Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Nid oes diffiniad union ar gyfer ymddygiad gwrth-gymdeithasol mewn tai. Yn gyffredinol, mae'n golygu gweithredu mewn ffordd sy'n achosi, neu sy'n debygol o achosi, aflonyddu, dychryn neu ofid. I fod yn ymddygiad gwrth-gymdeithasol, mae'n rhaid i'r ymddygiad fod yn barhaus.
Mae'n bosib bod ffîn denau iawn rhwng ymddygiad gwrth-gymdeithasol a dadleuon rhwng cymdogion dros anghyfleusterau cymharol fach, er bod y rhain, os ydynt yn barhaus, yn gallu tyfu'n ymddygiad gwrth-gymdeithasol. Gall ymddygiad gwrth-gymdeithasol gynnwys:-
Os ydych chi am gymryd camau ynglyn ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol, dylech geisio sefydlu pwy sy'n gyfrifol am yr ymddygiad yn gyntaf. Mae hefyd yn bwysig sefydlu a yw'r ymddygiad yn fwriadol neu'n anfwriadol.
Bydd yr hyn yr ydych chi'n ei wneud yn dibynnu ar y math o ymddygiad yr ydych yn cwyno yn ei gylch ac ar y canlyniad yr ydych am ei weld. Efallai, er enghraifft, y byddwch am sicrhau un o'r canlynol:-
Er mwyn delio gyda'r ymddygiad gwrth-gymdeithasol, gallwch wneud un neu fwy o'r canlynol:-
Os ydych am gymryd camau ynglyn ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych am gymryd camau ynglyn ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol gallwch:-
Os ydych yn ystyried cymryd camau yn y llys, bydd angen help cynghorydd profiadol arnoch, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych am i'r ymddygiad ddod i ben ac nid ydych yn dymuno cymryd camau cyfreithiol, gallech ystyried cynllun canolwr. Mae canolwr yn broses lle mae trydydd person niwtral yn helpu dau neu fwy o bobl mewn dadl i geisio ateb sy'n dderbyniol i bawb, mewn modd anffurfiol. Mae gwasanaethau canolwr cymunedol yn delio gyda dadleuon rhwng cymdogion ac yn y gymuned, gan gynnwys swn, plant, anifeiliaid anwes, parcio a lladrata. Fel arfer, mae canolwr yn rhad ac am ddim.
Mae canolwr yn addas os yw'r ddau berson yn barod i gymryd rhan. Gall canolwr fod ar ffurf trafodaeth uniongyrchol 'o gwmpas y bwrdd', lle mae pob person sy'n rhan o'r ddadl yn cyfarfod ar dir cyffredin. Os nad ydynt yn barod i gyfarfod, mae'r canolwr yn gweithredu fel cyfrwng sy'n mynd â negeseuon o'r naill i'r llall.
I chwilio am ganolwr yn eich ardal chi sy’n medru helpu, defnyddiwch y cyfleuster Directory of UK Mediation ar wefan ADRNow yn: www.adrnow.org.uk.
Mae Mediator Network yn rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol. Gall osod cymdogion mewn cysylltiad â chanolwr yn yr ardal sydd wedi'i hyfforddi. Rôl y canolwr yw annog pob person i siarad yn rhydd ac esbonio ei safbwynt, darganfod man canol a chytuno ar ffordd ymlaen.
Cyfeiriad Mediaton Network yw:-
83 University Street
Belfast
BT7 1HP
Ffôn: 028 9043 8614
Ffacs: 028 9031 4430
Ebost: info@mediationnorthernireland.org.uk
Gwefan: www.mediationnorthernireland.org.uk
Gallwch ofyn i'ch landlord gymryd camau ynglyn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Dylech holi a oes gan eich landlord bolisi a threfniadau ar gyfer delio gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rhaid bod gan landlordiaid sy'n awdurdodau lleol bolisïau ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn lle. Yng Nghymru a Lloegr, mae hyn hefyd yn berthnasol i landlordiaid sy'n gymdeithasau tai
Gall unrhyw landlord gymryd camau yn erbyn ymddygiad gwrth-gymdeithasol, er, mae'n fwy tebygol y bydd awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yn fodlon gwneud hyn. Cofiwch, fe all landlordiaid ddewis a ydynt am gymryd camau ai peidio, nid yw'n ddyletswydd arnynt.
Gallai landlord:-
Mae gan landlord sy'n awdurdod lleol rai opsiynau ychwanegol. Mae’n medru:
Mae landlord sy'n awdurdod lleol, a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, hefyd yn medru:
Efallai y bydd gan y person yr ydych yn cwyno amdano/i gytundeb tenantiaeth sy'n atal rhai mathau o ymddygiad, er enghraifft, aflonyddu, delio mewn cyffuriau neu swn. Os yw'n torri un o'r amodau hyn, yna mae'n bosib y gallai gael ei droi allan.
Os ydych am gwyno ynghylch tenant awdurdod lleol neu denant gymdeithas dai, fel arfer mi fyddwch yn medru gwneud hyn trwy swyddog tai. Os nad yw'n denant awdurdod lleol neu gymdeithas dai, efallai y bydd yn rhaid i chi gysylltu â'u landlord neu asiant y landlord.
Fel person sy'n dioddef ymddygiad gwrth-gymdeithasol gallwch ofyn i'r awdurdod lleol ddelio gydag ef, p'un ai eich bod yn denant awdurdod lleol ai peidio. Gall yr awdurdod lleol:-
Os ydych yn dioddef triniaeth annheg, gan gynnwys aflonyddu neu frawychiad, oherwydd eich hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb neu grefydd, mae'n gyfrifoldeb cyfreithiol ar yr awdurdod lleol i'ch amddiffyn chi.
Os ydych am ofyn i'r awdurdod lleol gymryd camau ynglyn ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Gall yr heddlu gymryd camau ynglyn ag unrhyw ymddygiad gwrth-gymdeithasol sy'n drosedd a gall erlyn rhywun sydd wedi:-
Yng Nghymru a Lloegr, fe all yr heddlu gael gorchymyn llys, hefyd, i gau
Yna, fe fydd mynd i mewn i'r eiddo yn drosedd ac fe fydd yr eiddo'n cael ei selio.
Dylech gofio bod dewis gan yr heddlu a ydynt am erlyn rhywun ai peidio.
Fe all yr heddlu gyhoeddi dirwyon (nodyn cosb) yn y fan a'r lle ar gyfer rhai mathau o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae nhw hefyd yn medru gwneud cais i'r llys am orchymyn ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae'n rhaid i'r heddlu roi ystyriaeth ddifrifol iawn i ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gwahaniaethu yn eich erbyn. Os ydych yn credu nad ydynt wedi rhoi ystyriaeth ddigon difrifol i'ch cwyn, neu os ydych yn credu bod yr heddlu'n gwahaniaethu yn eich erbyn, efallai y byddwch am gwyno am yr heddlu.
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i gwyno am yr heddlu, gweler Cwynion yn Pwerau'r Heddlu.
Mae swyddogion cynnal y gymuned yn medru cymryd camau ynglyn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn amgylchiadau penodol. Er enghraifft, maen nhw'n medru gorchymyn pobl i beidio â mynd ar gefn beic ar y palmant, gwasgaru grwpiau o bobl ifainc sy'n dod at ei gilydd mewn man cyhoeddus a mynd adref â phlant ifanc os ydynt allan ar eu pen eu hun yn hwyr yn y nos.
Yn Lloegr, mae mwy o wybodaeth ar gael ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn tai, mewn taflen gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (ACLlL) o'r enw Housing and antisocial behaviour: A guide for residents. I ddarllen y daflen, dilynwch y ddolen gyswllt isod:
Housing and antisocial behaviour: A guide for residents
Yng Nghymru, mae mwy o wybodaeth ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn tai ar gael trwy gysylltu ag Is-adran Diogelwch Cymunedol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar: 0845 010 3300.