Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru a Lloegr
Os oes ôl-ddyledion gennych ar eich morgais, fe fydd eich benthyciwr morgeisi am i chi eu clirio.
Os nad ydych yn medru eu clirio, fe fydd eich benthyciwr yn ceisio eich cael chi allan o’ch cartref. Gelwir hyn yn cymryd meddiant. Mae’n eu galluogi nhw i werthu eich eiddo a defnyddio’r arian o’r gwerthiant i helpu ad-dalu’r ddyled.
Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych:
Rhaid i’ch benthyciwr fynd trwy’r llysoedd cyn iddynt fedru cael meddiant o’ch eiddo. Gelwir hyn yn gamau meddiannu.
Ni ddylai’ch benthyciwr morgeisi ddechrau cymryd camau yn eich erbyn i feddiannu eich eiddo heb roi cyfle rhesymol i chi wneud trefniadau i ad-dalu’r ôl-ddyledion, os ydych yn medru gwneud hynny.
Am fwy o wybodaeth ynghylch yr hyn y mae’n rhaid i’ch benthyciwr morgeisi ei wneud cyn iddynt ddechrau cymryd camau meddiannu, gweler Beth sy’n digwydd pan fydd eich benthyciwr morgeisi’n mynd â chi i’r llys.
Os yw’ch benthyciwr yn dechrau cymryd camau i feddiannu eich cartref, fe fyddwch yn cael cais i feddiannu eiddo gan y llys sirol. Fe fydd hyn yn rhoi manylion i chi ynghylch y gwrandawiad llys, a manylion llawn yr achos yn eich erbyn.
Am fwy o wybodaeth ynghylch y cais am gael meddiannu eiddo, a sut i’w amddiffyn, gweler Beth sy’n digwydd pan fydd eich benthyciwr morgeisi’n mynd â chi i’r llys.
Yn ystod y gwrandawiad llys, fe fydd barnwr yn penderfynu p’un ai ei fod am roi meddiant o’ch cartref i’ch benthyciwr.
Fe fydd hyn yn dibynnu p’un ai eich bod yn medru dod i gytundeb gyda’ch benthyciwr i ad-dalu’r ôl-ddyledion ai peidio.
Os ydych yn medru gwneud cynnig derbyniol i ad-dalu’r ôl-ddyledion, fe fydd y llys yn gwneud gorchymyn ildio meddiant ataliedig. Mae hyn yn golygu, tra’ch bod yn cadw at delerau’r gorchymyn, y byddwch yn medru aros yn eich cartref.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gorchmynion ildio meddiant ataliedig, gweler Beth sy’n digwydd pan fydd eich benthyciwr morgeisi’n mynd â chi i’r llys.
Ond, os yw’r barnwr yn penderfynu nad ydych yn medru gwneud cynnig derbyniol i ad-dalu’r ôl-ddyledion, efallai y bydd yn gwneud gorchymyn ildio meddiant llawn. Mae hwn yn orchymyn sy’n dweud bod eich benthyciwr yn medru cael meddiant o’ch eiddo ac y byddwch yn gorfod ei adael erbyn dyddiad penodol.
Os nad ydych wedi gadael eich cartref erbyn y dyddiad ar y gorchymyn ildio meddiant llawn, fe fydd angen i’ch benthyciwr morgeisi gyflwyno cais i’r llys am warant feddiannaeth cyn y gellir eich troi chi allan o’ch cartref.
Efallai bod amser o hyd cyn cyhoeddi gwarant feddiannaeth, er mwyn i chi gymryd camau a fydd yn eich galluogi chi i aros yn eich cartref.
Er bod y llys wedi rhoi meddiant o’ch cartref i fenthyciwr morgeisi, efallai na fydd yn rhy hwyr o hyd i’w atal rhag eich troi chi allan.
Efallai y byddwch yn medru gofyn i’r llys roi gorchymyn arall yn eich galluogi chi i aros yn eich cartref. Efallai y byddwch yn medru gwneud hyn hyd yn oed os yw’ch benthyciwr morgeisi wedi cael gwarant feddiannaeth.
Os ydych yn y sefyllfa hon, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Efallai y byddwch yn medru gofyn i’r llys i:
Ar ôl i’r llys wneud gorchymyn ildio meddiant llawn, efallai y byddwch yn credu eich bod yn medru gwneud cynnig i ad-dalu’r ôl-ddyledion. Yn yr achos hwn, fe fyddwch yn medru ceisio i’r llys am gael gohirio’r gorchymyn. Er mwyn gwneud hyn, dylech ofyn i’r llys am ffurflen N244. Os yw’ch cais yn dderbyniol, fe fydd y llys yn gwneud gorchymyn ildio meddiant ataliedig.
Os ydych yn credu bod y barnwr yn anghywir i wneud gorchymyn ildio meddiant, efallai y byddwch yn medru apelio i lys uwch. Efallai y byddwch yn medru gwneud hyn os nad ydych yn credu eu bod wedi dilyn y gweithdrefnau cywir, os na ddefnyddiwyd y gyfraith yn iawn neu roedd y ffeithiau a ddefnyddiwyd gan y barnwr i ddod i benderfyniad yn y gwrandawiad yn anghywir. Mae yna derfyn amser o 21 diwrnod i geisio.
Os ydych yn credu bod rhesymau gennych dros apelio, dylech gael cyngor cyfreithiol arbenigol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i gael cyngor cyfreithiol, gweler Defnyddio cyfreithiwr.
Mae canolfan Cyngor ar Bopeth hefyd yn medru rhoi cyngor i chi ynghylch sut i ddod o hyd i gyngor cyfreithiol arbenigol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Efallai y byddwch yn medru ceisio i roi’r gorchymyn ildio meddiant i’r naill ochr. Er enghraifft, os oedd rheswm da gennych dros beidio â mynychu’r gwrandawiad ac mae gennych amddiffyniad yn erbyn y cais.
Os ydych yn credu bod gennych resymau dros roi’r gorchymyn i’r naill ochr, dylech gael cyngor cyfreithiol arbenigol.
Os yw’r llys wedi rhoi gorchymyn ildio meddiant llawn i’ch benthyciwr morgeisi, fe fydd y gorchymyn yn rhoi dyddiad i chi a dylech adael eich cartref erbyn y dyddiad yma. Fel arfer, mae’r dyddiad hwn 28 diwrnod ar ôl y gwrandawiad. Rydych yn medru gofyn i’r llys ymestyn y cyfnod hwn. Efallai y byddwch am wneud hyn os fyddwch chi angen mwy o amser i ddod o hyd i rywle arall i fyw, er enghraifft.
Mae eich benthyciwr hefyd yn medru gwneud cais am warant feddiannaeth os oes gorchymyn ildio meddiant ataliedig ganddo ac nid ydych wedi cadw at delerau’r gorchymyn.
Nid oes rhaid i chi adael erbyn y dyddiad ar y gorchymyn ildio meddiant. Os nad ydych wedi gadael erbyn y dyddiad hwn, rhaid i’ch benthyciwr gyflwyno cais am warant feddiannaeth. Nid yw’ch benthyciwr yn medru eich troi chi allan yn gyfreithiol heb y warant hon.
Mae’r warant feddiannaeth yn rhoi awdurdod i feili’r llys i’ch troi chi allan o’ch cartref. Efallai y bydd y dyddiad olaf y medrwch fod yn yr eiddo wythnos neu ddwy ar ôl dyddiad y gorchymyn meddiannaeth.
Rhaid i’r beili ddod â Rhybudd Troi Allan (ffurflen N54), sy’n nodi’r amser a’r dyddiad y mae angen i chi fod allan, i’ch cyfeiriad. Rhaid i’r rhybudd naill ai gael ei rhoi i chi’n bersonol, neu ei adael yn yr eiddo, mewn amlen wedi ei chyfeirio atoch chi wrth eich enw ac 'unrhyw breswylwyr eraill'. Rhaid dod â’r rhybudd cyn gynted â phosib ar ôl gosod y dyddiad ar gyfer eich troi chi allan, er mwyn rhoi cymaint o amser â phosib i chi weithredu.
Gallech geisio defnyddio’r amser cyn rhoi’r warant feddiannaeth i geisio dod i gytundeb gyda’ch benthyciwr, i’ch gadael chi i aros yn eich cartref. Neu gallech fynd yn ôl i’r llys a gofyn iddynt amrywio neu ohirio’r gorchymyn ildio meddiant.
Hyd yn oed os oes warant feddiannaeth gan eich benthyciwr, nid yw’n rhy hwyr i geisio dod i gytundeb gyda nhw neu ofyn i’r llys i atal y warant.
Efallai y byddwch yn medru gwneud hyn os ydych eisiau mwy o amser i werthu’r eiddo eich hun, neu am eich bod yn medru gwneud cynnig i dalu’r ôl-ddyledion.
Os yw’r llys yn cytuno i atal y warant, fe fydd hyn yn eich galluogi chi i aros yn eich eiddo. Os ydych yn gwerthu eich eiddo, fe fyddwch yn dal i orfod gadael unwaith fydd yr eiddo’n cael ei werthu.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwerthu eich eiddo i ad-dalu eich ôl-ddyledion morgais, gweler Ôl-ddyledion morgais.
Os ydych am ofyn i’r llys i atal warant feddiannaeth, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nid oes unrhyw weithdrefn sefydlog ar gyfer eich troi chi allan o’ch cartref. Hynny yw, nid oes unrhyw reolau ynghylch yr amserau y mae beilïaid yn medru galw, na’r hyn sy’n rhaid iddynt ei wneud neu ei ddweud.
Ond, rhaid i feilïaid ymddwyn yn rhesymol. Mae ganddynt yr hawl i ddefnyddio grym rhesymol, os oes angen, i fynd i mewn i’ch cartref, i’ch symud chi ac unrhyw un arall sydd yno.
Fe fydd eich benthyciwr yno pan fyddwch yn cael eich troi allan, fel bod y beilïaid yn medru trosglwyddo allweddi’r eiddo iddynt. Weithiau, fe fydd y benthyciwr yn anfon cynrychiolydd yn lle, fel cwmni gwerthu tai a benodwyd i werthu’r eiddo.
Fe fydd y cloeon yn cael eu newid i’ch atal rhag mynd yn ôl i mewn. Os na fyddwch gartref, pan fydd y beilïaid yn cyrraedd, maen nhw’n cael torri i mewn a newid y cloeon.
Os yw’r beilïaid yn credu eich bod yn gwrthwynebu mewn unrhyw ffordd, efallai y byddan nhw’n gofyn i’r heddlu fod yno pan fyddan nhw’n eich troi chi allan. Nid yw’r heddlu’n cael helpu’r beilïaid i’ch troi chi allan. Maen nhw yno rhag ofn bod unrhyw un yn torri’r heddwch.
Mae gan eich benthyciwr yr hawl i feddiant gwag eich eiddo sy’n golygu bod yn rhaid symud eich holl ddodrefn ac eiddo personol. Ni ddylai’r beilïaid symud unrhyw rai o’ch dodrefn nac eiddo personol ond, fel arfer, fe fydd yn gwylio tra’ch bod chi’n gwneud hyn. Os ydych yn gwrthod symud eich eiddo personol, mae gan eich benthyciwr yr hawl i’w symud. Mae’r benthyciwr hefyd yn medru cael gorchymyn llys yn gofyn i chi symud eich eiddo personol.
Unwaith fyddwch chi wedi cael eich troi allan, ni fyddwch yn medru mynd yn ôl i mewn i’r eiddo fel arfer. Ond, efallai y byddwch yn medru gwneud trefniadau gyda’ch benthyciwr i adael eich pethau wedi eu cloi tu mewn a’u casglu’n nes ymlaen.
Os yw’r beilïaid yn cyrraedd pan na fyddwch chi gartref, ac yn newid y cloeon gan adael eich pethau personol yn yr eiddo, fe fydd angen i chi gysylltu â’ch benthyciwr. Dylai’ch benthyciwr drefnu eich gadael i mewn i’r eiddo i gasglu’ch pethau personol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch yr hyn y mae beilïaid yn medru ei wneud, gweler Beilïaid yn y Taflenni ffeithiau ar gredyd a dyled.
Efallai y cewch eich temtio i adael yr eiddo a rhoi’r allweddi yn ôl i’ch benthyciwr morgeisi cyn iddynt gael gorchymyn ildio meddiant llwyr. Ond, ni fyddwch yn elwa o gwbl trwy wneud hyn. Byddwch yn dal i fod yn gyfrifol am daliadau morgais, yswiriant adeiladau a chostau eraill, hyd nes i’r eiddo gael ei werthu, ac fe fyddwch yn dal i orfod gwneud iawn am unrhyw ddiffyg yn y gwerthiant os nad yw’r eiddo’n gwneud digon o arian i dalu’ch dyledion.
Byddai’n well ceisio gwerthu’r eiddo eich hun, yn lle aros i gael eich troi allan a gadael i’ch benthyciwr morgeisi ei werthu. Efallai y byddwch yn dal i fedru gwerthu’r eiddo eich hun, hyd yn oed os oes gan eich benthyciwr orchymyn ildio meddiant llawn neu warant feddiannaeth.
Hefyd, os ydych yn ystyried gwneud cais i’ch awdurdod lleol i gael eich ailgartrefu fel person digartref, peidiwch â rhoi’r allweddi yn ôl heb siarad â nhw yn gyntaf ac esbonio’ch sefyllfa. Efallai y bydd eich awdurdod lleol yn teimlo eich bod yn ddigartref yn fwriadol ac efallai na fydd yn cytuno i’ch ailgartrefu. Os ydych yn y sefyllfa hon, mynnwch gyngor gan gynghorydd profiadol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwerthu eich eiddo, gweler Gwerthu’ch eiddo i glirio’r dyledion ar eich morgais.
Os yw’ch benthyciwr morgeisi wedi cael gorchymyn meddiant, fe fyddwch yn dal i fod yn gyfrifol am y taliadau morgais hyd nes caiff yr eiddo ei werthu. Mae hyn yn wir waeth a ydych yn dal i fod yn byw yno ai peidio. Byddwch hefyd yn gyfrifol am gost unrhyw atgyweiriadau, cynnal a chadw ac yswiriant. Dylech ddarllen eich polisi yswiriant i weld os ydyw’n dal i fod yn ddilys os nad ydych yn byw yno. Ond, efallai y bydd eich benthyciwr yn yswirio’r eiddo ei hun ac yn trosglwyddo’r costau atoch chi.
Mae gan eich benthyciwr ddyletswydd gofal tuag atoch wrth werthu eich eiddo. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt gael y pris gorau posib amdano. Ond, yn ymarferol, mae benthycwyr yn aml yn gwerthu cartrefi mewn ocsiwn, ac yn aml mae cartrefi wedi eu hailfeddiannu fel hyn yn cael eu gwerthu am lai nag y byddent ar y farchnad agored. Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich trin yn annheg gan eich benthyciwr, er enghraifft, am eu bod wedi cymryd amser hir i werthu eich eiddo ac mae’ch ôl-ddyledion wedi codi oherwydd hyn, fe fyddwch yn medru cwyno i Wasanaeth yr Ombwdsman Ariannol.
Unwaith fydd eich benthyciwr wedi gwerthu eich eiddo, fe fydd yn:
Am fwy o wybodaeth ynghylch eiddo a ddefnyddiwyd fel sicrwydd ar gyfer benthyciad, gweler Beth sy’n digwydd pan fydd eich benthyciwr morgeisi’n mynd â chi i’r llys.
Os nad yw’r arian a gafwyd wedi gwerthu’r eiddo yn ddigon i ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych, fe fydd yn rhaid i chi dalu’r gwahaniaeth. Gelwir hyn yn ddiffyg. Fe fydd y benthyciwr yn anfon bil i chi am y diffyg. Os nad ydych yn medru trefnu i’w dalu, fe fydd eich benthyciwr yn medru mynd i’r llys i’ch gorfodi chi i dalu’r swm yma.
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae yna derfyn amser i’ch
benthyciwr gymryd camau i adennill diffyg. Mae terfynau amser ar gyfer adennill diffyg mewn morgais yn medru bod yn gymhleth ac mae’n well cael cyngor.
Os nad ydych yn talu’r diffyg ar y morgais, ac yna rydych yn prynu eiddo arall, fe fydd benthyciwr yr eiddo cyntaf yn medru cymryd camau yn eich erbyn yn y llys. Os yw’n cael gorchymyn llys yn eich erbyn ac nid ydych yn talu, mae’n medru gwneud cais am orchymyn talu yn erbyn eich eiddo newydd. Mae hyn yn golygu, pan fyddwch yn gwerthu’r eiddo newydd, fe fydd elw’r gwerthiant yn cael ei ddefnyddio i ad-dalu’r diffyg. Mae hefyd yn bosib i’ch benthyciwr gael gorchymyn i werthu eich cartref newydd i ad-dalu’r ddyled ar y cartref blaenorol.
Os oes diffyg gennych ar eich morgais ar ôl i chi gael eich troi allan am ôl-ddyledion morgais, dylech gael cyngor arbenigol. Mae cyngor ar gael gan ganolfannau Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os oes dyledion eraill gennych, heblaw am ddiffyg yn eich morgais, efallai y byddwch yn penderfynu mai mynd yn fethdalwr yw’r opsiwn orau i chi. Os ydych yn gwneud cais i ddod yn fethdalwr, fe fyddwch yn medru cynnwys y diffyg yn eich gorchymyn methdaliad.
Am fwy o wybodaeth ynghylch methdaliad, gweler Help gyda dyled.
Os cawsoch eich troi allan am ôl-ddyledion morgais, efallai y cewch drafferth yn cymryd morgais arall. Mae hyn am fod manylion unrhyw daliadau yr ydych wedi eu colli yn cael eu cadw ar ffeil gan asiantaethau cyfeirio credyd, fel Experian neu Equifax. Fe fydd benthyciwr morgeisi yn cysylltu â nhw i weld os oes sgôr credyd dda gennych.
Efallai na fydd eich hanes credyd yn eich atal rhag cymryd morgais, ond os oes arnoch arian ar forgais o hyd ac rydych yn ceisio cymryd un arall, efallai y cewch drafferth cael benthyciad.
Os cewch eich troi allan ac nid oes unrhyw le arall gennych i fyw, efallai y byddwch yn medru cael help gan eich awdurdod lleol. Efallai ei bod yn gyfrifoldeb arnynt i’ch ailgartrefu chi neu eich helpu i ddod o hyd i rywle i fyw am eich bod yn ddigartref.
Am fwy o wybodaeth ynghylch yr help y mae’ch awdurdod lleol yn medru ei roi i chi os ydych yn ddigartref, gweler Dod o hyd i lety.
Am restr o fudiadau a gwefannau ble mae mwy o help a gwybodaeth ar gael ynghylch delio gydag ôl-ddyledion morgais, gweler Help pellach yn Beth sy’n digwydd pan fydd eich benthyciwr morgeisi yn mynd â chi i’r llys.
