Chwilio am canolfan leol

Chwilio am canolfan leol

Diweddarwyd y safle:

Mawrth 22 af 2010

Home and neighbourhood - Yng Nghymru

Cytundebau tenantiaeth

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon



Beth yw cytundeb tenantiaeth

Mae'r cytundeb tenantiaeth yn gontract rhyngddo chi a'ch landlord. Gall fod yn un ysgrifenedig neu'n un llafar.

Mae'r cytundeb tenantiaeth yn rhoi hawliau penodol i chi a'ch landlord, er enghraifft, eich hawl chi i fod yn y llety a hawl eich landlord i dderbyn rhent am gynnig y llety ar osod.

Efallai eich bod chi a'ch landlord wedi gwneud trefniadau ynglyn â'r denantiaeth, a bydd y rhain yn ran o'r cytundeb tenantiaeth tra nad ydynt yn gwrthdaro â'r gyfraith. Mae gennych chi a'ch landlord hawliau a chyfrifoldebau o dan y gyfraith. Gall y cytundeb tenantiaeth roi mwy na'ch hawliau statudol i chi a'ch landlord ond ni all roi llai na'ch hawliau statudol. Os yw amod yn y cytundeb tenantiaeth yn rhoi llai na'r hawliau statudol i chi neu'n landlord, yna ni ellir gorfodi'r amod yna.

Gall cytundeb tenantiaeth gynnwys:-

  • ‘amosau penodol'. Mae'r rhain yn cynnwys yr hyn sydd wedi'i ysgrifennu yn y cytundeb tenantiaeth, os oes un (gweler isod), yn y llyfr rhent, a/neu yr hyn y cytunwyd arno ar lafar (gweler isod)
  • ‘amodau gosodedig’. Mae'r rhain yn hawliau o dan y gyfraith neu'n drefniadau a sefydlwyd trwy arfer (gweler y pennawd Amodau gosodedig mewn cytundebau tenantiaeth).

Nôl i’r brig



Amodau penodol cytundebau tenantiaeth

Cytundebau tenantiaeth ysgrifenedig

Yng Nghymru a Lloegr, nid oes hawl gan y mwyafrif o denantiaid o dan y gyfraith i gytundeb tenantiaeth ysgrifenedig. Fodd bynnag, mae landlordiaid cymdeithasol fel awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yn rhoi cytundebau tenantiaeth ysgrifenedig fel arfer da.

Os oes nam ar eich golwg, rhaid bod y cytundeb tenantiaeth wedi'i ysgrifennu mewn fformat y gallwch ei ddefnyddio, er enghraifft, mewn print bras neu Braille.

Yn yr Alban, yn y mwyafrif o achosion, mae'n rhaid i'ch landlord ddarparu cytundeb tenantiaeth ysgrifenedig. Yn enwedig, mae'n rhaid i'ch landlord ddarparu cytundeb tenantiaeth ysgrifenedig os ydych yn denant sector cyhoeddus, neu os ydych yn denant aswiriedig neu'n denant aswiriedig gyda landlord preifat.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae'n rhaid i denantiaid awdurdodau lleol a mwyafrif cymdeithasau tai gael cytundeb ysgrifenedig.

Mae rhai cyfreithwyr ac asiantaethau tai yn darparu enghreifftiau o gytundebau tenantiaeth ysgrifenedig. Efallai y bydd adran cyngor ynglyn â thai yr awdurdodau lleol, os oes un yn bodoli, hefyd yn gallu darparu cytundebau tenantiaeth enghreifftiol.

Os oes gennych gytundeb ysgrifenedig, dylai nodi'r math o denantiaeth sydd gennych.

Dylai'r cytundeb tenantiaeth fod wedi'i arwyddo gennych chi a'ch landlord. Dylai pob tenant, os oes cyd-denantiaid, dderbyn copi o'r cytundeb.

O dan y gyfraith, mae'n ddyletswydd ar eich landlord roi eu enw a'u cyfeiriad i chi, os oes gennych gytundeb tenantiaeth ysgrifenedig ai peidio.

Mae'n arfer da i gytundeb tenantiaeth ysgrifenedig gynnwys y manylion canlynol:-

  • eich henw ac enw eich landlord a chyfeiriad yr eiddo sy'n cael ei osod
  • dyddiad cychwyn y denantiaeth
  • manylion ynglyn â ph'un ai bod hawl gan bobl eraill i ddefnyddio'r eiddo, ac os felly, pa ystafelloedd
  • hyd y denantiaeth, hynny yw, a ydyw'n dod i ben ar ddyddiad penodol
  • y swm o rhent sy'n ddyledus, pa mor aml a phryd dylai gael ei dalu a sut a phryd mae modd ei gynyddu. Gallai'r cytundeb hefyd nodi'r hyn mae'r taliad yn ei gynnwys, er enghraifft, treth gyngor neu danwydd
  • a fydd eich landlord yn darparu unrhyw wasanaethau, er enghraifft, golchi dillad, cynnal a chadw mannau cyffredin neu brydau bwyd, ac a oes tâl am y gwasanaethau yma
  • y cyfnod rhybudd y mae angen i chi a'ch landlord roi os bydd y tenantiaeth yn dod i ben. Sylwer bod yna reolau statudol ynglyn â faint o rybudd dylid ei roi a bydd y rhain yn dibynnu ar y maeth o denantiaeth a pham mae'n dod i ben.

Gallai'r cytundeb hefyd gynnwys manylion ynglyn a chyfrifoldeb eich landlord i atgyweirio eiddo, er mai prin y bydd cytundebau yn mynd i fanylder. Mae cyfrifoldeb eich landlord i atgyweirio yn dibynnu yr y math o denantiaeth.

Am fwy o wybodaeth ar gyfrifoldeb eich landlord i atgyweirio, gweler Problemau cyffredin gyda thenantiaeth.

Os ydych yn cael problemau gydag atgyweiriadau, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori, gan gynnwys y rhai sy'n rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Cytundebau tenantiaeth llafar

Mae cytundeb tenantiaeth yn bodoli hyd yn oed os oes cytundeb llafar rhyngddo chi a'ch landlord. Er enghraifft, efallai eich bod chi a'ch landlord wedi cytuno ar ddechrau'r denantiaeth faint fydd y rhent a phryd dylai gael ei dalu, p'un ai ei fod yn cynnwys tanwydd a biliau a chyfraddau dwr neu ph'un ai bod eich landlord yn medru penderfynu byw yn y llety.

Gall cytundebau llafar fod yn anodd eu rhoi mewn grym oherwydd, yn aml, nid oes tystiolaeth o'r hyn y cytunwyd arno, neu efallai bod problem penodol wedi codi nad oedd y cytundeb yn ei gwmpasu.

Os ydych yn ystyried dadlau neu yn ceisio rhoi cytundeb llafar mewn grym, gyda'ch tenant neu landlord dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys yn rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig



Amodau gosodedig mewn cytundebau tenantiaeth

Mae yna gyfrifoldebau sydd gennych chi a'ch landlord sydd ddim, o angenrheidrwydd wedi eu rhestru yn y cytundeb, ond sydd wedi eu gosod gan y gyfraith ac sy'n cael eu gosod mewn pob cytundeb tenantiaeth. Mae'r rhain yn ffurfio rhan o'r cytundeb, er nad ydynt wedi eu cytuno yn benodol rhyngddo chi a'ch landlord.

Dyma rai o'r amodau gosodedig mwyaf cyffredin:-

  • mae'n rhaid i'ch landlord wneud atgyweiriadau sylfaenol
  • mae'n rhaid i'ch landlord sicrhau bod y gosodiadau ar gyfer cyflenwad dwr, nwy, trydan, glendyd, gwresogi a chynhesu'r dwr yn gweithio'n iawn
  • mae gennych yr hawl i fyw'n heddychlon yn y llety heb unrhyw niwsans gan eich landlord
  • yn y rhan fwyaf o achosion, ni ddylai eich landlord eich trin yn annheg oherwydd eich hil, rhyw, rhywioldeb, anabledd neu grefydd. Efallai y bydd yna rai eithriadau, er enghraifft, os ydych yn byw yn yr un llety â'ch landlord.
  • mae'n gyfrifoldeb arnoch i gymryd gofal iawn o'r llety.

Bydd hawliau a osodir gan y gyfraith yn amrywio yn ôl math y denantiaeth.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae gan bob tenant llety sector preifat hawl sylfaenol waeth pa fath o denantiaeth sydd ganddynt, sef yr hawl i lyfr rhent, yr hawl i hawlio budd-dâl tai, rhyddid rhag ymyrraeth a chyfnod rhesymol o rybudd i ddod â'r denantiaeth i ben.

Am wybodaeth ynglyn â hawliau a chyfrifoldebau tenantiaid a landlordiaid sector cyhoeddus, gweler Tenantiaethau sector cyhoeddus.
Am wybodaeth ynglyn â hawliau a chyfrifoldebau tenantiaid a landlordiaid sector preifat, gweler Tenantiaethau sector preifat.

Nôl i’r brig



Pa ddogfennau a gwybodaeth sy'n rhaid i'r tenant eu derbyn

O dan y gyfraith, fel tenant, mae'n rhaid i chi dderbyn y wybodaeth ganlynol:-

  • os oes gennych denantiaeth wythnosol (nid tenantiaeth tymor sefydlog neu fisol), mae'n rhaid i'ch landlord ddarparu llyfr rhent neu ddogfen debyg. Mae eich landlord yn cyflawni trosedd os ydyw'n methu â gwneud hyn
  • os nad ydych yn gwybod enw eich landlord, gallwch wneud cais ysgrifenedig i'r person sy'n derbyn y rhent am enw a chyfeiriad llawn eich landlord. Mae'n rhaid i'r asiant roi'r wybodaeth yma i chi yn ysgrifenedig o fewn 21 diwrnod, ac ar ôl y cyfnod yna, mae'n cyflawni trosedd

Am fwy o wybodaeth ynglyn â darganfod pwy yw eich landlord, gweler Problemau cyffredin gyda thenantiaethau

  • yng Nghymru a Lloegr, os yw'r denantiaeth yn un aswiriedig byr-faint a grewyd ar neu ar ôl Chwefror 28 1997, mae'n rhaid i'ch landlord ddarparu amodau ysgrifenedig sylfaenol y cytundeb o fewn 28 diwrnod i'ch cais chi am gael derbyn hyn yn ysgrifenedig.

Am wybodaeth ynglyn â thenantiaethau aswiriedig byr-fraint yng Nghymru a Lloegr, gweler Tenantiaethau sector preifat.

Os ydych yn cael problemau gyda chael gafael yn y dogfennau a/neu wybodaeth gan eich landlord, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys yn rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig



Cytundebau tenantiaeth sydd ddim yn dal dwr

Mae'r hawliau o dan y gyfraith bob tro â'r llaw uchaf ar y rheiny sydd wedi eu nodi mewn cytundeb ysgrifenedig neu gytundeb llafar. Mae cytundeb sy'n awgrymu bod gennych chi neu eich landlord lai o hawliau na'r rheiny a geir o dan gyfraith neu ddeddf cyffredin yn gytundeb tenantiaeth sydd ddim yn dal dwr.

Efallai bod yr y mae'r cytundeb yn ei nodi a'r denantiaeth go iawn yn wahanol. Er enghraifft, gallai eich landlord hawlio bod tenantiaeth aswiriedig mewn gwirionedd yn denantiaeth aswiriedig byr-fraint (tenantiaeth aswiriedig byr yn yr Alban), neu nad ydyw'r cytundeb yn gytundeb tenantiaeth ond yn ‘drwydded i breswylio’.

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ond nid yn yr Alban, efallai eich bod hefyd wedi arwyddo cytundeb sy'n nodi bod yr eiddo wedi ei gynnig o dan drwydded i breswylio. Nid yw hyn yn ddigon i olygu bod y cytundeb yn drwydded.

Os ydych yn un o'r sefyllfaoedd yma, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig



Newid y cytundeb tenantiaeth

Fel arfer, yr unig ffordd o newid cytundeb tenantiaeth yw os ydych chi a'ch landlord yn cytuno i'r newid.

Os ydyw'r ddau ohonoch yn cytuno ar y newidiadau, yna dylid cofnodi'r newid yn ysgrifenedig trwy lunio dogfen ysgrifenedig newydd yn amlinellu amodau'r denantiaeth neu trwy ddiwygio'r cytundeb tenantiaeth ysgrifenedig sy'n bodoli.

Gall cytundeb llafar amrywio hefyd. Fel arfer, bydd yr addasiad yn llafar hefyd. Mewn achos dadl, gellir darparu tystiolaeth o'r addasiad os oedd yna dystion i'r trefniadau newyddneu trwy fod y ddau ochr yn gweithredu'r addasiad, er enghraifft, trwy dalu a derbyn rhent newydd.

Os ydych yn anabl, mae'n rhaid i'ch landlord gymryd camau rhesymol i newid y cytundeb tenantiaeth os yw amod yn y cytundeb yn ei gwneud yn amhosib neu'n anodd i chi fyw yno oherwydd eich anabledd. Mae landlordiaid sydd ddim yn cymryd camau rhesymol i newid y cytundeb yn gwahaniaethu yn eich erbyn fel person anabl ac yn torri'r gyfraith. Mae'r hyn sy'n rhesymol yn dibynnu ar yr amgylchiadau ond, er enghraifft, mae'n rhaid i'ch landlord gytuno i newid amod yn y cytundeb fel y medrwch chi wneud gwelliannau sy'n gysylltiedig â'ch anabledd i'r eiddo neu fel eich bod yn medru cael ci cymorth.

Am fwy o wybodaeth ynghylch yr hyn y dylech ei wneud os yw'ch landlord yn gwahaniaethu yn eich erbyn am eich bod yn anabl, gweler Gwahaniaethu ar sail anabledd.

Nôl i’r brig



Dod â chytundeb tenantiaeth i ben

Bydd eich hawl chi neu eich landlord i ddiweddu cytundeb tenantiaeth a'ch hawl chi i aros a chael eich hamddiffyn rhag cael eich troi allan, yn dibynnu ar y math o denantiaeth sydd gennych.

Am wybodaeth ar y gwahanol fathau o denantiaeth a'ch hawliau i aros mewn llety tenantiaeth sector cyhoeddys, gweler Tenantiaethau sector cyhoeddus.
Am wybodaeth ar y gwahanol fathau o denantiaeth a'ch hawliau i aros mewn llety tenantiaeth sector preifat, gweler Tenantiaeth sector preifat.

Nôl i’r brig



A yw'r cytundeb tenantiaeth yn 'annheg'

Mae'r cytundeb tenantiaeth yn fath o gontract defnyddiwr ac i bob pwrpas, mae'n rhaid iddo fod mewn iaith glir sy'n hawdd ei ddeall. Ni ddylai gynnwys unrhyw dermau a alla fod yn 'annheg’. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, na ddylai'r cytundeb tenantiaeth eich gosod chi na'ch landlord ar anfantais, galluogi un person i newid amodau yn unigol heb reswm dilys na'ch rhwymo'n barhaol i amodau nad ydych wedi cael amser i ymgyfarwyddo â nhw. Nid yw amod annheg yn ddilys o dan y gyfraith ac ni ellir ei roi mewn grym.

Os ydych yn credu bod eich cytundeb tenantiaeth yn cynnwys amodau annheg, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig



Gwahaniaethu mewn cytundebau tenantiaeth

Ni chaiff eich landlord wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb neu grefydd. Mae hyn yn golygu eu bod fwy na thebyg yn torri'r gyfraith os ydynt yn:

  • rhentu eiddo i chi ar delerau gwaeth na thenantiaid eraill
  • eich trin yn wahanol i denantiaid eraill yn y ffordd yr ydych yn cael defnyddio cyfleusterau fel y golchdy neu'r ardd
  • eich troi chi allan oherwydd eich hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb neu grefydd
  • gwrthod gwneud newidiadau rhesymol i amod yn y cytundeb tenantiaeth a fyddai'n galluogi person anabl i fyw yno.

Nid yw'r rheolau ynghylch gwahaniaethu oherwydd rhyw, anabledd, rhywioldeb neu grefydd yn berthnasol, yn gyffredinol, os yw'ch landlord yn byw yn yr un eiddo â chi. Fodd bynnag, ni ddylai eich landlord wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich hil.

(Example box starts)

Rydw i wedi dod o hyd i fflat yr ydw i am ei rhentu oherwydd mae'n agos at fy ngwaith. Rwy'n ddifrifol fyddar ac mae gennyf gi clywed ond mae'r landlord yn dweud nad ydyw'n caniatáu anifeiliaid anwes. A yw hyn yn golygu nad ydw i'n medru cymryd y fflat?

Os ydych yn anabl, rydych yn medru gofyn i landlord wneud newidiadau i'w bolisïau a fyddai'n golygu eich bod yn medru byw mewn eiddo. Byddai hyn yn cynnwys newid amod yn y cytundeb tenantiaeth sy'n gwahardd anifeiliaid anwes, fel bod modd i chi gael ci cymorth. Yn ôl y gyfraith, rhaid i'ch landlord gytuno i hyn onid oes ganddo reswm da iawn dros beidio â gwneud hynny, er enghraifft, ar sail iechyd a diogelwch. Os nad ydyw'n cytuno, mae hyn yn wahaniaethu yn erbyn pobl anabl, ac mae'n bosib ei fod yn torri'r gyfraith. Ceisiwch esbonio hyn i'r landlord. Os ydyw'n gwrthod newid ei bolisi o hyd, dylech gael cyngor.

(Example box ends)

Os ydych yn credu bod eich cytundeb tenantiaeth yn gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb neu grefydd, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig