Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Mae'n bwysig i chi wneud ewyllys p'un ai eich bod chi'n teimlo bod gennych lawer o eiddo neu arian ai peidio. Mae'n bwysig gwneud ewyllys oherwydd:-
Os oes gennych unrhyw amheuon ynglyn â gwneud ewyllys,dylech gysylltu â chyfreithiwr neu Ganolfan Cynghori a fydd yn gallu rhoi rhestr o gyfreithwyr i chi. I chwiIio am fanylion ynglyn â'r Ganolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Am fwy o wybodaeth ynghylch yr hyn sy'n digwydd os oes rhywun yn marw heb wneud ewyllys yng Nghymru a Lloegr, gweler Pwy sy'n medru etifeddu os nad oes ewyllys – y rheolau pan nad oes ewyllys.
Does dim rhaid i’ch hewyllys gael ei llunio a’i thystio gan gyfreithiwr. Os dymunwch wneud ewyllys eich hun, gallwch wneud hynny. Er hyn, yr unig bryd y dylech ystyried gwneud hyn yw pan fo’r ewyllys yn un syml.
Yn gyffredinol, fe'ch cynghorir i ddefnyddio cyfreithiwr neu gael cyfreithiwr i wirio ewyllys a luniwyd gennych, er mwyn sicrhau y bydd yr ewyllys yn cael yr effaith a oedd wedi'i fwriadu gennych. Y rheswm dros hyn yw ei bod yn hawdd gwneud camgymeriadau ac os oes problemau gyda'r ewyllys, gallai hyn olygu cryn broblemau yn dilyn eich marwolaeth. Gall datrys camddealltwriaethau ac anghytundebau ar ôl eich marwolaeth fod yn gostus iawn, a bydd hyn yn lleihau cyfanswm yr arian sydd yn yr ystad.
Dylech gofio y bydd cyfreithiwr yn codi tâl am ei wasanaethau, wrth lunio ewyllys neu ei wirio. Dylai roi’r wybodaeth orau posib i chi ynglŷn â chost y gwasanaethau. Dylai roi’r wybodaeth hon i chi ar ddechrau ei waith gyda chi.
Dyma rai camgymeriadau cyffredin sy'n cael eu gwneud wrth lunio ewyllys:-
Mae yna rai amgylchiadau lle caiff pobl eu cynghori yn arbennig i ddefnyddio cyfreithiwr wrth lunio ewyllys Amgylchiadau lle:-
Os ydych yn aelod o undeb llafur, mae’n bosib y bydd yr undeb yn cynnig gwasanaeth llunio ewyllys yn rhad ac am ddim. Bydd yr undebau yn aml yn defnyddio eu cyfreithwyr eu hunain i ymgymryd â’r gwaith yma.
Mae yna rai llyfrau sy’n darparu canllawiau ar sut i lunio ewyllys. Gall y rhain eich helpu i benderfynu a ddylech chi lunio eich hewyllys eich hun ac maen nhw hefyd yn help i chi benderfynu os bydd unrhyw un o’r ffurflenni ewyllys argraffiedig sydd ar gael oddi wrth elusennau ac eraill o ddefnydd ai peidio. Gellir cael help ar y rhyngrwyd hefyd.
Mae gwasanaethau llunio ewyllys ar gael. Er hyn, nid yw’r cwmnïau llunio ewyllys yn cael eu rheoli gan y Gymdeithas Gyfreithiol, felly ni fyddech wedi'ch diogelu pe byddai rhywbeth yn mynd o'i le.
Bydd cost llunio ewyllys yn amrywio o gyfreithiwr i gyfreithiwr, gan ddibynnu hefyd ar pa mor gymleth fydd yr ewyllys. Cyn penderfynu ar gyfreithiwr i’w ddefnyddio, mae bob amser yn ddoeth cysylltu â rhai cyfreithwyr lleol i gael syniad o'r gost. Mae’n bosib bod gennych yr hawl i dderbyn cyngor cyfreithiol drwy atodiad i bolisi yswiriant fydd, o bosib, yn talu costau cyfreithiwr a fydd yn paratoi neu’n gwirio’r ewyllys. Os ydych yn aelod o undeb llafur, mae’n bosib y bydd yr undeb yn cynnig gwasanaeth ewyllys rhad ac am ddim i’r aelodau.
Byddai hefyd o fydd i chi ddechrau meddwl beth fyddwch chi am ei ddweud yn yr ewyllys cyn gweld cyfreithiwr. Dylai hyn fod yn help i leihau'r costau.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae’n bosib y gallwch cael cymorth gyda chostau cyfreithiol llunio ewyllys o dan gynllun y ffurflen werdd. Yng Nghymru a Lloegr, bydd y cynllun cymorth cyfreithiol ond yn talu am lunio ewyllys os ydych yn gymwys ar sail sefyllfa ariannol ac yn:-
Am fwy o wybodaeth ynglyn â’r cynllun cymorth cyfreithiol, yng Nghymru a Lloegr, gweler Help gyda chostau cyfreithiol. Am fwy o wybodaeth am y cynllun ffurflen werdd yng Ngogledd Iwerddon, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.
I arbed amser a lleihau costau wrth fynd at gyfreithiwr, dylech roi peth ystyriaeth i’r prif bwyntiau y dymunwch eu cynnwys yn eich hewyllys. Dylech ystyried pethau fel:-
Y gweithredwyr yw’r bobl fydd yn gyfrifol am weithredu eich dymuniadau ac am ddatrys unrhyw faterion yn ymwneud â’r ystad. Bydd yn ofynnol eu bod yn casglu holl asedau’r ystad ynghyd, delio â’r holl waith papur a thalu’r holl ddyledion, y trethi, costau'r angladd a chostau gweinyddol yr arian yn yr ystad. Bydd yn ofynnol iddynt ddosbarthu’r rhoddion a’r eiddo i'r etifeddwyr.
Er nad yw’n angenrheidiol apwyntio mwy nag un gweithredwr ar gyfer ewyllys, cynghorir pobl i wneud hynny, rhag ofn, er enghraifft, y bydd un ohonynt yn marw. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn apwyntio dau, ond gall hyd at bedwar gweithredwr gymryd y cyfrifoldeb am weinyddu ewyllys ar ôl marwolaeth. Yn gyffredinol, y bobl canlynol sy'n cael eu dewis i fod yn weithredwyr ewyllys:-
Mae'n bwysig dewis gweithredwyr sydd â chryn ofal gan y bydd eu tasg yn golygu cryn dipyn o waith a chyfrifoldeb. Dylech siarad ag unrhyw un yr ystyriwch ei apwyntio fel gweithredwr bob amser. Os byddwch yn apwyntio rhywun i fod yn weithredwr yn groes i’w d(d)ymuniand, mae ganddynt bob hawl i wrthod gweithredu.
Os bydd gweithredwr yn marw, gall unrhyw un o’r gweithredwyr sydd ar ôl ddelio â’r ystad. Os nad oes gweithredwyr apwyntiedig ar ôl, dylid ofyn am gyngor cyfreithiol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch yr hyn y mae'n rhaid i weithredwyr ei wneud yng Nghymru a Lloegr, gweler Delio gyda materion ariannol rhywun sydd wedi marw.
Er mwyn sicrhau bod gwerth gyfreithiol i ewyllys, rhaid i’r ewyllys:-
Er y bydd hi’n parhau i fod â gwerth gyfreithiol, hyd yn oed heb ddyddiad arni, cynghorir pobl i sicrhau bod yr ewyllys yn cynnwys y dyddiad yr arwyddwyd hi.
Bydd yr ewyllys wedi ei chwblhau cyn gynted ag y bydd hi wedi ei harwyddo a’i thystio.
Os yw rhywun yn gwneud ewyllys ond nid yw'n ddilys yn gyfreithiol, yna pan fyddant yn marw, fe fydd eu hystad yn cael ei rannu o dan reolau penodol, ac nid yn unol â'r dymuniadau yn yr ewyllys.
Am fwy o wybodaeth ynghylch yr hyn sy'n digwydd os oes rhywun yn marw heb adael ewyllys ddilys yng Nghymru a Lloegr, gweler Pwy sy'n medru etifeddu os nad oes ewyllys – y rheolau pan nad oes ewyllys.
Unwaith y gwneir ewyllys, dylech ei chadw mewn lle diogel yn gwbl ar wahân i unrhyw ddogfennau eraill. Mae yna nifer o lefydd lle y gallech gadw ewyllys:-
Wrth ysgrifennu i ofyn am gopi o ewyllys drwy’r post, rhaid darparu enw(au) cyntaf, cyfenw, dyddiad marw a chyfeiriad olaf yr ymadawedig , mewn llythyr y dylid ei anfon at un o’r cyfeiriadau isod. Yng Nghymru a Lloegr, bydd Is-Gofrestrfa Brofol Efrog yn pasio’r ceisiadu at y gofrestrfa brofol fydd yn cadw’r ewyllys a grant y prawf. Yna byddant yn anfon copïau o’r ewyllys a geisir yn uniongyrchol at yr unigolyn. Yng Nogledd Iwerddon bydd y Swyddfa Brofol yn anfon copïau o’r ewyllys sydd yn eu gofal yn uniongyrchol at yr unigolyn. Dylech ysgrifennu at:-
Yng Nghymru a Lloegr:
The York Probate Sub-Registry
1st Floor
Castle Chambers
Clifford Street
York
YO1 9RG
Ffôn: 01904 666777
Dylid anfon ffî o £5, a fydd yn talu am y chwiliad ac am un copi o’r ewyllys a grant profol, gyda phob cais. Dylid talu’r ffîoedd gyda siec wedi'i groesi neu archeb post a wnaed yn daladwy i Her Majesty's Court Service. Yng Ngogledd Iwerdon, dylid talu’r ffîoedd gyda siec wedi'i groesi neu archeb post yn daladwy i Supreme Court Fees Account. Gallwch archebu mwy o gopïau o’r ewyllys a’r grant profol am ffîo £5 am y copi cyntaf, a £1 am gopïau eraill a archebir ar yr un pryd.
Gallwch chwilio am ewyllys yn rhad ac am ddim trwy fynd i Brif Gofrestrfa Adran y Teulu (gweler y pennawd Ble i gadw’r ewyllys). Os ydych am archwilio copi neu gymryd copi o’r ewyllys, codir ffi o £5.
Yng Ngogledd Iwerddon, dylech gysylltu â’r Swyddfa Brofol, (gweler y pennawd Ble i gadw’r ewyllys), a fydd yn gallu eich cyfeirio i'r lle cywir mwyn i chi chwilio eich hunan, a darparu gwybodaeth am unrhyw ffioedd fydd yn rhaid eu talu.
Yng Nghymru a Lloegr, fe allwch archebu copi o ewyllys neu ganiatâd profiant mewn unrhyw Gofrestrfa Brofol Rhanbarthol. Fe fydd angen i chi roi enw llawn y person a fu farw, dyddiad rhoi'r caniatâd profiant ac enw'r swyddfa gofrestru lle y 'i cyhoeddwyd. Mae yna ffi o £5. I ddod o hyd i Gofrestrfa Brofol Rhanbarthol, ewch at wefan Gwasanaeth Llysoedd EM yn: www.hmcourts-service.gov.uk.
Yng Ngogledd Iwerddon, os mai'r Gofrestrfa Brofol Rhanbarthol sydd wedi trafod yr ewyllys (gweler uchod) mae'n bosib archwilio'r dogfennau yno.
Pan fyddwch wedi cwblhau ewyllys, mae’n bwysig ei chadw ‘n gywir ac ystyried unrhyw newid mewn amgylchiadau. Fe'ch cynghorir i ailystyried cynnwys ewyllys yn rheolaidd er mwyn sicrhau y bydd yn parhau i fynegi eich dymuniadau personol. Y newidynnau mwyaf cyffredin sy’n effeithio ewyllys yw:-
Mae’n bosib y dymunwch newid eich hewyllys oherwydd newid mewn amgylchiadau. Mae'n rhaid i chi wneud hyn drwy newid yr ewyllys wreiddiol wedi iddi gael ei harwyddo a’i thystio. Bydd unrhyw newidiadau a wnaed ar arwyneb yr ewyllys yn cael eu hystyried fel rhai a wnaed yn hwyrach ac felly ni fyddant yn rhan o’r ewyllys sydd â gwerth cyfreithiol iddi.
Yr unig ffordd i newid ewyllys yw drwy:-
Cymal sy’n gwneud rhai newidiadau ond sy’n gadael y rhan fwyaf o’r ewyllys fel ag yr oedd yw atodiad. Gwneir hyn, er enghraifft, i gynyddu etifeddiaeth ariannol, i newid gweithredwyr neu warchodwyr a enwir yn yr ewyllys, neu er mwyn ychwanegu eifeddwyr.
Rhaid i atodiad gael ei arwyddo gan y person a wnaeth yr ewyllys a rhaid tystio i’r newidiadau yn yr un modd. Er hyn, nid yw’n orfodol cael yr un tystion ag a gafwyd ar gyfer yr ewyllys wreiddiol.
Nid oes cyfyngu ar y nifer o atodiadau y gellir eu hychwanegu i ewyllys, ond dim ond ar gyfer newidiadau syml y maent yn addas. Os oes yna newid(iadau) cymhleth, mae’n well llunio ewyllys newydd.
Os ydych yn dymuno gwneud newidiadau mawr i ewyllys, fe'ch cynghorir i lunio un o’r newydd. Dylai’r un newydd agor gyda chymal sy’n nodi fod yr un newydd yn diddymu unrhyw ewyllys ac atodiadau blaenorol. Dylid dinistrio’r hen ewyllys. Bydd diddymu ewyllys yn golygu nad oes gwerth cyfreithiol i’r ewyllys honno mwyach.
Os ydych am ddinistrio ewyllys, rhaid i chi ei llosgi, ei rhwygo neu ei dinistrio rhywffordd arall gyda’r bwriad clir o’i diddymu. Mae yna berygl, os bydd y copi'n ailymddangos (neu os atgyweirir rhannau o’r ewyllys) yr ystyriwyd bod y dinistriad yn ddamweiniol. Rhaid i chi ddinistrio’r ewyllys drosoch chi eich hun neu rhaid iddi gael ei dinistrio yn eich presenoldeb. Ni fydd rhoi cyfarwyddyd syml i weithredwr yn effeithiol. Os dinistrir yr ewyllys yn ddamweiniol, ni ddiddymwyd hi a gellid ei hystyried o werth cyfreithiol.
Er y gellir diddymu ewyllys drwy ddinistrio, mae bob amser yn werth cynnwys cymal yn yr ewyllys newydd sy’n diddymu unrhyw ewyllys ac atodiadau blaenorol. Bydd diddymu ewyllys yn golygu na fydd hi o werth cyfreithiol mwyach.
Os bydd person a wnaeth ewyllys yn cyflawni hunan-laddiad, bydd yr ewyllys yn parhau i fod o werth cyfreithiol.
Bydd person, o bosib, am herio ewyllys oherwydd:-
Mae cyfyngiadau amser llym ar herio ewyllysion ac os ydych am herio ewyllys, dylech geisio cyngor cyfreithiol cyn gynted â phosib. Gall eich Canolfan Cynghori lleol ddarparu rhestr o gyfreithwyr. I chwiIio am fanylion ynglyn â'ch CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych chi wedi cael eich enwi yn ewyllys rhywun arall fel ysgutor, efallai y bydd yn rhaid i chi geisio am brofiant fel eich bod yn medru delio gydag ystad y person yna.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â phrofiant, gweler Delio gyda materion ariannol rhywun sydd wedi marw.