymru a Lloegr yn unig.
Mae gorchymyn gostwng dyled (GGD) yn orchymyn y byddwch efallai’n medru ceisio amdano os nad ydych yn medru fforddio ad-dalu’ch dyledion. Y Gwasaneth Methdaliad sy’n ei rhoi ac mae’n opsiwn rhatach na mynd yn fethdalwr.
Fel arfer, mae’n para am flwyddyn ac yn ystod y cyfnod yma nid oes unrhyw rai o’ch credydwyr yn medru cymryd camau yn eich edrbyn i gael eu harian yn ôl. Ar ddiwedd y flwyddyn, rydych yn rhydd o’r holl ddyledion a restrwyd yn y gorchymyn.
Rydych yn gymwys ar gyfer GGD os ydych yn cwrdd â’r amodau canlynol:
Mae’n costio £90 i geisio am GGD. Rydych yn medru talu’r ffi hwn mewn rhandaliadau dros gyfnod o chwe mis.
I geisio am GGD, fe fydd angen i chi gysylltu â chynghorydd dyled arbenigol sy’n medru ceisio am orchymyn ar eich rhan ac sy’n sicrhau eich bod yn cwrdd â’r amodau.
Mae eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol yn medru dod â chi i gysylltiad â chynghorydd awdurdodedig. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar
CAB agosaf.
Yng Nhymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth ynghylch GGDau, gweler Gorchmynion Gostwng Dyled.
Os nad oes gennych unrhyw arian yn weddill yn eich cyllideb, neu fod y swm mor fach fel y bydd hi’n cymryd blynyddoedd lawer i ad-dalu’r ddyled, efallai y byddwch am ystyried yr opsiwn o fynd yn fethdalwr.
Mae mynd yn fethdalwr yn gallu golygu bod y pwysau y mae eich credydwyr yn dodi arnoch yn codi. Mae gennych yr hawl i gadw rhai pethau fel nwyddau’r tŷ a swm resymol i gynnal eich hunan. Pan fydd y gorchymyn methdaliad drosodd, gallwch ddechrau o’r newydd a fel arfer bydd eich dyledion yn cael eu dileu. Mewn llawer achos, gall hyn ddigwydd ar ôl cyn lleied â blwyddyn. Yn dilyn gorchymyn methdaliad, mae’n rhaid i gredydwyr stopio y rhan fwyaf o fathau o achosion llys i adennill eu harian (ond mewn rhai achosion, fydd y beilïod yn dal i fod yn gallu mynd â’ch eiddo).
Fodd bynnag, mae na anfanteision o fod yn fethdalwr:
Am fwy o wybodaeth am Fethdaliad yng Nghymru a Lloegr, gweler Methdalaid yn y ffaith-daflenni Credyd a Dyled.
Os rydych yn ystyried mynd yn fethdalwr, dylech gael cyngor oddiwrth ymgynghorydd profiadol.Gall eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol eich cynghori ar fethdaliad. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar
CAB agosaf.
Mae gennych yr hawl i drafod telerau gyda’ch credydwyr a bydd y rhan fwyaf o gredydwyr yn fodlon ystyried unrhyw gais neu gynnig rhesymol a wnewch. Ambell waith, bydd rhaid i chi gysylltu sawl gwaith gyda’ch credydwyr cyn y byddant yn cytuno â’ch cais.
Mae’r hyn y byddwch yn gofyn i’ch credydwyr am yn dibynnu ar:
Mae’n bwysig bod eich credydwyr yn gallu gweld bod yr hyn rydych yn gofyn amdano yn rhesymol yn yr amgylchiadau. Felly, gwnewch yn siwr eich bod yn:
Byddwch yn barod i gysylltu mwy nag unwaith gyda’ch credydwyr.
Cadwch gopïau o’ch holl lythyron at eich credydwyr ynghyd â’i hatebion a nodyn o unrhyw alwadau ffôn gyda nhw, rhag ofn y bydd eu hangen arnoch chi nes ymlaen.
Peidiwch â chael eich temtio i gynnig mwy nag y gallwch ei fforddio os bydd credydwyr yn lletchwith. Os na fydd credydwyr yn cytuno wedi i chi geisio sawl gwaith, mynnwch help oddiwrth ymgynghorydd.
Gall eich canolfan Cygnor ar Bopeth leol eich helpu i drafod telerau gyda’ch credydwyr. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar
CAB agosaf.
Hyd yn oed os ydych yn credu eich bod wedi anfon yr holl wybodaeth sy’n angenrheidiol at eich credydwyr, ambell waith byddwch yn ffeindio na fydd credydwyr am dderbyn eich cynnig ar y dechrau. Efallai y bydd credydwyr yn ceisio ffeindio rhesymau i ddodi pwysau arnoch chi i dalu mwy nag y gallwch ei fforddio, neu fydd un credydwr yn gofyn i chi dalu mwy nag rydych yn talu i gredydwyr eraill. Os fyddwch yn gweld hyn yn digwydd, dylech fynnu cyngor. Os yw'r credydwr yn ymddwyn ym ymosodol, mae hyn yn medru bod yn drosedd.
Efallai bod credydwr sy’n ymddwyn yn dreisgar, yn fenthyciwr arian anghyfreilon. Rhaid bod gan fenthycwyr arian drwydded gan Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol (yr FSA). Os nad oes trwydded ganddynt, maen nhw’n gweithredu’n anghyfreithlon.
Yn Lloegr, os ydych yn credu bod benthyciwr arian yn gweithredu heb drwydded, fe fyddwch yn medru dweud wrth Linell Gymorth sy’n cael ei rhedeg gan y Prosiect Benthyca Arian yn Anghyfreithlon a ariennir gan y llywodraeth. Mae pobl sy’n rhedeg y Llinell Gymorth yn medru rhoi cyngor i chi ynghylch eich sefyllfa ac yn medru ymchwilio i’r benthyciwr arian. Rhif ffôn y Llinell Gymorth yw 0300 555 2222.
Yng Nghymru, fe fyddwch yn medru dweud wrth Uned Benthyca Arian yn Anghyfreithlon Cymru am unrhyw bryderon am y benthyciwr arian. Mae’r Uned yn gweithredu llinell gymorth gyfrinachol 24 awr y dydd, ar: 0300 123 33 11.
Rydych yn medru darganfod a yw benthyciwr arian wedi ei drwyddedu drwy edrych ar Gofrestr Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol yn:
www.moneymadeclear.fsa.gov.uk.
Efallai y bydd credydwyr yn codi sialens i’ch cyllideb a honni eich bod yn gallu talu mwy na’r hyn a gynigir. Yn yr achosion hyn, bydd rhaid i chi gynnig tystiolaeth o’ch incwm ar ffurf papurau pae neu fanylion eich budd-daliadau, a thystiolaeth o’ch treuliau, er enghraifft, copïau o filiau tanwydd a manylion o daliadau rhent neu forgais.
Os nad ydych yn hyderus ynghlyn â thrafod telerau gyda’ch credydwyr, neu os rydych yn cael hi’n anodd trafod telerau gyda nhw, dylech gael cyngor.
Gall eich canolfan Cymorth ar Bopeth leol eich helpu i drafod telerau gyda’ch credydwyr. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar
CAB agosaf.
Os na fydd credydwyr yn ymateb i’ch cynigion, talwch yr hyn rydych yn gallu ei fforddio beth bynnag, a mynnwch gyngor.
Gall eich canolfan Cymorth ar Bopeth leol eich helpu i drafod telerau gyda’ch credydwyr. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar
CAB agosaf.
Os yw eich credydwyr yn eich poeni, mynnwch gyngor ynghylch beth ddylech chi ei wneud, oherwydd efallai y bydd y credydwr yn troseddu.
Gall eich canolfan Cymorth ar Bopeth leol eich helpu os yw'ch credydwyr yn eich poeni. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar
CAB agosaf.
Nid oes sicrwydd o ganlyniad ffafriol hyd yn oed os fydd asiantaeth gynghori neu Gwmni Reoli Dyled yn trafod telerau gyda’ch credydwyr. Yn yr un modd, os fydd credydwyr yn cytuno i gynllun talu ac eich bod chi’n cadw at y cynllun, nid yw hyn yn rhwystro’ch credydwyr rhag cymryd achos llys yn eich erbyn. Mae hi felly’n bwysig iawn nad ydych yn anwybyddu unrhyw lythron o’ch credydwyr hyd yn oed os rydych yn credu bod cytundeb wedi’i wneud. Gwnewch yn siwr bod eich ymgynghorydd neu DMC yn gweld unrhyw lythyron y bydd eich credydwyr yn anfon i’ch cartre, ac os fydd hi’n edrych yn debyg bod credydwr yn torri cytundeb, mynnwch gyngor ar unwaith.
Gall eich canolfan Cymorth ar Bopeth leol eich helpu os fydd credydwr yn codi achos yn eich erbyn hyd yn oed pan fod cytundeb gennych i dalu ôl-ddyledion mewn rhandaliadau. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar
CAB agosaf.
Pan fyddwch chi ar ei hôl hi gyda benthyciad, disgwylir i gredydwyr eich trin chi’n deg pan fyddan nhw’n trafod gyda chi neu’n ceisio casglu’r dyledion. Er enghraifft, nid ydynt yn cael eich dychryn, aflonyddu arnoch na smalio fod ganddyn nhw fwy o bwerau cyfreithiol nag sydd ganddyn nhw mewn gwirionedd.
Hefyd, nid yw credydwyr yn cael gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb neu grefydd. Rhaid i gasglwr dyled fod yn ofalus iawn wrth ddelio gyda rhywun sydd a salwch corfforol neu feddyliol. Er enghraifft, ni ddylai casglwr dyled barhau gydag ymweliad â chartref os ydyw’n amlwg fod rhywun yn dioddef o salwch meddwl.
Os ydych yn credu eich bod yn cael eich trin yn annheg gan gredydwr neu gasglwr dyled, neu os nad ydyw’n cadw at y rheolau, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar
CAB agosaf.
Mae yna reolau hefyd sy’n berthnasol fudiadau eraill sy’n casglu dyledion, fel cynghorau lleol cwmnïau nwy a thrydan a chwmnïau cerdyn credyd.
Rhaid i gynghorau eich trin chi’n deg. Er enghraifft, os ydych yn denant i’r cyngor ac mae gennych ddyledion rhent, mae’n rhaid i’r cyngor geisio dod i gytundeb gyda chi i wneud ad-daliadau fforddiadwy a’ch helpu chi i hawlio Budd-dal Tai cyn y bydd yn medru dechrau unrhyw gamau i’ch troi chi allan o’ch cartref.
Hefyd, ni ddylent wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb neu grefydd. Mae gan lawer o gynghorau bolisi hefyd sy’n nodi na fyddan nhw’n gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd pethau eraill fel p‘un ai fod gennych HIV neu gyfrifoldebau gofal. Os ydych yn teimlo eich bod wedi cael eich trin yn annheg neu wedi dioddef gwahaniaethu gan eich cyngor, darllenwch ei bolisi a chwynwch.
Rwy’n denant i’r cyngor. Fe gefais anhawster talu fy rhent am fy mod i allan o waith. Rwyf wedi ceisio hawlio Budd-dal Tai, ond mae gen i ddyslecsia, rwy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl ac yn methu â llenwi’r ffurflenni. Nawr, mae’r Cyngor yn mynd â mi i’r llys ac yn ddweud ei fod am fy nhroi i allan. Beth fedrai wneud?
Mae yna reolau ynghylch yr hyn y mae’n rhaid i’r cyngor ei wneud cyn y bydd yn medru dechrau camau i’ch troi chi allan. Os ydych chi allan o waith, fwy na thebyg y bydd hawl gennych i Fudd-dal Tai a dylai’r cyngor fod wedi eich helpu i’w hawlio. Hefyd, am fod gennych ddyslecsia a phroblemau iechyd meddwl, fwy na thebyg fod hyn yn cyfrif fel gwahaniaethu ar sail anabledd. Mynnwch gyngor gan gynghorydd profiadol a fydd yn eich helpu i hawlio Budd-dal Tai ac yn sicrhau bod y cyngor yn stopio unrhyw gamau i’ch troi chi allan hyd nes bydd hyn wedi’i sortio.
Os oes dyledion nwy neu drydan gennych, dylai’r cwmni sy’n eich cyflenwi gynnig trefniant i chi i dalu’r dyledion ar gyfradd y byddwch yn medru ei fforddio, neu osod mesurydd rhagdaliad. Rhaid iddynt gynnig amddiffyniad arbennig i gwsmeriaid sy’n methu â thalu oherwydd anffawd neu anallu i ymdopi, ac nid ydynt yn cael datgysylltu rhai grwpiau o gwsmeriaid bregus, fel pobl oed pensiwn neu bobl sydd ag afiechyd hir dymor.
Os oes dyledion cerdyn credyd gennych ac nid yw’r ddyled wedi cael ei phasio at gasglwr dyledion, rhaid i’r cwmni cerdyn credyd gadw at reolau’r cod ymarfer. Er enghraift, os ydych yn cael trafferth ad-dalu’r arian sy’n ddyledus ar eich cerdyn credyd ac rydych yn gofyn am gyngor gan aiantaeth ddyled nid-am-elw fel canolfan Cyngor ar Bopeth, fe fyddan nhw’n aros am hyd at 60 diwrnod cyn casglu’r dyled.
Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth ynghych dyledion rhent, gweler Dyledion Rhent yn y Taflenni ffeithiau ar gredyd a debyd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch pwy sydd wedi’u hamddiffyn rhag datgysylltiad nwy a thrydan, gweler Dyledion nwy a datgysylltu yn Cyflenwad nwy a Dyledion ac osgoi datgysylltu yn Cyflenwad trydan.
Os ydych yn credu nad yw credydwr neu gasglwr dyled yn eich trin yn deg neu os nad yw’n cadw at y rheolau, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar
CAB agosaf.
Rhaid i chi fod yn ymwybodol y bydd rhai o’r opsiynau i ddelio â dyled yn cael effaith ar eich cofnod credyd. Bydd hyn yn golygu ei bydd hi’n anoddach i chi dderbyn credyd yn y dyfodol, gan gynnwys codi morgais neu hyd yn oed cael cytundeb ffôn symudol.
Y rheswm am hyn yw bod manylion am eich sefyllfa ariannol yn cael eu casglu a’u storio ar ffeil gan asiantaethau cyfeirio credyd. Maen nhw’n trosglwyddo’r wybodaeth yma i fenthcwyr megis banciau, cymdeithasau adeiladu, tai cyllid a masnachwyr mawr. Bydd y benthyciwr yn defnyddio’r wybodaeth yma er mwyn penderfynu cynnig credyd i chi neu beidio.
Mae’r wybodaeth sy’n cael ei gadw gan asiantaethau cyfeirio credyd yn cynnwys:
Am ragor o wybodaeth ar asiantaethau cyfeirio credyd, gweler Cael eich gwrthod am Gredyd yn Credyd.Yng Nghymru ac yn Lloegr, gweler hefyd Sut mae Dyfarniadau Llys y Sir yn effeithio ar eich gallu i gael credyd yn y ffaith-taflenni Credyd a Dyled.
Os rydych yn cael trafferth i ddelio gyda phroblemau dyled, dylech gael help arbenigol. Cyn gweld ymgynghorydd, casglwch eich papurau cyllid at eu gilydd. Dylai’r rhain gynnwys:
Os fydd rhaid i chi aros am apwyntiad gydag arbenigwr, efallai y byddai’n ddefnyddiol i hysbysu credydwyr eich bod wedi cysylltu â chynghorwr i gael help. Mae’r rhan fwyaf o gredydwyr yn croesawu’r ffaith bod ymgynghorwr arbenigol yn ymwneud â’r mater. Mae’n bosib y byddant yn fodlon gohirio unrhyw weithredu fel eich bod yn gallu dod i gytundeb.
Gall Canolfannau Cyngor ar Bopeth gynnig cyngor am broblemau dyled. Os fydd yr achos yn un cymhleth iawn, byddant fel arfer yn gallu eich cyfeirio at arbenigwr cyngor ariannol.
I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar
CAB agosaf.
Mae help gyda phroblemau ar gael o ganolfannau Cyngor Arian neu Ganolfannau’r Gyfraith.
Gallwch ddod o hyd i gyfeiriadau a rhifau ffôn Canolfannau Cyngor Arian a Chanolfannau’r Gyfraith yn y llyfr ffôn, neu gallwch edrych ar wefan Cyngor Cyfreithiol Cymunedol yn:
www.communitylegaladvice.org.uk.
Gall gwefan Ffederasiwn Canolfannau’r Gyfraith eich helpu i ffeindio’ch Canolfan y Gyfraith agosaf. Ewch i
www.lawcentres.org.uk.
Gall y Linell Ddyled Genedlaethol gynnig gwybodaeth am ddim i bobl sy’n byw yng Nghymru a Lloegr. Mae hefyd yn cynnig pecyn gwybodaeth ar sut i ddelio â dyled. Mae’r linell ar agor o 9.00 tan 9.00 ddydd Llun i ddydd Gwener, ac o 9.30 tan 1.00 ar ddydd Sadwrn. Rhif ffôn y Linellddyled Genedlaethol yw 0808 808 4000 a cyfeiriad eu gwefan yw
www.nationaldebtline.co.uk.
Mae gan Gyngor Cyfreithiol Cymunedol linell gymorth dros y ffôn sy’n cynnig cyngor i bobl sydd mewn dyled ac sydd ar incwm isel neu fudd-daliadau. Mae yna help ar gael hefyd ar nifer o destunau eraill gan gynnwys cyflogaeth budd-daliadau, credydau treth a thai.
Rhif ffôn y llinell gymorth yw 0845 345 4 345. Mae ar agor o 9yb-6:30yh o Ddydd Llun i Ddydd Gwener. Tu allan i’r oriau hyn, rydych chi’n medru gadael neges ac fe fyddan nhw’n eich ffonio chi nôl y diwrnod gwaith nesaf. Nid yw galwadau’n cynnwys mwy na 4c y funud o linell ddaearol BT ond fel arfer mae galwadau o ffôn symudol yn costio mwy.
Mae mwy o wybodaeth ar wefan Cyngor Cyfreithiol Cymunedol ynghylch delio gyda dyled, gan gynnwys gwybodaeth mewn ieithoedd eraill a nifer o daflenni sydd ar gael mewn Braille ac fel tâp sain. Cliciwch ar:
www.communitylegaladvice.org.uk.
Yng Nghymru a Lloegr, mae Business Debtline yn wasanaeth cynghori penodol i fusnesau bach. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ar eu gwefan yn
www.bdl.org.uk neu drwy eu ffonio ar 0800 197 6026.
Rhwydwaith o asiantaethau cynghori wedi’i lleoli yng Ngogledd Iwerddon yw Adviceni. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ar eu gwefan
www.adviceni.net neu drwy eu ffonio ar 028 9064 5919.