Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Y peth cyntaf sy'n rhaid i chi ei wneud yw penderfynu faint fedrwch chi fforddio. Bydd angen i chi weld faint o arian sydd ar gael gennych chi eich hun a faint fedrwch chi fenthyg. Mae yna nifer o sefydliadau ariannol sy'n cynnig benthyciadau i bobl sy'n prynu eiddo, er enghraifft, cymdeithasau adeiladu a banciau. Dylech ddarganfod a fedrwch chi fenthyg arian, ac os medrwch, faint o arian mae'n bosib ei fenthyg (am wybodaeth ynglŷn â morgeisi, gweler y pennawd Morgeisi).
Mae rhai cymdeithasau adeiladau yn rhoi tystysgrif i brynwyr sy'n nodi y bydd benthyciad ar gael cyhyd â bod yr eiddo yn eu bodloni. Mae'n bosib y gallwch gael y dystysgrif cyn i chi ddechrau chwilio am eiddo i’w brynu. Mae Cymdeithasau Adeiladau'n nodi y gall y dystysgrif eich helpu i gael y gwerthwr i dderbyn eich cynnig.
Cyn penderfynu'n derfynol faint i wario ar eiddo, dylech sicrhau y bydd gennych ddigon o arian i dalu'r costau ychwanegol. Bydd y rhain yn cynnwys:-
Am fwy o wybodaeth ynghylch Treth Tir Treth Stamp, ewch at wefan www.directgov.uk ac am fwy o wybodaeth ynghylch Treth Tir Treth Stamp yng Ngogledd Iwerddon, rhowch glic ar wefan NI Direct yn www.nidirect.gov.uk.
Ar rai cartrefi, ble mae’n rhaid i’r gwerthwr ddarparu Pecyn Gwybodaeth am Eiddo (PGE), fe fydd y gwerthwr yn talu am chwiliadau’r awdurdod lleol.
A fwy o wybodaeth ynghylch Pecynnau Gwybodaeth am Eiddo yng Nghymru a Lloegr, gweler Gwerthu cartref.
Dylech fod yn ymwybodol y byddwch o bosib eisoes wedi talu am werthusiad neu arolwg wedi i chi ddechrau’r broses o brynu, hyd yn oed os na fyddwch yn parhau gyda'r pwrcasiad. Os bydd y cyfreithiwr wedi gwneud unrhyw waith cyfreithiol, mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu am y gwaith a wnaethpwyd eisoes.
Dylech hefyd roi ystyriaeth lawn i gostau cynnal yr eiddo y dymunwch ei brynu. Gall y rhain gynnwys:-
Am fwy o wybodaeth am dystysgrifau effeithlonrwydd ynni, gweler Gwethu cartref.
Fe fydd yn rhaid i chi dalu blaendal adeg cyfnewid cytundebau, ychydig cyn gwblhau’r gwerthiant a chyn i’r arian gael ei dderbyn gan y cwmni sy’n benthyg y morgais. Yn aml, 10% o bris gwerthu’r eiddo yw’r blaendal ond mae’n medru amrywio.
Os ydych yn aelod o’r Lluoedd Arfog sy’n gwasanaethu, efallai y byddwch yn medru cael peth help gyda chost prynu cartref. Os ydych yn gymwys, efallai y bydd Cynllun Perchentyaeth y Lluoedd Arfog yn medru benthyg rhwng 15 a 50% o werth cartref yr ydych yn ei ddewis ar y farchnad eiddo agored.
Er mwyn i chi fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, rhaid eich bod:
Fe allwch ddarganfod mwy am Gynllun Perchentyaeth y Lluoedd Arfog trwy gysylltu â nhw ar:
Rhadffôn: 0800 028 1980
E-bost: enquiries@afhos.co.uk
Gwefan: www.afhos.co.uk.
Mae sawl ffordd y gallwch ddod o hyd i eiddo i’w brynu:-
Pan ddewch o hyd i eiddo, dylech drefnu i edrych o'i gwmpas er mwyn bod yn siwr ei fod yn ateb eich anghenion ac er mwyn cael syniad a fydd angen i chi wario unrhyw arian ychwanegol ar yr eiddo, er enghraifft at ddiben atgyweirio neu addurno. Mae'n gyffredin i brynwr posib ymweld ag eiddo ddwy neu dair gwaith cyn penderfynu gwneud cynnig.
Gofynnwch am y Pecyn Gwybodaeth ar Eiddo (PGE). Fe fydd hwn yn rhoi gwybodaeth bwysig i chi ynghylch yr eiddo yr ydych yn meddwl ei brynu, gan gynnwys tystysgrif perfformiad ynni, chwiliadau’r awdurdod lleol a thystiolaeth bod hawl gan y person sy’n gwerthu’r eiddo i’w werthu. O 1 May 2008, yn Lloegr, rhaid i PGEau eiddo a adeiladwyd o'r newydd gynnwys tystysgrif cynaliadwyedd hefyd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Pecynnau Gwybodaeth ar Eiddo, gweler Gwerthu cartref.
Os yw'r eiddo'n eiddo a adeiladwyd o'r newydd, holwch a oes ganddo sicrwyd Buildmark. Trefnwyd sicrwydd Buildmark gan Gyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC) sy'n fudiad annibynnol gyda dros 20,000 o adeiladwyr tai newydd ar ei gofrestr. Cyn cael eu derbyn ar gofrestr yr NHBC, mae'n rhaid bod adeiladwyr yn medru dangos eu bod yn gymwys yn dechenegol ac yn ariannol a rhaid iddynt hefyd gytuno i gadw Safonau'r NHBC.
Mae'r cynllun Buildmark yn berthnasol i adeiladau a adeiladwyd gan adeialdwyr ar gofrestr yr NHBC unwaith y bydd y NHBC wedi ardystio eu bod wedi eu cwblhau. Er enghraifft, fe fydd y Cynllun yn diogelu eich arian os yw'r adeiladwr yn methdalu ar ôl cyfnewid cytundebau ond cyn cwblhau. Mae hefyd yn cynnwys diffygion sy'n codi am nad ydyw'r adeiladwr wedi cadw at Safonau'r NHBC. Am fwy y o wybdoaeth, ewch at wefan yr NHBC yn: www.nhbc.co.uk.
Os yw'r eiddo'n rhydd-ddeiliadaeth, mae hyn yn golygu bod y tir yr adeiladwyd yr eiddo arno yn rhan o'r fargen ac nid oes rhaid talu rhent tir na chostau gwasanaeth.
Gall eiddo fod ar brydles, sy'n golygu nad yw'r darn o dir yr adeiladwyd yr eiddo arno yn rhan o'r fargen. Bydd yn rhaid i chi dalu rhent am y tir i berchen y tir sef y rhydd-ddeiliad.
Gall hyd y les amrywio, a dylech sicrhau bod cyfnod y les ar yr eiddo y dymunwch ei brynu yn dderbyniol i’r benthyciwr morgais. Dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agoasf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Yn ychwanegol at rent y tir ar eiddo prydles, mae'n bosib fod yn rhaid i chi dalu costau gwasanaeth blynyddol. Bydd hyn fel arfer yn digwydd gyda fflat. Bydd cost gwasanaeth yn cynnwys elfennau fel atgyweirio, cynnal a chadw''r adeiladau, glanhau mannau cyffredin a gofalu am y tir sy'n gysylltiedig.
Efallai y bydd gan grwp o ddeiliaid prydles sy'n byw yn yr un adeilad yr hawl i brynu rhyddfraint yr adeilad ar y cyd, neu gymryd awenau rheolaeth yr adeilad.
Gall eiddo fod ar brydles, sy'n golygu nad yw'r darn o dir yr adeiladwyd yr eiddo arno yn rhan o'r fargen. Bydd yn rhaid i chi dalu rhent am y tir i berchen y tir sef y rhydd-ddeiliad.
Yng Nghymru a Lloegr, mae gwybodaeth bellach ynglyn â phrydles ar gael gan:
The Leasehold Advisory Service (LEASE)
2nd floor
31 Worship Street
London
EC2A 2DX
Ffôn: 020 7374 5380
Ffacs: 020 7374 5373
E-bost: info@lease-advice.org.uk
Gwefan: www.lease-advice.org.uk
Mae yna daflen ddefnyddiol ar hawliau prydles yng Nghymru a Lloegr hefyd. Rhowch glic ar wefan Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yn:: www.communities.gov.uk.
I gael y daflen mewn ieithoedd gwahanol ac ar fformatau gwahanol,e-bostiwch alternativeformats@communities.gsi.gov.uk.
Os yw'r eiddo yn ddeiliadaeth gyffredin, mae hyn yn golygu y gallwch brynu rhyddfraint fflat a pherchen ar rhannau cyffredin ar y cyd gyda pherchnogion fflatiau eraill yn yr adeilad (a elwir yn gymdeithas deiliadaeth gyffredin).
Gyda deiliadaeth gyffredin, nid oes angen talu taliad rhent na thâl gwasanaeth. Ond, fe fydd angen talu cyfran o wariant y gymdeithas deiliadaeth gyffredin ar gynnal a chadw, yswiriant a gweinyddu ar gyfer rhannau cyffredin yr adeilad.
Mae gwybodaeth bellach ynglyn â deiliadaeth gyffredin ar gael gan LEASE – gweler y pennawd eiddo prydles (uchod) am fanylion.
Pan fyddwch yn penderfynu eich bod yn dymuno prynu eiddo arbennig, nid yw'n orfodol i chi dalu'r pris y bydd y perchnogion yn gofyn amdano. Gallwch gynnig llai os, er enghraifft, ydych o'r farn bod gwaith atgyweirio i'w wneud a fydd yn costio arian.
Os bydd yr eiddo'n cael ei werthu drwy asiantaeth dai, dylech ddweud wrth yr asiantaeth faint yr ydych yn barod i'w dalu am yr eiddo. Bydd yr asiant dai yna'n gosod y cynnig gerbron y perchnogion.
Os na fydd y perchnogion yn barod i dderbyn y cynnig cyntaf i chi ei wneud, gallwch wneud cynnig uwch. Nid oes cyfyngiad ar y nifer o weithiau y gallwch wneud cynnig ar eiddo. Os byddwch yn gwneud cynnig ysgrifenedig, byddwch bob amser yn ei wneud yn amodol ar gytundeb. Golyga hyn na fyddwch yn rhwym i’w brynu cyn i chi ddod i wybod mwy am yr ystâd neu'r eiddo. Os byddwch yn gwneud cynnig ar lafar, nid yw, ar unrhyw achlysur, yn eich rhwymo'n gyfreithiol.
A yw gwerthwr yn medru gwrthod fy nghynnig am fy mod i’n Fwslim?
Yn ôl y gyfraith, mae person sy’n gwerthu eiddo yn syth i chi, heb fynd trwy gwmni gwerthu tai, yn medru penderfynu nad ydynt am werthu i chi am eich bod chi’n Fwslim neu o unrhyw grefydd arall. Er bod hyn yn annheg ac yn gwahaniaethu yn eich erbyn, nid yw yn erbyn y gyfraith. Ond, os yw rhywun yn defnyddio cwmni gwerthu tai i werthu’r eiddo, nid ydynt yn medru gwrthod eich cynnig am eich bod yn Fwslim, na gwahaniaethu yn eich erbyn am unrhyw reswm arall.
Os ydych yn poeni ynghylch rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn am unrhyw reswm, byddai’n well i chi brynu trwy gwmni gwerthu tai, yn hytrach na phrynu’n syth gan y person sy’n gwerthu’r eiddo.
Pan fydd eich cynnig am yr eiddo wedi ei dderbyn, bydd gofyn i chi ystyried y canlynol:-
Cyn gynted ag y bydd y perchnogion wedi derbyn eich cynnig, mae'n bosib y gofynnir i'r prynwr dalu rhywfaint o flaendal i'r asiantaeth dai. Fel arfer mae hyn rhwng £500 a £1000. Ei bwrpas yw profi eich bod o ddifrif ynglŷn â phrynu. Gall y swm gael ei ad-dalu os nad ydych yn mynd ymlaen i brynu'r eiddo.
Os nad ydych eisoes wedi dechrau trefnu morgais, dylech ddechrau gwneud hyn nawr. Dylai gymryd rhyw dair wythnos o wneud cais am forgais i'r cynnig ffurfiol ar ran y benthyciwr. Er hyn, gall y raddfa amser yma amrywio.
Bydd pwy bynnag fydd yn cytuno i fenthyca'r arian yn dymuno gwerthuso'r eiddo. Pwrpas hyn yw sicrhau’r benthyciwr y gall gael y benthyciad yn ôl os, am unrhyw reswm, y byddwch yn methu â thalu'ch morgais a byddai'n rhaid gwerthu'r tŷ unwaith eto. Bydd gwerthuswr yn gwneud y gwerthusiad hwn ar ran y benthyciwr, ond bydd rhaid i chi dalu am y gwerthusiad hwn. Bydd y ffi yn daladwy ymlaen llaw, fel arfer pan fyddwch yn anfon ffurflen gais am forgais at y benthyciwr morgeisi.
Os bydd y swm o arian a gaiff ei fenthyg yn fwy na chanran arbennig o werthusiad yr eiddo (fel arfer 75-80%), efallai y bydd eich benthyciwr fel arfer yn ei gwneud hi'n amod ar y benthyciad eich bod yn cymryd yswiriant ychwanegol ar gyfer y swm ychwanegol. Byddwch yn talu premiwm unigol i’ch benthyciwr, a fydd fel arfer yn cael ei ychwanegu at eich benthyciad. Caiff hyn ei alw'n dâl benthyg uwch (neu warant indemniad morgais).
Rwy'n feichiog a newydd geisio am forgais. Mae wedi cael ei droi i lawr oherwydd maen nhw'n dweud na fyddaf yn mynd yn ôl i'r gwaith hyd nes ar ôl geni'r babi. Ydyn nhw'n cael gwneud hyn?
Nid oes rhaid i fenthyciwr morgais roi morgais i chi. Ond, ni ddylai wrthod benthyg morgais i chi, na'ch trin yn llai ffafriol na phobl eraill, oherwydd eich hil, rhyw, anabledd, crefydd neu rywioldeb.
Ni chaiff y benthyciwr morgais wrthod eich cais ar sail beichiogrwydd. Mae hyn yn wahaniaethu ar sail rhyw ac yn erbyn y gyfraith. Mynnwch gyngor gan gynghorydd profiadol ynghylch beth ddylech ei wneud.
Nid arolwg fydd y gwerthusiad a wneir ar gyfer pwy bynnag fydd yn benthyca’r arian. Dylech ystyried a ydych am drefnu arolwg annibynnol ai peidio, yn ychwanegol at yr arolwg. Byddai'r arolwg yn ystyried gwerth yr eiddo, ond byddai hefyd yn rhoi sylw i adeiladwaith yr eiddo a dylai ddod ar draws unrhyw broblemau posib.
Gallwch ddewis rhwng dwy lefel arolwg:-
Mae hi'n bosib i chi ddefnyddio'r un person ag sy'n gwneud y gwerthusiad ar gyfer yr arolwg ac mae'n bosib y bydd hynny'n rhatach. Er hyn, gallwch ddefnyddio arolygwr gwahanol os dymunwch wneud hynny.
Os bydd yr arolygwr yn nodi bod rhai problemau gyda'r eiddo, bydd yn rhaid ichi ystyried a ydych yn dymuno pwrcasu'r eiddo neu drafod y pris ymhellach gyda'r gwerthwr. Bydd yr arolygwr fel arfer yn eich cynghori ynglyn â sut y dylid delio ag unrhyw broblemau y death ar eu traws a faint yw costau tebygol hyn. Mae mwy o wybodaeth ddefnyddiol ynglyn ag arolygon eiddo ar www.rics.org/Property/ResidentialProperty.
Gelwir y broses gyfreithiol o drosglwyddo perchnogaeth yr eiddo o'r perchen presennol i’r prynwr yn 'drosglwyddiad'. Chi ddylai benderfynu pwy rydych chi'n dymuno i wneud y gwaith trosglwyddo. Fe allwch ei wneud ei hun – er, mae hyn yn gallu bod yn gymhleth – neu fe allwch:-
Bydd y mwyafrif o gwmnïau cyfreithwyr yn cynnig gwasanaeth trosglwyddo. Er y gall pob cyfreithiwr wneud gwaith trosglwyddo yn ôl y gyfraith, byddai'n ddoeth dewis cyfreithiwr sy'n brofiadol yn y maes.
Am wybodaeth ynglŷn â dewis cyfreithiwr, gweler Defnyddio cyfreithiwr.
Gallwch ddefnyddio trosglwyddwr trwyddedig i wneud y gwaith trosglwyddo. Nid cyfreithwyr yw'r trosglwyddwyr yma, ond fe'u trwyddedir gan y Cyngor Trosglwyddwyr Eiddo Trwyddedig.
Os ydych am gael gwybod a ydyw trosglwyddydd lleol yn drwyddededig, gallwch ysgrifennu at:-
The Council of Licensed Conveyancers
16 Glebe Road
Chelmsford
Essex CM1 1QG
Ffôn: 01245 349599
Ffacs: 01245 341300
E-bost: clc@clc-uk.org
Gwefan: www.conveyancer.org.uk
Cyn dewis pwy fydd yn gwneud y gwaith trosglwyddo, dylech dderbyn cyngor ar faint fydd costau tebygol y trosglwyddo. Mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â mwy nag un cyfreithiwr neu drosglwyddwr trwyddedig gan nad oes graddfa ffioedd benodol ar gyfer y gwaith o drosglwyddo. Dylech:-
Efallai y byddwch yn dewis prynu eich eiddo ar y cyd gyda rhywun arall, er enghraifft eich gwr, gwraig, partner sifil, partner, perthynas neu ffrind.
Os ydych yn prynu eich eiddo gyda rhywun arall, rydych yn medru dewis gwneud hyn mewn un o ddwy ffordd:
Mae hyn yn wir p'un ai yr ydych yn berchen ar rydd-dalliad neu les-ddaliad yr eiddo ai peidio.
Os ydych yn ystyried prynu eiddo gyda rhywun arall, dylech fynnu cyngor cyfreithiol ar y math orau o berchnogaeth i chi.
Os ydych yn berchen ar eich eiddo fel cyd-denant buddiol, mae hyn yn golygu ei fod yn eiddo i chi ac i'r perchennog arall/perchnogion eraill ar y cyd. Nid ydych yn medru cael morgais arall arno ne'i werthu heb i'r perchennog arall/perchnogion eraill gytuno. Ond, os oes dadlau, mae perchenog yn medru cyflwyno cais am orchymyn llys.
Fel cyd-denant buddiol, nid ydych yn berchen ar gyfranddaliadau penodol yn yr eiddo ac nid ydych yn medru rhoi cyfran o'r eiddo i ffwrdd mewn ewyllys. Os digwydd i chi farw, fe fydd eich budd yn yr eiddo'n mynd yn awtonmatig at y perchennog arall/perchnogion eraill.
Os ydych yn berchen ar eich eiddo fel tenantiaid cydradd, mae hyn yn golygu ei fod yn eiddo i chi a'r perchennog arall/perchnogion eraill ar y cyd, ond mae pob un ohonoch hefyd yn berchen ar gyfran benodol o'i werth. Mae i fyny i chi i benderfynu faint yn union fydd gwerth pob cyfran.
Rydych yn medru rhoi eich cyfran i ffwrdd, ei gwerthu neu gael morgais arni. Os digwydd i chi farw, nid yw'ch cyfran yn yr eiddo'n mynd yn awtomatig at y perchennog arall/perchnogion eraill. Rydych yn medru gadael eich cyfran at bwy bynnag y dymunwch.
Am fwy o wybodaetgh ynghylch berchen ar eich eiddo ar y cyd, gweler taflen y Gofrestrfa Tir Cydberchnogaeth Eiddo.
Er ei bod yn amhosib dweud yn union pa mor hir fydd y gwaith cyfreithiol ar gyfer prynu eiddo'n ei gymryd, gellir rhoi canllawiau. Gall cymaint â saith wythnos fynd heibio rhwng cael cynnig wedi ei dderbyn hyd nes cyfnewid cytundebau, a gall pedair wythnos fynd heibio rhwng cyfnewid cytundebau a chwblhau'r ddêl. Er hyn, os bydd problemau, gall yr amser a gymerir fod yn hirach.
Unwaith y byddwch wedi gorchymyn eich cyfreithiwr, neu yng Nghymru a Lloegr, trosglwyddydd trwyddedig, bydd cyfreithiwr y gwerthwr, neu drosglwyddydd trwyddedig y gwerthwr yn llunio cytundeb y byddwch chi a'r gwerthwr yn ei arwyddo yn y pendraw. Er hyn, cyn bod modd arwyddo'r cytundeb, mae'n rhaid i'ch cyfreithiwr neu drosglwyddydd trwyddedig sicrhau nad oes problem gyda pherchnogaeth yr eiddo, hawliau tramwy, mynediad neu ddatblygiadau yn y dyfodol a allai effeithio'r eiddo. Gelwir hyn yn 'ymholiadau a chwiliadau'. Bydd y cyfreithiwr neu drosglwyddwr trwyddedig yn gwneud yr chwiliadau a'r ymholiadau fel a ganlyn:-
Tra bydd y cyfreithiwr, neu, yng Nghymru a Lloegr, trosglwyddydd trwyddedig yn gwneud ymholiadau, dylech benderfynu sut y byddwch yn talu'r blaendal sy'n rhaid ei dalu pan fydd y cytundebau'n cael eu cyfnewid. Bydd y blaendal fel arfer yn 10% o bris y cartref ond mae’n medru amrywio.
Os byddwch yn gwerthu tŷ hefyd, bydd hi fel arfer yn bosib rhoi’r blaendal ar yr eiddo sy'n cael ei werthu tuag at y blaendal ar yr eiddo fyddwch chi’n ei brynu.
Os bydd codi'r blaendal yn broblem, efallai byddwch yn medru ystyried benthyg yr arian oddi wrth berthnasau neu efallai y byddwch yn medru ceisio cael benthyciad pontio gan y banc. Ond, bydd y gyfradd llog ar fenthyciad pontio yn uchel a dylech holi faint fyddai cytundeb o'r math hwn yn ei gostio. Trafodwch yr opsiynau ar gyfer benthyg arian gyda'ch cyfreithiwr neu drosglwyddydd trwyddedig.
Dylech sicrhau bod yr yswiriant adeiladau wedi ei drefnu o'r dyddiad y caiff y cytundebau eu cyfnewid, oherwydd unwaith y bydd y cytundebau wedi eu cyfnewid, chi sy'n gyfrifol am yr eiddo.
Mae'n bosib y gallwch gael gwybodaeth am yswiriant adeiladau gan eich benthyciwr morgais, cyfreithiwr neu, yng Nghymru a Lloegr, trosglwyddwr trwyddedig.
I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Bydd y cytundeb terfynol rhyngoch chi a'r gwerthwr yn cael ei baratoi pan:-
Bydd gennych chi a'r gwerthwr gopi yr un o’r cytundeb terfynol y bydd yn rhaid i chi ei arwyddo. Yna, bydd y cytundebau sydd wedi eu harwyddo'n cael eu cyfnewid. Adeg cyfnewid y cytundebau, rydych chi a'r gwerthwr wedi eich rhwymo'n gyfreithiol gan y cytundeb ac mae'n rhaid i werthiant y tŷ fynd yn ei flaen. Os ydych yn tynnu allan, rydych yn debygol o golli'ch blaendal.
Dylech wneud trefniadau ar gyfer y cyflenwad nwy, trydan a ffôn a sicrhau bod y gwerthwr yn gwneud trefniadau ynglyn â sicrhau bod y gwerthwr yn gwneud trefniadau ynglyn â darlleniad terfynol y mesuryddion.
Bydd cwblhau'r pwrcasiad yn digwydd rhyw bedair wythnos wedi cyfnewid cytundebau, er fe allai ddigwydd ynghynt. Ar y dydd sydd wedi ei gytuno ar gyfer cwblhau'r ddêl:-
Bydd y cyfreithiwr neu'r trosglwyddydd trwyddedig (yng Nghymru a Lloegr yn unig) yn anfon eu cyfrif atoch chi ar, neu yn fuan wedi r' dyddiad cwblhau.
Fel tenant sector cyhoeddus, mwy na thebyg bydd gennych chi’r hawl i brynu eiddo os ydych yn denant sicr i:-
Mae gennych yr hawl i brynu os ydych wedi bod yn denant sector cyhoeddus am o leiaf dwy flynedd. Ond, os dechreuodd eich tenantiaeth ar neu ar ôl Ionawr 18 2005 (yng Ngogledd Iwerddon, ar ôl Hydref 12 2004), rhaid eich bod chi wedi bod yn denant sector cyhoeddus ers o leiaf pum mlynedd.
rheidrwydd. Gellir cynnwys tenantiaeth gyda landlord sector cyhoeddus arall yn yr amser yma.
Fel tenant, ni fydd gennych yr hawl i brynu os ydych yn:-
Os nad ydych yn sicr a oes gennych yr hawl i brynu, dylech ofyn i'ch landlord pa gategori yr ydych yn syrthio iddo.
Os ydych yn denant sicr i awdurod lleol, dylech dderbyn gwybodaeth ysgrifenedig i'ch helpu i benderfynu am yr hawl i brynu. Mae'r wybodaeth yma hefyd ar gael mewn taflen gan y llywodraeth o'r enw Eich Hawl i Brynu'ch Cartref.
Mae’r daflen hon ar gael mewn sawl iaith wahanol, gan gynnwys Wrdu, Arabaidd, Gujerati, Bengali a Chymraeg.
Rydych hefyd yn medru cael copi ar dâp sain neu mewn Braille os ydych yn anabl. I archebu copi, e-bostiwch communities@twoten.com.
Fel tenant sydd â'r hawl i brynu, byddwch yn derbyn gostyngiad ar bris yr eiddo. Os ydych yn byw mewn ty, bydd y gostyngiad rhwng 32% a 60%, gan ddibynnu ar ba mor hir yr ydych wedi bod yn byw yno. Os ydych yn byw mewn fflat, bydd y gostyngiad rhwng 44% a 70%, gan ddibynnu ar ba mor hir yr ydych wedi byw yno. Ni fydd gostyngiad yn fwy na'r trothwy uchaf rhanbarthol, sy'n amrywio, yng Nghymru a Lloegr, o £16,000 i £38,000.
Yng Ngogledd Iwerddon, os ydych wedi bod yn denant sicr ers 5 mlynedd, fe fyddwch yn cael gostyngiad o 20%, ac yna gostyngiad pellach o 2% am bob blwyddyn ychwanegol yr ydych wedi bod yn denant sicr. Uchafswm y gostyngiad y medrwch ei gael yw £34,000.
Os ydych yn defnyddio’ch hawl i brynu ac yna’n gwerthu’r eiddo o fewn cyfnod penodol, efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu peth o’r gostyngiad, neu’r cyfan ohono – holwch eich awdurdod lleol am y rheolau.
I ddarganfod mwy am sut fedr hyn fod yn berthnasol i chi, gweler taflen y llywodraeth Your right to buy your home, neu mynnwch gyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Fel tenant sydd am ddefnyddio'ch hawl i brynu, dylech geisio cael morgais gan gymdeithas adeiladu neu fanc stryd fawr. Gallech hefyd gysylltu â brocer morgais i weld a allant drefnu morgais.
Fodd bynnag, os na allwch fforddio prynu'r eiddo, gallwch brynu o dan y cynllun rent a morgais. O dan y cynllun yma, rydych yn prynu cyfran o'r eiddo ac yn gwneud ad-daliadau morgais ar y swm yr ydych wedi'i fenthyg ar gyfer hyn. Y landlord fydd yn berchen ar y gyfran o'r eiddo sy'n weddill.
Yng Nghymru a Lloegr, os ydych am wneud cais am yr hawl i brynu, dylech ofyn i'ch landlord am Ffurflen Hawl i Brynu (Ffurflen RTB1). Yng Ngogledd Iwerddon, dylech ofyn am ffurflen gais gwerthiant tai (house sales application form). Mae'nr rhaid i'r landlord ei roi i chi.
Fel tenant sicr neu aswiriedig landlord cymdeithasol cofrestredig, er enghraifft cymdeithas dai neu gwmni tai lleol, efallai y bydd gennych yr hawl i brynu eich cartref o dan gynllun gwahanol a elwir yn 'hawl i feddiannu'. Mae'r hawl i feddiannu ond yn berthnasol i nifer cyfyngedig o adeiladau, er enghraifft, tai a adeiladwyd gydag arian cyhoeddus ar neu ar ôl Ebrill 1 1997.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â'r hawl i feddiannu, yn Lloegr, dylech gysylltu â'ch landlord neu'r Asiantaeth Cartrefi a Chymunedau naill ai dros y ffôn, sef 0300 1234 500 neu ar y wefan www.homesandcommunities.co.uk. Yng Nghymru, dylech gysylltu â Llywodraeth Cynulliad Cymru ar 0845 010 3300 (Saesneg) neu 0845 010 4400 (Cymraeg), neu rhowch glic ar www.new.wales.gov.uk.
Bwriad cynlluniau rhannu perchnogaeth yw helpu pobl sydd ddim yn medru fforddio prynu cartref mewn unrhyw ffordd arall. Rydych yn rhannu perchnogaeth eiddo gydag awdurdod lleol neu gymdeithas dai. Rydych yn talu rhent i’r awdurdod lleol neu'r gymdeithas dai am ran o'r eiddo, a morgais ar y gweddill. Fel arfer, fe fyddwch yn medru prynu cyfran bellach o'r eiddo yn nes ymlaen.
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cynllun, fel arfer mae'n rhaid eich bod yn prynu am y tro cyntaf, a rhoddir blaenoriaeth i denantiaid awdurdodau lleol neu gymdeithasau tai. Efallai y bydd pobl eraill sydd angen tai hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer y cynllun. Rhaid eich bod yn medru cael eich morgais eich hun i gwrdd â'r gost o brynu cyfran o'r eiddo.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae sefydliad o'r enw Northern Ireland Co-Ownership Housing Association yn rhedeg cynllun tebyg, o'r enw'r cynllun cydberchnogaeth (co-ownership scheme).
Mae gwybodaeth bellach ynghylch rhannu perchnogaeth ar gael gan yr Asiantaeth Cartrefi a Chymunedau, awdurdodau lleol neu gymdeithasau tai. I gysylltu â’r Asiantaeth Cartrefi a Chymunedau ffoniwch 0300 1234 500 neu rhowch glic ar ei gwefan: www.homesandcommunities.co.uk.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cynlluniau rhannu perchnogaeth, gan gynnwys HomeBuy yn Lloegr, Homeswithinreach yng Nghymru a Co-Ownership yng Ngogledd Iwerddon, gweler Dod o hyd i lety.
Os ydych yn dymuno prynu tŷ, efallai y byddwch yn medru bethyg arian i wneud hyn. Gelwir hyn yn forgais. Bydd y benthyciad am gyfnod sefydlog, a elwir yn dymor ac mae'n rhaid i chi dalu llog ar y benthyciad.Os nad ydych yn cadw at y taliadau a gytunwyd, gall y benthyciwr gymryd yr eiddo oddi arnoch.
Mae yna sawl math o forgais ar gael. Disgrifir y rhai mwyaf cyffredin isod:-
Dyma forgais ble mae'r cyfalaf a fenthyciwyd yn cael ei ad-dalu'n raddol dros gyfnod y benthyciad. Caiff y cyfalaf ei dalu mewn rhan-daliadau misol ynghyd â swm o log. Mae'r cyfalaf sy'n cael ei ad-dalu'n cynyddu'n raddol dros y blynyddoedd, tra bod y llog yn disgyn
Gyda'r math yma o forgais, rydych yn talu llog ar y benthyciad mewn rhandaliadau misol, i'r benthycwr. Yn lle ad-dalu'r benthyciad bob mis, rydych yn talu i mewn i gynllun cynilo neu fuddsoddiad hir dymor a ddylai dyfu'n ddigonol i glirio'r benthyciad ar ddiwedd cyfnod y morgais. Ond, os nad ydyw'n tyfu fel yr oeddech wedi gobeithio, fe fydd diffyg gennych ac fe fydd yn rhaid i chi feddwl am ffyrdd eraill o gael hyd i'r arian yma.
Mae yna dri prif fath o forgais llog-yn-unig, sef:
Gyda morgais Islamaidd, nid oes unrhyw rai o'r taliadau misol yn cynnwys llog. Yn lle, mae'r benthcwr yn codi tâl am fenthyg y cyfalaf i chi i brynu'ch eiddo ac fe ellir ei ad-ennill mewn sawl ffordd, er enghraifft trwy godi rhent arnoch.
Mae'n bosib cael morgais o nifer o wahanol ffynonellau. Dyma rai opsiynau sydd ar gael:-
I rai grwpiau o bobl, fel y rheiny sy’n prynu am y tro cyntaf, a gweithwyr allweddol, efallai y bydd hefyd yn bosib benthyg peth o’r arian sydd ei angen arnoch i brynu cartref o ffynonellau eraill a gefnogir gan y llywodraeth. Fel arfer, fe fydd angen i chi fenthyg gweddill yr arian gan fenthyciwr morgais arferol fel banc neu gymdeithas adeiladu.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cynlluniau a gefnogir gan y llywodraeth i’ch helpu i brynu eich cartref eich hun, yn Lloegr gweler HomeBuy yn Dod o hyd i lety ac, yng Nghymru, gweler HomeswithinReach yn Dod o hyd i lety.
Yn ogystal â chynigion morgais arferol, efallai y bydd y benthycwyr hefyd yn cynnig ambell ddêl sydd wedi eu cynllunio'n arbennig i bobl sydd ddim yn gymwys i gael morgais arferol.
Cyn cymryd morgais eilaidd neu gredyd croes, dylech gael peth cyngor ariannol annibynnol.
Os ydych yn ystyried cymryd morgais dylech sicrhau eich bod yn ymchwilio i'r holl opsiynau gwahanol sydd ar gael, a’ch bod ond yn benthyg yr hyn fedrwch chi fforddio ei ad-dalu. Os nad ydych yn ad-dalu’r taliadau y cytunwyd arnynt, mae’r benthyciwr yn medru adfeddiannu’r eiddo.
Os ydych yn ystyried cymryd morgais dylech sicrhau eich bod yn ymchwilio i'r holl opsiynau gwahanol sydd ar gael. Mae Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol (yr FSA) wedi cynhyrchu canllawiau defnyddiol i forgeisi, o’r enw 'No selling. No jargon. Just the facts about mortgages'. Fe allwch ddarllen y canllawiau ar wefan Moneymadeclear yr FSA yn: www.moneymadeclear.fsa.gov.uk.
Os oes gennych unrhyw amheuon, efallai y byddwch am siarad â ymgynghorydd ariannol annibynnol. I gael help i ddod o hyd i ymgynghorydd ariannol, rhowch glic ar wefan yr FSA yn: www.moneymadeclear.fsa.gov.uk.
Yn lle mynd yn syth at fenthyciwr fel cymdeithas adeiladu am forgais, gallech ddefnyddio brocer. Gallai brocer fod yn asiant gwerthu tai, neu frocer morgais neu yswiriant. Bydd y brocer yn gweithredu fel asiant i gyflwyno pobl at ffynhonnell ar gyfer benthyciad morgais i'w helpu i brynu cartref.
Efallai y byddwch am ddefnyddio brocer oherwydd mae’n arbed amser i chi. Ond, mae rhai benthycwyr yn cynnig cynnyrch yn uniongyrchol i gwsmeriaid ac efallai na fydd broceriaid yn medru cynnig y cynnyrch hyn. Felly, efallai y byddai’n well i chi chwilio i weld beth arall sydd ar gael.
Mae yna reolau ynglyn â faint mae brocer yn medru ei godi am eu gwasanaethau. Hefyd, ni ddylai broceriaid wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich hil, rhyw, anabledd, crefydd neu rywioldeb wrth gynnig eu gwasanaethau i chi.
Am fwy o wybodaeth ynghylch broceriaid morgais, rhowch glic ar wefan Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol (yr FSA) yn: www.moneymadeclear.fsa.gov.uk.
Os ydych am gwyno ynglyn â brocer neu fenthycwr morgais, dylech drafod y mater gyda nhw yn gyntaf, ac yna ystyried gwneud cwyn swyddogol. Os ydych yn credu bod y benthycwr morgais neu’r brocer wedi gwahaniaethu yn eich erbyn, rydych yn medru cwyno am hyn hefyd. Dylai fod gan bob brocer neu fenthycwr ei weithdrefn gwyno mewnol ei hun. Os ydych wedi dilyn y weithdrefn hon ac yn dal i fod yn anfodlon, fe allwch fynd â'ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsman Ariannol. Dyma'r manylion cyswllt:-
Financial Ombudsman Service
South Quay Plaza
183 Marsh Wall
London
E14 9SR
Ffon: 0845 080 1800~
Ffacs: 020 7964 1001
E-bost: complaint.info@financial-ombudsman.org.uk
Gwefan: www.financial-ombudsman.org.uk