Pam mae hyn yn bwysig?
Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru a Lloegr
Os ydyw’ch achos yn un syml, mae'r swm sy'n ddyledus i chi yn llai na £5000, ac mae'r achos yn cael ei amddiffyn, yna fe fydd y llys fwy na thebyg yn penderfynu defnyddio'r weithdrefn mân-geisiadau. Yr ceisiadau mwyaf cyffredin yw rhai am iawndal oherwydd gwasanaethau diffygiol, iawndal oherwydd nwyddau diffygiol, dadleuon gyda chyflogwyr tros gyflog sy'n ddyledus neu arian yn lle cyfnod rhybudd. Dim ond rhai enghreifftiau yw'r rhain a gellir defnyddio'r llwybr ceisiadau bach ar gyfer ceisiadau eraill hefyd.
Efallai y byddwch yn medru cael help i baratoi eich achos drwy'r cynllun cymorth cyfreithiol, ond ni fydd hyn yn cynnwys cynrychiolaeth yn y llys.
Mae'n rhaid eich bod wedi ceisio datrys yr hawliad cyn dwyn yr achos gerbron y llys, er enghraifft, drwy ysgrifennu at y person sydd ag arian yn ddyledus i chi ac mae'n rhaid i chi roi amser iddynt ymateb. Mae angen i chi gadw copi o bob gohebiaeth.
Gallwch ddechrau eich cais trwy lenwi ffurflen hawlio a mynd â dau gopi i'r llys, gan gadw’r trydydd copi i chi'ch hun. Fe fyddwch hefyd yn talu ffi'r llys ar yr adeg yma. Efallai na fydd yn rhaid i chi dalu'r ffi, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau ariannol. Gallwch wneud ceisiadau ar-lein mewn rhai achosion.
Os bydd gwrandawiad, fel arfer mi fydd yn un anffurfiol a bydd gennych chi a'r person arall gyfle i roi rhesymau tros gychwyn yr hawliad a pham mae'n cael ei ddadlau. Ar ddiwedd y gwrandawiad, bydd y barnwr yn rhoi 'r dyfarniad. Os ydych yn ennill, byddwch yn cael eich ffioedd llys yn ôl.
Os ydych am apelio yn erbyn y dyfarniad, fe fydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol. Rhaid i chi wneud hyn ar frys, oherwydd dim ond 21 diwrnod sydd gennych i apelio, o ddyddiad y penderfyniad, onid yw’r llys yn gosod dyddiad gwahanol.
Opsiwn arall yn lle mynd i'r llys yw cyfryngdod. Fe fydd tâl, gan ddibynnu ar faint eich hawliad, ac fe fydd dwy ochr y ddadl yn ei rhannu. Gallwch ddod o hyd i ddarparwr cyfryngdod lleol ar wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn www.justice.gov.uk.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â cheisiadau bach, gweler Ceisiadau bach.
Am fwy o wybodaeth ynglyn ag opsiynau eraill yn lle mynd i'r llys, gweler Dewisiadau eraill yn lle'r llys.
Am fwy o wybodaeth ar ceisiadau anafiadau personol, gweler Anafiadau personol.