Jump to the Adviceguide home page
Adviceguide, advice that makes a difference
skip navigation
Jump to the Adviceguide home page
 England   Northern Ireland   Scotland   Wales   Cymru 
Eich arian
Eich teulu
Eich byd chi
Eich hawliau chi

:

 

(New window) Dod o hyd i'ch CAB agosaf

(New window) Ydyn ni wedi bod o gymorth? Plîs, cefnogwch ni

(New window) Gwirfoddolwch

 

Y tro diwethaf y diweddarwyd y safle oedd Ionawr 7 af 2009.

Fe fydd pob dolen gyswllt at wefannau eraill yn agor mewn ffenestr newydd.

Cymru    Dyled    Credyd  

Dyled - Yng Nghymru

 

 


Credyd

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban



Beth yw credyd

Fel arfer, benthyg arian i brynu nwyddau yw credyd. Fel arfer, mae'n rhaid talu llog ar fenthyciad. Mae’n bosib hefyd bydd costau gweinyddu i’w talu, a gellir codi llog ar y rhain hefyd. Unigolyn neu gwmni yw credydwr sy’n gwneud y benthyciad a chyfeirir atynt weithiau fel 'benthycwr'.

Nôl i’r Brig



Mathau o gredyd

Gwerthiant ar gredyd

Dyma’r math mwyaf cyffredin o gytundeb credyd. O dan werthiant credyd rydych yn prynu nwyddau am bris arian parod. Fel arfer, mae’n rhaid talu llog ond mae rhai cyflenwyr yn cynnig credyd di-log. Gwneir ad-daliadau sydd wedi eu penderfynu ymlaen llaw. Chi yw perchennog cyfreithiol y nwyddau cyn gynted ac y gwnaethpwyd y cytundeb ac ni ellir dychwelyd y nwyddau os byddwch yn newid eich meddwl. Nid yw’r cyflenwydd yn medru ailfeddiannu’r nwyddau os fyddwch ar ôl gyda’r ad-daliadau ond mae’n bosib iddo ddwyn achos llys i ad-ennill yr arian sy’n ddyledus os oes gennych chi ôl-ddyledion.. Mae cytundebau gwerthiant ar gredyd yn fwy cyffredin erbyn hyn na chytundebau hurbwrcais ac mae’n bwysig peidio â chymysgu rhwng y ddau beth.

Hurbwrcais (HP)

O dan gytundeb hurbwrcais (HP), yn dechnegol, rydych yn llogi nwyddau nes i chi dalu’r taliad olaf. Ni fyddwch yn berchen ar y nwyddau nes hynny. Mae hyn yn golygu y gallwch ddod â’r cytundeb i ben a dychwelyd y nwyddau ar unrhyw adeg. Fodd bynnag, bydd arnoch unrhyw daliadau sy'n ddyledus ac, os ydych wedi talu llai na hanner cyfanswm y pris eisoes, mae’n bosib bydd yn rhaid i chi dalu’r gwahaniaeth.

Mae’n bosib y bydd y cwmni a wnaeth y benthyciad (y benthycwr) yn medru ailfeddiannu’r nwyddau, os, er enghraifft, eich bod yn disgyn tu ôl gyda’ch taliadau. Nid oes yn rhaid i’r benthycwr werthu’r nwyddau a ailfeddiannwyd i leihau eich dyled chi. Ond, fe allech geisio gofyn i'r benthycwr os fedrwch chi werthu'r nwyddau eich hun. Fe allai hyn olygu eich bod yn medru cael mwy o arian amdanynt.

Gwerthiant amodol

Mae’r math yma o gytundeb yn debyg i gytundeb HP ac fel arfer mae’n cynnwys yr amod nad yw nwyddau yn eiddo i chi nes eich bod wedi talu’r taliad olaf. Mae’n bosib y bydd y benthycwr yn medru ailfeddiannu’r nwyddau os byddwch yn disgyn tu ôl gyda’r taliadau.

Cytundebau gyda chwmni cyllid

Fel arfer, cynigir y rhain mewn siopau mawr, gwerthwyr ceir a chwmnïau trydan a nwy. Mae’r siop neu’r cwmni yn trefnu benthyciad gan gwmni cyllid er mwyn prynu eitem penodol, er enghraifft, peiriant golchi neu gar, neu i dalu am nwyddau a gwasanaethau fel ffenestri gwydr dwbl.

Cardiau credyd

Gallwch gael cardiau credyd gan fanciau, cwmnïau cyllid neu siopau. Gellir eu defnyddio i brynu nwyddau neu i gael arian o'r banc. Byddwch yn cael datganiad misol yn dweud faint sydd arnoch iddynt (yn cynnwys llog) a faint yw’r lleiafswm sy’n rhaid i chi dalu’r mis hwnnw. Mae’n bosib bydd yn rhaid i chi dalu ffi blynyddol hefyd.

Mae masnachwr yn medru codi mwy am brynu nwyddau gyda cherdyn credyd na phetai chi’n talu gydag arian parod neu siec. Mae'n rhaid i fasnachwr sy’n gwneud hyn arddangos rhybudd yn y siop yn dweud hyn, gan nodi'r gost neu'r gwahaniaeth mewn pris.

Mae rhai cwmnïau cerdyn credyd yn darparu llyfrau siec. Os ydych yn defnyddio siec cerdyn credyd i brynu nwyddau byddwch yn derbyn bil gan y cwmni yn yr un modd a cherdyn credyd.

Fe allwch chi ddysgu mwy am fenthyg ar gerdyn credyd ar wefan APACS, cymdeithas daliadau’r Deyrnas Unedig, yn: (New window) www.choosingandusing.com.

Cardiau cyfnod (charge card)

Y gwahaniaeth rhwng cerdyn cyfnod a cherdyn credyd yw bod yn rhaid talu’r swm a fenthycwyd ar gerdyn cyfnod yn ôl ar ddiwedd cyfnod penodol - mis fel arfer. Ni chodir llog ar y swm ond mae’n rhaid i chi dalu ffi blynyddol am y cerdyn.

Benthyciadau a gorddrafftiau banc neu gymdeithas adeiladu

Mae banc neu gymdeithas adeiladu yn medru rhoi benthyciad neu gytuno y gall eich cyfrif gael ei ordynnu. Gall roi benthyciad personol i chi os nad ydych yn gwsmer. Mae’n bosib y bydd y banc yn gofyn am warant ar y benthyciad, er enghraifft, dogfennau tai neu bolisi yswiriant. Bydd unrhyw sicrwydd a gynigwyd mewn perygl os byddwch heb dalu’r benthyciad yn ôl.

Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth ynglyn â banciau a chymdeithasau adeiladu, gweler Banciau a chymdeithasau adeiladu yn y Taflenni ffeithiau i ddefnyddwyr.

Morgeisi

Mae cymdeithas adeiladu neu fanc yn rhoi morgais i brynu eiddo. Gellir rhoi morgais ychwanegol ar yr eiddo, a elwir yn ail forgais, er enghraifft, ar gyfer gwelliannau yn y cartref. Bydd y benthycwr yn codi cyfradd llog uwch ar ail forgais.

Morgeisi Islamaidd

Mewn morgais Islamaidd, nid yw’r taliadau misol yn cynnwys llog. Yn lle, mae’r benthycwr yn codi tâl am fenthyg y cyfalaf i chi i brynu eich eiddo a gellir ei adennill mewn sawl ffordd, er enghraifft, trwy godi rhent arnoch.

Broceriaid credyd

Os nad yw’r brocer wedi trefnu benthyciad o fewn chwech mis, yr uchafswm y gall ei godi arnoch yw £5. Ond os mai morgais oedd y trefniadau'n mynd i fod ac mae'r brocer wedi'i awdurdodi gan yr FSA, nid oes terfyn ar faint allant godi arnoch am eu gwasanaethau. I ddarganfod os yw brocer wedi'i awdurdodi gan yr FSA, ewch at FSA gwefan (New window) www.moneymadeclear.fsa.gov.uk, ac edrychwch ar Gofrestr yr FSA.

Archebu drwy’r post

Fe arfer gallwch siopa drwy archebu drwy’r post gan ddefnyddio catalog ac fel arfer mae hyn yn ddi-log, ac mae’r cwmser yn talu pris y pwrcais yn unig mewn taliadau misol. Fodd bynnag, mae’n bosib bod nwyddau a brynir yn y modd yma yn fwy costus.

Gwerthwyr o ddrws i ddrws

Mae gwerthu o ddrws i ddrws neu hyrwyddo nwyddau neu wasanaethau, fel ffenestri dwbl neu welliannau yn y cartref, ar gredyd yn anghyfreithlon oni bai fod gan y cwmni drwydded i werthu credyd tu allan i’r adeilad masnachu. Mae’n bosib na fydd modd rhoi cytundeb a wnaed yn y modd anghywir mewn grym.

Mae’n drosedd i geisio gwneud benthyciad arian parod tu allan i adeilad masnachu oni bai fod y cwmni/person yn ymweld â’ch cartref mewn ymateb i gais ysgrifenedig sydd wedi'i arwyddo. Mae’n bosib na fydd modd rhoi cytundeb a wnaed mewn modd anghywir mewn grym.

Am fwy o wybodaeth am brynu nwyddau mewn gwerthiant o ddrws i ddrws, gweler Prynu nwyddau – eich hawliau.

Os ydych yn cael trafferth gyda chytundeb credyd y cytunoch arno tu allan i'r safle masnachu, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch CAB lleol, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Cyfrif mewn siop

Mae gan lawer o siopau eu mathau eu hunain o gyfrif credyd. Mae’r rhain yn cynnwys cyfrif misol (lle codir llog os na thelir y swm yn llawn ar ddiwedd y mis), a chyfrif cyllideb (lle rydych yn talu swm rheolaidd yn fisol i gyflenwi cost y nwyddau a brynir drwy gydol y flwyddyn).

Sieciau a thalebau masnachu

Gellir eu cyfnewid am nwyddau, dillad a charpedi a llenni fel arfer. Byddwch yn ad-dalu’r swm i asiant y cwmni a fydd yn galw yn eich cartref fel arfer. Yn aml mae’r cyfraddau llog yn uchel ar gyfer y math yma o gredyd.

Gwystlwyr

Mae gwystlwyr yn benthyg arian yn erbyn gwerth yr eiddo a adawyd gyda nhw. Mae'n rhaid iddynt gadw derbyneb a elwir yn docyn. Mae gwystlwyr yn cytuno i gadw’r eiddo am o leiaf chwech wythnos ond gallwch gael eich eiddo yn ôl ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hynny drwy dalu’r ddyled yn ôl yn ogystal â’r llog. Gellir ymestyn y cyfnod drwy dalu’r llog yn unig ac ailwarantu’r eiddo.

Undebau credyd

Cydweithfa hunan-gymorth yw undeb credyd lle mae’r aelodau yn gosod eu cynilion i ddarparu credyd ar gyfradd llog isel. Os bydd aelod yn methu ad-dalu’r benthyciad, gall yr undeb gredyd geisio ad-daliad drwy’r llysoedd.

Benthycwyr arian

Fel arfer, mae benthycwyr arian yn benthyg symiau bychan o arian ar gyfraddau llog uchel.

Rhaid bod gan fenthycwyr arian drwydded. Os nad ydynt yn drwyddedig, maen nhw’n gweithredu’n anghyfreithlon.

Yn Lloegr, os ydych yn credu bod benthyciwr arian yn gweithredu heb drwydded, fe fyddwch yn medru dweud wrth Linell Gymorth sy’n cael ei rhedeg gan y Prosiect Benthyca Arian yn Anghyfreithlon a ariennir gan y llywodraeth. Mae pobl sy’n rhedeg y Llinell Gymorth yn medru rhoi cyngor i chi ynghylch eich sefyllfa ac yn medru ymchwilio i’r benthyciwr arian. Rhif ffôn y Llinell Gymorth yw 0300 555 2222.

Yng Nghymru, fe fyddwch yn medru dweud wrth Uned Benthyca Arian yn Anghyfreithlon Cymru am unrhyw bryderon am y benthyciwr arian. Mae’r Uned yn gweithredu llinell gymorth gyfrinachol 24 awr y dydd, ar: 0300 123 33 11.

Yn yr Alban, fe fyddwch yn medru dweud wrth Brosiect Benthyca Arian yn Anghyfreithlon yr Alban am unrhyw bryderon ynghylch benthyciwr arian. Rhif ffôn Llinell Gymorth yr Alban yw: 0141 287 6655.

Yn aml, mae benthycwyr arian anghyfreithlon yn gweithio o gartref, yn codi cyfraddau llog uchel iawn ac nid ydynt yn rhoi llawer o waith papur i chi i gadarnhau’r trefniadau a wnaethpwyd gyda chi. Weithiau, fe fydd pobl sy’n benthyca arian yn anghyfreithlon yn cymryd camau anghyfreithlon eraill i gasglu’r arian y maen nhw wedi’i fenthyg i chi, er enghraifft mynd â’ch cardiau credyd neu eitemau gwerthfawr.

Rydych yn medru darganfod a yw benthyciwr arian wedi ei drwyddedu drwy edrych ar Gofrestr Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol yn: (New window) ww(New window) w.moneymadeclear.fsa.gov.uk.

Mae’n bosib bod yna ffynonellau credyd mwy priodol na defnyddio benthycwyr arian. Os ydych yn ystyried benthyg arian gan fenthycwr arian, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol yn gyntaf, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch CAB lleol, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r Brig



Cael y ddêl orau ar gyfer credyd

Mae bob amser yn syniad da i chwilio o gwmpas cyn i chi benderfynu bethyg arian. Gwnewch yn siwr eich bod yn cael y math mwyaf addas o gredyd at eich dibenion chi a'r termau mwyaf ffafriol. Cymharwch gost gwahanol fathau o gredyd trwy edrych ar y gyfradd llog flynyddol (APR) a hyd y cytundeb. Fe allwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ynglyn â chwilio am y ddêl orau ar gyfer credyd yn (New window) www.moneymadeclear.fsa.gov.uk.

Nôl i’r Brig



Cytundebau credyd rheoledig

Mae’r mwyafrif o fathau o gytundebau hurio a chredyd yn cael eu rheoleiddio gan Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974, sy’n rhoi hawliau pwysig i’r person sy'n benthyg (gweler isod). Gelwir cytundeb sy'n dod o dan y Ddeddf yn gytundeb rheoledig. Bydd cytundeb yn rheoledig yn yr achosion canlynol:-

  • unigolyn yw’r un sy'n benthyg, nid cwmni; a
  • nid yw'n gytundeb eithriedig (gweler y pennawd cytundeb eithriedig).

Os oeddech wedi llofnodi cytundeb credyd cyn 6 Ebrill 2008, roedd ond yn medru bod yn gytundeb rheoledig os oedd am gredyd o lai na swm penodol.

Deddf Credyd Defnyddwyr 1974

Os ydych yn gwneud cytundeb credyd rheoledig o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr, mae'n rhaid i chi dderbyn copi ysgrifenedig o’r cytundeb pan yn cymryd benthyciad. Mae'n rhaid iddo amlinellu:

  • pa fath o gytundeb credyd ydyw, er enghraifft, gwerthiant ar gredyd, hurbwrcais neu werthiant amodol
  • gwir gost y credyd, a gyfrifwyd yn unol â fformwla arbennig (APR)
  • cyfanswm pob taliad, pryd mae angen talu, a sut y caiff ei gyfrifo (benthyciad, llog, cost gweinyddol)
  • eich hawliau o ran diddymu'r cytundeb a ph'un ai y gallwch dalu’r ddyled yn ôl yn flynyddol (gweler y pennawd Ad-dalu'r benthyciad yn gynnar).

Cytundebau eithriedig

Mae cytundebau sydd wedi'u heithrio o’r Ddeddf Credyd Defnyddwyr yn cynnwys:

  • cytundebau i logi mesuryddion dŵr, nwy neu drydan
  • cytundebau masnachol gyda chyfnodau ad-dalu byr, lle mae nifer y taliadau yn bedwar neu'n fwy (oni bai ei fod yn bwrcais hurbwrcais neu’n gytundeb gwerthiant amodol)
  • cytundebau lle mae’r holl gredyd am gyfnod yn ad-daladwy gydag un taliad, er enghraifft, cardiau cyfnod, neu filiau llaeth. Nid yw cytundebau hurbwrcais a gwerthiant amodol wedi eu heithrio
  • benthyciadau sydd wedi eu gwarantu yn erbyn tir, er enghraifft, morgeisi
  • credyd a roddwyd ar gyfraddau llog is na’r rhai masnachol, er enghraifft benthyciadau gan undebau credyd neu gyflogwyr.

Nôl i’r Brig



Credyd yn cael ei wrthod

Pan gwrthodir rhoi credyd

Sut mae credydwyr yn penderfynu a ydynt am roi credyd ai peidio

Mae benthycwyr yn defnyddio nifer o ddulliau i benderfynu p'un ai i roi credyd ai peidio. Os dywedir wrthych nad ydych yn medru cael credyd gallwch wneud cais eto, un ai i’r un cwmni neu i gwmni arall. Nid oes gennych unrhyw hawl i dderbyn credyd nac i dderbyn rheswm pam na roddwyd credyd i chi, er mae’n bosib y bydd rhai credydwyr yn rhoi’r wybodaeth yma i chi.

Nid yw benthycwyr yn cael gwahaniaethu yn eich erbyn wrth benderfynu p’un ai i roi credyd i chi ai peidio. Mae hyn yn golygu nad ydynt yn cael gwrthod rhoi credyd i chi oherwydd eich hil, rhyw, anabledd, crefydd, rhywioldeb neu ble rydych chi’n byw yn unig.

Er enghraifft, fwy na thebyg y byddai’n wahaniaethu ar sail hil petai benthycwr yn gwrthod rhoi morgais ar unrhyw eiddo mewn ardal ble mae pobl Asiaidd gan fwyaf yn byw.

Fwy na thebyg y byddai’n wahaniaethu ar sail rhyw petai cwmni’n gwrthod credyd i rywun oherwydd eu hoed.

Fodd bynnag, mae cwmni credyd yn cael gwrthod credyd i rywun oherwydd eu hoed.

Hefyd, fwy na thebyg y byddai cwmni credyd yn cael gwrthod rhoi credyd i rywun gydag anableddau dysgu, os ydynt yn credu nad yw’r person yn medru deall natur y cytundeb y maen nhw’n ei lofnodi. Ni fyddai hyn yn cael ei weld fel gwahaniaethu ar sail anabledd.

Sgorio credyd

Rydych yn cael pwyntiau am bethau fel galwedigaeth, cyflog, statws priodasol a’r ardal lle rydych yn byw. Rhoddir credyd os byddwch yn sgorio digon o bwyntiau. Os byddwch yn gwneud cais am gredyd, mae'n rhaid eu bod yn dweud wrthych eu bod wedi defnyddio’r dull yma.

Os cafodd eich cais ei wrthod, gallwch ofyn am y prif reswm pam y gwrthodwyd eich cais ac i’r penderfyniad gael ei adolygu gan y credydwr. Dylech roi unrhyw wybodaeth ychwanegol i'r credydwr y credwch y dylid ei ystyried.

Mae rhai credydwyr yn gwrthod rhoi credyd i unrhyw un sy’n byw mewn ardal neu gyfeiriad penodol, er enghraifft, bloc o fflatiau, ystad dai neu stryd benodol. Yn Saesneg, gelwir hyn yn “red-lining” ac mae yn erbyn y rheolau. os gwrthodwyd rhoi credyd i chi ac rydych chi’n credu mai’r rheswm yw eich bod yn byw o fewn ardal linell goch, dylech ddweud wrth yr Ombwdsman Ariannol am y cwmni.

Am fwy o wybodaeth ynghylch yr Ombwdsman Ariannol, gweler Sut i ddefnyddio Ombwdsman yn Lloegr, Sut i ddefnyddio Ombwdsman yng Nghymru, Sut i ddefnyddio Ombwdsman yn yr Alban neu Sut i ddefnyddio Ombwdsman yng Ngogledd Iwerddon.

Asiantaethau Cyferio Credyd

Mae asiantaeth cyfeirio credyd yn casglu gwybodaeth am eich sefyllfa ariannol oddi ar eich rhestr etholiadol, dyfarniadau llys sirol a’r Uchel Lys, (archddyfarniadau'r llys a Chynlluniau Trefnu Dyled yn yr Alban), manylion ynglyn â methdalu, a chofnod taliadiau cytundebau blaenorol. Gall y cofnod taliadau gynnwys manylion am bobl eraill sy'n byw yn yr un cyfeiriad, os oes ganddynt gysylltiad ariannol â chi. Fe all eu cofnod nhw effeithio ar y penderfyniad i roi credyd i chi.

Ni ddylai asiantaeth cyfeirio credyd gadw gwybodaeth am eich hil, crefydd, rhywioldeb, cred wleidyddol, manylion cyflogaeth, hanes meddygol, taliadau Treth Gyngor na chofnodion troseddol.

Os gwrthodwyd eich cais am gredyd oherwydd y wybodaeth ar gofnodion yr asiantaeth cyfeirio credyd gallwch ofyn i’r credydwr pa asiantaeth cyfeirio credyd a ddefnyddiwyd ganddynt. Gallwch gael copi o’r cofnod oddi wrth yr asiantaeth. Bydd yn rhaid i chi dalu ffi am hyn. Gallwch ofyn iddynt i gywiro’r cofnod os yw’n anghywir neu’n gamarweiniol, er enghraifft, ni ddylai eich cofnod chi ddangos manylion pobl eraill nad oes cysylltiad ariannol rhyngddo chi a nhw Mae’n bosib hefyd y byddwch yn medru gofyn i gael eich asesu fel unigolyn ar wahân, hyd yn oed os oes cysylltiad ariannol rhynddoch chi a rhywun arall. Nid oes yna sicrwydd, fodd bynnag, y cewch chi gredyd.

Manylion cywllt y prif asiantaethau cyfeirio credyd yw:-

Experian Limited

Consumer Help Service
PO Box 8000
Nottingham NG80 7WF
Rhif ffôn: 0870 241 6212
Gwefan: (New window) www.experian.co.uk

Equifax plc

Credit File Advice Centre
PO Box 1140
Bradford BD1 5US
Rhif ffôn: 0870 010 0583
Gwefan: (New window) www.equifax.co.uk

Callcredit plc

Consumer Services team
PO Box 491
Leeds LS3 1WZ
Rhif ffôn: 0870 060 1414
Gwefan: (New window) www.callcredit.co.uk

Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth ynglyn ag asiantaethau cyfeirio credyd, gweler Credyd yn y Taflenni Ffeithiau ynglyn â Chredyd a Dyled. Gweler hefyd, Sut mae dedfrydau'r llys sirol yn effeithio ar eich cyfraddiad credyd.

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae yna wybodaeth ddefnyddiol ynghylch benthyg credyd mewn taflen o'r enw Credit explained ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth: (New window) www.informationcommissioner.gov.uk.

Geirda gan y banc

Mae benthycwr yn medru gofyn am eirda oddi wrth eich banc ond nid yw'r banc yn medru ei ddarparu heb eich cymeradwyaeth chi. Mae’n bosib y bydd y banc yn codi tâl arnoch am ddarparu’r geirda. Mae hawl gennych i gael copi o’r geirda a roddwyd gan eich banc. Os credwch y gwrthodwyd rhoi credyd i chi oherwydd bod y wybodaeth yn anghywir dylech gysylltu â’r banc.

Os gwrthodwyd rhoi credyd i chi a’ch bod yn dymuno herio’r penderfyniad, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch CAB lleol, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r Brig



Diddymu cytundeb credyd

Diddymu cyn gwneud taliadau

Mae’n bosib y bydd Cytundebau Credyd Rheoledig (gweler y pennawd Cytundebau credyd rheoledig) yn caniatau i chi ddiddymu cytundeb os ydych yn dymuno newid eich meddwl. Gallwch ddiddymu'r cytundeb os:-

  • gwnaethoch ei arwyddo yn unrhyw le ag eithrio ar eiddo’r masnachwr neu’r credydwr, a
  • eich bod wedi trafod y credyd wyneb yn wyneb â’r masnachwr neu’r credydwr cyn i chi arwyddo’r cytundeb.

Os oes hawl gennych i ddileu’r cytundeb, mae'n rhaid anfon rhybudd o ddiddymiad atoch o fewn saith diwrnod i chi arwyddo’r cytundeb yn egluro bod hawl gennych i ddileu’r cytundeb. Bydd ffurflen ddiddymu yn amgaeëdig gyda’r rhybudd a gallwch ddefnyddio hon (neu ysgrifennu llythyr) i ddiddymu'r cytundeb. Os ydych yn dymuno ei ddileu, mae'n rhaid anfon y ddiddymiad at y benthycwr o fewn pum diwrnod i chi dderbyn y rhybudd, drwy bost cofnodedig os oes modd. Os prynwyd y nwyddau oddi wrth asiant catalog archebu drwy’r post, mae’n bosib fod y cytundeb yn dweud y gellir ei ddileu o fewn 14 diwrnod i chi arwyddo’r cytundeb ac ni anfonir rhybudd diddymu atoch.
Os ydych yn diddymu'r cytundeb yn ystod y cyfnod ailfeddwl, mae'n rhaid i chi:-

  • gymryd gofal rhesymol dros y nwyddau. Mae’r dyletswydd yma’n parhau am 21 diwrnod wedi’r diddymu
  • roi’r nwyddau yn ôl i’r cyflenwydd os ydynt yn gofyn yn ysgrifenedig i chi wneud hynny, naill ai o flaen llaw neu pan fyddant yn dod i’w casglu. Os na fyddwch yn trosglwyddo’r nwyddau pan y gofynnwyd i chi wneud hynny yn ysgrifenedig, a gwnaethpwyd y cais o fewn 21 diwrnod i’r diddymiad, mae'n rhaid i chi ofalu am y nwyddau nes eich bod yn eu troslgwyddo drwy law neu eu postio nôl ar eich trail chi
  • dychwelyd unrhyw arian a dalwyd o flaen llaw o dan y cytundeb
  • dalu am nwyddau a osodwyd yn eu lle, er enghraifft, ystafell wydr, neu gegin neu os cawsant eu darparu cyn yr anfonwyd y ffurflen diddymu, i gwrdd ag argyfwng.

Y cyflenwr:-

  • os ydynt yn dymuno casglu’r nwyddau, mae'n rhaid gwneud cais o fewn 21 diwrnod i’r diddymiad
  • mae'n rhaid dychwelyd unrhyw nwyddau a roddwyd fel cyfnewidiad rhannol (neu rhoi’r swm cyfwerth mewn arian parod) o fewn deg diwrnod i'r rhybudd o ddiddymiad
  • mae'n rhaid dychwelyd unrhyw daliadau a wnaethoch, er enghraifft, blaendaliadau a rhandaliadau
  • ni fedrwch ofyn am daliad am nwyddau darfodus neu nwyddau a ‘ddifethwyd trwy eu defnuddio', er enghraifft, tanwydd neu bartiau sbâr.

Os ydych wedi gwneud blaendaliadau am nwyddau neu wasanaethau yr ydych yn eu prynu ar gredyd (megis blaendal neu daliad rhannol), dylech gael yr holl arian yn ôl pan fyddwch yn dileu’r cytundeb oni bai eich bod wedi trefnu credyd eich hun.

Dileu tra bo’r taliadau’n parhau

Os ydych wedi prynu nwyddau o dan hurbwrcais neu gytundeb gwerthiant amodol gweler y pennawd Mathau o gredyd) a’ch bod eisoes wedi gwneud rhai taliadau, gallwch ddod â’r cytundeb i ben drwy ddychwelyd y nwyddau. Fodd bynnag, mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu unrhyw swm sy'n ddyledus ac unrhyw swm o arian sydd, wedi ei ychwanegu at y swm a dalwyd eisoes, tuag at hanner cyfanswm pris y nwyddau, os yw’r cytundeb wedi'i reoleiddio o dan y Deddf Credyd Defnyddwyr (gweler y pennawd Cytundebau credyd rheoledig).

Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth ynglyn â chanslo cytundeb credyd, gweler Credyd yn y Taflenni ffeithiau ynglyn â chredyd a dyled.

Prynu nwyddau yn y cartref neu yn y gwaith

Os ydych chi wedi prynu nwyddau neu wasanaethau sy’n costio mwy na £35, oddi wrth rhywun a wnaeth alw yn eich cartref neu yn y gwaith, mae gennych saith diwrnod i newid eich meddwl. Dyma’r sefyllfa hyd yn oed os na wnaethoch chi dalu amdanynt ar gredyd. (Os ydych chi tu allan i’r cyfnod newid meddwl, fe fydd yr hawl i ganslo’n dibynnu ar y cytundeb gyda’r masnachwr).

Cewch saith diwrnod i newid eich meddwl hefyd pan fyddwch yn prynu nwyddau neu wasanaethau drwy’r hyn a elwir yn werthiant o bellter. Gwerthiant dros y ffôn, drwy’r post neu’r rhyngrwyd yw gwerthiant o bellter. Unwaith eto, nid oes yn rhaid eich bod wedi talu trwy gredyd i fod yn gymwys ar gyfer y cyfnod o saith diwrnod i newid eich meddwl.

Cytundebau credyd na ellir eu diddymu

Ni ellir diddymu'r cytundebau credyd canlynol:-

  • gorddrafftiau banc
  • benthyciadau sydd wedi eu gwarantu yn erbyn tir, er enghraifft, Morgeisi
  • benthyciadau bach o £50 neu lai oni bai eu bod yn hurbwrcais neu’n werthiannau amodol (gweler y pennawd Mathau o gredyd)
  • benthyciadau bach o £35 neu lai lle gwnaethpwyd y cytundeb i ffwrdd o'r lleoliad masnachu ym mhresenoldeb y masnachwr. (gweler isod)
  • benthyciadau i dalu tollau marwolaeth.

Nôl i’r Brig



Dyledion

Os byddwch yn mynd i ddyled, bydd y modd y caiff y sefyllfa ei drafod yn yn dibynnu ar y math o gytundeb.

Hurbwrcais a chytundebau gwerthiant amodol

Os prynwyd y nwyddau ar hurbwrcais neu werthiant amodol (gweler y pennawd Mathau o gredyd), gall y cwmni credyd ailfeddiannu’r nwyddau gan eu bod yn eiddo i’r cwmni nes y telir yr holl daliadau. Yng Nghymru a Lloegr, os ydych wedi talu dros un rhan o dair o bris y pwrcais, bydd yn rhaid i’r cwmni gael gorchymyn llys cyn eu bod yn medru ailfeddiannu’r nwyddau. Yn yr Alban, mae’n bosib y bydd angen gorchymyn llys ar unrhyw adeg, er mae’r gyfraith yn aneglur.

Mathau eraill o gredyd

Os ydych wedi prynu nwyddau gyda mathau eraill o gredyd, maent yn eiddo i chi, ac nid yw’r cwmni credyd yn medru eu hailfeddiannu. Os yw’r cwmni’n cytuno, gallwch ddychwelyd y nwyddau o’ch gwirfodd. Fodd bynnag, os ydych yn disgyn i ddyled, mae’n bosib y byddan yn mynd â chi i’r llys i’ch gorfodi i dalu’r arian sy’n ddyledus iddynt. Mae’n bosib hefyd y bydd yn rhaid talu llog ychwanegol ar unrhyw ddyledion.

Os ydych yn cael trafferth i ad-dalu benthyciad, dylech wneud rhywbeth ar unwaith.

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, am fwy o wybodaeth ynglyn â'r hyn ddylech chi ei wneud os ydych yn cael trafferth ad-dalu benthyciad, gweler Help gyda dyled. Yn yr Alban, gweler Help gyda dyled.

Rydych hefyd yn medru trafod gyda chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch CAB lleol, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r Brig



Amrywio'r cytundeb

Mae’n bosib y bydd y benthycwr yn ceisio amrywio’r cytundeb. Mae'n rhaid i unrhyw newid fod yn resymol. Gellir gwneud hyn ar yr amod fod yna amod yn y cytundeb sy’n caniatau amrywiad, er enghraifft, oherwydd newid yn y gyfradd llog, neu os nad yw dau ochr y gytundeb yn gwrthwynebu.

Os yw’r benthycwr yn dymuno amrywio’r cytundeb, mae'n rhaid iddynt roi i chi, y person sy'n bethyg, saith diwrnod o rybudd cyn gwneud hynny. Fodd bynnag, os yw’r hawl i amrywio yn ran o’r cytundeb gwreiddiol, gall y benthycwr gyhoeddi’r newidiadau yn y wasg cenedlaethol.

Nôl i’r Brig



Ad-dalu'r benthyciad yn gynnar

Gallwch ad-dalu y cyfanswm o fenthyciad sy’n weddill drwy roi rhybudd ysgrifenedig eich bod yn dymuno diweddu’r cytundeb. Os oes gennych gytundeb rheoledig (gweler y pennawd Cytundebau credyd rheoledig) fel arfer byddwch yn gymwys i ad-daliad llog a chostau eraill.

Mae’r fformwla ar gyfer cyfrif swm yr ad-daliad yn gymhleth ac os ydych yn ystyried gwneud hyn, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r Brig



Cytundebau Credyd gormodol

Os fyddwch yn cael benthyciad neu’n gwneud unrhyw gytundeb credyd,arall, gallwch gwyno os rydych yn credu bod unrhyw agwedd o’r cytundeb yn annheg. Er enghraifft, efallai eich bod yn credu bod eich cytundeb credyd yn annheg oherwydd:

  • mae’r cyfradd llog yn arbennig o uchel
  • roedd y credydwr wedi rhoi gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol i chi, neu heb roi digon o wybodaeth i chi pan roeddech yn penderfynu cymryd y benthyciad neu beidio.
  • roedd y credydwr heb wneud asesiad cywir o addasrwydd y benthyciad i chi
  • nid oedd y credydwr wedi rhoi ystyriaeth lawn i’r ffordd y byddai’ch oed, profiad, iechyd corfforol neu feddwl yn effeithio ar eich gallu i lofnodi cytundeb credyd neu gadw i fyny gyda’r taliadau.

Efallai y byddwch yn ystyried eich benthyciad yn un annheg am resymau eraill.

Gallwch wneud cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol. Os fydd yr Ombwdsmon yn cytuno bod eich cytundeb credyd yn annheg, mae’n gallu gorchymyn bod y credydwr yn talu iawndal i chi ac yn cywiro’r sefyllfa. Mae penderfyniad yr Ombwdsmon yn rhwymo’n gyfreithiol a gellir ei orfodi gal lys.

Gallwch wneud cwyn i’r llys yn hytrach nag at yr Ombwdsmon Arinnol, neu os rydych wedi gwneud cwyn at yr Ombwdsmon ac yn anhapus gyda’i benderfyniad.

Gall y llys benderfynu bod na berthynas annheg rhyngddoch chi a’r credydwr. Gall y llys newid termau ac amodau eich cytundeb, neu orchymyn na all y credydwr eich gorfodi i gadw at y cytundeb.

Gallwch wneud cwyn ynglyn ag unrhyw fath o gytundeb credyd, nid dim ond un rheoledig – gweler y pennawd Cytundebau Credyd Rheoledig.

Am ragor o wybodaeth am Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol, yng Nghymru, gweler Sut i ddefnyddio’r Ombwdsmon yng Nghymru, yn Lloegr gweler Sut i ddefyddio’r Ombwdsmon yn Lloegr, yn yr Alban gweler Sut i ddefnyddio’r Ombwdsmon yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon gweler Sut i ddefnyddio’r Ombwdsmon yng Ngogledd Iwerddon.

(Example box starts)

Mae fy mam yn oedrannus, nid yw’n siarad llawer o Saesneg ac nid ydyw’n medru darllen nac ysgrifennu’n Saesneg. Yn ddiweddar, fe ddaeth rhywun i’w chartref a’i pherswadio i lofnodi cytundeb credyd am wydr dwbl. Ond mae fy mam yn denant gyda’r cyngor ac mae’r cyngor yn gyfrifol am yr holl atgyweiriadau i’w chartref, felly nid oes angen gwydr dwbl arni. A oes unrhyw beth fedr hi wneud?

Mae yna siawns dda, yn achos eich mam, y bydd y cytundeb credyd yn cael ei weld fel un annheg. Dylai’ch mam gwyno i’r Obwdsman Ariannol, ac fe fydd yn medru helu unioni’r sefyllfa. Mae’n medru cael help i wneud hyn gan gyngorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth.

(Example box ends)

Mae’r rheolau ynglyn â chredyd annheg yn gymhleth iawn. Os ydych yn dymuno gwneud cwyn, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch CAB lleol, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r Brig



Nwyddau neu wasanaethau diffygiol ar gredyd

Mae gennych yr un hawliau pan yn prynu nwyddau neu wasanaethau ar gredyd â phan fyddwch yn talu ag arian parod. Mae'n rhaid i’r nwyddau gydweddu â’u disgrifiad, rhaid iddynt fod yn addas at eu diben ac o ansawdd boddhaol. Mae'n rhaid perfformio'r gwasanaethau gyda gofal a sgiliau rhesymol, o fewn cyfnod rhesymol o amser ac ar gost rhesymol.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â'ch hawliau pan fyddwch chi'n prynu nwyddau, gweler Prynu nwyddau – eich hawliau.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â'ch hawliau pan fyddwch chi'n prynu gwasanaethau, gweler Prynu gwasanaethau – eich hawliau.

Os oes gennych gwyn am nwyddau neu wasanaethau, dylech fynd at y cyflenwr yn gyntaf. Fodd bynnag, os yw’r cyflenwr yn gwrthod helpu, wedi mynd allan o fusnes neu wedi diflannu, mae’n bosib fod y cwmni credyd yn gyfreithiol gyfrifol, yn dibynnu ar y cytundeb credyd.

Os prynwyd y nwyddau o dan hurbwrcais, gwerthiant amodol neu gytundeb gwerthiant credyd, mae’r cwmni a roddodd y credyd (un a’i siop neu gwmni cyllid) yn gyfrifol am unrhyw ddiffygion.

Os prynwyd y nwyddau neu’r gwasanaethau ar gerdyn credyd, siec cerdyn credyd, gwiriad neu drefniant credyd gyda’r cyflenwr a bod gweth y nwyddau yn llai na £100, mae’r cyflenwr yn gyfrifol. Os caiff y nwyddau neu’r gwasanaethau eu prisio rhwng £100 a £30,000 bydd y credydwr a’r cyflenwr yn gyfrifol (ac eithrio mewn achos o siec cerdyn credyd lle mai’r cyflenwr yn unig sy’n gyfrifol) os:-

  • trefnwyd y credyd gan y siop neu’r busnes lle prynwyd y nwyddau neu’r gwasanaethau; a
  • rheolir y cytundeb credyd gan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974 (gweler y pennawd Credyd yn cael ei wrthod).

Os gwnaethpwyd y pwrcais gan ddefnyddio cerdyn credyd rhywun arall ni fyddwch yn medru gwneud cais yn erbyn y cwmni cerdyn credyd, hyd yn oed os cawsoch ganiatâd daliwr y cerdyn i ddefnyddio’r cerdyn.

Os ydych yn ddaliwr cerdyn ychwanegol, ond nid chi oedd y person a wnaeth arwyddo’r cytundeb i gael cerdyn credyd, mae’n bosib na fyddwch yn medru gwneud cais yn erbyn y cwmni cerdyn credyd. Os ydych yn dymuno gwneud cais, dylech wneud cais ar y cyd gyda’r person a wnaeth arwyddo’r cytundeb am gerdyn credyd.

Dylid hysbysu’r cwmni credyd os ydych yn cael anawsterau gyda’r cyflenwr dros nwyddau a gwasanaethau diffygiol.

Os ydych wedi trefnu eich credyd eich hun, er enghraifft, trwy fenthyciad gan y banc, mae'n rhaid i chi gyfeirio unrhyw gwynion at y cyflenwr. Rhaid i chi gadw talu'r taliadau neu nid oes gan y credydwr unrhyw gyfrifoldeb dros nwyddau a gwasanaethau diffygiol.

Os ydych yn cael anawsterau gyda nwyddau neu wasanaethau diffygiol a brynwyd ar gredyd dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch CAB lleol, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r Brig



Cardiau credyd sydd wedi eu colli neu eu dwyn

Os yw eich cerdyn credyd ar goll neu wedi cael ei ddwyn, dylech hysbysu cwmni’r cerdyn credyd yn syth drwy ffonio ac anfon llythyr o fewn saith diwrnod i gadarnhau’r golled. Byddwch yn atebol am uchafswm o £50 am unrhyw ddefnydd troseddol a wnaed o’r cerdyn cyn i chi riportio’r golled. Ni fydd yn rhaid i chi dalu am unrhyw gam-ddefnydd wedi i chi riportio’r golled. Os aiff y cerdyn ar goll neu ei fod yn cael ei ddwyn cyn i chi ei dderbyn, ni fyddwch yn gyfrifol am unrhyw gam-ddefnydd a wnaed ohono.

Nôl i’r Brig



Gwystlwyr

Os ydych yn cymryd credyd mae’n bosib y gofynnir i chi ddarparu gwarantydd. Mae gwarantydd yn rywun a fydd yn gyfrifol am y ddyled os nad ydych yn cadw at y cytundeb. Yn gyffredinol, gofynnir am warantwyr os yw’r cwsmer o dan 21 oed neu ddim yn berchen ar dŷ. Fodd bynnag, mae cwmni credyd yn medru mynnu cael gwarantydd ar gyfer unrhyw gytundeb, ar yr amod nad ydynt yn gwahaniaethu yn eich erbyn. Er enghraifft, nid yw cwmni credyd yn medru mynnu bod menyw’n cael gwarantydd pan na fyddai’n disgwyl i ddyn mewn sefyllfa ariannol debyg gael gwarantydd.

Os ydych wedi gadael nwyddau gyda gwystlwr ac nad ydych yn eu hailbrynu, byddant yn eiddo i’r gwystlwr os yw’r swm a fenthycwyd yn eu herbyn yn £75 neu lai a’ch bod wedi gadael y nwyddau yno am gyfnod yn fwy na chwe mis. Os oedd y benthyciad yn fwy na £100 (ac eithrio costau llog) mae'n rhaid i’r gwystlwr roi o leiaf 14 diwrnod o rybudd i chi eu bod yn bwriadu gwerthu’r nwyddau, gan roi’r pris y mae’n bwriadu ei godi. Gallwch ailbrynu’r nwyddau o fewn y cyfnod yma, neu cyn y gwerthir hwy.

Nôl i’r Brig



Gwarantwyr

Os ydych yn cymryd credyd mae’n bosib y gofynnir i chi ddarparu gwarantydd. Mae gwarantydd yn rywun a fydd yn gyfrifol am y ddyled os nad ydych yn cadw at y cytundeb. Yn gyffredinol, gofynnir am warantwyr os yw’r cwsmer o dan 21 oed neu ddim yn berchen ar dŷ. Fodd bynnag, mae cwmni credyd yn medru mynnu cael gwarantydd ar gyfer unrhyw gytundeb.

Os ydych wedi cytuno i fod yn warantydd ni allwch dynnu’n nôl o’r cytundeb. Byddwch yn gyfrifol yn gyfreithiol am y ddyled ac mae’n bosib bydd rhaid i chi dalu’r ddyled sy’n weddill.

Os ydych yn warantydd, ac mae rhywun yn cysylltu â chi am arian dyledus, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch CAB lleol, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r ebost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r Brig



Marwolaeth

Os yw’r person sydd wedi cymryd credyd allan yn marw cyn cwblhau’r holl daliadau, mae unrhyw ddyledion sy’n weddill yn medru cael eu hawlio o’r ystâd. Ni ddylai perthynas i’r person sydd wedi marw gynnig cymryd cyfrifoldeb am y ddyled cyn i’r ystâd gael ei ddatrys.

Mae’r sefyllfa yma’n gymhleth iawn a dylid ceisio cymorth gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch CAB lleol, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r ebost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r Brig



Testun Blaenorol Testun Nesaf
 
   
 

Disclaimer, Copyright and Privacy Policy. Copyright © 2002-2009 (New window) Citizens Advice. All rights reserved.
Cyngor Ar Bopeth Cymru is an operating name of the National Association of Citizens Advice Bureaux, Charity registration number 279057, VAT number 726 0202 76, Company limited by guarantee, Registered number 1436945 England, Registered office: Myddelton House, 115-123 Pentonville Road, London N1 9LZ