Chwilio am canolfan leol

Chwilio am canolfan leol

Diweddarwyd y safle:

Mawrth 22 af 2010

Y Teulu - Yng Nghymru

Gofal cymunedol

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon



Beth yw gwasanaethau gofal cymunedol

Pan fyddwn yn cyfeirio at adran gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol, mae’r term hwn yn cynnwys yr Adran Wasanaeth Cymdeithasol yn yr Alban ac Ymddiriedolaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon.

Mae gofal cymunedol yn faes cymhleth. Os ydych yn cael trafferth cael mynediad i wasanaethau gofal cymunedol, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Gwasanaethau gofal sy’n cael eu trefnu neu eu darparu gan adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol, gan fwyaf ar gyfer oedolion sydd ag anghen gofal arnyn nhw, yw gwasanaethau Gofal Cymunedol. Mae gwasanaethau Gofal Cymunedol yn cynnwys cynnig lle mewn cartref preswyl neu gymorth i’ch helpu i ddal i fyw yn eich cartref eich hun tra’n cadw cymaint o’ch annibyniaeth ag sy’n bosib.

Efallai bod angen y gwasanaethau am eich bod yn oedrannus, yn anabl neu'n sâl yn gorfforol neu'n feddyliol.

Nôl i’r brig



Pa wasanaethau a allai fod ar gael

Mae yna amrywiaeth eang o wasanaethau ar gael y gallech fod â hawl iddynt. Dyma rai o'r prif enghreifftiau yn unig:-

  • cartrefi gofal
  • gwasanaethau gofal yn y cartref
  • cymorth yn y cartref
  • addasiadau i'r cartref
  • prydau bwyd
  • gweithgareddau hamdden a galwedigaethol.

Cartrefi preswyl

Os oes angen gofal tymor-hir arnoch, a dydych chi ddim yn gallu dod i ben â byw yn eich cartref eich hun, un o’r opsiynau yw symud i gartref preswyl. Mae pob cartref preswyl yn gallu cynnig gofal personol os oes ei angen arnoch chi. Gallai hyn gynnwys help gyda gwisgo, ymolch neu mynd i’r toiled. Mae ambell i gartref preswyl yn cynnig gofal nyrsio.

Mae’r rheolau ynghylch talu am gartrefi preswyl yn wahanol i’r rheolau am daliadau am wasanaethau gofal cymunedol eraill.

Am ragor o wybodaeth am gartrefi preswyl, gan gynnwys manylion talu, gweler Cartrefi Preswyl.

Gwasanaethau gofal yn y cartref

Yn gyffredinol, mae gwasanaethau gofal yn y cartref yn golygu help gyda thasgau personol, er enghraifft, ymolchi, codi yn y bore a mynd i'r gwely gyda'r hwyr, siopa a rheoli arian. Mae darparu gofal yn y cartref yn golygu bod rhywun yn dod i'ch cartref ar adegau y cytunwyd arnynt. Gallai hyn fod ddwy neu dair gwaith y dydd neu hyd yn oed gofal 24 awr pan fydd angen.

Cymorth yn y cartref

Mae cymorth yn y cartref yn gallu darparu help gyda thasgau cyffredinol o gwmpas y ty gan gynnwys glanhau a choginio, ac efallai bod hyn yn bwysig iawn o ran cadw'r ty yn lân.

Addasiadau i'r cartref

Gallai addasiadau i'r cartref fod yn fawr neu'n fach a gallant fod yn arbennig o bwysig er mwyn eich galluogi i aros yn eich cartref. Gallai addasiadau mawr gynnwys, er enghraifft, gosod lifft ar y grisiau neu toiled ar y llawr gwaelod neu wneud arwynebau gwaith y gegin yn is. Byddai addasiadau llai yn cynnwys, er enghraifft, rêls llaw yn y gegin.

Prydau bwyd

Gallai darparu prydau bwyd fel gwasanaeth gofal cymunedol olygu dod â phryd bwyd bob dydd, neu, mewn rhai ardaloedd, dod â chyflenwad wythnosol neu fisol o fwyd wedi'i rhewi. Gallai hefyd olygu darparu prydau bwyd mewn canolfan ddydd neu glwb cinio.

Gweithgareddau hamdden a galwedigaethol

Gall awdurdod gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol ddarparu amrywiaeth o weithgareddau hamdden, galwedigaethol, addysgol a diwylliannol,mewn, er enghraifft, canolfannau dydd. Gallai'r gweithgareddau yma gynnwys darlithoedd, gêmau, teithiau a help gyda sgiliau byw a threfnu cyllid. Gallai'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol  hefyd ddarparu trafnidiaeth i'ch galluogi wneud defnydd o'r cyfleusterau.

Gall awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol hefyd ddarparu radio, teledu a/neu lyfrgell deithiol.

Nôl i’r brig



Sut i gael gwasanaethau gofal cymunedol

Fel arfer (os nad oes angen gwasanaeth brys arnoch) ni ellir darparu gwasanaeth gofal cymunedol tan i chi gael asesiad angen gan adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol. Mae'n rhaid i'r awdurdod lleol wneud asesiad ar gyfer unrhyw un sy'n ymddangos fel petaent angen gwasanaethau gofal cymunedol am eu bod, er enghraifft, yn hen, yn anabl neu'n dioddef o salwch corfforol neu feddyliol.

Os rydych chi’n credu bod angen gwasanaeth gofal cymunedol arnoch, dylech gysylltu â’ch adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol a gofyn am i asesiad. Gall gynhaliwr, ffrind neu berthynas ofyn am asesiad ar eich rhan.

Os, wedi cysylltu â'r adran gwasanaethau cymdeithasol lleol, mae yna broblemau gydag asesiad, mae'n bosib bod angen cysylltu â chynghorydd arbenigol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig



Beth yw'r drefn o ran gwneud asesiad

Rhywun o adran gwasanaethau cymdeithasol (gwaith cymdeithasol yn yr Alban, Byrddau Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon) sy'n gwneud yr asesiad, neu rywun sy'n gweithredu ar eu rhan. Gallai mwy nag un person fod yn rhan o wneud yr asesiad, gan gynnwys gweithiwr cymdeithasol, ffisiotherapydd a therapydd galwedigaethol. Gallai'r drefn asesu olygu llanw ffurflen ond bydd hyn yn amrywio o ardal i ardal.

Dylai'r asesiad ystyried:-

  • eich dymuniadau fel y person sy'n cael ei asesu
  • a oes gennych unrhyw anawsterau corfforol penodol, er enghraifft, problemau gyda cherdded neu ddringo grisiau
  • a oes gyda chi unrhyw anghenion iechyd penodol neu anghenion o gwmpas y ty
  • pa fath o help ydych chi'n ei gael, fel cynhalwyr, teulu neu ffrindiau, a pha mor barod yw'r rhain i barhau i ddarparu gofal
  • Pa anghenion sydd gan y bobl yma sy'n darparu gofal.

Beth sy'n digwydd ar ôl asesiad

Ar ôl gwneud yr asesiad, mae'n rhaid i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol benderfynu os oes gennych yr hawl i dderbyn gwasanaethau gofal a fydd yn cwrdd â’ch anghenion. Bydd hyn wedi’i seilio ar lefel eich angen, a nid ar faint o arian sydd gennych. Mae hawl i wasanaeth yn faes cymhleth.

Os fydd adran gwasanaethau cymdeithasol eich awdurdod lleol yn dweud nad oes gennych hawl i wasanaethau gofal cymunedol, dylech cysylltu â chynghorydd arbenigol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Os yw'r awdurdod lleol yn mynd i ddarparu gwasanaethau, mae'n rhaid bod cynllun gofal mewn lle. Dylai hwn fod yn ysgrifenedig os rydych yn gofyn amdano. Bydd y cynllun gofal yn nodi:-

  • y gwasanaethau a fydd yn cael eu darparu, gan bwy, pryd a beth fydd y ddarpariaeth yn ei gyflawni
  • man cyswllt i ddelio gyda phroblemau yn ymwneud â gwasanaethau
  • gwybodaeth ar sut i ofyn am adolygiad o'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu os bydd  eich amgylchiadau yn newid.

Asesiad ar gyfer cynhaliwr

Cynhaliwr yw rhywun, er enghraifft, aelod o'r teulu neu ffrind,, sy'n cymryd cyfrifoldeb dros edrych ar ôl person anabl, sâl neu hen, ac sydd ddim yn darparu'r gofal fel rhan o swydd neu fel gwirfoddolwr gyda chymdeithas wirfoddol. Mae rhai cynhalwyr yn darparu gofal am ychydig oriau'r wythnos, eraill am 24 awr y dydd, bob dydd. Nid oes yn rhaid i gynhaliwr fod yn byw gyda'r person sy'n derbyn gofal.

Mae gennych yr hawl i ofyn am asesiad o'ch hangen fel cynhaliwr pan fydd asesiad yn cael ei wneud ar gyfer y person sydd yn eich gofal. Gallwch ofyn am gael eich hasesu hyd yn oed os yw'r person sydd yn eich gofal yn gymwys i gael asesiad ond ddim yn dymuno cael un. Mae rhai cynhalwyr plant anabl hefyd yn medru cael asesiad. Yn yr Alban, mae'n rhaid i adran gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ystyried safbwyntiau'r cynhaliwr a'r person sy'n derbyn gofal wrth wneud asesiad.

Yng Nghymru a Lloegr, gall adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ddarparu gwasanaethau yn uniongyrchol ar gyfer cynhalwyr a chynnig taliadau uniongyrchol ar gyfer eich hanghenion personol chi. Fodd bynnag, mae'n rhaid ystyried canlyniad asesiad cynhaliwr pan fyddan nhw yn penderfynu pa wasanaethau gofal cymunedol y bydd y person sy'n derbyn gofal yn eu cael.

Os, wedi cysylltu â'r adran gwasanaethau cymdeithasol lleol, mae gennych broblemau gydag asesiad, efallai y bydd angen cysylltu â chyngorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan CAB. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig



Talu am wasanaethau gofal cymunedol

Mae'r rheolau ynglyn â pha wasanaethau gofal cymunedol y mae'n rhaid talu amdanynt, a faint yw'r tâl, yn gymhleth. Os ydych am wybodaeth ar hyn, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn CAB. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Gall awdurdod lleol godi tâl am ddarparu rhai gwasanaethau gofal cymunedol. Mae rhai awdurdodau lleol ond yn codi  tâl am rai gwasanaethau, er enghraifft, pryd ar glud neu gymorth yn y cartref, tra bod eraill yn codi am yr holl wasanaethau y mae hawl ganddynt godi amdanynt.

Mae’r wybodaeth isod ddim yn rhestri taliadau i gartrefi preswyl

Am ragor o wybodaeth am daliadau tra bydd rhywun yn byw mewn cartref gofal, gweler Cartrefi gofal.

Gall cynhalwyr yng Nghymru a Lloegr sy'n derbyn gwasanaethau ar gyfer eu hanghenion orfod talu amdanynt.

Os ydych chi'n byw yn yr Alban, yn 65 neu'n hyn, ac yn derbyn gofal personol neu ofal personol yn y cartref, dylech gael hyn yn rhad ac am ddim. Os fydd yr awdurdod lleol yn gwrthod cynnig gwasanaeth am ddim, mae’n bosib herio’r penderfyniad. O dan yr amgylchiadau hyn, gallech gwyno i Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban.

Mae'n rhaid i adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol sicrhau bod gwybodaeth ynglyn â thaliadau ar gael. Os bydd adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol yn asesu eich hanghenion gofal cymunedol (ac yng Nghymru a Lloegr os ydych yn cael eich anghenion fel cynhaliwr wedi eu hasesu), mae'n rhaid iddynt roi gwybodaeth lawn i chi ynglyn â thaliadau am unrhyw wasanaeth.

Mae adrannau gwasanaethau cymdeithasol rhai awdurdodau lleol yn codi tâl sefydlog ar gyfer gwasanaeth, er enghraifft, pryd ar glud. Mae'n bosib fod eraill am wybod faint o incwm a chynilion sydd gennych, ac yn codi tâl yn seiliedig ar raddfa benodol.

Mae'n rhaid i adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr gydymffurfio â'r canllawiau canlynol gan y Llywodraeth pan yn asesu faint rydych yn talu am wasanaethau:-

  • ni ddylent godi tâl arnoch os ydych yn derbyn cymhorthdal incwm, lwfans eisio gwaith sy'n seiliedig ar incwm neu Gredyd Pensiwn (credyd gwarant yn unig) ac os yw'ch incwm, ar y cyfan, yn llai na swm penodol
  • ni ddylid ystyried eich enillion chi na'ch partner
  • dylid ond ystyried eich cynilion a'ch cyfalaf (ond nid gwerth eich cartref) os ydynt yn uwch na therfyn penodol
  • yn Lloegr yn unig, os ystyrir budd-dâl nawdd cymdeithasol sy'n ymwneud ag anabledd (er enghraifft, lwfans gweini neu lwfans byw i'r anabl) mae'n rhaid asesu unrhyw dreuliau ychwanegol sydd gennych o ganlyniad i'ch anabledd (er enghraifft, costau gwresogi neu olchi dillad ychwanegol)
  • yng Nghymru, rhaid ystyried unrhyw gostau yn ymwneud ag anabledd sydd gennych
  • dylid cynnig cyngor i chi ar fudd-daliadau nawdd cymdeithasol.

Yn yr Alban dylai adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ddilyn y canllawiau sy’n berthnasol i godi tâl a gyhoeddwyd gan Gytundeb Awdurdodau lleol yr Alban (COSLA). Mae’r wybodaeth hon ar gael ar ei gwefan (New window) www.cosla.gov.uk.

Os ydych wedi derbyn cais i dalu am wasanaethau a'ch bod yn meddwl bod y taliadau yn afresymol neu na allwch fforddio eu talu, gallwch ofyn am adolygiad.

Os ydych am herio taliadau, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn CAB. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch CAB agosaf, gan gynnwys yn rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig



Taliadau uniongyrchol

Pan fydd adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol yn gwneud taliadau i bobl sydd am wneud eu trefniadau gofal cymunedol eu hunain, yn hytrach na bod yr awdurdod lleol yn ei drefnu, gelwir rhain yn daliadau uniongyrchol.

Yn Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, os fyddwch â’r hawl i dderbyn gwasanaethau gofal cymunedol, mae'n ddyletswydd ar awdurdod lleol i ddarparu taliadau uniongyrchol tra eich bod yn medru rheoli taliad uniongyrchol.

Yn yr Alban, mae'n ddyletswydd ar adrannau gwasanaethau cymunedol awdurdodau lleol i gynnig taliadau uniongyrchol ar gyfer rhai gwasanaethau penodol i bob un sy'n gymwys. Mae'r rheiny sy'n gymwys yn cynnwys:

  • oedolion anabl
  • pobl ifanc 16 a 17 oed sy'n anabl
  • pobl â chyfrifioldeb rhiant dros blentyn anabl
  • twrneiod neu warchodwyr sydd â'r pwer i weithredu ar ran person anabl.

Dylai swm y taliadau uniongyrchol rydych yn eu derbyn fod yn ddigonol i dalu cost y gwasanaethau sydd arnoch eu heisiau. Mae hyn yn cynnwys y costau y mae rhaid i chi dalu er mwyn derbyn y gwasanaeth. Er enghraifft, os fyddwch yn cyflogi eich cynhaliwr eich hun, bydd rhaid i chi dalu costau recriwtio, cyflog gwyliau a salwch ac yswiriant.

Mae’n bosib y bydd rhaid i chi dalu am wasanaethau sydd wedi eu trefnu gan adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol, ac yn yr un modd, mae’n bosib y bydd rhaid i chi gyfrannu tuag at gost y gwasanaethau rydych yn eu prynu gyda’ch taliadau uniongyrchol. Bydd adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol yn gweithio hyn allan yn yr un ffordd ag y mae’n gweithio allan faint sydd rhaid i chi dalu tuag at wasanaethau sydd wedi eu trefnu gan yr awdurdod (gweler y pennawd Talu am wasanaethau gofal cymunedol). Byddant naill yn tynnu eich cyfraniad cyn talu’r taliad uniongyrchol i chi neu’n talu’r taliad uniongyrchol yn llawn ac yn disgwyl eich bod chi’n ad-dalu’ch cyfraniad.

Os fyddwch yn derbyn cynnig o daliad uniongyrchol, nid oes rhaid i chi ei dderbyn os fyddai’n well ‘da chi bod adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol yn trefnu gwasanaeth ar eich rhan.

Os fyddwch yn derbyn taliadau uniongyrchol, bydd rhaid i chi drefnu’ch gwasanaeth eich hun. Mae’n bosib y bydd mudiadau cynnal lleol yn gallu eich helpu gydag unrhyw drefniadau.

Mae gan Canolfan Cenedlaethol Byw'n Annibynnol restr o'r cymdeithasau yma. Mae croeso i chi gysylltu â nhw ar:-

The National Centre for Independent Living
Unit 3.40
Canterbury Court
1-3 Brixton Road
London
SE9 6DE

Ffôn: 020 7587 1663
Ffacs: 020 7582 2469
TypeTalk: 18001 020 7587 1663
E-bost: info@ncil.org.uk
Gwefan: (New window) www.ncil.org.uk

Nôl i’r brig



Cwynion

Os nad ydych yn fodlon gyda safon gwasanaethau gofal cymunedol a gynigir gan eich awdurdod lleol, efallai y byddwch yn medru cwyno. Fe fyddwch yn medru cysylltu â nhw i holi am eu gweithdrefn gwyno.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cwyno yn Lloegr, gweler Cwynion ynghylch y GIG ac adrannau gwasanethau cymdeithasol awdurdodau lleol. Yn yr Alban, gweler Cwynion ynghylch y GIG ac yng Nghymru, gweler Cwynion am y GIG yng Nghymru ac yng Ngogledd Iwerddon, gweler HPSS cwynion yng Ngogledd Iwerddon.

Nôl i’r brig



Help arall

Os ydych chi angen gwasanaethau gofal cymunedol am eich bod yn anabl, gwnewch yn siŵr eich bod hefyd yn hawlio'r holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt. Efallai y bydd help arall ar gael, er enghraifft, consesiynau teithio. Efallai y byddwch yn medru cyflwyno cais i'r Cronfeydd Byw'n Annibynnol am arian i'ch helpu i fyw gartref yn lle mewn gofal preswyl. Mae'r Gronfa Byw'n Annibynnol yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i ddarparu arian i dalu am rywun i'ch helpu chi gartref.

Os ydych yn gynhaliwr, mae gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol linell gymorth i gynhalwyr, o’r enw Carers Direct, sy’n rhoi cyngor a gwybodaeth ynghylch gwasanaethau gofal cymunedol, budd-daliadau a materion eraill.

Rhif ffôn y llinell gymorth yw: 0808 802 0202 ac rydych hefyd yn medru chwilio ar eu gwefan yn:(New window) www.nhs.uk/carersdirect.

Am fwy o wybodaeth ynghylch budd-daliadau, gweler Budd-daliadau i bobl sy'n sâl neu'n anabl.

Am fwy o wybodaeth ynghylch consesiynau teithio, gweler Dewisiadau trafnidiaeth ar gyfer pobl anabl.

Am fwy o wybodaeth ynghylch y Gronfa Byw'n Annibynnol, gweler Cymorth ariannol i bobl sy'n ddifrifol anabl - Y Cronfeydd Byw'n Annibynnol.

Nôl i’r brig