|
Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban
Budd-daliadau ar ôl profedigaeth
Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil gofrestredig ac mae eich partner yn marw, efallai y byddwch yn medru cael help ariannol ychwanegol. Gelwir y budd-daliadau hyn yn fudd-daliadau profedigaeth.
Os fu farw eich gwr neu wraig pan oedden nhw’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog, efallai y byddwch hefyd yn medru cael help ariannol gan yr Asiantaeth Personel Gwasanaethu a Chyn-filwyr (yr SPVA). Fe fyddwch yn medru cael yr help hwn yn ogystal â budd-daliadau profedigaeth - gweler Help ariannol os oedd eich gwr, gwraig neu bartner sifil yn y lluoedd arfog, o dan y pennawd Help arall.
Os nad oes llawer o arian gennych yn dod i mewn ar ôl marwolaeth partner mae’n bosib fod budd-daliadau eraill y medrwch eu hawlio.
Am fwy o wybodaeth ynghylch budd-daliadau eraill os nad oes llawer o arian gennych yn dod i mewn, gweler Help i bobl ar incwm isel – Cymhorthdal Incwm. Os oes plant gennych, gweler Budd-daliadau ar gyfer teuluoedd a phlant.
Os oes partner (gan gynnwys partner priod, partner sifil neu bartner sy'n cyd-fyw gyda chi), rhywun arall yn eich teulu neu ffrind agos yn marw, a chithau ar incwm isel, efallai y byddwch yn medru cael help gyda chostau angladd (gweler y pennawd Taliadau ar gyfer costau angladd, o dan y pennawd Help arall). Mae partneriaid yn cynnwys partneriaid lesbiaidd, hoyw a gwahanrywiol, waeth a oeddech chi'n briod, mewn partneriaeth sifil neu'n cydfyw.
Nôl i’r Brig
Budd-daliadau profedigaeth
Mae budd-daliadau profedigaeth yn fudd-daliadau a delir i wyr neu wragedd gweddw neu bartner partneriaeth sifil sy'n goroesi. Fe fyddwch yn medru cael budd-dâl profedigaeth os fu farw eich gwr, gwraig neu bartner sifil ar neu ar ôl 9 Ebrill 2001.
Os ydych yn ddyn a bu’ch gwraig farw cyn y dyddiad hwn, efallai y byddwch yn dal i fedru cael peth budd-dâl os oes plant gennych - gweler y pennawd Lwfans Rhiant Gweddw. Os ydych yn fenyw ac fe fu farw eich gwr cyn y dyddiad hwn, efallai y byddwch yn cael pensiwn gweddw neu lwfans mam weddw. Fe fyddwch yn medru parhau i gael y budd-daliadau hyn cyhyd â’ch bod â hawl iddynt (gweler y pennawd Budd-daliadau Gweddwon ar gyfer marwolaethau cyn Ebrill 9, 2001).
Mae Budd-daliadau profedigaeth yn golygu Taliad Profedigaeth, sy’n swm un taliad a gewch pan fydd eich cymar neu bartner sifil yn marw (gweler y pennawd Taliad Profedigaeth), Lwfans Rhiant Gweddw os oes plant dibynnol gennych (gweler y pennawd Lwfans Rhiant Gweddw), a Lwfans Profedigaeth os nad oes plant dibynnol gennych (gweler y pennawd Lwfans Profedigaeth).
Pwy sy’n medru cael budd-dâl profedigaeth
Fe fyddwch yn medru cael budd-dâl profedigaeth os gawsoch seremoni briodas ffurfiol gyda’ch gwr neu wraig sydd bellach wedi marw. Rydych hefyd yn medru cael budd-dâl profedigaeth os oeddech chi a'ch partner o'r un rhyw sydd wedi marw, wedi cofrestru partneriaeth sifil.
Yn yr Alban, roedd hi'n arfer bod yn bosib hawlio budd-dâl profedigaeth os oedd gennych ‘briodas afreolaidd’. Mae hyn yn golygu eich bod wedi byw gyda rhywun fel gwr a gwraig ac roeddech yn cael eich trin fel petaech yn briod. Ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn medru hawlio priodas afreolaidd ar ôl Mai 3, 2006. Ond, fe fyddwch yn medru parhau i gael budd-dâl profedigaeth os ydych eisoes â phriodas afreolaidd.
Ni fyddwch yn medru cael unrhyw rai o’r budd-daliadau profedigaeth os oeddech wedi ysgaru wrth eich gwr neu wraig pan fu farw neu os oeddech chi a'ch partner wedi dirymu eich partneriaeth sifil. Rydych hefyd wedi eich eithrio rhag hawlio budd-daliadau profedigaeth os ydych yn ailbriodi, neu'n cofrestru partneriaeth sifil arall. Os ydych yn cael budd-dâl profedigaeth adeg ailbriodi neu pan fyddwch yn cofrestru partneriaeth sifil arall, fe fydd yn stopio. Hyd yn oed os na fyddwch yn ailbriodi neu'n cofrestru partneriaeth sifil arall, ni fyddwch yn medru cael budd-daliadau profedigaeth os ydych yn byw gyda phartner arall.
Ni fyddwch yn medru cael budd-daliadau profedigaeth yn y carchar.
Os nad ydych yn siŵr a fedrwch chi hawlio budd-dâl profedigaeth, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nôl i’r Brig
Taliad Profedigaeth
Mae Taliad Profedigaeth yn swm un taliad di-dreth o £2,000. Rydych yn medru ei hawlio os ddaethoch yn weddw ar neu ar ôl 9 Ebrill 2001. Rhaid i chi hawlio o fewn deuddeg mis i farwolaeth eich gwr, gwraig neu bartner sifil, os nad oes amgylchiadau neilltuol sy’n golygu nad oeddech yn gwybod am y farwolaeth neu ni chadarnhawyd y farwolaeth.
Pwy sy’n medru cael Taliad Profedigaeth
Mae hawl gennych i Daliad Profedigaeth os ydyw eich gwr, gwraig neu bartner sifil a fu farw wedi talu digon o gyfraniadau yswiriant gwladol. Os ydoedd wedi marw o ganlyniad i ddamwain diwydiannol neu glefyd diwydiannol, nid oes gwahaniaeth a dalodd ddigon o gyfraniadau. I gael Taliad Profedigaeth rhaid eich bod yn iau nag oed pensiwn y wladwriaeth pan fu farw eich gwr, gwraig neu bartner sifil, neu – os oeddech yn hyn nag oed pensiwn – rhaid eu bod nhw â dim hawl i bensiwn ymddeol y wladwriaeth, ar sail eu cyfraniadau yswiriant gwladol eu hun, adeg eu marwolaeth. Mae oed pensiwn yn 60 i fenyw a 65 i ddyn. Rhaid eich bod yn briod â’ch gwr neu wraig, neu mewn partneriaeth sifil gofrestredig gyda'ch partner, pan fu farw.
Sut i hawlio Taliad Profedigaeth
Os ydych yn cael Pensiwn Ymddeol y Wladwriaeth pan fydd eich gwr, eich gwraig neu’ch partner sifil yn marw, nid oes angen i chi gyflwyno cais am Daliad Profedigaeth, tra’ch bod yn cwrdd ag amodau eraill. Fe fyddwch yn cael y Taliad Profedigaeth yn awtomatig pan fyddwch yn dweud wrth y swyddfa budd-daliadau am farwolaeth eich partner.
Mewn achosion eraill, dylech hawlio Taliad Profedigaeth ar ffurflen BB1. Rydych yn medru cael y ffurflen BB1:
- o'ch swyddfa budd-daliadau leol
- yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, drwy ffonio'r Ganolfan Byd Gwaith ar radffôn 0800 055 6688 neu ffôn testun 0800 023 4888. Mae yna linell iaith Gymraeg hefyd, sef 0800 012 1888
- yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, oddi ar wefan y Ganolfan Byd Gwaith yn
www.jobcentreplus.gov.uk
- yng Ngogledd Iwerddon, drwy ffonio 0800 220 674 (minicom: 0800 243 787).
Rhaid i chi hawlio o fewn deuddeg mis i farwolaeth eich cymar neu bartner sifil. Os nad oeddech yn medru hawlio o fewn yr amser hwn am nad oeddech yn gwybod bod eich cymar neu bartner sifil wedi marw, neu os na chadarnhawyd y farwolaeth, efallai y bydd modd i chi hawlio’n hwyr.
Os ydych yn credu eich bod yn medru hawlio’n hwyr dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf
Pan fyddwch chi’n hawlio Taliad Profedigaeth, fe fydd yn rhaid i chi roi eich rhif yswiriant gwladol a thystiolaeth mai eich rhif chi ydyw. Os nad ydych yn gwybod eich rhif yswiriant gwladol ond rydych yn credu bod un gennych, dylech roi digon o wybodaeth i helpu’r swyddfa i ddod o hyd iddo. Os nad oes rhif yswiriant gwladol gennych, fe fydd angen i chi ofyn am un cyn y medrwch hawlio Taliad Profedigaeth.
Am fwy o wybodaeth ynghylch yswiriant gwladol, gweler Yswiriant Gwladol – cyfraniadau a budd-daliadau.
Efallai hefyd y bydd yn rhaid i chi ddarparu tystysgrif marwolaeth eich cymar neu eich partner sifil, eich tystysgrif priodas neu'ch tystysgrif partneriaeth sifil neu dystiolaeth arall i gefnogi eich cais am Daliad Profedigaeth. Os nad yw’r dystiolaeth yma gennych, ni ddylech ohirio eich cais.
Os ydych yn cael trafferth rhoi’r dystiolaeth angenrheidiol, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf
Sut caiff eich Taliad Profedigaeth ei dalu
Telir Taliad Profedigaeth yn syth i mewn i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, cyfrif cerdyn y Swyddfa Bost neu trwy siec.
Nôl i’r Brig
Lwfans Rhiant Gweddw
Mae Lwfans Rhiant Gweddw yn daliad wythnosol a roddir i wr neu wraig gweddw neu bartner partneriaeth sifil sy'n goroesi sydd â phlant dibynnol. Fel arfer, rhaid bod eich gwr, gwraig neu bartner sifil wedi marw ar neu ar ôl 9 Ebrill 2001. Ond, os ydych yn ddyn ac fe fu farw eich gwraig cyn y dyddiad hwn, roeddech yn iau na 65 pan fu farw ac nid ydych wedi ailbriodi cyn 9 Ebrill 2001, fe fyddwch hefyd yn medru hawlio Lwfans Rhiant Gweddw.
Mae Lwfans Rhiant Gweddw yn rhan o’ch incwm trethadwy.
Pwy sy’n medru cael Lwfans Rhiant Gweddw
Fe fyddwch yn medru cael Lwfans Rhiant Gweddw os ydych yn magu plentyn neu os ydych yn fenyw sy’n disgwyl babi eich gwr. Fe fyddwch hefyd yn medru cael Lwfans Rhiant Gweddw os ydych yn fenyw a oedd yn byw gyda'ch partner sifil pan fu farw ac rydych yn feichiog o ganlyniad i driniaeth ffrwythlondeb.
Os ydych yn magu plentyn, fel arfer rhaid eich bod chi’n cael Budd-dâl Plant ar gyfer y plentyn yna. Dylai'r plentyn hyn fod:
- yn blentyn i chi a'ch diweddar gymar, neu
- yn blentyn i chi a'ch diweddar bartner sifil, neu
- yn blentyn y cawsoch chi neu eich diweddar gymar neu bartner sifil Fudd-dâl Plant ar ei g/chyfer adeg marwolaeth eich cymar neu bartner sifil (er enghraifft, fe allai fod yn llys-ferch neu'n llys-fab i chi neu'n blentyn a fabwysiadoch).
Rhaid eich bod chi o dan oed pensiwn y wladwriaeth pan fu farw eich gwr, gwraig neu bartner sifil, a rhaid bod eich cymar neu bartner sifil wedi talu digon o gyfraniadau yswiriant gwladol er mwyn i chi gael Lwfans Rhiant Gweddw. Yr unig eithriad yw lle mae’r farwolaeth yn ganlyniad i anaf diwydiannol neu glefyd diwydiannol, ac yn yr achos hwn nid oes gwahaniaeth a dalodd ddigon o gyfraniadau yswiriant gwladol ai peidio.
Os ydych angen mwy o wybodaeth ynghylch amodau cyfraniad ar gyfer Lwfans Rhiant Gweddw, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf
Faint yw Lwfans Rhiant Gweddw
Mae Lwfans Rhiant Gweddw yn cynnwys lwfans sylfaenol, ac, mewn rhai achosion, pensiwn ychwanegol ar ben hyn ar sail enillion eich diweddar wr, gwraig neu bartner sifil. Os ydych wedi hawlio cyn 6 Ebrill 2003, efallai y byddwch yn cael swm ychwanegol ar gyfer pob plentyn dibynnol. Mae hyn yn medru parhau cyhyd â’ch hawliau. Os ydych yn hawlio ar ôl y dyddiad hwn, ni fyddwch yn cael swm ar gyfer eich plant, dylech hawlio Credyd Treth Plant yn lle.
Fe fydd swm y Lwfans Rhiant Gweddw yn dibynnu ar gyfraniadau yswiriant gwladol eich diweddar wr, gwraig neu bartner sifil, os nad ydynt wedi marw oherwydd anaf neu glefyd diwydiannol.
Mae cyfraddau presennol Lwfans Rhiant Gweddw yn adran A – Y budd-daliadau gwefan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn www.dwp.gov.uk
Sut i hawlio Lwfans Rhiant Gweddw
Dylech hawlio Lwfans Rhiant Gweddw ar ffurflen BB1. Rydych yn medru cael y ffurflen BB1:
- o'ch swyddfa budd-daliadau leol
- yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, drwy ffonio'r Ganolfan Byd Gwaith ar radffôn 0800 055 6688 neu ffôn testun 0800 023 4888. Mae yna linell iaith Gymraeg hefyd, sef 0800 012 1888
- yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, oddi ar wefan y Ganolfan Byd Gwaith yn
www.jobcentreplus.gov.uk
- yng Ngogledd Iwerddon, drwy ffonio 0800 220 674 (minicom: 0800 243 787).
Dylech hawlio Lwfans Rhiant Gweddw yr un pryd ag y byddwch yn hawlio Taliad Profedigaeth. Ond, os ydych yn hawlio yn rhy hwyr i gael Taliad Profedigaeth rydych yn dal i fedru cael Lwfans Rhiant Gweddw, tra’ch bod yn cwrdd â’r amodau hawlio.
Fel arfer, fe fyddwch yn medru cael y budd-dâl am hyd at dri mis cyn i chi hawlio. Dylech ofyn am hwn ar y ffurflen gais. Nid oes rhaid i chi roi rheswm dros hawlio’n hwyr tra’ch bod yn medru dangos bod hawl gennych i Lwfans Rhiant Gweddw cyn i chi ei hawlio. Mewn rhai achosion, efallai y byddwch yn medru cael Lwfans Rhiant Gweddw am fwy na thri mis cyn i chi gyflwyno'ch cais.
Pan fyddwch yn hawlio Lwfans Rhiant Gweddw, fe fydd yn rhaid i chi roi eich rhif yswiriant gwladol a thystiolaeth mai eich rhif chi ydyw. Os nad ydych yn gwybod eich rhif yswiriant gwladol, ond rydych yn credu bod un gennych, dylech roi gwybodaeth i helpu’r swyddfa i ddod o hyd iddo. Os nad oes rhif yswiriant gwladol gennych, fe fydd yn rhaid i chi ofyn am un cyn y medrwch gael Lwfans Rhiant Gweddw.
Am fwy o wybodaeth ynghylch yswiriant gwladol, gweler Yswiriant Gwladol – cyfraniadau a budd-daliadau.
Efallai hefyd y bydd yn rhaid i chi roi tystysgrif marwolaeth eich cymar neu bartner sifil, eich tystysgrif priodas neu dystysgrif partneriaeth sifil neu dystiolaeth arall i gefnogi eich cais am Lwfans Rhiant Gweddw. Os nad yw’r dystiolaeth hon gennych, ni ddylech oedi cyn hawlio.
Os ydych yn cael trafferth rhoi’r dystiolaeth angenrheidiol, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Lwfans Rhiant Gweddw, newid mewn amgylchiadau a thwyll
Efallai y byddwch yn cyflawni twyll budd-dâl os fyddwch yn rhoi gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol, neu os nad ydych yn llwyddo i ddweud am newid yn eich amgylchiadau, er enghraifft, os yw’ch plentyn yn gadael yr ysgol efallai na fydd hawl gennych i Lwfans Rhiant Gweddw mwyach. Hyd yn oed os nad ydych yn twyllo, mae’n bosib y byddwch yn achosi gordaliad y bydd yn rhaid i chi ei ad-dalu. Gellir gwirio eich amgylchiadau ar unrhyw adeg tra eich bod chi’n hawlio Lwfans Rhiant Gweddw. Mae twyll budd-dâl yn drosedd a gellir eich erlyn neu ofyn i chi dalu dirwy.
Os ydych yn poeni y gallech fod dan amheuaeth o dwyll, os ydych yn destun archwiliad neu wedi eich cael yn euog, neu os gofynnwyd i chi ad-dalu gordaliad budd-dâl, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf
Sut caiff Lwfans Rhiant Gweddw ei dalu
Fel arfer, telir Lwfans Rhiant Gweddw yn syth i mewn i gyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu Swyddfa Bost. Os nad ydych yn medru agor cyfrif neu os byddai’r ffordd yma o dalu yn creu problemau i chi, dylech ddweud wrth y swyddfa budd-daliadau. Mae’n bosib talu Lwfans Rhiant Gweddw gyda siec.
Os ydych yn cael trafferth gyda’r ffordd y caiff eich Lwfans Rhiant Gweddw ei dalu dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Am ba hyd gaiff Lwfans Rhiant Gweddw ei dalu
Rydych yn medru cael Lwfans Rhiant Gweddw hyd nes i chi stopio cael Budd-dâl Plant. Os yw hyn yn digwydd o fewn 52 wythnos i farwolaeth eich gwr, gwraig neu bartner sifil, fe fyddwch yn medru hawlio Lwfans Profedigaeth am weddill y 52 wythnos.
Fe fydd taliad Lwfans Rhiant Gweddw yn dod i ben ynghynt os nad ydych â hawl i’r budd-dâl mwyach am reswm sydd ddim yn gysylltiedig â’ch plant, er enghraifft, os ydych yn priodi, yn cofrestru partneriaeth sifil neu’n dechrau byw gyda rhywun fel pâr - gweler y pennawd Pwy sy’n medru cael Budd-dâl profedigaeth, isod).
Nôl i’r Brig
Lwfans Profedigaeth
Mae Lwfans Profedigaeth yn fudd-dâl wythnosol a delir i rywun am 52 wythnos o farwolaeth eu gwr, gwraig neu bartner sifil.
Pwy sy’n medru cael Lwfans Profedigaeth
Er mwyn i chi fedru hawlio Lwfans Profedigaeth, rhaid bod eich cymar neu bartner sifil wedi marw ar neu ar ôl 9 Ebrill 2001. Rydych yn medru cael Lwfans Profedigaeth os ydych yn 45 neu’n hyn adeg marwolaeth eich cymar neu bartner sifil, ond o dan oed pensiwn (60 i fenywod a 65 i ddynion).
Rhaid bod eich gwr, gwraig neu bartner sifil wedi talu digon o gyfraniadau yswiriant gwladol er mwyn i chi fedru cael Lwfans Profedigaeth. Ond, os ydyn nhw wedi marw oherwydd anaf neu glefyd diwydiannol nid oes rhaid cwrdd â’r amodau cyfraniad.
Er mwyn cael Lwfans Profedigaeth, ni ddylech fod â hawl i Lwfans Rhiant Gweddw. Ond, fe fyddwch yn medru cael Lwfans Profedigaeth os yw eich Lwfans Rhiant Gweddw yn stopio am eich bod yn stopio cael Budd-dâl Plant, ac mae hyn yn digwydd o fewn 52 wythnos i farwolaeth eich cymar neu bartner sifil.
Mae Lwfans Profedigaeth yn rhan o’ch incwm trethadwy.
Faint yw Lwfans Profedigaeth
Mae cyfradd Lwfans Profedigaeth yn dibynnu ar eich oed pan fu farw eich gwr, gwraig neu bartner sifil. Os oeddech rhwng 45 a 54 fe fyddwch yn cael cyfradd is sy’n dibynnu ar eich oed. Os oeddech yn 55 neu’n hyn (ond o dan oed pensiwn) pan fu farw eich cymar neu bartner sifil neu pan ddaeth eich Lwfans Rhiant Gweddw i ben, fe fyddwch yn cael y gyfradd uchaf. Gellir gostwng cyfradd Lwfans Profedigaeth os na thalodd eich diweddar wr, wraig neu bartner sifil ddigon o gyfraniadau yswiriant gwladol. Mewn rhai achosion, efallai y cewch bensiwn ychwanegol ar ben Lwfans Profedigaeth ar sail enillion eich cymar neu bartner sifil a fu farw.
Mae cyfraddau presennol Lwfans Profedigaeth yn adran A-Y budd-daliadau gwefan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn www.dwp.gov.uk
Sut i hawlio Lwfans Profedigaeth
Dylech hawlio Lwfans Profedigaeth ar ffurflen BB1. Rydych yn medru cael y ffurflen BB1:
- o'ch swyddfa budd-daliadau leol
- yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, drwy ffonio'r Ganolfan Byd Gwaith ar radffôn 0800 055 6688 neu ffôn testun 0800 023 4888. Mae yna linell iaith Gymraeg hefyd, sef 0800 012 1888
- yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, oddi ar wefan y Ganolfan Byd Gwaith yn
www.jobcentreplus.gov.uk
- yng Ngogledd Iwerddon, drwy ffonio 0800 220 674 (minicom: 0800 243 787) neu oddi ar wefan adran o'r enw Department for Social Development yn:
www.dsdni.gov.uk.
Dylech hawlio Lwfans Profedigaeth ar ffurflen BB1 sydd ar gael o swyddfeydd budd-daliadau lleol neu oddi ar y wefan www.dwp.gov.uk yng Nghymru, Lloegr a’r Alban neu www.dsdni.gov.uk/index/ssa.htm yng Ngogledd Iwerddon. Dylech hawlio Lwfans Profedigaeth ar yr un pryd ag yr ydych yn hawlio Taliad Profedigaeth. Ond, os ydych yn hawlio’n rhy hwyr i gael Taliad Profedigaeth fe fyddwch yn dal i fedru cael Lwfans Profedigaeth, tra’ch bod chi’n cwrdd â’r amodau hawlio.
Fe fyddwch yn medru cael budd-daliadau am hyd at dri mis cyn i chi hawlio. Dylech ofyn am hyn ar eich ffurflen gais. Nid oes rhaid i chi roi rheswm tros hawlio’n hwyr tra’ch bod chi’n medru dangos bod hawl gennych i Lwfans Profedigaeth cyn i chi gyflwyno cais.
Pan fyddwch chi’n hawlio Lwfans Profedigaeth, fe fydd yn rhaid i chi roi eich rhif yswiriant gwladol a thystiolaeth mai eich rhif chi ydyw. Os nad ydych yn gwybod beth yw eich rhif yswiriant gwladol, ond rydych yn credu bod un gennych, dylech roi gwybodaeth i helpu’r swyddfa i ddod o hyd iddo. Os nad oes rhif yswiriant gwladol gennych, fe fydd yn rhaid i chi ofyn am un cyn y medrwch chi gael Lwfans Profedigaeth.
Am fwy o wybodaeth ynghylch yswiriant gwladol, gweler Yswiriant Gwladol – cyfraniadau a budd-daliadau.
Efallai hefyd y bydd yn rhaid i chi ddarparu tystysgrif marwolaeth eich cymar neu bartner sifil, eich tystysgrif priodas neu dystysgrif partneriaeth sifil neu dystiolaeth o fath arall i gefnogi eich cais am Lwfans Profedigaeth. Os nad yw’r dystiolaeth hon gennych, ni ddylech oedi rhag anfon eich cais. Efallai hefyd y bydd yn rhaid i chi fynychu cyfweliad fel amod o gael y budd-dâl.
Os ydych yn cael trafferth darparu’r dystiolaeth sydd ei hangen, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf
Lwfans Profedigaeth, newid mewn amgylchiadau a thwyll
Efallai y byddwch yn cyflawni twyll budd-dâl os fyddwch yn rhoi gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol, neu os nad ydych yn llwyddo i ddweud am newid yn eich amgylchiadau a allai olygu na fydd hawl gennych i Lwfans Profedigaeth. Hyd yn oed os nad ydych yn twyllo, mae’n bosib y byddwch yn achosi gordaliad y bydd yn rhaid i chi ei ad-dalu. Gellir gwirio eich amgylchiadau ar unrhyw adeg tra eich bod chi’n hawlio Lwfans Profedigaeth. Mae twyll budd-dâl yn drosedd a gellir eich erlyn neu ofyn i chi dalu dirwy.
Os ydych yn poeni y gallech fod dan amheuaeth o dwyll, os ydych yn destun archwiliad neu wedi eich cael yn euog, neu os gofynnwyd i chi ad-dalu gordaliad budd-dâl, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf
Sut caiff Lwfans Profedigaeth ei dalu
Fel arfer, telir Lwfans Profedigaeth yn syth i mewn i gyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu Swyddfa Bost. Os nad ydych yn medru agor cyfrif neu os fyddech yn cael trafferth gyda’r math yma o daliad, dylech ddweud wrth y swyddfa budd-daliadau. Mae’n bosib talu Lwfans Profedigaeth gyda siec.
Os oes problem gennych ynghylch y ffordd y mae’r Lwfans Profedigaeth yn cael ei dalu dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Am ba hyd caiff Lwfans Profedigaeth ei dalu
Fe fyddwch ond yn medru cael Lwfans Profedigaeth am 52 wythnos o ddyddiad marwolaeth eich gwr, gwraig neu bartner sifil. Efallai y byddwch ond yn ei gael am ran o’r amser yma os ydych wedi symud ymlaen at y Lwfans Profedigaeth o Lwfans Rhiant Gweddw. Os ydych yn cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth cyn diwedd y 52 wythnos ni fydd hawl gennych i Lwfans Profedigaeth mwyach. Mae oed pensiwn y wladwriaeth yn 60 i fenywod ac yn 65 i ddynion.
Nôl i’r Brig
Budd-daliadau profedigaeth dramor
Os ydych yn byw dramor pan mae’ch gwr, gwraig neu bartner sifil yn marw, neu os ydych yn symud dramor, rydych chi’n dal i fedru cael budd-daliadau profedigaeth.
Os ydych yn rhywun gweddw sy’n cael budd-dâl profedigaeth ac rydych am wybod mwy am fynd dramor neu fyw dramor, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nôl i’r Brig
Budd-daliadau i weddwon ar gyfer marwolaethau cyn Ebrill 9, 2001
Hyd nes 8 Ebrill 2001, talwyd budd-daliadau ar gyfer marwolaeth cymar i wraig weddw yn unig. Roedd tri math o fudd-dâl, sef Taliad Gweddw, Lwfans Mam Weddw a Phensiwn Gweddw. Os ydych yn fenyw, efallai eich bod yn dal i gael un o'r budd-daliadau hyn.
Taliad Gweddw
Roedd Taliad Gweddw yn swm un taliad o £1,000 yr oedd yn rhaid i chi ei hawlio o fewn tri mis i farwolaeth eich gwr, onid oeddech ddim yn gwybod ei fod wedi marw neu ni chadarnhawyd ei farwolaeth.
Os ydych angen mwy o wybodaeth ynghylch taliad gweddw, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf
Lwfans Mam Weddw
Roedd Lwfans Mam Weddw yn fudd-dâl wythnosol i weddwon gyda phlant dibynnol. Os oeddech yn cael Lwfans Mam Weddw yn union cyn 9 Ebrill 2001 fe fyddwch yn medru parhau i’w gael tra’ch bod yn bodloni’r amodau ar gyfer hawlio.
Pensiwn Gweddw
Roedd Pensiwn Gweddw yn daliad wythnosol yr oeddech yn medru ei hawlio os oeddech yn fenyw heb blant dibynnol a oedd rhwng 45 a 65 pan fu farw ei gwr. Roeddech hefyd yn medru hawlio pan fyddai’ch Lwfans Mam Weddw (gweler uchod) yn dod i ben, hynny yw, wedi i’ch plant gyrraedd 16 neu 18 neu adael yr ysgol. Os oeddech yn derbyn Pensiwn Gweddw yn union cyn 9 Ebrill 2001 rydych yn medru parhau i’w gael tra’ch bod yn dal i fodloni’r amodau ar gyfer hawlio.
Telir Pensiwn Gweddw hyd nes i chi gyrraedd 65, pan ddechreuodd eich hawl i Bensiwn Ymddeol ar yr un gyfradd a’r Pensiwn Gweddw. Os ydych yn hyn nag oed pensiwn y wladwriaeth (60) ond yn iau na 65, fe allwch ddewis aros ar Bensiwn Gweddw neu hawlio Pensiwn Ymddeol.
Os ydych yn cael Pensiwn Gweddw ac yn penderfynu beth i’w wneud wedi cyrraedd oed pensiwn, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nôl i’r Brig
Problemau gyda budd-daliadau profedigaeth
Os gwrthodwyd budd-dâl profedigaeth i chi neu os cawsoch lai nag y dylech ei gael yn eich barn chi, rydych yn medru herio'r penderfyniad.
Rydych yn medru gofyn am ailystyried penderfyniad ynghylch eich cais am fudd-dâl neu rydych yn medru apelio. Dylech wneud hyn o fewn mis i'r penderfyniad.
Os nad ydych yn hapus gyda safon y gwasanaeth a gawsoch gan y swyddfa fudd-daliadau, er enghraifft, oherwydd cyngor gwael, camgymeriadau, anghwrteisi neu oedi, rydych yn medru cwyno. Rydych yn medru gwneud hyn, waeth a ydych chi am herio penderfyniad ai peidio.
Gwahaniaethu
Mae'n anghyfreithlon i chi gael eich trin yn annheg oherwydd eich hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb neu grefydd pan fyddwch chi'n hawlio budd-daliadau profedigaeth. Mae gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, sy'n gyfrifol am fudd-daliadau profedigaeth, bolisi sy'n nodi na fydd yn gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd pethau eraill, er enghraifft, os oes cyfrifoldebau gofal gennych. Os ydych yn teimlo eich bod wedi dioddef gwahaniaethu, rydych yn medru cwyno.
Am fwy o wybodaeth am herio penderfyniad ynghylch budd-dâl neu am gwyno, gweler Problemau gyda budd-daliadau a chredydau treth.
Nôl i’r Brig
Gwybodaeth mewn ieithoedd eraill a fformatau eraill
Mae'n rhaid bod gwybodaeth ynghylch budd-daliadau profedigaeth ar gael mewn ffordd sy'n hwylus i chi os ydych yn anabl. Er enghraifft, mae'n rhaid bod gwybodaeth ar gael fel copi sain, print bras neu mewn Braille. I ofyn am brint bras, Braille neu gopi sain o unrhyw daflen sydd gan y DWP, dylech gysylltu â'ch swyddfa leol.
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (y DWP) hefyd wedi cyfieithu gwybodaeth ynghylch budd-daliadau profedigaeth i mewn i rai ieithoedd cymunedol. Am fwy o wybodaeth, ewch at wefan y DWP yn www.dwp.gov.uk. I ofyn am gopïau print neu sain o unrhyw daflen gan y DWP yn eich iaith eich hun, dylech gysylltu â'ch swyddfa leol.
Nôl i’r Brig
Help arall
Help i bobl ar incwm isel
Efallai y byddwch yn medru cael budd-daliadau sy’n ddarostyngedig i brawf moddion pan rydych hi’n ŵr neu’n wraig gweddw neu'n bartner partneriaeth sifil sydd wedi goroesi os nad oes llawer o arian gennych yn dod i mewn ac rydych yn cwrdd ag amodau penodol eraill. Er enghraifft, efallai y bydd hawl gennych i Gredyd Treth Gwaith, Credyd Treth Plant, Budd-dâl Tai, Budd-dâl Treth Gyngor, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm.
Os ydych yn cael Lwfans Profedigaeth, caiff ei ystyried yn llawn ar gyfer y budd-daliadau hyn. Os ydych yn cael Lwfans Rhiant Gweddw, fe fydd rhan ohono’n cael ei ddiystyru cyn iddo effeithio ar fudd-daliadau sy’n seiliedig ar brawf moddion. Mae Taliad Profedigaeth hyn cyfrif fel rhan o’ch cynilion ar gyfer budd-daliadau sy’n ddarostyngedig i brawf moddion.
Am wybodaeth ynghylch Cymhorthdal Incwm, gweler Help i bobl ar incwm isel – Cymhorthdal Incwm. Am wybodaeth ynghylch Lwfans Ceisio Gwaith, gweler Budd-daliadau i bobl sy’n chwilio am waith. Am wybodaeth ynghylch budd-dâl tai, gweler Help gyda’ch rhent – Budd-dâl tai. Am wybodaeth ynghylch Budd-dâl Treth Gyngor, gweler Help gyda’ch Treth Gyngor – Budd-dâl Treth Gyngor.
Taliadau ar gyfer costau angladd
Os oes rhaid i chi dalu am angladd ar gyfer eich partner (gan gynnwys partner priod, partner sifil neu bartner sy'n cyd-fyw gyda chi) neu ffrind agos sydd wedi marw, efallai y byddwch yn medru hawlio taliad angladd gan y Gronfa Gymdeithasol. I gael taliad angladd, rhaid eich bod yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm, Credyd Pensiwn, Budd-dâl Tai neu Fudd-dâl Treth Gyngor. Efallai y bydd hawl gan rai pobl sy’n cael Credyd Treth Plant neu Gredyd Treth Gwaith i daliad angladd hefyd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch taliadau angladd, gweler Help i bobl ar incwm isel – y Gronfa Gymdeithasol.
Help ariannol os oedd eich gwr, wraig neu bartner sifil yn y lluoedd arfog
Help ariannol os oedd eich gwr, eich gwraig neu’ch partner sifil yn y lluoedd arfog
Os bu farw eich gwr, gwraig neu bartner sifil o ganlyniad i wasanaeth yn y lluoedd arfog, efallai y byddwch yn medru cael help ariannol gan yr Asiantaeth Personel a Chyn-filwyr Gwasanaeth (yr SPVA). Nid oes gwahaniaeth a fu farw eich partner yn ystod gwasanaeth gweithgar ai peidio, tra bod y farwolaeth yn ganlyniad i wasanaeth yn y lluoedd arfog. Efallai y cewch Bensiwn Rhyfel Gwr neu Wraig Weddw, neu daliad incwm sydd wedi’i warantu (ar sail enillion eich cymar), gan ddibynnu pryd y cafwyd yr anaf neu salwch neu bryd y bu farw.
Os ydych am ofyn am help gan yr SPVA, neu os ydych eisiau mwy o wybodaeth, dylech gysylltu â llinell gymorth yr SPVA ar 0800 169 22 77 (ffôn testun 0800 169 34 58), gwefan www.veterans-uk.info neu anfon e-bost atynt, i veterans.help@spva.gsi.gov.uk.
Arian ychwanegol adeg y Nadolig
Os ydych yn cael rhai budd-daliadau penodol fe fyddwch yn cael arian ychwanegol tua’r Nadolig o’r enw Bonws y Nadolig. Mae Bonws y Nadolig yn daliad di-dreth o £10 a roddir ychydig o wythnosau cyn y Nadolig. Fe fyddwch yn ei gael os ydych yn cael Lwfans Rhiant Gweddw, Lwfans Mam Weddw, Pensiwn Gweddw neu Bensiwn Ymddeol y Wladwriaeth.
Rhaid eich bod yn byw yn y Deyrnas Gyfunol, Ynys Manaw, Ynysoedd y Sianel, Gibraltar neu’r Ardal Economaidd Ewropeaidd yn ystod yr wythnos y mae bonws y Nadolig yn ddyledus. Fe fyddwch yn cael Bonws y Nadolig yn awtomatig heb orfod gofyn amdano.
Os nad ydych yn cael Bonws y Nadolig ac rydych yn credu bod hawl gennych iddo, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth.
Nôl i’r Brig
|