Jump to the Adviceguide home page
Adviceguide, advice that makes a difference
skip navigation
Jump to the Adviceguide home page
 England   Northern Ireland   Scotland   Wales   Cymru 
Eich arian
Eich teulu
Eich byd chi
Eich hawliau chi

:

 

(New window) Dod o hyd i'ch CAB agosaf

(New window) Ydyn ni wedi bod o gymorth? Plîs, cefnogwch ni

(New window) Gwirfoddolwch

 

Y tro diwethaf y diweddarwyd y safle oedd Ionawr 7 af 2009.

Fe fydd pob dolen gyswllt at wefannau eraill yn agor mewn ffenestr newydd.

Cymru    Y Teulu    Partneriaethau sifil a chydfyw – gwahaniaethau cyfreithiol  

Y Teulu - Yng Nghymru

 

 


Partneriaethau sifil a chydfyw – gwahaniaethau cyfreithiol

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru a Lloegr



Ynglŷn â'r wybodaeth yma

Mae'r wybodaeth yma'n ymwneud â'r gwahaniaethau cyfreithiol rhwng partneriaethau sifil a chydfyw. Mae'r wybodaeth ond yn berthnasol i barau o'r un rhyw.

Am wybodaeth yng Nghymru a Lloegr ynghylch y gwahaniaethau cyfreithiol rhwng cydfyw a phriodas, gweler Cydfyw a phriodas – gwahaniaethau cyfreithiol.

Nôl i’r Brig



Beth yw cydfyw

Os ydych mewn perthynas hoyw neu lesbiaidd, mae cydfyw yn golygu cydfyw fel pâr heb gofrestru partneriaeth sifil. Mewn rhai meysydd yn y gyfraith, efallai na fydd gennych yr un hawliau ag y byddai gennych petaech yn cofrestru eich partneriaeth sifil, er, mewn meysydd eraill yn y gyfraith fe fydd gennych yr un hawliau.

Os ydych am nodi eich hawliau cyfreithiol mewn meysydd penodol o’ch perthynas gyda'ch partner, fe fyddwch yn medru dod i gytundeb swyddogol a gydnabyddir gan y llysoedd. Gelwir hyn yn gytundeb neu’n gontract cydfyw.

Mae'r cytundeb hwn yn medru bod ynghylch, er enghraifft, rhannu cyfrifoldeb dros eich plant, perchnogaeth eiddo yr ydych yn byw ynddo, a pherchnogaeth eiddo sy'n eiddo i'r ddau/ddwy ohonoch. Fe fyddwch chi angen help cyfreithiwr profiadol i wneud hyn.

Er bod y llysoedd yn cydnabod cytundeb cydfyw, efallai y bydd yn anodd gorfodi eich partner i gadw at amodau'r cytundeb. Dylech gael cyngor cyfreithiol os ydych yn y sefyllfa hon.

Am ragor o wybodaeth ynglyn â chytundebau cydfyw gweler Cytundebau Cydfyw neu wefan Advicenow yn: (New window) www.advicenow.org.uk.

Nôl i’r Brig



Beth yw partneriaeth sifil

Mae partneriaeth sifil yn berthynas gyfreithiol y mae dau berson o'r un rhyw yn medru ei chofrestru os nad ydynt yn perthyn i'w gilydd. Os ydych mewn perthynas hoyw neu lesbiaidd, fe fydd cofrestru partneriaeth sifil yn rhoi cydnabyddiaeth gyfreithiol i'ch perthynas. Fe fydd hyn yn rhoi hawliau ychwanegol i chi, yn ogystal â chyfrifoldebau.

Unwaith y byddwch chi wedi cofrestru partneriaeth sifil, gellir ond ei diweddu os yw un ohonoch yn marw, neu trwy ofyn i'r llys i ddod â'r bartneriaeth i ben yn gyfreithiol.

Ni fyddwch yn medru gofyn am ddod â phartneriaeth sifil i ben hyd nes ei bod wedi para am o leiaf un flwyddyn.

Am fwy o wybodaeth ynghylch partneriaethau sifil, gweler Cofrestru partneriaeth sifil.

Am fwy o wybodaeth ynghylch dod â phartneriaeth sifil i ben, gweler Dod â phartneriaeth sifil i ben.

Cytundebau cyn-cofrestru

Fel partneriaid sifil, rydych yn medru dewis llunio cytundeb, a elwir yn gytundeb cyn-cofrestru, cyn i chi gofrestru eich partneriaeth. Mae cytundeb cyn-cofrestru yn medru nodi eich hawliau a'ch rhwymedigaethau tuag at eich gilydd ac, yn benodol, beth ddylai ddigwydd os digwydd i'ch perthynas chwalu. Mae'n medru cynnwys trefniadau ar gyfer plant a'ch eiddo personol, er enghraifft, cartref y teulu ac unrhyw bensiynau. Dylai'r ddau/ddwy ohonoch gael cyngor cyfreithiol annibynnol pan fyddwch chi'n llunio cytundeb. Nid yw cytundeb cyn-cofrestru yn rhwymo'n gyfreithiol ond mae'n medru dylanwadu ar y llysoedd os ydynt yn gysylltiedig pan fydd eich partneriaeth sifil yn chwalu.

Nôl i’r Brig



Mabwysiadu

Mae dau bartner sifil neu bâr o'r un rhyw sy'n cydfyw yn medru mabwysiadu plentyn gyda'i gilydd.

Rydych yn medru dewis mabwysiadu plentyn eich partner yn gyfreithiol. Os ydych mewn partneriaeth sifil, fe fydd y weithdrefn hon yn syml ac ni fydd unrhyw asiantaeth yn gysylltiedig, tra bod yr ymgeisydd wedi byw gyda'r plentyn ers o leiaf chwe mis. Os nad ydych mewn partneriaeth sifil, mae'r weithdrefn yn debygol o gymryd mwy o amser.

Mabwysiadu o dramor

Mae'r gyfraith ar fabwysiadu yn wahanol, gan ddibynnu o ba wlad yr ydych chi'n mabwysiadu. Efallai na fydd rhai gwledydd yn caniatáu i barau o'r un rhyw fabwysiadu, hyd yn oed os ydych yn bartneriaid sifil. Os ydych am fabwysiadu o du allan i'r Deyrnas Unedig, fe fyddwch angen cyngor gan gynghorydd yn y Deyrnas Unedig sy'n arbenigo ar fabwysiadu o dramor.

Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i ddod o hyd i gynghorydd sy'n arbenigo ar fabwysiadu o dramor, gweler Mabwysiadu plentyn yn y Taflenni ffeithiau ar y teulu.

Nôl i’r Brig



Bancio

Bancio a chydfyw

Os ydych yn cydfyw gyda'ch partner ac mae gan y ddau/ddwy ohonoch gyfrif banc ar wahân, ni fydd un ohonoch yn medru cael mynediad at arian sydd yng nghyfrif y llall.

Os yw un ohonoch yn marw, fe fydd unrhyw arian sydd yn y cyfrif yn eiddo i'r person a fu farw ac ni ellir ei ddefnyddio hyd nes setlo'r ystâd.

Os oes cyfrif ar y cyd gennych chi a'ch partner, fe fydd gan y ddau ohonoch fynediad at yr arian yn y cyfrif.

Os yw'r cyfrif yn enw'r ddau/ddwy ohonoch, ac mae un ohonoch yn marw, mae'r cyfrif cyfan yn dod yn eiddo i'r partner arall ar unwaith.

Bancio a phartneriaethau sifil

Os oes cyfrif banc ar wahân gennych chi a'ch partner sifil ac mae un ohonoch yn marw, efallai y bydd y banc yn gadael i'r llall dynnu unrhyw arian sy'n weddill allan o'r cyfrif. Byddai angen bod y swm sy'n weddill yn swm bach. Fwy na thebyg y byddai'r banc angen prawf o'ch perthynas a hefyd prawf bod eich partner wedi marw.

Os oes cyfrif ar y cyd gennych, mae'r arian yn eiddo i'r ddau/ddwy ohonoch, waeth pwy sydd wedi talu'r arian i mewn i'r cyfrif. Mae dyledion a gorddrafftiau ar gyfrif banc ar y cyd yn gyfrifoldeb i chi ac i'ch partner. Nid oes gwahaniaeth dyled pwy ydyw.

Os oes un ohonoch yn marw, mae'r cyfrif cyfan yn dod yn eiddo i'r llall ar unwaith.

Nôl i’r Brig



Marwolaeth ac etifeddiant

Etifeddiant a chydfyw

Os yw un ohonoch yn marw heb adael ewyllys, mae yna reolau ynghylch dosbarthu eich eiddo. Ni fydd y partner sydd ar ôl yn etifeddu unrhyw beth yn awtomatig onid ydych chi a'ch partner yn berchen ar eiddo gyda'ch gilydd.

Pan fydd un ohonoch yn marw ac mae yna ewyllys dilys, yna fe fydd y partner sydd ar ôl yn etifeddu o dan amodau'r ewyllys os ydyw'n darparu ar ei g/chyfer.

Os ydych chi a'ch partner yn cydfyw, fe fydd angen i'r ddau/ddwy ohonoch wneud ewyllys i sicrhau y darperir ar gyfer eich partner.

Os yw eich partner yn gadael eiddo i chi, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth etifeddiant arno os ydyw'n werth mwy na swm penodol. Pan fydd partner sifil yn marw, nid oes treth etifeddiant wrth drosglwyddo'r eiddo. Ond, ni fyddwch yn cael eich eithrio os oeddech chi a'ch partner yn cydfyw ac heb fod mewn partneriaeth sifil.

Etifeddiant a phartneriaethau sifil

Os ydych chi neu eich partner yn marw heb wneud ewyllys, fe fydd y partner arall yn dal i etifeddu rhywfaint, neu efallai'r cyfan, o'ch eiddo.

Os yw eich partner sifil yn marw ac wedi gwneud ewyllys, fe fyddwch yn etifeddu o dan amodau'r ewyllys os ydyw'n darparu ar eich cyfer.

Os yw eich partner sifil yn gadael eiddo i chi, nid oes rhaid i chi dalu treth etifeddiant arno.

Etifeddiant a phlant

Os ydych yn ysgrifennu ewyllys, fe fyddwch yn medru gadael eich arian, eiddo ac unrhyw beth sydd gennych i bwy bynnag a ddymunwch. Mae hyn yn medru cynnwys plant eich partner.

Os nad oes ewyllys, mae gan blentyn hawl cyfreithiol i etifeddu gan y ddau riant biolegol, ac oddi wrth deulu estynedig y ddau riant yma.

Os nad oes ewyllys, mae gan blentyn yr hawl i etifeddu gan naill ai eu rhiant biolegol neu riant sydd wedi eu mabwysiadu.

Nid oes gan blentyn yr hawl i etifeddu o ystâd llys-riant onid yw'r llys-riant wedi eu mabwysiadu neu wedi darparu ar eu cyfer yn eu hewyllys.

Nôl i’r Brig



Dyledion

Os oes dyledion neu gyfrifoldebau ariannol eraill gennych, nid yw'r rhain yn dod yn gyfrifoldeb ar eich partner pan fyddwch yn symud i mewn gyda nhw. Dyma'r achos waeth a ydych chi'n bartneriaid sifil ai peidio.

Rydych chi'n gyfrifol am ddyledion yn eich enw eich hun, ond nid y rheiny sydd yn enw eich partner. Rydych hefyd yn gyfrifol am ddyledion sydd yn y ddau enw ac efallai y byddwch yn gyfrifol am rai dyledion sydd ddim yn y ddau enw, fel treth cyngor. Dyma'r achos waeth a ydych chi'n bartneriaid sifil ai peidio.

Am ragor o wybodaeth am ddyledion ar y cyd pan fyddwch yn gwahanu oddiwrth eich partner, gweler Rhestr wirio Gwahanu ar wefan Advicenow yn: (New window) www.advicenow.org.uk.

Nôl i’r Brig



Trais yn y cartref

Os yw'ch partner yn dreisgar tuag atoch chi neu eich plant, rydych yn medru gofyn i'r llys am amddiffyniad. Rydych yn medru gwneud hyn waeth a ydych chi'n bartner sifil neu'n cydfyw. Ond, os nad ydych yn bartner sifil, mae yna lai o bethau y mae'r llys yn medru eu gwneud i'ch amddiffyn.

Os yw dyn yn treisio’i bartner, gellir ei gael yn euog o'r drosedd hon. Mae hyn yn berthnasol waeth a ydych chi'n bartneriaid sifil neu'n cydfyw. Gellir hefyd ei gael yn euog o ymosodiad rhywiol.

Nid yw menyw'n medru treisio menyw arall yn ôl y gyfraith, er y gellir ei chyhuddo o droseddau eraill, fel ymosodiad rhywiol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch trais yn y cartref, gweler Trais yn y cartref.

Nôl i’r Brig



Dod â pherthynas i ben

Os ydych yn cydfyw gyda'ch partner ac nid ydych mewn partneriaeth sifil, rydych chi'n medru gwahanu'n anffurfiol heb fynd i'r llys. Ond, mae gan y llys y pŵer i wneud penderfyniadau ynghylch pwy ddylai ofalu am unrhyw blant sydd gan y teulu.

Os ydych mewn partneriaeth sifil, rydych chi a'ch partner yn medru gwahanu'n anffurfiol, ond fe fydd angen i chi ofyn i'r llys os ydych am ddiweddu eich partneriaeth sifil yn ffurfiol.

Os ydych yn diddymu partneriaeth sifil neu'n gwahanu'n gyfreithiol, ni fydd y llys yn diweddu'r berthynas hyd nes y bydd wedi edrych ar y trefniadau ar gyfer y plant.

Plant ar ddiwedd perthynas

Pan ddaw perthynas i ben, mae angen i bob un sydd â chyfrifoldeb rhiant benderfynu pwy fydd yn gofalu am y plant o ddydd i ddydd.

Mae cael cyfrifoldeb rhiant yn golygu bod peth cyfrifoldeb gennych dros iechyd, addysg a lles plentyn.

Os ydych chi'n bartner lesbiaidd neu hoyw i riant plentyn, nid oes cyfrifoldeb rhiant awtomatig gennych dros blant eich partner. Ond, efallai eich bod wedi cael cyfrifoldeb rhiant trwy gael gorchymyn llys neu, os ydych yn bartner sifil, trwy ddod yn lys-rhiant - gweler y pennawd Cyfrifoldeb dros blant.

Os ydych chi a'ch partner yn ei chael yn anodd cytuno rhwng eich gilydd ynghylch gofal eich plant, fe fyddwch yn medru gofyn am help gan y Gwasanaeth Cyfryngu Teuluol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cyfryngu teuluol, gweler Dod â pherthynas i ben pan rydych chi'n cydfyw a Dod â phartneriaeth sifil i ben.

Os nad ydych chi a'ch partner yn medru dod i gytundeb ar eich pen eich hun ac nid yw'r ddau ohonoch am ddefnyddio'r Gwasanaeth Cyfryngu, rydych chi'n medru gofyn i'r llys i wneud y penderfyniad yma drosoch. Fe fyddwch angen cyngor cyfreithiol i wneud hyn.

Fel arfer, fe fydd y llys yn caniatáu cysylltiad rhwng y plentyn a'r rhiant nad ydyw'n byw gydag ef/hi onid oes amgylchiadau neilltuol. Gellir dyfarnu gorchmynion cysylltiad o blaid unrhyw un, nid dim ond rhiant neu berthynas.

Am fwy o wybodaeth ynghylch plant ar ddiwedd perthynas, gweler Dod â pherthynas i ben pan rydych chi'n cydfyw a Dod â phartneriaeth sifil i ben.

Cymorth ariannol

Cymorth ariannol a chydfyw

Nid yw'n gyfrifoldeb cyfreithiol arnoch chi na'ch partner i gefnogi'r llall yn ariannol ar ddiwedd perthynas os nad oeddech mewn partneriaeth sifil. Ond, fe fyddwch yn gyfrifol yn gyfreithiol am gynnal plentyn os mai chi yw rhiant biolegol neu riant maeth y plentyn. Mewn rhai achosion, efallai hefyd y byddwch yn gorfod cynnal plentyn os mai chi yw'r llys-riant.

Gellir gwneud trefniadau ariannol:

  • trwy ddod i gytundeb gwirfoddol gyda'ch partner
  • trwy'r Asiantaeth Cynnal Plant (CSA)
  • trwy'r llysoedd.

Os ydych yn dod i gytundeb gwirfoddol gyda'ch partner i dalu cymorth ariannol, efallai y bydd yn anodd eu gorfodi i gadw ato.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cymorth ariannol ar ddiwedd perthynas pan rydych chi'n cydfyw, gweler Dod â pherthynas i ben pan rydych chi'n cydfyw.

Cymorth ariannol a phartneriaethau sifil

Mae'n gyfrifoldeb cyfreithiol arnoch chi a'ch partner i'ch cynnal eich gilydd yn ariannol pan fydd eich partneriaeth sifil wedi dod i ben.

Rydych hefyd yn gyfrifol am gynnal plentyn os ydych yn rhiant biolegol neu'n rhiant maeth i'r plentyn. Mewn rhai achosion, efallai y byddwch hefyd yn gorfod cynnal plentyn os mai chi yw'r llys-rhiant.

Gellir gwneud trefniadau ariannol:

  • trwy ddod i gytundeb gwirfoddol gyda'r partner
  • trwy'r Asiantaeth Cynnal Plant (CSA)
  • trwy'r llysoedd.

Rydych chi'n medru cael help i gytuno ar drefniadau ariannol gyda'ch partner gan eich Gwasanaeth Cyfryngu Teuluol lleol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cyfryngu ac am gymorth ariannol ar ddiwedd partneriaeth sifil, gweler Dod â phartneriaeth sifil i ben.

Nôl i’r Brig



Tai

Os ydych yn cydfyw mewn llety wedi'i rhentu

Os ydych yn byw mewn llety wedi'i rhentu gyda'ch partner, mae un ohonoch, neu'r ddau/ddwy ohonoch, yn medru bod yn denantiaid. Os yw'ch partner yn gadael, neu'n gofyn i chi adael ac nid yw eich enw ar y denantiaeth, yna fel arfer ni fydd gennych hawl i aros yn y llety. Mae hyn yn berthnasol waeth a ydych chi'n byw mewn llety wedi'i rhentu'n breifat neu lety'r sector cyhoeddus.

Ond, mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddwch yn medru gofyn i'r llys i roi hawliau tymor byr i chi i aros yn y llety neu i drosglwyddo'r denantiaeth i'ch enw chi. Dylech gael cyngor cyfreithiol cyn gwneud hyn.

Os ydych yn cydfyw gyda'ch partner mewn llety wedi'i rhentu, fel arfer fe'ch cynghorir i fod yn denantiaid ar y cyd. Fe fydd hyn yn rhoi'r un hawliau a chyfrifoldebau i'r ddau/ddwy ohonoch. Os yw'r denantiaeth yn enw un ohonoch yn unig, efallai y bydd yn bosib ei newid i denantiaeth ar y cyd tra bod yr un sy'n denant, a'r landlord, yn cytuno.

Os yw'ch partner yn marw ac nid yw eich enw ar y denantiaeth, efallai y bydd hawl gennych i barhau i fyw yn y llety. Os ydych yn y sefyllfa yma, dylech gael cyngor cyfreithiol.

Os ydych yn byw mewn llety wedi'i rhentu, efallai y byddwch angen cyngor ar eich hawliau i aros yn y llety neu ar gymryd tenantiaeth ar y cyd. Fe fyddwch yn medru cael help a chyngor gan eich CAB lleol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Partneriaid sifil sy'n byw mewn llety wedi'i rhentu

Mae gennych chi a'ch partner sifil yr hawl i aros yn eich cartref, waeth enw pwy sydd ar y cytundeb tenantiaeth. Os yw'ch partner yn gofyn i chi adael, nid oes rhaid i chi fynd onid yw'r llys wedi gorchymyn eich bod yn mynd. Mae'r llys yn medru eich gorchymyn i adael eich cartref pan yn delio gyda chwalu yn eich partneriaeth sifil.

Os yw'ch partner yn marw ac nid yw'ch enw ar y denantiaeth, efallai y bydd hawl gennych i barhau i fyw yn y llety. Os ydych yn y sefyllfa yma, dylech gael cyngor cyfreithiol.

Os ydych yn byw mewn llety wedi'i rhentu, efallai y byddwch angen cyngor ar eich hawliau i aros yn y llety os yw eich partneriaeth sifil yn dod i ben neu os ydych chi neu'ch partner yn marw. Fe fyddwch yn medru cael help a chyngor gan eich CAB lleol. I chwilio am fanylion eich CAB lleol, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Perchen-breswylwyr sy'n cydfyw

Efallai bod eich cartref yn eiddo i un ohonoch yn unig, neu efallai eich bod yn berchen ar yr eiddo ar y cyd.

Os mae eich partner yw'r unig berchennog, efallai na fydd unrhyw hawl gennych i aros yn y cartref os yw'ch partner yn gofyn i chi adael. Ond, os oes plant gennych, fe fyddwch yn medru gofyn i'r llys i drosglwyddo'r eiddo i'ch enw chi. Fe fydd y llys ond yn gwneud hyn os yw'n penderfynu bod hyn er budd eich plant. Os nad oes plant gennych, efallai y byddwch yn medru hawlio budd ariannol yn eich cartref os ydych yn medru dangos eich bod wedi cyfrannu'n ariannol trwy, er enghraifft, dalu am welliannau neu tuag at daliadau morgais. Os oes budd ariannol gennych yn y cartref, efallai y byddwch yn medru atal y person arall rhag ei werthu. Fe fydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol ynghylch p'un ai fod gennych fudd ariannol ai peidio.

Os yw'ch perthynas yn dod i ben ac mae yna blant yn gysylltiedig, mae gan y llys y pŵer i orchymyn trosglwyddo'r eiddo fel rhan o drefniant mwy i sicrhau llety ar gyfer y plant. Fel arfer gwneir hyn am gyfnod cyfyngedig, er enghraifft, hyd nes bod y plentyn ieuengaf yn 18 oed.

Os yw eich perthynas wedi chwalu, dylech gael cyngor gan gynghorydd cyfreithiol sy'n arbenigo mewn perthnasau sy'n chwalu.

Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i ddod o hyd i gynghorydd cyfreithiol, gweler Defnyddio cyfreithiwr.

Perchen-breswylwyr a phartneriaethau sifil

Mae gennych chi a'ch partner sifil yr hawl i aros yn eich cartref, waeth pwy sy'n berchen ar yr eiddo neu enw pwy sydd ar y morgais.

Os yw'ch partner yn gofyn i chi adael, nid oes rhaid i chi fynd onid yw'r llys wedi gorchymyn eich bod yn mynd. Fe fydd y llys yn medru gorchymyn eich bod yn gadael eich cartref wrth ddelio gyda chwalu yn eich partneriaeth sifil.

Os daw eich perthynas i ben ac mae yna blant yn gysylltiedig, mae gan y llys y pŵer i orchymyn trosglwyddo'r eiddo fel rhan o drefniant mwy er mwyn sicrhau llety ar gyfer y plant. Fel arfer, gwneir hyn am gyfnod cyfyngedig, er enghraifft, hyd nes bod y plentyn ieuengaf yn 18 oed.

Os yw eich partneriaeth sifil wedi chwalu, dylech gael cyngor gan gynghorydd cyfreithiol sy'n arbenigo mewn perthnasau sy'n chwalu.

Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i ddod o hyd i gynghorydd cyfreithiol, gweler Defnyddio cyfreithiwr.

Nôl i’r Brig



Caniatâd meddygol a'r perthynas agosaf

Pan rydych chi'n cydfyw

Nid oes hawl gan unrhyw un i roi caniatâd am driniaeth feddygol i oedolyn arall. Ond, yn ymarferol, mae meddygon yn trafod penderfyniadau gyda theulu'r claf fel arfer, ac fel arfer ni ddylai hyn eithrio partner sy'n byw gyda chi ond sydd ddim yn bartner sifil i chi.

Os nad yw ysbyty yn medru cael caniatâd am driniaeth feddygol gan glaf am eu bod yn anymwybodol neu'n analluog yn feddyliol am unrhyw reswm arall, maen nhw'n medru gofyn am ganiatâd gan y perthynas agosaf.

Nid oes unrhyw reswm cyfreithiol pam na fyddai ysbyty'n medru eich derbyn chi fel perthynas agosaf eich partner. Yn ymarferol, fe arfer fe fydd llawer o ysbytai a sefydliadau eraill fel carchardai yn derbyn enw rhywun sy'n byw gyda chi fel eich perthynas agosaf. Os ydych chi am enwi eich partner fel y perthynas agosaf, dylech fynnu ar hyn. Ond, nid oes llawer y medrwch ei wneud os yw'r sefydliad yn dal i wrthod ei dderbyn.

Partneriaid sifil

Nid oes hawl gennych i roi caniatâd dros driniaeth feddygol ar gyfer eich partner sifil, onid yw'r ysbyty'n methu â chael caniatâd am fod eich partner yn anymwybodol neu'n analluog yn feddyliol am ryw reswm arall.

Os ydych yn bartner sifil, fe fydd gennych awdurdod bob tro i weithredu fel perthynas agosaf eich partner.

Os ydych yn byw gyda rhywun sydd â phlentyn ac nid oes cyfrifoldeb cyfreithiol gennych dros y plentyn yna, nid oes gennych awdurdod awtomatig i roi caniatâd os oes angen triniaeth feddygol ar y plentyn. Ond, mae eich partner yn medru trefnu i chi weithredu ar ran eich partner.

Am ragor o wybodaeth am ganiatad meddygol a pherthynas agosaf, ewch i wefan Advicenow yn: (New window) www.advicenown.org.uk.

Nôl i’r Brig



Arian ac eiddo

Cydfyw

Mae perchnogaeth eiddo a rennir yn medru bod yn eithaf cymhleth ond mae yna rai rheolau cyffredinol sy'n berthnasol. Er enghraifft, mae eiddo yr oeddech yn berchen arno cyn i chi ddechrau byw gyda'ch partner yn dal i fod yn eiddo i chi ac, yn gyffredinol y person a brynodd eitem sy'n berchen arno. Fe fydd eitem yn eiddo ar y cyd os prynwyd yr eitem gan ddefnyddio cyfrif ar y cyd. Os ydych yn rhoi eiddo i'ch partner, fe fydd yn eiddo i'ch partner. Ond, mae'n medru bod yn anodd profi hyn.

Os ydych yn rhoi arian i'ch partner i gadw'r tŷ, fwy na thebyg y bydd unrhyw eiddo a brynir gyda chynilion ohono yn eiddo i chi. Mae hyn yn wahanol i'r sefyllfa mewn partneriaeth sifil ble byddai cynilion o'r arian i gadw'r tŷ fel arfer yn cael ei rhannu'n gyfartal rhwng y ddau bartner sifil.

Partneriaethau sifil

Mae gennych chi a'ch partner sifil yr hawl i gaffael ac i gadw unrhyw dir, eiddo, cynilion neu fuddsoddiadau eich hun yn ystod eich partneriaeth sifil. Os oeddech yn berchen ar unrhyw eiddo cyn i chi gofrestru eich partneriaeth sifil, fe fydd hyn fel arfer yn cael ei weld fel eich eiddo chi. Ond, os yw'ch perthynas yn chwalu, fe fydd unrhyw eiddo sy'n berchen i chi neu eich partner yn cael ei ystyried wrth ddod i drefniant terfynol.

Os yw'ch ffrindiau neu berthnasau yn rhoi anrhegion i chi ar gyfer cofrestru partneriaeth sifil sydd ddim yn cymryd lle, gwelir y rhain fel eich eiddo chi, onid ydych wedi cytuno fel arall gyda'ch partner. Mae'r un peth yn berthnasol i'ch partner.

Nôl i’r Brig



Enwau

Mae'r rheolau ynghylch yr enw y medrwch ei ddefnyddio yr un peth waeth a ydych chi a'ch partner yn cydfyw neu'n bartneriaid sifil. Mae gennych yr hawl i gael eich galw pa bynnag yr enw y dymunwch ac rydych yn medru newid yr enw yma ar unrhyw adeg.

Os ydych yn cofrestru partneriaeth sifil, nid oes gofyniad cyfreithiol i chi gymryd cyfenw eich partner.

Mae dau berson sy'n cydfyw yn medru dewis defnyddio'r un enw teuluol, ond yn gyfreithiol nid oes yn rhaid iddynt.

Waeth a ydych chi'n bartner neu'n bartner sifil, rydych yn dal i fedru cael eich galw wrth eich cyfenw gwreiddiol a chyfenw eich partner. Os yw'r berthynas yn chwalu neu'ch partner yn marw, rydych yn medru parhau i ddefnyddio enw eich partner, neu rydych yn medru mynd yn ôl at eich cyfenw gwreiddiol.

Nôl i’r Brig



Pensiynau

Cydfyw

Mae rheolau gwahanol gynlluniau pensiwn yn amrywio. Fe fydd p'un ai y medrwch elwa o gynllun y mae'ch partner yn perthyn iddo yn dibynnu ar y cynllun. Mae'r rhan fwyaf o gynlluniau'n cynnig budd-daliadau i blant dibynnol ac fe fydd rhai'n cynnig budd-daliadau i bartner dibynnol.

Os yw'r cynllun yn cynnig budd-daliadau i bartner o'r rhyw arall, dylai hefyd gynnig budd-daliadau i bartner mewn perthynas o'r un rhyw. Mae cynlluniau sy'n cynnig budd-daliadau i bartneriaid gwahanrywiol yn unig yn torri deddfau gwahaniaethu.

Rydych yn medru trefnu pensiwn personol i gynnwys pwy bynnag yr ydych yn ei ddymuno, tra'ch bod yn barod i dalu'r hyn sy'n medru bod yn gyfraniadau sylweddol i'r gronfa bensiwn.

Os nad ydych yn bartner sifil, nid ydych yn medru hawlio pensiwn ymddeol y wladwriaeth ar sail cyfraniadau yswiriant gwladol eich partner.

Os ydych yn gwahanu wrth eich partner, nid oes hawl awtomatig gan eich partner i'ch pensiwn. Efallai hefyd na fydd hawl awtomatig gan eich partner i'ch pensiwn pan fyddwch yn marw.

Am fwy o wybodaeth ynghylch pensiynau, gweler Pensiynau.

Partneriaethau sifil

Mae yn erbyn y gyfraith i gynllun pensiwn galwedigaethol, ac i rai cynlluniau pensiwn preifat, beidio â chynnig yr un budd-daliadau i bartner sifil â phartner priod.

Os ydych yn bartner sifil, efallai y byddwch yn medru hawlio pensiwn ymddeol y wladwriaeth ar sail cyfraniadau yswiriant gwladol eich partner.

Os daw eich partneriaeth sifil i ben yn y llys, mae gennych hawl i gyfran o bensiwn galwedigaethol neu breifat eich cynbartner. Os ydych yn marw, efallai hefyd y bydd eich partner sifil sydd wedi goroesi â hawl i gyfran o'ch pensiwn galwedigaethol neu breifat.

Nôl i’r Brig



Cyfrifoldeb dros blant

Nid oes gan bob un sy'n byw gyda phlentyn neu'n gofalu am blentyn gyfrifoldeb cyfreithiol awtomatig dros y plentyn yna. Gelwir y cyfrifoldeb cyfreithiol dros blentyn yn gyfrifoldeb rhiant. Mae'n golygu eich bod yn medru cael llais yng ngofal iechyd, addysg a lles eich plentyn a ph'un ai y gellir mynd â'ch plentyn dramor.

Mae gan fenyw sydd wedi rhoi genedigaeth i blentyn gyfrifoldeb rhiant awtomatig. Mae gan ddyn a oedd yn briod â'r fam adeg yr enedigaeth yr un cyfrifoldeb, er, mae yna ffyrdd eraill y bydd yn medru cael cyfrifoldeb rhiant hefyd.

Am fwy o wybodaeth ynghylch sut mae dyn yn medru cael cyfrifoldeb rhiant, gweler Plant ar ddiwedd eich perthynas yn Dod â pherthynas i ben pan rydych chi'n cydfyw.

Os ydych yn bartner lesbiaidd neu hoyw i riant plentyn, nid oes cyfrifoldeb rhiant awtomatig gennych dros blant eich partner. Mae hyn am ei fod yn annhebygol mai chi a'ch partner fydd dau riant genedigol eich plentyn.

Ond, rydych yn medru gofyn i'r llys roi cyfrifoldeb rhiant i chi tros blentyn eich partner. Rydych yn medru gwneud hyn waeth a ydych chi a'ch partner yn bartneriaid sifil neu'n cydfyw.

Os ydych mewn partneriaeth sifil, fe fyddwch yn dod yn llys-rhiant i blentyn eich partner. Ni fydd hyn yn rhoi cyfrifoldeb rhiant awtomatig i chi dros y plentyn, ond fe fyddwch yn medru gofyn am yr hawl hwn.

Os ydych yn cydfyw gyda'ch partner, ni fyddwch yn dod yn llys-rhiant i blentyn eich partner.

Rydych hefyd yn medru cael cyfrifoldeb rhiant trwy fabwysiadu plentyn eich partner.

Am fwy o wybodaeth am gyfrifoldebau rhiant, gan gynnwys sut i gael cyfrifoldeb am blant eich partner ewch iwefan Advicenow yn: (New window) www.advicenow/living.

O dan rai amgylchiadau, rydych yn medru gofyn i'r llys roi gorchymyn cyswllt i chi neu orchymyn preswylio pan ddaw eich perthynas i ben. Rydych yn medru gwneud hyn waeth a ydych chi a'ch partner yn bartneriaid sifil neu'n cydfyw.

Am fwy o wybodaeth ynghylch y gorchmynion y mae llys yn medru eu gwneud ynghylch plant ar ddiwedd perthynas, gweler Dod â pherthynas i ben pan rydych chi'n cydfyw neu Dod â phartneriaeth sifil i ben.

Os ydych yn fenyw mewn partneriaeth sifil ac mae gan eich partner blentyn, rydych yn dod yn lys-rhiant ac yn medru gofyn am orchymyn cyfrifoldeb rhiant. Nid dyma'r achos os mai dyn ydych chi. Os ydych yn byw gyda rhywun ac mae gan eich partner blentyn, nid ydych yn dod yn llys-rhiant, ond rydych yn medru gofyn am orchymyn cyfrifoldeb rhiant.

Cymorth ariannol i blant

Mae'r ddau riant biolegol yn gyfrifol am gynnal plentyn yn ariannol. Mae hyn yn berthnasol waeth a ydyn nhw'n cydfyw a waeth a oes gan riant gyfrifoldeb rhiant.

Fe fydd cyfrifoldeb ariannol gennych hefyd dros blentyn yr ydych wedi'i f/mabwysiadu. Mae hyn yn berthnasol waeth a ydych chi mewn partneriaeth sifil neu'n cydfyw gyda'ch partner.

Os ydych yn llys-rhiant, fe fydd gennych gyfrifoldeb rhiant hefyd dros eich plentyn. Ond, nid yw'r Asiantaeth Cynnal Plant (y CSA) yn medru gofyn i chi dalu cymorth ariannol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch yr Asiantaeth Cynnal Plant, gweler Cynhaliaeth plant ar gyfer rhieni sy'n byw ar wahân.

Nôl i’r Brig



Perthynas rhywiol

Mae'n gyfreithlon i ddau ddyn neu fenyw sy'n 16 neu'n hŷn i gael cyfathrach rywiol yn breifat, hyd yn oed os nad ydynt wedi cofrestru partneriaeth sifil.

Nid oes rhaid i chi gael rhyw gyda'ch partner dim ond am eich bod yn cydfyw neu mewn partneriaeth sifil.

Nid ydych yn medru gofyn i'r llys ddiddymu eich partneriaeth sifil dim ond am nad ydych chi wedi cael rhyw gyda'ch partner ers cofrestru eich partneriaeth sifil.

Nôl i’r Brig



Grantiau a benthyciadau myfyrwyr

Grantiau myfyrwyr

Mae'r rheolau ynghylch grantiau myfyrwyr yr un peth waeth a ydych chi'n cydfyw gyda'ch partner neu wedi cofrestru partneriaeth sifil.

Ystyrir incwm eich partner wrth benderfynu a oes hawl gennych i grant myfyriwr.

Benthyciadau myfyrwyr

Mae yna ddau fath o fenthyciad i fyfyrwyr – un ar gyfer ffioedd addysgu ac un ar gyfer cynhaliaeth.

Rydych yn medru cymryd benthyciad myfyrwyr ar gyfer ffioedd addysg, waeth faint yw incwm eich partner sifil neu bartner o’r un rhyw sy’n byw gyda chi.

Mae pob myfyriwr llawn amser sy’n gymwys yn medru cael benthyciad myfyrwyr ar gyfer cynhaliaeth, ond fe fydd y swm y byddwch yn medru ei fenthyg yn dibynnu ar sawl peth, ac mae hyn yn medru cynnwys incwm eich partner.

Rydych yn medru benthyg 75 y cant o uchafswm y benthyciad myfyrwyr ar gyfer cynhaliaeth, waeth faint yw incwm eich partner sifil neu bartner o’r un rhyw sy’n byw gyda chi.

Wrth asesu eich hawl i gael y 25 y cant arall, fe fydd incwm eich partner sifil yn cael ei ystyried. Efallai y bydd incwm partner o’r un rhyw sy’n yw gyda chi yn cael ei ystyried, gan ddibynnu pryd dechreuoch eich cwrs a’ch oed ar y pryd.

Am fwy o wybodaeth ynghylch grantiau a benthyciadau myfyrwyr, yn Lloegr gweler Cymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr addysg uwch ac yng Nghymru, gweler Cymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr addysg uwch yng Nghymru.

Nôl i’r Brig



Treth

Mae pobl sy'n cydfyw a phartneriaid sifil yn cael eu trethu ar wahân. Mae'r ddau/ddwy ohonoch yn medru hawlio lwfans personol.

Os ydych yn bartner sifil, rydych yn medru hawlio lwfans pâr priod, ond dim ond os ganwyd chi neu'ch partner cyn Ebrill 6 1935.

Nid ydych yn medru cael gostyngiad yn y dreth os ydych yn talu taliadau cynnal plant.

Am fwy o wybodaeth ynghylch lwfansau personol, gweler Lwfansau treth incwm.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gostyngiad yn y dreth, gweler Gostyngiadau ar dreth (heb gynnwys pobl hunan-gyflogedig).

Nôl i’r Brig



Budd-daliadau lles a chredydau treth

Cydfyw

Os ydych yn cydfyw fel pâr, edrychir ar yr arian sydd gennych yn dod i mewn a'ch anghenion ariannol, ar y cyd, wrth benderfynu os oes hawl gennych i fudd-daliadau a chredydau treth.

Mae'ch hawl i rai budd-daliadau yn dibynnu a ydych chi wedi talu digon o gyfraniadau yswiriant gwladol ai peidio. Mae'r budd-daliadau hyn yn cynnwys:

  • Budd-dâl Analluogrwydd
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyfrannol
  • Lwfans Mamolaeth
  • Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar gyfraniadau,

Gan ddibynnu ar y budd-dal, efallai y cewch fwy o arian am rywun os ydych yn byw gyda nhw, ond dim ond os ydynt yn gofalu am eich plant.

Nid ydych yn medru hawlio budd-daliadau profedigaeth na phensiwn ymddeol ar sail cyfraniadau yswiriant gwladol eich partner.

Nid yw'r ffaith eich bod yn byw, neu ddim yn byw, gyda rhywun yn effeithio ar fudd-daliadau eraill, er enghraifft, Lwfans Byw i'r Anabl a Lwfans Gweini.

Os oes plant gennych, fe fyddwch yn medru hawlio Budd-dâl Plant.

Budd-daliadau, credydau treth a phartneriaethau sifil

Os ydych yn bartneriaid sifil, mae'r arian sydd gennych yn dod i mewn a'ch anghenion ariannol yn cael eu hystyried ar y cyd wrth benderfynu os oes hawl gennych i fudd-daliadau a chredydau treth.

Mae eich hawl i rai budd-daliadau yn dibynnu a ydych chi wedi talu digon o gyfraniadau yswiriant gwladol ai peidio. Mae'r budd-daliadau hyn yn cynnwys:

  • Budd-dâl Analluogrwydd
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyfrannol
  • Lwfans Mamolaeth
  • Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar gyfraniadau

Gan ddibynnu ar y budd-dal, efallai y byddwch yn cael mwy o arian am bartner sifil sy'n ddibynnol arnoch chi ac, mewn rhai achosion, am blant dibynnol.

Rydych yn medru hawlio budd-daliadau profedigaeth neu, mewn rhai achosion, pensiwn ymddeol, ar sail cyfraniadau yswiriant gwladol eich partner.

Nid yw'r ffaith eich bod yn bartner sifil, neu ddim yn bartner sifil, yn effeithio ar fudd-daliadau, er enghraifft, Lwfans Byw i'r Anabl a Lwfans Gweini.

Os oes plant gennych, rydych yn medru hawlio budd-dâl plant.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Analluogrwydd, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Lwfans Byw i'r Anabl a Lwfans Gweini, gweler Budd-daliadau i bobl sy'n sâl neu'n anabl.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Lwfans Mamolaeth a Budd-dâl Plant, gweler Budd-daliadau i deuluoedd a phlant.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Lwfans Ceisio Gwaith, gweler Budd-daliadau i bobl sy'n chwilio am waith.

Am fwy o wybodaeth ynghylch budd-daliadau profedigaeth, gweler Budd-daliadau a phrofedigaeth.

Am fwy o wybodaeth ynghylch budd-daliadau a chyfraniadau yswiriant gwladol, gweler Yswiriant gwladol – cyfraniadau a budd-daliadau.

Nôl i’r Brig



Testun Blaenorol Testun Nesaf
 
   
 

Disclaimer, Copyright and Privacy Policy. Copyright © 2002-2009 (New window) Citizens Advice. All rights reserved.
Cyngor Ar Bopeth Cymru is an operating name of the National Association of Citizens Advice Bureaux, Charity registration number 279057, VAT number 726 0202 76, Company limited by guarantee, Registered number 1436945 England, Registered office: Myddelton House, 115-123 Pentonville Road, London N1 9LZ