Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru a Lloegr
Yn y ddogfen hon, mae yna wybodaeth i bobl sydd am reoli materion rhywun arall. Mae yna wybodaeth hefyd os ydych chi am i rywun arall reoli eich materion chi ar eich rhan.
Mae rheoli materion rhywun arall yn medru golygu nifer o bethau, gan gynnwys:
Efallai y byddwch chi am reoli materion rhywun arall am eu bod:
Mae yna ddulliau gwahanol o reoli materion rhywun. Mae dewis yr un cywir yn dibynnu, yn bennaf, ar amgylchiadau’r person yr ydych am reoli eu materion, ac a oes ganddynt alluedd meddyliol - gweler y pennawd Pryd mae person â diffyg galluedd meddyliol? Rydych yn medru gofalu am faterion rhywun trwy un o’r dulliau canlynol:-
Os mai’r cyfan sydd ei angen arnoch yw rhywun i weithredu cyfrif banc ar eich rhan, dros dro, rydych yn medru ysgrifennu at eich banc. Mae gan lawer o fanciau eu ffurflen eu hun, o’r enw ffurflen ar gyfer mandad trydydd person, ac fe fyddan nhw’n gofyn i chi ei llenwi a’i hanfon yn ôl atynt.
Ond, os ydych chi angen rhywun i weithredu mwy nag un cyfrif ar eich rhan, neu os ydych chi angen rhywun i reoli eich materion ariannol yn fwy hir dymor, efallai y byddwch chi am ystyried gwneud pŵer atwrnai – gweler y pennawd Pŵer atwrnai.
Os nad ydych yn medru casglu eich budd-daliadau neu gredydau treth am unrhyw reswm, efallai y byddwch chi am i rywun arall eu casglu ar eich rhan.
Os yw’r budd-daliadau neu gredydau treth yn cael eu talu i mewn i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, cysylltwch â’r banc neu gymdeithas adeiladu i drefnu i rywun arall eu casglu. Efallai y bydd yn rhaid i chi lenwi mandad trydydd person – gweler Cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu uchod.
Os yw’r arian yn cael ei dalu i mewn i gyfrif cerdyn yn y swyddfa bost ac rydych chi angen i rywun arall ei gasglu’n rheolaidd, cysylltwch â’r swyddfa bost a holwch am drefnu i rywun arall ei gasglu. Yn aml, gelwir rhywun sy’n casglu budd-daliadau’n rheolaidd ar ran rhywun arall yn asiant.
Os yw’ch budd-daliadau neu gredydau treth yn cael eu talu drwy siec fel arfer, rydych yn medru llenwi cefn y siec i ganiatáu i rywun arall ei newid i chi. Os ydych chi am i rywun newid siec budd-dâl neu gredydau treth yn rheolaidd i chi, dylech gysylltu â’r swyddfa sy’n delio gyda’ch taliadau budd-daliadau neu gredydau treth i ddweud wrthyn nhw.
Efallai y byddwch chi angen i rywun ddelio gyda phob agwedd ar eich achos budd-daliadau neu gredydau treth, nid dim ond casglu taliadau. Mae hyn yn medru golygu gwneud pethau fel:
Os yw hyn yn wir, rydych yn medru gofyn i rywun arall, fel arfer perthynas, ond weithiau ffrind neu gymydog, i fod yn berson penodedig i chi. Dylech gysylltu â’r swyddfa sy’n delio gyda’ch budd-daliadau neu gredydau treth. Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais, ac fe fydd rhywun yn trefnu ymweld â chi a’r person yr ydych am eu penodi i weithredu ar eich rhan.
Rydych hefyd yn medru trefnu i rywun ddelio gyda’ch achos budd-daliadau neu gredydau treth trwy roi pŵer atwrnai iddynt – gweler Pŵer atwrnai, isod.
Pan fydd rhywun yn gwneud pŵer atwrnai, maen nhw’n penodi rhywun arall i weithredu ar eu rhan. Gelwir y person sy’n gwneud y pŵer atwrnai yn rhoddwr a gelwir y person a benodir i weithredu ar eu rhan yn atwrnai.
Mae pŵer atwrnai yn rhoi’r awdurdod cyfreithiol i’r atwrnai i ddelio gyda thrydydd person fel y banc neu’r cyngor lleol.
Mae rhai mathau o bŵer atwrnai hefyd yn rhoi’r pŵer cyfreithiol i’r atwrnai i wneud penderfyniad ar ran rhywun arall, er enghraifft ble ddylent fyw neu a ddylent weld meddyg.
Er mwyn gwneud pŵer atwrnai, mae’n rhaid eich bod chi â’r gallu i wneud penderfyniadau drosoch chi’ch hun. Gelwir hyn yn alluedd meddyliol - gweler y pennawd Pryd mae person â diffyg galluedd meddyliol?
Mae yna dri math gwahanol o bŵer atwrnai, sef:
Pŵer atwrnai cyffredin – gweler y pennawd Pŵer atwrnai cyffredin
Atwrneiaeth arhosol – gweler y pennawd Atwrneiaeth arhosol
Atwrneiaeth barhaus – gweler y pennawd Atwrneiaeth barhaus.
Os ydych chi am i rywun ofalu am eich materion ariannol am gyfnod hir, rydych yn medru rhoi pŵer atwrnai cyffredin iddynt. Efallai y byddwch chi am roi pŵer atwrnai cyffredin i rywun:
Ni ddylech ddefnyddio pŵer atwrnai cyffredin:
Ni ddylech wneud hyn oherwydd efallai na fyddwch yn medru parhau i ddefnyddio pŵer atwrnai cyffredin os digwydd i chi golli eich galluedd meddyliol. Yn yr amgylchiadau hyn, efallai y byddai’n fwy addas i chi ddefnyddio atwrneiaeth arhosol. Am fwy o wybodaeth ynghylch atwrneiaeth arhosol, gweler y pennawd Atwrneiaeth arhosol. Am fwy o wybodaeth ynghylch alluedd meddyliol, gweler y pennawd Pryd mae person â diffyg galluedd meddyliol?
Rydych chi’n medru rhoi pŵer atwrnai i rywun i ddelio gyda’ch holl faterion ariannol neu rhai materion penodol yn unig, er enghraifft, i weithredu cyfrif banc, i brynu a gwerthu eiddo neu i newid buddsoddiadau. Enw arall ar bŵer atwrnai cyffredin sydd ond yn rhoi’r awdurdod i ddelio gyda rhai materion penodol yw pŵer atwrnai cyfyngedig. Os ydych chi am wneud pŵer atwrnai cyfyngedig, dylech wneud yn siŵr ei fod yn cael ei lunio’n ofalus iawn fel bod yr atwrnai yn gwybod yn glir pa awdurdod sydd ganddo/i i ddelio gyda’ch materion.
Mae yna ffurflen safonol i’w defnyddio os ydych chi am roi pŵer atwrnai cyffredin. Os ydych am roi pŵer atwrnai cyffredin, dylech gysylltu â chyfreithiwr neu gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych chi am i rywun ofalu am eich materion am gyfnod hir, rydych yn medru rhoi atwrneiaeth arhosol (AA) iddynt. Mae AA yn wahanol i bŵer atwrnai cyffredin oherwydd:
Mae’r AA yn disodli’r atwrneiaeth barhaus (AB) – gweler y pennawd Atwrneiaeth barhaus.
Dylech wneud AA os ydych wedi cael gwybod bod salwch arnoch a fyddai’n medru eich atal rhag gwneud penderfyniadau drosoch chi’ch hun ar ryw adeg yn y dyfodol, neu os ydych yn credu bod siawns gennych o ddatblygu salwch o’r fath.
Mae’r mathau o afiechydon a fyddai’n medru eich atal chi rhag gwneud penderfyniadau drosoch chi’n hun yn cynnwys:
Mae’n rhaid i chi wneud AA tra’ch bod chi’n dal i fod yn medru gwneud penderfyniadau drosoch chi’n hun. Gelwir hyn yn alluedd meddyliol – gweler y pennawd Pryd mae person â diffyg galluedd meddyliol?
Os ydych chi am ofalu am faterion rhywun sydd eisoes wedi colli eu galluedd meddyliol ac nid oes ganddynt AA cofrestredig neu AB yn barod, gweler y pennawd Pwy sy’n medru gwneud penderfyniadau pan fydd rhywun yn colli eu galluedd meddyliol ac nid oes pŵer atwrnai?
Mae yna ddau fath gwahanol o AA:
Gan ddibynnu ar eich sefyllfa bersonol, efallai y byddwch chi am wneud:
Nid oes rhaid i chi wneud y ddau fath o AA ar yr un pryd.
Mae AA materion ariannol ac eiddo yn medru rhoi’r awdurdod i rywun i ddelio gydag, er enghraifft, y pethau canlynol, a gwneud penderfyniadau amdanynt:
Rydych chi’n medru rhoi pŵer atwrnai i rywun i ddelio gyda'ch holl faterion ariannol ac eiddo neu bethau penodol yn unig, er enghraifft, i weithredu cyfrif banc, i brynu a gwerthu eiddo neu newid buddsoddiadau. Os ydych chi am wneud AA sydd ond yn delio gyda rhai materion penodol, dylech sicrhau ei bod yn cael ei llunio’n ofalus fel bod yr atwrnai yn glir iawn ynghylch yr awdurdod sydd ganddo/i i ddelio gyda’ch materion.
Mae’n rhaid bod AA materion ariannol ac eiddo wedi’i chofrestru cyn bod modd ei defnyddio. Ond, nid oes yn rhaid i chi aros hyd nes i rywun golli eu galluedd meddyliol cyn ei defnyddio. Daw AA materion ariannol ac eiddo i rym unwaith y bydd wedi’i chofrestru. Mae hyn yn golygu y bydd yr atwrnai yn medru dechrau gwneud penderfyniadau ynghylch eich materion ariannol ac eiddo ar unwaith, hyd yn oed os ydych yn dal i fod â’r galluedd i wneud eich penderfyniadau eich hun. Os nad ydych am i’r atwrnai fedru gwneud penderfyniadau ynghylch eich materion ar unwaith, dylech sicrhau bod yr AA yn nodi hyn.
Rhaid i’r AA gynnwys awdurdod i’r atwrnai wneud penderfyniadau unwaith y bydd y rhoddwr wedi colli eu galluedd meddyliol.
Mae AA ynghylch lles personol yn medru rhoi awdurdod i rywun i ddelio gydag, er enghraifft, y pethau canlynol, a gwneud penderfyniadau amdanynt:
Rydych yn medru gwneud AA lles personol sy’n delio gyda phob agwedd ar eich lles personol, neu elfennau penodol yn unig.
Nid yw’n bosib defnyddio AA lles personol hyd nes i’r person sydd wedi ei gwneud golli eu galluedd meddyliol. Rhaid bod yr AA wedi’i chofrestru cyn y gellir ei defnyddio.
Mae yna reolau ynghylch y ddau fath o AA. Mae’r rheolau hyn yn egluro pwy sy’n medru gwneud penderfyniadau ar ran rhywun arall, ym mha sefyllfaoedd y maen nhw’n medru gwneud y penderfyniadau hyn a sut dylent fynd ati i wneud hynny. Cynlluniwyd y rheolau i sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud er lles y person sydd â diffyg galluedd meddyliol. Am fwy o wybodaeth ar y rheolau ynghylch AA, rhowch glic ar wefan Y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn www.justice.gov.uk.
Rhaid i chi wneud AA tra’ch bod yn dal i fedru gwneud penderfyniadau drosoch chi’ch hun. Dylech ddewis y person yr ydych am iddo/i ofalu am eich materion yn ofalus iawn. Gelwir y person yr ydych yn ei (d)dewis i ofalu am eich materion yn atwrnai. Gweler y pennawd Rheolau cyffredinol ynghylch pŵer atwrnai am fwy o wybodaeth ynghylch hyn.
Bydd angen i chi lenwi ffurflen, sydd ar gael gan y Swyddfa Gwarcheidiaeth y Cyhoedd - gweler y pennawd Gwybodaeth bellach. Mae yna un ffurflen ar gyfer materion ariannol ac eiddo (LPA PA) a ffurflen wahanol ar gyfer AA lles personol AA (LPA PW). Os ydych chi am i rywun ofalu am eich materion ariannol a’ch lles personol, bydd angen i chi wneud dwy AA ar wahân a llenwi’r ddwy ffurflen.
Mae yna nodiadau sy’n dod gyda’r ffurflenni ac yn dweud wrthych beth yn union i’w wneud. Dylech ddarllen y rhain yn ofalus iawn.
Unwaith y byddwch wedi llenwi’r ffurflenni hyn, bydd angen i chi gofrestru’r AA gyda’r Swyddfa Gwarcheidiaeth y Cyhoedd. Os mai chi yw’r rhoddwr ac mae gennych alluedd meddyliol o hyd, rydych yn medru cyflwyno cais i gofrestru’r AA eich hun. Mae’r person a enwyd fel eich atwrnai hefyd yn medru gofyn am gofrestru’r AA. Mae’n medru gwneud hyn ar unrhyw adeg, waeth a ydych chi wedi colli’ch galluedd meddyliol ai peidio.
Pan fyddwch chi’n gwneud AA, rydych yn medru gofyn am ddweud wrth bobl benodol pan fydd yr AA yn cael ei chofrestru. Mae hyn yn helpu eich amddiffyn chi rhag twyll a rhag cael pobl yn rhoi pwysau arnoch i wneud yr AA. Dylech ddefnyddio ffurflen LP 001 i ddweud wrth y bobl a enwyd yn eich AA, cyn i chi ofyn am ei chofrestru.
I gofrestru’r AA, dylech lenwi ffurflen LPA 002. Anfonwch y ffurflen at y Swyddfa Gwarcheidiaeth y Cyhoedd ynghyd â’ch ffurflen AA a’r ffi cofrestru. Os ydych yn gwneud y ddau fath o AA, fe fydd angen i chi dalu dwy ffi. Nid oes rhaid i rai pobl dalu unrhyw ffioedd cofrestru. Rydych yn medru cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd gan Swyddfa Gwarcheidiaeth y Cyhoedd - gweler y pennawd Gwybodaeth bellach.
Os cwblhawyd yr AA yn gywir ac nid oes unrhyw wrthwynebiad i’r cofrestru ar ôl hysbysu pobl, mae’n rhaid i Warcheidwad y Cyhoedd ei chofrestru. Rhaid iddynt wneud hyn ar ôl pum wythnos. Rhaid i Warcheidwad y Cyhoedd ddweud wrth y rhoddwr ac unrhyw atwrneiod eu bod wedi cofrestru’r AA.
Mae yna sawl ffordd y medrwch ddod ag AA i ben, gan gynnwys:
Bydd AA hefyd yn dod i ben pan fydd y rhoddwr yn marw. Bydd AA materion ariannol ac eiddo yn dod i ben os yw’r rhoddwr neu’r atwrnai yn dod yn fethdalwr.
Cyn 1 Hydref 2007, roedd yn bosib gwneud atwrneiaeth barhaus (AB) i reoli materion ariannol neu eiddo rhywun. Roedd modd defnyddio AB cyn i rywun golli eu galluedd meddyliol neu ar ôl iddynt golli eu galluedd meddyliol unwaith yr oedd yr AB wedi ei chofrestru.
Nid yw’n bosib gwneud AB newydd erbyn hyn. Ond, os gwnaethpwyd AB cyn 1 Hydref 2007, gellir ei chofrestru o hyd ac, os ydyw wedi ei chofrestru yn barod, bydd yn ddilys o hyd.
Os ydych am reoli materion rhywun sydd, yn eich barn chi, â siawns o golli eu galluedd meddyliol, ac nid oes AB gennych yn barod, dylech ddefnyddio atwrneiaeth arhosol.
Hyd yn oed os oes gennych AB yn barod, gellir ond ei defnyddio i ofalu am faterion ariannol ac eiddo rhywun, ac nid eu lles personol. Os ydych chi eisiau pŵer atwrnai i ofalu am les personol rhywun, efallai y byddwch yn medru cymryd atwrneiaeth arhosol lles personol.
Am wybodaeth ynghylch atwrneiaeth arhosol, gweler y pennawd Atwrneiaeth arhosol. Am wybodaeth ynghylch galluedd meddyliol, gweler y pennawd Pryd mae person â diffyg galluedd meddyliol?
Er mwyn parhau i ddefnyddio AB ar ôl i rywun golli eu galluedd meddyliol, mae’n rhaid cofrestru’r AB gyda’r Swyddfa Gwarcheidiaeth y Cyhoedd yn gyntaf. Rhaid i’r person a fydd yn rheoli materion rhywun arall (yr atwrnai) gofrestru’r AB. Cyn i chi gofrestru’r AB, rhaid i chi ddweud wrth rhai pobl benodol eich bod yn mynd i’w chofrestru. Rydych yn gwneud hyn ar ffurflen sy’n rhaid i chi ei hanfon at bob un o’r canlynol:
Unwaith y byddwch wedi rhoi’r hysbysiad hwn, rydych yn medru gofyn am gofrestru’r AB trwy anfon ffurflen EP2PG i Swyddfa Gwarcheidiaeth y Cyhoedd. Mae yna ffi cofrestru, er, ni fydd yn rhaid i rai pobl ei dalu. Rydych yn medru cael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch ffioedd gan Swyddfa Gwarcheidiaeth y Cyhoedd - gweler y pennawd Gwybodaeth bellach.
Mae yna sawl ffordd o ddod ag AB i ben, gan gynnwys:
Os ydych chi wedi gwneud AB ond eisiau AA yn lle, rydych yn medru gwneud hyn. Os nad yw’r AB wedi’i chofrestru, rydych yn medru ei rhwygo i fyny. Yna, rydych yn medru llenwi ffurflen AA a gofyn am gofrestru hon – gweler y pennawd Atwrneiaeth arhosol. Yn wahanol i AB, nid yw AA yn ddilys os nad ydyw wedi ei chofrestru.
Neu, rydych yn medru cadw eich AB ond gwneud AA i ddelio gyda’ch lles personol rhag ofn i chi golli eich galluedd meddyliol. Ni ellir defnyddio AB i ofalu am les personol rhywun.
Mae yna rai rheolau cyffredinol sy’n berthnasol i’r holl fathau gwahanol o bŵer atwrnai, gan gynnwys Pŵer atwrnai cyffredin, Atwrneiaeth arhosol ac Atwrneiaeth barhaus.
Er mwyn gwneud pŵer atwrnai, rhaid eich bod chi â’r galluedd i wneud penderfyniadau drosoch chi’ch hun. Gelwir hyn yn alluedd meddyliol - gweler y pennawd, Pryd mae person â diffyg galluedd meddyliol? Rydych ond yn medru gwneud pŵer atwrnai sy’n caniatáu i rywun arall wneud pethau y mae gennych yr hawl i’w gwneud eich hun.
Nid yw unrhyw un arall yn medru gwneud pŵer atwrnai ar eich cyfer chi. Rydych yn medru dweud wrth gyfreithiwr am ddrafftio pŵer atwrnai ar eich cyfer chi, ond dylai’r cyfreithiwr dderbyn cyfarwyddiadau neu awdurdodaeth gennych chi yn unig, naill ai’n bersonol neu yn ysgrifenedig. Ni ddylent dderbyn cyfarwyddiadau neu awdurdodaeth gan unrhyw un arall, gan gynnwys y person a fydd yn dod yn atwrnai i chi.
Mae unrhyw un yn medru bod yn atwrnai:
Mewn rhai achosion, nid yw rhywun sy’n fethdalwr yn medru bod yn atwrnai. Os yw atwrnai yn dod yn fethdalwr, mae’n bosib y bydd y pŵer atwrnai yn cael ei ddirymu.
Mae cyfreithwyr a chorfforaethau ymddiriedolaeth fel banciau yn medru gweithredu fel atwrnai. Mae atwrneiod proffesiynol yn medru codi tâl am eu gwasanaethau. Os yw’ch atwrnai yn ffrind neu’n berthynas, mae’n medru hawlio treuliau yn ôl, ond fe fydd ond yn medru cael tâl am gyflawni dyletswyddau os yw’r rhoddwr wedi cytuno i hyn ar y ffurflen AA.
Mae rhoddwr yn medru penodi fwy nag un atwrnai. Mae hyn yn medru gweithio mewn un o ddwy ffordd:
Atwrneiod a benodwyd i weithredu ar y cyd (gelwir y rhain hefyd yn gyd-atwrneiod) – mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt weithredu ar y cyd drwy’r amser. Mantais y trefniant hwn yw ei bod yn anoddach i atwrnai dwyllo neu wneud rhywbeth sy’n groes i fudd y rhoddwr. Anfantais hyn yw bod y pŵer atwrnai cyfan yn dod i ben os oes un atwrnai yn marw neu’n colli galluedd meddyliol.
Atwrneiod a benodwyd i weithredu ar y cyd ac yn annibynnol (a elwir hefyd yn atwrneiod cyd ac unigol) Pan mae atwrneiod yn cael eu penodi yn y ffordd yma, mae’n golygu bod gweithred neu lofnod un atwrnai yr un mor ddilys â phetai nhw oedd yr unig atwrnai. Mae hefyd yn golygu y bydd y pŵer atwrnai yn dal i fod mewn grym os oes unrhyw beth yn digwydd i un o’r atwrneiod.
Pan fyddwch chi’n cael eich penodi fel atwrnai, rydych chi’n cael eich gosod mewn sefyllfa o ymddiriedaeth ac mae’n rhaid i chi weithredu er lles y rhoddwr ar bob adeg.
Rydych ond ym medru gwneud y pethau y mae’r rhoddwr wedi eich awdurdodi chi i’w gwneud. Nid ydych yn medru gofyn i unrhyw un arall gyflawni unrhyw rai o’ch dyletswyddau, onid yw’r rhoddwr wedi eich awdurdodi chi i wneud hynny.
Rhaid i chi gadw cyfrif diweddar, ar wahân, o faterion ariannol y rhoddwr. Pan fyddwch chi’n gweithredu ar ran y rhoddwr ac mae’n rhaid i chi lofnodi unrhyw ddogfennau, dylech lofnodi eich llofnod arferol ac ychwanegu. O dan y llofnod, y geiriau Atwrnai ar gyfer... (enw’r rhoddwr).
Os ydych yn gweithredu o dan atwrneiaeth arhosol, mae yna reolau ynghylch sut i wneud penderfyniad ar ran rhoddwr sydd wedi colli ei (g)alluedd meddyliol ac mae’n rhaid i chi eu dilyn. Mae’r rheolau hyn ar wefan Swyddfa Gwarcheidiaeth y Cyhoedd – gweler y pennawd Gwybodaeth bellach.
Mae’n bwysig gwybod a oes gan rywun y galluedd meddyliol i wneud penderfyniad. Mae’n bosib y bydd hyn yn effeithio ar yr opsiynau sydd gennych ar gyfer delio gyda’u materion, er enghraifft a yw’n dal i fod yn bosib gwneud atwrneiaeth arhosol (AA)- gweler y pennawd Atwrneiaeth arhosol.
Mae angen i chi wybod hefyd a oes gan rywun alluedd meddyliol o hyd, er mwyn penderfynu pryd i gofrestru AA lles personol neu atwrneiaeth barhaus – gweler y pennawd Atwrneiaeth barhaus.
Os yw person yn medru gwneud penderfyniad drostyn nhw’u hunain, gellir dweud bod ganddynt y galluedd meddyliol i wneud y penderfyniad yna. Os nad ydynt yn medru gwneud penderfyniad oherwydd rhyw fath o anabledd meddwl, gellir dweud eu bod â diffyg galluedd meddyliol i wneud y penderfyniad. Efallai bod yr anabledd yn un dros dro neu’n un parhaol, a gallai fod yn ganlyniad i un o’r canlynol:
Mae yna ganllawiau i’ch helpu i benderfynu a oes gan berson y galluedd meddyliol i wneud penderfyniad. Nid yw rhywun yn medru gwneud penderfyniad os nad ydynt yn medru:
Mae yna ganllawiau manwl ar sut i benderfynu a oes gan rywun alluedd meddyliol ar wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn www.justice.gov.uk.
Efallai nad oes gan rywun y galluedd i wneud pob penderfyniad, neu efallai bod ganddynt y galluedd i wneud rhai penderfyniadau, ond nid eraill.
Efallai y bydd angen i chi wneud penderfyniadau dros rywun sydd wedi colli eu galluedd meddyliol pan nad oes unrhyw atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus.
Unwaith y mae’r person wedi colli eu galluedd meddyliol, nid yw’n bosib gwneud pŵer atwrnai mwyach – gweler y pennawd Pryd mae person â diffyg galluedd meddyliol?
Mae’n bosib ceisio i’r Llys Gwarchod am benderfyniad ar fater penodol. Ond, os oes angen parhaus i wneud penderfyniadau ar ran y person, rydych yn medru gofyn i’r Llys Gwarchod eich penodi chi fel dirprwy. Yr hen enw ar ddirprwy oedd derbynnydd.
Fel arfer, mae dirprwy yn aelod o’r teulu neu’n rhywun sy’n adnabod y person yn dda. Mae dirprwy yn medru gwneud penderfyniadau ynghylch lles personol, materion ariannol ac eiddo rhywun.
Os nad oes ffrind neu aelod o’r teulu sy’n addas neu’n barod i weithredu fel dirprwy, mae’r Llys Gwarchod yn medru penodi person proffesiynol o banel.
Weithiau, mae dau ddirprwy neu fwy yn cael eu penodi. Efallai y bydd gofyn iddynt weithredu ar y cyd ym mhob mater. Neu, efallai y bydd gofyn iddynt weithredu ar y cyd ac yn annibynnol, sy’n golygu eu bod yn medru gweithredu ar y cyd ond hefyd yn annibynnol os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
Os ydych yn cael eich penodi fel dirprwy, mae gennych yr hawl i gael treuliau rhesymol wedi eu talu, ac efallai y cewch dâl am gyflawni eich dyletswyddau.
Bydd yn rhaid i chi fedru dangos i’r Swyddfa Gwarcheidiaeth y Cyhoedd eich bod yn gweithredu er budd y person sydd wedi colli eu galluedd meddyliol. Mae’r Llys yn medru canslo eich apwyntiad os yw’n penderfynu nad yw’ch penodiad er budd y person yna mwyach.
Bydd Swyddfa Gwarcheidiaeth y Cyhoedd yn gyfrifol am eich goruchwylio a’ch cefnogi.
Efallai eich bod yn poeni nad ydyw atwrnai neu ddirprwy yn gweithredu er budd rhywun sydd wedi colli eu galluedd meddyliol. Dylech ddweud wrth Swyddfa Gwarcheidiaeth y Cyhoedd am eich pryderon – gweler y pennawd Gwybodaeth bellach.
Os oes atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus nad ydyw wedi cael ei chofrestru eto, efallai y byddwch yn medru gwrthwynebu’r cofrestru. Mae’r Swyddfa Gwarcheidiaeth y Cyhoedd yn medru dweud wrth swyddog y llys i ymweld ag atwrnai neu ddirprwy i ymchwilio i’ch pryderon. Mewn achosion difrifol, mae’r Llys Gwarchod yn medru canslo atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus.
Os ydych yn amau atwrnai neu ddirprwy o drais corfforol neu rywiol, dwyn neu dwyll difrifol, dylech gysylltu â’r heddlu. Mewn rhai achosion, bydd angen cynnwys y gwasanaethau cymdeithasol hefyd.
Mae Swyddfa Gwarcheidiaeth y Cyhoedd yn gyfrifol am:
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa Gwarcheidiaeth y Cyhoedd:-
The Officer of the Public Guardianship
PO Box 15118
Birmingham
B16 6GX
Ffôn: 0845 330 2900
Ffôn Testun: 020 7664 7705
Ffacs: 0207 664 7551
E-bost: customerservices@publicguardian.gsi.gov.uk
Gwefan: www.publicguardian.gov.uk
Ar wefan Swyddfa Gwarcheidiaeth y Cyhoedd mae yna restr gyflawn o’r holl ffurflenni cais a nodiadau canllaw ar gyfer atwrneiaeth arhosol ac atwrneiaeth barhaus: www.guardianship.gov.uk.
Ar wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder mae yna fwy o wybodaeth ynghylch gwneud penderfyniadau ar ran rhywun sydd â diffyg galluedd meddyliol: www.justice.gov.uk. Mae yna wybodaeth i bobl wahanol sy’n medru gwneud penderfyniadau, er enghraifft, cynhalwyr ac aelodau’r teulu.
Mae yna ganllawiau manwl hefyd i’ch helpu i benderfynu a oes gan rywun ddiffyg galluedd meddyliol yn: www.justice.gov.uk.
Yng Nghymru, mae mwy o wybodaeth ynghylch gwneud penderfyniadau ar ran rhywun sydd â diffyg galluedd meddyliol ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn: http://new.wales.gov.uk.