Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru a Lloegr
Mae Awdurdod Lleol yn medru cynnig gwahanol fathau o gymorth gyda gwelliannau i’r cartref. Fe fydd ganddo reolau ei hun ynglyn â’r mathau o gymorth y mae’n eu cynnig, ac ynglyn â’r amodau sy’n rhaid i chi eu bodloni er mwyn bod yn gymwys am gymorth.
O dan y gyfraith, ni ddylai’r rheolau hyn wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw neu rywioldeb. Hefyd, efallai y bydd gan awdurdod lleol bolisïau sydd ddim yn caniatau mathau eraill o wahaniaethu hefyd, fel gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn
I ddarganfod os fedrwch chi gael cymorth gyda gwelliannau i’ch cartref a’r cymorth sydd ar gael yn eich hardal chi, cysylltwch â’ch awdurdod lleol. Gall eich awdurdod lleol roi cymorth i chi i:-
Os ydych chi, neu rywun sy’n byw gyda chi, yn anabl, efallai y byddwch yn medru cael grant cyfleusterau i’r anabl i’ch helpu i addasu eich cartref neu ddarparu cyfleusterau ar gyfer y person anabl. Gweler y pennawd Grantiau cyfleusterau i'r anabl.
Mae eich awdurdod lleol yn medru helpu i wella adeilad, rhan o adeilad, carafan, neu gwch, ar yr amod mai dyma eich cartref, neu ei fod ar gael i chi fyw ynddo fel eich cartref.
Mae’n bosib fod gan awdurdod lleol ei ffurflenni cais ei hun ar gyfer cymorth, a’i rheolau ei hun ynglyn â'r hyn sy’n rhaid i chi ei wneud i wneud cais am gymorth. Gofynnwch i’ch awdurdod lleol am fwy o wybodaeth ynglyn â hyn.
Os ydych yn anabl, mae’n rhaid i awdurdod lleol ddarparu ffurflenni cais ar ffurf y gallwch chi ei defnyddio, er enghraifft mewn print bras.
Bydd gan eich Awdurdod Lleol ei reolau ei hun ynglyn â’r amodau sy’n rhaid i chi eu bodloni er mwyn cael cymorth. Er enghraifft, efallai y bydd y rheolau’n dweud nad ydych yn gymwys i gael grant os yw eich cynilion dros derfyn penodol. Er bod eich awdurdod lleol yn medru cael ei reolau ei hun, mae yna rai pethau sy’n rhaid iddo'u gwneud neu beidio â'u gwneud pan yn darparu cymorth gyda gwelliannau i’r cartref. Mae’n rhaid bod gan eich Awdurdod Lleol reolau ynglyn â chymorth gyda gwelliannau i’r cartref, ond nid oes hawl ganddo gael rheolau sy’n gwbl anhyblyg neu'n afresymol. Er enghraifft, nid yw’n medru dweud na fydd yn cynnig grantiau, ac mae’n rhaid iddo ystyried eich amgylchiadau unigol os ydych yn gwneud cais am gymorth. Hefyd, ni ddylai’r rheolau wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw neu rywioldeb.
Pan fyddwch yn gwneud cais am gymorth gyda gwelliannau i’ch cartref mae’n rhaid i’r awdurdod lleol:-
Os ydych angen help i wneud cais am welliannau i’ch cartref, gallwch gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych yn rhentu eich cartref ac yn gofyn i'ch awdurdod lleol am gymorth gyda gwelliannau i’ch cartref, fe fydd angen i chi gael caniatâd eich landlord cyn y bydd yr awdurdod lleol yn cytuno i’ch helpu. Os ydych yn anabl ac mae'r newidiadau'n ymwneud â'ch anabledd, yna ni ddylai eich landlord wrthod caniatâd heb reswm da. Os oes angen atgyweirio eich cartref, efallai y bydd yn rhaid i’r landlord wneud y gwaith atgyweirio sydd ei angen arnoch.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â chyfrifoldeb eich landlord i wneud gwaith atgyweirio, gweler Cael atgyweiriadau wedi eu gwneud tra’n rhentu. Am fwy o wybodaeth ynghylch dyletswydd landlord i wneud addasiadau ar gyfer pobl anabl, gweler Gwahaniaethu ar sail anabledd. Rydych hefyd yn medru cael cymorth gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru cynnig cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Yn gyffredinol, nid oes yn rhaid i awdurdod lleol dalu grant neu fenthyciad o fewn cyfnod penodol o amser. Fodd bynnag, os yw rheolau’r awdurdod lleol ei hun yn gosod cyfyngiad amser, mae’n rhaid iddo eich talu o fewn y cyfyngiad amser hyn.
Mae yna reolau arbennig ar gyfer cael Grant Cyfleusterau i’r Anabl. Mae’r rhain yn wahanol i’r rheolau sy’n berthnasol ar gyfer cael cymorth gyda gwelliannau i’r cartref (gweler y pennawd Help gyda gwelliannau i'r cartref).
Mae Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn grant sydd ar gael oddi wrth eich awdurdod lleol ar gyfer gwaith sy’n hanfodol i helpu person anabl i fyw bywyd annibynnol. Gallech, er enghraifft, gael grant cyfleusterau i’r anabl ar gyfer y canlynol:-
Mae’n rhaid i awdurdod lleol roi grant cyfleusterau i’r anabl i chi os ydych yn cwrdd â’r amodau ar gyfer derbyn y grant.
Mae perchnogionbreswylwyr, landlordiaid, tenantiaid, trwyddedigion, a phreswylwyr rhai cychod preswyl a chartrefi parc yn medru gwneud cais am grant cyfleusterau i’r anabl, ar yr amod fod y gwaith er lles person anabl sy’n byw neu a fydd yn byw yn yr adeilad.
I wneud cais am grant cyfleusterau i’r anabl, fe fydd angen i chi gwblhau ffurflen sydd ar gael oddi wrth eich awdurdod lleol. Mae’n bosib y byddant yn gofyn am wybodaeth a/neu cynnal profion cyn i chi wneud cais ffurfiol. Hefyd, mae’n bosib y bydd angen i chi gael cymeradwyaeth ffurfiol ar gyfer rheoliadau adeiladau, cynllunio, adeilad rhestredig neu ddibenion ardal o gadwraeth.
Mae’n bosib y bydd gan eich awdurdod lleol restr o benseiri lleol, tirfesuryddion ac adeiladwyr sy’n arbenigo mewn gwaith adnewyddu, y mae modd i chi ofyn i’w gweld pan yn dewis contractwr ar gyfer y gwaith ar eich cartref. Os ydych yn bwriadu cwblhau’r gwaith eich hun, ni fyddwch yn medru hawlio am gost eich llafur.
Unwaith y byddwch wedi gwneud cais am grant, mae’n rhaid i’ch awdurdod lleol ddweud wrthoch ynglyn â’u penderfyniad cyn gynted ag y bo modd, ac heb fod yn hwyrach na chwe mis wedi i chi wneud cais.
Gallwch ond cael grant cyfleusterau i’r anabl os yw’r gwaith sydd angen ei wneud:-
Os ydych yn byw mewn llety rhent a’ch bod yn gwneud cais am grant cyfleusterau i’r anabl ar gyfer gwaith i ardal gymunedol yr adeilad yr ydych yn byw ynddo, dylech sicrhau eich bod yn gyfrifol am wneud y gwaith. Os yw eich landlord yn gyfrifol am wneud y gwaith, ni fyddwch yn medru cael grant. Efallai y bydd eich landlord yn medru gwneud cais am grant yn lle.
Os ydych angen help wrth wneud cais am grant cyfleusterau i’r anabl, gallwch gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Ni fydd grant cyfleusterau i’r anabl yn fwy na £30,000 yn Lloegr a £36,000 yng Nghymru. Ond, mae eich awdurdod lleol yn medru ychwanegu at hyn, gan ei fod yn medru rhoi cymorth arall i chi gyda gwelliannau i’r cartref (gweler y pennawd Help gyda gwelliannau i'r cartref). Fe fydd cyfanswm y grant a gewch yn dibynnu ar eich incwm a’ch cynilion, os nad yw’r gwaith ar gyfer cwrdd ag anghenion person anabl o dan 16 neu, mewn rhai achosion, dros 16 ond o dan 19.
Os ydych yn rhentu eich cartref ac yn gofyn i'ch awdurdod lleol am grant cyfleusterau i’r anabl, fe fydd angen i chi gael caniatâd eich landlord cyn y bydd eich awdurdod lleol yn cytuno i’ch helpu.
Ond, ni ddylai eich landlord wrthod caniatâd heb reswm da iawn.
Os ydych chi angen gwneud newidiadau i’ch cartref oherwydd eich anabledd, mae’n rhaid i’ch landlord gytuno i hyn tra bod y newidiadau’n rhesymol. Os nad yw’ch landlord yn cytuno, mae’n bosib fod hyn yn wahaniaethu ar sail anabledd ac mae’n bosib ei fod yn torri’r gyfraith. Nid yw’r rheol hon yn berthnasol mewn rhai achosion ble mae’ r landlord yn byw yn yr un eiddo â chi.
Os ydych chi angen gwneud newidiadau i’ch cartref oherwydd eich anabledd, efallai y bydd eich landlord yn gyfrifol amdanynt.
Os yw’ch cartref angen atgyweiriadau, efallai y bydd eich landlord hefyd yn gyfrifol am eu gwneud.
Am fwy o wybodaeth ynghylch dyletswydd landlord i wneud addasiadau i bobl anabl, gweler Gwahaniaethu ar sail anabledd.
Am fwy o wbodaeth ynghylch cyfrifoldeb landlord i wneud atgyweiriadau, gweler Diffyg atgyweiriadau mewn llety wedi’i rhentu.
Am fwy o wbodaeth ynghylch cyfrifoldeb landlord i wneud atgyweiriadau, gweler Cael atgyweiriadau wedi eu gwneud tra’n rhentu. Rydych hefyd yn medru cael cymorth gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae yna amrywiaeth o grantiau a chynlluniau effeithlonrwydd ynni ar gael. Mae’r cynlluniau hyn yn amrywio ac yn cael eu cynnig gan amrywiaeth o fudiadau. Y prif gynllun yw cynllun effeithlonrwydd ynni yn y cartref a elwir yn Warm Front yn Lloegr a rhaglen Nyth yng Nghymru. Maen nhw ar gael i berchnogion-breswylwyr a phobl mewn llety rhent. Hefyd, mae’n bosib y cewch gymorth pellach gydag inswleiddio’ch cartref – gweler y pennawd. Help gyda gwelliannau i'r cartref).
Am fwy o wybodaeth ynglyn â Warm Front a rhaglen Nyth, gweler Costau tanwydd ac arbed arian.
Os ydych yn byw yng Nghymru, a’ch bod yn anabl yn gorfforol neu eich bod yn 60 oed neu'n hyn, efallai y byddwch yn medru cael cymorth o dan Raglen Addasiadau Ymateb Buan. Gallwch gael cymorth gyda mân-addasiadau i’ch cartref fel y gallwch gael eich rhyddhau o’r ysbyty a dychwelyd i fyw’n ddiogel yn eich cartref. Hefyd, mae’n bosib y byddwch yn medru cael cymorth os nad ydych mewn ysbyty. Gallwch gael hyd at £350 o gymorth.
Gallwch gael addasiadau amrywiol i’ch cartref o dan y rhaglen, er enghraifft:-
Mae’n rhaid i chi gael eich cyfeirio at y rhaglen gan Berson Iechyd Proffesiynol. Nid oes modd i chi wneud cais yn uniongyrchol ar eich pen eich hun. I gael cymorth, mae’n rhaid i chi fod yn berchennog ar eich cartref neu yn denant. Fel arfer, mae’n rhaid eich bod yn 60 oed a throsodd, a/neu bod gennych anabledd corfforol, a’ch bod chi:-
Dylai’r gwaith ar eich cartref gael ei gwblhau o fewn 15 diwrnod i’r diwrnod y cawsoch eich cyfeirio at y rhaglen.
Caiff y Rhaglen Addasiadau Ymateb Buan ei weithredu gan Care and Repair Cymru. Am fanylion cyswllt, gweler y pennawd Asiantaethau Gwella’r Cartref.
Cymdeithasau sydd ddim â'r bwriad o wneud elw yw Asiantaethau Gwella’r Cartref (HIAs) sy’n cael eu rhedeg gan gymdeithasau tai, awdurdodau lleol ac elusennau. Maent yn medru helpu pobl sy’n berchen ar eu cartrefi eu hun, neu sy’n byw mewn llety sy’n cael ei rentu’n breifat, neu sy’n oedrannus, yn anabl neu sydd ar incwm isel i atgyweirio, cynnal a chadw neu addasu eu cartref.
Er enghraifft, mae HIA yn medru:
Mae Foundations (yn Lloegr) a Care and Repair Cymru (yng Nghymru) yn medru eich rhoi mewn cysylltiad â’ch cymdeithas leol, os oes un yn bodoli. Dyma'r manylion cyswllt:-
Bleaklow House
Howard Town Mill
Glossop
SK13 8HT
Rhif ffôn: 08458 645210
Ebost: foundations@cel.co.uk
Gwefan: www.foundations.uk.com
Ty Norbury
Heol Norbury
Caerdydd
CF5 3AS
Rhif ffôn: 029 2057 6286
Ffacs: 029 2057 6283
E-bost: enquiries@careandrepair.org.uk
Gwefan: www.careandrepair.org.uk