Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru a Lloegr
Mae partneriaeth sifil yn berthynas gyfreithiol y mae dau berson o'r un rhyw yn medru ei chofrestru. Os ydych mewn perthynas hoyw neu lesbiaidd, fe fydd cofrestru partneriaeth sifil yn rhoi cydnabyddiaeth gyfreithiol i'ch perthynas. Fe fydd hyn yn rhoi hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau ychwanegol i chi.
I gofrestru partneriaeth sifil, mae'n rhaid i chi a'ch partner arwyddo dogfen bartneriaeth sifil o flaen dau dyst a chofrestrydd.
Mewn rhai sefyllfaoedd, fe fydd gan bâr o'r un rhyw sydd heb gofrestru partneriaeth sifil yr un hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau â phâr sydd wedi cofrestru partneriaeth sifil. Dyma fydd yr achos, er enghraifft, wrth gyfrifo eich hawl i fudd-daliadau lles a chredydau treth.
Am fwy o wybodaeth ar hawliau a chyfrifoldebau parau o'r un rhyw, gweler Hawliau parau o'r un rhyw yn y Taflenni ffeithiau ar y Teulu.
Rydych chi a'ch partner lesbiaidd neu hoyw yn medru cofrestru partneriaeth sifil tra bod y canlynol yn wir:
Os ydych yn 16 neu'n 17, fe fydd angen caniatâd pob rhiant sydd â chyfrifoldeb rhiant drosoch, ac unrhyw warcheidwad cyfreithiol, er mwyn cofrestru partneriaeth sifil.
Efallai na fyddwch yn medru cael caniatâd eich rhieni, efallai am nad ydych yn gwybod ble maen nhw. Neu efallai nad yw eich rhieni yn fodlon rhoi eu caniatâd i chi gofrestru partneriaeth sifil. Os mai dyma yw'r achos, fe fyddwch yn medru cyflwyno cais i'r llys am ganiatâd i gofrestru eich partneriaeth sifil. Fe fydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol i wneud hyn.
Am fwy o wybodaeth ar gyfrifoldeb rhiant, gweler Plant yn Cydfyw a phriodas: gwahaniaethau cyfreithiol.
Mae angen cymryd dau gam i gofrestru partneriaeth sifil. Y cam cyntaf yw rhoi rhybudd o'ch bwriad i gofrestru a'r ail yw cofrestru'r bartneriaeth sifil.
Fe fydd angen i chi a'ch partner roi rhybudd o'ch bwriad i gofrestru partneriaeth sifil i'r swyddfa gofrestru leol ble yr ydych chi'n byw. Mae'n rhaid i chi wneud hyn yn bersonol. Fe fydd angen i chi wneud hyn hyd yn oed os ydych yn mynd i gofrestru eich partneriaeth sifil yn rhywle arall. Rhaid eich bod wedi byw mewn ardal am o leiaf saith niwrnod cyn y medrwch roi rhybudd yno.
Pan fyddwch yn rhoi'r rhybudd, gofynnir i chi roi manylion y dyddiad a'r lleoliad ar gyfer cofrestru’r bartneriaeth sifil, ac felly dylech chi gysylltu â'r lleoliad ble fyddwch chi'n cofrestru yn gyntaf.
Fe fydd yn rhaid i chi roi manylion personol penodol i'r swyddfa gofrestru hefyd, sef eich enw, eich cyfeiriad, eich oed, eich cenedligrwydd ac a ydych chi wedi bod mewn partneriaeth sifil neu'n briod o'r blaen. Gofynnir i chi ddangos dogfennau i brofi'r manylion hyn, er enghraifft eich pasport, eich tystysgrif geni, archddyfarniad absoliwt eich ysgariad neu dystysgrif farwolaeth cynbartner sifil. Os yw un ohonoch yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, efallai y bydd yn rhaid i chi ddangos dogfennau ychwanegol - gweler y pennawd Pobl sy'n ddarostyngedig i reolaeth mewnfudo.
Unwaith y byddwch wedi rhoi rhybudd o'ch bwriad i gofrestru partneriaeth sifil, fe fydd manylion y rhybudd ar gael mewn swyddfa gofrestru i bobl gael eu gweld. Fe fydd hyn yn yr ardal ble mae'r ddau/ddwy ohonoch yn byw a'r ardal ble y byddwch chi'n cofrestru, os yw hyn yn wahanol.
Rhaid bod y manylion ar gael i bobl eu gweld am 15 diwrnod cyn y medrwch chi gofrestru eich partneriaeth sifil. Mae hyn yn rhoi cyfle i unrhyw un wrthwynebu.
Ni fydd y manylion sydd ar gael yn cynnwys eich cyfeiriad, na chyfeiriad eich partner.
Ar ôl 15 diwrnod, fe fyddwch yn rhydd i gofrestru eich partneriaeth os nad oes unrhyw wrthwynebiadau na rhesymau cyfreithiol pam na fedrwch barhau. Rhaid i'r swyddfa gofrestru rhoi dogfen gyfreithiol i chi o'r enw atodlen partneriaeth sifil ac fe fyddwch angen y ddogfen hon i gofrestru partneriaeth sifil.
Rhaid i chi gofrestru o fewn y deuddeg mis nesaf. Os nad ydych yn cofrestru eich partneriaeth sifil o fewn y cyfnod hwn, ni fyddwch yn medru cofrestru heb ddechrau'r broses gyfan eto.
Mewn rhai amgylchiadau neilltuol, er enghraifft, ble mae un ohonoch â salwch difrifol ac nid oes disgwyl i chi wella, rydych yn medru gofyn am ildio'r cyfnod aros o 15 diwrnod - gweler y pennawd Rheolau arbennig i bobl sy'n ddifrifol wael.
Gellir hefyd ildio'r cyfnod aros o 15 diwrnod mewn rhai amgylchiadau ble mae un ohonoch wedi dod yn berson o'r rhyw arall - gweler y pennawd Rheolau arbennig os yw un ohonoch wedi dod yn berson o'r rhyw arall.
Rydych yn medru cofrestru eich partneriaeth sifil mewn unrhyw swyddfa gofrestru neu mewn unrhyw leoliad sydd wedi'i gymeradwyo i gofrestru partneriaethau sifil. Mae unrhyw le sydd wedi'i gymeradwyo i gynnal priodasau sifil yn cael caniatâd awtomatig i gofrestru partneriaethau sifil. Nid yw lleoliadau anghrefyddol yn medru dewis a ydyn nhw am gynnal partneriaethau sifil ai peidio, os ydyn nhw’n cynnal priodasau. Byddai hyn yn wahaniaethu anghyfreithlon. Ond, mae mudiadau crefyddol yn medru gwrthod cynnal partneriaethau sifil yn eu lleoliadau nhw.
Ni ellir cofrestru partneriaeth sifil ar safle crefyddol.
Fe allwch chi chwilio am safleoedd sydd wedi eu cymeradwyo ar wefan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yn www.gro.gov.uk. Dylech holi i weld a yw'r lleoliad ar gael cyn rhoi rhybudd i gofrestru.
Rydych chi a'ch partner wedi cofrestru eich partneriaeth sifil yn gyfreithiol pan fyddwch chi wedi arwyddo dogfen gyfreithiol a elwir yn atodlen partneriaeth sifil, neu drwydded os oes un ohonoch yn ddifrifol wael – gweler y pennawd Rheolau arbennig i bobl sy'n ddifrifol wael. Rhaid gwneud hyn o flaen cofrestrydd a dau dyst.
Nid oes unrhyw ofynion cyfreithiol pellach ac nid oes rhaid i chi gael seremoni, ond fe allwch gael seremoni os mai dyna yw eich dymuniad. Fe fydd llawer o awdurdodau lleol yn trefnu seremoni yn ychwanegol at arwyddo dogfen y bartneriaeth sifil ond nis oes rhaid iddynt wneud hyn. Ni chaniateir gwasanaeth crefyddol wrth arwyddo cofrestr y bartneriaeth sifil. Os ydych chi eisiau seremoni ac mae'r awdurdod lleol yn gwrthod cynnal seremoni, yna mae'n bosib i chi:
Fe fydd yn costio £30 yr un (£60 y pâr) i roi rhybudd o'ch bwriad i gofrestru partneriaeth sifil. Fe fyddwch hefyd yn gorfod talu ffi cofrestru ar ben hyn. Mae cofrestru mewn swyddfa gofrestru yn costio £40. Os ydych am gofrestru yn rhywle arall, fe fydd yn rhaid i chi dalu i'r cofrestrydd fynychu ac mae'r ffi'n dibynnu ble rydych chi'n byw. Fe fydd yn rhaid i chi dalu perchennog yr adeilad hefyd am gael defnyddio'r lleoliad.
Rydych chi'n medru cael tystysgrif partneriaeth sifil wrth gofrestru. Codir tâl arnoch am hyn. Am fanylion y ffioedd, rhowch glic ar wefan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yn: www.gro.gov.uk.
Mae yna reolau arbennig ar gyfer cofrestru partneriaeth sifil i bobl sy'n gaeth i'w cartref. Mae'r rhain yn galluogi pâr i gofrestru yn y man ble maen nhw'n gaeth.
Ystyrir eich bod yn gaeth i'ch cartref os yw meddyg yn dweud, yn ei farn ef/hi, na ddylid eich symud oherwydd anabledd neu salwch, am y tri mis nesaf o leiaf.
Mae'r weithdrefn sydd ei hangen ar berson sy'n gaeth i'w g/chartref i gofrestru partneriaeth sifil, yn union yr un fath â'r weithdrefn arferol, gyda'r eithriadau canlynol:
Mae yna reolau arbennig ar gyfer cofrestru partneriaeth sifil i bobl sy'n ddifrifol wael ac nad os disgwyl iddynt wella. Mae'r rhain yn ymlacio'r rheolau ar gyfer cofrestru partneriaeth sifil er mwyn cyflymu'r broses. Mae hyn yn golygu nad fydd yn rhaid i chi aros 15 diwrnod cyn rhoi rhybudd a chofrestru eich partneriaeth sifil – gweler y pennawd Sut i gofrestru partneriaeth sifil. Hefyd, dim ond un ohonoch fydd angen rhoi rhybudd o'ch bwriad i gofrestru partneriaeth sifil i'r swyddfa gofrestru. Fe fydd angen i chi ddarparu tystiolaeth bod un ohonoch yn ddifrifol wael ac nad oes disgwyl iddo/iddi wella, a'u bod yn rhy sâl i'w symud.
Mae person sydd am newid ei rhyw gyfreithiol yn medru gwneud hyn trwy gael tystysgrif cydnabod rhyw. Os ydych yn briod, nid ydych yn medru cael tystysgrif heb ddiweddu eich priodas bresennol yn gyntaf. Ond, os ydych chi â'ch cyn-gymar am ffurfio partneriaeth sifil, fe fyddwch yn medru gwneud hyn unwaith y cyhoeddwyd y dystysgrif cydnabod rhyw lawn. Yn yr amgylchiadau hyn, rydych yn medru rhoi rhybudd a chofrestru eich partneriaeth sifil ar yr un diwrnod. Nid oes angen cyfnod o 15 diwrnod o rybudd cyn cofrestru. Am fwy o wybodaeth ar gydnabod rhyw, a sut i gofrestru partneriaeth sifil pan fydd un ohonoch wedi dod yn berson o'r rhyw arall, ewch at wefan y Panel Adnabod Rhyw yn www.grp.gov.uk.
Mae yna reolau arbennig ar gyfer cofrestru partneriaeth sifil os ydych chi neu eich partner yn ddarostyngedig i reolaeth mewnfudo.
Fe fyddwch yn ddarostyngedig i reolaeth mewnfudo os nad ydych yn dod o wlad arall yn yr Undeb Ewropeaidd, neu o Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, neu'r Swistir ac os ydych chi angen caniatâd i ddod i mewn i'r Deyrnas Gyfunol, neu i aros yma.
Am fwy o wybodaeth ar y gwledydd sy'n perthyn i'r UE, gweler Yr Undeb Ewropeaidd.
Am fwy o wybodaeth ar bwy sy'n ddarostyngedig i reolaeth mewnfudo, gweler Help gyda phroblemau ymwyneud a mewnfudiad.
Os ydych yn ddarostyngedig i reolaeth mewnfudo, rhaid i chi a'ch partner roi rhybudd i gofrestru eich partneriaeth sifil mewn swyddfa gofrestru arbennig. Cyn y cewch roi rhybudd, mae'n rhaid eich bod naill ai:
Os yw'r cofrestrydd yn credu bod rhywun yn cofrestru partneriaeth sifil at ddibenion mewnfudo, rhaid iddo/iddi ddweud wrth yr Asiantaeth Ffiniau a Mewnfudo.
I ddarganfod mwy am y rheolau arbennig ar gyfer cofrestru partneriaeth sifil os ydych chi neu eich partner yn ddarostyngedig i reolaeth mewnfudo, ewch at dudalen partneriaeth sifil yr Uned Menywod a Chydraddoldeb, yn www.womenandequalityunit.gov.uk.
Os ydych yn ddarostyngedig i reolaeth mewnfudo ac am gofrestru partneriaeth sifil, efallai y bydd angen i chi gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Efallai y bydd rhai parau o'r un rhyw eisoes wedi ffurfio undeb sifil, partneriaeth gofrestredig, partneriaeth ddomestig neu briodas o'r un rhyw, dramor.
Os ydych mewn perthynas o'r fath, rydych yn medru cael cydnabyddiaeth awtomatig yn y Deyrnas Gyfunol fel partneriaid sifil ac ni fydd angen i chi gofrestru yn y DG hefyd. Ond, mae'n rhaid i chi, eich partner, a'ch perthynas dramor gwrdd â rhai meini prawf penodol.
I ddarganfod mwy am gydnabyddiaeth i bartneriaeth parau o'r un rhyw a ffurfiwyd dramor, ewch at dudalen partneriaeth sifil yr Uned Menywod a Chydraddoldeb yn www.womenandequalityunit.gov.uk.
Unwaith y byddwch wedi cofrestru partneriaeth sifil, gellir ond dod â'r bartneriaeth i ben pan fydd un ohonoch yn marw, neu trwy geisio i'r llys i ddiweddu'r bartneriaeth yn gyfreithiol.
Nid ydych yn medru gwneud cais i ddod â phartneriaeth sifil i ben yn gyfreithiol nes ei bod wedi sefyll am o leiaf un flwyddyn.
Am fwy o wybodaeth ar ddod â phartneriaeth sifil i ben, gweler Dod â phartneriaeth sifil i ben.