Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Cynhyrchir Canllaw ar Arian i Rieni gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol. Mae’n anelu at helpu rhieni a’u teuluoedd i ddysgu am arian ac i ddod yn fwy hyderus ynghylch rheoli eu materion ariannol. Mae’r fydwraig yn rhoi’r canllaw i rieni sy’n disgwyl babi.
Yn y canllawiau, ceir pob math o adnoddau, taflenni a theclynnau cyfrifo defnyddiol i’ch helpu i gynllunio, cyllidebu, cynilo, benthyg a cheisio am fudd-daliadau a chredydau treth.
Mae yna wybodaeth ynghylch:
Er mwyn darllen y canllawiau, rhowch glic ar www.moneyadviceservice.org.uk.
Fe allwch roi tro ar brawf iechyd ariannol ar-lein y Gwasanaeth Cynghori Ariannol hefyd. Mae’n cymryd ychydig funudau i ateb y cwestiynau ac maen nhw’n hollol gyfrinachol. Ar y diwedd, fe fydd gwell dealltwriaeth gennych o’ch sefyllfa ariannol.
Mae’r prawf iechyd hefyd yn rhoi cynllun gweithredu ariannol i chi, yn ogystal â syniadau ar sut i gael y mwyaf o’ch arian. Am fwy o wybodaeth, rhowch glic ar www.moneyadviceservice.org.uk.