|
Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Ynglyn â'r wybodaeth yma
Mae'r wybodaeth yma ynglyn â dod o hyd i lety. Mae'n delio gyda dod o hyd i lety wedi'i rhentu yn bennaf, ond mae hefyd yn cynnwys rhai cynlluniau penodol a gynigir gan awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i'ch helpu chi i brynu eich cartref eich hun.
Os hoffech wybod mwy am brynu eich cartref eich hun yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gweler Prynu cartref. Os hoffech wybod mwy am brynu eich cartref eich hun yn yr Alban, gweler Prynu cartref.
Yn yr wybodaeth yma, rydyn ni'n cyfeirio at help gan awdurdodau lleol i ddod o hyd i lety. Yng Ngogledd Iwerddon, daw'r help yma oddi wrth Gyfarwyddiaeth Dai Gogledd Iwerddon (Northern Ireland Housing Executive).
Nôl i’r Brig
Chwilio am lety
Os ydych chi'n chwilio am lety, efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi gasglu:-
- rhestrau o hostelau, gwestai gwely a brecwast a llety argyfwng
- rhestrau o asiantaethau llety
- cyfeiriadau cymdeithasau tai lleol a chydweithfeydd tai
- cyngor ar fynd at yr awdurdod lleol fel person digartref
- cyfeiriadau llochesi i ferched sydd mewn perthynas dreisgar
- gwybodaeth ar dai lleol sydd ar gael i bobl sydd ag anghenion arbennig.
Mae yna wybodaeth ar wefan Homeless UK ynghylch gwasanaethau i bobl ddigartref, gan gynnwys hostelau, canolfannau dydd a gwasanaethau cyngor a chymorth eraill. Cliciwch ar www.homelessuk.org.
Mae Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban wedi cynhyrchu llyfryn defnyddiol sy’n crynhoi’r prif opsiynau ar gyfer rhentu llety a phrynu llety’n rhannol. Mae ar gael ar eu gwefan: www.spso.org.uk.
Os ydych chi'n chwilio am lety, efallai y gallwch gael y math yma o help gan ganolfan cyngor ar dai yr awdurdod lleol. Mae cyfeiriad eich canolfan agosaf yn y llyfr ffôn lleol neu fe allwch ofyn i Ganolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nôl i’r Brig
Help ar gyfer pobl ddigartref
Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd gyfreithiol i roi help i rhai pobl sy'n ddigartref neu sydd o dan fygythiad o ddod yn ddigartref. Fe fyddwch yn gallu cael help os ydych yn 'gymwys i gael help', yn ddigartref neu o dan fygythiad dod yn ddigartref yn gyfreithiol, mewn angen sy'n flaenoriaeth a ddim yn ddigartref yn fwriadol. Fe all yr awdurdod lleol hefyd ymchwilio i weld a oes gennych gysylltiad â'r ardal leol.
Mae gan y gwasanaethau cymdeithasol gyfrifoldeb hefyd dros rhai pobl digartref. Mae ganddyn nhw ddyletswydd i roi llety i blant a phobl ifainc dros 16 sy'n gadael gofal, neu sydd mewn angen am rheswm arall.
Ni ddylai awdurdodau lleol wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb neu grefydd wrth ddarparu help. Er enghraifft, os nad ydych yn deall Saesneg, rhaid i'r awdurdod lleol ddarparu help a gwybodaeth yn eich iaith chi'ch hun. Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu, gweler Gwahaniaethu wrth osod eiddo.
Ydych chi'n 'gymwys i gael help'
Mae yna rai pobl sy'n cyrraedd y wlad, neu sy'n dod yn ôl ar ôl cyfnod o fyw dramor, sydd ddim yn gymwys i dderbyn help gyda thai o gan ddeddfau digartrefedd. Er enghraifft, mae llawer o geiswyr lloches (ond nid pob un) wedi eu heithrio, ac hefyd rhywun sydd wedi treulio cyfnod sylweddol yn byw tu allan i'r Deyrnas Unedig, hyd yn oed os ydynt yn ddinasyddion y DU.
Mae'r rheolau ynglyn â phwy sy'n gymwys i gael help yn gymhleth. Os ydych chi newydd gyrraedd neu os ydych chi'n dod yn ôl i'r DU, dylech gael cyngor arbenigol gan, er enghraifft, Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Digartref neu dan fygythiad o ddod yn ddigartrefedd
Fe fyddwch yn cael eich hystyried yn ddigartref yn gyfreithiol os nad oes gennych lety sydd ar gael ac sy'n rhesymol i chi a'ch teulu fyw ynddo. Mae hyn yn cynnwys llety mewn gwlad arall. Fe fyddwch hefyd yn ddigartref os oes llety gennych ond nad ydych yn gallu mynd i mewn iddo. Er enghraifft, os oes gennych rhywle i aros gyda ffrindiau neu theulu ond maen nhw wedi gofyn i chi adael, neu os ydych chi mewn perygl o drais yn eich cartref. Fe fyddwch yn cael eich hystyried fel person sydd mewn perygl o ddod yn ddigartrefedd, os ydych yn debygol o fod yn ddigartref o fewn 28 diwrnod (yn yr Alban, deufis).
Angen sy'n flaenoriaeth
Fe fyddwch yn cael eich cyfrif fel person sydd mewn angen sy'n flaenoriaeth os ydych yn ddigartref ac:-
- yn feichiog
- mae gennych blant dibynnol sy'n iau nag 16, neu'n iau na 19 os ydynt mewn addysg llawn-amser
- rydych yn ddigartref oherwydd argyfwng fel llifogydd neu dân
- rydych yn 16 neu'n 17 (fe fydd hyn yn berthnasol yng Ngogledd Iwerddon os ydych mewn perygl o gael eich ecsploetio'n rhywiol neu'n ariannol)
Fe allech chi hefyd fod mewn angen sy'n flaenoriaeth os ydych yn un o'r grwpiau canlynol. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i chi ddangos bod eich sefyllfa wedi eich gwneud chi'n fregus:-
- rydych chi'n oedrannus, neu mae gennych anabledd neu salwch meddwl neu gorfforol
- rydych chi'n hyn na 18 ond mewn perygl o gael eich ecsbloetio neu wedi bod mewn gofal
- rydych chi mewn perygl o drais yn y cartref, trais hiliol neu fygythiadau eraill o drais
- rydych chi'n ddigartref ar ôl gadael yr ysbyty, carchar neu'r lluoedd arfog.
Mae'r grwpiau o bobl sydd mewn angen sy'n flaenoriaeth yn amrywio ac yn dibynnu a ydych chi'n byw yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Os ydych chi'n teimlo eich bod chi yn un o'r grwpiau angen sy'n flaenoriaeth fe allwch holi cynghorydd arbenigol i wneud yn siwr, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Digartref yn fwriadol
Efallai y cewch eich hystyried fel person sy'n 'ddigartref yn fwriadol' os ydych wedi gwneud rhywbeth yn fwriadol sydd wedi gwneud i chi golli eich cartref. Ond, mae'r diffiniad ar gyfer person sy'n ddigartref yn fwriadol yn gymhleth ac yn aml fe fydd yn bosib herio penderfyniad eich awdurdod lleol yn llwyddiannus. Er enghraifft, os ydych wedi dod yn ddigartref oherwydd dyled rhent neu forgais ni ddylech gael eich hystyried yn ddigartref yn fwriadol yn awtomatig. Mae'n rhaid i'r awdurdod lleol edrych ar bob achos unigol. Petaech yn colli eich cartref oherwydd problemau ariannol gwirioneddol, nid eich bai chi fyddai eich sefyllfa.
Cysylltiad lleol
Fe allai'r awdurdod lleol wrthod derbyn cyfrifoldeb drosoch os ydyw'n credu nad oes cysylltiad gyda chi â'r ardal lle yr ydych yn chwilio am help gyda thai. Fel arfer, byddai disgwyl i chi fyw, gweithio neu gael cysylltiadau teuluol er mwyn cael cysylltiad lleol. Yn y sefyllfa yma, efallai y cewch eich cyfeirio at ardal lle mae gennych gysylltiad.
Pa gamau sy'n rhaid i'r awdurdod lleol eu cymryd
Os oes angen amser ar yr awdurdod lleol i wneud ymholiadau (ac os ydyw'n ymddangos eich bod yn ddigartref ac mewn angen sy'n flaenoriaeth), mae'n rhaid iddo sicrhau bod gennych rhywle i fyw tra ei fod yn ymchwilio i'ch sefyllfa.
Os oes hawl gennych i gael eich galw'n ddigartref, fe fydd yn rhaid i'r awdurdod lleol eich helpu. Nid oes rhaid iddo ddarparu llety o'i eiddo ei hun. Fe all eich helpu chi mewn sawl ffordd, er enghraifft, trwy eich cyfeirio chi at gymdeithas dai, neu drefnu llety gyda landlord preifat.
Os ydyw'r awdurdod lleol yn penderfynu nad ydych yn ddigartref, nid oes unrhyw ddyletswydd arno i drefnu llety hir dymor ar eich cyfer. Ond, fe fydd ganddo rai dyletswyddau i'ch helpu chi ac mae'n rhaid iddo roi mynediad i chi at gyngor a help i ddod o hyd i lety, neu gynnig lle dros dro i chi i aros tra eich bod yn dod o hyd i gartref parhaol.
Yng Ngogledd Iwerddon mae sefydliad o'r enw Northern Ireland Housing Executive yn gorfod rhoi rhesymau dros ei benderfyniad os ydyw'n penderfynu nad ydych yn ddigartref. Rydych yn medru apelio yn erbyn y penderfyniad hwn os nad ydych yn cytuno gydag ef.
Nôl i’r Brig
Llety awdurdod lleol
Os ydych cyn chwilio am lety gyda'r awdurdod lleol dylech holi yn gyntaf i weld a ydych chi'n gymwys. Mae yna lawer o bobl o dramor, er enghraifft y rhan fwyaf o geiswyr lloches a phobl sydd wedi treulio cyfnod sylweddol o amser yn byw tu allan i'r DU – hyd yn oed os ydyn nhw'n ddinasyddion y DU – sydd ddim yn gymwys i gael llety.
Mae'r rheolau ynglyn â phwy sydd â hawl i gael llety gan yr awdurdod lleol yn gymhleth, yn enwedig os ydych chi newydd gyrraedd, neu ddod yn ôl i'r DU o dramor. Os ydych chi yn y sefyllfa yma, dylech ofyn am gyngor, er enghraifft, gan Ganolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Cofrestrau tai a rhestrau aros
Nid oes rhaid i awdurdodau lleol gael cofrestr dai ond, yn ymarferol fe fydd y rhan fwyaf yn cadw cofrestr dai neu rhestr aros o bobl sydd wedi gwneud cais i rhentu llety gan. Fel arfer, mae'n rhaid i chi lenwi ffurflen i geisio am lety yr awdurdod lleol.
Mae'n rhaid i awdurdodau lleol gyhoeddi gwybodaeth yn esbonio sut maen nhw'n gwneud penderfyniadau ynghylch cynnig llety a'r system y maen nhw'n ei defnyddio i roi blaenoriaeth i ymgeiswyr ar eu rhestrau aros. Mae'r ffordd o benderfynu ar flaenoriaethau yn medru amrywio o un awdurdod lleol i'r nesaf, ond dyma'r ffactorau sy'n cael eu hystyried fel arfer:
- iechyd gwael sy'n mynd yn waeth oherwydd amodau tai
- dim cyfleuster penodol, er enghraifft, ystafell ymolchi neu dy bach, neu rydych yn rhannu'r cyfleuster
- dim digon o ystafelloedd gwely i gyfateb â maint eich teulu
- y cyfnod yr ydych wedi byw yn yr ardal
- oed (lle mae mynediad at lety cysgodol neu lety sy'n cael ei gefnogi gan warden yn cael ei ystyried)
- cyfnod o amser ar y rhestr aros
- bod i ffwrdd oddi wrth eich teulu (gan gynnwys teulu sydd dramor) oherwydd diffyg llety
- digartrefedd – gweler y pennawd help ar gyfer pobl ddigartref.
Ni chaiff awdurdod lleol eich trin yn annheg wrth i chi geisio am lety, oherwydd eich hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb neu grefydd – gweler y pennawd Gwahaniaethu wrth osod eiddo.
Fe all cwblhau cais i fynd ar rhestr aros yr awdurdod lleol fod yn gymhleth. Efallai y byddwch eisiau help gan gynghorydd arbenigol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor trwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Unwaith y cewch eich derbyn ar rhestr aros yr awdurdod lleol, efallai y bydd yn rhaid i chi aros am amser hir cyn y cewch gynnig llety. Dylai eich awdurdod lleol fod yn gallu rhoi brasamcan i chi o'r cyfnod y bydd yn rhaid i chi aros. Dylech wneud yn siwr eich bod yn dweud wrth yr awdurdod lleol am unrhyw newidiadau sy'n debygol o effeithio ar eich cais, er enghraifft, newidiadau yn niferoedd a/neu oed eich plant. Efallai y bydd yn rhaid i chi adnewyddu eich cais yn rheolaidd hefyd.
Fe fydd rhai awdurdodau lleol yn hysbysebu cartrefi gwag yn eu hardal fel bod pobl ar eu rhestr aros yn medru 'bidio' am yr eiddo sydd o ddiddordeb iddyn nhw. Gelwir hyn yn 'Osod ar sail dewis'. Os yw'ch awdurdod lleol yn defnyddio'r math yma o system i osod llety, dylai roi gwybodaeth i chi ynghylch sut, pryd a ble y byddwch yn medru bidio am lety.
Pan gewch chi gynnig llety, fe allai fod yn lety sy'n eiddo i'r awdurdod lleol, neu gymdeithas dai. Mewn ardal lle mae llety'r awdurdod lleol wedi cael ei drosglwyddo at gymdeithas dai, efallai mai dyma'r unig opsiwn fydd ar gael.
Fel arfer, fe fyddwch chi ond yn gallu gwrthod y cynnig os nad ydyw'n addas ar gyfer eich anghenion, er enghraifft, os ydych yn anabl ac nid oes lifft yn y llety. Ond, fel arfer mae yna derfyn ar y nifer o gynigion y bydd yr awdurdod lleol yn eu rhoi i chi.
Nôl i’r Brig
Cymdeithasau tai
Mae cymdeithas tai yn fudiadau 'nid am elw' sy'n darparu tai i'w rhentu. Mae yna sawl cymdeithas dai sy'n darparu amrywiaeth o lety. Mae rhai'n darparu tai ar gyfer math penodol o bobl, er enghraifft, rhieni sengl neu bobl anabl. Mae eraill yn cynnig tai cyffredinol yn yr un ffordd â'r awdurdod lleol.
Dim ond rhai cymdeithasau tai sy'n derbyn ceisiadau uniongyrchol. Mae'r rhan fwyaf yn gofyn i chi gael eich henwebu gan yr awdurdod lleol, sy'n golygu y bydd angen i chi wneud cais i fynd ar rhestr aros yr awdurdod lleol ac yna gofyn am gael eich enwebu – gweler y pennawd Llety awdurdod lleol. Lle nad yw'r gymdeithas dai yn gofyn am hyn, efallai y bydd angen i chi gael eich enwebu gan asiantaeth leol, er enghraifft, asiantaeth gyngor neu'r adran gwasanaethau cymdeithasol. Os ydyw'r gymdeithas dai yn derbyn ceisiadau uniongyrchol, fe fydd y meini prawf sydd gan bob un ar gyfer dewis tenantiaid yn amrywio.
Mewn rhai ardaloedd, mae gan y cymdeithasau tai a'r awdurdod lleol restr aros ar y cyd. Mae hyn yn golygu y gallwch gofrestru gyda'r awdurdod lleol, a'r cymdeithasau tai, ar yr un ffurflen.
Os ydych chi'n chwilio am lety gan gymdeithas dai, efallai y byddai'n syniad i chi gael mwy o wybodaeth gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan cyngor ar dai neu Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor trwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nôl i’r Brig
Yr hawl i brynu
Os ydych wedi bod yn denant gyda'r awdurdod lleol am o leiaf dwy flynedd (neu o leiaf pum mlynedd os daethoch yn denant gyda'r awdurdod ar neu ar ôl Ionawr 18 2005) yna fel arfer fe fydd hawl gennych i brynu eich cartref am bris gostyngol. Yng Ngogledd Iwerddon, gelwir hyn yn 'Statutory House Sales Scheme'.
Mae gan rai tenantiaid cymdeithasau tai yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, yr hawl i brynu eu cartref. Yng Nghymru a Lloegr, gelwir hyn yn 'hawl i feddiannu'. Yng Ngogledd Iwerddon, efallai y bydd tenantiaid cymdeithasau tai yn medru prynu eu cartref o dan gynllun o'r enw Statutory House Sales Scheme.
Am fwy o wybodaeth am yr hawl i brynu neu'r hawl i feddiannu eich cartref eich cartref yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gweler Prynu cartref.
Nôl i’r Brig
Rhannu perchnogaeth
Mae cynlluniau rhannu perchnogaeth wedi eu hanelu at helpu pobl sydd ddim yn gallu fforddio prynu cartref addas mewn unrhyw ffordd arall. Rydych yn rhannu perchnogaeth yr eiddo gydag awdurdod lleol neu gymdeithas dai. Rydych yn talu rhent i'r awdurdod lleol neu'r gymdeithas dai am rhan o'r eiddo a morgais ar y gweddill. Fel arfer fe fyddwch yn gallu prynu mwy o gyfran o'r eiddo yn nes ymlaen.
Fel arfer, er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn, fe fydd yn rhaid eich bod chi'n prynu am y tro cyntaf, a rhoddir blaenoriaeth i denantiaid awdurdod lleol neu gymdeithas dai. Mae'n bosib y caiff pobl eraill sydd angen tai eu hystyried ar gyfer y cynllun. Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu cael eich morgais eich hun i gwrdd â chost prynu canran o'r eiddo.
Yn yr Alban, caiff cynlluniau rhannu perchnogaeth eu galw yn 'joint venture schemes'. Yng Ngogledd Iwerddon, mae Northern Ireland Co-Ownership Housing Association yn cynnig cynllun tebyg o'r enw 'the co-ownership scheme'.
Mae mwy o wybodaeth am rhannu perchnogaeth ar gael gan y Gorfforaeth Dai (Communities Scotland yn yr Alban), awdurdodau lleol neu gymdeithasau tai – gweler y pennawd Cymorth pellach.
Nôl i’r Brig
Cymorth Prynu yn Lloegr
Mae yna dri chynllun yn Lloegr, ac maen nhw'n anelu at helpu pobl na fyddai'n gallu fforddio fel arall, i brynu cartref. Gelwir y cynlluniau hyn yn Cymorth Prynu Cymdeithasol (Social HomeBuy), Cymorth Prynu ar y Farchnad Agored (Open Market HomeBuy) a Cymorth Prynu Adeiladu o'r Newydd (New Build HomeBuy).
Mae Cymorth Prynu Cymdeithasol yn gynllun i helpu tenantiaid awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i brynu rhan o'u cartref. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Cymorth Prynu Cymdeithasol, mae'n rhaid i chi fod wedi bod yn denant gyda'r awdurdod lleol neu gymdeithas dai am o leiaf dwy flynedd (neu bum mlynedd os daethoch chi'n denant i'r sector cyhoeddus am y tro cyntaf ar neu ar ôl Ionawr 18 2005). Os cewch eich derbyn ar y cynllun fe fyddwch yn prynu cyfran o 25%, o leiaf, o'ch cartref ac yn talu rhent i'ch landlord am y gweddill. Fe fyddwch yn medru cynyddu eich cyfran i hyd at 100%. Efallai hefyd y byddwch yn medru gostwng eich cyfran neu fynd yn ôl i rentu fel tenant.
Os oes diddordeb gennych mewn Cymorth Prynu Cymdeithasol, dylech gysylltu â'ch landlord i ddarganfod os ydyn nhw'n cymryd rhan yn y cynllun ac a ydych chi'n gymwys. Mae i fyny i bobl awdurdod lleol a chymdeithas tai i benderfynu a fydd yn cymryd rhan yn y cynllun.
Mae Cymorth Prynu ar y Farchnad Agored yn gynllun i helpu pobl i brynu cartref ar y farchnad agored. Mae wedi'i anelu'n bennaf at weithwyr allweddol (er enghraifft athrawon, nyrsys neu swyddogion yr heddlu, mewn ardaloedd lle mae prisiau tai'n uchel). Ond efallai hefyd y byddwch yn medru cymryd rhan os ydych yn prynu am y tro cyntaf neu'n denant gyda'r awdurdod lleol neu gymdeithas dai.
Er mwyn cael eich hystyried ar gyfer Cymorth Prynu ar y Farchnad Agored, mae'n rhaid eich bod yn medru codi'r arian i brynu cyfran o 50% – 60% mewn fflat neu dŷ a bod incwm y cartref yn llai na £60,000.
Mae yna ddau gynnyrch Cymorth Prynu ar y Farchnad Agored, MyChoiceHomeBuy ac Ownhome. Nid oes angen blaendal ar un o'r cynlluniau ond mae eu nodweddion eraill yn amrywio. Am fwy o wybodaeth ar y cynlluniau hyn, ewch at wefan y Gorfforaeth Tai yn: www.housingcorp.gov.uk.
Mae Cymorth Prynu Adeiladu o'r Newydd yn gynllun i helpu gweithwyr allweddol, y rheiny sy'n prynu am y tro cyntaf a thenantiaid tai cymdeithasol i brynu cyfran o eiddo sydd wedi ei adeiladu o'r newydd. Ni fyddwch yn medru prynu llai na chyfran o 25%, ac fe fyddwch yn talu rhent ar y gweddill i'r darparwr tai, sy'n gymdeithas tai fel arfer.
Fe fydd angen i chi fedru codi morgais ar gyfer y gyfran yr ydych am ei phrynu, a thalu rhent ar y gyfran sydd ddim yn eiddo ichi. Gosodir y rhent ar lefelau fforddiadwy.
I ddarganfod mwy am Cymorth Prynu ar y Farchnad Agored a Cymorth Prynu Adeiladu o'r Newydd, cysylltwch â'r asiant Cymorth Prynu lleol. Mae Asiant Cymorth Prynu yn gymdeithas tai a benodwyd i gynnig gwybodaeth ar opsiynau tai fforddiadwy yn eich ardal. I ddarganfod manylion eich Asiant Cymorth Prynu lleol, ewch at wefan y Gorfforaeth Tai yn: www.housingcorp.gov.uk.
Nôl i’r Brig
Homeswithinreach (Cymru)
Mae Homeswithinreach yn gynllun perchen ar gartref sy’n rhoi help i bobl gymwys sy’n prynu am y tro cyntaf ac sy’n ceisio cael troed ar yr ysgol dai. Y bwriad yw helpu’r rheiny na fyddai’n medru prynu tai sy’n ddigonol ar gyfer eu hanghenion fel arall, ar y farchnad agored.
Mae yna ddau opsiwn ar gyfer y rheiny sydd am berchen ar eu cartref eu hun:
- Perchnogaeth Cymorth Prynu
- Perchnogaeth Adeiladu o’r Newydd.
Perchnogaeth Cymorth Prynu
Mae Perchnogaeth Cymorth Prynu ar gael i denantiaid awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, ac i rai pobl eraill sydd angen tŷ. Mae’r help wedi’i gyfyngu i bobl na fyddai’n medru prynu cartref heb help y cynllun.
Os cewch eich derbyn ar y cynllun, fel arfer fe fydd angen i chi gael morgais am 70% o bris yr eiddo. Fe fydd Homeswithinreach yn benthyg gweddill y 30% i chi (mewn rhai ardaloedd gwledig, mae’r canrannau’n 50% a 50%). Fe fydd angen i chi ad-dalu’r benthyciad pan fyddwch yn gwerthu’r eiddo. Fe fydd yn rhaid i chi ad-dalu 30% o werth yr eiddo pan fyddwch yn ei werthu. Os yw’r eiddo wedi cynyddu mewn gwerth, mae hyn yn golygu y byddwch yn ad-dalu mwy nag a fenthycwyd i ddechrau.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Cymorth Prynu, ewch at wefan Homeswithinreach yn: www.homeswithinreach.co.uk.
Perchnogaeth Adeiladu o’r Newydd
Mae’r cynllun hwn yn helpu pobl gymwys sy’n prynu am y tro cyntaf ar incwm canolig, sydd ddim yn medru fforddio prynu cartref addas heb help. Rhaid eich bod yn medru cwrdd â’r ymrwymiad ariannol tymor hir sy’n gysylltiedig â berchen eich cartref.
Mae modd rhoi ystyriaeth i’r rheiny sy’n prynu am y tro cyntaf ar eu pen eu hun, fesul achos, er enghraifft os ydych wedi gwerthu cartref a oedd yn eiddo ar y cyd, o ganlyniad i ysgariad.
Mae’r eiddo ar werth ar sail rhannu ecwiti. Rhaid i chi ddangos eich bod yn medru fforddio prynu tua 50-70% o’r pris prynu trwy forgais, cynilion neu gyfuniad o’r ddau. Fe fydd Homeswithinreach yn benthyg gweddill yr arian i chi ar gyfer pris prynu’r eiddo. Fe fyddwch yn medru prynu cyfranddaliadau pellach gan Homeswithinreach os fyddwch yn dymuno. Nid oes rhaid i chi dalu rhent ar y gyfran sy’n eiddo i Homeswithinreach. Pan fyddwch chi’n gwerthu’r eiddo, fe fydd Homeswithinreach yn cael cyfran o bris gwerthu’r eiddo. Fe fydd hyn yn dibynnu ar y gyfran sydd ganddynt yn yr eiddo.
Am fwy o fanylion ynghylch y cynllun rhowch glic ar wefan Homeswithinreach yn: www.homeswithinreach.co.uk.
Nôl i’r Brig
LIFT yn yr Alban
Os ydych chi'n byw yn yr Alban ac ar incwm isel, efallai y byddwch yn medru cael help i brynu eich cartref eich hun trwy gynllun o'r enw LIFT.
Mae LIFT yn gynllun a gynigir gan gymdeithasau tai yn yr Alban. Mae'r help wedi'i gyfyngu at bobl na fyddai'n medru prynu cartref heb help gan y cynllun hwn.
Os cewch eich derbyn gan y cynllun, fel arfer fe fydd yn rhaid i chi gael morgais am 60% i 80% o bris yr eiddo. Fe fydd y gymdeithas dai yn ariannu'r 20% i 40% sy'n weddill. Os ydych chi am werthu'r eiddo, fe fydd y gymdeithas dai yn cael ei chyfran yn ôl. Er enghraifft, os yw'r gymdeithas dai wedi ariannu 20% o bris prynu'r eiddo, fe fydd yn cael 20% o bris gwerthu'r eiddo yn ôl.
Fe allwch gael mwy o wybodaeth am LIFT gan eich cymdeithas dai leol, neu gan Communities Scotland yn Communities Scotland.
Nôl i’r Brig
Perchnogaeth ar y cyd yng Ngogledd Iwerddon
Nid yw'r cynllun Perchnogaeth ar y cyd yn derbyn unrhyw geisiadau newydd ar hyn o bryd. Ond, mae'r cynllun yn cael ei adolygu ac efallai y bydd yn bosib ymgeisio eto yn y dyfodol agos.
Cynllun i bobl na fyddai’n gallu fforddio prynu eu tŷ eu hunain yw Perchnogaeth ar y cyd.
Mae’r cynllun yn cael ei redeg gan Gymdeithas Dai Perchnogi ar y cyd Gogledd Iwerddon (NICHA). Mae’n eich galluogi i godi morgais am y swm ‘rydych yn gallu ei fforddio, ac i dalu’r gweddill ar ffurf rhent i NICHA.
Rhaid i chi brynu 40% o’r eiddo i ddechrau. Os allwch fforddio gwneud, gallwch brynu 62.5% o’r eiddo, hyd at uchafswm o 75%. Byddwch yn talu rhent yn ôl gwerth yr eiddo a maint eich rhanddaliad. Po fwyaf eich rhanddaliad, isaf fydd y rhent sy’n daladwy.
Mae’n bosib cynyddu eich rhaddaliad perchnogaeth ar unrhyw adeg, naill drwy brynu 12.5% ar y tro, neu brynu’r cyfan. Does dim rhaid i chi cynyddu’ch rhanddalaiad perchnogaeth os nad ydych chi eisiau gwneud.
Am ragor o wybodaeth am y cynllun Perchnogaeth ar y cyd, cysylltwch â Chymdeithas Dai Perchnogi ar y cyd Gogledd Iwerddon Cyf. yn:
Murray House Murray Street Belfast BT1 6DN
Ffôn: 0800 333644(rhadffôn) gwefan: www.co-ownership.org
Nôl i’r Brig
Cynllun Foyer i bobl ifainc
Mae 'Foyer yn cynnig llety hostel dros dro i bobl ifainc, sydd rwng 16-25 gan fwyaf, sy'n ddigartref neu angen cartref.
Mae trigolion Foyer hefyd yn cael cynnig arweiniad, cefnogaeth, mynediad at ddysgu a help wrth chwilio am waith.
Ar gyfartaledd, mae'r cyfnod y bydd person ifanc yn ei dreulio mewn foyer rhwng naw a deuddeg mis.
Os ydych chi am aros mewn foyer, cysylltwch â'r un agosach atoch chi a gofynnwch am gyfweliad, neu gofynnwch i asiantaeth arall, fel eich awdurdod tai lleol, gwasanaeth prawf neu gartref gofal, i'ch cyfeirio.
Fe fydd rhai 'Foyers' ond yn derbyn pobl ifainc sydd wedi eu cyfeirio gan eu hawdurdod tai lleol.
I ddod o hyd i fanylion eich foyer agosaf, cysylltwch â:
The Foyer Federation 3rd Floor 5-9 Hatton Wall London EC1N 8HX Rhif Ffôn: 020 7430 2212 Gwefan: www.foyer.net.
Nôl i’r Brig
Asiantaethau llety
Efallai y bydd asiantaeth llety yn gallu eich helpu chi i ddod o hyd i lety sy'n eiddo i landlord preifat. Os ydych chi'n cofrestru gydag asiantaeth fe fyddan nhw'n gofyn i chi pa fath o lety yr ydych yn chwilio amdano a faint o rhent yr ydych chi'n fodlon ei dalu. Fel arfer, fe fydd gofyn i chi roi manylion eich swydd a'ch incwm, ac efallai y byddan nhw'n gofyn i chi hefyd am ddarparu geirda gan eich cyflogwr, banc, a landlord presennol neu gyn-landlord.
Yr hyn y mae'r asiantaeth llety yn gallu codi tâl amdano
Pan fyddwch chi'n cofrestru gydag asiantaeth llety, mae ganddi'r hawl i godi tâl pan fydd yn dod o hyd i rywle i chi fyw yn unig. Unwaith y byddwch chi wedi arwyddo cytundeb i dderbyn tenantiaeth eiddo, nid oes cyfyngiad ar y ffi y gall yr asiantaeth ei godi. Fel rhan o'u ffi, mae gan rai asiantaethau hawl i gynnwys ffi gweinyddol am baratoi cytundeb y denantiaeth, gwneud rhestr o'r hyn sydd yn yr eiddo, a chostau eraill sefydlu cytundeb ar gyfer y denantiaeth.
Yr hyn na all asiantaeth llety godi tâl amdano
Mae yn erbyn y gyfraith i asiantaeth ofyn am dâl am:-
- roi eich enw chi ar ei rhestr neu gymryd eich manylion
- darparu rhestr o eiddo sydd ar gael i'w rhentu
- blaendal a fydd yn cael ei ddychwelyd os na cheir hyd i lety addas.
Mae asiantaeth yn cynnig llety
Os cewch gynnig llety gan asiantaeth, dylech archwilio'r eiddo cyn ei dderbyn a sicrhau eich bod wedi cael yr holl fanylion am:-
- amodau cytundeb y denantiaeth
- faint o rhent y bydd yn rhaid i chi ei dalu, ac a ydyw'n cynnwys unrhyw daliadau gwasanaeth, tanwydd a dwr
- faint o rhent fydd yn rhaid i chi ei dalu ymlaen llaw
- a fydd yn rhaid i chi dalu premiwm a/neu flaendal sicrwydd ac, os felly, faint – gweler y pennawd Blaendaliadau a phremiymau
- a oes morgais ar yr eiddo. Fe allech golli eich llety os caiff yr eiddo ei ailfeddiannu am nad ydyw'r landlord wedi cadw at daliadau'r morgais
- enw a chyfeiriad y landlord
- yn yr Alban, a yw'r landlord yn gofrestredig. Dylai pob landlord preifat yn yr Alban fod wedi eu cofrestru gyda'r awdurdod lleol.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â'r mathau o denantiaeth yng Nghymru a Lloegr, gweler Tenantiaethau'r sector preifat.
Lle'n bosib, dylech ddefnyddio asiantaeth sydd wedi arwyddo gyda'r NALS (National Approved Letting Scheme). Mae asiantaethau sy'n perthyn i'r cynllun hwn wedi cytuno i ddilyn cyfres o safonau sy'n cynnwys gweithdrefn gwynion.
Mae mudiadau sy'n perthyn i'r cynllun hwn yn cynnwys yr NAEA (National Association of Estate Agents), RICS (Royal Institute of Chartered Surveyors), ac ARLA (Association of Residential Letting Agents). Fe fydd y mudiadau hyn yn mynnu bod asiantaethau sy'n aelodau yn cadw blaendal a delir gan denantiaid mewn 'cyfrif cleient' ar wahân. Am fanylion cyswllt y mudiadau hyn, gweler y pennawd Cymorth pellach.
Asiantaeth llety sy'n gwahaniaethu
Fe all asiantaeth llety wrthod eich cofrestru chi. Fe allai wneud hyn, er enghraifft, oherwydd:-
- rydych chi'n ddi-waith
- rydych chi ar fudd-daliadau
- rydych chi'n chwilio am lety ar gyfer teulu.
Os ydych yn dioddef gwahaniaethu am unrhyw un o'r rhesymau hyn, efallai y medrwch gymryd camau o dan gyfraith hawliau dynol. Dylech gael cyngor arbenigol.
Mae'n anghyfreithlon i asiantaeth llety wahaniaethu ar sail anabledd, hil, rhywioldeb, crefydd, cred neu ryw, hyd yn oed pan fod landlord wedi nodi nad ydyw eisiau tenant o hil neu rhyw penodol, neu gydag anabledd.
Am ragor o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu pan fyddwch yn rhentu eiddo, gweler y pennawd Gwahaniaethu pan yn rhentu eiddo.
Os ydych chi'n credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu gan asiantaeth llety am unrhyw reswm, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nôl i’r Brig
Blaendaliadau a phremiymau
Efallai y bydd landlord, neu asiantaeth llety sy'n gweithredu ar eich rhan, yn gofyn i chi dalu blaendal neu bremiwm ar gyfer eich llety.
Blaendaliadau dal yng Nghymru a Lloegr
Yng Nghymru a Llogr, mae landlord neu asiantaeth llety yn medru gofyn i chi dalu blaendal dal pan fyddwch chi'n cytuno i rhentu eiddo ond nid ydych wedi cymryd y denantiaeth eto. Fwy na thebyg y bydd y blaendal yn cael ei dynnu oddi ar y blaendal sicrwydd y byddwch yn ei dalu pan fyddwch chi'n symud i'r eiddo (gweler Blaendaliadau sicrwydd, isod).
Cyn gwneud unrhyw daliad, dylech fod yn siwr eich bod am gymryd y denantiaeth oherwydd ni ellir dychwelyd blaendal dal heblaw eich bod chi'n methu â symud i mewn am rhesymau sydd y tu hwnt i'ch rheolaeth chi. Er enghraifft, os ydyw'r landlord yn gofyn am fwy o rhent nag a gytunwyd yn wreiddiol, neu os nad ydyw'r llety yn barod ar y dyddiad y dylai'r denantiaeth ddechrau.
Os nad ydych yn gallu cael blaendal dal yn ôl, er bod rheswm da gennych dros beidio â chymryd y denantiaeth, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Blaendaliadau dal yn yr Alban
Yn yr Alban, nid yw landlord yn cael gofyn am unrhyw arian ar gyfer rhoi neu adnewyddu tenantiaeth – gweler isod o dan y pennawd Premiymau.
Blaendaliadau sicrwydd
Mae blaendal sicrwydd yn daliad a roddir i landlord (neu asiantaeth llety sy'n gweithredu ar ei ran) fel sicrwydd yn erbyn, er enghraifft, ôl-daliadau rhent, difrod i eiddo neu mynd â dodrefn.
Os gofynnir i chi dalu blaendal sicrwydd, dylech archwilio cyflwr yr eiddo a'i gynnwys yn ofalus yn gyntaf. Pan fydd y denantiaeth yn dod i ben, fe allech gael eich cyhuddo o fod yn gyfrifol am bethau sydd wedi diflannu neu sydd wedi eu difrodi ac fe allech golli'r blaendal, neu rhan ohono, ac felly mae'n bwysig archwilio'r eiddo cyn talu blaendal.
Pan ddaw tenantiaeth i ben, dylech gael y blaendal yn ôl. Mae'n rhesymol didynnu arian ar gyfer, er enghraifft, difrod i eiddo neu ddodrefn, eitemau sydd ar y rhestr gynnwys sydd wedi mynd ar goll, neu rhent sy'n ddyledus.
Yngh Nghymru a Lloegr, os fyddwch yn talu blaendal i landlord neu asiantaeth osod preifat ar neu ar ôl Ebrill 6 2007, bydd rhaid i landlord neu asiantaeth osod preifat ddodi unrhyw flaendal mewn cynllun diogelu blaendaliadau rhent tenantiaid. Mae hyn yn golygu y bydd tenantiaid yn gallu cael eu blaendal yn ôl, os oes ganddynt hawl iddo. Byddant hefyd yn gallu datrys unrhyw anghydfod gyda’u landlord ynghlyn â’r blaendal heb fynd i’r llys.
Am fwy o wybodaeth ynglyn âblaendaliadau tenantiaeth yng Nghymru ac yn Lloegr, gweler Blaendaliadau Tenantiaeth yn y Ffaith-daflenni Tai.
Yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, os oes ‘na ddadl ynglyn â’ch blaendal ar ddiwedd eich tenantiaeth,dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Premiymau
Yng Nghymru a Lloegr, fe all landlord godi premiwm neu 'arian allwedd/goriad' arnoch am ganiatáu tenantiaeth. Nid oes cyfyngiad ar y swm y gall y landlord ofyn amdano. Os ydych yn teimlo bod y swm yn afresymol, yr unig ddewis sydd gennych yw peidio â chymryd y llety.
Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae'n anghyfreithlon i landlord neu asiantaeth llety ofyn am dâl am rhoi neu adnewyddu tenantiaeth. Yn aml, gelwir y taliadau hyn yn 'bremiymau', 'arian allwedd/goriad' neu'n 'flaendaliadau dal'. Ond, mae modd eu hadennill ac mae'r landlord yn medru cael dirwy. Er hynny, yn ymarferol, mae'n aml yn anodd gorfodi'r hawl, am fod ystyr 'premiwm' yn aneglur. Efallai y byddwch yn gorfod penderfynu talu'r premiwm neu fynd i rywle arall.
Os ydych am herio premiwm y mae eich landlord yn ei godi arnoch, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Cynlluniau gwarant blaendal rhent
Mae rhai awdurdodau lleol, cymdeithasau tai ac elusennau yn rhoi benthyciadau i dalu blaendal mis o rhent ar fflat preifat. Fel arfer, fydd yr arian yn cael ei fenthyg ymlaen llaw ac yna’n cael ei ad-dalu gan y tenant, o bosib trwy Fudd-dâl Tai. Mae cynlluniau eraill yn gwarantu y bydd unrhyw rhent sy’n weddill yn cael ei dalu i’r landlord pe fydd angen, ond ni fydd unrhyw arian yn newid dwylo.Mae'r rhan fwyaf o gynlluniau yn gwarantu talu am unrhyw ddifrod i'r llety ar ddiwedd y denantiaeth.
Fe allwch gael gwybodaeth bellach am gynlluniau gwarant blaedal rhent o gwmpas y Du o wefan Crisis Smartmove yn www.crisis.org.uk/nrdf/index.php.
Nôl i’r Brig
Tystysgrifau Perfformiad Ynni yng Nghymru a Lloegr
Yng Nghymru a Lloegr, mae'n rhaid i'r landlord ddarparu Tystysgrif Perfformiad Ynni (TPY) ar gyfer llety hunangynhaliol sy'n cael ei osod o'r newydd. Nid yw llety hunangynhaliol yn cynnwys:
- ystafell yn nhŷ rhywun
- tŷ sy'n cael ei rhannu, gyda mwy nag un cytundeb tenantiaeth
- neuadd breswyl
- hostel
- cartref gofal preswyl.
Diben y TPY yw dangos i ddarpar-denantiaid beth yw perfformiad ynni'r eiddo maen nhw'n ystyried ei rentu. Rhaid i'r landlord ddarparu'r TPY yn rhad ac am ddim, ar y cyfle cyntaf posib. Mae hyn yn medru bod pan fyddan nhw'n cael gwybodaeth ysgrifenedig am yr eiddo am y tro cyntaf, neu pan fyddan nhw'n trefnu gweld y llety, ond dylid ei rhoi cyn i'r tenant arwyddo unrhyw gytundeb i'w rhentu.
Rhaid i aseswr achrededig gynhyrchu'r TPY ac mae'n ddilys am ddeng mlynedd. Gellir ei hailddefnyddio gymaint o weithiau ag sydd angen o fewn y cyfnod o ddeng mlynedd ond os cynhyrchir TPY newydd, rhaid ei defnyddio yn lle'r fersiwn hŷn.
Mae TPY yn rhoi manylion effeithlonrwydd ynni'r eiddo. Mae'n dod gydag adroddiad argymhellion sy'n dangos sut mae modd gwella'r effeithlonrwydd ynni. Fodd bynnag, nid yw'r landlord yn gorfod gwneud unrhyw rai o'r gwelliannau a argymhellir yn yr adroddiad.
Os na fydd landlord yn darparu TPY, mae safonau masnach yn medru cyhoeddi rhybudd gyda dirwy o £200 i bob annedd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch TPYau, mae yna ganllawiau defnyddiol ar wefan Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol. Rhowch glic ar: www.communities.gov.uk.
Nôl i’r Brig
Gwahaniaethu pan yn gosod eiddo
Pan fyddwch yn rhentu eiddo, mae’n bosib y byddwch yn wynebu gwahaniaethu. Rhaid i bobl sy’n gosod eiddo beidio â gwahaniaethu yn eich erbyn ar sail eich hil, rhyw, rhywioldeb, crefydd, cred neu anabledd.Mae’n debyg y byddant yn torri’r gyfraith os byddant, ar sail eich hil, rhyw, rhywioldeb, crefydd, cred neu neu anabledd yn:
- gwrthod rhentu eiddo i chi neu ei gynnig i chi ar dermau gwaeth nag y byddant yn eu cynnig i rywun arall.
- eich trin yn wahanol ar restr aros am dai
- eich trin yn wahanol i denantiaid eraill yn y ffordd y caniateir i chi ddefnyddio buddiau neu gyfleusterau megis yr olchfa neu’r ardd.
- eich troi allan neu eich hambygio.
Mae yna rai eithriadau i'r rheolau ynghylch gwahaniaethu mewn tai, er enghraifft os yw'ch landlord yn byw yn yr un eiddo â chi. Fodd bynnag, hyd yn oed os yw'ch landlord yn byw yn yr un eiddo â chi rhaid i’ch landlord beidio â gwahaniaethu yn eich erbyn ar sail eich hil.
Os ydych yn credu bod rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn pan fyddwch yn rhentu eiddo, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwahaniaethu ar sail hil, gweler Gweithredu ynghylch gwahaniaethu ar sail hil.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwahaniaethu ar sail rhyw, gweler Gweithredu ynghylch gwahaniaethu ar sail rhyw.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwahaniaethu ar sail anabledd, gweler Gwahaniaethu ar sail anabledd.
Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu oherwydd crefydd, gweler Gwahaniaethu oherwydd crefydd neu gred.
Dyletswydd landlord i wneud yn siwr bod newidiadau rhesymol yn cael eu gwneud ar gyfer pobl anabl
Os rydych yn anabl, gallwch ofyn i’ch landlord (neu ddarpar-landlord) wneud newidiadau penodol i’r eiddo ac i’w polisiau pan fod hyn yn angenrheidiol i’ch galluogi chi i fyw yn yr eiddo.Adnabyddir y newidiadau hyn fel newidiadau rhesymol. Mae landlordiaid sy’n gwrthod gwneud newidiadau rhesymol yn gwahaniaethu yn eich erbyn ac yn torri’r gyfraith, os nad ydynt yn gallu cyfiawnhau hyn,er enghraifft, ar sail Iechyd a Diogelwch.
Gall newidiadau rhesymol gynnwys:
- cynnig cymhorthion a gwasanaethau, megis copi o gytundeb y denantiaeth yn Braille, neu ramp dros-dro ar gyfer defnyddiwr cadair olwyn os oes gris fechan yn arwain at ei fflat.
- newid arferion, polisiau neu weithdrefnau. Esiampl o hyn fyddai newid y polisi parcio fel bod tenant sy’n cael hi’n anodd cerdded yn gallu parcio o flaen yr adeilad.
- newid rhan o’r cytundeb tenantiaeth. Esiampl o hyn fyddai newid term sy’n dweud na all tenantiaid wneud welliannau, fel y bod person anabl yn gallu gwneud gwelliant a fydd yn helpu ei anabledd. Esiampl arall fyddai newid cymal sy’n gwahardd anifeiliaid anwes, gan ganiatau i berson anabl gadw ci cymorth.
Mae’r hyn sy’n rhesymol yn dibynnu ar yr amgylchiadau unigol, ac yn cynnwys:
- math a hyd eich tenantiaeth
- faint o wahaniaeth fydd y newid yn gwneud i chi
- faint o arian sydd gan eich landlord.
Does dim rhaid i landlord wneud unrhywbeth sy’n newid neu’n tynnu i ffwrdd agweddau ffisegol o’r adeilad, er enghraifft, adeiladu ramp parhao concrit neu waith helaeth sy’n achosi difrod difrifol i’r adeilad.
Mae’n cyfrif fel gwahaniaethu os fydd eich landlord yn ceisio eich taflu allan neu’n ceisio codi’ch rhent o ganlyniad i gost unrhyw welliant rydych chi wedi gofyn amadano.
Fel arfer, doed dim rhaid i landlord wneud newidiadau rhesymol ar eich cyfer os fydd e’n byw yn yr un eiddo a chi.
Os rydych yn credu bod rhywun y gwahaniaethu yn eich erbyn pan fyddwch yn rhentu eiddo am eich bod yn anabl, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nôl i’r Brig
Cymorth pellach
Shelter
Mae gwefan Shelter yn rhoi gwybodaeth ar amrywiaeth o opsiynau tai, gan gynnwys help ar gyfer pobl ddigartref, rhentu preifat a pherchen ar eich cartref. Cyfeiriad y wefan yw: www.shelter.org.uk.
Canolfannau cyngor ar dai
Mae canolfannau cyngor ar dai yn gallu rhoi cyngor a gwybodaeth ar bob agwedd ar dai. Caiff rhai eu rhedeg gan awdurdodau lleol tra bod eraill yn cael eu rhedeg gan fudiadau gwirfoddol.
Mae manylion canolfannau cyngor ar dai annibynnol ar gael gan:-
Lloegr
Shelter 88 Old Street London EC1V 9HU Rhif Ffôn: 020 7505 2000 neu 0800 446441 Ffacs: 020 7505 2169 E-bost: info@shelter.org.uk Gwefan: www.shelter.org.uk
Cymru
Shelter Cymru 25 Heol Walter Abertawe SA1 5NN Rhif Ffôn: 01792 469400 Ffacs: 01792 460050 E-bost: mail@sheltercymru.org.uk Gwefan: www.sheltercymru.org.uk
Yr Alban
Shelter 4th Floor Scotia Bank House 6 South Charlotte Street Edinburgh EH2 4AW Ffôn: 0844 515 2000 Gwefan: http://scotland.shelter.org.uk
Mae Shelter hefyd yn gweithredu llinell ffôn 24 awr rhad ac am ddim sy'n rhoi cyngor ar dai i unrhyw un sydd â phroblem yn ymwneud â thai. Mae'r gwasanaeth ar gael fel minicom a ffôn testun, a gellir darparu gwasanaeth cyfieithu arbennig lle bydd angen. Rhif Ffôn: 0808 800 4444
Gogledd Iwerddon
Housing Rights Service Middleton Buildings Fourth Floor 10-12 High Street Belfast BT1 2BA Rhif Ffôn: 028 9024 5640 Ffacs: 028 9031 2200 E-bost: hrs@housingrights.org.uk Gwefan: www.housing-rights.org.uk
Communities Scotland
Thistle House 91 Haymarket Terrace Edinburgh EH12 5HE Rhif Ffôn: 0131 313 0044 Ffacs: 0131 313 2680 Gwefan: www.communitiesscotland.gov.uk
Gwybodaeth ynghylch hawliau tai i bobl sy'n dod o dramor
Mae yna wefan ddefnyddiol ynghylch tai yn Lloegr i bobl sy'n dod o dramor, er enghraifft, ffoaduriaid, pobl sydd â thrwyddedau gwaith, pobl yn y Deyrnas Unedig sydd â chaniatâd penagored i aros a dinasyddion yr AEE. Dyma gyfeiriad y wefan: http://www.housing-rights.info/.
Cymorth Prynu (Homebuy)
Lloegr
Housing Corporation 149 Tottenham Court Road London W1P 0BN Rhif Ffôn: 0845 230 7000 Ffacs: 020 7393 2111 Gwefan: www.housingcorp.gov.uk
Cymru
Cartrefi Cymunedol Cymru Tŷ Fulmar Clos Beignon Ocean Park Caerdydd CF24 5HF
Rhif Ffôn: 029 2055 7400 Ffacs: 029 2055 7415 E-bost: enquiries@chcymru.org.uk Gwefan: www.chcymru.org.uk/index.html
National Approved Letting Scheme (NALS)
Tavistock House 5 Rodney Road Cheltenham GL50 1HX Rhif Ffôn: 01242 581712 Ffacs: 01242 232518 E-bost: info@nalscheme.co.uk Gwefan: www.nalscheme.co.uk
Association of Residential Letting Agents
Maple House 53-55 Woodside Road Amersham HP6 6AA Rhif Ffôn: 0845 345 5752 Ffacs: 01494 431530 Gwefan: www.arla.co.uk E-bost: info@arla.co.uk
Mae'n rhaid i aelodau'r ARLA ddilyn canllawiau'r ARLA ar arfer asiantaeth gorau. Mae'r ARLA hefyd yn cynnig cynllunio bondio i ddiogelu eich arian os oes asiantaeth sy'n aelodaeth yn mynd allan o fusnes.
National Association of Estate Agents
National Association of Estate Agents 31b Arbon House 21 Jury Street Warwick CV34 4EH Rhif Ffôn: 01926 496800 Ffacs: 01926 400953 Gwefan: www.naea.co.uk E-bost: info@naea.co.uk
The Royal Institute of Chartered Surveyors
Cymru a Lloegr
Surveyor Court Westwood Business Park Westwood Way Coventry CV4 8JE Rhif Ffôn: 0870 333 1600 E-bost: contactrics@rics.org Gwefan: www.rics.org
Yr Alban
9 Manor Place Edinburgh EH3 7DN Rhif Ffôn: 0131 225 7078 E-bost: contactrics@rics.org
Gogledd Iwerddon
The Director/Chief Executive Royal Institution of Chartered Surveyors 9-11 Corporation Square BELFAST BT1 3AJ Rhif Ffôn: 028 9032 2877 Ffacs: 028 9023 3465 E-bost: ricsni@rics.org Gwefan: www.rics.org
Nôl i’r Brig
|