Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Os ydych yn cael problem gyda budd-daliadau, credydau treth neu yswiriant gwladol efallai bod rhywbeth y medrwch ei wneud. Efallai nad ydych yn hapus am eich bod yn credu bod penderfyniad yn anghywir. Efallai hefyd eich bod yn teimlo nad ydych wedi cael gwasanaeth da gan yr asiantaethau yr ydych wedi bod yn delio â nhw.
Os ydych yn credu bod hawl gennych i fudd-dâl neu gredyd treth, os ydych wedi cyflwyno cais ac maen nhw wedi dweud na fedrwch chi gael unrhyw beth (neu y byddwch yn cael llai nag a ddylech yn eich barn chi), fe fyddwch yn medru herio’r penderfyniad – gweler y pennawd Herio penderfyniad ynghylch budd-dâl neu gredyd treth.
Os nad ydych yn hapus gyda’r gwasanaeth a gawsoch gan y swyddfa budd-daliadau, Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyllid a Thollau EM, Y Swyddfa Credydau Treth, swyddfa Canolfan Byd Gwaith, yr awdurdod lleol neu’r Gwasanaeth Pensiwn, fe allwch gwyno. Efallai y byddwch wedi cael trafferth cysylltu dros y ffôn, efallai eich bod yn teimlo nad yw’r staff wedi bod yn gymwynasgar, neu efallai y cawsoch y cyngor anghywir, neu fe gawsoch drafferthion eraill wrth geisio cael eich achos wedi’i drafod. Mae gan bob asiantaeth sy’n trafod budd-daliadau safonau gwasanaeth ac fe allwch gwyno os nad ydynt yn cadw at y rhain - gweler y pennawd Cwyno am safonau gwasanaeth budd-daliadau a chredydau treth. Trwy gwyno fe fyddwch yn helpu gwella gwasanaethau ar gyfer y dyfodol. Mewn ychydig o achosion, efallai hefyd y bydd hawl gennych i iawndal os ydych ar eich colled yn ariannol oherwydd camgymeriadau neu wasanaeth gwael.
Fe fyddwch yn medru cwyno am safon y gwasanaeth a gawsoch wrth geisio am fudd-dâl neu gredyd treth ar yr un pryd a’r broses o herio’r penderfyniad ynghylch eich budd-dâl neu gredyd treth unigol.
Os nad ydych yn fodlon gyda phenderfyniad ynghylch budd-dâl, credyd treth neu yswiriant gwladol mae yna sawl cam y medrwch eu cymryd, sef:-
Fe fyddwch yn cael y penderfyniad ynghylch eich budd-dâl, credyd treth ac yswiriant gwladol ar ffurf llythyr. Unwaith y cewch y llythyr gyda’r penderfyniad, fe allwch ofyn i’r swyddfa am esboniad pellach dros y ffôn neu os ewch i’r swyddfa yn bersonol. Fe fydd y llythyr yn dweud beth fedrwch chi ei wneud. I gael rhywun i esbonio’r llythyr, dylech gysylltu â’r swyddfa a’i anfonodd.
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, dylai'r swyddfa roi digon o gyfleusterau cyfieithu ar y pryd i chi er mwyn esbonio'u penderfyniad – gweler Pryd ddylech chi gwyno, Offer cyfieithu. Hefyd, os oes anabledd gennych, rhaid rhoi'r esboniad mewn ffordd sy'n hygyrch i chi – gweler y pennawd Pryd i gwyno, Gwybodaeth annigonol.
Mae gen i anawsterau dysgu a dydw i ddim yn medru darllen yn dda iawn. Mae'n ymddangos eu bod nhw wedi atal fy mudd-daliadau ond dydw i ddim yn deall y llythyr a anfonwyd ataf. Beth fedrai wneud?
Ceisiwch ffonio'r swyddfa a anfonodd y llythyr. Esboniwch y broblem iddynt. Dylent esbonio'r llythyr i chi dros y ffôn ac hefyd ysgrifennu atoch unwaith eto mewn Saesneg hawdd. Dylent ddweud wrthych beth i'w wneud nesaf. Rydych wastad yn medru cael help gan gynghorydd er enghraifft yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol.
Os nad ydych yn deall penderfyniad ynghylch budd-daliadau neu gredydau treth, fe allwch holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf
Os nad ydych yn cytuno gyda phenderfyniad ynghylch budd-dâl neu gredyd treth, fe allwch geisio ei gael wedi’i newid. Fe fyddwch yn medru gwneud hyn waeth a ydych wedi gofyn i’r swyddfa i’w esbonio ai peidio. Fe fyddwch yn medru:-
Gyda budd-daliadau mae gennych un mis o’r dyddiad y cewch y llythyr gyda’r penderfyniad i ofyn i’r swyddfa i’w ailystyried, neu i apelio yn ei erbyn. Os ydych yn cysylltu â’r swyddfa i ddadlau penderfyniad ar ôl mis, efallai y byddan nhw’n dal i fedru ei newid. Hefyd, os oedd rhesymau penodol pam nad oeddech yn medru cysylltu â’r swyddfa o fewn mis i’ch llythyr, er enghraifft, roeddech yn yr ysbyty, yna efallai y bydd modd ymestyn y terfyn amser o fis.
Ar gyfer credydau treth, fe allwch ofyn i’r swyddfa ailystyried y penderfyniad ar unrhyw adeg yn ystod cyfnod eich dyfarniad, neu, os ydyw wedi gwneud camgymeriad, o fewn pum mlynedd i ddiwedd y flwyddyn dreth dan sylw. Ond, os yw’r broblem yn ganlyniad i newid mewn amgylchiadau sydd wedi cynyddu eich dyfarniad, efallai na chewch yr holl gynnydd os nad ydych yn cysylltu â Chyllid a Thollau EM o fewn tri mis.
Pan fyddwch yn gofyn am ailystyried penderfyniad, fe fydd yn cael ei ailystyried, fel arfer, gan aelod gwahanol o staff. Efallai y bydd y swyddfa’n gofyn i chi am fwy o wybodaeth. Os ydyw’n gwneud hyn, dylech roi’r wybodaeth cyn gynted â phosib.
Os oes modd newid y penderfyniad, fe fydd y swyddfa’n anfon penderfyniad newydd i chi. Os na ellir ei newid, fe fydd yn anfon llythyr i ddweud wrthych. Os ydych yn cael penderfyniad diwygiedig ac yn dal i feddwl ei fod yn anghywir, fe allwch ofyn am iddynt edrych arno trydydd tro, ond os nad oes gwybodaeth newydd gennych, nid yw’n debygol o newid ar y cam yma.
Os oes hawl apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch budd-dâl neu gredyd treth, fe fyddwch yn medru ystyried apelio yn ei erbyn. Os ailystyriwyd y penderfyniad ond nid ydych yn hapus gyda’r canlyniad, efallai y byddwch yn medru apelio ar y cam yma. Fe fydd y llythyr a gewch gyda’ch penderfyniad yn dweud wrthych os oes hawl gennych i apelio.
Os ydych yn ystyried gofyn am gael ailystyried penderfyniad neu apelio yn erbyn penderfyniad, dylech gael cyngor arbenigol, oherwydd efallai y bydd yna berygl i'ch budd-dal neu gredyd treth ostwng neu ddod i ben. Dylai eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol fod yn medru helpu. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae apêl yn golygu y bydd eich budd-dal neu gredyd treth yn cael ei ystyried eto gan dribiwnlys annibynnol o’r enw Tribiwnlys Haen Gyntaf. Mae’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn banel o hyd at dri pherson sy’n arbenigwyr ar fudd-daliadau. Mae bob tro’n cynnwys rhywun sydd â chymhwyster cyfreithiol. Mae aelodau’r tribiwnlys ar wahân i’r swyddfeydd sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch budd-dal, credyd treth ac yswiriant gwladol yn llwyr. Ni fydd y tribiwnlys yn medru newid y gyfraith ac ni fydd yn medru ystyried newidiadau mewn amgylchiadau a gymerodd lle ers y penderfyniad.
Os oes hawl gennych i apelio yn erbyn penderfyniad, fe fyddwch yn cael gwybod hyn yn y llythyr sy’n nodi’r penderfyniad. Os nad ydych yn medru apelio yn erbyn penderfyniad efallai y byddwch yn dal i fedru gofyn am ailystyried y penderfyniad (gweler y pennawd Gofyn am ailystyried y penderfyniad). Mae gennych fis o’r dyddiad yr anfonwyd y llythyr atoch, i apelio yn erbyn y penderfyniad ynghylch budd-dal a 30 diwrnod i apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch credyd treth. Gellir ymestyn y terfyn amser hwn 14 diwrnod os ydych yn gofyn am ddatganiad ysgrifenedig gyda’r rhesymau dros y penderfyniad. Hefyd, os oedd amgylchiadau arbennig ac nid oeddech yn medru apelio o fewn mis, er enghraifft, roeddech yn yr ysbyty neu roedd streic gyda’r post, efallai y bydd yn bosib derbyn apêl hwyr. Dylech esbonio’r rhesymau tros apelio’n hwyr ar y ffurflen apelio. Gellir ond derbyn apêl hwyr o fewn 13 mis i dderbyn y llythyr gyda’r penderfyniad. Ar gyfer apêl hwyr yn erbyn credyd treth, mae hyn yn flwyddyn a 30 diwrnod.
Mae paratoi ar gyfer apêl yn anodd iawn ac mae mynd i dribiwnlys yn medru eich digalonni. Os ydych angen help i apelio neu fynd i dribiwnlys, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf
Rhaid i chi apelio yn ysgrifenedig. Dylech geisio apelio ar y ffurflen a geir gan yr asiantaeth a wnaeth y penderfyniad, os oes un. Fe fydd hyn yn eich helpu i roi’r holl wybodaeth sydd ei angen. Mae’r ffurflenni ar gael fel a ganlyn:
Pan fyddwch chi’n apelio, fe fydd y swyddfa a ddaeth i’r penderfyniad yn ailystyried y penderfyniad eto rhag ofn y gellir ei newid ar unwaith. Os yw hyn yn digwydd, fe fydd yn dweud wrthych. Ar gyfer budd-daliadau, efallai y bydd eich apêl yn stopio ar y cam yma, neu, os nad yw’r penderfyniad o’ch plaid, gellir parhau â'r apêl yn erbyn y penderfyniad newydd. Ar gyfer credydau treth, gellir cynnig setlo’r apêl trwy gytuno i benderfyniad diwygiedig, ond nid oes rhaid i chi dderbyn hwn.
Os na newidir y penderfyniad, caiff yr apêl ei drosglwyddo i’r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd, sef yr asiantaeth sy’n trefnu apeliadau. Fe fyddwch yn cael ffurflen fel y medrwch roi mwy o wybodaeth a thystiolaeth i gefnogi eich apêl. Rhaid i chi gwblhau’r ffurflen hon o fewn pedwar diwrnod ar ddeg neu ni fydd eich apêl yn mynd yn ei flaen.
Fe fyddan nhw’n gofyn i chi os ydych am i’ch apêl gael ei drafod fel gwrandawiad papur neu lafar.
Mae gwrandawiad llafar yn golygu y bydd y tribiwnlys yn cyfarfod yn gyhoeddus ac y byddwch yn medru bod yn bresennol. Fe fyddwch hefyd yn medru dod â chynrychiolydd neu fe fydd eich cynrychiolydd yn medru dod gyda chi. Fe fydd y tribiwnlys yn medru holi cwestiynau i chi, fe fyddwch yn medru galw tystion ac fe fydd yr holl dystiolaeth yn cael ei ystyried.
Fe fyddwch yn medru cael help gyda chostau mynychu gwrandawiad llafar, er enghraifft, costau teithio, gofal plant neu golli enillion. Os ydych yn anabl, dylid cynnal y gwrandawiad mewn lleoliad sy'n hygyrch i chi
Mae gwrandawiad papur yn golygu y bydd y tribiwnlys yn ystyried yr holl dystiolaeth yn breifat ac ni fyddwch yn bresennol. Os ydych yn dewis gwrandawiad papur dylech anfon cymaint o wybodaeth a thystiolaeth â phosib. Ni fyddwch yn cael gwybod dyddiad y gwrandawiad papur. Fe fydd y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd yn anfon y canlyniadau i chi yn ysgrifenedig.
Ar ôl gwrandawiad yr apêl, fe fyddwch yn derbyn llythyr sy’n esbonio penderfyniad y tribiwnlys. Os ydych eisiau mwy o fanylion am y rhesymau dros y penderfyniad a chanfyddiadau’r tribiwnlys, fe fyddwch yn medru gofyn am hyn trwy gysylltu â’r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd o fewn mis.
Os nad ydych yn cytuno â phenderfyniad y Tribiwnlys Haen Gyntaf, efallai y byddwch yn medru apelio ymhellach i’r Tribiwnlys Uwch. Maen nhw’n gyfreithwyr annibynnol sy’n arbenigwyr mewn cyfraith budd-daliadau. Rydych ond yn medru apelio i’r Tribiwnlys Uwch os nad ydych yn cytuno gyda’r ffordd y mae’r Tribiwnlys Haen Gyntaf wedi dehongli’r gyfraith. Ni fyddwch yn medru apelio os ydych yn credu bod casgliadau’r Tribiwnlys Haen Gyntaf ynghylch ffeithiau eich achos yn anghywir.
Mae ond yn bosib apelio i’r Tribiwnlys Uwch os yw’n ymwneud â’r dehongliad o’r gyfraith. Os ydych eisiau help gyda'ch apêl, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf
Mae hawl gennych i ddisgwyl safon resymol o wasanaeth gan y bobl sy’n delio gyda budd-daliadau, credydau treth ac yswiriant gwladol. Os ydych wedi cael gwasanaeth gwael neu wedi bod o dan anfantais oherwydd camgymeriadau neu ymateb araf, dylech ystyried cwyno.
Mae gwasanaeth yn cynnwys pethau fel cwrdd ag amserau targed wrth ddelio gydag achosion a darparu offer cyfieithu. Fe fydd gan y rhan fwyaf o asiantaethau sy’n delio gyda budd-daliadau, gan gynnwys awdurdodau lleol, siartr neu ddatganiad o safonau gwasanaeth sy'n nodi'r hyn y medrwch ei ddisgwyl. Fe fyddwch yn medru cael hwn o’u swyddfeydd neu oddi ar eu gwefannau.
Fe fyddwch yn medru cwyno, waeth a ydych wedi cyflwyno cais ai peidio. Ond, os ydych wedi hawlio budd-dâl neu gredyd treth ac rydych yn credu bod penderfyniad yn anghywir, ni fyddwch yn medru newid y penderfyniad trwy gwyno. Fe fydd yn rhaid i chi herio’r penderfyniad hefyd, sy’n golygu proses wahanol sydd ar wahân – gweler y pennawd Herio penderfyniad ynghylch budd-dâl neu gredyd treth.
Os ydych yn cwyno, fe allai hyn arwain at:-
Dylech ystyried cwyno os yw unrhyw agwedd o’r gwasanaeth wedi achosi problemau i chi ac os oedd safon eich gofal yn annerbyniol. Nid oes angen i chi fod wedi cyflwyno cais am fudd-dâl cyn gwneud honiadau am safon y gwasanaeth. Mae problemau a gafwyd yn medru cynnwys:-
Mae yn erbyn y gyfraith i rywun wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich rhyw, rhywioldeb, crefydd, hil neu anabledd ac, yng Ngogledd Iwerddon, oherwydd eich gwleidyddiaeth. Hefyd, efallai y bydd yn rhaid i'r swydda budd-daliadau ddilyn polisi sy'n nodi na fyddant yn cael gwahaniaethu yn eich erbyn am resymau eraill. Er enghraifft, os ydych yn ceisio am Gymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith, mae gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (y DWP) bolisi sy'n nodi na fydd yn gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich cyfrifoldebau gofal neu os oes gennych HIV. Os ydych yn teimlo eich bod wedi dioddef gwahaniaethu, rydych yn medru cwyno am hyn.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail hil, gweler Cymryd camau ynghylch gwahaniaethu ar sail hil.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail rhyw, gweler Cymryd camau ynghylch gwahaniaethu ar sail rhyw.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd, gweler Gwahaniaethu ar sail anabledd.
Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu oherwydd rhywioldeb, gweler Gwahaniaethu oherwydd rhywioldeb.
Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu oherwydd crefydd neu gred, gweler Gwahaniaethu oherwydd crefydd neu gred.
Dylech ystyried cwyno os ydych wedi gorfod aros yn rhy hir am benderfyniad ynghylch cais am fudd-dâl, am newid dyfarniad, neu am esboniad. Fel arfer, mae gan gymdeithasau sy’n rhoi budd-daliadau neu gredydau treth amserau targed ar gyfer penderfynu ar gais. Efallai y bydd y rhain wedi eu harddangos yn y swyddfa leol, efallai bod taflen ynghylch eu safonau gwasanaeth targed, neu gallwch ofyn am eu gweld.
Dylech ystyried cwyno os oes swyddfa wedi bod yn aneffeithlon. Os collir papurau achos budd-dâl neu gredyd treth, os daw taliadau i ben mewn camgymeriad neu os ydych yn cael mwy neu lai o fudd-dâl neu gredydau treth am fod y swyddfa wedi gwneud camgymeriad, dylech gwyno. Hyd yn oed os cewch ad-daliad am swm cywir tandaliad, efallai y byddwch ar eich colled yn ariannol ac wedi dioddef anghyfleustra trwy beidio â chael yr arian cywir am gyfnod o amser. Mae gordaliadau sy’n rhaid eu had-dalu hefyd yn achosi anhawster ariannol a gofid.
Am fwy o wybodaeth yng Nghymru, Lloegr a'r Alban am ordalu credydau treth, gweler Gordalu credydau treth yn y taflenni ffeithiau ar Fudd-daliadau.
Os nad ydych yn fodlon gyda’r cyngor neu’r wybodaeth a roddwyd i chi gan swyddfa’r llywodraeth neu gan yr awdurdod lleol, dylech ystyried cwyno. Er enghraifft, efallai na chawsoch wybod am fudd-dâl y gallech fod wedi ei hawlio, neu efallai y rhoddwyd gwybodaeth anghywir i chi am eich cofnod yswiriant gwladol. Rhaid darparu gwybodaeth mewn ffordd sy'n hygyrch i chi, er enghraifft, mewn Braille neu mewn print bras os ydych ei angen oherwydd eich anabledd.
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, ac nid yw’r swyddfa’n darparu offer cyfieithu digonol, dylech gwyno. Mae hawl gennych i gael help gyda ffurflenni cais a llythyron os nad ydych yn siarad Saesneg fel eich iaith gyntaf. Efallai y medrwch ddwyn achos am wahaniaethu os nad oes offer cyfieithu ar gael (gweler y pennawd Gwahaniaethu).
Os nad ydych yn siwr a oes sail gennych i gwyno, neu os nad ydych yn siwr a ddylech gwyno neu herio penderfyniad, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth.
Mewn rhai amgylchiadau, lle mae’n bosib y byddwch yn medru cael iawndal. Os ydych wedi cael problemau fel oedi gormodol, cyngor anghywir neu golled ariannol yna ni ddylech fod ar eich colled yn ariannol na dioddef gofid diangen. Ond, mae’r taliadau hyn yn rai dewisol, ac felly nid oes hawl gennych i iawndal.
Os ydych yn credu y dylech gael iawndal, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Dylech gwyno i’r swyddfa a achosodd y broblem. Efallai mai dyma’r swyddfa a ddeliodd gyda’ch cais, neu efallai ei bod yn swyddfa gwahanol lle y buoch yn holi ac yn cael cyngor. Caiff budd-daliadau, credydau treth ac yswiriant gwladol eu gweinyddu gan:-
Efallai y byddwch yn medru cwyno’n anffurfiol trwy siarad â rheolwr yn y swyddfa leol berthnasol, neu aelod arall o staff. Os nad yw hyn yn datrys y broblem, efallai y bydd angen rhoi’r gwyn yn ysgrifenedig. Mae gan y rhan fwyaf o gymdeithasau eu gweithdrefn gwyno fewnol eu hunain a ddylai fod ar gael ar gais. Fel arfer fe fydd rheolwr gwasanaethau cwsmeriaid neu’r cyfwerth, sy’n gweithredu fel man cyswllt ar gyfer cwynion. Yna, fe fydd camau ffurfiol pellach ar gyfer delio gyda chwynion.
Os nad ydych yn hapus o hyd ar ôl i chi fynd trwy’r weithdrefn gwynion fewnol, efallai y byddwch yn medru cwyno i gymdeithas annibynnol.
Efallai y gwelwch nad yw gweithdrefn gwyno fewnol yr asiantaeth yr ydych wedi bod yn delio â hi yn rhoi canlyniadau boddhaol i chi. Mae yna weithdrefnau annibynnol allanol ar gyfer cwyno ynghylch gwasanaethau cyhoeddus, ond fe fyddwch ond yn medru defnyddio’r rhain os ydych yn defnyddio’r system gwynion fewnol yn gyntaf.
Os yw’ch cwyn yn ymwneud â budd-dâl a weithredir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (y DWP), byddwch yn medru gofyn i’r Gwasanaeth Archwilydd Achos Annibynnol i edrych i mewn iddi. Am fwy o wybodaeth ynghylch y gwasanaeth hwn, rhowch glic ar eu gwefan yn: www.ind-case-exam.org.uk, neu rhowch alwad iddyn nhw ar 0845 606 0777.
Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, mae Ombwdsman Llywodraeth Leol neu Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban yn medru ymchwilio i gwynion ynghylch Budd-dâl Tai a Budd-dâl Treth Gyngor. Yng Ngogledd Iwerddon, mae Ombwdsman Gogledd Iwerddon yn medru ymchwilio i gwynion ynghylch Budd-dâl Tai.
Mae Swyddfa'r Beirniad (The Adjudicator's Office) yn medru ymchwilio i gwynion ynghylch yswiriant gwladol a chredydau treth. Am fwy o wybodaeth, rhowch glic ar eu gwefan, yn www.adjudicatorsoffice.gov.uk, neu ffoniwch nhw ar 0300 057 111.
Mae’r Ombwdsman Seneddol a'r Gwasanaeth Iechyd neu, yng Ngogledd Iwerddon, Ombwdsman Gogledd Iwerddon, yn medru ymchwilio i gwynion ynghylch budd-daliadau eraill. Er mwyn defnyddio’r Ombwdsman Seneddol a'r Gwasanaeth Iechyd, fe fydd yn rhaid i chi gysylltu â’ch Aelod Seneddol yn gyntaf, neu Aelod o’ch awdurdod lleol (cynghorydd lleol). Fe fyddwch hefyd yn medru cwyno ynghylch credydau treth i’r Ombwdsman Seneddol a'r Gwasanaeth Iechyd neu Ombwdsman Gogledd Iwerddon, ond fe fyddai’r Ombwdsman yn disgwyl bod y gwyn wedi cael ei archwilio gan Ddyfarnwr Cyllid a Thollau EM.
Am fwy o wybodaeth ynghylch defnyddio yr ombwdsman yn Lloegr, gweler Sut i ddefnyddio ombwdsman yn Lloegr, yng Nghymru, gweler Sut i ddefnyddio ombwdsman yng Nghymru, yng Ngogledd Iweddon, gweler Sut i ddefnyddio ombwdsman yng Ngogledd Iwerddon neu yn yr yr Alban, gweler Sut i ddefnyddio ombwdsman yn yr Alban.
Os ydych eisiau help i gysylltu â’ch Aelod Seneddol, fe allwch holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.