Syth at y cynnwys Syth at y troedyn

Pam mae hyn yn bwysig? Mae'r wybodaeth yr ydym yn ei darparu yn amrywio o wlad i wlad. I gael gwybodaeth ar gyfer eich gwlad chi, dewiswch o'r ddewislen.

Ydych chi’n cael pleidleisio yn yr etholiad os ydych chi’n byw dramor?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mae'r rheiny sydd wedi bod ar gofrestr etholiadol y DU yn y 15 mlynedd diwethaf yn medru gwneud 'datganiad blynyddol' sy'n golygu eu bod yn cael eu cynnwys ar y gofrestr etholiadol yr oeddent arni ddiwethaf yn y DU.

Mae gan gonsyliaethau Prydeinig dramor y ffurflenni, ac mae'n rhaid eu hanfon at swyddfa cofrestr etholiadol eu hetholaeth ddiwethaf

Unwaith y byddwch wedi'ch cofrestru, rydych yn medru pleidleisio mewn unrhyw etholiad seneddol neu etholiad i senedd Ewropeaidd. Nid ydych yn medru pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol nac mewn etholiadau i gynulliadau datganoledig, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Senedd yr Alban neu Gynulliad Gogledd Iwerddon.

I ddarganfod mwy ynglyn â defnyddio'ch pleidlais pan fyddwch yn byw dramor, gweler Gweithdrefnau pleidleisio.

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â hawliau sifil: