Chwilio am canolfan leol

Chwilio am canolfan leol

Diweddarwyd y safle:

Mawrth 18 af 2010

Home and neighbourhood - Yng Nghymru

Opsiynau tai i bobl hŷn

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban

Mae llawer o bobl yn dechrau meddwl mwy am eu cartref wrth iddynt fynd yn hŷn. Efallai y byddwch yn hapus i aros ble’r ydych chi, ond efallai yr hoffech gael rhywfaint o help i wneud bywyd yn haws. Ydych chi angen atgyweiriadau neu addasiadau i’ch cartref er mwyn i chi fedru parhau i fyw yno’n gyffyrddus? Neu efallai eich bod yn meddwl am symud i rywle llai neu’n agosach at eich teulu a’ch ffrindiau. A fyddai symud i fyw at eich teulu’n syniad da? Beth am dŷ gwarchod? Ai cartref gofal fyddai orau i chi?

Yng Nghymru a Lloegr, mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar eich opsiynau tai ar gael ar wefan Help the Aged yn: (New window) www.helptheaged.org.uk.

Mae Help the Aged hefyd yn cynhyrchu gwybodaeth fwy manwl ynglyn â chartrefi gofal yn: (New window) www.helptheaged.org.uk.

Mae taflenni Help the Aged ynglyn â thai yn rhad ac am ddim ac ar gael gan y Tîm Adnoddau Gwybodaeth yn:

207–221 Pentonville Road
London
N1 9UZ

Neu fe allech anfon e-bost atynt i ofyn am daflen, yn: adviceleaflets@helptheaged.org.uk.

Mae Help the Aged yn rhedeg gwasanaeth cyngor rhad ac am ddim dros y ffôn, o’r enw Seniorline. Y rhif ffôn yw: 0808 800 6565.

Mae yna beth gwybodaeth ynglyn ag opsiynau tai yn yr Alban ar wefan Age Concern yn: (New window) www.ageconcernscotland.org.uk. Rhif ffôn Llinell Gymorth yr Alban ar gyfer Pobl Hŷn yw: 0845 125 9732.

Mae yna linell gymorth arall hefyd sy’n rhoi cyngor cyffredinol i bobl hŷn, yn enwedig ynghylch gofal, tai a chyllid. Enw’r llinell gymorth yw FirstStop ac fe allwch gysylltu â nhw ar: 0800 377 7070. Cyfeiriad eu gwefan yw: (New window) www.firststopcareadvice.org.uk.

Yng Nghymru a Lloegr, os ydych chi angen llety wedi’i addasu’n arbennig, fe allwch ofyn am gael eich manylion wedi eu gosod ar un o’r Cofrestrau Tai Hygyrch, neu fwy.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â Chofrestrau Tai Hygyrch, gweler Dod o hyd i lety.