|
Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Budd-daliadau pan rydych chi dros chwedeg
Mae rhai o'r rheolau ynghylch budd-daliadau yn dibynnu ar eich oed. Mewn llawer o achosion, mae'r rheolau'n newid pan fyddwch chi'n cyrraedd 60.
Er enghraifft, wedi cyrraedd 60, efallai na fydd yn amod ar eich budd-daliadau mwyach eich bod yn gorfod chwilio am waith. Efallai y byddwch yn medru cael Credyd Pensiwn i ychwanegu at eich incwm heb orfod chwilio am waith. Mae yna rai eithriadau i'r rheol hon, er enghraifft, os ydych yn ddyn rhwng 60 a 65, fe fyddwch yn medru dewis hawlio Lwfans Ceisio Gwaith (LCG) ac er mwyn cael LCG mae'n rhaid eich bod ar gael i weithio ac yn chwilio am waith. Ond nid oes rhaid i chi hawlio LCG. Am fwy o wybodaeth ynghylch Credyd Pensiwn, gweler y pennawd Credyd Pensiwn.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Lwfans Ceisio Gwaith, gweler Budd-daliadau i bobl sy'n chwilio am waith.
Gwelir enghraifft arall o'r ffordd y mae rheolau'n medru newid wedi i chi gyrraedd 60 os ydych yn fenyw sy'n cael Lwfans Cynhalwyr. Pan fyddwch chi'n cyrraedd 60, efallai y cewch Bensiwn Ymddeol ac ni fyddwch yn cael Lwfans Cynhalwyr mwyach. Am fwy o wybodaeth ynghylch Pensiwn Ymddeol, gweler y pennawd Pensiwn Ymddeol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Lwfans Cynhalwyr, gweler Budd-daliadau i bobl sy'n sâl neu'n anabl.
Os ydych eisoes yn cael budd-daliadau ac yn nesáu at 60, efallai y bydd angen i chi siarad â chynghorydd profiadol ynghylch y ffordd y mae'r gwahanol fudd-daliadau yn gweithio gyda'i gilydd. Os oes dewis gennych rhwng gwahanol fudd-daliadau, fe fydd cynghorydd profiadol yn medru eich helpu i ddewis pa un sydd orau i chi. Fe fyddwch yn medru siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n medru rhoi cyngor trwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nôl i’r Brig
Oed pensiwn y wladwriaeth
Ar hyn o bryd, oed pensiwn y wladwriaeth yw 60 i fenywod a 65 i ddynion. Ni fydd dyn yn medru cael pensiwn ymddeol nes ei fod yn 65. Ond, unwaith y bydd dros 60 mae’n medru hawlio unrhyw fudd-dâl arall y mae menywod dros 60 yn medru eu hawlio. Mae oed pensiwn y wladwriaeth yn newid fel bod yr oed y mae dynion a menywod yn medru cael pensiwn y wladwriaeth yr un peth, ond mae hyn yn digwydd yn raddol. Fe fydd yn eich effeithio os ydych yn fenyw a aned ar ôl 5 Ebrill 1950.
Os ydych yn fenyw a aned ar ôl Ebrill 5 1950, ac rydych am holi i weld pryd fyddwch chi’n cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth, mae yna gyfrifydd oed pensiwn y wladwriaeth ar wefan y Gwasanaeth Pensiwn yn www.thepensionservice.gov.uk. neu fe allwch holi cynghorydd profiadol, er enghraifft mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nôl i’r Brig
Pa fudd-daliadau sydd ar gael i chi pan rydych chi dros 60
Help os ydych ar incwm isel
Os ydych yn 60 neu’n hyn, efallai y byddwch yn medru hawlio budd-daliadau sy’n ddarostyngedig i brawf moddion fel Credyd Pensiwn (gweler y pennawd Credyd Pensiwn), Budd-dâl Tai a Budd-dâl Treth Gyngor, gan ddibynnu ar eich incwm. Fe fydd eich Budd-dâl Tai a Budd-dâl Treth Gyngor yn cael eu cyfrifo yn wahanol unwaith y byddwch wedi cyrraedd 60, ac felly efallai y bydd gawl gennych i’r budd-daliadau hyn er nad oedd hawl gennych o’r blaen. Os ydych eisoes yn cael y budd-daliadau efallai y bydd gawl gennych i fwy o arian wedi cyrraedd 60.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Tai, gweler Help gyda’ch rhent - Budd-dâl Tai, ac am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Treth Gyngor, gweler Help gyda’ch Treth Gyngor – Budd-dâl Treth Gyngor.
Os ydych yn cael Credyd Pensiwn ac nid ydych yn byw mewn cartref gofal, fe fyddwch yn medru cael help gyda chostau tanwydd yn ystod tywydd oer iawn. Gelwir y rhain yn Daliadau Tywydd Oer.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Taliadau Tywydd Oer, gweler Help i bobl ar incwm isel – y Gronfa Gymdeithasol.
Consesiynau Teithio
Os ydych dros 60, rydych yn medru teithio am ddim ar y bws yng Nghymru, Lloegr a'r Alban ac efallai y byddwch yn medru teithio'n rhatach ar fathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus hefyd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch consesiynau teithio yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, gweler Trafnidiaeth gyhoeddus.
Help gan daliadau unwaith-yn-unig
Unwaith y byddwch dros 60, fwy na thebyg y bydd hawl gennych i daliad tanwydd y gaeaf - gweler y pennawd Taliadau Tanwydd y Gaeaf.
Fe fyddwch hefyd yn cael Bonws y Nadolig – gweler y pennawd Bonws y Nadolig.
Pensiwn Ymddeol
Unwaith yr ydych wedi cyrraedd oed pensiwn efallai y byddwch yn medru cael Pensiwn Ymddeol y Wladwriaeth- gweler y pennawd Pensiwn Ymddeol.
Budd-daliadau i bobl ag anabledd neu sy’n gofalu am berson anabl
Os ydych yn anabl, efallai y byddwch yn medru hawlio budd-dâl ar gyfer costau ychwanegol eich anabledd. Fe fydd hyn yn dibynnu ar eich oed ac amgylchiadau eraill. Os ydych yn gofalu am berson anabl yn eu cartref eu hun, efallai y byddwch yn medru hawlio Lwfans Cynhaliwr.
Os ydych eisoes yn cael budd-daliadau am fod anabledd gennych neu am eich bod yn gofalu am berson anabl, fe fydd cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth yn effeithio ar rai o’r budd-daliadau hyn. Er enghraifft, ni fyddwch yn medru cael Budd-dâl Analluogrwydd unwaith yr ydych bum mlynedd dros oed pensiwn y wladwriaeth ac nid ydych yn medru cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh) pan fyddwch wedi cyrraedd oed pensiwn. Os ydych yn cael Lwfans Cynhaliwr neu Lwfans Anabledd Difrifol, fe fydd unrhyw Bensiwn Ymddeol y Wladwriaeth a gewch yn effeithio ar hyn.
Am fwy o wybodaeth ynghylch budd-daliadau i bobl sy’n anabl, gweler Budd-daliadau i bobl sy’n sâl neu’n anabl.
Os ydych yn cael budd-daliadau oherwydd anabledd ac rydych yn agos at oed pensiwn, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Help os ydych yn weddw
Os yw’ch gwr, gwraig neu bartner sifil wedi marw, ni fyddwch yn medru cael Budd-dâl Profedigaeth unwaith yr ydych yn cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth. Ond, efallai y byddwch yn medru cael Pensiwn Ymddeol ar sail cyfraniadau yswiriant gwladol eich diweddar gymar neu bartner sifil - gweler y pennawd Pensiwn Ymddeol.
Mewn rhaid amgylchiadau, efallai y byddwch yn medru hawlio Taliad Profedigaeth sy’n swm un taliad a geir unwaith yn unig. Fe fydd y penderfyniad i roi Taliad Profedigaeth i chi yn dibynnu ar eich oed pan fu farw eich gwr neu wraig neu bartner sifil ac a oeddent â hawl i Bensiwn Ymddeol y Wladwriaeth ar y pryd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch budd-daliadau profedigaeth, gweler Budd-daliadau a phrofedigaeth.
Help os ydych yn gofalu am blant
Os oes cyfrifoldeb gennych dros blant, efallai y byddwch yn medru hawlio Budd-dâl Plant i’r plant a, gan ddibynnu ar eich incwm, Credyd Treth Plant.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Plant a Chredyd Treth Plant, gweler Budd-daliadau ar gyfer teuluoedd a phlant.
Help os ydych yn gweithio
Os ydych yn gweithio fwy nag 16 awr yr wythnos, efallai y byddwch yn medru hawlio Credyd Treth Gwaith, gan ddibynnu ar eich incwm, arall. Nid oes terfyn oed uchaf ar gyfer Credyd Treth Gwaith. Cofiwch y bydd unrhyw enillion yn effeithio ar fudd-daliadau a chredydau treth.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Credyd Treth Gwaith, gweler Budd-daliadau a chredydau treth i bobl sy’n gweithio.
Nid oes rhaid i chi roi’r gorau i’ch gwaith pan fyddwch yn hawlio Pensiwn Ymddeol, ac nid yw eich enillion yn effeithio arno. Gellir talu Lwfans Byw i’r Anabl a Lwfans Gweini hefyd os ydych yn gweithio.
Nôl i’r Brig
Pensiwn Ymddeol
Mae Pensiwn Ymddeol y Wladwriaeth yn fudd-dâl i bobl oed pensiwn y wladwriaeth ac mae’n seiliedig ar eu cyfraniadau yswiriant gwladol. Nid oes rhaid eich bod wedi stopio gweithio er mwyn i chi gael Pensiwn Ymddeol. Er eich bod yn medru ei hawlio wedi i chi gyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth nid oes rhaid i chi ei hawlio yn 60 neu’n 65. Os oes well gennych, mae’n bosib i chi aros a’i gael yn nes ymlaen, naill ai fel un tal mawr gyda’ch pensiwn wythnosol arferol neu fel mwy o gyfradd pensiwn wythnosol. Fe fydd hyn yn golygu eich bod yn cael mwy o Bensiwn Ymddeol (gweler y pennawd Pensiwn ychwanegol, isod). Rhaid i chi gyflwyno cais i gael Pensiwn Ymddeol y Wladwriaeth.
Os nad ydych wedi talu digon o gyfraniadau yswiriant gwladol eich hun, ond rydych yn briod neu wedi bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil, efallai y byddwch yn medru cael peth Pensiwn Ymddeol y wladwriaeth ar sail cyfraniadau yswiriant gwladol eich gwr, eich gwraig neu eich partner sifil -gweler y pennawd Hawlio ar gyfraniadau eich cymar neu eich partner sifil.
Os ydych yn 80 neu’n hyn efallai y byddwch yn medru cael peth Pensiwn Ymddeol hyd yn oed os nad ydych wedi talu digon o gyfraniadau yswiriant gwladol (gweler y pennawd Pensiwn Ymddeol i bobl dros 80, isod).
Caiff Pensiwn Ymddeol y Wladwriaeth ei weinyddu gan y Gwasanaeth Pensiwn yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, a gan yr Asiantaeth Nawdd Cymdeithasol (Social Security Agency) yng Ngogledd Iwerddon.
Mae yna reolau ynghylch gwahaniaethu ar sail oed sy'n dweud na ellir eich gorfodi i ymddeol cyn 65. Ond, nid yw'r rhain yn effeithio ar yr oed y byddwch yn medru cael pensiwn ymddeol y wladwriaeth.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail oed ac ymddeol, gweler Gwahaniaethu ar sail oed yn y gwaith.
Faint yw Pensiwn Ymddeol
Mae Pensiwn Ymddeol y Wladwriaeth yn cynnwys pensiwn sylfaenol a hefyd cynnydd ar gyfer eich gwr neu eich gwraig neu’r person sy’n gofalu am eich plant. Nid yw'r cynnydd yn cael ei dalu ar hyn o bryd ar gyfer partneriaid sifil (onid ydynt yn gofalu am eich plant – gweler isod).Efallai hefyd y byddwch yn cael pensiwn ychwanegol, pensiwn graddedig neu mwy o bensiwn ar ben y pensiwn sylfaenol.
Pensiwn sylfaenol
Mae yna swm sefydlog o bensiwn sylfaenol. Os nad ydych wedi talu digon o gyfraniadau yswiriant gwladol i gael pensiwn llawn, efallai y cewch ganran o’r swm sefydlog.
Fe fyddwch yn medru cael cynnydd i’r pensiwn sylfaenol ar gyfer eich gwr neu eich gwraig os ydyw’n iau na 60. Os nad ydych yn cael cynnydd ar gyfer eich cymar, fe fyddwch yn medru ei gael ar gyfer rhywun arall sy’n gofalu am eich plant. Mae hyn yn medru cynnwys partner di-briod o'r un rhyw neu o'r rhyw arall, neu bartner sifil. Mae hefyd yn medru cynnwys rhywun sydd ddim yn bartner i chi ond sy’n byw gyda chi neu yr ydych yn eu cyflogi i ofalu am eich plentyn. Os yw’ch cymar neu’r person sy’n gofalu am eich plant yn ennill mwy na swm penodol, ni thelir y cynnydd. Os ydych yn ddyn ac mae eich gwraig yn cael Pensiwn Ymddeol ar sail eich cofnod yswiriant gwladol chi, ni fyddwch chi yn medru hawlio cynnydd hefyd.
Nid ydych yn medru cael cynnydd ar gyfer eich plant os ydych yn hawlio eich Pensiwn Ymddeol ar ôl 5 Ebrill 2003. Yn lle, dylech hawlio Credyd Treth Plant. Os oeddech eisoes yn hawlio cynnydd ar gyfer eich plant cyn y dyddiad hwn, fe fyddwch yn medru parhau i’w gael tra’ch bod yn cael Budd-dâl Plant ar gyfer eich plant neu blentyn, ond fe fyddwch yn eu colli os ydynt yn stopio am fwy na chyfnod byr. Caiff cynnydd i blant ei effeithio gan enillion eich partner os ydyw'n byw gyda chi.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cynnydd i’r rheiny sy’n dibynnu arnoch, gan gynnwys plant, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Pensiwn ychwanegol
Gelwir pensiwn ychwanegol yn ‘SERPS’ (state earnings related pension) hefyd neu’n ail bensiwn y wladwriaeth. Telir SERPS ar ben y pensiwn sylfaenol ac mae’n seiliedig ar eich enillion o 1978 i 2002. O Ebrill 6 2002, os ydych yn gweithio a heb hawlio Pensiwn Ymddeol y Wladwriaeth, rydych yn casglu pensiwn ychwanegol o dan gynllun a elwir yn ail bensiwn y wladwriaeth (S2P) ac nid o dan SERPS. Ni fyddwch yn colli unrhyw bensiwn ychwanegol a gasglwyd o dab SERPS.
Ond, os ydych wedi cael eich contractio allan o gynllun pensiwn ychwanegol y wladwriaeth, neu os oeddech wedi eich contractio allan, ac yn cyfrannu at bensiwn galwedigaethol, pensiwn budd-ddaliwr neu gynllun pensiwn personol, ni fyddwch yn casglu unrhyw bensiwn ychwanegol ar gyfer y cyfnod y cewch/cawsoch eich contractio allan.
Os cawsoch eich contractio allan o SERPS/ S2P, efallai y byddwch am sicrhau eich bod wedi gwneud y penderfyniad iawn. Mae rhai pobl hŷn yn debygol o fod ar eu colled yn ariannol trwy gontractio allan. I ddarganfod mwy am gontractio allan o SERPS/ S2P, gweler y daflen a gynhyrchwyd gan gwylgi ariannol y Llywodraeth, Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol (yr FSA): The State Second Pension – should you be contracted out?
Mae nifer fach iawn o bobl sy'n hŷn nag oed penodol, wedi cael cyngor anghywir i optio allan o SERPS rhwng Gorffennaf 1988 ac Ebrill 1997. Os ydych yn y grŵp yma o bobl, efallai bod hawl gennych i iawndal. I ddarganfod mwy, gweler taflen yr FSA: The State Second Pension – were you wrongly advised to opt out?
Pensiwn graddedig
Os ydych wedi talu cyfraniadau graddedig arbennig ar enillion rhwng 1961 a 1975, efallai y bydd hawl gennych i bensiwn graddedig (a elwir hefyd yn fudd-dâl ymddeol graddedig). Fe fyddwch yn medru cael hwn hyd yn oed os nad oes hawl gennych i unrhyw Bensiwn Ymddeol y Wladwriaeth sylfaenol. Ond, mae symiau pensiwn graddedig yn fach, ac felly mae’n bosib y cewch un taliad yn unig yn lle taliadau wythnosol.
Mwy o bensiwn ('gohirio eich pensiwn')
Os nad ydych yn hawlio Pensiwn Ymddeol yn 60 neu’n 65, fe fyddwch yn ennill mwy o bensiwn. Os ydych eisoes wedi hawlio eich pensiwn, rydych yn medru canslo’r cais er mwyn ennill mwy o bensiwn yn nes ymlaen, ond dim ond unwaith fyddwch chi’n medru gwneud hyn.
Telir llog ar y pensiwn nad ydych yn ei hawlio fel eich bod yn cael mwy o arian pan fyddwch chi’n hawlio yn nes ymlaen. Telir hwn naill ai fel mwy o swm wythnosol o Bensiwn Ymddeol y Wladwriaeth, neu mae’n bosib i chi gael swm un taliad ar ben eich pensiwn wythnosol arferol. Gelwir y broses o hawlio eich Pensiwn Ymddeol yn ‘gohirio eich pensiwn’.
Mae mwy o wybodaeth ynghylch gohirio eich pensiwn ar gael ar wefan y Gwasanaeth Pensiwn yn www.thepensionservice.gov.uk neu dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Budd-dâl Analluogrwydd a Phensiwn Ymddeol
Os oeddech yn cael Budd-dâl Analluogrwydd yn syth cyn i chi hawlio Pensiwn Ymddeol, efallai y byddwch yn cael ychwanegiad sy’n gysylltiedig ag oed fel rhan o’r budd-dâl hwn. Mae Budd-dâl Analluogrwydd ar gyfer pobl sydd ddim yn medru gweithio, ac mae’n dod i ben pan fyddwch chi’n cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth neu 65 neu 70 (gan ddibynnu ar y math o Fudd-dâl Analluogrwydd). Telir yr ychwanegiad sy’n gysylltiedig ag oed os oeddech o dan oed penodol adeg colli eich gallu i weithio.
Pan fyddwch chi’n hawlio Pensiwn Ymddeol ac yn newid at y budd-dâl hwn, fe fyddwch yn medru parhau i gael yr ychwanegiad sy’n gysylltiedig ag oed yr oeddech yn ei gael gyda Budd-dâl Analluogrwydd. Ond, fe fydd yn gostwng wrth unrhyw bensiwn ychwanegol neu bensiwn graddedig a gewch.
Nid yw'n bosib cyflwyno cais newydd am Fudd-dal Analluogrwydd ar ôl 27 Hydref 2008, onid oes modd cysylltu'r cais at gyfnod blaenorol pan yr oedd hawl gennych iddo.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Analluogrwydd a’r ychwanegiad sy’n gysylltiedig ag oed, gweler Budd-daliadau i bobl sy’n sâl neu’n anabl.
Pensiwn Ymddeol i bobl dros 80
Os ydych yn 80 neu’n hyn, mae hawl gennych i Bensiwn Ymddeol hyd yn oed os nad ydych wedi talu digon o gyfraniadau yswiriant gwladol. Gelwir hwn yn bensiwn Categori D. Rydych yn medru ei hawlio os nad ydych yn cael unrhyw Bensiwn Ymddeol y Wladwriaeth o gwbl, neu os ydych yn cael Pensiwn Ymddeol ond caiff ei dalu ar gyfradd ostyngol sy’n llai na’r pensiwn Categori D. Yn yr achos hwn, fe fyddwch yn cael peth pensiwn Categori D ar ben y pensiwn gwladwriaeth yr ydych yn ei gael ar y pryd er mwyn cyrraedd swm y pensiwn Categori D. Rhaid eich bod yn byw yn y Deyrnas Gyfunol wrth hawlio, a rhaid eich bod wedi byw yma am o leiaf deng mlynedd ers i chi gyrraedd 60.
Os ydych eisoes yn cael peth Pensiwn Ymddeol y Wladwriaeth nid oes angen i chi gyflwyno cais am yr arian ychwanegol hwn. Dylai gael ei dalu’n awtomatig. Os nad ydych yn cael unrhyw bensiwn gan y wladwriaeth, fe fyddwch yn medru hawlio hyd at bythefnos cyn eich pen-blwydd yn 80 oed, neu pan yr ydych eisoes yn 80. Dylech ddefnyddio’r ffurflen yn nhaflen NI184 sydd ar gael o’r Gwasanaeth Pensiwn neu swyddfa budd-daliadau. Fe fydd yn rhaid i chi roi eich tystysgrif geni ac, os ydych yn fenyw briod, eich tystysgrif priodas, ond os nad yw’r rhain gennych, dylech hawlio a cheisio profi eich dyddiad geni mewn rhyw ffordd arall.
Os ydych yn 80 neu’n hyn, fe fyddwch hefyd yn cael ychwanegiad oedran o 25 ceiniog yr wythnos gyda pha Bensiwn Ymddeol y Wladwriaeth bynnag yr ydych yn ei gael, ac fe fyddwch yn cael Bonws y Nadolig - gweler y pennawd Bonws y Nadolig.
Os ydych eisiau mwy o wybodaeth am bensiwn Categori D, efallai hefyd y bydd y Gwasanaeth Pensiwn yn medru helpu. Dylech hefyd holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth.
Cyfraddau Pensiwn Ymddeol
Pensiwn Ymddeol |
Cyfradd wythnosol o 07.04.2008 |
Pensiwn sylafaenol |
£90.70 |
Cynnydd ar gyfer o dan 60 neu berson sy'n gofalu am blant |
£54.35 |
Cynnydd i blant (a delir gyda cheisiadau sydd eisoes mewn grym yn unig) |
|
Ar gyfer y plentyn cyntaf |
£8.75 |
Ar gyfer pob plentyn ychwanegol |
£11.35 |
Ychwanegiad oed i'r rheiny syded dros 80 |
£0.25 |
Pensiwn Ymddeol i bobl dros 80 sydd heb dalu digon o yswiriant gwladol |
£54.35 |
Sut i hawlio Pensiwn Ymddeol
Dylai’r Gwasanaeth Pensiwn gysylltu â chi cyn i chi gyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth gan esbonio sut y medrwch chi hawlio Pensiwn Ymddeol. Os nad ydynt yn cysylltu â chi, dylech gysylltu â’r swyddfa budd-daliadau lleol, y Gwasanaeth Pensiwn (gweler www.thepensionservice.gov.uk am fanylion cysylltiadau yn eich ardal chi) neu linell hawlio Pensiwn y Wladwriaeth ar 0845 300 1084 neu ffôn testun 0845 300 2086.
Yng Ngogledd Iwerddon dylech gysylltu â’r Asiantaeth Nawdd Cymdeithasol (Social Security Agency) mewn swyddfa budd-daliadau lleol neu ar 0808 100 2658 (ffôn testun 0808 100 2198). Neu rydych yn medru hawlio ar-lein ar wefan yr Adran Datblygu Cymdeithasol (Department for Social Development) ar: www.dsdni.gov.uk.
Y ffurflen hawlio ar gyfer Pensiwn Ymddeol yw BR19. Os ydych yn cysylltu dros y ffôn, fe fydd y Gwasanaeth Pensiwn yn medru eich helpu chi i hawlio dros y ffôn. Ni fyddwch yn cael ffurflen hawlio. Ar ddiwedd yr alwad ffôn, dylech gael gwybod faint o bensiwn ymddeol sy'n ddyledus i chi.
Nid oes rhaid i chi hawlio eich pensiwn yn 60 neu’n 65, ac os ydych yn penderfynu ei ohirio, nid oes rhaid i chi ddweud wrth y Gwasanaeth Pensiwn. Pan fyddwch chi’n hawlio, dylech ddefnyddio ffurflen BR19 sydd ar gael o swyddfeydd budd-daliadau lleol, y Gwasanaeth Pensiwn neu’r gwasanaeth hawlio dros y ffôn cenedlaethol.
Pan fyddwch chi’n llunio’ch cais am Bensiwn Ymddeol y Wladwriaeth, rhaid i chi gynnwys eich rhif yswiriant gwladol, a rhif yswiriant gwladol unrhyw oedolyn dibynnol yr ydych yn hawlio ar eu cyfer (er enghraifft, eich gwraig, gwr neu rywun arall sy’n gofalu am eich plant). Fe fydd yn rhaid i chi ddangos hefyd mai eich rhif chi ydyw trwy brofi pwy ydych chi, er enghraifft, trwy roi eich tystysgrif geni neu eich pasport. Os ydych yn credu bod rhif yswiriant gwladol gennych ond nid ydych yn gwybod beth ydyw, dylech gynnwys gwybodaeth i helpu’r swyddfa i ddod o hyd iddo. Os nad oes rhif yswiriant gwladol gennych, fe fydd yn rhaid i chi ofyn am un cyn y gallwch hawlio Pensiwn Ymddeol. Fe fydd y rhaid i chi brofi eich bod wedi cyrraedd oed pensiwn, er enghraifft, trwy ddarparu eich tystysgrif geni, pasport neu gofnodion iechyd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch rhifau yswiriant gwladol, gweler Yswiriant Gwladol – cyfraniadau a budd-daliadau.
Os ydych yn cael trafferth wrth geisio darparu eich rhif yswiriant gwladol neu wrth brofi pwy ydych chi, neu os ydych yn cael trafferth profi eich dyddiad geni, dylech ddweud wrth cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Hawlio ar gyfraniadau eich cymar neu'ch partner sifil
Os ydych yn briod, wedi bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil, ac nid ydych yn medru cael cyfradd lawn Pensiwn Ymddeol oherwydd nad oes digon o gyfraniadau gennych, efallai y byddwch yn medru hawlio peth pensiwn ar sail cyfraniadau eich gwr, gwraig neu bartner sifil.
Mae’r swm a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau a lefel eich cofnod cyfraniadau a chofnod cyfraniadau eich gwr, gwraig neu bartner sifil. Efallai y cewch lai na’r swm sylfaenol. Mae’r rheolau yn gymhleth iawn ac maen nhw’n gweithio’n wahanol gan ddibynnu a ydych yn dal i fod yn briod ac a yw’ch cymar yn fyw, os ydych wedi ysgaru neu os ydych yn wr neu’n wraig gweddw. Os ydych yn bartner sifil, mae'r rheolau'n dibynnu a yw'ch partner sifil yn fyw ac a yw'r bartneriaeth sifil yn sefyll o hyd.
Os ydych am wybod mwy am ddefnyddio cyfraniadau yswiriant gwladol eich cymar neu'ch partner sifil, fe allwch holi’r Gwasanaeth Pensiwn (gweler y pennawd Sut i hawlio Pensiwn Ymddeol, uchod). Fe fyddwch hefyd yn medru holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mynd i mewn i’r ysbyty
Fe fyddwch yn medru parhau i gael Pensiwn Ymddeol y Wladwriaeth tra’ch bod chi yn yr ysbyty. Ni fydd eich cyfnod yn yr ysbyty yn effeithio ar unrhyw bensiwn ychwanegol (SERPS neu ail bensiwn y wladwriaeth) a gewch chwaith.
Os hoffech fwy o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd i’ch budd-daliadau pan fyddwch chi’n mynd i’r ysbyty, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mynd dramor
Os ydych yn mynd dramor i fyw, fe fyddwch yn dal i fedru cael eich Pensiwn Ymddeol y Wladwriaeth. Mewn rhai gwledydd (gwledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a rhai gwledydd sydd â chytundebau gyda’r Deyrnas Gyfunol), fe fyddwch yn medru cael y cynnydd blynyddol yn eich pensiwn a fyddai’n cael ei dalu pe byddech yn dal i fyw yn y DG. Ym mhob gwlad arall, fe fydd eich pensiwn yn aros ar yr un gyfradd ac ni fyddwch yn cael cynnydd blynyddol. Dylech ddweud wrth Ganolfan Pensiwn Rhyngwladol y Gwasanaeth Pensiwn eich bod yn mynd i fyw tramor trwy ffonio 0191 218 7777 (ffacs 0191 218 7293), neu ysgrifennu atynt i International Pension Centre, Tyneview Park, Newcastle upon Tyne NE98 1RA.
Os ydych yn cael Pensiwn Ymddeol y Wladwriaeth ac rydych yn mynd i fyw dramor, fe allwch holi cynghorydd profiadol hefyd, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nôl i’r Brig
Taliadau Tanwydd y Gaeaf
Mae taliad tanwydd y gaeaf yn daliad di-dreth ar gyfer pobl sy’n 60 neu’n hyn. Caiff ei dalu bob blwyddyn dros fisoedd y gaeaf i helpu gyda’ch costau tanwydd. Ond, nid oes gwahaniaeth sut fyddwch chi’n defnyddio’r arian. Nid yw Taliadau Tanwydd y Gaeaf yn dibynnu ar ba mor oer yw’r tywydd. Mae yna daliadau eraill a delir dim ond pan fydd y tywydd yn cyrraedd tymheredd penodol, a elwir yn Daliadau Tywydd Oer. Rhoddir y rhain i bobl sydd ar rai budd-daliadau sy’n gysylltiedig ag incwm yn ystod cyfnodau o dywydd oer.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Taliadau Tywydd Oer, gweler Help i bobl ar incwm isel – y Gronfa Gymdeithasol.
Pwy sy’n medru cael Taliad tanwydd y gaeaf
Rydych yn medru cael Taliad tanwydd y gaeaf os ydych yn 60 neu’n hyn yn yr ‘wythnos gymwys’ yn ystod y gaeaf perthnasol. Mae’r wythnos gymwys bob amser yn dechrau ar y trydydd Dydd Llun ym mis Medi.
Mae yna rai pobl sydd ddim yn medru cael taliad, hyd yn oed os ydynt yn 60 neu'n hŷn. Ni fyddwch yn cael Taliad Tanwydd y Gaeaf os ydych:
- yn yr ysbyty yn ystod yr wythnos gymwys ac rydych wedi bod yno am dros flwyddyn, neu
- rydych yn y carchar ar ôl dedfryd, neu
- rydych yn byw mewn cartref gofal ac yn cael Credyd Pensiwn neu Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh) sy'n gysylltiedig ag incwm, neu
- mae eich partner yn 60 neu’n hyn ac yn cael Credyd Pensiwn neu Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm neu LCCh sy'n gysylltiedig ag incwm.
Os nad ydych yn siŵr a fedrwch chi gael taliad tanwydd y gaeaf, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Faint yw Taliad tanwydd y gaeaf
Fel arfer, cyhoeddir cyfradd Taliad Tanwydd y Gaeaf yn yr haf cyn yr wythnos gymwys ym mis Medi.
Ar gyfer gaeaf 2007/08 roedd Taliad Tanwydd y Gaeaf yn £200 y cartref (£300 os oeddech chi neu eich partner yn 80 neu'n hŷn). Ar gyfer gaeaf 2008/09, mae Taliad Tanwydd y Gaeaf yn £250 y cartref (£400 os ydych chi neu'ch partner yn 80 neu hŷn)..
Os ydych yn byw mewn cartref gofal, fe fyddwch yn cael cyfradd ostyngol Taliad Tanwydd y Gaeaf (yn 2007/2008 roedd hyn yn £100, neu £150 os oeddech yn 80 neu'n hŷn). Ar gyfer 2008/09, mae'n £125 neu'n £200 os ydych yn 80 neu'n hŷn. Ond, os ydych yn byw mewn cartref gofal ac yn cael Credyd Pensiwn neu Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh) sy'n gysylltiedig ag incwm, ni fyddwch yn cael Taliad Tanwydd y Gaeaf o gwbl.
OS nad ydych yn siwr pa gyfradd Taliad tanwydd y gaeaf y medrwch ei hawlio, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Sut i gael Taliad Tanwydd y Gaeaf
Nid oes angen i’r rhan fwyaf o bobl sydd â hawl i Daliad tanwydd y gaeaf i gyflwyno cais. Os ydych yn cael Pensiwn Ymddeol y Wladwriaeth, Credyd Pensiwn, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm, Lwfans Gweini, Lwfans Byw i’r Anabl, Budd-dâl Analluogrwydd, Budd-dâl Anabledd Anafiadau Diwydiannol, Lwfans Cynhaliwr, Lwfans Anabledd Difrifol neu Fudd-dâl Profedigaeth, ac rydych yn cael un o’r budd-daliadau hyn yn ystod yr wythnos gymwys ni fydd angen i chi ofyn amdano. Rhoddir Taliad tanwydd y gaeaf yn awtomatig. Os ydych wedi hawlio Taliad tanwydd y gaeaf yn llwyddiannus yn ystod y flwyddyn flaenorol ac nid yw eich amgylchiadau wedi newid, ni fydd angen i chi gyflwyno cais.
Os nad ydych yn cael un o’r budd-daliadau hyn yn ystod yr wythnos gymwys, ac nid ydych wedi llwyddo i hawlio Taliad tanwydd y gaeaf o’r blaen, fe fydd yn rhaid i chi gyflwyno cais. Efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cysylltu â chi beth bynnag ac yn anfon ffurflen gais atoch. Os na fydd hyn yn digwydd, fe fyddwch yn medru cael ffurflen gais oddi ar eu gwefan yn: www.thepensionionservice.gov.uk neu o linell gymorth Taliadau Tanwydd y Gaeaf gweler y pennawd Llinell Gymorth Taliadau Tanwydd y Gaeaf.
Dylech hawlio erbyn diwedd mis Mawrth ar ôl yr wythnos gymwys– gweler y pennawd Pwy sy’n medru cael Taliad tanwydd y gaeaf.
Taliadau Tanwydd y Gaeaf wedi eu hôl-ddyddio
Nid ydych yn medru hawlio Taliad tanwydd y gaeaf ar gyfer y rhan fwyaf o aeafau blaenorol. Ond, os oeddech yn 60 neu'n hŷn mewn wythnosau cymwys cyn 2000, ac ni chawsoch Daliad tanwydd y gaeaf am nad oeddech yn cael budd-dâl cymwys, rydych yn medru hawlio un nawr. Nid oes terfyn amser ar gyfer hawlio. Efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cysylltu â chi ac yn anfon ffurflen gais atoch. Os na fydd hyn yn digwydd, fe fyddwch yn medru cael ffurflen gais oddi ar y wefan www.thepensionservice.gov.uk neu o linell gymorth Taliadau Tanwydd y Gaeaf - gweler y pennawd Llinell Gymorth Taliadau Tanwydd y Gaeaf, isod.
Llinell Gymorth Taliadau Tanwydd y Gaeaf
Mae Llinell Gymorth Taliadau Tanwydd y Gaeaf ar 0845 915 1515 (ffôn testun 0845 601 5613). Rydych yn medru defnyddio’r llinell gymorth hon ar gyfer unrhyw ymholiadau sydd gennych ynghylch Taliadau Tanwydd y Gaeaf, neu i ddarganfod mwy am yr hyn sy’n digwydd os ydych yn disgwyl taliad ac mae’n hwyr.
Problemau gyda Thaliadau Tanwydd y Gaeaf
Os ydych wedi cyflwyno cais am Daliad tanwydd y gaeaf ac nid ydych yn cael y taliad, neu mae’n llai nag y dylech ei gael yn eich barn chi, mae’n bosib i chi herio’r penderfyniad a wnaed ynghylch eich cais. Os nad ydych wedi cyflwyno cais, dylech gysylltu â Llinell Gymorth Taliadau Tanwydd y Gaeaf a gofyn am benderfyniad ffurfiol. Unwaith y cewch benderfyniad, fe fyddwch yn medru gofyn i’r swyddfa i ailystyried y penderfyniad neu apelio. Os nad ydych yn hapus gyda’r gwasanaeth a gawsoch gan Llinell Gymorth Taliadau Tanwydd y Gaeaf neu’r Gwasanaeth Pensiwn, er enghraifft, oherwydd camgymeriadau neu oedi, fe fyddwch yn medru cwyno. Mae’n bosib i chi wneud hyn waeth a ydych hefyd am herio penderfyniad ai peidio.
Am fwy o wybodaeth am herio penderfyniad ynghylch budd-dâl ac am gwyno, gweler Problemau gyda budd-daliadau a chredydau treth.
Os nad ydych yn cytuno â phenderfyniad ynghylch taliad tanwydd y gaeaf neu os ydych am gwyno, fe allwch hefyd holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nôl i’r Brig
Bonws y Nadolig
Mae pobl sy’n cael budd-daliadau penodol â hawl i Fonws y Nadolig sy’n £10 y flwyddyn. Mewn rhai achosion, rydych hefyd yn medru cael bonws ar gyfer eich partner o’r rhyw arall. Ni thelir bonws i bobl sy’n 60 neu’n hyn yn unig, gellir hefyd eu talu i rai pobl sy’n cael budd-daliadau anabledd neu fudd-daliadau profedigaeth.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Bonws y Nadolig, gweler Budd-daliadau i bobl sy’n sâl neu’n anabl.
Nôl i’r Brig
Credyd Pensiwn
Mae Credyd Pensiwn yn fudd-dâl i bobl sy’n 60 neu’n hyn ac mae’n seiliedig ar faint o arian sydd gennych yn dod i mewn. Mae’n cynnwys credyd gwarant a chredyd cynilion. Mae credyd gwarant Credyd Pensiwn yn ychwanegu at eich incwm wythnosol hyd at lefel sydd wedi’i warantu. Mae’r credyd cynilion ar gyfer pobl sydd â swm bach o’u hincwm eu hun neu gynilion. Efallai y bydd hawl gennych i gredyd gwarant gyda’r credyd cynilion, neu’r ddau. Rydych yn medru hawlio Credyd Pensiwn waeth a ydych yn dal i fod yn gweithio ai peidio. Nid oes angen i chi fod wedi talu unrhyw gyfraniadau yswiriant gwladol.
Caiff Credyd Pensiwn ei weinyddu gan y Gwasanaeth Pensiwn.
Pwy sy’n medru cael Credyd Pensiwn
Rydych yn hawlio Credyd Pensiwn i chi’ch hun a'ch partner sy’n byw gyda chi. Os ydych chi, eich partner, neu’r ddau ohonoch yn byw'n barhaol mewn cartref gofal fe fydd yn rhaid i’r ddau ohonoch hawlio Credyd Pensiwn fel person sengl fel arfer.
Mae yna reolau gwahanol ar gyfer cael y credyd gwarant a’r credyd cynilion. Cofiwch, efallai y bydd hawl gennych i’r ddau, ac felly mae’n werth i chi roi’r holl fanylion ar y ffurflen gais.
Pwy sy’n medru cael credyd gwarant
Rydych yn medru cael credyd gwarant os ydych yn 60 neu’n hyn. Nid oes gwahaniaeth beth yw oed eich partner. Rhaid eich bod yn byw yn y Deyrnas Gyfunol ac ni ddylai fod unrhyw reoliadau mewnfudo arnoch tra’ch bod chi yma a fyddai’n eich atal rhag hawlio budd-daliadau. Rhaid bod eich incwm yn is na swm penodol hefyd. Mae’r swm yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Nid oes terfyn ar faint o gyfalaf – cynilion ac eiddo - sydd gennych, ond fe fyddwch yn cael eich trin fel petai gennych incwm o unrhyw gyfalaf dros £6,000 (£10,000 os ydych yn byw mewn cartref gofal).
Pwy sy’n medru cael credyd cynilion
Fe fyddwch yn medru cael y credyd cynilion os ydych chi neu eich partner yn 65 neu’n hyn. Nid oes gwahaniaeth pa un ohonoch sy’n cyflwyno’r cais am Gredyd Pensiwn. Rhaid eich bod chi’n byw yn y Deyrnas Gyfunol ac ni ddylai fod unrhyw reolaethau mewnfudo ar eich cyfnod yma a fyddai’n eich atal rhag hawlio budd-daliadau. Rhaid bod gennych fwy na swm penodol o incwm, ond nid cymaint fel nad ydych yn cael unrhyw gredyd cynilion.
Faint o Gredyd Pensiwn fedrwch chi ei gael
Pan fyddwch chi’n gofyn am Gredyd Pensiwn, fe fydd y Gwasanaeth Pensiwn yn cyfrifo os oes hawl gennych i unrhyw gredyd gwarant yn gyntaf ac, os felly, faint. Yna, fe fydd yn edrych i weld a fedwch chi gael unrhyw gredyd cynilion.
Faint yw eich credyd gwarant
Caiff eich incwm wythnosol (sy’n cynnwys incwm eich partner os ydych yn byw gyda’ch partner) ei gymharu at swm penodol wythnosol o’r enw ‘gwarant isafswm perthnasol’. Fe fydd yr gwarant isafswm perthnasol yn amrywio o berson i berson oherwydd,mae’n cynnwys elfennau gwahanol sy’n dibynnu ar eich amgylchiadau. Mae cyfraddau’r elfennau gwahanol yn sefydlog ac fel arfer cânt eu cynyddu bob mis Ebrill.
Fe fyddwch ond â hawl i gredyd gwarant os yw’ch incwm yn llai na’r gwarant isafswm perthnasol. Dim ond mathau penodol o incwm sy’n cyfrif ar gyfer Credyd Pensiwn ac ni fydd eich holl incwm yn cael ei ystyried, sy’n golygu nad ydyw’n effeithio ar eich Credyd Pensiwn. Caiff incwm o fath arall ei ddiystyru’n rhannol, sy’n golygu bod modd i chi gael swm penodol bob wythnos cyn iddo effeithio ar eich Credyd Pensiwn. Er enghraifft, caiff Lwfans Byw i’r Anabl a Lwfans Gweini eu diystyru’n llwyr. Fe fydd cynilion dros £6,000 (£10,000 os ydych yn byw mewn cartref gofal) yn codi eich incwm £1 yr wythnos am bob £500 ychwanegol (neu ran o £500).
Swm eich credyd gwarant yw’r gwahaniaeth rhwng eich gwarant isafswm perthnasol a’ch incwm. Os yw’ch incwm yn fwy na’ch gwarant isafswm perthnasol, ni fyddwch yn cael unrhyw gredyd gwarant, ond efallai y cewch beth credyd cynilion.
Mae eich gwarant isafswm perthnasol yn cynnwys gwarant isafswm safonol sy’n swm sefydlog ar gyfer person sengl ac yn swm sefydlog ar gyfer pâr. Os oes anghenion ychwanegol gennych, er enghraifft, am eich bod yn anabl, fe fydd symiau ychwanegol yn cael eu hychwanegu at eich gwarant isafswm perthnasol. Mae yna symiau ychwanegol ar gyfer anabledd difrifol ac ar gyfer gofalu am berson anabl. Os ydych wedi cael eich symud at Gredyd Pensiwn o Gymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm, efallai hefyd y byddwch yn cael swm ychwanegol i sicrhau nad ydych yn waeth eich byd.
Os ydych eisiau mwy o wybodaeth ynghylch symiau ychwanegol mewn credyd gwarant, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Credyd gwarant a chostau tai
Os oes morgais neu fenthyciad cartref gennych, efallai y byddwch yn medru cael swm ychwanegol i helpu gyda llog eich morgais. Efallai hefyd y byddwch yn medru cael help tuag at beth costau tai eraill, er enghraifft, rhent fe tenant y Goron, rhent tir neu les cyfnod hir a pheth costau gwasanaeth. Ond, yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, os ydych yn rhentu eich cartref, ni fyddwch yn medru cael unrhyw gredyd gwarant ar gyfer costau tai a dylech hawlio Budd-dâl Tai yn lle.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Tai, gweler Help gyda’ch rhent – Budd-dâl Tai.
Os oes oedolion eraill yn byw yn eich cartref heblaw am eich partner, eich landlord, neu gydberchennog, tenant neu letywr, gellir gwneud didyniad o’r costau tai y mae’r credyd gwarant yn medru eu cynnwys. Efallai y bydd hyn yn berthnasol, er enghraifft, os oes mab neu ferch sy’n oedolyn yn byw gyda chi.
Os hoffech fwy o wybodaeth ynghylch y credyd gwarant, fe allwch glicio ar www.thepensionservice.gov.uk, neu holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Faint yw credyd cynilion
Mae faint o gredyd cynilion sydd ar gael i chi yn dibynnu a yw’ch incwm wythnosol yn fwy neu’n llai na’r ‘terfyn credyd cynilion’. Mae hon yn gyfradd a osodir bob blwyddyn ac mae’n dibynnu a ydych chi’n berson sengl neu’n aelod o bâr. Os yw’ch incwm yn llai na’r terfyn credyd cynilion neu’r un peth, ni fyddwch yn cael unrhyw gredyd cynilion. Os yw’ch incwm yn fwy na’r terfyn credyd cynilion, efallai y cewch beth gredyd cynilion. Ond, os yw’ch incwm yn fwy na’ch ‘gwarant isafswm incwm perthnasol’ (gweler y pennawd Faint o gredyd gwarant), efallai y bydd yn rhy uchel i gael unrhyw gredyd cynilion.
Mae’r broses o gyfrifo credyd cynilion yn gymhleth. Fe fyddwch yn medru cael gwybod mwy am y cyfrifiad yn www.thepensionservice.gov.uk neu holwch gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Sut i hawlio Credyd Pensiwn
Fe fydd yn rhaid i chi gyflwyno cais am Gredyd Pensiwn. Dylech hawlio Credyd Pensiwn ar ffurflen PC1. Rydych yn medru cael hwn dros y ffôn, neu yn bersonol yn un o gymorthfeydd Gwasanaeth Pensiwn, swyddfa budd-dâl neu swyddfa Budd-dâl Tai neu Fudd-dâl Treth Gyngor awdurdod lleol. Y llinell gymorth genedlaethol ar gyfer Credyd Pensiwn yw 0800 99 1234 (ffôn testun 0800 169 0133). Yng Ngogledd Iwerddon llinell gais y Gwasanaeth Pensiwn yw 0808 100 6165 (ffôn testun 0808 1001165) Mae gan y Gwasanaeth Pensiwn wefan yn www.thepensionservice.gov.uk ac yng Ngogledd Iwerddon yn www.ssani.gov.uk ac mae’r ffurflen gais ar gael yma hefyd.
Os digwydd i chi ffonio, fe fydd staff y Gwasanaeth Pensiwn yn medru llenwi ffurflen gais dros y ffôn a’i anfon atoch er mwyn i chi ddarllen trwyddi a’i harwyddo, os byddai hyn o gymorth i chi.
Er mwyn cyflwyno cais dilys am Gredyd Pensiwn, rhaid i chi roi gwybodaeth benodol, fel arfer o fewn un mis i gyflwyno eich cais. Er enghraifft, fe fydd angen eich rhif yswiriant gwladol arnoch neu dystiolaeth i alluogi’r Gwasanaeth Pensiwn i ddod o hyd i’ch rhif. Os nad oes rhif yswiriant gwladol gennych, fe fydd rhaid i chi ofyn am un.
Am fwy o wybodaeth ynghylch rhifau yswiriant gwladol, gweler Yswiriant Gwladol – cyfraniadau a budd-daliadau.
Fe fydd rhaid i chi brofi pwy ydych chi hefyd. Efallai y byddwch yn medru gwneud hyn trwy ddarparu dogfen fel trwydded yrru, tystysgrif geni, priodas neu bartneriaeth sifil, neu basport. Efallai y gofynnir i chi ddarparu mwy nag un darn o dystiolaeth. Os nad oes unrhyw dystiolaeth ddogfennol gennych, ceisiwch roi cymaint o dystiolaeth arall a ffeithiau amdanoch chi’ch hun â phosib.
Fe fydd rhaid i chi roi tystiolaeth o’ch incwm hefyd. Gallai’r dystiolaeth hon gynnwys, er enghraifft, slipiau pensiwn, prawf o gostau gwasanaeth, prawf o unrhyw arian arall sy’n dod i mewn. Rhaid i chi anfon neu ddangos dogfennau gwreiddiol i’r Gwasanaeth Pensiwn, nid llungopïau. Fe fyddant yn cael eu dychwelyd atoch cyn gynted â phosib.
Os ydych angen help pellach i hawlio, fe allwch ffonio rhif cenedlaethol y Gwasanaeth Pensiwn neu holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Ôl-ddyddio Credyd Pensiwn
Fel arfer, rydych chi’n cael Credyd Pensiwn o’r dyddiad yr ydych yn cysylltu â’r Gwasanaeth Pensiwn am y tro cyntaf i ddweud wrthynt eich bod am hawlio. Fe fydd yn rhaid i chi roi’r holl wybodaeth sydd ei angen i gefnogi eich cais o fewn un mis. Ond, efallai y byddwch yn medru cael Credyd Pensiwn am gyfnod o hyd at ddeuddeg mis cyn i chi gyflwyno eich cais. Gelwir hyn yn ôl-ddyddio. O 6 Hydref 2008, efallai y byddwch yn medru cael Credyd Pensiwn wedi'i ôl-ddyddio am gyfnod byrrach o dri mis. Nid oes rhaid i chi roi rheswm dros hawlio’n hwyr tra’ch bod chi’n esbonio ar eich ffurflen gais pryd y dechreuodd eich hawl i Gredyd Pensiwn.
Credyd Pensiwn, newid mewn amgylchiadau a thwyll
Efallai y byddwch yn cyflawni twyll budd-dâl os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol, neu os nad ydych yn llwyddo i ddweud am newid mewn amgylchiadau, sy’n effeithio ar eich Credyd Pensiwn. Hyd yn oed os nad ydych yn twyllo, fe fyddwch yn medru achosi gordaliad, ac fe fydd yn rhaid ei ad-dalu. Mae twyll budd-dâl yn drosedd a gellir eich erlyn a gofyn i chi dalu dirwy.
Os ydych yn poeni eich bod yn cael eich amau o dwyll, rydych yn destun archwiliad neu wedi eich cael yn euog, neu os gofynnwyd i chi ad-dalu gordaliad budd-dâl, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Sut caiff Credyd Pensiwn ei dalu
Fel arfer, fe fydd Credyd Pensiwn yn cael ei dalu yn syth i mewn i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu Swyddfa Bost. Fe fydd y Gwasanaeth Pensiwn yn eich holi ynghylch cael eich arian wedi ei dalu yn syth i mewn i gyfrif ond nid oes rhaid i chi gael eich talu fel hyn os ydyw’n creu problemau i chi. Mae’n bosib talu Credyd Pensiwn trwy anfon siec atoch yn y post ac fe fyddwch yn medru cyfnewid y siec yn y Swyddfa Bost. Os nad ydych yn medru casglu eich Credyd Pensiwn yn bersonol, efallai y byddwch yn medru trefnu i rywun arall wneud hyn ar eich rhan - gweler y pennawd Os ydych angen help i hawlio neu gasglu eich budd-dâl.
Am fwy o wybodaeth ynghylch ffyrdd o dalu, gweler Talu budd-daliadau a chredydau treth.
Credyd Pensiwn a help o fath arall
Os ydych yn cael unrhyw gredyd gwarant (ar ei ben ei hun neu gyda chredyd cynilion), fe fyddwch yn cael uchafswm yr help yn awtomatig pan fyddwch chi’n ceisio am fudd-daliadau eraill, ac fe fyddwch yn cael help gyda chostau penodol. Os ydych yn cael credyd cynilion ar ei ben ei hun, efallai y byddwch yn dal i fedru cael help gyda rhai o’r costau hyn.
Os ydych ar gredyd gwarant, mae’n golygu y byddwch yn medru cael uchafswm Budd-dâl Tai a Budd-dâl Treth Gyngor. Fe fyddwch hefyd yn cael help gyda chostau iechyd, er enghraifft, presgripsiynau rhad ac am ddim a help gyda chost ffioedd llys.
Os ydych ar gredyd cynilion neu gredyd gwarant, mae hyn yn golygu y byddwch yn medru gofyn am help gan y Gronfa Gymdeithasol, er enghraifft, benthyciadau cyllidebu, grantiau gofal cymunedol a thaliadau angladd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch help o fath arall y gallech ei hawlio, gweler Help i bobl ar incwm isel – y Gronfa Gymdeithasol.
Problemau gyda Chredyd Pensiwn
Os ydych wedi cyflwyno cais am Gredyd Pensiwn ac wedi cael eich gwrthod, neu os ydych yn credu bod y swm a ddyfarnwyd i chi yn anghywir, fe allwch ofyn i’r Gwasanaeth Pensiwn ailystyried y penderfyniad, neu apelio at dribiwnlys annibynnol. Dylech wneud hyn o fewn mis i’r penderfyniad.
Os nad ydych yn hapus gyda’r gwasanaeth a gawsoch gan y Gwasanaeth Pensiwn, er enghraifft, oherwydd oedi neu gamgymeriadau, dylech gwyno. Fe fyddwch yn medru gwneud hyn waeth a ydych hefyd yn herio penderfyniad ynghylch Credyd Pensiwn.
Am fwy o wybodaeth ynghylch herio penderfyniadau, ac ynghylch cwyno, gweler Problemau gyda budd-daliadau a chredydau treth.
Os nad ydych yn hapus gyda phenderfyniad ynghylch Credyd Pensiwn neu os ydych am gwyno fe allwch hefyd holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nôl i’r Brig
Os oes angen help arnoch i hawlio neu gasglu budd-daliadau
Os ydych angen help i hawlio neu gasglu eich budd-daliadau, fe allwch ofyn i rywun arall fod yn berson penodedig (appointee) neu’n asiant ar eich rhan. Mae person penodedig yn medru cymryd y cyfrifoldeb o hawlio a chasglu eich budd-dâl os nad ydych yn medru gwneud hyn eich hun. Ni fydd asiant yn medru hawlio ar eich rhan, ond fe fyddwch yn medru trefnu i asiant gasglu eich budd-dâl o fanc, cymdeithas adeiladu neu swyddfa bost os nad ydych yn medru gwneud hynny eich hun.
Os ydych am benodi rhywun fel person penodedig neu asiant, neu rydych am ddod yn berson penodedig neu’n asiant i berson oedrannus sy’n adnabyddus i chi, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nôl i’r Brig
|