Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru a Lloegr
Fe allwch gael gwybodaeth ar sut i geisio am ganiatâd cynllunio ar wefan y Porth Cynllunio - gwasanaeth ar-lein y llywodraeth ar gyfer cynllunio. Fe fyddwch yn medru defnyddio'r offer a'r wybodaeth ar y safle i ddod o hyd i wybodaeth ar gynllunio yn eich ardal chi a'r datblygiadau yr ydych yn medru eu gwneud o amgylch eich cartref.
I fynd at y Porth Cynllunio, dilynwch y dolenni isod:
www.planningportal.gov.uk (yn Lloegr)
www.planningportal.gov.uk (yng Nghymru)
Mae gwasanaethau'r Porth hefyd yn gadael i chi geisio am ganiatâd cynllunio yn electronig a hefyd cyflwyno a thracio cais ar-lein.
Mae Planning Aid yn rhoi cyngor annibynnol a phroffesiynol rhad ac am ddim ar gynllunio i grwpiau cymunedol ac unigolion sy’n methu fforddio talu ffioedd proffesiynol. Mae gwybodaeth bellach ynghylch cymhwyso a materion cynllunio ar gael trwy ddilyn y dolenni isod:
www.planningaidwales.org.uk (yng Nghymru)
www.planningaid.rtpi.org.uk (yn Lloegr)