Pam mae hyn yn bwysig? Mae'r wybodaeth yr ydym yn ei darparu yn amrywio o wlad i wlad. I gael gwybodaeth ar gyfer eich gwlad chi, dewiswch o'r ddewislen.

Pobol ifanc – iechyd a phersonol

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon

Ynglŷn â’r wybodaeth hon

Yn y wybodaeth hon mae plentyn yn golygu rhywun sy dan 14 oed ac mae person ifanc yn golygu rhywun sy’n 14 oed neu drosodd ond sy o dan 18 oed. Mae Rhiant yn golygu rhywun sydd â chyfrifoldeb rhiant.

<Nôl i’r brig

Erthyliad

Beth bynnag yw’ch oedran, mae gennych yr hawl i gael ymgynghoriad cyfrinachol gyda meddyg ynglŷn â’r posibilrwydd o gael erthyliad. Os ydych chi o dan 16 oed, dylai’r meddyg ddweud wrth eich rhieni dim ond os ydych chi’n cytuno y gellir dweud wrthynt, neu mewn amgylchiadau eithriadol.

Os ydych chi o dan 16 oed, fe allwch chi gael erthyliad os bydd dau feddyg yn cytuno fod gennych resymau da yn ôl deddfau erthyliad. Nid oes angen caniatâd eich rhieni arnoch, cyhyd â bod y meddygon yn credu eich bod yn deall yn llawn y driniaeth a’i chanlyniadau.

Sut bynnag, fel arfer mae’n well gan feddygon fod y mater yn cael ei drafod gyda’ch rhieni ac fe geisian nhw eich perswadio i wneud hynny.

Os oes gan feddyg wrthwynebiad moesol i erthyliad, fe ddylen nhw wneud hyn yn glir i chi a threfnu eich bod yn gweld rhywun arall sy’n fodlon helpu.

Os nad ydych am weld eich Meddyg Teulu eich hun, fe allwch chi gael cymorth oddi wrth asiantaeth arall, megis canolfan cynllunio teulu lleol neu Ganolfan Ymgynghorol Brook - gweler o dan y pennawd Cymorth ychwanegol.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae erthyliadau ar gael ar sail feddygol yn unig a dim ond mewn ysbytai. Sut bynnag, os ceisir cael erthyliad ym Mhrydain Fawr, nid oes neb wedi torri’r gyfraith yng Ngogledd Iwerddon. Os ydych chi’n fenyw ifanc o dan 17 oed ac yn chwilio am gyngor ynglŷn ag erthyliad, bydd asiantaethau megis Cymdeithas Cynllunio Teulu yn gofyn i un o’ch rhieni i fynychu cyfweliad gyda chi. Os ydych chi o dan 16 oed ac yn mynd i gael erthyliad cyfreithiol ym Mhrydain Fawr, rhaid i un o’ch rhieni deithio gyda chi.

Mae gwybodaeth bellach i bobol ifanc am erthyliad ar gael ar wefan Brook yn: www.brook.org.uk.

<Nôl i’r brig

Alcohol

Mae’n drosedd i roi alcohol i blentyn o dan bump oed (oni bai ei fod yn cael ei roi gan feddyg ar sail feddygol neu os rhoddir ef yn achos salwch neu am ryw reswm brys arall)

Os ydych chi’n bump neu drosodd ac o dan 16, nid oes cyfyngiad cyfreithiol arnoch i yfed alcohol gartref neu mewn eiddo preifat arall.

Mae’n drosedd i rywun o dan 18 oed i brynu alcohol neu i yfed alcohol mewn tafarn. Mae hefyd yn drosedd i rywun brynu alcohol i rywun arall os ydyw’r person arall o dan 18 oed a bod yr alcohol i’w yfed mewn bar neu dafarn neu allan ar y stryd.

Bydd unrhyw un sy’n gweithio mewn tafarn yn cyflawni trosedd os fyddan nhw’n gwerthu neu ganiatáu i rywun o dan 18 oed i yfed alcohol mewn tafarn. Sut bynnag, fe fydd ganddynt amddiffyniad os allan nhw brofi nad oedd ganddynt reswm i amau fod y person o dan 18 oed.

Os ydyw’r heddlu yn amau fod alcohol ym meddiant person ifanc (neu rywbeth sydd yn alcohol yn eu barn hwy) mewn lle cyhoeddus ar wahân i adeiladau trwyddedig, fe allan nhw ei gymryd ymaith. Gall yr heddlu hefyd gymryd ymaith alcohol (neu rywbeth sydd yn alcohol yn eu barn hwy) oddi wrth rywun o unrhyw oedran os ydyn nhw’n amau fod peth ohono wedi ei yfed, neu’n bwriadu cael ei yfed, gan rywun o dan 18 oed mewn lle cyhoeddus. Gall yr heddlu arestio unrhyw un sy’n ceisio eu rhwystro rhag cymryd ymaith yr hyn sydd yn alcohol yn eu barn hwy.

Tafarnau, Tai Bwyta a Gwestai yn Lloegr a Chymru

Os ydych chi o dan 16, fel arfer ni chaniateir i chi fynd i mewn i dafarn neu adeiladau trwyddedig arall lle gwerthir ac yr yfir alcohol os nad ydych chi yng nghwmni rhywun sy’n 18 oed neu drosodd.

Os ydych chi o dan 18 oed, mae’n drosedd i chi brynu neu fentro prynu alcohol. Mae hefyd yn drosedd i rywun arall ei brynu i chi os ydych chi o dan 18 oed.

Sut bynnag, os ydych chi’n 16 neu 17 oed, caniateir i chi yfed gwin, cwrw neu seidr (ond nid alcohol arall) gyda bwyd mewn tŷ bwyta, gwesty neu ran o dafarn sydd ar wahân ar gyfer bwyta prydau bwyd. Fe allwch chi wneud hyn dim ond os oes rhywun sy’n 18 oed neu drosodd yn bwyta gyda chi ac yn prynu’r alcohol.

Os ydych chi’n 16 oed neu drosodd, fe allwch chi brynu siocledi gwirodlyn.

Tafarnau, Tai Bwyta a Gwestai yng Ngogledd Iwerddon

Yng Ngogledd Iwerddon, os ydych chi o dan 18 oed caniateir i chi fynd i dafarn sy’n gweini bwyd. Sut bynnag, ni chaniateir i chi yfed alcohol, hyd yn oed os mai oedolyn sydd wedi ei brynu.

Ni chaniateir i chi yfed alcohol mewn tŷ bwyta na gwesty.

<Nôl i’r brig

Rhoi gwaed ac organau

Yn Lloegr a Chymru, ni chaniateir i chi roi gwaed oni bai eich bod yn cael eich ystyried â digon o ddealltwriaeth o’r hyn mae’n ei olygu. Yng Ngogledd Iwerddon, ni chaniateir i berson o dan 17 oed i roi gwaed.

Os ydych chi o dan 18 oed, fe allwch chi roi eich corff ac organau ar eich marwolaeth. Sut bynnag, os ydych chi o dan 16, mae angen i chi gael caniatâd rhiant i gario cerdyn rhoddwr. Mae angen caniatâd rhiant hefyd cyn y gellir defnyddio’r organau.

<Nôl i’r brig

Tyllu’r corff

Nid oes cyfyngiadau cyfreithiol ar yr oed y gallwch dyllu’ch clustiau neu’r mwyafrif o rannau eraill eich corff. Ond, gellid gweld tyllu didennau neu organau cenhedlu merch dan 16 neu dyllu organau cenhedlu bachgen dan 16 fel camdrin rhywiol, hyd yn oed os yw’n caniatau’r tyllu. Mae gan rai sefydliadau eu canllawiau anffurfiol eu hunain ynglŷn â chyfyngiadau oed a chael caniatâd rhieni.

<Nôl i’r brig

Sigarennau

Mae’n anghyfreithlon i werthu sigarennau, tybaco neu bapurau sigarennau i unrhyw un dan 18 oed.

Gwaherddir ysmygu ymhob man cyhoeddus a phob gweithle, beth bynnag yw’ch oedran.

Os ydych chi am roi’r gorau i ysmygu, mae yna wefan wedi’i chynllunio i bobol ifanc sy’n gallu cynnig cymorth a chefnogaeth i chi. Ewch i: www.quitbecause.org.uk.

<Nôl i’r brig

Atal cenhedlu

Nid oes cyfyngiadau oedran ar roi cyngor a chyflenwadau atal cenhedlu. Cyhyd â’ch bod yn deall y peryglon posibl, caniateir i feddyg bennu offer atal cenhedlu os ydych chi o dan 16 heb ganiatâd na gwybodaeth rhiant.

Bydd eich meddyg mwy na thebyg yn eich annog i drafod gyda’ch rhieni y ffaith eich bod wedi bod yn eu gweld am atal cenhedlu. Sut bynnag, fe ddywedan nhw wrth eich rhieni neu oedolyn arall eich bod wedi bod yn eu gweld dim ond mewn amgylchiadau eithriadol yn unig. Enghraifft o amgylchiad eithriadol yw pan fydd meddyg yn credu eich bod mewn perygl o gael niwed difrifol. Fe fyddan nhw bob amser yn trafod hyn gyda chi yn gyntaf, cyn dweud wrth neb arall.

Yng Nghymru, mae fferyllwyr cymunedol hefyd yn gallu rhoi’r bilsen-bore-wedyn yn rhad ac am ddim i bobl ifanc dan 16, os ydynt yn credu bod yna angen clinigol.

Mae gwybodaeth ar gyfer pobol ifanc ynglŷn ag atal cenhedlu ar gael o wefan Brook yn: www.brook.org.uk.

<Nôl i’r brig

Gwahaniaethu mewn Gofal Iechyd

Nid oes hawl gan y GIG na sefydliadau eraill neu bobol sy’n darparu gwasanaethau gofal iechyd i wahaniaethu yn eich erbyn ar sail eich oed, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd neu eni plentyn, hil, crefydd, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol.

Hefyd, gall fod polisi cydraddoldeb gan eich Ymddiriedolaeth GIG, eich Bwrdd Iechyd Lleol neu sefydliad gofal iechyd arall sy’n nodi na fydd yn gwahaniaethu yn eich erbyn ar sail rhesymau eraill, er enghraifft, os oes gennych HIV neu os ydych yn drawsrywiol.

Os ydych chi’n credu fod meddyg, deintydd, nyrs neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall yn gwahaniaethu yn eich erbyn, fe allwch gwyno am hyn. Gofynnwch am gael gweld copi o bolisi cydraddoldeb y sefydliad y maen nhw’n gweithio iddo a nodi ble maen nhw’n methu cadw ato.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chwyno am wasanaethau iechyd yn Lloegr, gweler Cwynion y GIG a gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol. Yng Nghymru, gweler Cwynion y GIG yng Nghymru. Yng Ngogledd Iwerddon, gweler Cwynion yr HPSS yng Ngogledd Iwerddon.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwahaniaethu yn y GIG, ewch i wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn: www.equalityhumanrights.com.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwahaniaethu, gweler ein tudalennau Gwahaniaethu

<Nôl i’r brig

Cyffuriau

Os oes cyffuriau anghyfreithlon yn eich meddiant, fe allech chi wynebu erlyniad, yn dibynnu ar eich oedran.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn âg erlyn pobol ifanc, gweler Pobol ifanc a’r gyfraith.

<Nôl i’r brig

Arogli Glud a chamddefnyddio toddyddion eraill

Mae’n drosedd i werthu toddyddion i blentyn neu berson ifanc os ydyw’r gwerthwr yn gwybod y camddefnyddir y cynnyrch.

Nid yw yn erbyn y gyfraith i arogli hydoddyddion neu sylweddau anweddol eraill megis erosolau, chwistrell gwallt neu farnais ewinedd, oni bai eich bod yn ei wneud mewn lle cyhoeddus. Os ydych chi’n arogli glud neu sylweddau anweddol eraill mewn lle cyhoeddus, fe allwch chi gael eich arestio a’ch cyhuddo o dorcyfraith. Fe allwch chi gael mwy o wybodaeth am arogli glud a chamddefnyddio sylweddau eraill o wefan Re-Solv yn: www.re-solv.org.

<Nôl i’r brig

HIV/AIDS

Os ydych chi am gyngor ynglŷn â HIV/Aids, bydd angen i chi chwilio am gyngor arbenigol, er enghraifft, oddi wrth Ymddiriedolaeth Terence Higgins. Maen nhw’n cynnig gwasanaethau gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor i unrhyw un sy’n byw gyda HIV ac unrhyw un sy’n pryderu am HIV. Eu manylion cyswllt yw:

Ymddiriedolaeth Terence Higgins
314 - 320 Grays Inn Road
Llundain
WC1X 8DP

Ffôn: 0808 802 1221 (llinell gymorth: ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10yb tan 10yh ac ar benwythnosau o hanner dydd i 6yh)
Ffôn: 020 7812 1600 (gweinyddol)
Ffacs: 020 7812 1601
E-bost: info@tht.org.uk
Gwefan: www.tht.org.uk

<Nôl i’r brig

Triniaeth Feddygol

Cofrestru gyda Meddyg Teulu

Os ydych chi o dan 16 oed, nid oes gennych yr hawl i ddewis eich Meddyg Teulu eich hun a rhaid eich cofrestru gan riant. Os ydych chi yn 16 oed a drosodd, fe allwch chi ddewis eich Meddyg Teulu eich hun.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chofrestru gyda Meddyg Teulu, gweler Hawliau cleifion y GIG.

Cyfrinachedd

Os ydych chi o dan 16, mae gennych yr hawl i ymgynghoriad cyfrinachol gyda meddyg, cyhyd â’ch bod yn ei wneud yn glir nad ydych am i’r rhieni wybod. Sut bynnag, gall eich meddyg wrthod trafod y mater os ydyn nhw’n anfodlon derbyn eich cais am gyfrinachedd. Os ydych chi yn 16 oed a drosodd, mae gennych yr hawl i gael cyngor a thriniaeth gyfrinachol.

Caniatáu triniaeth feddygol

Os ydych chi o dan 16, fe allwch chi roi eich caniatâd eich hun ar gyfer triniaeth feddygol cyhyd â’ch bod yn deall yn llawn beth mae’n ei olygu. Os yw meddyg yn penderfynu nad ydych yn deall yn llawn beth mae’n ei olygu, gall eich rhieni roi caniatâd ar eich rhan.

Os ydych chi o dan 18 oed ac yn gwrthod triniaeth, gall eich rhieni neu staff meddygol fynd i’r llys. Gall y llys benderfynu pa un ai i roi gorchymyn llys i wrthwneud eich penderfyniad i wrthod triniaeth ai peidio.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chaniatau triniaeth feddygol, gweler Hawliau cleifion y GIG.

Taliadau’r GIG

Os ydych chi o dan 16 (neu’n 16, 17 neu 18 oed ac yn dilyn addysg llawn amser) mae gennych hawl i bresgripsiynau am ddim, triniaeth ddeintyddol (yn cynnwys gwiriadau), profion llygaid, talebau ar gyfer sbectolau a wigiau a chymhorthion ffabrig am ddim. Yng Nghymru a Gogledd Iwerddon mae gennych hawl i bresgripsiynau am ddim beth bynnag yw’ch oedran.

Os ydych chi’n 16 ac 17 a heb fod yn dilyn addysg llawn amser, mae gennych hawl i gael triniaeth ddeintyddol am ddim (yn cynnwys gwiriadau). Efallai y byddwch chi hefyd yn gymwys i gael cymorth gyda thriniaethau GIG eraill os ydych chi ar incwm isel.

Os ydych chi’n 16 neu 17 ac yn cael eich cynnal yn ariannol gan yr awdurdod lleol (naill ai’n rhannol neu’n llawn), mae gennych hawl i gael presgripsiynau am ddim, profion llygaid, talebau am sbectolau, wigiau a chymhorthion ffabrig.

Os nad ydych yn un o’r categorïau hyn, efallai y cewch chi gymorth o hyd gyda thaliadau’r GIG os ydych chi ar incwm isel.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â thaliadau’r GIG, yn cynnwys gwybodaeth am bobol sy’n gymwys i dderbyn cymorth os ydyn nhw ar incwm isel, gweler Cymorth gyda chostau iechyd.

<Nôl i’r brig

Hunan niweidio

Mae hunan niweidio yn golygu eich bod yn niweidio neu anafu eich hunan, er enghraifft:

  • torri’ch hunan
  • cymryd dos gormodol o dabledi neu feddyginiaethau
  • crafu’ch croen i achosi clwyfau a chreithiau.

Os ydych chi’n hunan niweidio, fe allwch chi gael help i stopio. Mae yna wefan ddefnyddiol yn: www.selfharm.org.uk. Mae’n rhoi mwy o wybodaeth i chi am hunan-niwiedio a manylion cyswllt sefydliadau all helpu.

<Nôl i’r brig

Rhyw a chyfeiriadedd rhywiol

Oed cydsynio

Mae’n drosedd i rywun o’r naill ryw i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol gyda rhywun sydd o dan 16 oed, oni bai ei fod yn rhesymol i gredu fod y person yn 16 oed neu’n hŷn. Mae gweithgaredd rhywiol yn cynnwys cyfathrach rywiol a chyffwrdd rhywiol bwriadol. Mae’r cosbau am drosedd o’r math hwn yn fwy difrifol os cyflawnir ef gan rywun sy’n 18 oed neu drosodd na rhywun sy o dan 18 oed.

Mae’n gyfreithiol i ddau berson o rywiau gwahanol neu o’r un rhyw i gael perthynas rywiol os ydyn nhw ill dau neu ddwy yn 16 oed neu drosodd a’r ddau/ddwy yn cytuno i weithgaredd rhywiol.

Lle mae’r ddau berson o dan 16 oed, bydd y ddau yn cyflawni trosedd os ydyn nhw’n cael perthynas rhywiol. Sut bynnag, mae’n annhebygol y bydd unrhyw erlyn os cytunodd y ddau berson i gael rhyw ac nad oedd un person yn cymryd mantais o’r llall. Os yw rhywun o dan 16 yn ymwneud yn rhywiol â rhywun arall sy’n 16 neu drosodd, ni fydd y person iau yn cyflawni trosedd. Sut bynnag, bydd y person dros 16 yn cael ei gyhuddo.

Llosgach a cham-drin plant

Mae llosgach yn golygu cyfathrach rywiol rhwng perthnasau agos ac mae’n drosedd.

Gall cam-drin plant gynnwys esgeulustra corfforol neu emosiynol, niwed corfforol neu gam-drin rhywiol.

Os ydych chi’n pryderu ynglŷn â chamdrin plant neu losgach, fe ddylech chi ymgynghori ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am fanylion eich CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.

Clefydau a drosglwyddir yn rhywiol

Os ydych chi’n credu fod gennych glefyd a drosglwyddwyd yn rhywiol ac angen cyngor neu driniaeth, ewch at feddyg teulu, clinig cynllunio teulu, clinig ar gyfer clefydau a drosglwyddir yn rhywiol neu wasanaeth ymgynghorol am feichiogrwydd. Gall Canolfan Ymgynghorol Brook roi mwy o wybodaeth i chi. Gweler o dan y pennawd Cymorth ychwanegol.

Os ydych chi o dan 16 oed, mae i fyny i’r meddyg i benderfynu os ydyw yn mynd i weithredu heb gysylltu â rhiant ai peidio. Os ydych chi’n pryderu am gyfrinachedd, fe ddylech chi wirio os ydyw’r meddyg yn barod i’ch trin chi’n gyfrinachol ai peidio.

<Nôl i’r brig

Gwelyau haul

Am fanylion ynghylch defnyddio gwelyau haul, gweler Pobl ifanc – arian a hawliau defnyddwyr.

<Nôl i’r brig

Tatŵs

Mae’n drosedd tatŵo unrhyw un o dan 18 oni bai fod ymarferwr meddygol cymwys yn gwneud hynny am resymau meddygol.

Gellir erlyn unrhyw un sy’n tatŵo unrhyw un o dan 18 oed oni bai eu bod yn dangos fod ganddynt achos da i gredu fod y person dros 18 oed.

<Nôl i’r brig

Cymorth ychwanegol

Brook Advisory Centres

421 Highgate Studios
53-79 Highgate Road
Llundain
NW5 1TL

Tel: 020 7284 6040 (information on nearest centre)
Llinell Gymorth: 0808 802 1234
Ffacs: 020 7284 6050
Ebost: admin@brook.org.uk
Gwefan: www.brook.org.uk

Mae Canolfannau Ymgynghorol Brook yn cynnig y gwasanaethau canlynol i bobol ifanc o dan 25 oed:

  • profion beichiogrwydd a chynghori
  • cyngor atal cenhedlu a thriniaeth
  • atal cenhedlu brys
  • cyngor a chyfeirio ynglŷn ag erthyliad
  • cyngor a thriniaeth clefydau a drosglwyddir yn rhywiol
  • cynghori ynglŷn â pherthynas emosiynol, rhywiol.

Mae pob ymgynghoriad yn gyfrinachol.

Children First for Health

Mae gwefan The Children First for Health yn adnodd gwybodaeth am iechyd i bobol ifanc, o dan reolaeth Ysbyty Great Ormond Street. Fe’i bwriedir ar gyfer plant o bedair blwydd oed ymlaen, ynghyd â phobol ifanc a theuluoedd. Gall defnyddwyr e-bostio cwestiynau i’r wefan ac fe ysgrifennir ymatebion mewn cysylltiad â chlinigwyr yn yr ysbyty. Ewch i: www.childrenfirst.nhs.uk.

Ymddiriedolaeth Terence Higgins

314 - 320 Grays Inn Road
Llundain
WC1X 8DP

Tel: 0845 12 21 200 (helpline: open Monday to Friday, 10am to 10pm and weekends, noon to 6pm)
Tel: 020 7812 1600 (admin)
Ffacs: 020 7812 1601
Ebost: info@tht.org.uk
Gwefan: www.tht.org.uk

Mae Ymddiriedolaeth Terence Higgins yn cynnig gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor i unrhyw un sy’n byw gyda HIV neu unrhyw un sy’n pryderu am HIV neu unrhyw agwedd arall o iechyd rhyw.

<Nôl i’r brig

Cymorth ychwanegol i bobol ifanc

Fe allwch chi ddod o hyd i fwy o wybodaeth am hawliau plant a phobol ifanc mewn rhannau eraill o Adviceguide.

Am wybodaeth ynglŷn â hawliau cyffredinol plant a phobol ifanc, gweler Hawliau pobol ifanc.

Am wybodaeth ynglŷn â chyflogaeth, gweler Pobol ifanc a chyflogaeth.

Am wybodaeth ynglŷn â thai, gweler Pobol ifanc a thai.

Am wybodaeth ynglŷn â materion teuluol, gweler Pobol ifanc a theulu.

Am wybodaeth ynglŷn ag arian a hawliau defnyddywyr, gweler Pobol ifanc - arian a hawliau defnyddwyr.

Am wybodaeth ynglŷn â budd-daliadau, gweler Pobol ifanc a budd-daliadau.

Am wybodaeth ynglŷn â’r gyfraith a phobol ifanc, gweler Pobol ifanc a’r gyfraith.

Am wybodaeth ynglŷn â chludiant, gweler Pobol ifanc – teithio a chludiant.

<Nôl i’r brig

Citizens Advice

Barnu'r dudalen hon Rhoi adborth