|
Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru a Lloegr a Gogledd Iwerddon
Ynglyn â'r wybodaeth hon
Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol os ydych am wahanu wrth rywun yr ydych yn byw gyda nhw. Mae'n berthnasol waeth a ydych chi'n hoyw, yn lesbiad neu'n wahanrywiol. Nid yw ar gyfer pobl sy'n briod neu mewn partneriaeth sifil.
Os ydych yn byw gyda'ch partner ac mae eich perthynas yn dod i ben, nid oes rhaid i chi gymryd unrhyw gamau cyfreithiol i wahanu. Ond, efallai y bydd yna faterion yn ymwneud â phlant, tai, eiddo ac arian i'w sortio. Gellir gwneud hyn naill ai trwy gytundeb anffurfiol neu trwy lunio cytundeb gwahanu ysgrifenedig - gweler y pennawd Gwahanu gyda chytundeb gwahanu.
Os oes plant gennych, mae llys yn medru gwneud gorchmynion ynghylch gyda phwy y dylai'r plant fyw a chael cysylltiad - gweler y pennawd Plant ar ddiwedd eich perthynas.
Mae llys hefyd yn medru gwneud gorchymyn ynghylch hawliau i aros yn eich cartref a gwerthu unrhyw eiddo sy'n eiddo ar y cyd - gweler y pennawd Yr hawl i'r ty ar ddiwedd perthynas.
OS ydych yn ystyried mynd i'r llys i sortio anghytundebau ynghylch y plant, arian neu dai, dylech holi ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, cyfreithiwr cyfraith y teulu. Gellir cael rhestrau o gyfreithwyr gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth lleol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nôl i’r Brig
Wrth bwy i ddweud pan ddaw eich perthynas i ben
Os ydych chi a'ch partner yn gwahanu, efallai y bydd angen i chi ddweud wrth:
- eich landlord neu swyddfa dai
- eich swyddfa budd-dâl tai
- eich swyddfa treth y cyngor (Cymru a Lloegr)
- eich swyddfa Asiantaeth Casglu Treth (Rates Collection Agency) leol (Gogledd Iwerddon)
- eich benthycwr morgais
- cwmnïau dwr, nwy, trydan a ffôn
- eich swyddfa budd-daliadau
- eich swyddfa dreth, yn enwedig os ydych yn cael credydau treth
- yr ysgol bresennol a'r ysgol newydd os oes plant gennych ac maen nhw'n symud
- eich banc neu unrhyw sefydliad ariannol arall os oes gennych gyfrif ar y cyd. Efallai y bydd yn ddoeth i chi rewi'r cyfrif i atal eich partner rhag tynnu peth o'r arian, neu'r cyfan ohono
- cwmnïau hur-bwrcas neu gredyd
- cwmnïau yswiriant, yn enwedig os oes polisïau ar y cyd gennych
- y swyddfa bost, os ydych am ailgyfeirio'ch post
- eich meddyg, deintydd a chlinig iechyd plant.
Nôl i’r Brig
Gwahanu gyda chytundeb gwahanu
Mae cytundeb gwahanu yn gytundeb ysgrifenedig rhwng pâr sy'n bwriadu peidio â byw gyda'i gilydd mwyach. Mae'n nodi sut yr ydych chi am sortio'r materion ynghylch arian, eiddo a threfniadau ar gyfer y plant. Dyma enghreifftiau o bethau y mae'n bosib y byddwch am eu cynnwys mewn cytundeb:
- i beidio ag aflonyddu, poeni neu darfu ar eich partner
- i ddarparu cymorth ariannol (cynhaliaeth) ar gyfer eich partner. Fel arfer, fe fyddai cytundeb gwahanu yn nodi y bydd cynhaliaeth yn dod i ben os yw eich partner yn dechrau byw gyda phartner gwahanol. Nid oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol i un ohonoch gynnal y llall yn ariannol os nad ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil
- i ddarparu cymorth ariannol (cynhaliaeth) ar gyfer unrhyw blant o'r berthynas. Nid yw unrhyw gytundeb i beidio â cheisio i'r llys neu'r Asiantaeth Cynnal Plant yn y dyfodol yn cyfrif yn gyfreithiol
- gyda phwy y dylai'r plant fyw a chael cysylltiad.
Mantais cytundeb ysgrifenedig yw ei bod yn haws sicrhau bod y ddau ohonoch yn deall yr hyn a gytunwyd. Mae hefyd yn golygu y gall y naill neu'r llall ohonoch fynd i'r llys i newid y gorchymyn yn nes ymlaen. Fe'ch cynghorir i ymgynghori â chyfreithiwr wrth lunio cytundeb gwahanu, ond dylech weithio allan ymlaen llaw'r meysydd cyffredinol yr ydych am eu cynnwys. Fe fydd hyn yn gostwng y costau cyfreithiol. Efallai y byddwch yn medru cael help gyda'r costau cyfreithiol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch help gyda chostau cyfreithiol, gweler Help gyda chostau cyfreithiol neu, yng Ngogledd Iwerddon, Help gyda chostau cyfreithiol.
Nôl i’r Brig
Plant ar ddiwedd eich perthynas
Ar ddiwedd perthynas, mae'r ddau riant yn gyfrifol am gynnal eu plant yn ariannol, waeth ble y bydd y plant yn byw. Mae'r tad yr un mor gyfrifol hyd yn oed os nad ydyw'n byw gyda'r fam mwyach, a hyd yn oed os nad ydyw wedi ei enwi ar dystysgrif geni'r plentyn. Nid oes gwahaniaeth a oes cyfrifoldeb rhiant ganddo ai peidio. Fe all yr Asiantaeth Cynnal Plant gysylltu ag ef am gymorth ariannol. Am fwy o wybodaeth ynghylch trefniadau ariannol ar ddiwedd perthynas, gweler y pennawd Trefniadau ariannol ar ddiwedd perthynas.
Os mai chi yw tad y plentyn, ni fyddwch yn cael hawl awtomatig i gael llais am eu dyfodol, er efallai y byddwch yn eu cynnal yn ariannol. Fe fydd hyn yn dibynnu a oes gennych gyfrifoldeb rhiant dros eich plentyn.
Mae cael cyfrifoldeb rhiant yn golygu eich bod yn rhannu'r cyfrifoldeb dros iechyd, addysg a lles eich plentyn, gyda'ch partner.
Os nad oedd y fam a'r tad yn briod adeg geni'r plentyn, fe fydd gan y tad gyfrifoldeb rhiant os:
- mae wedi cofrestru neu ailgofrestru'r enedigaeth gyda mam y plentyn ar ôl 1 Rhagfyr 2003, neu
- mae ef a'r fam wedi gwneud cytundeb cyfrifoldeb rhiant ffurfiol, neu
- mae'r llys wedi rhoi cyfrifoldeb rhiant cyfreithiol i'r tad, neu
- mae wedi'i benodi fel gwarcheidwad.
Os ydych yn bartner lesbiaid neu hoyw i riant plentyn, nid oes gennych gyfrifoldeb rhiant awtomatig dros blentyn eich partner. Fel partner lesbiaid neu hoyw, efallai y byddwch wedi cael cyfrifoldeb rhiant trwy orchymyn llys.
Y peth gorau yw eich bod chi a'ch partner yn gallu dod i drefniant cyfeillgar ynghylch gofal eich plant. Dylai'r trefniant hwn gynnwys gyda phwy y bydd eich plant yn byw fel arfer a sut fyddan nhw'n cadw cysylltiad gyda'r rhiant arall.
Os ydych chi a'ch partner yn ei chael yn anodd cytuno rhwng eich gilydd, fe allwch ofyn am help gan y gwasanaeth cyfryngu teuluol lleol. Mae cyfryngwyr yn bobl sydd wedi eu hyfforddi i wrando ar y ddwy ochr, ac i'ch helpu chi a'ch partner i gytuno ar yr hyn sydd orau ar eich cyfer chi a'r plant. I ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, mae'n rhaid bod y ddau ohonoch yn fodlon mynd yn wirfoddol. Ni fydd unrhyw benderfyniadau a wnewch yno yn rhwymo'n gyfreithiol.I gael gwybod mwy am gyfryngu pan fydd perthynas yn chwalu, gweler y pennawd Cyfryngu teuluol.
Os nad ydych chi a'ch partner yn medru dod i gytundeb ar eich pen eich hun ac nid yw'r ddau ohonoch am ddefnyddio'r Gwasanaeth Cyfryngu, fe allwch ofyn i'r llysoedd benderfynu drosoch chi. Fe fyddwch chi angen cyngor cyfreithiol i wneud hyn.
Pa benderfyniadau y mae'r llys yn medru eu gwneud
Fe fydd llys ond yn gwneud penderfyniadau ynghylch plant os ydyw'n teimlo bod hyn er budd y plentyn. Mae llys yn medru penderfynu ynghylch:
- gyda phwy ddylai'r plentyn fyw (gelwir hyn yn orchymyn preswylio)
- gyda phwy ddylai'r plentyn gael cysylltiad a pha fath o gyswllt ddylai fod (gelwir hyn yn orchymyn cyswllt)
- a ddylai'r tad gael cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, os nad ydyw ganddo yn barod (gelwir hyn yn orchymyn cyfrifoldeb rhiant).
Gorchymyn preswylio
Mae'r llys yn medru gwneud gorchymyn preswylio o blaid:
- un rhiant neu bartner. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i'r plentyn fyw gyda'r rhiant neu bartner yna
- y ddau riant. Gellir gwneud un gorchymyn preswylio ar gyfer y ddau riant, hyd yn oed os nad ydynt yn cydfyw. Fe fydd y gorchymyn yn nodi faint o amser y bydd y plentyn yn byw gyda phob rhiant
- y naill riant neu bartner. Fe fydd gan y naill riant neu bartner neu'r llall orchymyn ar wahân yn nodi am faint o amser y bydd y plentyn yn byw gyda nhw.
Gorchymyn cyswllt
Fel arfer, fe fydd y llys yn disgwyl i chi a'ch partner wneud eich trefniadau eich hun ynghylch cadw cysylltiad gyda'ch plant. Fe fydd y llys ond yn gwneud gorchymyn llys os nad ydych yn medru cytuno.
Efallai y bydd y gorchymyn cyswllt yn cynnwys amodau. Efallai y bydd hefyd yn dweud pa fath o gyswllt y medrwch ei gael, er enghraifft, ymweld, ffonio neu ysgrifennu llythyron. Gellir hefyd gwneud gorchmynion i ganiatáu cysylltiad rhwng y plentyn a pherthnasau neu ffrindiau eraill.
Os mai chi yw'r tad, mae gennych hawl i ofyn i'r llys am orchymyn cyswllt ac fe fyddwch yn ei gael fel arfer, ac eithrio mewn amgylchiadau neilltuol.
Gorchymyn cyfrifoldeb rhiant
Os mai chi yw'r tad ac nid oes cyfrifoldeb rhiant gennych yn barod, fe fyddwch yn medru gofyn i'r llys roi gorchymyn cyfrifoldeb rhiant i chi. Mae gorchymyn cyfrifoldeb rhiant yn rhoi'r hawl i chi gadw cysylltiad uniongyrchol a rheolaidd gyda'ch plentyn. Mae'n medru bod yn syniad da gofyn i'r llys am orchymyn cyswllt a gorchymyn cyfrifoldeb rhiant ar yr un pryd. Efallai y byddwch yn medru cael help gyda chostau cyfreithiol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch help gyda chostau cyfreithiol, gweler Help gyda chostau cyfreithiol neu, yng Ngogledd Iwerddon, Help gyda chostau cyfreithiol.
Os ydych yn ystyried mynd i'r llys ynghylch trefniadau ar gyfer plant, dylech holi ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, cyfreithiwr cyfraith y teulu neu mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Am fwy o wybodaeth, yng Nghymru ac yn Lloegr, ynglyn â sut i wneud trefniadau dros eich plant pan fyddwch yn gwahanu oddiwrth eich partner, gweler Rhiant ar wahan ar wefan Advicenow yn: www.advicenow.org.uk.
Nôl i’r Brig
Trefniadau ariannol ar ddiwedd perthynas
Ar ddiwedd perthynas, mae'r ddau riant yn gyfrifol am gynnal eu plant yn ariannol, waeth ble bydd y plant yn byw.
Mae'r tad yr un mor gyfrifol, hyd yn oed os nad ydyw'n byw gyda'r fam mwyach, a hyd yn os nad ydyw wedi ei enwi ar dystysgrif geni'r plentyn. Nid oes gwahaniaeth a oes ganddo gyfrifoldeb rhiant ai peidio. Mae'r Asiantaeth Cynnal Plant yn medru cysylltu ag ef am gymorth ariannol. Am fwy o wybodaeth ynghylch cyfrifoldeb rhiant, gweler y pennawd Plant ar ddiwedd eich perthynas.
Nid yw'n ddyletswydd arnoch chi na'ch partner i gynnal y llall ar ddiwedd perthynas os nad oeddech yn briod neu mewn partneriaeth sifil. Gellir trefnu trefniadau ariannol:
- trwy gytundeb
- trwy'r Asiantaeth Cynnal Plant
- trwy'r llysoedd.
Cytuno ar gymorth ariannol
Os yw'r ddau ohonoch yn cytuno ar gymorth ariannol, gelwir hyn yn gytundeb gwirfoddol. Gellir ei ysgrifennu i lawr neu mae'n bosib mai cytundeb llafar ydyw.
Rydych yn medru cytuno, er enghraifft, y bydd un ohonoch yn gwneud taliadau wythnosol i'r llall i gynnal plant, neu'n talu'r taliadau rhent neu forgais neu biliau'r cartref, neu'n talu am ddillad a gwyliau'r plant.
Cyn i chi gytuno ar becyn o gymorth ariannol, efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi gael cyngor cyfreithiol ynghylch p'un ai ei fod yn drefniant addas ai peidio. Efallai y bydd hefyd yn ddefnyddiol cael cyfreithiwr i lunio'r cytundeb rhag ofn bod dadlau yn y dyfodol. Efallai y cewch gymorth gyda chostau gwneud cytundeb gwirfoddol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch help gyda chostau cyfreithiol, yng Nghymru a Lloegr, gweler Help gyda chostau cyfreithiol ac yng Ngogledd Iwerddon, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.
Yr Asiantaeth Cynnal Plant (CSA)
Mae'r Asiantaeth Cynnal Plant (CSA) yn asesu ac yn casglu taliadau cynhaliaeth ar gyfer plant sy'n iau nag 16 (iau na 19 os ydynt mewn addysg llawn amser sydd ddim yn addysg ddatblygedig). Os yw'ch perthynas wedi dod i ben ac mae'r plant yn byw gyda chi, rydych yn medru defnyddio'r CSA i gael cynhaliaeth ariannol i'ch plant.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cael cymorth ariannol i'ch plant trwy'r CSA, gweler Cynhaliaeth plant i rieni sy'n byw ar wahân.
Gorchmynion llys
Mewn rhai amgylchiadau, mae'r llys yn medru gwneud gorchymyn am gynhaliaeth ariannol i'r plant. Nid ydynt yn medru gwneud gorchymyn am gynhaliaeth ariannol i chi neu eich partner.
Mae llys yn medru gwneud gorchymyn i wneud taliadau rheolaidd i'r plentyn neu un swm mawr un taliad.
Os ydych yn gofyn i'r llys am gynhaliaeth ariannol i'r plant, efallai y byddwch yn medru cael help gyda'r costau cyfreithiol. Ond, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu tuag at y costau hyn allan o arian neu eiddo a gewch o ganlyniad i'r camau yn y llys. Gelwir hyn yn dâl statudol. Gwnewch yn siwr fod eich cyfreithiwr yn esbonio'r tâl statudol yn iawn cyn i chi ddechrau camau yn y llys.
Am fwy o wybodaeth ynghylch help gyda chostau cyfreithiol, yng Nghymru a Lloegr, gweler Help gyda chostau cyfreithiol ac yng Ngogledd Iwerddon, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.
Nôl i’r Brig
Yr hawl i'r ty ar ddiwedd perthynas
Ar ddiwedd eich perthynas, mae llys yn medru rhoi hawliau tymor byr i chi neu'ch partner i'r cartref, er enghraifft:
- yr hawl i aros yn eich cartref
- yr hawl i ddychwelyd adref i gasglu eich pethau
- yr hawl i atal eich partner rhag dod i'r cartref.
Os yw eich partner wedi bod yn dreisgar i chi, efallai y byddwch angen help i sicrhau eich bod yn ddiogel yn eich cartref, neu fod gennych le diogel i aros.
Am fwy o wybodaeth ynghylch help y medrwch ei gael os yw eich partner wedi bod yn dreisgar i chi, gweler Trais yn y cartref.
Mae llys hefyd yn medru gwneud trefniadau tymor hir ynghylch tai mewn rhai achosion ble mae yna blant.
Os ydych yn ystyried mynd i'r llys ynghylch eich hawliau tai ar ôl i berthynas chwalu, dylech holi ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, cyfreithiwr cyfraith y teulu neu mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Hawl perchen-breswylwyr i'r ty
Os ydych chi a'ch partner yn berchen-breswylwyr, mae'n bosib mai dim ond un ohonoch yw perchennog gwirioneddol yr eiddo. Os mai eich partner yw'r unig berchennog, nid oes hawl gennych i aros yn eich cartref os yw'ch partner yn gofyn i chi adael.
Ond, os oes plant gennych, rydych yn medru gofyn i'r llys drosglwyddo'r eiddo i'ch enw chi. Bydd y llys ond yn gwneud hyn os yw'n penderfynu ei fod er budd eich plant.
Os nad oes plant gennych, efallai y byddwch yn medru hawlio budd ariannol yn eich cartref os medrwch ddangos eich bod wedi cyfrannu’n ariannol trwy, er enghraifft, dalu tuag at welliannau neu at ad-dalu'r morgais. Os oes budd ariannol gennych yn eich cartref, efallai y byddwch yn medru atal eich partner rhag ei werthu. Fe fydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol ynghylch hyn. Mae'n bosib y medrwch gael get help gyda chostau cyfreithiol.
Os ydych yn berchen ar eich cartref ar y cyd gyda'ch partner ac yn penderfynu gadael, dylech gymryd camau i amddiffyn eich hawl i ddychwelyd yno os ydych yn dymuno gwneud hynny. Fe fydd angen i chi hefyd amddiffyn eich rhan yng ngwerth y cartref trwy sicrhau nad yw'ch partner yn ei werthu heb yn wybod i chi. Fe fydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol ynghylch hyn. Mae'n bosib y byddwch yn medru cael help gyda chostau cyfreithiol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch help gyda chostau cyfreithiol, yng Nghymru a Lloegr gweler Help gyda chostau cyfreithiol ac yng Ngogledd Iwerddon, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.
Nôl i’r Brig
Cyfryngu teuluol
Mae cyfryngu teuluol yn ffordd o'ch helpu chi a'ch partner i ddatrys anghytundebau pan fydd eich perthynas yn chwalu. Mae cyfryngwyr yn bobl sydd wedi eu hyfforddi i wrando ar y ddwy ochr, a'ch helpu chi a'ch partner i gytuno ar yr hyn sydd orau ar eich cyfer chi a'r plant. I ddefnyddio'r gwasanaeth hwn mae'n rhaid bod y ddau ohonoch yn fodlon mynd yn wirfoddol. Ni fydd unrhyw benderfyniadau a wneir yno'n rhwymo'n gyfreithiol.
Mae yna ddau brif fath o gyfryngu teuluol ar gael:-
- cyfryngu tu allan i'r llys, ble mae pobl yn medru eu cyfeirio eu hunain neu gael eu cyfeirio gan, er enghraifft, cyfreithiwr neu ymgynghorydd
- datrys dadl yn y llys, ble caiff pobl eu cyfeirio gan y llys pam mae plant yn gysylltiedig ac yn cael eu gweld yn y llys.
Cyfryngu teuluol tu allan i'r llys
Fe allwch ddefnyddio gwasanaethau cyfryngu teuluol cyn gynted â phosib ar ôl penderfynu gwahanu. Mae cyfryngu'n medru bod yn ddefnyddiol cyn cymryd unrhyw gamau cyfreithiol i annog cydweithrediad rhyngoch chi a'ch partner ac i atal dadleuon rhag gwaethygu. Rydych hefyd yn medru defnyddio cyfryngu teuluol ar ôl i chi wahanu os oes anghytundebau newydd yn dod i'r golwg neu os oes rhai sydd heb eu datrys.
Os cawsoch eich cyfeirio at gyfryngu gan gyfreithiwr, efallai y byddwch yn medru cael help ariannol gyda'r costau.
Am fwy o wybodaeth ar help ariannol gyda chostau cyfryngu teuluol, yng Nghymru a Lloegr, gweler Help gyda chostau cyfreithiol ac yng Ngogledd Iwerddon, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.
Yng Nghymru a Lloegr, mae Llinell Gymorth Cyfryngu Teuluol, a ariennir gan y Llywodraeth, yn medru rhoi manylion cyswllt cyfryngwyr teuluol lleol. Dyma fanylion cyswllt y Llinell Gymorth Cyfryngu Teuluol:
Ffôn: 0845 602 6627 E-bost: info@familymediationhelpline.co.uk Gwefan: www.familymediationhelpline.co.uk
Rydych hefyd yn medru cael gwybodaeth ynghylch cyfryngu teuluol ar wefan ADR Now yn: www.adrnow.org.uk.
Gogledd Iwerddon
Mediation Northern Ireland 83 University Street Belfast BT7 1HP
Ffôn: 028 9043 8614 Ffacs: 028 9031 4430 E-bost: info@mediationnorthernireland.org Gwefan: www.mediationnorthernireland.org
Datrys dadleuon yn y llys
Os ydych yn gofyn i'r llys i wneud penderfyniad ynghylch trefniadau ar gyfer eich plant ar ddiwedd eich perthynas, fel arfer fe fyddan nhw'n gofyn i Adroddwr Plant a Theuluoedd fod yn gysylltiedig.
Mae Adroddwyr Plant a Theuluoedd yn gweithio ar gyfer y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (Cafcass). Maen nhw'n annibynnol i'r Llysoedd ac asiantaethau eraill fel gwasanaethau cymdeithasol, awdurdodau addysg ac iechyd. Maen nhw â chymhwyster mewn gwaith cymdeithasol ac a phrofiad o weithio gyda phlant a theuluoedd.
Fe fydd yr Adroddwr Plant a Theuluoedd yn ceisio eich helpu chi a'ch partner i ddod i'r trefniadau gorau posib ar gyfer eich plant.
Weithiau, fe fydd y llys yn gofyn i chi a'ch partner ac unrhyw rieni eraill sy'n gysylltiedig i gwrdd â'r Adroddwr Plant a Theuluoedd i weld os ydych yn medru sortio pethau heb orfod parhau gyda'r achos llys. Os ydych yn medru dod i ryw drefniant ar y cam yma, fe fydd y barnwr yn medru gwneud gorchymyn i gadarnhau'r hyn a gytunwyd.
Os nad ydych yn medru dod i gytundeb, fe fydd y barnwr yn medru gorchymyn ymhellach y cynhyrchir adroddiad cyn i'r achos fynd ymhellach.
Mae cynlluniau datrys dadleuon yn y llys yn rhad ac am ddim.
Am fwy o wybodaeth ynghylch datrys dadleuon yn y llys a'r Adroddwr Plant a Theuluoedd, yn Lloegr cliciwch ar wefan Cafcass yn: www.cafcass.gov.uk, ac yng Nghymru cliciwch ar www.cafcass.gov.uk/cafcassCymru.htm.
Nôl i’r Brig
|