Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru a Lloegr
Mae gorchymyn gostwng dyled yn orchymyn yr ydych yn medru ceisio amdano os nad ydych yn medru fforddio talu eich dyledion. Caiff ei roi gan y Gwasanaeth Methdaliad ac mae’n opsiwn rhatach na mynd yn fethdalwr.
Rhaid bod dyledion o lai na £15,000 gennych, ac incwm isel.
Fel arfer, mae gorchymyn gostwng dyled yn para am flwyddyn ac, yn ystod y cyfnod yna, ni fydd y bobl y mae arnoch arian iddynt (eich credydwyr) yn medru cymryd camau yn eich erbyn i gael eu harian yn ôl. Ar ddiwedd y flwyddyn, byddwch yn rhydd o’r holl ddyledion sydd wedi eu rhestru yn y gorchymyn.
Nid ydych yn medru ceisio am orchymyn gostwng dyled yn yr achosion canlynol:
I geisio am GGD, fe fydd angen i chi gysylltu ag ymgynghorydd awdurdodedig sy’n ymchwilio i weld os ydych yn cwrdd â’r amodau ac yna’n ceisio am y gorchymyn ar eich rhan. Fe fydd y gorchymyn yn costio £90 i chi ond fe fyddwch yn medru ei dalu mewn rhandaliadau dros chwe mis.
Efallai bod opsiynau eraill yn agored i chi ar gyfer delio gyda’ch dyledion heblaw am geisio am orchymyn gostwng dyled. Am fwy o wybodaeth ynghylch yr opsiynau hyn, gweler Help gyda dyled.
Ar y tudalennau canlynol, fe fyddwn yn esbonio’r canlynol yn fwy manwl:
Fe fyddwch yn medru ceisio am orchymyn gostwng dyled os ydych yn cwrdd â rhai amodau penodol, sef:
Dim ond rhai mathau o ddyledion fedrwch chi eu cynnwys mewn gorchymyn gostwng dyled. Gelwir y rhain yn ddyledion cymwys ac maen nhw’n ddyledion fel:
Os oes cytundeb hurbwrcas neu gytundeb amodol gennych efallai y bydd angen i chi ddychwelyd y nwyddau a brynwyd gyda’r benthyciadau hyn, onid yw rhywun arall yn medru talu’r rhandaliadau. Ni fyddwch yn medru parhau i dalu am y nwyddau unwaith fydd gennych orchymyn gostwng dyled.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahanol fathau o fenthyciadau, gan gynnwys hurbwrcas a chytundebau gwerthiant amodol, gweler Credyd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch benthyciadau’r gronfa gymdeithasol, gweler Help i bobl ar incwm isel – y Gronfa Gymdeithasol.
Nid oes modd cynnwys rhai mathau o ddyledion mewn gorchymyn gostwng dyled. Rhaid i chi dalu’r rhain ar wahân. Mae’r bobl y mae’r dyledion hyn yn ddyledus iddyn nhw yn dal i fedru cymryd camau yn eich erbyn, hyd yn oed os oes gorchymyn gostwng dyled gennych. Mae’r dyledion hyn yn cynnwys:
Am fwy o wybodaeth ynghylch cynhaliaeth plant a chynnal plant, gweler Cynhaliaeth plant a chynnal plant yn y Daflen ffeithiau ar gredyd a dyled.
Pan fyddwch chi’n cyfrifo faint o incwm sbâr sydd ar gael gennych, rhaid i chi gyfrif yr holl arian sydd gennych yn dod i mewn i’ch cartref. Mae hyn yn medru cynnwys:
Fe fyddwch yn medru tynnu swm rhesymol ar gyfer eich anghenion bob dydd. Os yw’r ffigwr sydd dros ben bob mis yn llai na £50 yna efallai y byddwch yn medru ceisio am orchymyn gostwng dyled os ydych yn cwrdd â’r amodau eraill.
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i gyfrifo’r incwm sbâr sydd gennych, gweler Sut i gyfrifo’ch cyllideb.
Asedion yw’r pethau o werth sy’n eiddo i chi.
Os yw’ch asedion werth mwy na £300, neu os oes cerbyd gennych sy’n werth dros £1,000, ni fyddwch yn medru ceisio am orchymyn gostwng dyled.
Mae enghreifftiau o asedion yn cynnwys cynilion, cerbydau, cyfranddaliadau, creiriau ac eiddo. Mae hynny’n yn golygu, os ydych yn berchen ar eiddo, mae’n annhebygol iawn y byddwch yn medru ceisio am orchymyn gostwng dyled. Nid oes gwahaniaeth p’un ai eich bod yn berchen ar yr eiddo cyfan neu fod morgais gennych ar yr eiddo.
Os nad ydych wedi ymddeol, ond mae gennych gronfa bensiwn breifat neu alwedigaethol, yna mae gwerth y gronfa hon yn cyfrif tuag at eich terfyn o £300. Os ydych wedi ymddeol, ac rydych yn cael taliadau o’ch cronfa bensiwn, fe fydd y taliadau’n cael eu gweld fel incwm yn hytrach nag ased.
Pan fyddwch yn cyfrifo gwerth eich asedion, mae yna rai eitemau nad oes angen i chi eu hystyried. Mae’r rhain yn cynnwys:
Ni fyddwch yn medru cael gorchymyn gostwng dyled yn yr achosion canlynol:
Am fwy o wybodaeth ynghylch Trefniadau Gwirfoddol Unigol a Gorchmynion Cyfyngiadau ar Fethdaliad, gweler Help gyda dyled.
Gweinyddir Gorchmynion gostwng dyled gan y Derbynnydd Swyddogol trwy’r Gwasanaeth Methdaliad.
Fe fyddwch ond yn medru ceisio am orchymyn gostwng dyled ar-lein trwy drydydd person a gymeradwywyd, neu gyfryngwr. Fel arfer, mae cyfryngwr yn gynghorydd dyled medrus sydd wedi cael caniatâd i lenwi ffurflenni a rhoi cyngor ar orchmynion gostwng dyled.
Rydych yn medru dod o hyd i gyfryngwyr yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, cliciwch ar CAB agosaf. Rydych hefyd yn medru dod o hyd i gyfryngwyr trwy gysylltu ag unrhyw un o’r awdurdodau cymwys a restrwyd ar wefan y Gwasanaeth Methdaliad yn www.insolvency.gov.uk.
Fe fydd yn rhaid i chi dalu ffi o £90 i geisio am orchymyn gostwng dyled. Rhaid i chi dalu eich ffi gydag arian parod mewn allfa Payzone. Mae rhestr o allfeydd yn www.payzone.co.uk. Fe fyddwch yn medru talu mewn rhandaliadau dros gyfnod o chwe mis. Ond, ni fydd y Derbynnydd Swyddogol yn ystyried eich cais hyd nes i chi dalu’r ffi yn llawn. Unwaith fyddwch chi wedi anfon eich cais, ni fyddwch yn medru cael y ffi yn ôl.
Unwaith fyddwch chi wedi derbyn y cais ac wedi talu eich ffi, mae’r Derbynnydd Swyddogol yn medru gwneud y gorchymyn tra’ch bod yn cwrdd â’r holl amodau. Mae’n drosedd rhoi gwybodaeth ffals neu gamarweiniol yn eich cais.
Unwaith fydd y gorchymyn gostwng dyled wedi cael ei gymeradwyo, ni ddylech dalu unrhyw rai o’r credydwyr sydd wedi eu rhestru yn y gorchymyn. Fe fydd eich credydwyr yn cael gwybod am y gorchymyn gostwng dyled ac fe fyddwch yn cael eich diogelu rhag unrhyw gamau pellach ganddynt.
Fe fydd eich gorchymyn gostwng dyled yn cael ei gyhoeddi ar y Gofrestr Methdaliad Unigol yn: www.insolvency.gov.uk. Mae’r gofrestr ar gael i’r cyhoedd. Fe fydd eich enw a’ch cyfeiriad yn aros ar y gofrestr am 15 mis.
Mae yna rai pethau na ddylech chi eu gwneud cyn i chi geisio am orchymyn gostwng dyled neu yn ystod y gorchymyn gostwng dyled. Mae’r rhain yn cynnwys:
Os fydd rhywun yn eich cael yn euog o wneud unrhyw rai o’r pethau hyn, fe fyddwch yn troseddu. Mae hyn yn medru golygu bod y Derbynnydd Swyddogol yn gwrthod rhoi gorchymyn i chi. Mewn achosion mwy difrifol, gellir eich erlyn a chodi dirwy arnoch, eich anfon i’r carchar, neu’r ddau.
Os ydych eisoes wedi cael gorchymyn gostwng dyled, efallai y bydd y Derbynnydd Swyddogol yn ceisio am Orchymyn Cyfyngiad ar Ostwng Dyled, neu efallai y cymerir eich gorchymyn gostwng dyled oddi arnoch.
Ni fydd unrhyw un yn eich cael yn euog o drosedd os ydych yn medru dangos nad oeddech wedi bwriadu twyllo unrhyw un na chuddio gwybodaeth.
Os ydych am geisio am orchymyn gostwng dyled cysylltwch â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Fe fyddwch hefyd yn medru dod o hyd i asiantaethau cyngor eraill sy’n gyfryngwyr cymeradwy yn eich ardal leol yn www.insolvency.gov.uk.
Yn ystod cyfnod eich gorchymyn gostwng dyled, ni fydd angen i chi wneud unrhyw daliadau tuag at y dyledion a restrir yn y gorchymyn. Ni fydd credydwyr y dyledion hyn yn medru cymryd unrhyw gamau yn eich erbyn. Fel arfer, mae gorchymyn gostwng dyled yn para deuddeg mis.
Ond, fe fydd angen i chi barhau i dalu costau arferol eich cartref, a allai gynnwys rhent, treth gyngor a thaliadau nwy, trydan a dŵr. Fe fydd angen i chi ad-dalu unrhyw ddyledion sydd heb eu cynnwys yn y gorchymyn gostwng dyled hefyd.
Nid ydych yn medru ychwanegu unrhyw ddyledion newydd at y gorchymyn gostwng dyled na dyledion yr oeddech wedi anghofio amdanyn nhw. Ond, fe fydd yn rhaid i chi ddweud wrth y Derbynnydd Swyddogol ynghylch unrhyw ddyledion newydd a gewch yn ystod cyfnod y gorchymyn.
Rhaid i chi ddweud wrth y Derbynnydd Swyddogol os yw’ch amgylchiadau’n newid unwaith fydd gennych orchymyn gostwng dyled neu os ydych wedi anghofio cynnwys gwybodaeth yn y gorchymyn.
Fe fydd eich gorchymyn gostwng dyled yn ymddangos ar eich ffeil credyd. Fe fydd yn aros ar eich ffeil am chwe blynedd. Efallai y bydd hyn yn effeithio ar eich gallu i gael credyd yn y dyfodol.
Efallai y bydd yn anodd i chi agor cyfrif banc unwaith fydd gennych chi orchymyn gostwng dyled.
Tra bod gorchymyn gostwng dyled mewn lle, mae yna rai pethau na fyddwch cyn medru eu gwneud. Gelwir y rhain yn gyfyngiadau ac maen nhw’n cynnwys:
Bod yn rhan o’r broses o hyrwyddo, rheoli neu sefydlu cwmni cyfyngedig, heb ganiatâd y llys. Hefyd, ni fyddwch yn medru bod yn gyfarwyddwr ar gwmni heb gael caniatâd gan y llys.
Os yw’r Derbynnydd Swyddogol yn credu eich bod wedi rhoi’r wybodaeth anghywir neu wedi bod yn anonest, mae’n medru ceisio am Orchymyn Cyfyngiad ar Ostwng Dyled.
Os ydych yn cael Gorchymyn Cyfyngiad ar Ostwng Dyled, mae hyn yn golygu bod y cyfyngiadau ar yr hyn fedrwch chi ei wneud yn medru para o 2 i 15 mlynedd.
Fodd bynnag, fe fydd cyfnod y gorchymyn gostwng dyled yn dal i ddiweddu ar ôl deuddeg mis ac ni fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw rai o’r dyledion sydd wedi eu cynnwys yn y gorchymyn.
Os nad ydych yn cadw at y cyfyngiadau, fe fyddwch yn troseddu. Mae hyn yn medru arwain at garchariad neu ddirwy.
Rhaid i chi ddweud wrth y Derbynnydd Swyddogol os oes unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau yn ystod cyfnod y gorchymyn gostwng dyled. Mae’r newidiadau hyn yn medru cynnwys:
Os na fyddwch yn dweud wrth y Derbynnydd Swyddogol am unrhyw newid mewn amgylchiadau fel hyn, efallai y byddwch yn troseddu. Mae hyn yn medru arwain at dynnu’r gorchymyn gostwng dyled oddi arnoch. Fe fyddai hyn yn golygu eich bod yn gorfod gwneud trefniadau i dalu’ch credydwyr.
Fe fydd yr holl ddyledion a restrir ar eich gorchymyn yn cael eu dileu ac ni fyddwch yn gorfod eu talu mwyach.
Fe fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw ddyledion sydd ddim wedi eu cynnwys yn y gorchymyn gostwng dyled ac sy’n dal i fod heb eu talu.
Fe fyddwch ond yn medru ceisio am orchymyn gostwng dyled unwaith bob chwe blynedd.
