Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae yna nifer o fudd-daliadau gwahanol ar gyfer teuluoedd i helpu gyda chostau ychwanegol plant. Mae’r rhain yn cynnwys budd-daliadau ar gyfer menywod sy’n feichiog neu sydd newydd gael babi, budd-daliadau ar gyfer partneriaid menywod sydd wedi rhoi genedigaeth, budd-daliadau i bobl sy’n mabwysiadu, a budd-daliadau, credydau treth, taliadau Cronfa Ymddiriedolaeth Plant a help o fath arall y mae’n bosib y byddwch yn medru eu cael pan fyddwch chi â chyfrifoldeb dros blentyn neu berson ifanc.
Os ydych yn cael babi, efallai y byddwch yn medru cael budd-daliadau fel Tâl Mamolaeth Statudol neu Lwfans Mamolaeth. Fe fydd hyn yn dibynnu a ydych yn gweithio ac, os ydych yn gweithio, faint yr ydych chi’n ei ennill ac ers faint yr ydych chi wedi bod yn gweithio i’r un cyflogwr. Rydych hefyd yn medru cael grant un taliad o’r enw Grant Iechyd mewn Beichiogrwydd – gweler y pennawd Grantiau Iechyd mewn Beichiogrwydd. Os ydych yn feichiog, efallai hefyd y bydd hawl gennych i fitaminau rhad ac am ddim a thalebau Cychwyn Iach i helpu gyda chost llaeth, ffrwythau a llysiau. Efallai y bydd y rhain ar gael i chi, ond fe fydd yn dibynnu ar eich incwm.
Am fwy o wybodaeth ynghylch talebau Cychwyn Iach ar gyfer llaeth, ffrwythau a llysiau, gweler Help gyda chostau iechyd, addysg a chyfreithiol.
Os ydych yn feichiog, efallai y byddwch yn medru cael grant gan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CaThEM) i’ch helpu i baratoi ar gyfer genedigaeth eich babi. Gelwir y taliad yn 'Grant Iechyd yn ystod Beichiogrwydd’ ac mae’n grant un taliad o £190. Ni fydd Grant Iechyd yn ystod Beichiogrwydd yn effeithio ar eich credydau treth nac unrhyw fudd-daliadau eraill. Fe fydd pawb yn cael yr un swm - ni fydd unrhyw un yn eich holi am eich incwm.
Mae’r grantiau ar gael i chi os yw’r amodau canlynol yn wir:
Efallai na chewch y grant os ydych yn ddarostyngedig i reolaeth mewnfudo neu os nad ydych yn byw yn y Deyrnas Unedig fel arfer.
Er mwyn hawlio, gofynnwch i’ch bydwraig neu feddyg am ffurflen hawlio. Rhaid i’ch bydwraig neu feddyg lenwi eu rhan ar y ffurflen a’i llofnodi cyn ei rhoi i chi. Yna, mae angen i chi anfon eich ffurflen hawlio at Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi o fewn 31 diwrnod i’r dyddiad y mae’ch bydwraig neu feddyg wedi llofnodi’r ffurflen - neu efallai y byddwch yn colli’r grant.
Fe fydd CaThEM yn talu’r grant yn syth i mewn i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Grantiau Iechyd yn ystod Beichiogrwydd, rhowch glic ar wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn: www.hmrc.gov.uk.
Am fwy o wybodaeth ynghylch budd-daliadau os ydych yn feichiog, rhowch glic ar Fudd-daliadau i deuluoedd a phlant.
Fe fyddwch yn medru cael Tâl Mamolaeth Statudol os ydych wedi bod yn gweithio i’r un cyflogwr am o leiaf 26 wythnos, erbyn i chi gyrraedd 15 wythnos i’r dyddiad y mae disgwyl i’ch babi gyrraedd. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi fod wedi gweithio i’r un cyflogwr trwy gydol eich beichiogrwydd. Dylech hefyd fod yn ennill cymaint â’r terfyn enillion isaf bob wythnos. Y terfyn enillion isaf yw’r lefel cyflog ble mae cyfraniadau yswiriant gwladol yn dechrau.
Telir Tâl Mamolaeth Statudol gan eich cyflogwr os ydych i ffwrdd o’r gwaith i gael babi. Gellir ei dalu am hyd at 39.
Am wybodaeth ynghylch Tâl Mamolaeth Statudol, gweler Hawliau rhieni yn y gwaith.
Mae Lwfans Mamolaeth yn fudd-dâl i fenywod sydd wedi bod yn gweithio ond sydd ddim yn cwrdd â’r amodau gwaith ac enillion ar gyfer Tâl Mamolaeth Statudol.
Fe fyddwch yn medru cael Lwfans Mamolaeth os ydych wedi bod yn gweithio’n ddiweddar neu os ydych wedi stopio gweithio i gael plentyn. Rhaid eich bod wedi bod yn gweithio am o leiaf 26 wythnos yn y 66 wythnos cyn bod disgwyl i’r babi gyrraedd. Nid oes gwahaniaeth os ydyw’r wythnosau hyn wedi eu rhannu, neu os nad ydynt ar gyfer yr un cyflogwr. Fe fyddwch yn medru cael Lwfans Mamolaeth os nad ydych yn gymwys ar gyfer Tâl Mamolaeth Statudol, tra’ch bod chi wedi bod yn ennill o leiaf £30 yr wythnos ar gyfartaledd. Fe all hyn ddod o waith cyflogedig neu hunangyflogedig. Nid yw Lwfans Mamolaeth yn dibynnu ar gyfraniadau yswiriant gwladol.
Mae swm y Lwfans Mamolaeth a gewch naill ai’n 90 y cant o’ch enillion cyfartalog neu’n £123.06 yr wythnos, pa un bynnag sydd leiaf. Efallai y cewch swm ychwanegol ar gyfer eich gwr, partner sifil, neu rywun arall sy’n gofalu am eich plant, os ydynt ar incwm isel iawn.
Dylech hawlio Lwfans Mamolaeth ar y ffurflen MA1 sydd ar gael:
Dylech ddychwelyd y ffurflen i’ch swyddfa budd-daliadau leol. Byddwch angen tystiolaeth feddygol o'ch beichiogrwydd, fel arfer eich tystysgrif mamolaeth (MatB1). Os ydych yn hawlio Lwfans Mamolaeth ar ôl geni eich babi, dylech anfon y dystysgrif geni. Os ydych yn gyflogedig, mae’n rhaid i chi ddarparu Ffurflen SMP1 gan eich cyflogwr hefyd, sy’n cadarnhau nad ydych â hawl i Dâl Mamolaeth Statudol.
Fe fyddwch yn medru hawlio ar unrhyw adeg unwaith yr ydych chi 26 wythnos i mewn i’r beichiogrwydd. Os ydych yn hwyr yn hawlio, fe allwch gael Lwfans Mamolaeth hyd at dri mis cyn i chi hawlio os oeddech yn gymwys i gael budd-dâl ynghynt. Nid oes gwahaniaeth paham y mae eich cais yn hwyr.
Pan fyddwch chi’n hawlio Lwfans Mamolaeth, rhaid i chi roi eich rhif yswiriant gwladol (a rhif yswiriant gwladol eich gwr, partner sifil, neu oedolyn arall sy’n gofalu am eich plant os ydych yn hawlio swm ychwanegol ar gyfer y person yma). Os nad ydych yn gwybod beth yw eich rhif, ond rydych yn credu bod rhif gennych, dylech ddarparu tystiolaeth a fydd yn helpu’r swyddfa budd-daliadau i ddod o hyd i’ch rhif. Os nad oes rhif yswiriant gwladol gennych, fe fydd yn rhaid i chi ofyn am un.
Am wybodaeth ynghylch sut i ofyn am rif yswiriant gwladol, gweler Yswiriant Gwladol – cyfraniadau a budd-daliadau.
Rydych yn medru cael Lwfans Mamolaeth am hyd at 39. Y cynharaf y bydd yn medru dechrau cael ei dalu yw’r 11eg wythnos cyn y dyddiad y mae disgwyl i’r babi gyrraedd. Yr hwyraf y bydd yn medru dechrau yw yn union wedi i’ch babi gael ei (g)eni. Mae yna reolau ynghylch pryd y mae’n rhaid dechrau talu Lwfans Mamolaeth os nad ydych yn gweithio, neu os nad ydych â hawl i Lwfans Mamolaeth hyd nes yn hwyrach yn eich beichiogrwydd.
Os hoffech fwy o wybodaeth ynghylch pryd y bydd eich Lwfans Mamolaeth yn cael ei dalu, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os gwrthodir eich cais am Lwfans Mamolaeth a chithau’n meddwl eich bod â hawl iddo, neu os ydych yn cael llai o fudd-dâl nag y dylech fod wedi ei gael yn eich barn chi, fe fyddwch yn medru gofyn am ailystyried y penderfyniad neu fe fyddwch yn medru apelio. Dylech wneud hyn o fewn un mis i’r penderfyniad. Os nad ydych yn hapus gyda’r gwasanaeth a gawsoch gan y swyddfa budd-daliadau, er enghraifft, oherwydd camgymeriadau neu oedi, fe fyddwch yn medru cwyno. Fe fyddwch yn medru gwneud hyn, waeth a ydych chi hefyd am herio penderfyniad.
Os nad ydych yn hapus gyda’r gwasanaeth a gawsoch gan y swyddfa budd-daliadau, er enghraifft, oherwydd camgymeriadau neu oedi, fe fyddwch yn medru cwyno. Fe fyddwch yn medru gwneud hyn, waeth a ydych chi hefyd am herio penderfyniad.
Mae yn erbyn y gyfraith i chi gael eich trin yn annheg oherwydd eich hil, rhyw, rhywioldeb, crefydd neu anabledd pan fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (y DWP) yn penderfynu a ydych yn gymwys i gael Lwfans Mamolaeth. Hefyd, mae gan y DWP bolisi sy'n nodi na fyddant yn gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd pethau eraill, er enghraifft os oes dyletswyddau gofal gennych. Os ydych yn teimlo eich bod wedi dioddef gwahaniaethu, rydych yn medru cwyno am hyn.
Am fwy o wybodaeth ynghylch herio penderfyniad ynghylch budd-dâl ac ynghylch cwyno, gweler Problemau gyda budd-daliadau a chredydau treth.
Os ydych am herio penderfyniad ynghylch Lwfans Mamolaeth neu os ydych am gwyno, rydych hefyd yn medru holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os nad oes hawl gennych i Dâl Mamolaeth Statudol neu Lwfans Mamolaeth, - efallai oherwydd nad ydych wedi bod yn gweithio yn ddiweddar – efallai y byddwch yn medru hawlio budd-daliadau yn lle.
Os ydych yn feichiog neu os ydych wedi cael babi’n ddiweddar, efallai y byddwch hefyd yn medru hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Fe fydd hyn yn dibynnu ar ba gam o’r beichiogrwydd yr ydych, ac a fyddai yna berygl i’ch iechyd chi neu iechyd eich babi petaech yn gweithio. Efallai y byddwch yn medru hawlio Cymhorthdal Incwm yn lle. Fe fyddwch yn medru hawlio Cymhorthdal Incwm unwaith yr ydych 29 wythnos i mewn i’r beichiogrwydd, neu ynghynt os nad ydych yn medru gweithio oherwydd eich beichiogrwydd. Cyn hyn, os ydych yn medru gweithio, efallai y byddwch yn medru hawlio Lwfans Ceisio Gwaith.
Mae’r rheolau ynghylch y budd-daliadau y byddwch yn medru eu hawlio mewn beichiogrwydd ac yn gynnar mewn mamolaeth yn gymhleth. Os ydych yn feichiog neu newydd gael babi ac nid ydych yn credu y medrwch gael Tâl Mamolaeth Statudol neu Lwfans Mamolaeth, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych yn dad sy’n gweithio, neu’n bartner menyw sy’n cael plentyn (gan gynnwys partner o’r un rhyw), efallai y byddwch yn medru cael Tâl Tadolaeth Statudol am bythefnos yn ystod eich cyfnod tadolaeth. Fe fyddwch hefyd yn medru cael Tâl Tadolaeth Statudol am gyfnod tadolaeth yr ydych yn ei gymryd wrth fabwysiadu plentyn.
Am fwy o wybodaeth ynghylch hawliau tadolaeth a chyflog gweler Hawliau rhieni yn y gwaith.
Os nad oes hawl gennych i Dâl Tadolaeth Statudol – efallai am, nad ydych wedi gweithio am ddigon o amser – efallai na fyddwch yn medru hawlio unrhyw gyfnod tadolaeth. Dylech holi am eich hawliau o dan eich cytundeb cyflogaeth. Os ydych ar gyfnod tadolaeth statudol ond nid ydych yn cael unrhyw Dâl Tadolaeth Statudol neu daliad gan eich cyflogwr neu rydych yn cael Budd-dâl Tai, Budd-dâl Treth Gyngor neu gredydau treth pan fyddwch chi’n gweithio, efallai y bydd hawl gennych i Gymhorthdal Incwm yn ystod eich cyfnod tadolaeth. Efallai y byddwch hefyd yn cael hwn os ydych yn cael peth Tâl Tadolaeth Statudol ond ar lefel isel iawn.
Mae’r rheolau ynghylch budd-daliadau a chyfnod tadolaeth yn gymhleth. Os ydych ar incwm isel ac nid ydych yn medru cael unrhyw fath o dâl tadolaeth, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych yn aelod o bâr gwahanrywiol ac mae gennych gais ar y cyd gyda’ch partner am Lwfans Ceisio Gwaith, mae’n bosib bod beichiogrwydd eich partner yn golygu mai chi yn unig sy’n gorfod cofrestru. Efallai hefyd y bydd eich partner yn medru hawlio Cymhorthdal Incwm ar gyfer y ddau ohonoch hyd nes ychydig o wythnosau ar ôl iddi gael y babi, yn lle Lwfans Ceisio Gwaith. Unwaith y caiff y plentyn ei (g)eni neu os ydych yn mabwysiadu plentyn, nid oes rhaid i’r ddau ohonoch gofrestru i gael Lwfans Ceisio Gwaith a dim ond un ohonoch sy’n gorfod cwrdd ag amodau ceisio gwaith. Os ydych yn hawlio Cymhorthdal Incwm fel arfer, ni chaiff eich hawl i fudd-dâl ei effeithio am fod eich partner yn feichiog.
Mae’r rheolau ynghylch y ffordd y mae cael plentyn yn effeithio ar Gymhorthdal Incwm a Lwfans Ceisio Gwaith yn gymhleth. Os ydych yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith fel pâr ac mae eich partner yn feichiog, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych yn cymryd cyfnod tadolaeth i ofalu am eich plant, efallai y byddwch â hawl i Gymhorthdal Incwm os nad yw’ch cyflogwr yn eich talu o gwbl, ac os ydych yn cael Budd-dâl Tai, Budd-dâl Treth Gyngor neu gredydau treth fel arfer pan fyddwch chi’n gweithio. Mae gan ddynion a menywod yr hawl i gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith heb gyflog fel cyfnod tadolaeth os ydynt wedi gweithio ar gyfer eu cyflogwr am flwyddyn.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cyfnod tadolaeth, gweler Hawliau rhieni yn y gwaith.
Os ydych am wybod mwy am hawlio Cymhorthdal Incwm yn ystod cyfnod tadolaeth, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych yn gweithio ac rydych yn mabwysiadu plentyn, efallai y byddwch yn medru cael Tâl Mabwysiadu Statudol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Tâl Mabwysiadu Statudol, gweler Hawliau rhieni yn y gwaith.
Os ydych yn cael budd-daliadau neu gredydau treth am eich bod chi ar incwm isel, efallai y byddwch yn medru cael grant mamolaeth gan y Gronfa Gymdeithasol (a elwir hefyd yn grant mamolaeth Cychwyn Cadarn) i helpu gyda chostau babi newydd. Nid oes gwahaniaeth ar beth yr ydych yn gwario’r arian, ac nid oes rhaid ad-dalu’r grant. Mae grant mamolaeth yn swm sefydlog o £500.
Fe fyddwch yn medru cael grant mamolaeth os ydych chi neu eich partner o leiaf 29 wythnos i mewn i’r beichiogrwydd neu wedi rhoi genedigaeth i blentyn o fewn y tri mis diwethaf. Fe fyddwch yn medru cael un os ydych chi neu eich partner wedi mabwysiadu plentyn sy’n iau na blwydd oed adeg y cais neu rydych chi wedi cael plentyn trwy fam faeth. Os oes gennych blentyn dibynnol sy’n feichiog neu wedi rhoi genedigaeth yn y tri mis diwethaf, fe fyddwch yn medru hawlio grant mamolaeth iddi hi. Mae’n bosib fod hyn yn berthnasol i chi os oes merch gennych ac rydych yn cael Budd-dâl Plant ar ei chyfer ac mae’n feichiog. Os yw’ch merch yn cael budd-dâl cymwys ar ei phen ei hun, fe fydd yn medru hawlio’r grant mamolaeth ei hun.
Fe fyddwch yn medru cael grant mamolaeth os ydych chi neu eich partner yn cael Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm neu Gredyd Pensiwn adeg y cais. Os ydych yn cael Credyd Treth Plant neu Gredyd Treth Gwaith, efallai y byddwch yn medru cael grant mamolaeth, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau. Os ydych yn geisiwr lloches sy’n cael cefnogaeth y Gwasanaeth Cymorth Lloches Cenedlaethol (NASS), ni fyddwch yn medru cael grant mamolaeth ond fe fyddwch yn medru gofyn i’r NASS am un taliad o £300. Rhaid i chi ofyn cyn bod eich babi’n bythefnos oed.
Os ydych yn cael Credyd Treth Plant neu Gredyd Treth Gwaith, fe fyddwch yn medru cael grant mamolaeth os ydych yn cael Credyd Treth Plant ar gyfradd sy'n uwch na'r elfen teulu neu Gredyd Treth Gwaith ble mae yna hawl i elfen anabledd. Os yw eich incwm yn gostwng am eich bod yn cymryd amser i ffwrdd i gael babi, efallai y byddai'n werth gofyn i'r swyddfa Credydau Treth i ailasesu eich hawl i gredyd treth ar sail incwm y flwyddyn gyfredol. Yna, efallai y gwelwch fod hawl gennych i grant mamolaeth.
Dylech hawlio grant mamolaeth ar ffurflen SF100 (Cychwyn Cadarn) sydd ar gael o swyddfeydd budd-daliadau lleol neu glinigau mamolaeth, neu, yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, fe fyddwch yn medru cael y ffurflen ar-lein yn www.dwp.gov.uk. Fe fyddwch yn medru hawlio o’r unfed wythnos ar ddeg cyn bod disgwyl i’r babi gyrraedd a hyd at dri mis ar ôl geni’r babi, neu hyd at dri mis ar ôl dyddiad y gorchymyn mabwysiadu neu’r gorchymyn rhiant.
Fe fydd angen i chi roi tystiolaeth eich bod wedi cael cyngor gweithiwr iechyd proffesiynol ynghylch anghenion iechyd a lles eich plentyn.
Os gwrthodir eich cais am grant mamolaeth ac rydych yn credu bod hawl gennych i gael y grant, fe fyddwch yn medru gofyn am ailystyried y penderfyniad, neu fe fyddwch yn medru apelio. Dylech wneud hyn o fewn mis i’r penderfyniad. Fe fyddwch hefyd yn medru cwyno os nad ydych yn hapus gyda’r gwasanaeth a gawsoch gan y swyddfa budd-daliadau, er enghraifft, os oes oedi.
Mae yn erbyn y gyfraith i chi gael eich trin yn annheg oherwydd eich hil, rhyw, rhywioldeb, crefydd neu anabledd pan fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (y DWP) yn penderfynu a ydych yn gymwys i gael grant mamolaeth. Hefyd, mae gan y DWP bolisi sy'n nodi na fyddant yn gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd pethau eraill, er enghraifft os oes cyfrifoldebau gofal gennych. Os ydych yn teimlo eich bod wedi dioddef gwahaniaethu, rydych yn medru cwyno am hyn.
Am fwy o wybodaeth ynghylch herio penderfyniad ynghylch grant mamolaeth, gweler Problemau gyda budd-daliadau a chredydau treth.
Os ydych eisiau help i herio penderfyniad ynghylch grant mamolaeth, neu i gwyno, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Y prif fudd-daliadau ar gyfer plant yw Budd-dâl Plant a Chredyd Treth Plant. Fe fydd y rhan fwyaf o’r bobl sy’n byw yn y Deyrnas Gyfunol yn medru hawlio Budd-dâl Plant ar gyfer eu plant (gweler y pennawd Budd-dâl Plant). Os nad yw rhieni plentyn yn medru gofalu am blentyn, efallai y bydd y person sy’n gofalu am y plentyn yn medru hawlio Lwfans Gwarcheidwad hefyd (gweler y pennawd Lwfans Gwarcheidwad).
Fe fydd llawer o rieni hefyd yn medru hawlio Credyd Treth Plant ar gyfer eu plant. Efallai y byddwch yn medru cael hwn waeth a ydych chi’n gweithio ai peidio, gan ddibynnu ar eich incwm a sawl plentyn sydd gennych (gweler y pennawd Credyd Treth Plant). Os oes plentyn gennych sy’n anabl, efallai y byddwch yn medru cael arian ychwanegol wedi ei gynnwys yn eich budd-daliadau, ac efallai y byddwch yn medru hawlio Lwfans Byw i’r Anabl ar gyfer eich plentyn (gweler y pennawd Lwfans Byw i’r Anabl).
Mae Budd-dâl Plant yn fudd-dâl di-dreth a delir i’r rhan fwyaf o bobl sydd â phlant. Nid oes rhaid eich bod wedi talu unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol i gael Budd-dâl Plant ac nid oes gwahaniaeth faint o arian sy’n dod i mewn gennych.
Fe fyddwch yn medru cael Budd-dâl Plant os ydych yn gyfrifol am blentyn sy’n 16 neu’n iau, neu berson ifanc sy’n iau na 20 os ydynt yn dal i fod mewn addysg llawn amser hyd at Lefel A neu’r cyfwerth neu ar rai cyrsiau hyfforddiant penodol sydd wedi'u cymeradwyo. Efallai y byddwch hefyd yn medru cael Budd-dâl Plant ar gyfer person ifanc a dderbyniwyd ar gwrs. Mae hyn yn golygu bod y rhan fwyaf o rieni yn medru cael Budd-dâl Plant, ond rydych chi hefyd yn medru ei gael os ydych yn magu plentyn ac nid chi yw’r rhiant biolegol. Fel arfer, ni fyddwch yn medru cael Budd-dâl Plant i blentyn yr ydych yn maethu. Fe fyddwch chi’n cael Budd-dâl Plant ar gyfer pob plentyn sy’n gyfrifoldeb i chi. Fel arfer, rhaid eich bod chi a’ch plentyn yn byw yn y Deyrnas Gyfunol i hawlio Budd-dâl Plant. Os nad ydych yn byw yn y Deyrnas Gyfunol, os ydych yn gadael y Deyrnas Gyfunol am fwy nag ychydig wythnosau, neu os nad yw eich plentyn yn byw yn y Deyrnas Gyfunol, mae’r rheolau’n gymhleth. Fel arfer, ni fyddwch yn medru hawlio Budd-dâl Plant i blentyn sydd mewn gofal gyda’r awdurdod lleol neu yn y carchar.
Os yw plentyn neu berson ifanc y talwyd Budd-dal Plant ar ei g/chyfer, yn marw, fe fyddwch yn parhau i gael Budd-dal Plant am wyth wythnos ar ôl yr wythnos y mae'n marw. Efallai y bydd y taliadau Budd-dal Plant yn dod i ben cyn wyth wythnos petai'r person ifanc wedi cyrraedd 20 cyn diwedd yr wyth wythnos.
Os yw plentyn yn marw cyn diwedd yr wythnos y cafodd ei (g)eni, fe fyddwch yn medru hawlio Budd-dal Plant am yr wyth wythnos ar ôl yr wythnos y bu farw'r plentyn.
Os nad ydych chi neu'ch plentyn bob amser yn byw yn y DG, neu os oes plentyn gennych sydd mewn gofal gyda’r awdurdod lleol neu yn y carchar, neu mae'ch plentyn yn marw, ac rydych chi am hawlio Budd-dâl Plant, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Telir Budd-dâl Plant ar gyfradd uwch ar gyfer eich plentyn hynaf ac ar yr un gyfradd ar gyfer pob un o’ch plant eraill.
| Cyfradd wythnosol o 5 Ionawr 09 | |
| Budd-dâl Plant i' plentyn hynaf | £20.00 |
| Budd-dâl Plant i blant eraill | £13.20 |
Dylech hawlio Budd-dâl Plant trwy gwblhau ffurflen CH2 sydd ar gael o’r Swyddfa Budd-dâl Plant, canolfannau ymholiad Cyllid a Thollau EM (CAThEM) neu swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith. Rhif ffôn y Swyddfa Budd-dâl Plant yw 0845 302 1444 (ffôn testun 0845 302 1474) yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, a 0845 603 2000 yng Ngogledd Iwerddon. Fe allwch lawrlwytho'r ffurflen hon o wefan Cyllid a Tholau EM yn www.hmrc.gov.uk.
Pan fyddwch chi’n hawlio Budd-dâl Plant, fe fydd yn rhaid i chi roi eich rhif yswiriant gwladol, neu wybodaeth i helpu’r swyddfa i ddod o hyd i’ch rhif. Os nad oes rhif yswiriant gwladol gennych, anfonwch y ffurflen i mewn beth bynnag, i osgoi unrhyw oedi.
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i gael rhif yswiriant gwladol, gweler Yswiriant Gwladol – cyfraniadau a budd-daliadau.
Fe fyddwch yn medru cael Budd-dâl Plant am hyd at dri mis cyn y dyddiad yr ydych yn hawlio. Gelwir hyn yn ôl-ddyddio. Fe fyddwch ond yn medru gwneud hyn os oeddech yn cwrdd ag amodau’r budd-dâl cyn i chi hawlio. Dylech esbonio ar eich ffurflen gais pryd y dechreuodd eich hawl i Fudd-dâl Plant (er enghraifft, pan ganwyd eich plentyn). Nid oes gwahaniaeth pam nad ydych wedi hawlio ynghynt.
Os oes angen help arnoch i hawlio Budd-dâl Plant wedi ei ôl-ddyddio, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Efallai eich bod yn cyflawni twyll budd-dâl os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol yn fwriadol, neu os nad ydych yn llwyddo i ddweud am newid mewn amgylchiadau sy’n medru effeithio ar eich Budd-dâl Plant, er enghraifft os oes plentyn gennych dros 16 sy’n gadael ysgol ac yn dechrau gwaith. Hyd yn oed os nad ydych yn twyllo, efallai y byddwch yn medru achosi gordaliad y bydd yn rhaid ei ad-dalu. Gellir gwirio eich amgylchiadau ar unrhyw adeg tra’ch bod yn hawlio. Mae twyll budd-dâl yn drosedd a gellir eich erlyn neu ofyn i chi dalu dirwy.
Os ydych yn poeni eich bod dan amheuaeth o dwyll, rydych yn destun archwiliad neu rydych wedi eich cael yn euog, neu os gofynnwyd i chi ad-dalu gordaliad, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Telir Budd-dâl Plant gan y Swyddfa Budd-dâl Plant, sy’n rhan o Gyllid a Thollau EM. Os ydych yn byw gyda rhiant arall eich plant, telir Budd-dâl Plant i’r fam. Os nad ydych yn byw gyda’r rhiant arall, telir Budd-dâl Plant fel arfer i’r rhiant sy’n byw gyda’r plentyn. Os oes mwy nag un person yn hawlio Budd-dâl Plant ar gyfer yr un plentyn, mae yna reolau ynghylch pwy ddylai gael y budd-dâl.
Os nad ydych yn hapus gyda phenderfyniad ynghylch Budd-dâl Plant, fe fyddwch yn medru gofyn am ailystyried y penderfyniad, neu fe fyddwch yn medru apelio. Ond, ni ellir apelio gyda rhai achosion yn ymwneud â Budd-dâl Plant, er enghraifft, penderfyniad ynghylch pwy ddylai dderbyn Budd-dâl Plant pan fydd dau berson wedi hawlio. Os nad ydych yn hapus gyda’r penderfyniad ynghylch eich cais am fudd-dâl, dylech ei herio o fewn un mis.
Os nad ydych yn hapus gyda’r gwasanaeth a ddarparwyd gan y Swyddfa Budd-dâl Plant, er enghraifft, oherwydd camgymeriadau neu oedi, fe fyddwch yn medru cwyno. Fe fyddwch yn medru gwneud hyn waeth a ydych chi eisiau herio penderfyniad ai peidio.
Mae yn erbyn y gyfraith i chi gael eich trin yn annheg oherwydd eich hil, rhyw, crefydd, rhywioldeb neu anabledd pan fydd y Swyddfa Budd-dâl Plant yn delio gyda'ch cais am Fudd-dâl Plant. Hefyd, mae'r Swyddfa Budd-dâl lant yn rhan o Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, sydd â pholisi sy'n nodi na fyddant yn gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd pethau eraill, er enghraifft os oes cyfrifoldebau gofal gennych. Os ydych yn teimlo eich bod wedi dioddef gwahaniaethu, rydych yn medru cwyno am hyn.
Am fwy o wybodaeth ynghylch herio penderfyniad am fudd-dâl ac ynghylch cwyno, gweler Problemau gyda budd-daliadau a chredydau treth.
Os ydych am herio penderfyniad ynghylch Budd-dâl Plant neu os ydych am gwyno fe fyddwch hefyd yn medru holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae Lwfans Gwarcheidwad yn fudd-dâl di-dreth y byddwch yn medru ei hawlio os ydych yn gofalu am blentyn sydd ddim yn blentyn i chi (yn fiolegol neu trwy fabwysiadu). Fe fyddwch ond yn medru ei gael os ydych yn cael Budd-dâl Plant ar gyfer y plentyn. Telir Lwfans Gwarcheidwad gan y Swyddfa Budd-dâl Plant (rhan o Gyllid a Thollau EM). Felly, efallai y byddwch yn medru cael Lwfans Gwarcheidwad os ydych yn gofalu am blentyn amddifad, neu y mae’r rhieni sy’n fyw ar goll neu yn y carchar, neu y mae’r rhiant maeth wedi marw. Telir Lwfans Gwarcheidwad ar gyfradd o £14.10 yr wythnos am bob plentyn cymwys.
Os nad ydych yn siwr a ydych yn medru hawlio Lwfans Gwarcheidwad fe fyddwch yn medru cysylltu â’r Swyddfa Budd-dâl Plant - gweler y pennawd Sut i geisio am Fudd-dâl Plant, uchod.
Fe fyddwch yn medru hawlio Lwfans Gwarcheidwad ar ffurflen BG1 sydd ar gael o’r Swyddfa Budd-dâl Plant, canolfannau ymholiad Gyllid a Thollau EM (CAThEM), swyddfeydd Canolfan Byd Gwaith neu, yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, oddiar wefan CAThEM www.hmrc.gov.uk/childbenefit. Os nad ydych eisoes wedi hawlio Budd-dâl Plant, dylech ei hawlio ar yr un pryd â Lwfans Gwarcheidwad. Fe fydd yn rhaid i chi roi rhif yswiriant gwladol neu wybodaeth i helpu dod o hyd i’ch rhif, neu fe fydd yn rhaid i chi ofyn am rif yswiriant gwladol os nad oes un gennych. Os oeddech yn bodloni’r amodau ar gyfer Lwfans Gwarcheidwad cyn i chi hawlio, fe fyddwch yn medru cael hyd at dri mis o’r budd-dâl wedi’i ôl-ddyddio.
Am fwy o wybodaeth ynghylch rhifau yswiriant gwladol, gweler Yswiriant Gwladol – cyfraniadau a budd-daliadau.
Os oes gennych unrhyw broblemau neu ymholiadau ynghylch Lwfans Gwarcheidwad, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae un o fy mhlant yn anabl. Rwy'n rhiant sengl ac nid wyf yn medru gweithio am fod fy mhlentyn angen llawer o ofal. Ydw i'n medru cael help ariannol ychwanegol? Nid Saesneg yw fy iaith gyntaf a dydw i ddim yn medru deall yr hyn y mae'r holl ffurflenni'n ei ddweud yn iawn.
Dylech gael Cymhorthdal Incwm os yw'ch plentyn yn iau nag 16. Efallai hefyd y byddwch yn cael peth help ariannol ychwanegol am fod eich plentyn yn anabl. Dylai'ch swyddfa budd-daliadau leol fod yn medru rhoi taflen i chi'n esbonio popeth yn eich iaith eich hun. Rydych hefyd yn medru cael copi o'r daflen ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau, sef www.dwp.gov.uk [www.dwp.gov.uk/otherlanguages]. Os ydych chi angen cyfieithydd ar y pryd i hawlio Cymhorthdal Incwm, dylid darparu un. Os nad ydynt yn rhoi'r help yma i chi, mynnwch gyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol.
Os ydych yn gyfrifol am blentyn anabl, efallai y byddwch yn medru cael Lwfans Byw i’r Anabl ar gyfer y plentyn. Efallai hefyd y byddwch yn medru cael symiau ychwanegol pan fydd budd-daliadau eraill sy’n ddibynnol ar brawf moddion yn cael eu cyfrifo - er enghraifft, gyda Budd-dâl Tai a Budd-dâl Treth Gyngor. Efallai hefyd y byddwch yn gymwys i symiau ychwanegol wrth gyfrifo Credyd Treth Plant (gweler y pennawd Credyd Treth Plant).
Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Tai, gweler Help gyda’ch rhent - Budd-dâl Tai, ac am wybodaeth ynghylch Budd-dâl Treth Gyngor, gweler Help gyda’ch Treth Gyngor - Budd-dâl Treth Gyngor.
Fe fyddwch yn medru cael Lwfans Byw i’r Anabl ar gyfer plentyn sydd ag anghenion gofal neu broblemau symudedd. Mae anghenion gofal yn cynnwys help i olchi a gwisgo, ac mae problemau symudedd yn cynnwys anhawster wrth gerdded ar oed y byddai’r rhan fwyaf o blant ddim angen help. Nid yw plant sy’n iau na 16 yn medru hawlio Lwfans Byw i’r Anabl ar eu pen eu hun, ac felly fel arfer fe fyddwch yn ei hawlio ar ran eich plentyn os mai chi yw’r rhiant neu warcheidwad.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Lwfans Byw i’r Anabl, gan gynnwys rheolau arbennig i blant, gweler Budd-daliadau i bobl sy’n sâl neu’n anabl.
Os oes plentyn anabl gennych, gwnewch yn siwr eich bod yn cael yr holl help arall sydd ar gael i chi. Er enghraifft, efallai y bydd y cyngor yn helpu gyda gofal. Mae yna gonsesiynau cludiant a pharcio a allai helpu'ch plentyn wrth deithio. Mae yna reolau arbennig ynghylch addysg i blant anabl.
Am fwy o wybodaeth ynghylch help gan y cyngor, gweler Gofal cymunedol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch consesiynau cludiant a pharcio, gweler Dewisiadau trafnidiaeth ar gyfer pobl anabl.
Am fwy o wybodaeth ynghylch addysg plant anabl yn Lloegr, gweler Anghenion Addysgol Arbennig ac yn yr Alban, gweler Canllawiau rhieni i gymorth ychwanegol gyda dysgu.
Mae Credyd Treth Plant yn daliad i bobl â phlant, waeth a ydyn nhw mewn gwaith neu allan o waith. Caiff ei dalu gan Gyllid a Thollau EM (CAThEM). Fe fyddwch yn medru cael Credyd Treth Plant os yw’ch incwm yn ddigon isel ac rydych yn gyfrifol am o leiaf un plentyn. Fe fyddwch yn cael Credyd Treth Plant am bob plentyn. Nid oes angen i chi gael incwm isel iawn i gael peth help gan Gredyd Treth Plant, ac felly mae’r rhan fwyaf o bobl sydd â phlant yn cael y credyd.
Fe fyddwch yn medru cael Credyd Treth Plant os ydych yn 16 neu’n hyn ac yn gyfrifol am o leiaf un plentyn. Mae hyn yn golygu plentyn o dan 16, neu berson ifanc hyd at 19 oed sydd mewn addysg llawn amser hyd at Lefel A neu’r cyfwerth, neu ar gyrsiau hyfforddiant penodol sydd wedi eu cymeradwyo. Efallai y byddwch hefyd yn medru cael Credyd Treth Plant ar gyfer person ifanc a dderbyniwyd ar un o'r cyrsiau hyn. Rydych hefyd yn medru cael Credyd Treth Plant ar gyfer person ifanc sy’n iau na 18 sydd wedi cofrestru gyda’r Gwasanaeth Gyrfaoedd, os ydyw wedi gadael yr ysgol o fewn yr 20 wythnos diwethaf.
Fe fydd swm y Credyd Treth Plant a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau a’ch incwm. Fe fyddwch yn medru ei gael ar incwm gros eithaf uchel, gan gynnwys incwm o dros £50,000 y flwyddyn. Os ydych yn byw gyda'ch partner, fe fydd eich incwm yn cael ei gyfuno wrth asesu eich cais. Mae incwm gros yn golygu eich incwm cyn tynnu treth ac yswiriant gwladol.
Nid yw cynilion yn effeithio ar eich hawl yn uniongyrchol, ond os ydych yn cael llog ar eich cynilion, caiff hyn ei gynnwys fel incwm ac fe fydd yn effeithio ar y swm o Gredyd Treth Plant sy’n ddyledus.
Ni fydd peth o’ch incwm yn cael ei ystyried wrth gyfrifo eich Credyd Treth Plant. Ni fydd Budd-dâl Plant, taliadau cynhaliaeth na Lwfans Mamolaeth yn cael eu hystyried, ynghyd â’r rhan fwyaf o Daliadau Mamolaeth Statudol, Tâl Tadolaeth Statudol a Thâl Mabwysiadu Statudol.
Os ydych yn hawlio Credyd Treth Plant i blentyn ac mae'r plentyn yn marw, rydych yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer y credyd treth, ar yr un gyfradd, am wyth wythnos yn union wedi'r farwolaeth, neu hyd nes y dyddiad y byddai'r person ifanc wedi cyrraedd 20, pa un bynnag sydd gyntaf.
Mae uchafswm y Credyd Treth Plant y byddwch yn medru ei gael yn seiliedig ar eich amgylchiadau, ond efallai y byddwch yn cael llai na hyn, gan ddibynnu ar eich incwm. Mae’r uchafswm yn cynnwys gwahanol elfennau.
Mae elfen gyntaf Credyd Treth Plant yn elfen deulu a delir i unrhyw deulu sydd â chyfrifoldeb dros un plentyn neu fwy. Os oes plentyn yn eich teulu sy’n iau na blwydd oed, fe fyddwch yn cael swm ychwanegol o’r elfen deulu, a elwir weithiau’n elfen babi. Fe fydd hyn yn dod i ben unwaith mae’r plentyn yn flwydd oed.
Fe fyddwch hefyd yn cael elfen plentyn ar gyfer pob plentyn neu berson ifanc yn eich teulu. Fe fyddwch yn cael yr un swm waeth beth yw oed y plentyn. Mae yna symiau ychwanegol i blant sy’n anabl a thelir y rhain ar ben yr elfen plentyn. Os yw’ch plentyn wedi cofrestru’n ddall neu â hawl i Lwfans Byw i’r Anabl, fe fyddwch yn medru cael yr elfen plentyn anabl. Os yw’ch plentyn yn ddifrifol anabl ac â hawl i gyfran uchaf cydran gofal Lwfans Byw i’r Anabl, fe fyddwch â hawl i’r elfen ddifrifol anabl hefyd.
Mae’r cyfrifiad ar gyfer credyd treth yn gymhleth iawn. Os ydych am wybod faint ddylech ei gael, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
| Uchafswm Credyd Treth Plant o 6 Ebrill 09 | |
| Elfen teulu | £545 |
| Elfen uwch y teulu (os yw' teulu'n cynnwys plentyn o dan flwydd oed) | £545 |
| Elfen plentyn: | |
| I bob plentyn | £2,235 |
| I bobl plentyn anabl | £2,670 |
| I bob pentyn sy'n ddifrifol anabl | £1,075 |
I ofyn am Gredyd Treth Plant, rydych yn medru cysylltu â llinell gymorth credyd treth am becyn cais. Y ffurflen gais ar gyfer eich cais cyntaf yw Ffurflen TC600. Fe fyddwch yn gofyn am Gredyd Treth Gwaith ar yr un ffurflen. Dylech ateb pob cwestiwn ar y ffurflen gais rhag ofn y byddwch yn medru cael Credyd Treth Gwaith hefyd. Rhif y llinell gymorth yw 0845 3021 489 (ffôn testun 0845 300 3909).
Mae angen llawer o wybodaeth ar y ffurflen gais, gan gynnwys eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol. Cofiwch, os yw’ch incwm yn mynd i fod yn wahanol iawn i’r flwyddyn dreth ddiwethaf, eich bod yn dweud wrth CAThEM. Os ydych yn cael trafferth wrth lenwi’r ffurflen, mae yna nodiadau sy’n dod gyda’r ffurflen, neu fe fyddwch yn medru ffonio’r llinell gymorth credyd treth, neu holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth.
Mae hefyd yn bwysig eich bod yn cadw cymaint o dystiolaeth o’ch amgylchiadau personol â phosib. Dylech gadw ffurflenni P60 (neu P45 os ydych wedi gadael swydd), datganiadau ynghylch unrhyw fudd-daliadau yr ydych yn eu cael a mantolenni gan eich banc neu gymdeithas adeiladu ynghylch unrhyw gynilion. Fe fydd unrhyw ddogfennaeth am eich incwm neu gyfalaf yn eich helpu i lenwi’r ffurflen.
Pan fyddwch yn gofyn am Gredyd Treth Plant, fe fydd yn rhaid i chi roi eich rhif yswiriant gwladol a rhif yswiriant gwladol unrhyw bartner sy’n byw gyda chi. Os nad ydych yn gwybod eich rhif yswiriant gwladol, ond rydych yn credu bod un gennych, ceisiwch roi cymaint o wybodaeth â phosib i helpu’r swyddfa i ddod o hyd i’ch rhif. Os nad oes rhif yswiriant gwladol gennych, fe fydd yn rhaid i chi ofyn am un.
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i ofyn am rif yswiriant gwladol, gweler Yswiriant Gwladol - cyfraniadau a budd-daliadau.
Efallai y byddwch yn medru cael peth Credyd Treth Plant am gyfnod cyn i chi ofyn amdano, os oeddech yn bodloni’r amodau a byddech wedi medru hawlio ynghynt. Gelwir o broses o gael credyd treth am gyfnod cyn i chi ofyn amdano yn ‘ôl-ddyddio’. Fel arfer, fe fyddwch ond yn medru cael Credyd Treth Plant wedi ei ôl-ddyddio am uchafswm o 93 diwrnod cyn y dyddiad yr ydych yn ceisio. Nid oes rhaid i chi roi rhesymau pam nad ydych wedi hawlio ynghynt. Dylech ofyn am gael credyd treth wedi ei ôl-ddyddio ar eich ffurflen gais.
Os ydych eisiau helpu i hawlio Credyd Treth Plant wedi ei ôl-ddyddio, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Efallai eich bod yn cyflawni twyll credyd treth os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol yn fwriadol wrth ofyn am gredydau treth, neu os nad ydych yn llwyddo i hysbysu ynghylch newid mewn amgylchiadau. Hyd yn oed os nad ydych yn twyllo, fe fyddwch yn medru achosi gordaliad a fydd yn rhaid ei ad-dalu ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu dirwy. Gellir gwirio eich amgylchiadau ar unrhyw adeg tra eich bod chi’n hawlio ac mae swyddogion CATHEM hefyd yn medru gofyn i chi ddarparu mantolenni banc a thystiolaeth arall, ac efallai y byddant yn eich cyfweld. Mae twyll credyd treth yn drosedd a gellir eich erlyn neu wneud i chi dalu dirwy.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gordalu credydau treth, yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, gweler Gordalu credydau treth yn y Taflenni ffeithiau ar Fudd-daliadau.
Os ydych yn poeni ynghylch y posibilrwydd eich bod dan amheuaeth o dwyll, eich bod yn destun archwiliad neu wedi eich cael yn euog, neu os gofynnwyd i chi ad-dalu gordaliad budd-dâl, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosach, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Gellir talu Credyd Treth Plant yn syth i mewn i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, neu i mewn i gyfrif cerdyn swyddfa bost. Os nad ydych yn rhoi manylion cyfrif i CAThEM mae'n bosib y byddwch yn colli eich hawl i Gredyd Treth Plant. Os ydych yn cael trafferth agor cyfrif, dylech gysylltu â CAThEM i esbonio. Fe fydd Credyd Treth Plant yn cael ei dalu i brif gynhaliwr y teulu. Os ydych yn rhan o bâr, fel arfer y prif gynhaliwr yw’r person sy’n cael Budd-dâl Plant.
Am fwy o wybodaeth ynghylch talu budd-daliadau a chredydau treth, gweler Talu budd-daliadau a chredydau treth.
Os ydych yn cael trafferth talu Credyd Treth Plant, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Rhoddir credydau treth am flwyddyn dreth gyfan. Mae blwyddyn dreth yn dechrau ar ddechrau mis Ebrill ac yn parhau hyd nes diwedd y mis Mawrth canlynol. Os ydych yn hawlio ar ôl Ebrill, fe fydd eich dyfarniad yn dechrau o’r dyddiad yr ydych yn hawlio ac yn parhau hyd nes diwedd y mis Mawrth canlynol. Fel arfer, gosodir y swm yr ydych yn ei gael am flwyddyn. Os yw’ch amgylchiadau’n newid yn ystod cyfnod eich dyfarniad, dylech ddweud wrth CAThEM cyn gynted â phosib. Mae hyn yn bwysig, oherwydd fel arall, mae’n bosib na fyddwch yn cael yr holl gredyd treth sy’n ddyledus i chi, neu efallai y cewch ormod o dâl ac fe fydd yn rhaid i chi ei ad-dalu i CAThEM. Fe fydd rhai newidiadau i’ch amgylchiadau yn golygu bod eich dyfarniad yn dod i ben a bod yn rhaid i chi hawlio eto. Fe fydd newidiadau eraill yn golygu bod eich dyfarniad yn parhau ond y bydd yn cael ei gyfrifo eto, ac ni fydd rhai newidiadau yn effeithio ar eich dyfarniad o gwbl.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gordaliadau, yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, gweler Gordalu credydau treth yn y Taflenni ffeithiau ar Fudd-daliadau.
Os gwrthodir rhoi Credyd Treth Plant i chi a chithau’n credu bod hawl gennych iddo, neu os yw’r swm a ddyfarnwyd i chi yn anghywir yn eich barn chi, fe fyddwch yn medru gofyn i CAThEM esbonio eu penderfyniad. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, mae’n bosib i chi ofyn am ailystyried y penderfyniad ne fe fyddwch yn medru apelio. Rhaid i chi wneud hyn o fewn 30 diwrnod i benderfyniad CAThEM.
Os nad ydych yn hapus gyda’r gwasanaeth a gawsoch gan CAThEM, er enghraifft, cafwyd oedi hir, neu maen nhw wedi colli dogfennau a anfonwyd atynt, dylech gwyno. Fe fyddwch yn medru gwneud hyn waeth a ydych chi’n herio penderfyniad gan CAThEM ai peidio.
Mae yn erbyn y gyfraith i chi gael eich trin yn annheg oherwydd eich hil, rhyw neu anabledd pan fydd CaThEM yn penderfynu ynghylch eich cais am Gredyd Treth Plant. Hefyd, mae ganddynt DWP bolisi sy'n nodi na fyddant yn gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd pethau fel eich rhywioldeb, eich crefydd neu eich statws HIV gofal. Os ydych yn teimlo eich bod wedi dioddef gwahaniaethu, rydych yn medru cwyno am hyn.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cwyno am CaThEM, gweler Problemau gyda budd-daliadau a chredydau treth.
Os nad ydych yn hapus gyda phenderfyniad ynghylch Credyd Treth Plant neu os ydych am gwyno, mae hefyd yn bosib i chi holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Pan fyddwch chi’n cael Credyd Treth Plant, efallai y bydd hawl gennych i help ariannol o fath arall hefyd. Os ydych yn talu rhent, efallai y byddwch yn medru cael Budd-dâl Tai. Os ydych yn gorfod talu Treth Gyngor, efallai hefyd y byddwch yn medru cael Budd-dâl Treth Gyngor. Caiff Credyd Treth Plant ei ystyried fel incwm ar gyfer y ddau fudd-dal hyn, sy’n golygu ei fod yn effeithio ar faint o Fudd-dâl Tai a Budd-dâl Treth Gyngor y byddwch yn medru ei gael.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Tai, gweler Help gyda’ch rhent - Budd-dâl Tai, ac am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Treth Gyngor, gweler Help gyda’ch Treth Gyngor– Budd-dâl Treth Gyngor.
Os ydych yn cael Credyd Treth Plant, efallai y byddwch hefyd yn medru cael help o fath arall. Er enghraifft, efallai bod hawl gennych i fudd-daliadau iechyd, gan gynnwys presgripsiynau rhad ac am ddim. Efallai hefyd y byddwch yn medru cael help gyda chostau babi newydd gan grant mamolaeth Cychwyn Cadarn (gweler y pennawd Help gyda chostau babi newydd - grantiau mamolaeth gan y Gronfa Gymdeithasol), help gyda chostau angladd o daliad angladd neu ginio ysgol rhad ac am ddim. Os ydych yn feichiog neu’n magu plentyn ifanc, efallai hefyd y bydd hawl gennych i fitaminau rhad ac am ddim a thalebau i helpu gyda chost llaeth, ffrwythau a llysiau. Fe fydd y penderfyniad i roi’r help yma i chi yn dibynnu ar eich incwm, ac a ydych chi’n cael Credyd Treth Gwaith hefyd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch budd-daliadau iechyd, gweler Help gyda chostau iechyd, addysg a chyfreithiol, ac am fwy o wybodaeth ynghylch taliadau angladd, gweler Help i bobl ar incwm isel - y Gronfa Gymdeithasol.
Os oes unrhyw gwestiynau gennych ynghylch yr help ychwanegol sydd ar gael i chi tra’ch bod yn cael Credyd Treth Plant, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nid yw Credyd Treth Plant yn cynnwys unrhyw help gyda chostau gofal plant. Ond, os ydych yn gweithio ac ar incwm isel, efallai y bydd hawl gennych i Gredyd Treth Gwaith.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Credyd Treth Gwaith, gweler Budd-daliadau a chredydau treth i bobl sy’n gweithio.
Os nad ydych yn cael Credyd Treth Gwaith, efallai bod help o fath arall ar gael i chi gyda gofal plant. Er enghraifft, os ydych yn iau na 18, efallai y byddwch yn medru cael help gyda chostau gofal plant os ydych yn mynd yn ôl i’r ysgol. Os ydych yn rhiant unigol ar y Fargen Newydd i Rieni Unigol, efallai y byddwch yn medru cael help gyda gofal plant er mwyn i chi fedru dilyn cwrs hyfforddiant neu chwilio am waith. Os ydych ar y Fargen Newydd i Rieni Unigol neu'r Fargen Newydd i Bartneriaid, fe fyddwch yn medru cael help gyda chostau gofal plant am yr wythnos cyn i chi ddechrau gweithio er mwyn rhoi cyfle i chi a’ch plentyn ddod yn gyfarwydd â’r trefniadau.
Os ydych yn gweithio, efallai y bydd eich cyflogwr yn cynnig cymorth i chi gyda gofal plant ar ffurf talebau gofal plant. Mae'r Cynllun Talebau Gofal Plant yn golygu eich bod yn ildio peth o'ch cyflog yn gyfnewid am y talebau gofal plant ac mae yna fanteision o ran treth os ydych yn cael talebau yn lle cyflog. Ond, os ydych yn cael gostyngiad yn eich cyflog, fe allai hyn ostwng eich cyflog at swm sy'n is na'r terfyn enillion is gan effeithio ar eich hawliau i rai budd-daliadau. Fe allai eich Pensiwn Gwladwriaeth, Lwfans Mamolaeth, Tâl Mamolaeth Statudol, Tâl Tadolaeth Statudol a chredydau treth gael eu heffeithio os yw eich cyflog yn is na'r terfyn enillion is.
Am fwy o wybodaeth am y Cynllun Talebau Gofal Plant, ewch at www.worksmart.org.uk neu holwch gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych mewn ardal Cychwyn Cadarn, efallai y byddwch yn medru cael cyngor ynghylch y gofal plant sydd ar gael gan raglen Cychwyn Cadarn yn eich ardal chi. Am wybodaeth ynghylch help arall gyda gofal plant, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth, neu chwilio ar www.childcarelink.gov.uk.
Mae’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant yn gyfrif cynilion a buddsoddi i blant. Fe fydd y llywodraeth yn rhoi taliadau i blant trwy’r gronfa hon ac fe fydd eich teulu a’ch ffrindiau hefyd yn medru cyfrannu. Pan fydd eich plentyn yn 18, fe fydd yn cael mynediad i’r cyfrif ac fe fydd yn medru gwario’r arian fel y mae’n dymuno.
Os ganwyd eich plentyn ar neu ar ôl Medi 1af 2002, ac rydych yn cael Budd-dâl Plant ar hyn o bryd, fe fydd eich plentyn yn gymwys i gael cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant (CYP).
Fe fydd y llywodraeth yn rhoi taliad cychwynnol o £250, ac yna taliad arall o £250 ar ben-blwydd eich plentyn yn saith oed. Os ydych yn derbyn Credyd Treth Plant ac mae eich incwm yn llai na £16,040, fe fydd eich plentyn yn cael taliad ychwanegol. Fe fyddwch chi a’ch teulu a’ch ffrindiau hefyd yn medru cyfrannu hyd at £1,200 y flwyddyn i’r gronfa.
Nid oes rhaid i chi hawlio Cronfa Ymddiriedolaeth Plant oherwydd fe fyddwch yn cael talebau yn awtomatig os ydych yn cael Budd-dâl Plant i blentyn cymwys.
Fe allwch ddefnyddio'r daleb i agor cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant ar gyfer eich plentyn gyda darparwr o'ch dewis chi, er enghraifft banc neu gymdeithas adeiladu. Ac yna fe fydd y Llywodraeth yn rhoi taliad cychwynnol i mewn i'r cyfrif.
Os nad ydych wedi agor cyfrif flwyddyn ar ôl derbyn y daleb, fe fydd y Llywodraeth yn gwneud hyn ar eich cyfer, ond fe fydd eich plentyn yn colli llog ar yr arian.
Unwaith y bydd plentyn yn 16, fe fydd yn medru rheoli Cyfrif y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant ei hun, ond ni fydd yn medru defnyddio’r arian hyd nes ei fod yn 18 onid ydyw â salwch marwol.
Os yw plentyn sydd â Chronfa Ymddiriedolaeth Plant yn marw, fe fydd y arian yn y cyfrif yn mynd at y person sydd â hawl i etifeddu ystad y plentyn – fel arfer y rhiant/rhieni. Os yw plentyn yn marw cyn y caiff y cyfrif ei agor iddynt, neu cyn i'r llywodraeth dalu'r arian i mewn i'r cyfrif, fe fyddwch yn medru hawlio'r arian a fyddai wedi cael ei dalu. Dylech ffonio llinell gymorth CYP ynglŷn â hyn.
Am fwy o wybodaeth ar Gronfeydd Ymddiriedolaeth Plant, ffoniwch linell gymorth CYP ar 0845 302 1470 neu ewch at wefan Cyllid a Thollau EM yn www.childtrustfund.gov.uk.
Os ydych yn cael trafferth gyda’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant, dylech gysylltu â llinell gymorth CYP neu holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Yng Nghymru, fe fydd hawl gan blentyn a aned rhwng 1 Medi 2002 a 31 Awst 2004 i gael taleb gwerth £50 i’w thalu i mewn i’w g/chyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Os yw’ch plentyn yn gymwys dylech gael ffurflen hawlio a chanllawiau gan eich awdurdod addysg lleol. Dylech ddychwelyd y ffurflen hawlio, wedi ei chwblhau, at Lywodraeth Cynulliad Cymru i’w phrosesu a’i thalu i mewn i gyfrif y plentyn.
Yng Nghymru, fe fydd plentyn o gartref sydd ar incwm isel â hawl i gael £50 arall. Fe fydd plant sy’n cael cinio ysgol rhad ac am ddim â hawl i gael yr ychwanegiad incwm isel o £50, a dylent gael yr uchafswm o £100.
Os ydych ar incwm isel, efallai y byddwch yn medru cael help o fath arall gyda chostau magu eich plant. Er enghraifft, efallai y bydd hawl gan eich plant i ginio ysgol rhad ac am ddim neu help gyda chostau gwisg ysgol. Os ydych yn feichiog neu mae gennych blant ifanc, efallai hefyd y byddwch yn medru cael talebau i helpu gyda chost llaeth, ffrwythau neu lysiau. Yn y rhan fwyaf o achosion, fe fydd yr help yma’n dibynnu ar y budd-daliadau yr ydych yn eu cael.
Am fwy o wybodaeth ynghylch help o fath arall i blant os ydych ar incwm isel, gweler Help gyda chostau iechyd, addysg a chyfreithiol.
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (y DWP) wedi cyfieithu gwybodaeth ynghylch budd-daliadau i rai ieithoedd cymunedol. Am fwy o wybodaeth cliciwch ar wefan y DWP yn www.dwp.gov.uk [www.dwp.gov.uk/otherlanguages]. I ofyn am gopi papur neu gopi sain o unrhyw daflen sydd gan y DWP yn eich iaith chi, dylech gysylltu â'ch swyddfa budd-daliadau leol.
Mae yna wybodaeth ynghylch budd-daliadau i bobl anabl ar Directgov mewn Iaith Arwyddion Prydeinig. Cliciwch ar www.directgov.gov.uk.