Diweddarwyd y safle:

Chwefror 11 af 2012

Sgwatio

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Mae sgwatio'n golygu byw yn rhywle heb unrhyw hawliau cyfreithiol. Nid ydyw yn erbyn y gyfraith ond gellir eich troi chi allan yn hawdd iawn. Rydych hefyd yn medru cael eich arestio os ydych yn difrodi'r eiddo neu, mewn rhai amgylchiadau, os ydych yn gwrthod gadael.

I ddarganfod mwy am sgwatio, rhowch glic ar wefan Shelter yn (New window) www.england.shelter.org.uk. Mae'r wefan hon yn cynnwys gwybodaeth sy'n berthnasol i bobl yng Nghymru.

Yng Ngogledd Iwerddon, rhowch glic ar (New window) www.housingadviceni.org.

Cyngor ar ddelio gyda phobl sy’n sgwatio yn eich cartref

Yn Lloegr, mae’r llywodraeth wedi cynhyrchu canllawiau fel eich bod yn ymwybodol o’ch hawliau os digwydd i bobl sgwatio yn eich cartref. Mae’r canllawiau ar gael ar wefan Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yn (New window) www.communities.gov.uk.

Yng Nghymru, mae canllawiau tebyg i berchnogion cartrefi ar gael ar wefan Directgov yn (New window) www.direct.gov.uk.

Yng Ngogledd Iwerddon mae canllawiau ar wefan NIDirect yn (New window) www.nidirect.gov.uk