Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Yn yr wybodaeth yma, mae plentyn yn golygu rhywun sy'n iau na 14 mlwydd oed ac mae person ifanc yn golygu rhywun 14 oed a throsodd ond sy'n iau na 18 mlwydd oed. Mae rhiant yn golygu rhywun sydd â chyfrifoldeb rhiant.
Os ydych yn iau na 18 mlwydd oed, fe allwch gael eich mabwysiadu os nad ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil gofrestredig. Fel plentyn, ychydig iawn o ddewis fydd gyda chi o ran pwy fydd yn eich mabwysiadu, ond dylai’r asiantaeth fabwysiadu neu’r Gwasanaethau cymdeithasol sy’n gysylltiedig â’r mabwysiadu eich hysbysu.
Os ydych yn iau na 18 mlwydd oed, nid oes gennych unrhyw hawl cyfreithiol i wybod hunaniaeth eich rhieni geni. Unwaith y byddwch wedi cyrraedd 18 oed, mae gennych yr hawl i wneud cais i weld eich cofnod geni ac i ddefnyddio’r Gofrestr Cysylltu ar gyfer achosion o Fabwysiadu. Mae’r gofrestr yn helpu pobl sydd wedi cael eu mabwysiadu i ddod o hyd i fanylion cyswllt perthnasau geni sydd wedi'u cofrestru hefyd.
Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth ynghylch mabwysiadu, gweler Mabwysiadu yn y taflenni ffeithiau ar y Teulu.
I wneud cais ar y Gofrestr Cysylltu ar gyfer achosion o Fabwysiadu, ysgrifennwch at:-
Adoptions Section
Room C201
The General Register Office
Trafalgar Road
Southport
PR8 2HH
Rhif Ffôn: 0151 471 4830 (9yb hyd 5yp Dydd Llun i Ddydd Gwener)
Ffacs: 0151 471 4755
E-bost: adoptions@ons.gsi.gov.uk
Gwefan: www.gro.gov.uk
The General Register Office
Oxford House
49/55 Chichester Street
Belfast
BT1 4HL
Rhif ffôn: 028 9025 2000
Gwefan: www.groni.gov.uk
Ni chaniateir i chi newid eich enw nes eich bod yn 16 mlwydd oed. Rhwng 16 a 18 oed gallwch gwblhau dogfen newid enw gyda chaniatâd eich rhieni.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â newid eich enw, yng Nghymru a Lloegr gweler Newid enw neu yng Ngogledd Iwerddon, gweler Newid enw.
Gallwch gael eich cymryd i mewn i ofal os ydych yn iau na 18 mlwydd oed a bod yr Awdurdod lleol wedi cael gorchymyn llys. Mae gennych yr hawl i wybod pam eich bod mewn gofal, o dan pa gyfraith, ac am ba hyd yr ydych yn debygol o aros yno.
Gallwch gael eich lletya gan yr Awdurdod lleol heb orchymyn llys os yw’r rhiant yn dymuno neu yn rhoi caniatâd. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r Awdurdod lleol ystyried eich dymuniad chi. Mae’n bosib y dewch o hyd i wybodaeth pellach oddi wrth Ymddiriedolaeth Who Cares (gweler y pennawd Cymorth pellach). Yng Nghymru, mae Comisiynydd Plant Cymru yn medru cefnogi pobl ifanc mewn gofal hefyd – gweler y pennawd Cymorth pellach.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â gofal, a beth ddylech ei wneud os yw pethau'n mynd o le tra'ch bod mewn gofal, gweler Plant a gofal yr awdurdod lleol.
Os ydych yn iau na 16 mlwydd oed a’ch bod yn priodi, ni fydd yn gyfreithiol oni bai y cynhaliwyd y briodas mewn gwlad sydd â therfyn oedran yn is na 16 mlwydd oed.
Os ydych yn 16 neu’n 17 oed a’ch bod yn dymuno priodi mewn swyddfa gofrestru bydd arnoch angen cymeradwyaeth ysgrifenedig rhiant. Os ydynt yn gwrthod rhoi caniatâd, yng Nghymru a Lloegr gallwch wneud cais at Lys yr Ynadon, Llys sirol neu’r Uchel lys am ganiatâd i briodi. Yng Ngogledd Iwerddon dylech wneud cais at y llys sirol.
Yng Nghymru a Lloegr, os ydych yn 16 neu’n 17 oed a’ch bod yn dymuno priodi mewn eglwys mae angen caniatâd rhieni arnoch. Mae angen i hyn fod yn ysgrifenedig hefyd.
Gellir priodi unrhyw un sy’n 18 oed a throsodd heb ganiatâd rhieni.
Er nad yw dau berson o'r un rhyw yn medru priodi, maen nhw'n medru cofrestru partneriaeth sifil – gweler y pennawd Partneriaethau sifil.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â phriodas, gweler Priodi.
Mae partneriaeth sifil yn berthynas gyfreithiol y mae dau berson o'r un rhyw yn medru ei chofrestru. Os ydych mewn perthynas hoyw neu lesbiaidd, fe fydd cofrestru partneriaeth sifil yn rhoi cydnabyddiaeth gyfreithiol i'ch perthynas. Fe fydd hyn yn rhoi mwy o hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau i chi.
Ni chewch gofrestru partneriaeth sifil os yw un ohonoch yn iau nag 16. Os ydych yn berson ifanc 16 neu 17 oed sydd am gofrestru partneriaeth sifil, mae'n rhaid i chi gael caniatâd eich rhieni.
Fe all unrhyw un sy'n 18 neu'n hyn gofrstru partneriaeth sifil heb ganiatâd rhiant.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cofrestru partneriaeth sifil, yng Nghymru a Lloegr, gweler Cofrestru partneriaeth sifil.
Os ydych yn iau nag 16 mlwydd oed a bod gennych fabi, mae gennych yr un hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau tuag at y plentyn ag unrhyw fam arall.
Os ydych yn byw gyda’ch rhieni ac maen nhw’n hawlio Credyd Treth Plant, gellir eich cynnwys chi a’r plentyn yn y cais. Mae'n bosib hefyd y bydd eich rhieni'n medru hawlio Grant Mamolaeth y Gronfa Gymdeithasol. Os ydynt yn hawlio Budd-dâl Tai, gallant eich cynnwys chi a’r plentyn yn eu cais.
Am wybodaeth ynghylch Budd-dâl Tai, gweler Help gyda'ch rhent – Budd-dâl Tai.
Fel mam ifanc, gallwch hawlio Budd-dâl Plant yn syth wedi geni’r plentyn.
Mae ceisiadau am fudd-daliadau o dan yr amgylchiadau yma yn medru bod yn gymhleth a dylech chi neu riant geisio cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch CAB lleol, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych o leiaf ddeng wythnos i mewn i feichiogrwydd, mae eich rhieni'n medru cael talebau i gael llaeth, ffrwythau a llysiau rhad ac am ddim ar eich cyfer. Nid oes gwahaniaeth faint yw eu hincwm.
Unwaith y byddwch chi wedi cael y babi, mae eich rhieni'n medru parhau i gael y talebau i chi, ond dim ond os ydynt yn cael:
Am fwy o wybodaeth ynglyn â budd-daliadau mamolaeth a phlant, gweler Budd-daliadau ar gyfer teuluoedd a phlant.
Mae gan yr Awdurdodau Addysg lleol ddyletswydd i sicrhau fod pob plentyn o dan 16 oed yn derbyn addysg. Mae ganddynt ddyletswydd i wneud hyn o hyd, hyd yn oed os ydych yn dod yn fam.
Am fwy o wybodaeth, gweler Problemau yn yr ysgol.
Fel mam ifanc ni fyddwch fe arfer yn medru cael llety a rentir yn breifat neu lety’r cyngor oherwydd eich bod yn rhy ifanc i gael tenantiaeth. Fodd bynnag, gallwch gysylltu ag Adran Gwasanaethau Cymdeithasol eich Awdurdod lleol a gofyn iddyn nhw i ddod o hyd i lety i chi, ar yr amod fod eich rhieni yn cytuno.
Am fwy o wybodaeth, gweler Gwasanaethau'r awdurdod lleol ar gyfer plant mewn angen.
Os oes gyda chi broblemau llety dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch CAB lleol, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Fel mam ifanc, gallwch wneud cais at yr Asiantaeth Cynnal Plant er mwyn cynnal asesiad cynhaliaeth mewn perthynas â’ch plentyn. Mae hyn yn berthnasol os nad ydych yn byw gyda thad eich plentyn.
Am fwy o wybodaeth, gweler Cefnogaeth plant ar gyfer rhieni sy’n byw ar wahân, neu cliciwch ar wefan yr ACP www.csa.gov.uk.
Fel tad sy'n iau nag 16 mlwydd oed, mae’n bosib eich bod yn dymuno cael perthynas ffurfiol gyda’ch plentyn drwy wneud cais am gytundeb cyfrifoldeb rhiant, gorchymyn ymgartrefu neu orchymyn cysylltiad.
Fel tad ifanc mae angen i chi geisio cyngor ynglyn â gwneud cais am gytundeb cyfrifoldeb rhiant, a dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych yn iau nag 16 mlwydd oed a’ch bod yn dad i blentyn, gall yr Asiantaeth Cynnal Plant ddisgwyl i chi dalu cynhaliaeth ar gyfer y plentyn. Unwaith fydd yr asiantaeth yn fodlon mai chi yw’r tad, disgwylir i chi wneud taliadau cynhaliaeth pan fyddwch chi’n dechrau ennill neu dderbyn budd-dâl.
Am fwy o wybodaeth, gweler Cynhaliaeth plant ar gyfer plant sy’n byw ar wahân, neu ewch at wefan yr ACP www.csa.gov.uk.
Os ydych yn iau nag 18 mlwydd oed, nid oes modd i chi wneud ewyllys dilys oni bai eich bod yn y lluoedd arfog neu yn forwr. Nid oes neb sy'n iau nag 18 mlwydd oed yn medru gweithredu fel ymddiriedolwr, gweithredwr na gweinyddydd ewyllys.
11 Million
1 London Bridge
London
SE1 9BG
Rhif Ffôn: 0844 800 9113
E-bost: info.request@11million.org.uk
Gwefan: www.11million.org.uk
Mae Comisiynydd Plant Lloegr yn gofalu am fuddiannau plant a phobl ifanc ac yn gweithredu fel y llais annibynnol ar eu cyfer.
Ty Oystermouth
Heol Phoenix
Llansamlet
Abertawe
SA7 9FS
Rhif ffôn: 01792 765600
Ffacs:01792 765601
E-bost: post@childcomwales.org.uk
Gwefan: www.childcom.org.uk
Plas Penrhos
Oak Drive
Bae Colwyn
Conwy
LL29 7YW
Rhif ffôn: 01492 523333
Ffacs: 01492 523336
Mae Comisiynydd Plant Cymru yn medru rhoi cyngor i blant a phobl ifainc sy’n byw yng Nghymru, ynglyn â’u hawliau a lles. Hefyd, mae’r Comisiynydd yn medru eich helpu i wneud cwyn am eich triniaeth os ydych yn defnyddio gweithdrefn gwyno arferol sefydliad fel ysgol, cartref gofal neu adran gwasanaethau cymdeithasol. Os bydd eich cwyn yn aflwyddiannus, efallai y bydd y Comisiynydd yn medru cynnal ymchwiliad ar wahân.
Yn ogystal, mae gan y Comisiynydd Plant bwerau i weithredu dros ‘ddinoethi’. Yr hyn a olygir gan ‘ddinoethi’ yw pan fo gweithiwr o gymdeithas ar gyfer plant a phobl ifainc yn codi pryderon fod y gymdeithas yn gweithredu yn erbyn diddordebau’r plant sydd yn ei gofal.
Mae plant yn medru defnyddio rhifau ffôn a neges testun rhad ac am ddim arbennig i gysylltu â'r Comisiynydd ac ni fydd y rhifau hyn yn dangos ar unrhyw fil ffôn. Mae yna gyfeiriad e-bost arbennig hefyd y mae plant yn medru'i ddefnyddio. Mae'r gwasanaeth yn ddwyieithog ac os ydych chi am siarad â rhywun mewn iaith arall heblaw am y Gymraeg neu'r Saesneg, fe fyddan nhw'n ceisio trefnu hyn.
Mae yna nifer o switsfyrddau rhanbarthol ledled y wlad sy’n darparu gwybodaeth ar gyfer dynion hoyw a lesbiaid ac sy’n medru eich rhoi chi mewn cysylltiad â chymdeithasau sy’n rhoi cwnsela a chymorth. I ddod o hyd i fanylion am eich switsfwrdd lleol, ewch at www.queery.org.uk, neu ffoniwch llinell gymorth 24 awr Switsfwrdd Lesbiaid a Hoywon Llundain (gweler isod).
Mae Switsfwrdd Lesbiaid a Hoywon Llundain yn darparu gwasanaeth gwybodaeth, cymorth a chyfeirio ar gyfer lesbiaid, dynion hoyw a phobl deurywiol o bob cefndir ledled y Deyrnas Gyfunol.
London Lesbian and Gay Switchboard
PO Box 7324
London
N1 9QS
Ffôn: 020 7837 7324 (llinell gymorth 24 awr)
Gwefan: www.llgs.org.uk
Kemp House
152-160 City Road
London
EC1V 2NP
Rhif ffôn: 020 7251 3117
Ebost: mailbox@thewhocarestrust.org.uk
Gwefan: www.thewhocarestrust.org.uk
Mae’r ymddiriedolaeth yn darparu gwybodaeth a chyngor ar gyfer pobl ifanc mewn gofal a’r rhai hynny sydd wedi gadael gofal yn ddiweddar.
Mae mwy o wybodaeth i bobl ifanc ar wefan TheSite.org, sydd wedi'i hanelu'n benodol at oedolion ifanc. Mae'r testunau'n cynnwys rhyw a pherthnasoedd, teulu a ffrindiau. Os ydych rhwng 16 a 25, rydych yn medru e-bostio cwestiwn at askTheSite, a chael ateb personol yn ôl. Rhowch glic ar: www.thesite.org.
Mae mwy o wybodaeth ynghylch hawliau plant a phobl ifainc ar gael mewn adrannau eraill o Adviceguide.
Am wybodaeth ynghylch hawliau cyffredinol plant a phobl ifainc, gweler Hawliau pobl ifanc.
Am wybodaeth ynghylch tai, gweler Pobl ifanc a thai.
Am wybodaeth ynghylch cyflogaeth, gweler Pobl ifanc a chyflogaeth.
Am wybodaeth ynghylch arian a hawliau defnyddwyr, gweler Pobl ifanc – arian a hawliau defnyddwyr
Am wybodaeth ynghylch budd-daliadau, gweler Pobl ifanc a budd-daliadau.
Am wybodaeth ynghylch materion iechyd a phersonol, gweler Pobl ifanc – iechyd a phersonol.
Am wybodaeth ynghylch y gyfraith a phobl ifainc, gweler Pobl ifanc a'r gyfraith.
Am wybodaeth ynghylch cludiant, gweler Pobl ifanc – teithio a thrafnidiaeth.