Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Yn y wybodaeth yma, mae plentyn yn golygu rhywun sy'n 14 neu'n iau ac mae person ifanc yn golygu rhywun sy'n 14 neu'n hyn ond yn iau na 18. Mae rhiant yn golygu rhwyun sydd â chyfrifoldeb rhiant.
Os ydych yn iau na 18 mlwydd oed nid ydych yn talu treth gyngor.
O dan y mwyafrif o amgylchiadau, rydych yn medru gadael gartref heb ganiatâd eich rhieni nac unrhyw un sydd â chyfrifoldeb rhiant pan rydych yn 16. Gallai rhiant neu berson sydd â chyfrifoldeb rhiant fynd i 'r llys i geisio eich gorfodi chi i ddod adref. Ond, mae'n annhebygol y byddai unrhyw lys yn eich gorchymyn chi i fynd adref os nad ydych am fynd adref.
Os oes gwrthdaro rhyngddo chi a'ch rhieni, efallai y byddwch yn teimlo eich bod yn cael eich gorfodi i adael eich cartref. Mae'r sefyllfa gyfreithiol yn y sefyllfa yma yn gymhleth.
Os ydych yn iau nag 16 ac yn cael eich gorfodi i adael eich cartref, mi fyddwch yn medru cysylltu ag adran gwasanaethau cymdeithasol eich awdurdod lleol. Fe fyddan nhw'n camu i mewn os ydyn nhw'n gwybod beth sy'n digwydd. Efallai y bydd yr awdurdod lleol am siarad â'ch teulu i weld pa wasanaethau fyddent yn medru eu darparu er mwyn eich galluogi chi i aros yn eich cartref. Os nad yw hyn yn bosib, gallai'r awdurdod lleol geisio dod o hyd i berthynas i ofalu amdanoch neu gall gynnig llety i chi. Os ydych mewn perygl o ddioddef niwed sylweddol, efallai y bydd yr awdurdod lleol yn ystyried eich cymryd i mewn i ofal.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwasanaethau'r awdurdod lleol, gweler Gwasanaethau'r awdurdod lleol ar gyfer plant mewn angen.
Nid yw'r gyfraith yn glir ynghylch p'un ai y mae person sy'n iau na 18 oed yn medru dal tenantiaeth ai peidio ac, yn ymarferol, efallai na chewch chi gytundeb tenantiaeth os ydych yn iau na 18. Fel opsiwn arall, efallai y byddwch yn medru arwyddo cytundeb gyda landlord am drwydded. Os ydych yn dal trwydded, mae'n golygu bod caniatâd personol y landlord gennych, yn hytrach na hawl cyfreithiol i aros yn y llety.
Fel arfer, mae landlordiaid, gan gynnwys cymdeithasau tai ac adrannau tai'r awdurdod lleol angen gwarantydd cyn rhoi trwydded i rywun sy'n iau na 18. Os ydych yn symud i mewn i lety'r awdurdod lleol wedi gadael cartref i blant, fel arfer bydd adran y gwasanaethau cymdeithasol yn warantydd.
Os ydych yn symud i lety sydd wedi'i rhentu, efallai y byddwch am hawlio Budd-dâl Tai. Er nad oes unrhyw gyfyngiad oed ar hawlio Budd-dâl Tai, mae'r swm y byddwch yn medru ei gael pan yn iau na 25 ac heb blant yn gyfyngedig.
Am wybodaeth ynglyn â Budd-dâl tai, gweler Help gyda'ch rhent – Budd-dâl tai.
Os ydych chi ar ei hôl hi gyda'ch rhent, yng Nghymru a Lloegr, gweler Dyledion rhent yn y Taflenni ffeithiau ar gredyd a dyled.
Os ydych chi angen llety sydd wedi ei addasu’n arbennig, er enghraifft am eich bod yn anabl neu’n oedrannus, neu mae gennych blentyn anabl, rydych yn medru gofyn am gael eich manylion wedi eu gosod ar un Gofrestr Tai Hygyrch neu fwy.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â Chofrestrau Tai Hygyrch, gweler Dod o hyd i lety.
Os ydych yn iau na 18, ni fyddwch yn medru gwneud cais am forgais i brynu llety. Mae hyn am nad ydych yn medru bod yn berchen ar eiddo er y gellir ei ddal mewn ymddiriedaeth i chi nes i chi fod yn ddigon hen.
Mae gan awdurdod lleol ddyletswydd i ddarparu llety ar gyfer person ifanc sy'n cwrdd â'r meini prawf ar gyfer bod yn ddigartref.
Mae gan yr awdurdod lleol gyfrifoldeb hefyd i edrych ar eich hôl o dan Ddeddf y Plant:-
Mae'r rheolau hyn yn berthnasol i geiswyr lloches hefyd.
Os nad ydych yn deall Saesneg, mae'n rhaid i'r awdurdod lleol roi help a gwybodaeth i chi yn eich iaith eich hun.
Os ydych yn cael lle mewn cartref i blant, mae'n rhaid i'r gofal a gewch ystyried eich anghenion crefyddol. Er enghraifft, os ydych yn Fwslim, dylid cynnig bwyd Halal i chi.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â phobl ifainc a Digartrefedd, gweler Dod o hyd i lety.
Os ydych yn dod yn ddigartref, efallai bydd angen i chi gael cyngor arbennig, er enghraifft, gan ganolfan Cyngor ar Bopeth neu gan Shelter (gweler y pennawd Cymorth pellach). I chwilio am fanylion ynglyn â'ch CAB agosaf gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae yn erbyn y gyfraith i rywun sy'n darparu llety neu wasanaethau tai eraill ar eich cyfer, er enghraifft cyngor ar dai, wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb neu grefydd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail hil, gweler Cymryd camau yn erbyn gwahaniaethu ar sail hil.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail rhyw, gweler Cymryd camau yn erbyn gwahaniaethu ar sail rhyw.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu oherwydd anabledd, gweler Gwahaniaethu ar sail anabledd.
Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu oherwydd eich rhywioldeb, gweler Can I be treated unfairly because of my sexuality? Yn y Taflenni ffeithiau gwahaniaethu.
Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu oherwydd crefydd, gweler Gwahaniaethu oherwydd crefydd neu gred.
88 Old Street
London
EC1V 9HU
Ffôn 020 7505 2000
Llinell Gymorth rhadffôn: 0808 800 4444 (8yb hyd hanner nos, saith niwrnod yr wythnos)
Ffacs: 020 7505 2169
Ebost: info@shelter.org.uk
Gwefan: www.shelter.org.uk
25 Heol Walter
Abertawe
SA1 5NN
Ffôn: 01792 469400
Llinell gymorth radffôn: 0808 800 4444
(8yb hyd hannes nos, saith niwrnod yr wythnos)
Ffacs: 01792 460050
E-bost: mail@sheltercymru.org.uk
Gwefan: www.sheltercymru.org.uk
Mae Shelter yn darparu gwybodaeth a chyngor ynglyn â materion yn ymwneud â thai.
Middleton Buildings
10-12 High Street
Belfast
BT1 2BA
Ffôn: 028 9024 5640
Ffacs: 028 9031 2200
Gwefan: www.housingadviceNI.org
Ar wefan Housing Rights Service, mae yna dudalennau wedi eu hanelu’n benodol at bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed. Maen nhw’n delio gydag amrywiaeth o broblemau tai. Mae yna wasanaeth cyngor drwy’r e-bost rhad ac am ddim hefyd i bobl ifanc 16-25 oed. Gellir mynd at y gwasanaeth trwy’r wefan.
Kemp House
152-160 City Road
London
EC1V 2NP
Ffôn: 020 7251 3117 (gweinyddol)
Ebost: mailbox@thewhocarestrust.org.uk
Gwefan: www.thewhocarestrust.org.uk
Mae'r Ymddiriedolaeth yn darparu gwybodaeth a chyngor ar gyfer pobl ifanc sydd mewn gofal neu sydd wedi gadael gofal yn ddiweddar.
Mae 'Foyer yn cynnig llety hostel dros dro i bobl ifainc, sydd rwng 16-25 gan fwyaf, sy'n ddigartref neu angen cartref.
Mae trigolion Foyer hefyd yn cael cynnig arweiniad, cefnogaeth, mynediad at ddysgu a help wrth chwilio am waith.
Ar gyfartaledd, mae'r cyfnod y bydd person ifanc yn ei dreulio mewn foyer rhwng naw a deuddeg mis.
Os ydych chi am aros mewn foyer, cysylltwch â'r un agosach atoch chi a gofynnwch am gyfweliad, neu gofynnwch i asiantaeth arall, fel eich awdurdod tai lleol, gwasanaeth prawf neu gartref gofal, i'ch cyfeirio.
Fe fydd rhai 'Foyers' ond yn derbyn pobl ifainc sydd wedi eu cyfeirio gan eu hawdurdod tai lleol.
I ddod o hyd i fanylion eich foyer agosaf, cysylltwch â:
The Foyer Federation
3rd Floor
5-9 Hatton Wall
London
EC1N 8HX
Rhif Ffôn: 020 7430 2212
Gwefan: www.foyer.net
Mae mwy o wybodaeth ynghylch hawliau plant a phobl ifainc ar gael mewn adrannau eraill o Adviceguide.
Am wybodaeth ynghylch hawliau cyffredinol plant a phobl ifainc, gweler Hawliau pobl ifanc.
Am wybodaeth ynghylch materion teuluol, gweler Pobl ifanc a theulu.
Am wybodaeth ynghylch cyflogaeth, gweler Pobl ifanc a chyflogaeth.
Am wybodaeth ynghylch arian a hawliau defnyddwyr, gweler Pobl ifanc – arian a hawliau defnyddwyr.
Am wybodaeth ynghylch budd-daliadau, gweler Pobl ifanc a budd-daliadau.
Am wybodaeth ynghylch materion iechyd a phersonol, gweler Pobl ifanc – iechyd a phersonol.
Am wybodaeth ynghylch y gyfraith a phobl ifainc, gweler Pobl ifanc a'r gyfraith.
Am wybodaeth ynghylch cludiant, gweler Pobl ifanc – teithio a chludiant.